Nodyn ar y cyd ag Idris Lewis, Dolwern, Ffordd Bangor. Ei eiddo ef yw’r holl ddelweddau.

Mae’r nodyn hwn yn trafod adeiladu rhagfur hir ac uchel yn Chwarel y Penrhyn nad oedd iddo, hyd sy’n wybyddus, enw swyddogol yn hanes y gloddfa. Adeiladwyd y cob i redeg rhwng Pont Ogwen a Bryn Llwyd, gan ffurfio mwgwd gwarcheidiol ar y fynedfa i’r chwarel. Yr oedd hwn yn anferth o ragfur solet ei adeiladwaith (oddeutu 300 metr o hyd a 7 metr o uchder) ac i gyrraedd y chwarel lluniwyd agoriad bychan, yn bont gul, i gael mynediad drwyddo. Mae’n debyg nad oedd arbenigedd mawr yn ei adeiladwaith, mur o glytiau llechi cymesur tebyg i ragfuriau’r Felin Fawr oedd yn ei gyfansoddiad. Nid oedd prinder yn y chwarel o’r deunydd crai i’w adeiladu, er nad oedd ei adeiladwaith syml i’w gymharu ag ysblander peirianyddol pont Rhiwbryfdir ym Mlaenau Ffestiniog er enghraifft. Serch hynny yr oedd yn adeilad a fyddai’n tynnu sylw unrhyw ymwelydd a fyddai’n gorfod ymwthio drwy ei agoriad cyfyng i fynychu’r chwarel.

Gellir pennu cyfnod adeiladu’r rhagfur i’r degawd rhwng 1888 ac 1899 o ganfod y newidiadau a welir ym mapiau ordnans manwl y deng mlynedd sydd rhwng y ddau ddyddiad. Yr ardal benodol sydd dan sylw oedd estyniad o dir gwyrdd, megis, rhwng tomennydd amgylchynol a oedd yn arwain at brif fynedfa’r chwarel yn ardal Bryn Llwyd. Cynhwysai’r rhimyn hwn o dir nifer o dai megis Bryn Llwyd a Ty’n y Coed ac yno hefyd yr oedd capel cyntaf enwad yr Annibynwyr yn Nyffryn Ogwen yn Tros y Ffordd. Yn 1888 dengys y map fod rheilffordd yn croesi’r ardal hon o ochr chwith y gwaith, ochr y gogledd ddwyrain, i ymuno, ar yr un llaw, â rhwydwaith prif bonc cynhyrchu’r chwarel yn Red Lion, ac ar y llaw arall i arwain yn ddolen estynedig hyd ymyl ddwyreiniol y twll nes cyrraedd y Felin Fawr yng Nghoed y Parc. Cynlluniwyd y rheilffordd i redeg rhwng Tros y Ffordd ac yn rhyfeddol o agos at gongl adeilad Ty’n y Coed. Erbyn 1899 mae’n amlwg fod nifer o newidiadau wedi digwydd yn ystod y ddegawd a aeth heibio. Yn gyntaf cynlluniwyd dyfrffos o afon Ogwen uwchlaw Pont Ogwen i fwydo dŵr i weithio pympiau hydrolig y chwarel a hynny mor gynnar â chanol y ganrif. Yn ail adeiladwyd y cob mawr i gynnal y rheilffordd ar lwybr sydd bellach yn rhedeg i’r dwyrain o Dyn y Coed gan fanteisio yn ogystal ar gopa tomen fechan i godi uchder y lein uwchlaw dau begwn y pant islaw yn Tros y Ffordd.
Golygodd adeiladu’r cob newid holl gynllun trafnidiaeth fewnol y chwarel. Hwylusodd uchder y cob i gysylltu’n uniongyrchol gyda Phonc Red Lion gan hepgor y ddolen fawr ar ochr y dwyrain a arweiniai i’r Felin Fawr. Drwy wneud hyn gallai’r chwarel ymestyn y twll a’r tomennydd i gyfeiriad y dwyrain ac yn raddol gladdu hen wely’r rheilffordd, sydd, o ryfeddod yn ein cyfnod ni, wedi ei hail adfer ar ffurf Lôn Las Ogwen. Ond i gynnal y cysylltiad hollbwysig â’r Felin Fawr cynlluniwyd gallt o ben gogledd Ponc Red Lion i arwain yn uniongyrchol i’r Felin. Dyma efallai un o’r gelltydd pwysicaf yn yr holl gyfundrefn a’r unig un i’w gweithredu drwy gysylltiad cadwyn ar ddrwm yn hytrach nag ar wifren fel gweddill gelltydd y chwarel. Felly, erbyn 1899 yr oedd y gyfundrefn newydd mewn bodolaeth ac adeilad y cob yn ddolen hollbwysig yn ei chynnal.

Yn ystod cyfnod hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif ehangodd pwysigrwydd y cob fwyfwy wrth i gyfnewidiadau yng nghynlluniau’r chwarel ddatblygu o’r newydd. Erbyn dauddegau’r ganrif yr oedd cynlluniau ar droed i weddnewid ochr chwith y gwaith oherwydd mai yno y tybiai’r perchnogion weld ei dyfodol mwyaf llwyddiannus. Un o’r cynlluniau mwyaf uchelgeisiol oedd i newid sianel Afon Ogwen rhwng Pont Ogwen a Phont y Tŵr, yn benodol rhag bod ei dyfroedd yn peryglu twll y chwarel ar ymyl gorllewin ei glan. Ail gynllun oedd datblygu system o aer dan bwysedd i weithio driliau tyllu’r graig drwy’r chwarel i ddisodli’r hen drefn lafurus o dyllu drwy law. Yn ganolog i’r cynllun roedd cynhyrchu egni drwy harneisio dŵr o afon Ogwen fel y grym i weithio tyrbin a leolwyd mewn cwt nepell o Fryn Llwyd.

Cysylltwyd y cwt drwy ddyfrffos o gronfa fechan a gynlluniwyd ar yr afon uwchlaw Pont Ogwen, ac unwaith yn rhagor defnyddiwyd y cob fel y ddolen gyswllt hollbwysig i drosglwyddo’r bibell aer i’r chwarel. 1929 oedd y flwyddyn y datblygwyd y cynllun aer dan bwysedd yn y chwarel a chymal Pont Ogwen oedd yr unig un i’w bweru ag egni heidro. Trydan a ddefnyddiwyd i weithio’r cynllun yn rhannau eraill y gwaith. Pwysigrwydd y cynllun heidro oedd ei fod yn cynnig, ar amcangyfrif, arbedion o £1610 y flwyddyn, swm a oedd ben ac ysgwydd yn rhatach i’w gynnal na’r cymal cyfatebol a bwerwyd ag ynni trydan.

Daeth newid byd i’r chwarel yn ystod chwedegau’r ganrif pan ddaeth trefn hen ffasiwn o dan berchnogaeth y Penrhyn i’w therfyn a chyflwynwyd cyfundrefn newydd o redeg y gwaith gan gwmni mawr rhyngwladol McAlpine. Ysgubwyd ymaith y gofyn am dyrbin hen ffasiwn i gynhyrchu aer dan bwysedd ac yn sgil y newid daeth un o brif swyddogaethau’r cob i’w derfyn. Lawn cyn bwysiced oedd dull sylfaenol y perchnogion newydd o redeg y gwaith. Cynt rhwydwaith o reilffyrdd cul oedd sylfaen y drefn fewnol, a’r trên bach oedd y cyfrwng allanol sidet, hen ffasiwn ac anghymwys, bellach trefnwyd i hepgor yr holl gyfundrefn yn llwyr drwy ddefnyddio cyfresi o lorïau trymion i wasanaethu’n fewnol a thrafnidiaeth cludiant cyhoeddus i ddosbarthu’n allanol. O ganlyniad yr oedd y cob mawr yn rhwystr enfawr i hwylustod y gyfundrefn yn ogystal ag i ddelwedd allanol y gwaith. Ac felly nid drwy bont gul mewn rhagfur gwarcheidiol enfawr yr oedd y chwarel i’w phortreadu i’r byd mawr modern allanol. Yn 1964 chwalwyd y cob ac yn y weithred hon daeth symbol o’r hen gyfundrefn i’w derfyn.

Gweler erthygl gan Dee Edwards The Llyn Meurig triangle . Gwreiddiau Gwynedd, 2020, Cyfrol 2, Rhif 79, 16-18.