Y ‘Rwsiaid’ – eto!

Gair o rybudd – tydi popeth sydd wedi ei ‘sgwennu ar y wefan yma ddim yn gwbl gywir bob tro!

A dyna ydi hanes y pill ar y ‘Rwsiaid’ a ymddangosodd 31 Ionawr eleni.  Mae dau ymadrodd Saesneg yn dod i gof – ‘a lttle knowledge is a dangerous thing’ yw un, a’r llall yw, ‘publish and be damned’. Heb yn wybod i ni yr oedd erthygl swmpus wedi ei hysgrifennu yn 2012 (gweler y manylion isod), gan ddau academydd o Lerpwl yn y cylchgrawn Cymry a’r Môr yn adrodd hanes y fintai o ‘Rwsiaid’ a ddaeth i dorri coed yn Nhregarth yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ac mae manylion diddorol yr erthygl yn golygu fod yn rhai cywiro’r pill ar y Wefan.

Yn gyntaf, criw llong hwyliau bedwar mast y Lucipara oedd y ‘Rwsiaid’ a ddaeth i Dregarth, a llong o’r Ffindir oedd hi. Roedd y llong yn hwylio o Ardrossan i Santos yn Brazil o dan gapteiniaeth Gustav Johansson gan gario cargo o lo. Suddwyd y llong gan longau tanfor yr Almaenwyr ar 26 Mai, 1917, oddi ar arfordir Gogledd Iwerddon. Achubwyd y criw i gyd a glaniasant yn Lerpwl. Yn ystod blynyddoedd cyntaf y ganrif yr oedd gan gwmnïau o’r Ffindir lynges o longau hwylio a oedd yn chwarae rhan bwysig yn cynnal masnach ryngwladol yn arbennig rhwng gwledydd Môr y Baltig, Prydain a thu hwnt. Ond ym merw’r rhyfel yr oedd yr Almaen wedi cyhoeddi y byddai ei llongau tanfor yn ymosod ar lyngesau pob gwlad elyniaethus a oedd yn hwylio’r moroedd oddi ar arfordir Prydain. Yr oedd y strategaeth yn bur llwyddiannus  a rhwng y 3ydd a’r 26ain o Fai 1917 suddwyd nifer o longau gan gynnwys chwech o’r Ffindir. Erbyn diwedd y flwyddyn yr oedd cyfanswm o 403 o longwyr o’r Ffindir wedi glanio ym Mhrydain ac yn aros heb waith yn bennaf yn Lerpwl a Chaerdydd.

Yn ystod 1917, gyda llwyddiannau’r Almaenwyr yn cynyddu, yr oedd gwir bryder ym Mhrydain am sut y gallesid diogelu masnach y wlad mewn bwydydd, deunyddiau crai a choed yn ei marchnadoedd o dros y môr. Yr oedd y fasnach goed yn creu cur pen arbennig oherwydd yr oedd 90% o gyflenwad y wlad yn cael ei fewnforio yn bennaf o wledydd y Baltig a Chanada. Trefnodd y Llywodraeth adran arbennig – y Timber Supply Department a oedd yn atebol i gabinet y Llywodraeth – i ddelio â’r argyfwng gyda’r nod o gwtogi’n sylweddol ar y mewnforion a defnyddio coed o goedwigoedd cynhenid y wlad i lenwi’r bwlch. Rhannwyd y wlad yn adrannau gyda’r disgwyliad y byddai pob rhanbarth yn cyflawni ei nod. Ond yr oedd gwir angen am weithlu profiadol os oedd cynllun y Llywodraeth i lwyddo, ac yn y cyswllt hwn yr oedd byddin heb waith llongwyr o’r Ffindir megis manna o’r nefoedd. Drwy gysylltiad rhwng Cenhadaeth Llongwyr y Ffindir, sefydliad yn Llundain, a Lerpwl yn ddiweddarach, a oedd yn gwarchod buddiannau llongwyr y wlad, daethpwyd i drefniant buan i ddefnyddio’r Ffiniaid fel coedwigwyr. Aethant ati i wneud tasgau yr oeddynt yn dra medrus yn eu cyflawni a hynny mewn amodau gwaith oedd yn hynod dderbyniol ganddynt.

Perthynai Tregarth i ranbarth gogledd Cymru o gynllun y Llywodraeth a phenodwyd athro coedwigaeth y Brifysgol ym Mangor i arolygu gwaith yr adran. Cafwyd cytundeb gyda stad y Penrhyn i gynaeafu coed mewn nifer o safleoedd – Parc y Bryniau a Pharc y Bwlch ar Foelyci, Parc yr Ocar ger Coed y Parc i dorri coed collddail, a Choed Cochwillan i’r gogledd o Bont y Pandy ar Afon Ogwen. Dan amodau’r cytundeb byddai pob coedwigwr yn derbyn tâl o £8 y mis – sef wyth geiniog yr awr am wythnos waith o 51 awr, gyda thâl ychwanegol o swllt yr awr pe gweithid oriau ychwanegol. Yr oedd llety, i safon yr hyn a ddisgwylid ar fwrdd llong, wedi ei ddarparu mewn cytiau pwrpasol, ac yr oedd bwyd plaen ond maethlon i’w gyflenwi i weithlu caled ei lafur, i’w baratoi gan gogyddion profiadol am dâl o 17/6 yr wythnos. Gellid cael sylw meddygol pe bai gofyn ac yr oedd yr holl amrywiol arfau at y gwaith wedi eu trefnu ymlaen llaw. Yr oedd pob coedwigwr i weithio i gontract o chwe mis, i’w adnewyddu ar derfyn y cyfnod oni bai y byddai’r unigolyn yn dychwelyd i’r môr neu yn camymddwyn yn ei waith.

Mae’n anodd gwybod i sicrwydd faint yn union o goedwigwyr y Ffindir a ddanfonwyd i Dregarth.  Cyfeirir at fintai o 96 yn yr erthygl, ond mae’n fwy tebygol mai dyma’r nifer a ddanfonwyd i’r rhanbarth cyfan, i’w trefnu wedyn yn unedau gweithredol llai yn ôl gofyn y contractau unigol. Felly, mae’n bur debyg mai criw’r Lucipara a ddanfonwyd i Dregarth, uned o tua 20 o ddynion dan ofal eu capten Gustav Johansson – trefniant hwylus a olygai gadw at berthynas weithio gyfeillgar a chynhyrchiol.  Yr oedd i bawb ei ddyletswydd – 12 i dorri coed, dau i drimio ac eraill i dacluso ac yn y blaen.  Mae llun y coedwigwyr a gyflwynwyd yn y nodyn gwreiddiol yn adrodd cyfrolau. Sylwer mai’r 21 dyn mewn crysau gwynion yw’r coedwigwyr, oll wedi eu gwisgo’n unffurf yn ôl amodau eu contract, y capten yn sefyll i’r naill ochr mewn dillad yr un mor swyddogol ond o wahanol wead, a’r gweddill yn fechgyn lleol yn gofalu am y ceffylau a chyflawni mân dasgau eraill.

Yr hyn nas adroddir yn y llun yw cenedl y bechgyn, ond fel y cofnodwyd yn y nodyn nid Ffiniaid mohonynt oll chwaith gan fod bechgyn o Estonia yn eu plith yn ogystal. Nid nad oedd pobl Tregarth yn bell o’u lle yn cyfeirio at y coedwigwyr fel Rwsiaid, oherwydd yr oedd y Ffindir megis talaith o Rwsia hyd nes i’r wlad ennill ei rhyddid ym mis Rhagfyr 1917, hynny yw ychydig fisoedd wedi i’r Lucipara gael ei suddo oddi ar arfordir Gogledd Iwerddon. Ac mae un nodyn arall sy’n ddiddorol, nid baner y Ffindir sy’n cyhwfan ar starn y ddwy long yn y model a’r llun ond baner Estonia, ond awn ni ddim i ddilyn y trywydd yna!

Da chi cywirwch ni os gwelwch ein bod ni’n cyfeiliorni neu os bydd gennych ragor o wybodaeth i’w hychwanegu at yr erthyglau.

Diolchiadau

Yr ydym yn ddyledus i Dafydd Roberts, Cae’r Wern, am dynnu ein sylw at yr erthygl hollbwysig isod, ac i Beryl a Gareth Llwyd am sylwadau ychwanegol am Gustav Strandberg a’i wraig Jane yn ‘Rallt Ganol, Pentir, ef yn saer coed arbennig ei ddawn a’i fedr.

Ffynhonnell

Stammers a F. Large, 2012. War exiles at work. Finnish seamen in Welsh Woodland in the First World War. Cymru a’r Môr, Rhif 33. 2012

Pontydd Afon Gaseg

Lot 23 - Fig 5b
Lot 23, Cynllun Ffordd Telford rhwng Bryn  Bella a Pont y Gaseg, drwy ganiatâd Archif Telford yn yr Archifdy Cenedlaethol, Kew. Telford CD Lot 23 Fig 5b.

Ymwelodd Thomas Telford gyntaf â Dyffryn Ogwen yn 1811 gan wneud hynny yng nghwmni George Hay Dawkins, nai Richard Pennant, a’i olynydd fel Arglwydd y Penrhyn. Bu’r ddau yn marchogaeth drwy’r ardal i ddewis y llwybr mwyaf cymwys ar gyfer y ffordd bost newydd a oedd i gysylltu Llundain â Chaergybi. Dewisodd rannu’r gwaith o adeiladu’r ffordd yn nifer o adrannau – y cyntaf o Lyn Ogwen i Dŷ Gwyn; yr ail o Bont Ogwen i Bont Ffrydlas; y drydedd o Bont Ffrydlas i Bont y Pandy; y bedwaredd o Bont y Pandy i Lôn Isa. Enillwyd y contract i adeiladu’r adran o Bont Ogwen i Bont Ffrydlas gan Thomas Evans, tirfesurydd o Riwabon ac adeiladydd nifer o rannau’r ffordd yn ardal Llangollen. Pris y contract, oedd £1669 ac fe’i harwyddwyd ym mis Awst 1818. Rhan o’r contract oedd adeiladu tair pont i groesi afon Ffrydlas, afon Gaseg ac afonig y Gaseg, y gyntaf yn ôl y cynllun gyda’i bwa yn 10 troedfedd, yr ail yn 20 troedfedd a’r drydedd yn 40 troedfedd.

Gwilym Pont Rhos-y-nant
Pont Rhos y Nant, sylwer ar y trawst concrit sy’n lledu’r bont ar ochr y dwyrain. 

Yr oedd yr anghenraid i adeiladu pont dros afonig y Gaseg yn ddiddorol. Yn y tair blynedd rhwng 1798 a 1800 cofnodwyd tywydd eithriadol ddiflas yn ardal Dyffryn Ogwen – dioddefwyd sychder mawr yn ystod 1798 ac yn y ddwy flynedd ganlynol cafwyd eira a rhew eithriadol a barhaodd hyd at fis Mehefin 1799. Dilynwyd y tywydd caled ym mis Gorffennaf gan lifogydd enfawr fel canlyniad i lawiad ffrwydrol yn ucheldir y Carneddau . Fel canlyniad newidiwyd tirlun rhai mannau yn yr ardal. Disgrifiwyd yr amgylchiad gan Hugh Derfel Hughes fel .’..y digroenwyd yr Elen ac yr holltodd Afon Gaseg iddi wely newydd, nes ymffurfio yn ddwy fforch a llunio delta cyn cyrraedd yr Ogwen’.

Yn dilyn y cenlli difrodwyd nifer o brif bontydd yr ardal gan gynnwys y Bont Uchaf ar afon Ffrydlas,  Pont Coed y Parc ar afon Galedffrwd a Phont Ogwen a Phont Gaseg ar eu hafonydd priodol. Yn Nant Ffrancon llithrodd y mynydd i gladdu ffermdy Pentref ac mae’r domen anferth a lithrodd dros y ffermdy gwreiddiol i’w gweld yno heddiw yn tra-arglwyddiaethu dros y fangre.

Tybed pa newid ddaw i Ddyffryn Ogwen y dyfodol wrth i effeithiau cynhesu byd eang ddwysau?

Ffynonellau

Quartermaine, J., Trinder, B., Turner, R. 2003  Thomas Telford’s Holyhead Road. CBA  Research Report 135. CBA York

Hugh Derfel Hughes. 1866. Hynafiaethau Llandegai a Llanllechid. Bethesda

J. Ll. W. Williams; Lowri Wynne Williams 2015. Retracing Thomas Telford’s footsteps, the building of the post road through Dyffryn Ogwen in Gwynedd, 1815 – 1824. Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon. 76, 35-60

Gwasanaeth Archifau Gwynedd, Caernarfon –  Cynlluniau XB/185 – Plan of bridge over River Gaseg, 1800