Y PARCH ELIAS OWEN (1833-1899)

Dyma gyfraniad gan un arall o’n cyfranwyr gwadd sef Dilwyn Pritchard, Rachub sy’n gadeirydd Cymdeithas Hanes Llanllechid a Rachub.

Er bod ysgol ddyddiol wedi ei chynnal  ar safle’r Eglwys yn Llanllechid ers o leiaf 1789 fe benderfynwyd  ym 1828 gwario £155 11s.11c ar adeiladu ysgol newydd ar dir a roddwyd gan Evan Hughes, Brynllwyd, Llanidan. Roedd y safle gryn hanner milltir o’r eglwys ac ar ganol y sgwâr yn Rachub. Derbyniwyd  y byddai rhaid cyflogi athrawon trwyddedig gan mai athrawon didrwydded fu’n gyfrifol am addysg y plwyfolion. Bu’r ysgol yn agored hyd at 1953 pan adeiladwyd ysgol newydd ger Maes Bleddyn. Addaswyd yr adeilad ar ddiwedd y ganrif ddiwethaf fel fflatiau i’r henoed.

ADDYSG YN Y PLWYFI

New Picture (13)
Elias Owen

Yng nghanol y ddegawd 1850au cyrhaeddodd prifathro newydd i’r ysgol. Ganwyd Elias Owen yn Llandysilio, Sir Drefaldwyn ac er ei fod yn ddi-Gymraeg, o fewn mater o wythnosau siaradai Gymraeg fel un o’r brodorion. Fe wasanaethodd yr ysgol hyd at 1871. Dyma ei unig swydd fel athro.

Cafodd ef ei addysg yn ysgol genedlaethol, Llanidloes, cyn mynd ymlaen i addysg uwch mewn coleg addysgu ysgolfeistri dan nawdd yr eglwys, sef, yr Oxford Diocesan Training College for Headmasters, ger Rhydychen. Ym 1868 derbyniwyd ef fel myfyriwr allanol gan Goleg y Drindod Dulyn a  llwyddodd i ennill gradd B.A. dosbarth cyntaf ym 1871. Ym 1878 cwblhaodd ef a’i ddau frawd, Elijah a Timothy gwrs Meistr gan ennill graddau uchel o Ddulyn. Ym 1863 roedd Elijah yn brifathro ar ysgol Glan Ogwen, Bethesda.

Ym1846 penododd y Llywodraeth arolygwyr i edrych ar y maes addysg drwy Gymru, ac fe adnabyddir yr adroddiad bellach fel Y Llyfrau Gleision. Yn ei gyfrol Hynafiaethau  Llandegai a Llanllechid nodai Huw Derfel fod dwy ysgol y Wladwriaeth o fewn y ddau blwyf, yn Llandygái a Llanllechid, aiff ymlaen i honni fod y ddwy yn ysgolion llwyddiannus. Y rheswm dros honiad Huw Derfel yw na chafodd yr un o’r ddwy ysgol sylw gan yr arolygwyr, hynny yn wahanol i fwyafrif o ysgolion Cymru. Dyma ddywed Derfel, ‘…yr oeddynt yn ysgolion go dda debygid, cymaint felly fel na wnaeth yr Yswain Johnson un sylw o honynyt.’

Ysgol Rachub
Adeilad Ysgol y Wladwriaeth yn Rachub

Ym mis Rhagfyr 1864 nodai Huw Derfel fod ysgol Llanllechid yn addysgu 95 o fechgyn a 108 o ferched. Mae dau athro yn cael eu cyflogi sef Mr Elias Owen ag un Mrs Davies.

BYWYD a THEULU ELIAS OWEN.

Priododd Elias â Margaret Pierce, yr hon yn ôl cyfrifiad 1861 a anwyd ym mhlwyf Llanllechid, ac yn ferch i chwarelwr William Pierce a’i wraig Elizabeth. Serch y cysylltiad â Rachub, yng nghapel Cymraeg Brownlow Hill, Lerpwl y priodwyd Elias a Margaret ar Awst 2 1858. Ymgartrefodd y ddau yn Rhianfa, 28 Ffordd Llanllechid. Ganwyd pedwar ar ddeg o blant iddynt ond fe gollwyd merch ddwyflwydd oed tra oeddynt yn byw yn Sir Ddinbych. Ganwyd yr wyth plentyn cyntaf tra oeddynt yn byw yn Rachub. Roedd dau o’r meibion William ac Elias yn bêl droedwyr ardderchog. Chwaraeai’r ddau i dîm amatur llwyddiannus Rhuthun. Aeth y ddau ymlaen i ennill capiau yn nhîm llawn Cymru. William yn ennill deuddeg cap ac Elias yn ennill tri. Gwasgarodd y plant drwy’r byd, Awstralia, Seland Newydd, Chile, Lloegr a thrwy Gymru. Dilynodd nifer o’r hogiau ôl-traed y tad gan wasanaethau o fewn yr eglwys.

Fe gadwodd un o’i ferched gysylltiad â’r ardal hon. Ganwyd Gwen Lily yn 1879 yn Nhrefaldwyn ond daeth i’r ardal hon gan briodi David Williams, masnachwr lleol ac aelod o’r teulu fu’n flaenllaw yn cychwyn busnes bysus a lorïau, Grey Motors. Deil hynafiaid y teulu o hyd yn yr ardal. Bu Gwen Lily farw ym 1969 yn 90 mlwydd oed ac fe’i claddwyd, gyda’i gŵr, ym mynwent Eglwys Llanllechid.

Map Eleias Owen
Map Elias Owen o safleoedd archaeolegol yr ardal.

Tra oedd yn Rachub, ac o dan ddylanwad y rheithor, Y Parch John Evans, datblygodd Elias ddiddordeb mewn archaeoleg, hynafiaethau a daearyddiaeth yr ardal. Dyma gyfnod y bu yn ymwneud â gwaith ymchwil i gaerau Rhufeinig ar Foel Faban. Cynhyrchodd fap trylwyr o’r plwyf yn dangos safleoedd hynafiaethol pwysig. Cafodd y map llawn ei gyhoeddi yn ddiweddarach yn yr Archaeologia Cambrensis. Cyfrifir y wybodaeth ar y mapiau hyn fel rhai pwysig ymysg haneswyr ac archeolegwyr. (Gweler hefyd erthygl Cytiau Gwyddelod Allt Goch am ragor o wybodaeth am y gwaith hwn(gol.)).

I’R EGLWYS

Ymadawodd â Rachub ym 1871 pan ordeiniwyd ef gan Esgob Bangor a’i benodi’n giwrad yn eglwys Sant Gwynnog, Llanwnnog, ger Caersws. Yma y daeth yn gyfaill i’r bardd John Ceiriog Hughes a oedd yn orsaf-feistr yn Llanidloes ar y pryd. Symudodd ym 1875 i ofalu am eglwys Y Drindod yng Nghroesoswallt. Blwyddyn yn unig y bu yno gan iddo dderbyn swydd fel swyddog Addysg ar Esgobaeth Llanelwy gan symud i fyw i Lanfwrog ger Rhuthun. Cyplysodd y swydd hon gyda’r  gwaith fel rheithor Eglwys Sant Michael yn Efenechtyd. Ddeng mlynedd yn ddiweddarach symudodd i ofalu am eglwys ym mhlwyf Llanyblodwel yn Swydd Amwythig.

Wedi symud i Sir Ddinbych, ac ar ôl diwrnod o waith yn ymweld â gwahanol ysgolionr, arferai ymweld â rhai o hen drigolion yr ardaloedd yma. Cafodd sgyrsiau hir gyda hwy am yr hen ddyddiau ac fe gafodd wybodaeth werthfawr am gymeriadau, traddodiadau a llên-gwerin yr ardaloedd. Dysgodd ddigon o’r hanes i’w alluogi i ysgrifennu traethawd ar gyfer cystadleuaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Llundain yn 1887. Enillodd £20 a medal am ei waith. Defnyddiodd y traethawd fel sail i’w gyfrol swmpus ar lên-gwerin yng Ngogledd Cymru – Welsh Folk-Lore A Collection of the Folk-Tales and legends of North Wales. Dau ddarn o hanes sydd ynddo yn ymwneud â Dyffryn Ogwen, sef, hanes yr ysbryd blin arferai boenydio trigolion Caellwyngrydd drwy daflu cerrig atynt a hefyd adroddodd hanes y digwyddiadau dyrys wrth i’r Eglwys newydd yn Llanllechid gael ei hadeiladu.

Hyd ddiwedd ei oes daliai yn gynhyrchiol o fewn y byd cyhoeddi. Ym 1886 cyhoeddodd gyfrol bwysig yn ymwneud â hen groesau cerrig yn Nyffryn Clwyd – The Old Stone Crosses of the Vale of Clwyd. Ym 1895 golygodd gyfrol o waith y Parch Griffith Edwards (Gutyn Padarn), cyfaill iddo ers dyddiau’r ddau yn astudio yn Nulyn.

Yntau’n paratoi cyfrol newydd ar Ffynhonnau Crefyddol yng Ngogledd Cymru bu farw yn ddisymwth o lid yr ymennydd ym mis Mai 1899 yntau’n 65 mlwydd oed. Mae ffenestr liw er cof amdano i’w gweld yn eglwys Llanyblodwel.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

w

Connecting to %s