Coetmor Teras

New Picture (30)
Coetmor Teras

Teras o wyth tŷ ydi Coetmor Teras, ac er nad oes dim nodedig yn ei bensaernïaeth, fwy nag unrhyw deras arall ym Methesda, mae hanes ei adeiladu yn ddiddorol. Adeiladwyd y rhes gan W. J. Parry yn 1899 ar brydles o 99 mlynedd ac iddo ef y byddai deiliaid y tai yn talu’r rhent, ac yn ddiweddarach yn talu i William Henry Parry, sef ail fab y perchennog. Ar derfyn cyfnod y brydles yn 1998 ail feddiannwyd y rhes gan stad y Penrhyn. Pam felly fod hanes Coetmor Teras mor arbennig?.

Un o orchestion mawr Bethesda yn ystod wythdegau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg oedd llwyddo i ddenu rheilffordd yr LNWR i’r pentref – y ddolen olaf yn rhwydwaith rheilffordd gogledd Cymru. Agorwyd y cysylltiad yn 1884 ac adeiladwyd y terminws ym mhen gogleddol y pentref ar lain o dir eang a arferai fod yn domen lechi hen chwarel Llety’r Adar. Ymestynnai ‘r domen yn llwyfan gwastad rhwng y ffordd bost ac afon Ogwen ar ffin y gorllewin.  Yr oedd adeilad y stesion yn enfawr ei faint o ystyried mai cangen ddinod oedd y rheilffordd ac yr oedd iard nwyddau eang yn rhan o’r datblygiad.  Rhoddodd dyfodiad y rheilffordd gyfle i gynllunio o’r newydd fynedfa’r gogledd i’r pentref a chuddio hagrwch a thwll afler y chwarel  o bob tu’r  ffordd bost. Adeiladwyd teras mawreddog Penrhyn Teras, tai’r stesion a chapel Bethania i guddio’r hagrwch ac yn y nawdegau ychwanegwyd terasau Gordon ac Elfed ar naill ochr y ffordd.   Ac yna yn 1899 ychwanegwyd Coetmor Teras ar gilcyn o dir a oedd yn rhan o iard y stesion.

WJ Parry2
W. J. Parry

Mae’n debyg y gellid disgrifio W. J. Parry, yr adeiladwr, fel y dyn pwysicaf ym mhentref Bethesda yn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn gyfrifydd siartredig wrth ei alwedigaeth yr oedd hefyd yn berchen ar iard nwyddau tra llwyddiannus yn gwerthu amrediad cyflawn o offer adeiladu, nwyddau a dodrefn tŷ ac, yn bwysicach oll, yr holl bylor du a ffrwydron at ddefnydd chwarel y Penrhyn.  Ac ar iard y stesion y sefydlodd Parry ei fusnes nwyddau. Ef hefyd oedd Cadeirydd y Cyngor yn y pentref ac fe gynrychiolai Fethesda ar y Cyngor Sir yn ogystal. Fel un o sylfaenwyr Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru llwyddiant mawr Parry oedd cadarnhau Cytundeb Pennant Lloyd gyda’r Arglwydd Penrhyn yn 1874, mesur wnaeth warantu cymod a thegwch yn y chwarel ac a enillodd iddo barch holl chwarelwyr gogledd Cymru am ei ymrwymiad.

Yr hyn na wyddai pobl Bethesda na pharchusion y genedl, ac eithrio’r Banc a‘r Penrhyn bur sicr, oedd fod gan Parry ddyledion ariannol eithriadol drwm a oedd yn fygythiad parhaol i’w obeithion a’i uchelgais. Y dyledion ariannol hyn arweiniodd Parry yn ystod degawd olaf y ganrif i gysylltu â nifer o fentrau busnes yn amrywio o sefydlu gweithfeydd aur yn Ariannin i ddatblygu chwarel  lechi ar garreg ei ddrws ym Mhantdreiniog. Afraid dweud i’r cynlluniau hyn fethu gan ychwanegu at ei broblemau ariannol. Cosb ariannol ychwanegol yn 1892 oedd colli cytundeb i gyflenwi ffrwydron i chwarel y Penrhyn, cosb o ddialedd gan yr Arglwydd Penrhyn oedd hon oherwydd ei gefnogaeth i Undeb y Chwarelwyr. I ychwanegu at ei ofidion ym mis Hydref 1896 llosgwyd ei iard nwyddau yn yfflon mewn tân difäol a phrin fod yswiriant yr iard yn cyfateb i faint y difrod. Ceisiodd atgyweirio ei sefyllfa ariannol fregus drwy werthu dwy o’i fentrau mwyaf llwyddiannus, sef cwmni cyhoeddi cerddoriaeth y North Wales Music Society a’i gwmni cyhoeddi papurau newydd y Welsh National Press Company Limited, ond nid oedd prynwyr, ac yn ei ddryswch ceisiodd ddefnyddio dulliau cwbl haerllug i ennill arian parod megis pan hawliodd yswiriant ar ei fab John dridiau yn dilyn ei farwolaeth annisgwyl..

Nid oes gofnod iddo gyrraedd y sefyllfa druenus o fod yn fethdalwr, ond mae’n amlwg ei fod yn byw yn llythrennol o’r llaw i’r gennau yn ystod y cyfnod hwn. Yn y cefndir yn ei gadw o fewn terfynau yr oedd mynych lythyrau rheolwr y banc ym Methesda neu, ar brydiau, lythyrau o’r banc yn ganolog yn Llundain yn ei atgoffa fod angen ad-dalu ei ddyled, neu fod ei wariant yn uwch na maint y benthyciad gwreiddiol. Yn y ddwy flynedd 1896/97 newidiodd Parry ei dactegau’n llwyr gan droi o fod yn ddyledwr amddiffynnol i fod yn hapfasnachwr rhyfygus, ymosodol ac ar brydiau cwbl ddiegwyddor. Yr oedd pob swm o arian, naill ai mewn llaw neu mewn credyd dyled, yn ogystal â phob rhan o’i eiddo, ei bolisïau yswiriant, ei gyfranddaliadau, a hyd yn oed asedau ei blant, oll wedi eu clustnodi naill ai i dalu ei ddyledion neu yn ernes i godi rhagor o arian ar gyfer lansio mentrau newydd. Gyda haerllugrwydd a hyfdra hawliai Parry fenthyciadau gan gyfeillion mewn cwmnïau cyfreithiol lleol naill ai drwy ofyn am fenthyciad ariannol llawn neu drwy gyfrwng trosglwyddiadau ar eiddo neu bolisïau yswiriant, a hyn oll ar gyfer adeiladu ei fenter bwysicaf sef Coetmor Teras.  Meddai wrth un cwmni:- I am in the middle of building eight houses here and they have quite drained me. But when finished I hope to sell them when I shall be able to pay you a good portion of the balance if not all, and I trust you will allow it to remain until then.

Ond er gwaethaf ei holl broblemau a thrwy ddyfal barhad a dogn helaeth o hyfdra, gallai ysgrifennu ym mis Medi 1899 at reolwr Banc y National Provincial yn Llundain i ddatgan yn fuddugoliaethus, ac er gwaethaf ei holl orwariant: . I have this year built thereon 8 houses at a cost exceeding £1500, upon which I took an advance of £800. They are now completed and occupied bringing in a Rental of £97.10.0. per year.

Felly, dyna’r cefndir i adeiladu’r tai yng Nghoetmor Teras gan yr hen wariar cystadleuol na fynnai fyth dderbyn ei drechu heb daro’n ôl drwy ystryw a digywilydd-dra hyd nes ennill y frwydr yn orchestol a buddugoliaethus. Yn eironig diflannodd pob arwydd gweledol o fodolaeth W. J. Parry yn Nyffryn Ogwen erbyn heddiw – llosgwyd ei gartref yn Coetmor Hall, dirwynwyd ei fusnesau i ben yn y Stryd Fawr ac ar gwr y stesion, a chwalwyd holl olion Chwarel Pantdreiniog y bu ef mor ddiwyd yn ceisio ei datblygu drwy ran helaethaf ei oes – ond erys Coetmor Teras yn gofeb, o fath, i’w holl ymdrechion. Ond os chwalwyd y gweledol erys stamp arweiniol y gŵr rhyfeddol hwn ar sefydliadau a gwead cymdeithasol pentref Bethesda hyd at y cyfnod presennol ac i’r dyfodol.

Ffynhonnell 

J. Ll. W. Williams ‘Lle mae camp mae rhemp’ – degawd trychinebus W. J. Parry, Coetmor Hall, Bethesda – erthygl heb ei chyhoeddi.

Trafferth mewn pentra – y Rwsiaid unwaith eto

Cyfraniad gan Andre Lomozik un o’n cyfranwyr gwadd.

Ymddangosodd dwy erthygl ar y wefan yn gynharach eleni yn trafod dyfodiad y Rwsiaid i Dregarth i dorri coed yng nghoedwigoedd y Foel, Parc Dafydd Owen a Pharc y Bwlch yn ystod cyfnod y Rhyfel Byd cyntaf. Yr oeddynt yn griw o oddeutu 25 mewn nifer, yn fechgyn ieuanc llawn asbri a buan iawn y daethant yn rhan dderbyniol, er yn wahanol, o gymdeithas yr ardal. Yn weithwyr dygn yn ystod y dydd ond yn eu hamser hamdden yr oeddynt yn rhydd i gymdeithasu â phobol y pentref ac, yn naturiol, fel criw o fechgyn cyhyrog, Scandinafaidd ddeniadol eu gwedd, daethant i adnabod rhai o ferched ieuanc y fro. Yn wir bu i nifer bychan ohonynt briodi â merched lleol ac aros yn yr ardal wedi i’r rhelyw o’r criw ddychwelyd yn ôl i’r Ffindir ar derfyn y rhyfel. Stori ychydig yn wahanol, er hynny, yw testun y nodyn hwn, pan ddigwyddodd ymladdfa digon ciaidd rhwng un o’r bechgyn a nifer bychan o lafnau’r fro ym Methesda. Adroddwyd am yr helynt i’r heddlu ac, oherwydd difrifoldeb yr ymosodiad, danfonwyd yr achos i’r Llys i’w wrando ar ddau achlysur gan fainc Ynadon Bangor ym mis Chwefror 1918.

Yn y Llys adroddwyd fod y Ffiniad, yn dilyn mynychu rhai o dafarndai’r pentref, yn cerdded, ychydig yn feddw, i gyfeiriad Tregarth yng nghwmni un o ferched ieuanc y pentref. Ar waelod y stryd fawr ger Ffordd y Stesion daeth tri o fechgyn lleol i’w cyfarfod a hawliodd un o’r bechgyn, talgryf o gorff, y dylai’r Ffiniad ddiffodd ei dortsh a oedd wedi ei goleuo yn wyneb un o’i gyfeillion. Gwrthododd y Ffiniad wneud hynny, siaradwyd rhai geiriau brwnt rhyngddynt, a datblygodd yn ffrwgwd cas a honnodd y Ffiniad iddo gael ei daro i’r llawr ddwywaith cyn amddiffyn ei hun drwy dynnu cyllell a achosodd niwed i’r bachgen lleol. Plediodd yr ymosodwr nad oedd wedi ymyrryd â’r ferch, ond cyfaddefodd iddo gael geiriau croes gyda rhai o’r Ffiniaid rai misoedd ynghynt wedi iddo holi ynghylch eu gwaith yn torri coed. Ar ddiwedd y ffrwgwd aeth pawb ei ffordd ei hun, ond tynnwyd sylw’r heddlu at yr anghydfod oherwydd bod cyllell wedi ei defnyddio yn y sgarmes. Hyn a benderfynodd y byddai’r achos gael ei wrando yn y Llys.

Yn yr achos, a wrandawyd yn ystod wythnos gyntaf mis Chwefror 1918, methodd y fainc â chyrraedd dyfarniad. Rhyddhawyd y diffynnydd ar brawf gyda meichiau o £20 i’w enw, ond trosglwyddwyd yr achos i ail wrandawiad a gynhaliwyd wythnos yn ddiweddarach. Cafwyd tystiolaeth bellach gan dystion y diffynnydd a’r amddiffynnydd fel ei gilydd, a thystiolaeth feddygol ynghylch difrifoldeb yr anafiadau, ond yn y diwedd penderfynwyd, drwy fwyafrif y Fainc, i ryddhau’r achos heb gosb yn erbyn y Ffiniad, gyda’r rhybudd nad oedd tramorwyr i ddefnyddio cyllyll yn yr ardal ac y dylai’r ddwy garfan gymodi yn y dyfodol.

Mae ail ymweld â’r achos hwn o hirbell ganrif yn ddiweddarach yn hynod gyfarwydd rhywsut – y tramorwr glandeg, gydag ychydig o êl yn ei fol, a merch ddeniadol leol ar ei fraich, yn tramgwyddo ar diriogaeth sanctaidd bwli’r ardal. ‘Does dim byd yn newydd, a  ‘does nemor yr un wers wedi ei dysgu!

Ffynonellau

North Wales Chronicle and Advertiser for the Principality, mis Chwefror, 1918.

Gwefan Hanes Dyffryn Ogwen – Y Rwsiaid, Ionawr 2020; Y Rwsiaid eto, Chwefror 2020.

Ponciau Greenfield

Fig 1Chwarel Penrhyn 1808
Chwarel Penrhyn 1808

James Greenfield oedd rheolwr chwarel y Penrhyn yn y cyfnod rhwng ei benodiad yn 1799 hyd at ei farwolaeth annhymig yn 1825. Ef gafodd y weledigaeth o ddatblygu’r gloddfa  yn gyfres o bonciau cymesur yn dringo llethr y Fronllwyd ar ymyl ddeheuol plwyf Llandygái. Ychydig sy’n wybyddus am Greenfield oddieithr ei fod yn frodor o Swydd Sussex; iddo fyw ym Mryn Derwen, tŷ ysblennydd a gynlluniwyd yn arbennig ar ei gyfer ac iddo briodi â merch Benjamin Wyatt, prif ysgrifennydd stad y Penrhyn bryd hynny, ac yn olaf iddo foddi yn yr Afon Ogwen yn 1825 mewn amgylchiadau amheus nas eglurwyd.  Yr oedd yn amlwg yn un o benodiadau ysbrydoledig ei feistr Richard Pennant, ac yn ddyn anghyffredin ei ddoniau fel peiriannydd sifil, yn gymaint felly fel y gallai hawlio gan yr oruchwyliaeth adeiladu dŷ a fyddai yn gymesur â’i bwysigrwydd.

Yn 1802 mabwysiadodd Greenfield gloddfa oedd wedi ei datblygu gan ei ragflaenydd William Williams, yn gyfres o byllau dyfnion yn dilyn y gwely llechfaen  ar echel o’r dwyrain i gyfeiriad y gorllewin.  Mae cynllun o’r chwarel sy’n dyddio i 1826, flwyddyn wedi ei farwolaeth, yn cloriannu ei gampwaith arloesol. Bwriad y cynllun oedd cyflwyno  datblygiadau diweddaraf y chwarel.  Nid yw’r cynllun yn hawdd i’w ddehongli gan fod y chwarel wedi ei darlunio mewn un dimensiwn yn hytrach nag mewn tri, er cymaint ymdrech y cartograffydd  i oresgyn y broblem.  Yn y cynllun mae’r chwarel yn agor i gyfeiriad y gorllewin gyda llethr serth y Fronllwyd ar ochr chwith y darlun. Yn ôl confensiwn y  cartograffydd po dywyllaf y  cynllun po ddyfnaf y gloddfa, gyda’r gwrthwyneb yn cyflwyno uchder gan ysgafnder y lliw. Mae graddfa’r cynllun mewn mesur o lathenni ond yn dra anffodus nid oes mesur o uchder wedi ei gynnwys sy’n ychwanegu at ei ddiffyg eglurder.

P Q Greenfield 1825
Cynllun James Greenfield o Chwarel y Penrhyn ,  drwy garedigrwydd a chaniatâd  Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor. -Mapiau Penrhyn PFA/6/320

Er mor anodd yw dehongli manylder y cynllun mae tair elfen bwysicaf  y chwarel yn berffaith eglur,  sef dyfnder y twll, uchder y ponciau, a pheirianwaith ei gweithio fel un uned gynhwysfawr.  Mae’r twll sy’n mesur ar ei waelod oddeutu 100 llath ar ei draws wrth 250 llath ar ei hyd wedi ei dorri mewn ponciau – tair ar ochr y de (Lower quarry) a phedair ar ymyl  y gogledd (Nantwich a North quarry).  Mae’n amlwg fod dwy bonc is hefyd ar gychwyn eu datblygu. Uwchlaw’r twll mae ponciau Pool Quarry, ac Agor Goch yn dringo’r llethr ar ymyl y de,  a phonciau Twll Dwndwr, Porth yr Aur a Ffridd yn agor i gyfeiriad y de orllewin. Amcangyfrifir bod o leiaf saith ponc  yn dringo llethrau’r Fronllwyd erbyn 1826.  Yn olaf, mae peirianwaith y chwarel yn weithredol yn y ddwy brif allt sy’n dringo’r llethrau i’r de ac i dde orllewin o’r twll, yn ogystal â’r drydedd allt sy’n disgyn i’r twll. Dengys y cynllun fod rhannau o’r rhwydwaith yn newydd ond nid oes cyfeiriad i ddangos sut yr oedd yr elltydd  yn weithredol. Er hynny, mae’n ymddangos fod pob ponc yn uned annibynnol  ond eto drwy gyfrwng y gelltydd yn cyfrannu i gynllun integredig yr holl waith.  Gellir mesur llwyddiant y chwarel yn y nifer oedd yn gweithio yno yn 1825, sef 800 yn ôl ystadegau Hugh Derfel Hughes. Serch hynny, hon oedd y flwyddyn pan roddodd y gweithlu’r rhybudd cyntaf i’r oruchwyliaeth nad oedd telerau eu cyflogaeth yn deg. Cynhaliwyd streic a barhaodd am un dydd yn unig, ond hon oedd y rhagoel y byddai diffyg cytundeb rhwng gweithwyr a pherchennog yn arwain at chwerwder eithriadol mewn cysylltiadau diwydiannol yn y chwarel hyd derfyn y ganrif.

Ffig 5 Engrafiad 1850
Engrafiad o’r chwarel yn 1850

Greenfield sefydlodd y cynsail peirianyddol i lwyddiant chwarel y Penrhyn, a’i eiddo ef oedd y cynllun chwyldroadol a ddilynwyd mewn chwareli eraill ledled y byd lle’r oedd y ddaeareg a’r tirlun yn caniatáu gweithio ar lethr agored fel ar glogwyni’r Fronllwyd yn  Nyffryn Ogwen.

Ffynhonnell

Hugh Derfel Hughes. 1866. Hynafiaethau Llandegai  a Llanllechid. Bethesda