Ysgolion Cynradd Llanllechid

Ar ddydd Iau, 3ydd Mehefin, 1954 agorwyd Ysgol Gynradd newydd Llanllechid gan yr Athro Syr Idris Ll. Foster. Yr oedd yr achlysur yn gyfle i ganfod hanes ymdrechion y gorffennol i sefydlu cyfundrefn addysg ffurfiol i blant y pentref a’r ardal. Hyd at yr ail ganrif ar bymtheg dim ond aelodau’r dosbarth breintiedig a gai addysg ac felly hanes cyflwyno cyfleoedd i drwch poblogaeth gyffredin yr ardal a ddathlwyd drwy agor yr ysgol newydd yn Llanllechid yn 1954.

Ffig 4 Ysgol
Yr Ysgol genedlaethol ar y sgwâr

Mudiadau gwirfoddol oedd cyfranwyr sylfaenol addysg yn yr ail ganrif ar bymtheg ac yng nghwrs y ganrif sefydlwyd nifer o ysgolion elusennol o dan eu cyfarwyddyd yn Llanllechid. Gellir olrhain yr ysgol gyntaf a agorwyd o dan nawdd Ymddiriedolaeth y Welsh Trust i tua 1675. Mudiad oedd hwn a drefnwyd gan Thomas Gouge (1605?-1681), gweinidog Anghydffurfiol a dyngarwr a anwyd yn Llundain a’i addysgu yn ysgol Eton a phrifysgol Caergrawnt, i efengyleiddio Cymru. Hyrwyddwyd ei waith gyda thanysgrifiadau gan arweinwyr crefyddol o Loegr a Chymru a sefydlodd oddeutu 300 o ysgolion yng Nghymru gyda’r bwriad o ddysgu plant tlodion y wlad i ddarllen ac ysgrifennu, i gyfrif ac i adrodd y Catecism. Cyfrwng y dysgu oedd Saesneg, ond er budd y bobl hynaf cyfieithwyd llawer o lyfrau i’r Gymraeg, gan gynnwys argraffiad o’r Beibl, cyfraniadau annisgwyl wnaeth hyrwyddo gwaith rhai o’r mudiadau a’i dilynodd. Ar farwolaeth Gouge yn 1681 terfynwyd gwaith y mudiad a daeth yr ysgolion i ben, ond yr oedd hedyn addysg wirfoddol wedi ei hau yn Llanllechid fel yng ngweddill Cymru.

Arloeswr mawr yr ysgolion elusennol yng ngogledd Cymru oedd John Jones (1650-1727), ac yn 1689 ef oedd Deon Bangor a rheithor Aber a Llanllechid. Cyfraniad mawr y gŵr nodedig hwn oedd sylfaenu a gwaddodi ysgolion i blant tlodion yn y plwyfi yr oedd ganddo gysylltiad â hwy a threfnu mai yn y Gymraeg y dysgid Catecism Eglwys Loegr. Brodor o Bentraeth, Ynys Môn, oedd ef, ac er ei addysgu yng Ngholeg y Drindod Caergrawnt deallai mai megis rhoddi’r drol o flaen y ceffyl fyddai ceisio dysgu yn Saesneg i blant plwyfolion a oedd yn uniaith Gymraeg. Agorodd ysgol yn Llanllechid oddeutu 1700 ac ymhlith eraill o’i gyfraniadau nodedig oedd dosbarthu llyfrau Cymraeg a sefydlu llyfrgelloedd ymhlith ei blwyfolion. Ei bryder mawr yn 1716 oedd bod y plant yn rhy dlawd i ddod i’r ysgol yn gyson gan eu bod yn treulio eu hamser yn cardota a gweithio ar y ffermydd mewn plwyf nad oedd ei boblogaeth yn fawr mwy na 450. Yn ei ewyllys gwaddododd naw ysgol i addysgu plant y tlawd ac yr oedd ysgol Llanllechid yn un o’r rhai a elwodd gyda chymynrodd o £100. Yn ôl ei gyfarwyddyd yr oedd llog blynyddol y swm i’w ddefnyddio i gynnal ysgol rad i ddeuddeg o blant y plwyf gyda’r nod o’u dysgu i ddarllen Cymraeg yn berffaith. Derbyniai’r ysgolfeistr £4 y flwyddyn o’r llog a’r gweddill i’w ddefnyddio i brynu llyfrau neu ddillad i’r plant tlotaf. Ychwanegwyd toll y ffordd o Fangor i Bwllheli at y gymynrodd a defnyddiwyd cymynroddion eraill i chwyddo’r swm blynyddol.

Derbyniodd John Jones gefnogaeth gan y Gymdeithas er Taenu Gwybodaeth Gristionogol (SPCK) yn ei gwest addysgol. Sefydlwyd y gymdeithas hon yn Llundain gan Thomas Bray yn 1698 i wrthsefyll anlladrwydd drwy ddysgu canonau’r ffydd Gristionogol. Nod deublyg y gymdeithas oedd sefydlu ysgolion elusennol a thaenu’r efengyl Gristnogol. Erbyn 1715 llwyddwyd i agor oddeutu 68 ysgol yng Nghymru gyda churadiaid yr eglwysi yn dysgu’r disgyblion i ddarllen ac ysgrifennu, ond gan mai Saesneg oedd iaith y dysgu ni ellid disgwyl y byddai ymdrechion y gymdeithas yn llwyddiannus eithriadol. Ni agorwyd ysgol yn Llanllechid, ond y gymdeithas hon a sbardunodd gychwyn mudiad addysgol Griffith Jones (1683-1761), Llanddowror a sefydlwyd ysgol lwyddiannus dan ei nawdd ef yn Nhanybwlch a bu’n weithredol o1749 hyd 1767. Er ei fod yn gefnogwr cynnar o’r SPCK yr oedd yn amheus o bwyslais y gymdeithas ar ddysgu drwy gyfrwng y Saesneg yn hytrach nag ym mamiaith y plant. Ei ateb oedd sefydlu cyfresi o ysgolion cylchynol yn 1731 ac ef yn anad neb fu’n gyfrifol am alluog i’r Cymry fod yn genedl lythrennog, ac ar ei farwolaeth yn 1761 amcangyfrifir bod o leiaf chwarter miliwn wedi mynychu’r ysgolion dros gyfnod o dri deg mlynedd. Daeth oes yr ysgolion hyn i ben yn ystod wythdegau’r ddeunawfed ganrif.

Ar ganol y ddeunawfed ganrif yr oedd dwy ysgol led lwyddiannus yn Llanllechid, y naill yn cael ei chynnal mewn ystafell fechan y tu cefn i dŵr yr eglwys a’r llall yn nhŷ bonheddig Tanybwlch, a’r ddwy gyda’r pwyslais ar ddysgu drwy’r Gymraeg. Mantais fawr ysgol John Jones oedd bod cymynroddion yn ei chynnal i’r dyfodol, ond ei hanfantais oedd agwedd wrth-Gymreig yr Eglwys Anglicanaidd i addysg, yn arbennig felly gydag ethol Saeson yn esgobion yng Nghymru drwy gydol hanner olaf y ganrif a chychwyn y nesaf, cyfnod diffrwyth yr Eingl-esgobion. Gwrthbwys i hyn i raddau helaeth oedd llwyddiant mawr ysgolion Sul yr enwadau ymneilltuol a oedd i chwarae rhan allweddol yn addysgu plant a phobol mewn oed i fod yn llythrennog yn y cyfnod wnaeth ddilyn. Had a heuwyd gan ysgolion cylchynol Griffith Jones oedd sylfaen llythrennedd y Cymry a oedd yn uwch ar gyfartaledd nag yn unrhyw ran arall o Brydain, a’r llwyddiant hwn a oedd i fwydo gwleidyddiaeth radical yr oes a ddilynodd. Datblygodd gweithgarwch yr ysgol Sul, dan arweinyddiaeth fedrus Thomas Charles (1755-1814) o’r Bala, yn gyflym gan ysgogi’r holl enwadau Anghydffurfiol i ymuno yn yr ymdrech i gyfrannu at wybodaeth Feiblaidd y Cymry a chyfoethogi eu dealltwriaeth drwy fedru darllen. Daeth yr ysgolion yn rym dylanwadol ym mywyd cyhoeddus Cymru gyda mwy yn eu mynychu ar y Sul nag yn yr ysgolion ffurfiol yn yr wythnos. Cydnabyddir mai’r ysgol Sul oedd magwrfa llawer o arweinwyr y genedl yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ffaith a wireddwyd ar ei ganfed ym mywyd diwylliannol, crefyddol a gwleidyddol Dyffryn Ogwen yn ogystal.

Canlyniadau cymdeithasol y Chwyldro Diwydiannol a thwf enfawr ym mhoblogaeth y bedwaredd ganrif ar bymtheg oedd ymhlith y ffactorau pwysicaf a greodd yr angen i sefydlu cyfundrefn addysg hyblyg a theg i blant o bob haen yn y gymdeithas. Sefydlwyd ysgol Genedlaethol gyntaf Dyffryn Ogwen yn Rachub yn 1828 ar dir a roddwyd gan glerigwr o Landdeiniolen ar gost o £155.11.11. Derbyniwyd benthyciad o £100 gan Maurice Gruffydd, prifathro olaf hen ysgol eglwys Llanllechid, a chafwyd cymorth ychwanegol o £30 gan y Gymdeithas genedlaethol. Meddai’r ysgol ar safle blaenllaw ar y sgwâr ac yn 1832 cyflog blynyddol y prifathro oedd £30 a ‘gwobr’ yr athrawes am ddysgu gwnïo oedd £3.10.0, a’r ddau i ddysgu rhwng 50 i 80 o fechgyn a merched yn gymysg. Dangosodd ymchwiliad y comisiynwyr yn 1847 (Brad y Llyfrau Gleision) pa mor ddiffygiol oedd y ddarpariaeth swyddogol yng Nghymru oherwydd safon isel yr athrawon, niferoedd y plant i’w dysgu a chyflwr gwael yr adeiladau y dysgid hwy ynddynt. Er mawr ryfeddod ni feirniadodd y comisiynwyr y ddarpariaeth yn ysgol Genedlaethol Rachub yn 1847 ond erbyn 1864 dengys y gofrestr fod 95 bachgen a 108 merched i’w dysgu gan ddau athro a oedd yn gyfrifol am yr ysgol. Er bod trwch poblogaeth Rachub megis wyth o bob deg yn Anghydffurfwyr, yr ysgol Genedlaethol oedd yr unig sefydliad i gynnig addysg ffurfiol i blant y pentref hyd nes i ysgol Frutanaidd gael ei hagor yn 1851. Derbyniwyd rhodd o £144 yn ewyllys Owen Jones, un o athrawon hen ysgol Llanllechid, i sefydlu’r ysgol ar dir Plas Pistyll a gyflwynwyd gan ei wraig ar lecyn canolog yn y pentref. Yn 1864 yr oedd 75 o ferched a 75 o fechgyn yn cael eu dysgu yn yr ysgol anenwadol hon gan ddau athro, ond gyda chefnogaeth capel Peniel y Methodistiaid  Calfinaidd yn Llanllechid.

Yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg gosodwyd seiliau deublyg i addysg gynradd ym mhentref Rachub a’r rhaniad wedi ei bennu gan ddaliadau crefyddol yn hytrach na chyfarwyddyd addysgol fel y digwyddodd ym mhob pentref arall yng Nghymru yn ystod yr un cyfnod. Dwy ysgol mewn pentref o lai na mil o boblogaeth a’r ddwy yn cydfyw yn weddol gytûn, er efallai mewn cystadleuaeth, ac ar brydiau dan straen pan oedd cysylltiadau diwydiannol yn bygwth creu rhaniadau cymdeithasol yn y gymdogaeth. Trosglwyddwyd yr Ysgol Frutanaidd i ofal y Cyngor Sir yn dilyn Deddf Addysg 1902 gyda’r awdurdod lleol yn gweinyddu’r gyfundrefn o hynny ymlaen, tra bod yr Ysgol Genedlaethol yn parhau i gael ei chynnal drwy roddion gwirfoddol ac elusennau hyd oni yn 1948, yn dilyn gofynion Deddf Addysg 1944, yr aeth y baich o’i chynnal yn drech na’r eglwys. Bu llawer cais i uno’r ddwy ysgol o ddauddegau’r ganrif ymlaen hyd oni ddaethpwyd i gytundeb yn 1949 i gael un ysgol yn Llanllechid ac, yn dilyn cyfnod byr pryd y gweinyddwyd yr ysgol ar y ddau safle, yr agorwyd yr ysgol newydd yn 1954.

Golygodd uno’r ysgolion fod addysg gynradd yn Llanllechid wedi ei ffurfioli ar ôl mwy na dwy ganrif o hanes ymgyrch arwrol i gyflwyno cyfundrefn addysg deg a chytbwys i blant y pentref, ac mae’n bleser cael cofnodi fod Ysgol Llanllechid heddiw ymhlith y goreuon o holl ysgolion cynradd Gwynedd. Ond rhaid talu teyrnged yn ogystal i waith gwirfoddolwyr ysgolion Sul capeli’r pentref a osododd sylfaen llythrennedd yn y Gymraeg i genedlaethau o blant, a chofnodi fod ysgol Sul capel Carmel yn dal i gyfrannu yr un mor ddylanwadol gyda’r gwaith heddiw. 

Gwybodaeth gyda diolch i Vivienne Parry, Llanfairpwll a Dilwyn Pritchard, Bron Arfon, Rachub

Ffynonellau

Hugh Derfel Hughes 1866. Hynafiaethau Llandegai a Llanllechid. Bethesda

William John Lloyd. 1954.  Addysg yn Llanllechid. Rhan o anerchiad  yn seremoni agor Ysgol Gynradd Llanllechid ym mis Mehefin 1954. Pwyllgor Addysg Sir Gaernarfon.

MEDAL y D.C.M.

Dyma gyfraniad gan un o’n cyfranwyr gwadd, Andre Lomozik.

Sefydlwyd y Fedal D.C.M. (Distinguished Conduct Medal) ar y 4ydd o Ragfyr 1854, gyda gwarant brenhinol, yn ystod rhyfel y Crimea, fel gwobr i swyddog gwarant, swyddog heb gomisiwn a dynion am wasanaeth gwrol ar faes y gad, gan y Frenhines Victoria. Roedd y fedal yma’n dod chweched mewn dilyniant ac anrhydedd i’r Groes Victoria, ond yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd pryder wedi codi oherwydd y nifer o fedalau oedd yn cael eu gwobrwyo, ac yn dibrisio gwerth y D.C.M. felly penderfynwyd creu medal newydd sef y Fedal Filwrol, am wasanaeth o ddewrder ar dir sych. Sefydlwyd y fedel yma ar y 25ain o Fawrth 1916, ac ei ôl-ddyddio i 1914, o’r dyddiad yma ymlaen dyma’r wobr a roddwyd am ddewrder, a cadwyd y D.C.M. fel gwobr am ddewrder eithriadol ar faes y gad. Gwobrwywyd y fedal gyntaf yn 1885, ac yn 1993 fe derfynwyd y D.C.M. y C.G.M. a’r D.S.O. er mwyn creu medal newydd C.G.C. (Conspicuous Gallantary Cross) nad oedd yn gwahaniaethu rhwng rhengoedd yr lluoedd arfog. Rhwng 1884 a 1993 fe wobrwywyd 29,800 o filwyr gyda’r D.C.M. am eu dewrder mewn gwahanol ryfelgyrchoedd.image

Un o’r milwyr yma oedd gŵr ifanc o Dregarth, a fu yn ymladd yn y rhyfel byd cyntaf, sef Sargeant Jack Malancthon Williams, cafodd ei anafu yn 1915, ac roedd yn rhaid torri ymaith rhan o’i fraich chwith gan fod ei anaf mor ddrwg, ond cyn derbyn triniaeth am ei glwyfau eu hyn, arhosodd ar faes y gad i helpu milwyr eraill a oedd wedi eu hanafu, ac annog y milwyr eraill o’i gwmni ymlaen, cyn cerdded yn ôl heb gymorth ar hyd y ffoes cenadwri i’r orsaf cymorth cyntaf.   Mae ei hanes i’w weld mewn adroddiad ar y 16eg o Dachwedd 1915, tudalen 11433 o’r ‘London Gasette’. Pan gyrhaeddodd adref yn ôl i’w ardal enedigol rhoddwyd croeso anrhydeddus iddo, a dyma sut mae’r adroddiad yn ymddangos yn yr Herald Cymraeg ar Dachwedd 30ain 1915.

CROESAWU GWRON Y D.C.M. YM METHESDA

Yr oedd dydd Sadwrn yn ddiwrnod pwysig yn hanes Bethesda, diwrnod y cofir am dymor maith am dano. Dydd ydoedd i groesawu milwr clwyfedig o faes y frwydr, sef Sargeant J. M. Williams, a enillodd y D.C.M. am wrhydri yn Festubert, ar Fedi 25ain. Er gweled ei law aswy bron wedi ein thori ymaith, a’i glwyfo yn ei ysgwydd, gwrthododd bob cynhorthwy ar y pryd, a chynorthwyodd glwyfedigion eraill o’i amgylch a chalonogodd ei gydfilwr i fyned ymlaen i ennill y frwydr ac am ei ddewrder a’i hunanaberth yr enillodd yr anrhydedd o D.C.M. Mab yw Sergt. Williams i Mr  a Mrs Melancthon Williams, Tregarth, a bu yn gweithio yn Chwarel y Penrhyn hyd doriad allan y rhyfel. Yr oedd bob amser yn ddyn ieuanc hynod boblogaidd ymhlith ei gyd-ieuenctid, a chymerai ran flaenllaw yn chwaraeon yr ardal.jack m

Ffurfiwyd pwyllgor yn y cylch i’w groesawu gartref, a phenderfynwyd cychwyn gorymdaith o’r gwirfoddolwyr ac eraill o’i gartref yn cael ei blaenori gan Seindorf Bechgyn y Clio. Trwy garedigrwydd Mr Richard Jones, Llangollen Hotel, caed cerbyd, ac ynddo yr oedd y gwron a’i rieni a phedwar milwr clwyfedig eraill o’r ardal, sef Pte. William Pritchard, Elfed Terrace, a Pte John Williams, Braichmelyn, a glwyfwyd yn Ffrainc; Pte. William Thomas, Tregarth, a’r Morwr Owen R. Davies. Rynys, a glwyfwyd yn y Dardanells. Rhoddwyd derbyniad brwdfrydig i’r orymdaith ym Methesda. Yr oedd y masnachwyr wedi rhoddi baneri allan a’r brif heol yn llawn o edrychwyr. Chwaraeodd y seindorf drwy y pentref, ac yr oedd golwg urddasol ar y gwirfoddolwyr a’u swyddogion yn gorymdeithio drwy y brif heol. Wedi’r orymdaith cynhaliwyd CYFARFOD CYHOEDDUS yn y Neuadd, ac er mor eang yw y Neuadd nid oedd ddigon i ddal y dyrfa fawr oedd wedi dod ynghyd i groesawu gwron y D.C.M. Llywyddwyd y cyfarfod gan yr Athro David Llewelyn, Llanllechid, a dywedodd eu bod wedi dod yno i roddi “welcome home” i wron o faes y frwydr. Darllenodd y llywydd lythyrau oddi wrth Mr W. D. Hobson, Bangor; Capten Cooke, yr Henadur W. J. Parry, Parch J. T. Job, a Mr E. R. Jones yn gofidio oherwydd amgylchiadau yn eu rhwystro i fod yn bresennol yn y cyfarfod. Dywedodd y Llywydd fod cynllun  Arglwydd Derby i gael ei weithio yn yr ardal yr wythnos nesaf, ac os bu anghydwelediad yr oeddynt wedi dod bellach i ddealltwriaeth ac yn dymuno ar i bawb roddi derbyniad teilwng i’r canfasers.

Galwyd ar y Parch. William Morgan, M. A., i annerch y cyfarfod. Dywedodd mai’r gymwynas orau i Sargt. Williams a fyddai gweled llu o’r dynion ieuainc yn ymuno a’r fyddin. Os collodd y gwron ei law aswy chyll ef byth ei glod. Beth sydd mor gysegredig ag amddiffyn y wlad, a ellir mwy o hunanaberth na’r hyn a wnaeth y milwr clwyfedig yma? Peryglodd ei fywyd ei hyn wrth geisio achub a chynorthwyo milwyr eraill. Os nad yw dyn am amddiffyn ei wlad nid oes ganddo hawl o gwbl i fyw ynddi. Tro annheilwng yw ffoi yn llechwraidd a pheidio ymuno a gadael i eraill ymladd trosom.

Dywedodd y Parch. H. Jones Davies, Tregarth ei fod yn falch o gael croesawu ei gyfaill, Sergt. Williams yn ôl o faes y rhyfel. Wrth gerdded llwybr hunanaberth cerddodd yr un llwybr a Iesu o Nazareth. Llongyfarchai ef fel patrwm o filwr o’r fyddin newydd. Dywedodd Duc Wellington ymhen ysbaid ar ôl brwydr Waterloo mai segurwyr a meddwyn oedd yn ymuno a byddin Prydain Fawr, ond y mae yn wahanol iawn heddiw.

Galwodd y Llywydd ar Mrs Dr Pritchard i

GYFLWYNO FFON HARDD

I Sergt. Williams fel arwydd fechan o serch ac edmygedd yr ardal iddo am ei wrhydri ar faes y frwydr. Derbyniodd y milwr clwyfedig yr anrheg o law y foneddiges gyda gwyleidd-dra sydd yn nodweddu’r Celt ar lawer adeg yn ei fywyd, ac yna chwaraeodd y seindorf “For he’s a jolly good fellow.”

Galwodd y Llywydd ar Mr Melancthon Williams, a dywedodd ei fod yn datgan eu diolchgarwch fel teulu iddynt yn wyneb y profedigaethau yr oeddynt wedi myned trwyddynt yn ddiweddar. Ei eiriau ef a’i briod i’w dau fab cyn iddynt fyned i ymladd tros eu gwlad oeddynt am iddynt gofio gwneud eu dyletswydd a throi at Dduw i ofyn am nerth yn nydd y frwydr.

Chwaraeodd y seindorf i ddiweddu’r cyfarfod “Hen Wlad fy Nhadau”.

Wrn gladdu Moel Faban

wrn gladdu
Yr Wrn a ddarganfuwyd yn y gistfaen yng nghanol carnedd rhif 554 (iii)

Mewn archwiliad oddeutu 1869 darganfuwyd wrn pridd mewn cist fechan a gladdwyd yn y garnedd fwyaf o’r tair sy’n coroni copa Moel Faban ar uchder o 409 metr. Mae’r wrn bellach yn rhan o gasgliad amgueddfa’r Ashmolean yn Rhydychen. Nid oes dim nodedig yn ffurf yr wrn. Mae’n cyfateb i ffurf y mwyafrif o’r yrnau claddu o’r Oes Efydd sydd wedi eu darganfod mewn tomennydd claddu ar hyd ac ar led Prydain. Saif oddeutu 20 centimetr mewn maint gyda’r rhan uchaf wedi ei fodelu ar lun tair coler diaddurn, ond ar ran fewnol ceg y llestr mae cyfres o dyllau mân wedi eu hargraffu yn y clai. Darganfuwyd wrn tebyg, ond gydag addurn llinellog llawer mwy amlwg, yn nhomen gladdu fawr Carnedd Howel ger Llys y Gwynt a archwiliwyd yn yr un cyfnod â thomen Moel Faban. Perthyn yr yrnau hyn i gyfnod yr Oes Efydd a gellir ei ddyddio i rhwng 2000 a 1800 cyn Crist. Yr yrnau hyn yw’r celfi hynaf a ddarganfuwyd yn Nyffryn Ogwen hyd yn hyn ac eithrio teilchion y llestri Neolithig a ddarganfuwyd yn yr archwiliadau ym Mharc Bryn Cegin i’r gogledd o Garnedd Howel.

Prif ddefnydd yrnau o’r math hyn oedd cynnwys gweddillion corff losgiad un unigolyn a allasai fod yn ddyn, dynes neu blentyn. Yn aml ymysg y gweddillion cynhwysir eitemau personol megis gleiniau, celfi addurno mewn asgwrn, neu gelfi mewn efydd neu gallestr megis cyllell neu ben saeth, a’r celfi hyn hefyd gan amlaf wedi eu llosgi. Fel arfer caiff wrn o’r fath ei warchod mewn cist fechan a osodir yng nghanol y domen, ond yn aml darganfyddir cistiau eilaidd wedi eu trefnu ar y cylch allanol. Gall y cistiau hyn gynnwys wrn ond fel arfer corff losgiad yn unig a ddarganfyddir ynddynt a chredir y byddai’r esgyrn wedi eu cynnwys mewn basged neu gwdyn organig yn wreiddiol.

20210121_171149
Y tair carnedd o Oes yr Efydd ar gopa Moel Faban

Mae’n syndod faint o domennydd claddu o fath y Foel sydd yn Nyffryn Ogwen. Amcangyfrifir bod o leiaf bump ar hugain o garneddau yn yr ardal, rhai ar eu pen eu hunain yn coroni copaon y prif fynyddoedd ac eraill yn gasgliad bychan megis mewn mynwent o fath fel yr enghraifft uwch law Bwlch Molchi. Ar Garnedd Llywelyn mae’r domen gerrig yn 26 troedfedd mewn diamedr a chylch yr enghraifft ar Garnedd Dafydd yn 50 troedfedd. Archwiliwyd y domen ar gopa’r Drosgl yn ddiweddar ond er mor drwyadl yr archwiliad yr oedd lleoliad agored y safle a dinistr cenedlaethau o ymyrraeth wedi dylanwadu yn drwm ar ganlyniadau negyddol yr archwiliad. Yn anffodus mae mwyafrif y carneddau mewn cyflwr drylliedig gyda’r canol naill ai wedi ei gloddio i wneud cell neu’r domen wedi ei gwastatáu’n llwyr hyd at ei seiliau. Mae’n bur debygol mai pwysigion y gymdeithas a gleddid yn y carneddau hyn.

Un agwedd yn unig ar fywyd y gymdeithas a gynrychiolir yn y carneddau. Hwn oedd y cyfnod pryd y defnyddiwyd celfi metel am y tro cyntaf, celfi o gopr ac yna amalgam tun a chopr i wneud efydd. Yr oedd hwn yn gam technolegol eithriadol bwysig ac o’i ystyried, roedd yn gychwyn yr oes fetel yr ydym ni yn byw ynddi heddiw bedair mil o flynyddoedd yn ddiweddarach. Celfi pwysicaf y cyfnod oedd cyllyll a bwyeill o wahanol fathau ac yna datblygwyd arfau ymosodol megis cleddyfau a gwaywffyn. Datblygwyd hefyd dlysau er addurno megis breichledau, modrwyau a chlustdlysau. Roedd rhai mewn copr ac efydd, rhai mewn cerrig amryliw, rhai mewn math o wydr ac yn bennaf mewn aur. Hyd eto nid oes dim o’r celfi hyn wedi eu darganfod yn Nyffryn Ogwen ac eithrio un fwyell efydd sydd o leoliad ansicr a ddisgrifiwyd yn benagored iawn fel ‘college wood, Penrhyn’.

20201101_223111
Lleoliad y carneddau ar gopa Moel Faban – mae’r tair carnedd wedi dioddef o gael eu chwalu ac mae canol dwy ohonynt bellach yn gytiau crynion. Cynllun wedi ei gyhoeddi drwy ganiatâd y Comisiwn Brenhinol, Aberystwyth

Mae’n rhyfedd meddwl fod cyfnod arloesol Oes yr Efydd a barhaodd am yn agos i fil a hanner o flynyddoedd wedi ei gynrychioli yn Nyffryn Ogwen gan nifer bychan o yrnau claddu a bod eu cynnwys o gorfflosgiadau wedi eu gwasgaru i’r pedwar gwynt dros dreigl amser. Gall hanes fod yn eithriadol greulon ac amhersonol ambell dro.

Ffynhonnell 

RCAMW. 1956 – An Inventory of the Ancient Monuments in Caernarvonshire Volume 1 East. HMSO, Llundain