Arfonwyson a Phentan Bryn Twrw

Dyma erthygl gan un o’n cyfranwyr gwadd Deri Tomos, Llanllechid. Mae dolenni at ragor o wybodaeth ar ddiwedd yr erthygl.

panel-1-20190108_140800
Y planedau yn cylchynnu’r haul ym Mryn Twrw.

Ymysg rhyfeddodau Dyffryn Ogwen mae ugeiniau, onid cannoedd, o bentanau a llechi mawrion eraill a gerfiwyd yn hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg er mwyn addurno nifer o anheddau’r dyffryn. Dyma Lechi Cerfiedig Dyffryn Ogwen. Mae nifer ag arnynt ddyddiadau rhwng 1823 a 1843. Wedi’r cyfnod byr hwn aeth yr arfer o’u cerfio allan o ffasiwn ac, i bob pwrpas, yn angof. Yn sicr collwyd nifer ohonynt am byth. Ond o tua 1977 dechreuodd ymchwil, a brwdfrydedd, Gwenno Caffell ac aelodau eraill Cymdeithas Archaeoleg Llandegai a Llanllechid newid yr agwedd ddi-hid hyd yma ac achub nifer o drysorau a fyddai wedi’u colli am byth heb eu gwaith. Yn 1983 cyhoeddwyd y llyfryn (dwyieithog) a oedd i dynnu sylw ehangach atynt (Llechi Cerfiedig Dyffryn Ogwen, Amgueddfa Genedlaethol Cymru). Er, yn ôl y sôn yn y Dyffryn, bu angen cryn berswâd ar yr Amgueddfa Genedlaethol i ymgymryd â’r gwaith ! Mae enwau nifer o’r unigolion a fu’n allweddol yn hyn o beth wedi’u rhestru yn y llyfryn.

Cafell Map DO
Dosbarthiad rhai o Lechi Cerfiedig Dyffryn Ogwen (o lyfr Gwenno Cafell).

Yn ddiweddar bu adferiad pellach ym mhroffil y traddodiad wrth i’r artist Sian Owen, sydd â’i gwreiddiau yng Nghaellwyngrydd, ddefnyddio ambell batrwm i ysbrydoli  celf newydd gan drefnu arddangosfeydd a gweithdai pwrpasol. Bu sawl disgrifiad cyhoeddus ar glawr a sgrîn, gan gynnwys rhai gan Magnus Magnusson, Jan Morris a Dewi Prysor.

Mae i bob pentan ei hanes ei hun, ond goroesodd cryn dipyn o gefndir y toreth o fanylion annisgwyl sydd wedi’u cynnwys yng nghynllun un ohonynt. Llechi Seryddol Bryn Twrw yw’r pentan hwnnw. Yn ôl Gwenno Caffell mae’r rhain ymhlith y llechi cerfiedig mwyaf a gofnodwyd. Er nad ydynt, bellach, ym Mryn Twrw maent wedi’u gwarchod yn ofalus. Yn 1983 gwnaethpwyd copi mewn resin ohonynt, sydd bellach yng nghasgliad Storiel (Amgueddfa Bangor).

Pentan Bryn Twrw (DSC_0571) - rhifo
Y pentan yn ei le heddiw. Ar ei dri llechfaen mae 12 o baneli unigol llawn manylion seryddol a sêr ddewiniol.

Wedi’i wneud o dri llechfaen mawr, mae i’r pentan bum pâr o baneli gwyddonol manwl ynghyd â phanel canol lle amgylchynir enwau a dyddiadau teulu Bryn Twrw (Richard  a Grace Jones a’u merch Eleanor) gan ddarluniadau gwych o deulu’r Sidydd.  Y panel sêr-ddewiniol hwn, yn bennaf, sydd wedi dal llygad ymwelwyr diweddar. (Gan gynnwys, yn ôl y sôn, gais gan fyfyrwyr o Fangor ar i’r Parch Aelwyn Roberts fwrw allan gythreuliaid !)  Ond y mae i’r pentan liaws o fanylion eraill sy’n adlewyrchiad dadlennol o’r wybodaeth am seryddiaeth yn 1837 – gan gynnwys manylion clip (diffyg) haul 1836, ymweliad comed Halley yn 1835, y pedair planed (cor-blanedau bellach) newydd a ddarganfuwyd yn negawd cyntaf y ganrif ac, o bosib, un o’r lluniau cyntaf o’r smotyn mawr coch presennol ar wyneb y blaned Iau.

Gwyddom i’r wybodaeth gyrraedd Bryn Twrw yn 1835 o law mathemategydd o’r enw John William Thomas a aned yn Rallt Isaf, Pentir, yn 1805 yn fab i Dorothy a William Thomas, gofalwr cŵn Plas Pentir. (Defnyddiodd John William yr enwau “Arfon” ac yna “Arfonwyson” wrth lythyru a chyhoeddi.)  Mae copi o un llythyr allweddol wedi’i gynnwys yn yr erthygl amdano yn Y Gwyddoniadur Cymreig. Ym meddiant disgynyddion Richard a Grace mae copïau o gylchgronau gwyddoniaeth boblogaidd y cyfnod sy’n dogfennu safon a chynnwys gwybodaeth a diddordeb gwerin ddeallus y cyfnod. Mae’n debyg mai trwy law Arfonwyson y cyrhaeddodd y rhain y dyffryn. Er mai yn Saesneg y mae’r dogfennau hyn, uchelgais John William Thomas oedd sicrhau bod eu cynnwys a’u cefndir ar gael i’r darllenydd Cymraeg. (Cymraeg, wrth gwrs,  yw iaith y pentan.) Treuliodd ei fywyd byr (bu farw o’r diciâu yn 1840 tra’n gweithio yn Arsyllfa’r Brenin yn Greenwich) yn addysgu a chyhoeddi yn Gymraeg ar fathemateg a seryddiaeth. 

Mae hanes bywyd Arfonwyson wedi’i gofnodi’n drwyadl gan y gwyddonydd R. Elwyn Hughes (Pentyrch) ac mewn ambell goffadwriaeth o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.  Cyhoeddwyd ychydig am ei gyfraniad i ddysgu mathemateg trwy’r Gymraeg – pwnc amserol iawn i ni heddiw – gan Gwyn Llewelyn Chambers.  (Mae erthyglau Elwyn a Gwyn i’w cael yn llawn ar wefan y Llyfrgell Genedlaethol.)  Mae Peter Lord yn cofnodi y paentiwyd llun ohono ar gyfer Cymreigyddion Llundain gan William Roos, yr artist ffasiynol o Gymru, ond diflannodd pob cofnod o’r llun hwn yn fuan wedi’i farwolaeth. Erbyn heddiw diflannodd, hefyd, bob arwydd o’i fedd ym mynwent eglwys Alphege yn Greenwich.

Mae angen mwy o ymchwil i deulu a (unrhyw) disgynyddion i John William Thomas a hefyd fanylion teulu Richard a Grace Jones – a’u perthynas â cherfwyr y Pentan. Mae eu henwau hwythau – Thomas a William Jones – yn elfen fawreddog o gynllun y panel canol.

Wrth baratoi ar gyfer darlith ddiweddar ar Arfonwyson a Phentan Bryn Twrw aethpwyd ati i ddogfennu’n ffotograffig ac esbonio manylion, yn arbennig fanylion gwyddonol, y llechi. Oherwydd natur sgleiniog y pentan (wedi bron i ddwy ganrif o flac-ledio gofalus !) nid hawdd i amatur dynnu lluniau eang – felly aethpwyd ati i ddarlunio’r manylion unigol.

 

Casglwyd tua 200 o luniau unigol, pob un yn gofyn am eglurhad. Felly, fe’u dosbarthwyd yma yn bum rhan ar wahân y gellir eu cyrraedd drwy’r cysylltiadau gwe (hyperddolenau) isod. (Mae’r rhan fwyaf o’r lluniau wedi’i lleihau ar gyfer y wefan. Os hoffech gopi maint gwreiddiol, neu os hoffech lawr lwytho ffeil pdf o’r rhannau, rhoir cyfarwyddiadau yn y mannau priodol.)

Manylion gwyddonol Arfonwyson a Phentan Bryn Twrw:

Rhan 1:  Y Sidydd
Rhan 2:  Cysawd yr Haul
Rhan 3:  Seryddiaeth Diffygiadau’ ar yr Haul a’r Lleuad
Rhan 4:  Comed Halley a Chlip Haul 1836
Rhan 5:  Ychydig Gefndir

Mae’r ffeiliau yn agor mewn tudalen newydd, er mwyn eich galluogi i ddychwelid yn hawdd i’r wefan hon.)

Y Cob Mawr

Nodyn ar y cyd ag Idris Lewis, Dolwern, Ffordd Bangor. Ei eiddo ef yw’r holl ddelweddau.

Mynedfa i’r chwarel a’r bont drwy’r cob ym Mryn Llwyd

Mae’r nodyn hwn yn trafod adeiladu  rhagfur hir ac uchel yn Chwarel y Penrhyn nad oedd iddo, hyd sy’n wybyddus, enw swyddogol yn hanes y gloddfa.  Adeiladwyd y cob i redeg rhwng Pont Ogwen a Bryn Llwyd,  gan ffurfio mwgwd gwarcheidiol ar y fynedfa i’r chwarel.  Yr oedd hwn yn anferth o ragfur solet ei adeiladwaith  (oddeutu 300 metr o hyd a 7 metr o uchder) ac i gyrraedd y chwarel lluniwyd agoriad bychan, yn bont gul, i gael mynediad drwyddo.  Mae’n debyg nad oedd arbenigedd mawr yn ei adeiladwaith, mur o glytiau llechi cymesur tebyg i ragfuriau’r Felin Fawr oedd yn ei gyfansoddiad. Nid oedd prinder yn y chwarel o’r deunydd crai i’w adeiladu, er nad oedd ei adeiladwaith syml i’w gymharu ag ysblander peirianyddol pont Rhiwbryfdir ym Mlaenau Ffestiniog er enghraifft. Serch hynny yr oedd yn adeilad a fyddai’n tynnu sylw unrhyw ymwelydd a fyddai’n gorfod ymwthio drwy ei agoriad cyfyng i fynychu’r chwarel.

Rhan o fap ordnans 1899. Noder safle’r cob mawr i’r dde o Ty’n y Coed ac yn arwain y rheilffordd i Bonc Red Lion ac ymlaen ar ei thraws i’r Allt Fawr a Bryn Llys i gyrraedd y Felin Fawr.

Gellir pennu cyfnod adeiladu’r rhagfur i’r degawd rhwng 1888 ac 1899 o ganfod  y newidiadau a welir ym mapiau ordnans manwl y deng mlynedd sydd  rhwng y ddau ddyddiad. Yr ardal benodol sydd dan sylw oedd estyniad o dir gwyrdd, megis, rhwng tomennydd amgylchynol a oedd yn arwain at brif fynedfa’r chwarel yn ardal Bryn Llwyd. Cynhwysai’r rhimyn hwn o dir nifer o dai megis Bryn Llwyd a Ty’n y Coed ac yno hefyd yr oedd capel cyntaf enwad yr Annibynwyr yn Nyffryn Ogwen yn Tros y Ffordd. Yn 1888 dengys y map fod rheilffordd yn croesi’r ardal hon o ochr chwith y gwaith, ochr y gogledd ddwyrain, i ymuno, ar yr un llaw, â rhwydwaith prif bonc cynhyrchu’r chwarel yn Red Lion, ac ar y llaw arall i arwain yn ddolen estynedig hyd ymyl ddwyreiniol y twll nes cyrraedd y Felin Fawr yng Nghoed y Parc. Cynlluniwyd y rheilffordd i redeg rhwng Tros y Ffordd ac yn rhyfeddol o agos at gongl adeilad Ty’n y Coed. Erbyn 1899 mae’n amlwg fod nifer o newidiadau wedi  digwydd yn ystod y ddegawd a aeth heibio. Yn gyntaf  cynlluniwyd dyfrffos o afon Ogwen uwchlaw Pont Ogwen  i fwydo dŵr i weithio pympiau hydrolig y chwarel a hynny mor gynnar â chanol y ganrif.  Yn ail adeiladwyd y cob mawr i gynnal y rheilffordd ar lwybr sydd bellach yn rhedeg i’r dwyrain o Dyn y Coed gan fanteisio yn ogystal ar gopa tomen fechan i godi uchder y lein uwchlaw dau begwn y pant islaw yn Tros y Ffordd.

Rhan o fap ordnans 1888. Noder safle’r ffordd haearn rhwng Tros y Ffordd a Ty’n y Coed (canol isaf y map) ac yn dilyn yn fwa o amgylch y tomennydd rwbel ar y ffordd i Fryn Llys a’r Felin Fawr

Golygodd adeiladu’r cob newid holl gynllun trafnidiaeth fewnol y chwarel.  Hwylusodd uchder y cob i gysylltu’n uniongyrchol gyda Phonc Red Lion gan hepgor y ddolen fawr ar ochr y dwyrain a arweiniai i’r Felin Fawr. Drwy wneud hyn gallai’r chwarel ymestyn y twll a’r tomennydd i gyfeiriad y dwyrain ac yn raddol gladdu hen wely’r rheilffordd,  sydd, o ryfeddod yn ein cyfnod ni, wedi ei hail adfer ar ffurf Lôn Las Ogwen.  Ond i gynnal y cysylltiad hollbwysig â’r Felin Fawr cynlluniwyd  gallt o ben gogledd Ponc Red Lion i arwain yn uniongyrchol i’r Felin. Dyma efallai un o’r gelltydd pwysicaf yn yr holl gyfundrefn a’r unig un i’w gweithredu drwy gysylltiad cadwyn ar ddrwm yn hytrach nag ar wifren fel gweddill gelltydd y chwarel. Felly, erbyn 1899 yr oedd y gyfundrefn newydd mewn bodolaeth ac adeilad y cob yn ddolen hollbwysig yn ei chynnal.

Rhan o fap ordnans 1914. Noder y cob mawr yn ei lawn faint ac yn cyfeirio’r rheilffordd i Bonc Red Lion ac ymlaen i Fryn Llys a’r Felin Fawr

Yn ystod cyfnod hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif ehangodd pwysigrwydd y cob fwyfwy wrth i gyfnewidiadau yng nghynlluniau’r chwarel ddatblygu o’r newydd. Erbyn dauddegau’r ganrif yr oedd cynlluniau ar droed i weddnewid ochr chwith y gwaith oherwydd mai yno y tybiai’r perchnogion weld ei dyfodol mwyaf llwyddiannus.  Un o’r cynlluniau  mwyaf uchelgeisiol oedd i newid sianel Afon Ogwen rhwng Pont Ogwen a Phont y Tŵr, yn benodol rhag bod ei dyfroedd yn peryglu twll y chwarel ar ymyl gorllewin ei glan.   Ail gynllun oedd datblygu system o aer dan bwysedd i weithio driliau tyllu’r graig drwy’r chwarel i ddisodli’r hen drefn lafurus o dyllu drwy law. Yn ganolog i’r cynllun roedd cynhyrchu egni drwy harneisio dŵr o afon Ogwen fel y grym i weithio tyrbin a leolwyd mewn cwt nepell o Fryn Llwyd.

Map y bibell ddŵr

Cysylltwyd y cwt drwy ddyfrffos o gronfa fechan a gynlluniwyd ar yr afon uwchlaw Pont Ogwen, ac unwaith yn rhagor defnyddiwyd y cob fel y ddolen gyswllt hollbwysig i drosglwyddo’r bibell aer i’r chwarel. 1929 oedd y flwyddyn y  datblygwyd y cynllun aer dan bwysedd yn y chwarel a chymal Pont Ogwen oedd yr unig un i’w bweru ag egni heidro. Trydan a ddefnyddiwyd i weithio’r cynllun yn rhannau eraill y gwaith. Pwysigrwydd y cynllun heidro oedd ei fod yn cynnig, ar amcangyfrif, arbedion o £1610 y flwyddyn, swm a oedd ben ac ysgwydd yn rhatach i’w gynnal na’r cymal cyfatebol a bwerwyd ag ynni trydan.

Y cob mawr yn edrych i gyfeiriad y de yn dangos y bibell aer dan wasgedd ar yr wyneb

Daeth newid byd i’r chwarel yn ystod chwedegau’r ganrif pan ddaeth trefn hen ffasiwn o dan berchnogaeth y Penrhyn i’w therfyn a chyflwynwyd cyfundrefn newydd o redeg y gwaith gan gwmni mawr rhyngwladol McAlpine. Ysgubwyd ymaith y gofyn am dyrbin hen ffasiwn i gynhyrchu aer dan bwysedd ac yn sgil y newid daeth un o brif swyddogaethau’r cob i’w derfyn. Lawn cyn bwysiced oedd  dull sylfaenol y perchnogion newydd o redeg y gwaith. Cynt rhwydwaith o reilffyrdd cul oedd sylfaen y drefn fewnol, a’r trên bach oedd y cyfrwng allanol sidet, hen ffasiwn ac anghymwys, bellach trefnwyd i hepgor yr holl gyfundrefn yn llwyr drwy ddefnyddio cyfresi o lorïau trymion i wasanaethu’n fewnol a thrafnidiaeth cludiant cyhoeddus i ddosbarthu’n allanol. O ganlyniad yr oedd y cob mawr yn rhwystr enfawr i hwylustod y gyfundrefn yn ogystal ag i ddelwedd allanol y gwaith. Ac felly nid drwy bont gul mewn rhagfur gwarcheidiol enfawr yr oedd y chwarel i’w phortreadu i’r byd mawr modern allanol. Yn 1964 chwalwyd y cob ac yn y weithred hon daeth symbol o’r hen gyfundrefn i’w derfyn. 

Yr Allt Fawr o ben Gogledd Red Lion yn arwain i’r Felin Fawr

Gweler erthygl gan Dee Edwards  The Llyn Meurig triangle . Gwreiddiau Gwynedd,  2020, Cyfrol 2, Rhif 79, 16-18.