
Ar y pedwerydd o Orffennaf 1284 ymwelodd Edward 1af, brenin Lloegr, ag Abercaseg. Yr oedd ar wibdaith drwy Wynedd yn dilyn ei goncwest o Gymru yn 1283. Ar y cyntaf o’r mis ymwelodd â chastell Dolwyddelan, Gumbadolph (Dolbadarn?) ar yr ail cyn mynd ymlaen i Abercaseg, a gorffen ei daith yng Nghaernarfon ar y pumed. Mae’n bur debyg ei fod ef a’i osgordd wedi gwersylla’r nos ar y ddôl ar lan Afon Caseg ar lawr y dyffryn. Diben ei ymweliad ag Abercaseg oedd archwilio adeilad ei wrthwynebydd, Llywelyn ap Gruffudd, sef y tŵr arsyllu a safai ar y lan gyferbyn ar gopa’r graig yn Nhyn Tŵr.
Mae’n ddiddorol nodi mai i Abercaseg yr aeth Edward ac fel ’le towre de Abercassek’ y cyfeirir at y tŵr mewn dogfen gyfreithiol yn 1485. Pam nodi pwysigrwydd Abercaseg yn hytrach na Thyn Tŵr felly? Gadewch i ni hedfan dros y canrifoedd ac ymweld â thyddyn Abercaseg yn 1768, dyddiad yr Arolwg cyntaf a wnaethpwyd gan Richard Pennant o’i eiddo yn Stad y Penrhyn.

Bryd hynny yr oedd Abercaseg yn dyddyn 13 acer yn nhenantiaeth Thomos Williams, ac wedi’i rannu yn 13 uned, oll oddeutu un acer neu lai eu maint ac eithrio cae y Wern Uchaf Bella a oedd ychydig dros bedair acer. Mae mapiau George Leigh, y tirfesurydd o Norwich a gyfrannodd yn helaeth at yr Arolwg, yn cyflwyno darlun arbennig o leoliad Abercaseg mewn perthynas â’r sefydliadau eraill a oedd yn rhannu glan Afon Caseg.

Mae’n ddiddorol sylwi ar enwau a maint nifer o’r unedau a berthynai i’r sefydliadau hyn. Yr oedd gan Abercaseg ddwy berllan ac un gardd, ac yn Nhyddyn Caseg y drws nesaf, tyddyn 7 acer gyda phont yn croesi’r afon, yr oedd yno Gae Ceirch, Gardd y Wal a’r Arddlas, oll yn unedau llai nag un acer. Wedi’u cysylltu’n ddaearyddol, ond yn perthyn i fferm Gerlan, yr oedd dwy uned eithriadol fychan Gerddi’r Gerlan. Ar y lan gyferbyn yr oedd tir fferm Tyn Tŵr, fferm sylweddol ei maint yn cynnwys ffriddoedd agored Braichmelyn a Rhydd Wreiddiog. Ger y tŷ yr oedd y Berllan yn arwain at Gae Cefn y Berllan a dwy uned fychan Llain y Tŵr a Gerddi’r Cae Beudy Newydd, a gerllaw yr oedd dau gae Lleiniau Gwynion Uchaf. Ar aber Afonydd Ogwen a Chaseg lleolwyd Lleiniau Gwynion Isaf a Llwyn yr Hudd Du, un yn bedair a’r llall yn dair acer eu maint. Mae enwau caeau sy’n cynnwys lleiniau, perllannau a gerddi yn brin yn archif caeau Arolwg 1768. Sut felly y gellir dehongli’r defnydd o’r enwau hyn yn y fan hon? Tybed a oes yma adlais uniongyrchol o gyfnod cynharach yn hanes yr ardal benodol hon. Mae enwau’r unedau, maint bychan y berllan a’r ardd, maint mwy y lleiniau, a’u perthynas agos â lleoliad y tŵr arsyllu yn awgrymu fod yma sefydliad a berthynai i deyrnas Tywysogion Gwynedd yn y ddeuddegfed a’r drydedd ganrif ar ddeg.
Awgrym yn unig yw hwn sy’n haeddu mwy o ymchwil, ond os cywir y dadansoddiad yna mae’n egluro pam y bu i’r Brenin Edward wersylla yn yr uned economaidd a gynhaliai safle amddiffynnol Tyn Tŵr. Tybed a fyddai Thomos Williams, bum canrif yn ddiweddarach, yn ymwybodol o dras tywysogaidd ei dyddyn.
