Meddai Syr Ifor

Neilltuodd Syr Ifor Williams rai penodau yn ei lyfr Enwau Lleoedd ar gyfer trafod geiriau cyffredin sy’n perthyn i lyn cors a phwll, i goed a llysiau ac i nodweddion eraill y mae ôl dyn arnynt. Mae’r canlynol yn enwau sy’n berthnasol i’n hardal ni yn Nyffryn Ogwen.

Aber (fel yn Aber Ogwen) –  Mae bêr yn elfen gyffredin yn golygu dwfr a chyda ychwanegiad y rhagddodiad ad– at ber cafwyd yr enw ad-ber sy’n disgrifio genau afon. Yna collwyd d yr ad gan roddi i ni aber fel yn yr enw.

Traeth Lafan – mae cryn ddyfalu ynghylch yr enw hwn. Cred rhai mai o Traeth Wylofain y daw’r enw, o gofio, wrth gwrs, fod cynhebryngau brenhinol tywysogion Gwynedd yn croesi’r traeth i Lanfaes, ac yno y gorwedd Siwan gwraig Llywelyn Fawr er enghraifft. Sylwodd Syr Ifor, er hynny, y gallasai math o wymon y cyfeirir ato fel llafan fod yn berthnasol i enw’r traeth. Ond yna drylliwyd ei ddamcaniaeth o wybod fod sawl cyfeiriad ar gael i gilfachau ar y Fenai yn dwyn enwau fel Efelafen ac Y Felafen.  Mae’r dewis felly yn eang, ond ni feiddiai Syr Ifor dderbyn yr un ohonynt fel y tarddiad cywir.

Coetmor  –  y coed mawr yw tarddiad yr enw sef y goedwig drwchus a amgylchynai’r hen blasty Canol Oesoedd ac a ddisgrifiwyd gan y teithiwr Thomas Pennant yn 1781 fel ’seated in the midst of lofty trees every now and then opening so as to admit sight of the exalted mountains and rocks soaring above with misty tops’.

Cororion –  mae’r enw hwn â chysylltiad uniongyrchol â stori Gwydion yn y Mabinogi yn adeiladu creu i’r moch ar ei daith yn ôl o Ddyfed ar ôl dwyn y moch oddi yno. Ystyr creu yw cwt i’r moch ac enwyd y lle y gwnaethpwyd y creu yn Creu-Wyrion, sef ein Cororion ni heddiw ger Tregarth.

Tref – ei ystyr gwreiddiol oedd cartref y pen teulu a’i feibion. Wedi i’r meibion adael yna ceid Tre’r Meibion, fel yn y fferm ger Talybont Tai’r Meibion, sydd wrth gwrs y drws nesaf i Dy’n yr Hendref neu Ty’n Hendre fel yr adnabyddir y fferm heddiw.

Pentref (megis Pentre’r Felin yn Nhalybont) – tŷ  pennaeth ystâd oedd y dref ac yno yr oedd ef yn byw, ond ym mhen arall yr ystâd, yn y pentref, trigai’r taeogion, yno i weithio’r tir ac i ofalu am y felin.

Yr Achub (neu Rachub) – y Lladin occupo yw gwraidd y gair achub, a gall olygu cymryd gafael o berson, fel Math yn achub Gwydion rhag rhedeg i ffwrdd yn y Mabinogi,  neu gall olygu cymryd meddiant o rywbeth materol, megis achub adeilad fel y golygir yng  nghyfreithiau Hywel Dda.  Felly yn achos pentref Rachub cymryd meddiant o ddarn o dir fyddai achub er mwyn sefydlu’r pentref bur debyg.

Sling – llain neu stribyn cul o dir, yn aml ar derfyn neu ar ymyl ffordd, rydd yr ystyr i sling ac felly i enw’r pentrefan ger Tregarth, ac mae clwt (fel yn Ty’n  Clwt) , llain a dryll yn enwau cyffelyb i’r un math o dir.

Bod  (megis yn Bod Feurig) – mae ystyr bod yn cyfateb i preswyl- fod, sef cartref y teulu, a dyma’r rheswm paham y’idefnyddir fel rhan o enw ar gynifer o gartrefi yng Nghymru. Serch hynny, yr oedd bod hefyd yn cyfateb i’r Hendref yn y drefn Gymreig o drawsdrefa rhwng Hendref llawr gwlad y gaeaf a Hafodty (Fotty) yn ucheldir yr haf.

Llety – gair cyfansawdd o lled, sef hanner, a tŷ.  Ac yn yr hanner arall megis y rhoddid  y dieithriaid i aros gan obeithio y byddai eu harhosiad yn lled gysurus.

Celli, Y Gelli – enw cyffredin ar lwyn o goed sy’n gyfystyr â’r gair grove yn Saesneg, ond nid yn golygu gwigfa o goed cyll fel y cred rhai.

Ysgrafell (megis yn Tanysgrafell) – offeryn i grafu yw ysgrafell, ac yn fwyaf arbennig ar gyfer glanhau ceffyl, ac megis crafu bodolaeth, efallai, ar lain o dir go arw fyddai addasrwydd yr enw hwn yn Nyffryn Ogwen.