Pentref Llanllechid

Yr oedd gan bentref Llanllechid ei ddyletswyddau lled statudol, yn codi’n benodol o’i gysylltiadau yn gwarchod buddiannau’r plwyf. Gorchwyl pwysig oedd cynnal cyfraith a threfn y plwyf. Yn Llanllechid y lleolwyd y cyffion (stocks) i garcharu troseddwyr, oedd â’i safle ar lain o dir dros y ffordd i fynedfa’r eglwys. Yn 1849 penderfynodd aelodau Cymdeithas Gwarchod  Comin Llanllechid benodi cwnstabl i ddiogelu buddiannau’r plwyf, y swyddog cyntaf o’i fath yn hanes yr ardal mae’n debyg. Mae gwerth nodi manylion y penodiad yn dilyn cofnodion y pwyllgor a gyfarfu yn nhafarn y Red Lion  ym mis Chwefror 1849:

‘The list of 15 men qualified or willing to serve as constables were made out and it was further resolved to appoint a paid constable in this parish to reside in or near Bethesda whose duty will be to prosecute all notons or drunken persons especially on Sundays and to see if the Publicans do keep regular hours according to the law, and to keep a  close a inspection at Bethesda on the Quarry pay days and the week following and also on the first and last days of each month and also to watch and keep care of commons of the parish of Llanllechid and to report every one who may cut turf or injure its pasture to which purpose he must visit the said commons from Penisarnant wall to Bryn Quarry time a week during the month of April, May, June, July, August nnd September, one of his visits to be on Saturday evening in each week … his salary being fixed this day at fifteen pounds, seven pounds and ten shillings from the Poor Rates, Col. Pennant having kindly proposed to pay the other seven pounds and ten shillings. That the person is to be recommended to Mr Wyatt [goruchwyliwr Stad y Penrhyn] by the Parish Officer and Mr John Parry of Bethesda, if approved by him he will be accounted duly elected’.

Yn y cyfarfod nesaf cofnodwyd fod ugain swllt i’w gyfrannu at brynu cot i’r plismon ar yr amod fod Pennant hefyd yn cyfrannu’r un faint o arian. Un o gyfrifoldebau ychwanegol y pentref oedd cynnal rhai o sefydliadau’r plwyf. Yn y fynwent, er enghraifft, y lleolwyd y ddeiol garreg  a gyflwynwyd yn 1795 gan Dafydd Wilson, bardd ac ysgolfeistr lleol, i gadw amser cyn i fecanwaith y cloc ddiorseddu cyfrwng yr haul. Fel pencadlys amaethyddol yr ardal yr oedd gefail y gof yno yn gwasanaethu cyfres o’r ffermydd cyfagos – Corbri yn dair uned,  Bryn Eithin, Pant Hwfa a Talysarn; ar y cyrion ddau dyddyn Bryn Hafod y Wern, Sychnant, Mignant a Powls, ac yn ddiweddarach yn y ganrif ofynion chwareli Bryn Hafod y Wern a Than y Bwlch. Yn ogystal yr oedd yno weithdy saer coed at ofyn y gymdogaeth. Sefydliad pwysig arall oedd y parc escheat lle y dygid defaid colledig comin Llanllechid i’w carcharu hyd nes eu hadfer gan eu perchnogion, neu eu gwerthu yn y sêl ‘siet’ arbennig a oedd yn rhan o’r ffair gyflogi a gynhelid yn y pentref ar Hydref 29ain bob blwyddyn. Mae’n bur debyg fod y ddau sefydliad yn perthyn i gyfnod llawer cynharach na 1849 pan drafodwyd sefydlu’r ‘pinfold’ yn ffurfiol a chyflogi gwarchodwr llawn amser i ddiogelu’r comin.  Y Red Lion oedd man cyfarfod y pwyllgorau hyn a pha bentref arall yn Nyffryn Ogwen â phoblogaeth barhaol o brin wyth deg allai ymfalchïo mewn bod â dwy dafarn, y Red Lion a’r Bull.

Eglwys Llanllechid
Eglwys Llanllechid

Yno hefyd yr oedd eglwys y plwyf, y corff sefydliadol o’r canol oesoedd yr heriwyd ei awdurdod moesol pan sefydlodd y Methodistiaid Calfinaidd gapel Peniel yn y pentref ym 1827. Erbyn 1864 roedd  gan y capel mawr 327 o gymunwyr tra bo 204 yn unig yn yr eglwys, buddugoliaeth foesol i Ymneilltuaeth os yw cyfrifo nifer yn bwysicach na mesur cred. Ac ar ochr arall y geiniog rhaid nodi mai yn Llanllechid y lleolwyd talwrn ymladd ceiliogod y plwyf ar safle sydd bellach yn anhysbys, tra bo Tŷ’r Ffeltiwr, murddun bychan dinod ar gychwyn y ffordd i Fryn Hafod y Wern, yn bragu cwrw answyddogol i ddisychedu’r plwyfolion. Ac wrth borth yr eglwys yr oedd lleoliad deiol yr haul, y teclyn carreg effeithiol a gyflwynwyd yn 1794 gan Dafydd Wilson, athro ysgol Llanllechid, i gofnodi’r amser i’r plwyfolion, cyfrwng yr hen fyd o bennu amser, a symbol o’r gorffennol ar drothwy croesawu dull y byd newydd o nodi amser drwy gyfrwng oriawr boced.

Capel Llan 1
Capel Peniel

Sut mae dehongli’r uchod? Ymddengys mai swyddogaethau plwyfol y ffermwyr oedd gwneud y penderfyniadau gweinyddol, gyda chymeradwyaeth swyddogion a pherchennog stad y Penrhyn wrth gwrs. Ffermwyr oedd y cwnstabliaid gwirfoddol, er enghraifft, a hwy oedd yn pennu nifer o wasanaethau cymdeithaso. Roedd yr hen fyd amaethyddol yn rheoli gan arwain, yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, at dyndra rhwng cymdeithas fwy hamddenol y tir a chymdeithas fwy heriol diwydiant y chwareli, deuoliaeth sydd yn perthyn i fwy nag un ardal yng Ngwynedd hyd heddiw. Yr hyn sy’n ddiddorol o edrych ar gynllun pentref Llanllechid heddiw yw na newidiodd yn ei faint na’i gymeriad gwledig, a hynny er bod pentref diwydiannol cyfan a dwy chwarel lechi yn ei gysgodi ar y terfyn. Felly, hen werthoedd y byd gwledig gynhaliodd bentref Llanllechid drwy gydol y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac mae sawr y byd hwnnw yn dal i aros yno er cymaint cyfnewidiadau’r oes bresennol. Mae bwlch dau gae rhwng y ddau bentref, Llanllechid a Rachub, ond mae mil a hanner o flynyddoedd o hanes yn eu rhannu – rhyfedd o fyd!

Gwybodaeth  bersonol gan Ieuan Wyn, Talgarreg, Ffordd Carneddi, Bethesda

Ffynonellau

Cofnodion Pwyllgor Gwarchod Comin Llanllechid – drwy law Edgar Roberts, Llanfairpwll.

E Namora Williams. 1985. Carneddog a’i deulu. Dinbych

Dôl Ddafydd

Nid oes yr un afon yn bod o dan y cread heb fod dyn neu natur, rhywbryd neu rhywdro, wedi cynllwynio i newid rhan, neu fwy, o’i llwybr i’r môr. Nid yw afon Ogwen yn eithriad i’r rheol hon, ac mae sawl ymyrraeth i’w ganfod yn ei chwrs rhwng ei tharddiad yn Llyn Ogwen a’i haber yn Aberogwen. Ym Mhont Ogwen, er enghraifft, newidiwyd ei chwrs rhag i’w dyfroedd lifo’n beryglus a boddi prif dwll cynhyrchu chwarel y Penrhyn, tra islaw yn Aberogwen sythwyd ei gwely drwy dorri gwddf y ddolen fawr oedd yn atal ei llif i’r môr.  Mewn mannau eraill dargyfeiriwyd ei dyfroedd i bweru mân ddiwydiannau – melinau blawd  yng Nghoetmor a Chochwillan, pandai ym Mhont y Pandy a Melin Cochwillan a pheiriannau  cynnal a chadw Stad y Penrhyn yn y Felin Isaf yn Llandygái. Ym Mhont Ogwen mae pwerdy Ynni Ogwen yn defnyddio ei dyfroedd i gynhyrchu trydan mewn cynllun cymunedol uchel iawn ei glod a’i lwyddiant. Mae rhai o bapurau’r Penrhyn o gyfnod y 18g yn tystio fod yr afon yn creu problemau dyrys yn ardal Llandygái yn dilyn llifogydd enfawr. Ym mis Mawrth 1770 ysgubodd llif yr afon y bont yn Llandygái a pheryglu’r felin, ei hargae a’i fflodiart olygodd adeiladu ‘hedge’, cob coed pur debyg, i waredu’r afon rhag creu dinistr pellach. Mae’r dystiolaeth hon yn cadarnhau fod mesurau cynnar wedi eu cymryd i warchod dolydd ei glannau rhag eu niweidio’n barhaol. Tybed a oes tystiolaeth fod camau tebyg wedi eu cymryd i ddiogelu a newid gwely’r afon mewn rhannau eraill o’i chwrs yn Nyffryn Ogwen? Credir bod camau eraill wedi’u cymryd, ond heb dystiolaeth ddogfennol i gadarnhau’r gosodiad a gyflwynir isod.

Un o nodweddion amlycaf yr afon ar ei thaith o gwta ddeng milltir i’r môr yw nifer y dolydd agored sy’n agor cydrhwng plygiadau o greigiau caled lle gorfodwyd yr afon i erydu ei gwely mewn cyfres o raeadrau prysur megis ym Mhont Ogwen, neu drwy gafnio ei llwybr mewn ceunant dwfn megis rhwng Pont Coetmor a Phont y Pandy. Ar derfyn Oes yr Iâ, ddeng mil a mwy o flynyddoedd yn ôl, cyfres o lynnoedd bychan oedd yn llenwi’r dolydd hyn gyda phlygiau’r creigiau megis gwrthgloddiau yn atal y dŵr yn ôl hyd oni, ymhen amser, i erydiad a llif yr afon eu bylchu.  Mae’r ddôl sy’n ymestyn yn eang rhwng pentref Bethesda a Phont Coetmor yn y gogledd yn gynnyrch yr amodau ffisegol hyn, ac mae’n amlwg fod yr afon wedi chwarae rhan bwysig yn hanes datblygiad y rhan hon o Ddyffryn Ogwen.

Screenshot_20201112-110705_Gallery
Rhan yn unig o fap Llanllechid gan George Leigh, Arolwg y Penrhyn 1768. Noder y newidiadau yng ngwely afon Ogwen rhwng Dôl Ddafydd a Phont Coetmor. Drwy garedigrwydd a chaniatâd Archifau a Chasgliadau Arbennig, Prifysgol Bangor.

Wrth lifo’n egnïol drwy bentref Bethesda yr oedd talcen enfawr y graig yn Ffordd y Stesion yn gorfodi’r afon i wyro i’r gorllewin cyn ymollwng i lifo’n rhydd a dilyffethair hyd gweirglodd agored Dôl Ddafydd, cartref presennol clwb rygbi pentref Bethesda, ac i’r ddôl gyferbyn yn Nhy’n Clwt. Heddiw gellir gweld cysgodion ei llwybr dolennog mewn lluniau o’r awyr, ac yn nhir Ty’n Clwt mae’n bosibl dilyn craith fylchog ei gwely hyd oni ei bod yn cysylltu, fwy neu lai, gyda ffrwd fechan sy’n llifo islaw rhes tai Fron Ogwen, gyda chob cerrig i’w gwarchod, cyn ymuno ag afon Ogwen uwchlaw Pont Coetmor.  Mae map Arolwg y Penrhyn 1768 o blwyf Llanllechid yn dangos yn eglur lwybr troellog ac ansefydlog yr hen wely ochr yn ochr â llwybr gwely newydd yr afon.

IMG_20200107_0004
Map Ordnans 1900 rhwng Dôl Ddafydd a Phont Coetmor yn nodi’r ffin weinyddol rhwng plwyf Llanllechid a Llandygái yn dilyn gwely ‘ffosil’ yr hen afon. Dengys y map gysylltiad Ffos Coetmor ag Afon Ogwen a’r ffos yn arwain i Felin Coetmor.

Ar fapiau Ordnans y cyfnod 1888/1900 mae llwybr troellog ‘ffosil’ yr hen afon yn ffurfio’r ffin statudol rhwng  plwyfi Llanllechid a Llandygái, ac yn dechnegol fe berthyn dôl fawr Ty’n Clwt i blwyf Llanllechid ac nid i blwyf Llandygái, sefyllfa i gnoi cil arno gan mai i stad Coetmor y perthynai’r tir hwn yn wreiddiol cyn 1855, ac nid i stad y Penrhyn.  Ers cyn cof afonydd oedd yn ffurfio’r ffiniau mwy arhosol rhwng tiriogaethau cymunedau bychan a gwledydd mawrion fel ei gilydd, a dyna oedd swyddogaeth afon Ogwen yn ogystal. Yr oedd dau blwyf Dyffryn Ogwen mewn bodolaeth ers y Canol Oesoedd fel unedau eglwysig a’r afon, fel heddiw, oedd y ffin rhyngddynt. O dan drefn weinyddol Tywysogion Gwynedd yn y 13g afon Ogwen oedd yn gwarchod y ffin rhwng trefgor Creuwyrion a threfgor Bodfeio yng nghwmwd Arllechwedd Uchaf. Yn hanesyddol, felly, perthyn hen gwrs afon Ogwen i gyfnod cynnar iawn yn y Canol Oesoedd, ond nid yw’r casgliad hwn yn cyfrannu dim at ddatrys pam, sut a phryd y daeth y gwely newydd i fodolaeth rhwng Dôl Ddafydd yn y de a Phont Coetmor yn y gogledd.

Cyfeiriwyd eisoes at bwysigrwydd map Arolwg y Penrhyn yn cadarnhau fod llwybr newydd yr afon wedi ei sefydlu, fwy neu lai, cyn ac yn sicr erbyn 1768. Dengys y map fod y ddolen rhwng  y talcen llechi islaw Ffordd y Stesion ac aber afon Galedffrwd (Pont Sarnau) mewn bodolaeth ac mae’n rhesymol ystyried yr adeiladwyd y cob cerrig bryd hynny i ddargyfeirio’r afon rhag llifo i Ddôl Ddafydd, gan ymestyn y cob ymlaen cyn belled â Llyn Tsieni. Adnewyddwyd y rhag-glawdd yn y 19g gyda llechi o domen rwbel chwarel gyfagos Llety’r Adar. Golygodd hyn droi’r afon i lifo am gryn chwarter milltir mewn dolen sylweddol ei maint, ond o gyrraedd at ddôl fawr Ty’n Clwt gorfodwyd hi unwaith yn rhagor i wyro, cyn mabwysiadu ar wely cymharol unionsyth sy’n arwain i Ddôl Goch yn y gogledd orllewin. Oddi yno i Bont Coetmor mae’r afon yn crymu unwaith yn rhagor i lifo eto rhwng cobiau cerrig sy’n atgyfnerthu ei thorlannau. Yn y tro yn Nhy’n Clwt mae banc o gerrig sylweddol ei faint ar lan y ddôl sy’n gyrru’r dŵr i redeg yn gyflym i gyfeiriad y dorlan gyferbyn – nid banc naturiol mo hwn ond yn hytrach un a adeiladwyd mewn cymysgedd o gerrig cymedrol eu maint sydd wedi eu hangori gan drefniant o lechi ar eu cylith – a’r banc hwn sy’n gwthio’r afon i newid ei chwrs.

Raw011
Map Johnson 1855 yn dangos safle Dôl Ddafydd a rhan yn unig o’r rhaglawdd i gadw’r afon rhag llifo i’r ddôl. Map Johnson drwy ganiatâd Adran Archifau a Llawysgrifau Prifysgol Bangor, Papurau a Mapiau Penrhyn Ychwanegol

Ond i ba bwrpas y gwnaethpwyd yr holl gyfnewidiadau hyn i’r afon rhwng Dôl Ddafydd a Phont Coetmor?  Yr esboniad rhesymol, ond nid efallai’r cywiraf, fyddai fod newid ei chwrs wedi ei gynllunio i atal llifogydd ar y dolydd, ond mae profiadau’r cyfnod presennol yn tanseilio’r fath ganlyniad. Gellir cynnig dwy ddamcaniaeth arall, y ddwy yn seiliedig ar leoliad a phwysigrwydd Ffos Coetmor yn yr estyniad islaw’r tro ger dôl fawr Ty’n Clwt, er mae’n rhaid cyfaddef nad oes tystiolaeth ddogfennol i gynnal yr un o’r ddau ddyfaliad a ganlyn. Ffos Coetmor yw un o ffosydd cynharaf Dyffryn Ogwen a luniwyd yn arbennig  i wasanaethu hen blasty bonheddig Coetmor y gellir olrhain ei hanes yn ôl i’r 15g os nad cynt, ac yn wreiddiol yr oedd y ddyfrffos hwn yn ymuno ag afon Ogwen ychydig fetrau i’r gogledd o’r tro yn yr afon. Addaswyd y  ffos mewn cyfnod diweddarach i ddanfon ei dŵr i bweru’r felin rawn ger Pont Coetmor gryn hanner milltir i’r gogledd, ac ychwanegwyd at ei chyfaint drwy adeiladu fflodiart yn nhro’r Ogwen i gyflenwi dŵr ychwanegol i weithio chwarel lechi Coetmor ym Mryn Bella.  Addasiadau diweddarach na map 1768 oedd y rhain – y felin yn ddyddiedig nid cynt na 1788, sef dyddiad pont Coetmor, a’r chwarel i 1826 – a dyna grynhoi tystiolaeth y cyntaf o’r ddau ddyfaliad, sef mai addasiadau ar ddechrau’r 19g  oedd yn gyfrifol am newid cwrs yr afon. Mae’r ail dybiaeth yn ystyried dyddiad cynharach i Ffos Coetmor, ac o’i chyflawni yn y Canol Oesoedd, sut y byddai ei dyfroedd yn ymuno ag afon Ogwen, o gofio y byddai cwrs yr afon yn llifo gryn bellter i ffwrdd ar eithaf dôl fawr Ty’n Clwt?  Mae canlyniad y dybiaeth yn eglur, sef bod cyd-berthnasedd yr afon a’r ddyfrffos yn perthyn i gyfnod amhenodol cyn 1768. O’i ystyried mae’r casgliad hwn efallai yn rhy ryfeddol i’w dderbyn, sef y troswyd afon Ogwen yn benodol ar gyfer derbyn dyfroedd ffos hynafol Coetmor, a hynny, bur debyg, mor gynnar â’r Canol Oesoedd. Yn dra anffodus ni all Map 1768 gadarnhau’r dybiaeth gan mai map tiriogaeth y Penrhyn ydyw, ac fel yr eglurwyd yn gynharach, ar dir annibynnol stad Coetmor y byddai’r ddau ddyfrffos wedi ymuno.

IMG_0336
Y banc cerrig ar lan dôl fawr Ty’n Clwt sy’n gorfodi afon Ogwen i wyro i’r dorlan gyferbyn

Mae un casgliad pendant i’r holl ddyfalu, nid drwy brosesau naturiol o erydiad a thraws lifo mae’r Ogwen wedi meddiannu ei chwrs presennol rhwng Dôl Ddafydd a Phont Coetmor, ond yn hytrach drwy ymyrraeth dyn.  Fel y trafodwyd, pryd y bu hyn ddigwydd yng nghyfnodau hanes sydd yn gwestiwn na ellir ei ateb yn bendant, ond efallai, rhyw ddydd yn y dyfodol, daw dogfennau i’r fei wnaiff gadarnhau’r naill neu’r llall o’r cynigion a drafodwyd uchod.

Diolch – ffrwyth trafodaethau lu gydag Einion Thomas, cyn archifydd Prifysgol Bangor, yw’r nodyn hwn ac Einion sy’n gyfrifol am ddwyn sylw at y llawysgrif isod. Diolch hefyd i Idris Lewis, Dolwern, am ei gyfraniad gyda’r delweddau.

Ffynhonnell

Archifdy Prifysgol Bangor,  Llawysgrif PFA/14/313 – Richard Hughes i (John Pennant?), Mawrth 22, 1770.