Tramffordd y Chwarel

Llun1
Cynllun tramffordd y chwarel o Black’s Guide to Wales, 1853, drwy garedigrwydd a chaniatâd Emyr Roberts, Bryn Derwen Bach

 

Adeiladwyd Ffordd y Lord ddiwedd y ddeunawfed ganrif yn bennaf er hwyluso danfon llechi chwarel Cae Braich y Cafn (chwarel y Penrhyn) i Aber Cegin. Sylweddolwyd yn fuan nad oedd seiliau’r ffordd yn ddigon cadarn i dderbyn traul y cannoedd o geffylau a throliau a’i tramwyai’n flynyddol. Cymhlethwyd y sefyllfa ymhellach yn 1797 pan gododd y Llywodraeth dreth o hyd at £2.5 swllt y chwarter ar geffylau. Nid oedd ryfedd felly fod dyfeisio dulliau rhatach a diogelach o symud nwyddau trwm o le i le yn fater o gryn bwysigrwydd i feistri diwydiant cyfnod cynnar y Chwyldro Diwydiannol. A phwy feddyliai fod Dyffryn Ogwen yn rhan o ‘labordy’ dyfeisgarwch technegau cludiant yn 1800? Y dewis i berchnogion y chwarel oedd adeiladu camlas neu dramffordd i gysylltu deupen y llwybr rhwng y gloddfa a’r porthladd yn Aber Cegin. Y cynllun cwbl chwyldroadol a ddewiswyd oedd adeiladu tramffordd a olygai y gallai un ceffyl dynnu o leiaf chwe wagen yn cludo hyd at dunnell o lechi yr un. O ganlyniad mae’r dramffordd a gynlluniwyd yn un o’r rhai cyntaf o’i bath a ddatblygwyd ym Mhrydain.

Map tramffordd
Llwybr tramffordd y chwarel yn 1801 drwy garedigrwydd a chaniatâd Owen G. Jones, Erw Las

Mae’n debyg mai Thomas Dadford oedd cyfarwyddwr y prosiect a hynny mewn cydweithrediad â Benjamin Wyatt, prif asiant stad y Penrhyn. Roedd Dadford yn gynllunydd enwog ac yn adeiladydd camlesi cynnar ac yn ddyfeisiwr arbrofol mewn ffyrdd haearn. Adeiladwyd tramffordd gynnar rhwng Aber Cegin a’r Felin Isaf yn Llandygái, ond gorchwyl anos oedd ei hymestyn i gyrraedd chwarel a oedd rai cannoedd o fetrau’n uwch na Llandygái. Mewn ardal o lethrau serth cynlluniwyd y dramffordd i ddilyn llwybr mor wastad â phosibl drwy ddyffryn Afon Ogwen o Goed y Parc i Landygái, ac oddi yno hyd wastadedd Tŷ Newydd at Bont Marchogion i gyrraedd Aber Cegin. Serch hynny yr oedd yn rhaid adeiladu tair gallt i gysylltu’r mannau gwastad, y gyntaf ohonynt yn Tanysgrafell, yr ail gerllaw Dinas a’r drydedd uwchlaw Pont Marchogion. Yr oedd pob gallt yn gweithio drwy ostwng tair wagen lawn i godi tair wagen wag gydag olwyn drwm yn dirwyn y ceblau ac yn rheoli eu gweithrediad. Gallasai hyd at ddeuddeg dyn yn unig reoli gwasanaeth yr holl dramffordd. Roedd safle cychwyn y dramffordd gerllaw Ogwen Banc yn ne-ddwyrain y chwarel ac o’r fan hon yr oedd yn chwe milltir a chwarter o hyd at Aber Cegin.

Rheiliau haearn ar drawstiau llechi a ffurfiai wely’r ffordd ac roedd bwlch o 0.6 metr rhwng y rheiliau. Mewn adroddiad yn 1803 meddai Wyatt wrth ddisgrifio ffurf yr olwyn: ‘The wheel made use of on this rail has a concave rim, so contrived in its form, and the wheels so fixed on their axles, as to move with the greatest facility in the sharpest curves that can be required’ .Yn yr un adroddiad mae’n cyfeirio at addasrwydd rheiliau oedd â wyneb hirgrwn iddynt i gadw’r olwyn yn ei lle yn hytrach na rhai fflat gyda chantel main ar un ochr, ond mae’n ychwanegu y gallasai ymyl finiog y rheilen greu niwed i garnau’r ceffylau. Mae’n bur debyg mai wagenni pren gyda phedair olwyn o haearn bwrw yn eu cynnal a ddefnyddiwyd a phob un ohonynt yn cludo llwyth o hyd at dunnell o lechi. Byddai trafnidiaeth o chwe thrên y dydd yn defnyddio’r dramffordd wedi eu trefnu’n ofalus i oddiweddyd ar y gelltydd rhwng y mannau gwastad. Golygai hyn y gallasai cyfanswm o hyd at 144 tunnell o lechi’r dydd gyrraedd y porthladd. Ceffylau oedd tywyswyr y wagenni, gyda dau neu bedwar yn arwain pob rhediad.

Agorwyd y dramffordd ym mis Mehefin 1801 gyda dau geffyl John Gruffydd Tŷ’n Clwt yn tynnu pedair wagen, ond cymaint oedd llwyddiant y cynllun hyd nes bod un rhediad yn 1866 yn cynnwys 55 wagen a’r llwyth oddeutu can tunnell. Yn 1841 adroddwyd – ‘the saving in power effected was such that…ten horses were found sufficient to conduct a traffic which had, on a common road, required four hundred’. Os llwyddodd y dramffordd yna bu’n gyfrwng i ddifetha bywoliaeth y ffermwyr hynny a ddibynnai ar logi eu ceirt a’u ceffylau i’r chwarel. Bellach gallai deuddeg dyn ac 16 ceffyl gario holl gynnyrch y chwarel i’r cei yn Aber Cegin. Dyma, wrth gwrs, fyddai dymuniad pob diwydiannwr a chyfalafwr gwerth ei halen, sef y gallu i wneud elw ar gorn y gweithiwr cyffredin – yr hyn a elwir yn Saesneg yn ‘progress’!

Ffynonellau

Boyd, J I C. 1985. Narrow Gauge Railways in North Caernarvonshire. Vol. 2. – The Penrhyn Quarry Railways. Oxford

Turner, Susan. 1975. The Padarn and Penrhyn Railways. Newton Abbot.

Wyatt, Benjamin. 1803. Repertory of Arts and Manufactures. 3 (2).

Advertisements

Caerberllan

Cae Berllan
Llun o Gaerberllan yn 2015

 

Mae’r rhesi tai a adeiladwyd yn gynnar yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ar gyfer cartrefu gweithwyr chwarel y Penrhyn yn nodweddiadol o bensaernïaeth Dyffryn Ogwen. Cymharer er enghraifft res tai deulawr Stryd John neu Fryntirion ar dir stad annibynnol Cefnfaes â bythynnod un llawr Braichmelyn a Chaerberllan ar stad y Penrhyn.

Bryntirion
Bryntirion yn 2015

 

Mae Stryd John a Bryntirion yn dyddio i gyfnod ar ôl 1820 yn fuan wedi sefydlu pentref Bethesda, ac mae Map y Degwm yn 1844 yn dangos fod rhannau o Fraichmelyn a Chaerberllan hefyd yn sefyll bryd hynny. Adeiladwyd tai’r ddwy ardal o gerrig a’u toi â llechi yn ôl y traddodiad lleol. Oddi fewn mae cynllun y tai yn syml, mae’r tai un llawr yn cynnwys dwy ystafell ar y llawr a chroglofft uwch law, tra bo gan y tai deulawr ddwy ystafell i lawr grisiau a dwy yn y llofft. Cysgodir drysau tai Caerberllan a Braichmelyn gan fargod isel a chyplysir hwy â gardd helaeth naill o flaen neu y tu cefn i’r tŷ yn unol â threfn cynllunio stad y Penrhyn. Nodwedd arall gyffredin i’r rhesi hyn oedd lleoli’r cwt glo o flaen y tŷ, fel y gwelir yng Nghaerberllan neu fythynnod Dol Goch ym mhen arall y pentref.

 

Braichmelyn

Braichmelyn oddeutu 1900. Delwedd o archif cardiau post Dyffryn Ogwen drwy ganiatâd Alaw Jones, Parc Moch, Bethesda

Mae’r  rhesi tai uchod yn perthyn i gyfnod cyn awdurdodi deddf The Improvement of the Town of Bethesda and Neighbourhood in the County of Caernarvon yn y Senedd ar 3 Gorffennaf 1854. Yr oedd amodau’r ddeddf yn awdurdodi bod datblygiadau’r dyfodol i fod yn ‘sufficiently paved, drained, cleansed, lighted, regulated, and otherwise improved, and effectually supplied with sewers and water’, amodau a oedd yn caniatáu gwelliannau sylweddol i’r tai a adeiladwyd ar ôl y dyddiad hwn. Yr oedd y ddeddf hefyd yn gwahardd adeiladu cyrtiau caeedig oedd â mynedfeydd a oedd yn llai na phum troedfedd eu lled a deg troedfedd eu huchder, megis y rhai a oedd yng Nghae Star a Davis Court a Williams Court ar gyrion y Stryd Fawr. Cyfrannodd yr Arglwydd Penrhyn £4,000 at y gwelliannau hyn sydd i’w gweld er enghraifft yng nghynlluniau strydoedd tai ym Mynydd Llandygái ac ym Mhenybryn ym Methesda sy’n dyddio i gyfnod ar ôl y ddeddf.

Griff Edwards 1875
Griffith Edwards o’r llun o Bwyllgor Streic 1974

Un o breswylwyr pwysicaf Caerberllan yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg oedd Griffith Edwards a drigai yn rhif saith. Ef oedd ysgrifennydd Capel Bethesda, addoldy pwysicaf yr Annibynwyr yn y gymdogaeth ac ef hefyd oedd un o arweinwyr gweithlu Chwarel y Penrhyn yn eu brwydr i ennill cydnabyddiaeth i Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru yn y chwarel. Golygodd ei ymlyniad i’r achos hwn dros gyfnod o ddeng mlynedd ar hugain iddo wrthdaro yn aml â pherchnogion y chwarel. Yr oedd Griffith Edwards yn aelod o bwyllgor streic 1874 dan arweiniad Robert Parry, Y Llywydd, ac yn y llun enwog sydd o’r pwyllgor yn ymresymu â’r Hen Lord, ef sy’n sefyll y trydydd o’r chwith uwchben y bwrdd. Ym mis Mai 1885 cafodd ei gyhuddo gan George Sholto, olynydd yr Hen Lord, o gamarwain y chwarelwyr ynghylch diddymu cytundeb Pennant Lloyd a thrannoeth cafodd rybudd y byddai’n colli ei waith a’i gartref yn rhif 7 Caerberllan. Cafodd ei waith a’i denantiaeth yn ôl ymhen y mis ond gyda’r rhybudd canlynol: ‘the managers will be specially desired to report on your future conduct’.

grif edwards 1900
Griffith Edwards yn 1900, Ysgrifennydd Pwyllgor Streic 1900-03

Yr oedd Griffith Edwards yn un o arweinyddion streic 1896-7 ac yn Ysgrifennydd y Pwyllgor yn ystod Streic Fawr 1900-03. Yn sgil ei ymroddiad a’i egwyddorion cafodd ei droi allan o’i denantiaeth yng Nghaerberllan ac ni chafodd ei waith yn ôl yn y chwarel ar derfyn yr ymrafael ychwaith.

 

 

 

 

 

 

 

 

Ffynonellau

Alfrey, Judith. 2001. Rural Building in nineteenth century North Wales: the role of the great estates. Archaeologia Cambrensis,CXLVII (1998), tt. 199-216.

Gwyn, David. 2000. Vaunting and Disrespectful Notions:  Charles Mercier’s Portrait of the Penrhyn Quarry Committee and Lord Penrhyn. Trafodion Cymdeithas Hanes  Sir Gaernarfon, 61, tt. 99-110.

Roberts, Ernest. 1963. Bargen Bywyd fy Nhaid. Llandybïe.

 

 

Pont y Beudy Llwyd

Pont Beudy Llwyd 3
Pont y Beudy Llwyd. Llun drwy garedigrwydd a chaniatâd Emyr Roberts, Bryn Derwen Bach

 

Pont y Beudy Llwyd yw’r bont hynaf sy’n sefyll yn Nyffryn Ogwen heddiw a’r mwyaf cyntefig ei ffurf yn ogystal. Pont agored heb fwa na chanllawiau ydyw yn croesi Afon Ogwen ar gyfres o drawstiau carreg enfawr wrth droed Y Benglog yn Nant Ffrancon. Mae’n cyfateb felly i bont lechen neu ‘clapper bridge’ yn ôl ei chynllun.

Pont Beudy Llwyd 1
Pont y Beudy Llwyd. Llun drwy garedigrwydd a chaniatâd Emyr Roberts, Bryn Derwen Bach

Dros y bont hon yr oedd y llwybr anodd i’r Benglog yn cychwyn, y llwybr a roddodd gymaint o fraw i’r teithiwr Thomas Pennant wrth iddo ei dringo yn 1781. Mae’r llwybr brawychus gyda’i risiau serth a’i fynych droadau cyfyng yn parhau yn gyfan gan arwain i safle uwchlaw’r rhaeadr o dan Bont y Benglog a Llyn Ogwen.

Cyn i ffyrdd cydnabyddedig gael eu datblygu ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg gwasanaethid yr ardal gan gyfres o lwybrau culion yn cychwyn o lan y Fenai. Rhedai un o Aber Cegin ger Bangor i Landygái ac ymlaen drwy Ben y Groes, a Choed y Parc i gyrraedd Pont Tŵr. Ym mhlwyf Llanllechid cychwynnai’r prif lwybr o Aber Ogwen i Faes y Groes, yna dringai’r Allt Goch i Lanllechid ac ymlaen i Garneddi. Yno yr oedd yn cyfarfod ail lwybr a oedd hefyd wedi cychwyn o Faes y Groes i gyrraedd Coetmor drwy Gochwillan – Y Lôn Goed, llwybr y Beirdd medd rhai. O’r Carneddi disgynnai’r llwybr i’r Garneddwen gan anelu i groesi Afon Caseg mewn rhyd i gyrraedd Braichmelyn. Rhywle ym Mraichmelyn byddai llwybr Pont Tŵr a llwybr Carneddi yn ymuno – mae’r ‘rhywle’ yn anffodus oherwydd mae’r map o 1768 a fyddai’n datgelu’r wybodaeth wedi breuo a lleoliad yr uniad wedi’i golli o’r herwydd.

Telford Figure 3
Cynllun llwybrau a ffyrdd Nant Ffrancon, drwy garedigrwydd a chaniatâd David A Jenkins, Llys Geraint

Gallasai’r uniad fod yng Nghapel Cwta i ddilyn ymlaen drwy Stryd Jâms, ond mae’n eithaf tebygol y byddai rhwystr y graig enfawr ym Modforus yn gorfodi llwybr Pont Tŵr i ddilyn yr afon hyd nes cyrraedd Pont Ogwen. Mae damcaniaethu pellach yn ofer ond mae’n berffaith sicr fod y llwybr unedig yn cyrraedd Tyn y Maes a chanlyn ymlaen i Dŷ Gwyn. Oddi yno yr oedd yn croesi Afon Ogwen ger Bryn yr Hwyaid – y roche mountonnée anferth ger Maes Caradog – i ddilyn ymlaen i ail groesi Afon Ogwen ar Bont y Beudy Llwyd.

Y bont hon, felly, sy’n ein hatgoffa ni fforddolion yr unfed ganrif ar hugain yn ein ceir crand pa mor gyntefig, ac yn wir beryglus, oedd tramwyo Dyffryn Ogwen cyn bod ffyrdd cydnabyddedig yn gwasanaethu’r ardal. Ond, wedi dweud hynny erys y bont hon yn gadarn tra bo pontydd eraill yn yr ardal wedi’u hysgubo ymaith gan lifeiriant y dyfroedd. Adroddir fod mwyafrif pontydd yr ardal wedi’u difrodi yn y llifogydd mawr a ddilynodd glaw enbyd ar y Carneddau yn 1799. Er bod tirlithradau enfawr wedi digwydd yn Nant Ffrancon gan lwyr gladdu fferm Pentref o dan filoedd o dunelli o bridd a cherrig, eto ni cheir cofnod fod Pont y Beudy Llwyd wedi’i dymchwel bryd hynny.

Pebucharnant 2
Golygfa o gopa’r Benglog tuag at safle Pont y Beudy Llwyd yn Nant Ffrancon

Ffynonellau

Ward, F.  1939.  The Ancient Track through the Nant Ffrancon  Archaeologia Cambrensis, XCIV(2). tt.223-34

Waddilove, E. 1999. The Roman Roads of North Wales – Recent Discoveries. Denbigh.