
Mae waliau cerrig a chloddiau pridd mor hen â chyfnod y Neolithig chwe mil o flynyddoedd yn ôl. Pan ddaeth yr amaethwyr cyntaf i Brydain a dewis ffermio tiriogaethau parhaol yr oedd yn angenrheidiol codi ffiniau i gadw’r anifeiliaid rhag crwydro o’r caeau ac i ddiogelu’r cnydau bwyd a dyfid yn y caeau. Mae gan archaeolegwyr sy’n archwilio safleoedd amaethyddiaeth gynnar ddiddordeb mawr mewn canfod natur a chyfansoddiad y terfynau sydd i’r caeau. Dengys eu hymchwil fod aredig llain o dir, yn arbennig llain ar lethr, yn creu llwyfan isel rhwng dau raniad o’r tir. Yr enw technegol ar y llwyfan isel yw linsied (lynchet). Wrth i’r linsied ddatblygu yn nodwedd fwy amlwg byddai cerrig, cynnyrch o aredig y tir, yn cael eu casglu a’u pentyrru ar y rhaniad i greu wal isel, neu byddai llwyni yn tyfu hyd yr ymyl i greu rhwystr ar ffurf clawdd. Yn nhreigl y canrifoedd diflannodd y cerrig ac ysgubwyd ymaith y gwrychoedd ond erys y llwyfannau isel i nodi terfynau parhaol y caeau. Ar ffridd Corbri yn Llanllechid ceir enghreifftiau ardderchog o’r linsiedau hyn ac fe’u gwelir gliriaf mewn lluniau a dynnwyd o’r awyr sy’n dangos patrymau’r caeau cynhanes fel rhan o dirwedd yr ardal hon. Yng Nghoed Uchaf gwelir patrymau gwahanol oherwydd yno datblygwyd y linsiedau yn lleiniau hirion cyfochrog sy’n rhan o anheddfan gynhanes nad yw’n amlwg bellach oherwydd ei gorchuddio gan dyfiant eithin a mieri ar y safle.
Nid yw’r drafodaeth uchod yn ateb y cwestiwn pam fod waliau cerrig yn gyffredin mewn rhai rhannau o’r wlad a chloddiau pridd mewn rhannau eraill. Ardal o waliau cerrig sych yw Dyffryn Ogwen tra bo Môn, Eifionydd a Llŷn yn ffafrio cloddiau, ac efallai mai rhesymau daearegol sy’n bennaf gyfrifol am hyn yn hytrach na’i fod yn ddewis i’r unigolyn. Yn ystod Oes yr Ia yr oedd y rhewlifau yn erydu creigiau ucheldir Eryri gan adael pentyrrau o feini a cherrig yn weddill, tra ar y gwastadeddau’n ffinio’r mynyddoedd, ardaloedd o ddyddodi graean, priddoedd a cherrig man a geid yno ac felly byddai’r dewis o adnodd bras yn llawer prinnach. Serch hynny, y mae un clawdd i’w gael yn Nyffryn Ogwen sef yr un ym mharc Ocar, er mai clawdd cynnal yn hytrach na chlawdd terfyn a fyddai hwn. O edrych yn fwy manwl mae dosbarthiad waliau cerrig Dyffryn Ogwen yn bur ddiddorol.

Waliau sy’n dynodi ffiniau caeau’r ardal ac mae pwysigrwydd arbennig i’r wal derfyn diriogaethol, wal y mynydd, sy’n nodi’r ffin rhwng yr iseldir a amgaewyd a’r ucheldir sy’n ffridd agored. Nodwedd arbennig o Ddyffryn Ogwen yw bod wal y mynydd yn cadw fwy neu lai at gyfuchlin 250metr a phrin iawn fod waliau sy’n amgáu caeau yn ymestyn y tu draw i’r llinell hon fel y gwelir mewn ardaloedd eraill yn Eryri. O’r Bronydd hyd at wal y mynydd uwchlaw Pont Ogwen gellir cerdded gweundir Llanllechid yn ddirwystr.
Prin fod y patrwm yn newid ar lethrau serth Nant Ffrancon er bod yma rai waliau tiriogaethol sy’n dringo’n uchel i nodi terfynau efallai yng Nghwm Bual a Chwm Graianog. Mae’n anodd rhoi dyddiad pryd yr adeiladwyd y terfynau hyn ond gellir crybwyll y gallasai rhai berthyn i gyfnod cynnar yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg pan ddaethpwyd â bugeiliaid o’r Alban i wella ansawdd ffermio’r ardal dan nawdd stad y Penrhyn a dylanwad brwdfrydig Edward Gordon Pennant, Barwn cyntaf y Penrhyn. Fel y nodwyd uchod, waliau o gerrig sychion sy’n nodweddu ein hardal ni, hynny yw waliau a adeiladwyd drwy grefft arbennig y saer maen o blethu cerrig y wal heb ddefnydd mortar ar sylfaen o gerrig breision, gan gryfhau’r adeiladwaith gyda cherrig cloi pwrpasol a’i gwarchod gyda rhes gymesur o gerrig copa ar y brig.

Mae ffurf arall ar waliau cerrig i’w gweld yn Nyffryn Ogwen sef y muriau carreg anferth eu maint a adeiladwyd i gynnal safleoedd diwydiannol yn yr ardal. Yr enghreifftiau gorau yw’r muriau sy’n cynnal safle’r Felin Fawr yng Nghoed y Parc, er bod gofynion diogelwch ein canrif ni bellach wedi golygu chwalu llawer ar anferthedd eu hadeiladwaith. Adeiladwyd y muriau o bennau llechi wedi eu llifio, megis gwastraff o brosesau trin cerrig yn y felin, ac ar eu huchaf yr oedd rhai o’r muriau oddeutu chwe metr (20 troedfedd) mewn maint. Estynnwyd y muriau i gynnal llwybr tramffordd y chwarel gyda’r rhannau mwyaf nodedig ger Tanysgrafell ac yn y gulfan gywasgedig rhwng Hendyrpeg a Dinas. Dyddiad adeiladu’r dramffordd oedd 1801 ac felly mae rhannau o’r muriau hyn yn dyddio i’r cyfnod hwn a cheir cadarnhad o hyn gan Telford sy’n cyfeirio at lwybr y ffordd Dyrpeg yn Dins a adeiladwyd yn 1802 gan bwysleisio ei pheryglon rhwng tyrrau llechi mawr y dramffordd uwchlaw a cheunant yr Afon Ogwen islaw.


Yn olaf mae’n rhaid cyfeirio at ddull arall o ffurfio ffin rhwng dau eiddo sef y ffens lechi sydd yn nodwedd arbennig o ardaloedd chwarelyddol Gwynedd. Gweler Cyfeiriad Bingley yn 1748 -‘the fences are made with pieces of Blue Slate … driven into thr ground about a foot distant from each other and interwoven near the top with briar;’ to hold them together’.
Defnyddiwyd ffens fel dull cost effeithiol o bennu’r ffin rhwng dau gae bychan neu yn derfyn rhwng dau eiddo, megis yn Nhanybwlch a Llwybr Main ym Mynydd Llandygái, datblygiadau sy’n perthyn i chwedegau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Hanfod y rhwystr yw ffurfio rhes o bileri cul ond talsyth gyda gwifren ddur yn eu plethu er mwyn cryfder ar hyd y pennau. Mewn rhai enghreifftiau defnyddiwyd crawiau llechi llydan yn lle’r pileri main i ffurfio’r ffens ond pur anaml y defnyddid y dull dros bellter ac eithrio mewn enghraifft nodedig ar y llwybr troed sy’n dringo rhwng Sgwâr Penybryn a Ffordd Carneddi ac fe gyfeirir ato ar dafod leferydd fel y ‘Llwybr Pleri’.

Mae waliau cerrig yn nodweddu cymeriad ardal ac yn rhan o’i hanes a’i datblygiad. Gresyn yw gweld nifer o waliau’r ardal mewn cyflwr gwael megis y rhai sy’n ffurfio ochr y gogledd o’r ffordd rhwng Plas Ffrancon a Hen Barc ar Lôn Newydd. Adlewyrchiad o ddiffyg parch at ein treftadaeth ydyw fandaliaeth o’r fath hon.
Gwybodaeth ychwanegol gan y diweddar Alaw Jones, Parc Moch, Bethesda oedd yn bencampwr adeiladu waliau sychion Cymru a Phrydain.
Ffynhonnell
Darlith gan Alaw Jones, Clwb Hanes Rachub a Llanllechid, Ionawr 27ain 2016.