Bryn Bella

OLYMPUS DIGITAL CAMERA
Bryn Bella yn 1855. Mae’r llun drwy garedigrwydd Archifau Prifysgol Bangor

Heddiw croesffordd Bryn Bella sy’n croesawu pobl i Fethesda o gyfeiriad y gogledd, ond ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg gallasai fod wedi datblygu yn bentref bychan annibynnol a hunangynhaliol. Cam cyntaf y datblygiad oedd adeiladu Pont Coetmor yn 1788, pont a oedd o fantais mawr i gynllun ffyrdd Dyffryn Ogwen wrth greu cysylltiad uniongyrchol rhwng ardal Tregarth a phlwyf Llanllechid ar lawr canol y dyffryn. Lawn cyn bwysiced oedd adeiladu ffordd bost Telford yn 1820 gan greu’r groesffordd bresennol ym Mryn Bella. Oddeutu’r un cyfnod troswyd llwybrau cynharach yn ffordd ffurfiol i gysylltu’r Ffordd Bost ym Mryn Bella â Phentir yn y gorllewin, cysylltiad a nodir ar y garreg filltir sydd ar ystlys Pont Coetmor.

Melin Coetmor
Melin Coetmor

Yn fuan wedyn adeiladwyd capel Rehoboth gan yr Wesleaid ym Mharc Moch ond byr fu tymor y capel oherwydd symudodd y gynulleidfa i sefydlu  Capel Shiloh yn Nhregarth yn 1829. Y cam nesaf oedd agor chwarel Dôl Goch gan ddau ŵr lleol yn 1826 gyda’r twll ar un ochr i’r ffordd bost a’r tomennydd rwbel yn ymestyn hyd at lan afon Ogwen ar yr ochr arall. Llwyddodd  y chwarel i gynnal cnewyllyn pentref bychan wrth y groesffordd. Yno yr oedd Tafarn y Coetmor Arms a gefail gof William Edwards gyda rhes o dai yn arwain i gyfeiriad yr afon, ac ar y ffordd bost adeiladwyd rhes bythynnod Dôl Goch fel llety i weithwyr y chwarel bur debyg. Ar lan yr afon agorwyd melin Coetmor i falu grawn gyda dŵr o afon Ogwen a Ffos Coetmor yn gweithio’i pheiriannau.Yn 1855 prynwyd stad Coetmor gan y Penrhyn ac fe gaewyd y chwarel yn ddisymwth. A dyna ddiwedd ar dwf pellach Bryn Bella fel pentref bychan. Yn 1884 daeth chwalfa bellach pan ddinistriwyd y rhes tai gan reilffordd yr LNWR i Fethesda.

Felly, y pentref na ddatblygodd oedd Bryn Bella yn hanes Dyffryn Ogwen. Er hynny mae enw’r gof yn yr efail wedi ei anfarwoli yn enw’r allt i fyny am Lanllechid sef Allt William Edward.

 

Allt William Edward
Allt William Edward
Advertisements

Capel Bethania

Capel BethaniaCapel Bethania oedd yr olaf o addoldai Bethesda i’w adeiladu, ac mae’n perthyn i gynllun a ddatblygodd  o 1875 ymlaen i wella’r fynedfa o’r gogledd i Fethesda. Adeiladwyd y capel gan enwad yr Annibynwyr yn 1885 ar safle twll hen chwarel Llety’r Adar, ac yn groes i’r arfer lleol defnyddiwyd brics llachar coch i’w godi –  brics a fewnforiwyd ar reilffordd y LNWR a oedd newydd agor rhwng Bangor a Bethesda yn 1884. Cynlluniwyd y capel gan y Parch. Thomas Thomas, arch gynllunydd capeli Cymru ac mae’n un o gampweithiau olaf y gŵr hwn cyn iddo farw yn 1888. Mae’r capel yn arddull Eidalaidd Thomas ac yn un o 900 o gapeli a gynlluniodd drwy Gymru yn ystod hanner olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Thomas oedd hefyd yn gyfrifol am gynllunio Capel Tabernacl y Bedyddwyr ym Methesda yn 1865 ac am ail gynllunio capel Carmel yr Annibynwyr yn Rachub yn 1860.

Capel ‘split’ oedd Bethania oddi wrth gapel Bethesda, prif addoldy’r Annibynwyr yn y pentref, yn dilyn rhwyg ymhlith y swyddogion a’r gynulleidfa.  Un o brif flaenoriaid capel Bethesda oedd W. J. Parry, gŵr busnes eithriadol ddylanwadol ym Methesda a Chymru’r cyfnod. Yn 1902 priododd Parry am y drydedd waith â Saesnes o Dudley ger Birmingham. Oherwydd nad oedd swyddogion Capel Bethesda am ganiatáu gwasanaethau yn Saesneg ar ei chyfer symudodd Parry ei aelodaeth i Fethania lle gwireddwyd ei ddymuniad i gael oedfa Saesneg ar fore Sul gan ddyfnhau’r rhwyg rhwng y ddau gapel. Ond bellach, fel yn achos capel Bethesda yr ochr arall i’r pentref, cau fydd tynged drysau capel Bethania yn y dyfodol agos.

Ffynonellau

Hughes, Steven.  2005.  Thomas Thomas, 1817-88: the First National architect of Wales. Archaeoligia Cambrensis, 152 (2003), 69-166

Williams, J. Ll. W. 2009. Portread o fywyd teuluol W. J. Parry, Coetmor Hall, Bethesda. Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon, 70, 85-106

 

Twmpathau Llosgi Cerrig

Twmpath cerrig llosg rhif 563 yn llyfr y Comisiwn Brenhinol ar Henebion Sir Gaernarfon yw un o’r safleoedd mwyaf disylw yn Nyffryn Ogwen. Saif y twmpath dinod hwn yng ngheg Bwlch Molchi ar ochr Gwaun Cwys Mai o’r hafn (cyfeirnod grid arolwg Ordnans SH635676), ac er ei fod ar lan Ffos Coetmor nid oes cysylltiad rhyngddynt gan fod y twmpath yn perthyn i gyfnod cynhanes a’r ffos i gyfnod amhenodol yn y Canol Oesoedd.

Mae’r twmpathau cerrig llosg cynhanes hyn yn cyfateb i’r tegell sy’n berwi dŵr yn ein cyfnod ni, ac mae archwiliadau archaeolegol diweddar yn dangos eu bod ymhlith yr henebion mwyaf niferus  yn ucheldir ac iseldir Cymru. Er enghraifft, mewn archwiliad diweddar ym Mharc Bryn Cegin, Llandygái, darganfuwyd un ar bymtheg o’r safleoedd hyn ar y drum uwchlaw dyffryn Afon Cegin.  Nodweddir y twmpathau gan domen hirgron sy’n bras gyfateb i ffurf llythyren U â phant yn y canol. O’i archwilio gwelir fod y pant yn cyfateb i safle cafn, a bod y domen sydd wedi’i hadeiladu o’i amgylch yn cynnwys cerrig mân, onglog eu ffurf o liwiau rhuddgoch a thywyll o ganlyniad i’w llosgi mewn tân eirias. Mewn rhai enghreifftiau prin canfuwyd cafnau o lechen, ond cafnau pren yw’r mwyaf arferol , fel yn yr enghraifft a archwiliwyd yn Nant Porth ger Bangor.

Twmpathau cerrig
Cynllun un o’r twmpathau drwy garedigrwydd Frances Lynch (sydd â hawlfraint dros y ddelwedd)

Fel y nodwyd eisoes, prif amcan y safleoedd hyn oedd berwi dŵr ac mae nifer o arbrofion bellach wedi dangos pa mor effeithiol oedd y broses a olygai y byddai cerrig eiriasboeth yn cael eu dodi yn y cafn fel y bo’r dŵr yn berwi o fewn tua ugain munud. Ond mae amcan berwi’r dŵr yn fater o gryn ddyfalu. Derbyniodd safleoedd o’r math hyn lawer o sylw gan archeolegwyr ers i arbrofion ar safle Ballyvourney yn Swydd Cork, Iwerddon ddangos ei bod yn ymarferol bosibl coginio darn o gig wedi ei lapio mewn dail os cedwid dŵr y cafn yn ferw drwy ychwanegu cerrig gwynias ato yn ôl y gofyn dros gyfnod o tua hanner awr. Dyma ddangos felly y gellid dehongli’r safleoedd hyn fel math o geginau cyntefig i baratoi bwyd. Cysylltwyd y darganfyddiad â chyfeiriadau yn llenyddiaeth gynnar Iwerddon at safleoedd coginio brenhinol a adwaenid fel fulachta fiadh. Galluogodd hyn ddyddio’r safleoedd i gyfnod y Canol Oesoedd cynnar.

Serch hynny, mae archwiliadau diweddar yn cadarnhau bod safleoedd o’r math hyn yn perthyn i gyfnod llawer cynharach sef yr Oes Efydd yn yr ail fileniwm Cyn Crist. Drwy ddefnyddio dull carbon 14eg dyddiwyd y cafn yn Nant Porth i 1520-1090 cal CC ac yn yr archwiliadau ym Mharc Bryn Cegin cofnodwyd dyddiadau mor gynnar â’r Oes Neolithig Ganol sef rhwng 3490-3120 cal CC. Ond beth tybed fyddai swyddogaeth safleoedd o’r math hyn i gymdeithasau cyfnodau cyn hanes?  Bellach mae cryn ddadlau ymysg archaeolegwyr ynghylch gwir bwrpas y safleoedd gyda rhai’n dadlau y gallasai ymolchi personol, neu chwysu mewn baddon ager, neu olchi dillad, crwyn a thecstilau fod yn orchwylion a oedd lawn cyn bwysiced â choginio. Nodwyd hefyd fod rhai o’r twmpathau wedi’u dosbarthu mewn grwpiau bychan o bump neu lai, sy’n awgrymu bod gan eu lleoliadau bwysigrwydd arbennig fel mannau cyfarfod i loddesta fel y portreadir yn llenyddiaeth gynnar Iwerddon. Pa bynnag ddefnydd a wnaethpwyd o’r safleoedd hyn mae eu nifer, a bellach eu dosbarthiad eang ym Mhrydain, yn awgrymu eu bod wedi chwarae rhan bwysig ym mywyd materol a chymdeithasol cyfnodau sy’n ymestyn o gynhanes cynnar Cyn Crist hyd at y Canol Oesoedd Oed Crist.

Ffynhonnell 

Kenney, Jane. 2009.  ‘Recent excavations at Parc Bryn Cegin, Llandygái, near Bangor, North Wales’. Archaeologia Cambrensis 157 (2008). 9-142.

Coles, J. 1973. Archaeology by Experiment. Llundain.

Williams, J. Ll. W. a Jenkins, D, A. 2010. Ffos Coetmor. Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon. 71, 10-28

 

Capel Nant y Benglog

Exeter Hall oedd un o neuaddau mwyaf Llundain yn y ddeunawfed ganrif. Agorwyd yr adeilad yn swyddogol ym 1831 ar ochr dde y Strand. Daliai ei neuadd fach oddeutu 1000 o bobl ac roedd 4000 yn gallu eistedd yn ei neuadd fawr. Yn ystod cyfnod ei gogoniant defnyddid y neuaddau i gynnal cyfarfodydd crefyddol a dyngarol. Exeter Hall oedd cartref y Protestant Reformation Society a’r Protestant Association a daeth yr enw yn gyfystyr ag ymgyrchoedd y cyfnod yn erbyn caethwasanaeth. Chwalwyd yr adeilad yn 1907 a heddiw y Strand Palace Hotel sydd ar y safle. Ond yr enw yn unig sy’n cysylltu Exeter Hall â Chapel Nant y Benglog neu Gapel Bryn Gogwydd i ddefnyddio’i enw arall. Y capel hwn, gyda’i naw set i’r aelodau, set fawr i dri a’r pulpud, yw capel lleiaf yr Annibynwyr yng Nghymru, a chyda dychan ysgafn y câi ei gymharu â neuaddau gorwych y brif ddinas.

capel nant y benglog (1)
Capel Nant y Benglog

Agorwyd y capel yn 1853 wedi i’r aelodau benderfynu ei hadeiladu yn hytrach na gorfod marchogaeth i Eglwys Ciltwllan fel y gwneid yn ei dyddiau cynnar, neu yn ddiweddarach, deithio i Gapel Bethesda. Lleolwyd y capel ar fin Ffordd Bost Telford ar safle rhaniad y dŵr rhwng Afon Bodesi a lifai o dan Bont Gwern Gof i’r Afon Denau a Llyn Ogwen, ac Afon Llugwy a lifai i Nant y Benglog a’r dwyrain o dan Bont Rhyd Goch. Cafwyd prydles ar y safle gan Yr Arglwydd Penrhyn a bu tair o ferched, Elisabeth Evans, Glan Llugwy; Sidi Owen, Bodesi a Beti Thomas, Gwern Gof Isaf yn cynorthwyo’r dynion i godi cerrig o’r caeau yng ngolau’r lleuad i adeiladu’r capel.

Yn wreiddiol lleolwyd stabal i geffylau gerllaw’r tŷ capel ond pan atgyweiriwyd y capel ym 1929 ychwanegwyd hwn at y tŷ.  Roedd dwy lusern olew bres a chanwyllbrennau pres a ddaliai ganhwyllau gwêr yn goleuo’r capel. Mewn stormydd o eira gallai’r eira lenwi’r capel drwy rigolau yn y drws ac o reidrwydd fe fyddai’n rhaid gohirio’r oedfa. Fel arfer byddai’r pregethwr yn aros o nos Sadwrn tan fore Llun ac fe’i cyrchid â char a merlen o orsaf Betws-y-coed neu Fethesda yn ôl y galw. Pan ddathlodd y capel ei ganmlwyddiant yn 1953 cynhaliwyd cyfarfod cofio mewn pabell yn yr ardd â thyrfa o 800 yn bresennol. Er cymaint y gwamalu mae’r achos yn parhau yng nghapel Nant y Benglog tra bo rhodres Exeter Hall a’r addoli yng nghapel Bethesda wedi hen ddistewi.

Capel y Benglog

Cadw ni Arglwydd rhag y saeth a ehedo liw dydd a rhag yr haint a dramwyo liw nos.

Ffynhonnell

Roberts, Margaret, 1979. Oes o Fyw ar y Mynydd. Gwasg Gwynedd.