Jamaica

jamaica b

Rhan o fap Archifdy Prifysgol Bangor. Penrhyn 2790 – cynllun stadau siwgr Richard Pennant yn Jamaica – Denbigh, Coates a Bullards

Pan briododd Ann Susannah, aeres y Penrhyn, â Richard Pennant yn 1765 mae’n anodd gwybod pwy a gafodd y fargen orau – y fo a ddaeth yn berchen ar hanner stad yn Nyffryn Ogwen a oedd mewn cyflwr truenus, ynteu hi o briodi i mewn i deulu oedd â phlanhigfeydd siwgr eang yn Jamaica.

Yr oedd gwladychu Ynysoedd India’r Gorllewin yn rhan o bolisi Prydain yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg a’r deunawfed. Y bwriad oedd y byddai gwneud hynny yn cyfrannu at gyfoeth y wlad drwy greu marchnadoedd newydd i’w chynhyrchion ac ar yr un pryd yn cyflenwi danteithion trofannol i’w phoblogaeth – siwgr, coco, indigo, baco, pimento a sinsir yn bennaf. Dechreuwyd ar y broses o rannu ynys Jamaica yn rhanbarthau ar gyfer tyfu siwgr cansen o tua 1670 ymlaen ond oherwydd gofynion amgylcheddol mawr tyfu’r cnwd a gofynion trwm y llafur o’i brosesu ni ddaeth yn adnodd poblogaidd tan ar ôl 1700. Gwarchodwyd cynhyrchu siwgr yn nhrefedigaethau Prydain yn India’r Gorllewin gan fesur y Molasses Act yn 1733 ac arweiniodd hyn at sefydlu siwgr yn gonglfaen economi’r ynys yn yr oes aur rhwng 1740 a 1775. Mewn arolygiad yn 1670 amcangyfrifwyd mai 15,000 oedd poblogaeth wyn Jamaica, ond yn dilyn rhyfeloedd yn erbyn Ffrainc disgynnodd y boblogaeth wyn i 7,000 erbyn 1699. Ond yn gyfesur â hynny chwyddodd poblogaeth caethweision yr ynys o 30,000 yn 1689 i 55,000 erbyn 1713.

Sylfaenydd ffortiwn Pennant yn Jamaica oedd Giffard Pennant, un o ddisgynyddion teulu enwog y Pennantiaid o Dreffynnon a Bagillt yn Sir y Fflint, milwr wrth ei alwedigaeth ac aelod o gatrawd warchodol yn Jamaica. Pan fu farw yn 1676 yr oedd yn berchen ar gyfanswm o 7,327 acer o dir mewn dau ranbarth o’r ynys ym mhlwyfi Clarendon a King’s Valley. Cyfeiriodd sylwebydd at Clarendon yn 1774 fel “one of the largest, healthiest and best settled parishes in the whole island”. Cnewyllyn y stadau siwgr ar y tiroedd hyn a etifeddodd Richard gan ei dad, John Pennant, yn 1781. Er bod Richard wedi ei eni yn ôl pob tebyg ar yr ynys, fel perchennog absennol y byddai’n gweinyddu ei diriogaethau yn Jamaica a rheolwyr oedd yn gyfrifol am redeg ei holl stadau fel yn achos y mwyafrif o’i gyd berchnogion ar yr ynys.

Jamaica a
Rhan o fap Archifdy Prifysgol Bangor. Penrhyn 2790 – cynllun stadau siwgr Richard Pennant yn Jamaica – Denbigh, Coates a Bullards

Yr oedd Richard yn berchen ar saith stad ar yr ynys – Coates, Denbigh, Thomas River, Kupius, King’s Valley, ‘Waterwork’ estate a Bullards Savanna, oll yn cael eu gweithio gan lafur caethweision. Yr oedd yr holl gyfundrefn yn ddibynnol ar gaethweision – ‘nothing can be done without negroes’ oedd barn sylfaenol yr asiant bryd hynny. Yn 1780 ar bedair o stadau Richard llafuriau 471 caethwas, ac yn King’s Valley roedd 295 caethwas. Gellir dosbarthu oedolion King’s Valley i wahanol gategorïau o ran oed fel a ganlyn:

20/30 blwydd 30/40 blwydd 40/50 blwydd 50/60 blwydd 60/70 blwydd
Dynion 42 23 12 8 2
Merched 55 28 12 9 5
Cyfanswm 97 51 24 17 7

Nid oedd cydwybod ynghylch moesoldeb caethwasiaeth yn mennu dim ar fywyd breintiedig Richard Pennant. Dyna oedd moes dderbyniol y dydd ac yr oedd ef fel un o ddau Aelod Seneddol dinas Lerpwl, un o brif borthladdoedd masnachu ag ynysoedd India’r Gorllewin, yn amddiffynnydd brwd iawnderau ei gydberchnogion ar lawr Tŷ’r Cyffredin. Mynegai yn ei lythyrau at y rheolwr agwedd dadol dros y caethweision gan holi am eu buddiannau, eu tasgau gwaith, cyflwr eu hiechyd ac ansawdd y bwyd ar eu cyfer. Meddai -‘Humanity, as well as the interest of the proprietor, demand that they should be taken care of’. Wedi’r cyfan onid oedd pob un ohonynt yn fuddsoddiad ariannol? Ar un achlysur yr oedd Richard yn bryderus am foesoldeb y merched, gan gyfeirio at eu hanniweirdeb, ond dro arall pryderai nad oedd genedigaethau yn cyflenwi gofynion parhaol ei stadau am lafur o gofio yn arbennig fod magu yn llawer rhatach na phrynu. Meddai un sylwebydd  ‘Every infant that a planter can raise on his estate is worth two he can buy … how expedient then it is for us to turn our attention and thought to so important a concern’. Ac meddai’r asiant wrth John Pennant yn 1772 -‘There is no such thing as long credit for negroes.  I have bought six men for Kupius’s and six for Denbigh and ten  boys and girls for Kupius and ten for Denbigh and I must buy six men more for each and six for Thomas’s River  … and these 20 boys and girls bought will do no service for two years more than weeding canes and … for these bought I must draw bill very soon, the men are £65 and the boys and girls £50’.

Yr oedd bywyd y caethwas yn un caled a thorcalonnus. Cymerai’r gansen siwgr fwy na blwyddyn i’w thyfu ond rhaid oedd paratoi’r tir yn ofalus cyn ei phlannu. Byddid yn rhofio’r tir dair neu bedair gwaith i gychwyn cyn plannu, y gorchwyl yn gofyn am waith llaw gan y caethwas heb ddefnyddio aradr i’w gynorthwyo. Yna agorid cyfresi o dyllau er mwyn plannu’r gansen ynddynt, gyda gofod o tua chwe throedfedd rhwng pob un, ac yna gwrteithid y tir yn drwyadl a chyson yn ystod y cyfnod tyfu rhwng misoedd Awst a Hydref. Gorchwylion yn y maes oedd y caletaf o holl orchwylion y caethwas ac yno o dan orthrwm goruchwylwyr didrugaredd y byddai creulondeb diangen a gwarthus yn digwydd. Dyma oedd tystiolaeth llygad dyst yn 1774 – ‘In the mornings,…the overseers were generally setting their slaves to work, which was mostly attended by loud peals of whipping …and the method was in this case to whip them on the outside of their clothes, which is in general of a coarse linen for breeches for the men and a petticoat of the same fabric for the women. On their coming into the field after the overseer, a few steps before they join the main gang, they throw down their hoe, and clap both hands upon their heads, and patiently take from ten to fifteen or twenty lashes, but those who have not the resolution to stand without shrinking were sure to be stretched upon the ground, or holden by four of their fellows at each extremity, till they had received their complement’.

Er bod perchennog megis Pennant, yn mynegi pryder yn ei lythyrau ynghylch lles ei fuddsoddiadau dynol nid oedd ef fel preswylydd breintiedig yng Ngwynedd yn ymwybodol, neu gallai bledio anwybodaeth, o’r trais a’r bryntni a ddigwyddai ar ei diriogaeth mewn ynys bellennig yn India’r Gorllewin. Wedi’r cyfan drwy ohebiaeth ei reolwr y deuai newyddion am y stad ac nid y gwirionedd fyddai sail y dystiolaeth.

Yr amser prysuraf yn y maes oedd cyfnod cynaeafu’r cnwd yn ystod y misoedd sych o fis Ionawr hyd at fis Mai pryd y byddid yn torri’r cansennau a’u danfon ar wagenni i’r melinau i’w cywasgu rhwng rholiau trymion i gasglu’r sug. Danfonid yr hylif i’w ferwi mewn cyfres o goprau, o’r enfawr i’r lleiaf, gan adael i anweddiad naturiol leihau ei faint hyd nes yn y copor olaf y byddai’n barod i risialu’n siwgr. Wedi ei oeri tywalltid y gronynnau i gasgenni ac yno yn y burfa dros rai wythnosau casglid y triagl ohonynt ar gyfer ei ddistyllu i wneud rym, isgynnyrch pwysig a phroffidiol o’r broses o wneud siwgr. Wedi ei becynnu yr oedd y siwgr yn barod i’w allforio ar ffurf siwgr brown muscovado bras ei ansawdd i’w buro ymhellach wedi cyrraedd y farchnad ym Mhrydain. Yn 1752, cynhyrchodd un o stadau Pennant, sef stad Denbigh, 137 casgen fawr a 36 casgen fach o siwgr a 71 mesur mawr o rym, ac ar gyfartaledd gallai’r perchennog ddisgwyl cynhyrchion tebyg o weddill ei stadau ar yr ynys.

Pan dderbyniodd Richard Pennant freintiau Jamaica gan ei dad yn 1781 yr oedd ymgyrch Wilberforce i ddiddymu caethwasiaeth ar gychwyn ym Mhrydain ac yn raddol daeth cydwybod cenedl i sylweddoli fod erchylltra caethwasiaeth yn sen ar hawliau dynol. Ar 1 Mai 1807 daeth Deddf Dileu Caethwasiaeth i rym a hynny flwyddyn cyn i Richard Pennant farw yn 1808. Ei nai George Hay Dawkins Pennant etifeddodd holl olud proffidiol stadau ei ewythr, yn ychwanegol at y stadau siwgr a berchnogai drwy linach teulu Dawkins yn Jamaica. Mae cyfnod y chwyldro yn hanes dynoliaeth felly yn cyd-daro â chyfnod y trosglwyddo mewn perchnogaeth yn Jamaica, ond mae hefyd yn cyd-fynd â chyfnod o ddatblygiadau rhyfeddol yn Nyffryn Ogwen. Dan arolygaeth Richard Pennant y datblygwyd chwarel y Penrhyn o 1782 ymlaen, diwydiant a sefydlodd fodolaeth pentref Bethesda yn 1820, ac o dan deyrnasiad George Hay yr adeiladwyd Castell y Penrhyn dros gyfnod yn dechrau yn 1830. Ar arian budr caethwasiaeth y seiliwyd yr holl ddatblygiadau hyn, ac o ganlyniad mae Dyffryn Ogwen, er efallai yn ddiarwybod, yn gyfrannog yn y diwydiant erchyll hwn. Bellach mae trefi, ardaloedd a diwydiannau ym Mhrydain yn gorfod o gywilydd gyfri’r gost foesol o fod â chysylltiad uniongyrchol â’r camwri enfawr hwn. Meddai Nicholas Draper, Cyfarwyddwr canolfan ym Mhrifysgol Llundain sy’n astudio etifeddiaeth perchnogion caethweision Prydain – ‘Anywhere there is the significant imprint of slavery,… then this will happen more and more (gwrthwynebu i anrhydeddu cyn berchnogion caethweision). We have a public culture that has been relatively unreflective of the post-colonial moment, and that’s no longer a tenable position’. Tybed a yw cydwybod euog Dyffryn Ogwen hefyd yn pigo heddiw?

Gyda llaw fe gymerodd hyd at ganol yr ugeinfed ganrif i deulu’r Penrhyn dorri’r cysylltiad â Jamaica a gwerthu eu stadau ar yr ynys unwaith ac am byth.

Ffynonellau

Jean Lindsay. 1982. The Pennants and Jamaica 1665-1808. Part 1 : The growth and organisation of the Pennants estates. Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon, 43, 37-82.

Jean Lindsay. 1983. The Pennants and Jamaica 1665-1808. Part 2 : The economic and social development of the Pennants estates in Jamaica. Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon, 44, 59-96.

Pont y Pandy

Pont y Pandy - Fig 6
Cynllun Thomas Telford o Bont y Pandy, drwy ganiatâd yr Archifau Cenedlaethol, Kew

Mae dyddiad adeiladu Pont y Pandy sef 1819, wedi’i dorri i un o gil gerrig y canllaw ar ochr Tyddyn Dicwm o’r bont. Pont y Pandy yw un o bontydd mwyaf y Ffordd Bost yn Nyffryn Ogwen ac mae ei bwa yn mesur 60 troedfedd ar ei thraws. Thomas Telford, peiriannydd adeiladu ffyrdd enwocaf Prydain, oedd cynllunydd y bont ac fe’i hadeiladwyd gan gwmni Straphen a Hall a oedd wedi ennill y contract i adeiladu’r cymal rhwng Lôn Isa a Phont y Pandy ym mis Awst 1818 am bris o £1720. Er nad yw cynllun y bont yn wahanol i’r mwyafrif o’r pontydd a gynlluniodd Telford rhwng Llandygái a’r Amwythig – pontydd cryf, bwa sengl, cwbl ymarferol gan fwyaf – mae’r cyfarwyddiadau i adeiladu’r bont hon yn hynod fanwl. Mynnai adeiladwaith o ddeunyddiau gorau’r ardal – y mur cynnal i’w adeiladu o sylfaen y graig islaw hyd at y bwa gyda’r cerrig gorau a oedd o fewn milltir i’r bont, ac wedi eu trin a’u gosod yn gelfydd fel nad oedd rhaid  eu trin ymhellach. Ar gyfer y bwa rhaid oedd dewis cerrig schist caletaf y fro ac i’r waliau o boptu’r ffordd cerrig maen o’r radd uchaf. I orffen y dasg mynnai fod cerrig y canllaw i’w gosod ymyl wrth ymyl mewn mortar calch a thywod. Tybed faint o’r meini hyn a gloddiwyd o’r mân dyllau dinod sydd i’w gweld heddiw yn nalgylch safle’r bont?  Mae un chwarel fechan i’w chanfod ar y Lôn Goed ger y Wern a chloddfa fechan gyffelyb ar Lôn Dinas, ond tasg i’r daearegwr  fyddai darganfod a oes cysylltiad  rhwng cerrig o’r tyllau hyn a’r meini a ddefnyddiwyd i adeiladu’r bont. Wedi agos i ddau gan mlynedd o ddefnydd a thraul cyson mae adeiladwaith penigamp Pont y Pandy yn glod i ddyfeisgarwch Telford wrth iddo gynllunio’r ffordd bost drwy Ddyffryn Ogwen.

Lot 22, Pandy - Fig 5A
Cynllun Lot 22 Thomas Telford o’r ffordd ger Pont y Pandy, drwy ganiatâd yr Archifau Cenedlaethol, Kew

Ond nid adeiladu’r bont oedd pennaf broblem Telford wrth gynllunio’r ffordd bost yn y llecyn eithriadol gyfyng hwn rhwng Afon Ogwen a Thyddyn Dicwm. Yn hytrach, ei brif broblem oedd sut i wasgu ei llwybr fel y byddai ochr yn ochr â thramffordd geffylau Richard Pennant ar y silff gul uwchlaw ceunant yr afon. Roedd y dramffordd yno er 1801 ond, o dan gyfarwyddyd Telford, rhaid oedd symud ei gwely i wneud lle i’r ffordd bost newydd. Wrth deithio ar yr A5 heddiw drwy’r lleoliad cyfyng hwn gellir gwerthfawrogi’r broblem a wynebai Telford ac mae craith llwybr y dramffordd i’w gweld yn dilyn yn gyfochrog â’r ffordd hyd wal derfyn Tyddyn Dicwm a’r palmant sy’n dilyn cyn y drofa i Dyddyn Iolyn.

Pont y Pandy
Pont y Pandy a’r Swyddfa Bost, llun drwy ganiatâd Alaw Jones, Parc Moch

Safle Pont y Pandy roddodd fodolaeth i dafarn yr Halfway. Roedd ei drysau ar agor yn 1868 yn sicr ond cafodd yn dafarn ei chau yn derfynol gan yr Arglwydd Penrhyn yn ystod saithdegau’r ganrif. Y dafarn felly roddodd yr enw Saesneg i’r bont. Ond cyn bodolaeth y bont yr oedd yno bandy a roddodd yr enw Cymraeg i’r safle, ac adeiladu’r bont roddodd derfyn ar weithgaredd y pandy hwn. Yn dilyn hynny, wedi cyfnod byr fel tafarn ailsefydlwyd yr adeilad yn weithdy i saer coed gyda ffos fer yn arwain o Afon y Llan i bweru’r maen llifo a mân beiriannau eraill y gweithdy, ac yno hefyd y lleolwyd swyddfa bost i gyflawni gofynion yr ardal.

Ffynonellau

Quartermaine, J., Trinder, B., Turner, R. 2003  Thomas Telford’s Holyhead Road. CBA  Research Report 135. CBA York

J.Ll. W. Williams; Lowri Wynne Williams 2016. Retracing Thomas Telford’s footsteps, the building of the post road through Dyffryn Ogwen in Gwynedd, 1815

Stand lefrith Bryn Owen

New Picture (2)
Stand lefrith Bryn  Owen

Mae’r wasg yn adrodd yn aml fod y diwydiant llaeth yng Nghymru yn wynebu problemau mawr ac yn darogan gwae i ffermydd llai wrth i’r diwydiant fynd i ddwylo ffermydd llaeth mwy. Bid hynny fel y bo, y mae ar gyrion Llanllechid un nodwedd arbennig a berthyn i’r hen orchwyl o odro’r ddiadell cyn danfon y llaeth mewn buddeiau (churns) metel i’w casglu yn foreol o stand gerllaw mynedfa’r fferm ar eu ffordd i’r ffatri laeth agosaf. Mae’r stand lefrith, oedd gynt yn arwydd mor gyffredin yng nghefn gwlad, bellach yn nodwedd pur anghyffredin, ond yn Llanllechid ar draws y ffordd  i’r llwybr sy’n arwain  i gyfeiriad Sychnant a Bowls erys y stand lefrith olaf o’i bath yn Nyffryn Ogwen. Fel y byddai’r disgwyl does dim adeiladwaith arbennig yn nodweddu’r stand lefrith  –  bwlch yn y wal a llwyfan gwastad oedd y gofyn syml, ond angenrheidiol, ac yn yr enghraifft arbennig ym Mryn Owen dwy sliper bren sy’n creu’r llwyfan yn y wal gerrig. Mae’r stand yn mesur 160 centimetr mewn hyd wrth 50 centimetr mewn lled ac mae 80 centimetr uwchben y ffordd, sef yr uchder cymharol a fyddai’n galluogi trosglwyddo’r buddeiau o’r stand i drwmbal y lori yn ddiymdrech. Mae’n eithaf tebygol fod lleoliad y stand ar fin y ffordd fawr yn cyflawni gofynion mwy nag un o’r ffermydd gerllaw – Bryn Owen, Bryn Eithin a Corbri pe byddai gofyn.

O edrych dros y clawdd i gae Bryn Owen mae nodwedd arall a fyddai â chysylltiad anuniongyrchol â chynnyrch llaeth y fferm. Yno mae llwybr ffos ddŵr a fyddai wedi dargyfeirio dŵr o un o flaenffrydiau Bryn Hafod y Wern i gyfeiriad fferm Bryn Owen. Dŵr o’r ffos hon oedd, mewn cyfnod cynharach, yn gyfrifol am droi y fudai gorddi i gynhyrchu menyn, yn ogystal â chreu ynni ar gyfer gorchwylion eraill o bwys ar y fferm, megis malu a llifo yn ôl y gofyn. Mae’r ddau fyd bellach, y ffos a’r stand, yn perthyn i hen hanes byd amaethu yn Nyffryn Ogwen fel ag yng ngweddill Cymru.

Ffair y Byd

Cor penrhyn 1893
Llun Côr y Penrhyn adeg Ffair y Byd

Dyma gyfraniad gan un o gyfranwyr gwadd y wefan sef Idris Lewis, Ffordd Bangor, Bethesda.

I ddathlu pedwar can mlynedd ers i Christopher Columbus ‘ddarganfod’ America trefnwyd Ffair y Byd yn Chicago yn 1893. Prif amcan y ffair oedd arddangos sut y datblygodd yr Unol Daleithiau i fod y wlad bwysicaf a’r fwyaf yn y byd yn ei chyfnod. Yr oedd hefyd yn fuddugoliaeth arbennig i Chicago a orfu i lwyfannu’r ‘ecstrafagansa’ yn hytrach nag Efrog Newydd, Washington, St Louis neu unrhyw ddinas arall a fyddai wedi cystadlu i fod yn ffenest siop i’r byd. Yn ystod y chwe mis y bu’r ffair ar agor ymwelodd 27 miliwn o ddinasyddion y wlad â’r arddangosfeydd, sef yn agos at hanner poblogaeth y wlad. Rhoddodd y ffair symbyliad o’r newydd i’r celfyddydau ac i bensaernïaeth drefol yn America a bu’n fodd i greu hyder newydd mewn diwydiant ac yn sbardun i chwyddo golud y wlad.

Fel rhan o’r dathliadau trefnwyd y byddai eisteddfod yn cael ei chynnal dros ddau ddiwrnod sef 5 a 6 Medi 1893. Cymdeithas Cymmrodorion Chicago oedd trefnwyr yr eisteddfod, sydd yn dangos dylanwad mor gryf oedd gan gymdeithasau, ac yn arbennig gapeli Cymraeg, ar fywyd diwylliannol America ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.  Cafwyd gwybodaeth fod holl dreuliau ariannol yr eisteddfod wedi eu talu fwy neu lai gan y derbyniadau ar y tocynnau mynediad a bod gwobrwyon gwerth 10,200 doler i’w hennill yn y cystadlaethau.

Ar y diwrnod tyngedfennol Hwfa Môn oedd yr Archdderwydd a agorodd yr Orsedd o’r maen llog ger Adeilad y Llywodraeth, gan alw yn ‘wyneb haul llygad goleuni’ am ‘heddwch’, ac atseiniwyd yr alwad gydag arddeliad cenedlaetholgar gan y dorf. Mor gynnar ag 1890 yr oedd rhag hysbysebion wedi ymddangos yn y wasg Gymreig fod yr eisteddfod i’w chynnal yn Chicago gyda’r bwriad mai hon fyddai Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn ôl gobeithion Cymry alltud y wlad honno. Pwysleisid y dylid gwneud paratoadau ar gyfer amgylchiad a oedd mor unigryw.

Ac fe wrandawyd ar neges y Wasg ym Methesda.  Penderfynwyd y byddai Côr y Penrhyn yn mynychu’r eisteddfod ac yn cystadlu yn y brif gystadleuaeth i gorau meibion heb fod dan 50 na mwy na 60 eu nifer.  Y darnau prawf oedd y ‘Cambrian Song of Freedom’ gan T. J. Davies, a ‘Pilgrims’ dan Dr Parry. Y wobr gyntaf oedd $1,000, yr ail wobr $500, gyda thlysau aur i’w cyflwyno i’r arweinwyr. Y beirniaid oedd John Thomas o Lundain , W. M. Tomlins o Chicago a Dr J. H. Gower o Denver.

O wneud y penderfyniad aethpwyd ati i gasglu arian i dalu costau’r daith. Apeliwyd i unigolion a chymdeithasau yng Nghymru a ledled Prydain a chynhaliwyd nifer o gyngherddau gyda’r nod o gyrraedd £1,000 cyn bod y côr yn ymadael ar 24 Awst 1893. Gwnaethpwyd cyfraniad gan George Sholto, Arglwydd Penrhyn ac mae’n ddiddorol sylwi mae Mr W. Grey, swyddog yn swyddfa’r stad ym Mhorth Penrhyn, fyddai’n derbyn y cyfraniadau yn hytrach nag ysgrifennydd y côr ym Modfeurig, Tregarth, fel y byddai’r disgwyl. Gellir awgrymu fod gan Sholto ddiddordeb personol yn yr ymgyrch, ei nawdd yn rhyngu bodd yn lleol oherwydd ei amhoblogrwydd yn diddymu cytundeb Pennant Lloyd yn y chwarel, a’i lygad yn ogystal ar geisio ennill parch ac efallai fasnach bellach o fod brand y Penrhyn i’w weld ar y llwyfan rhyngwladol yn Chicago.   Mae’n amlwg felly fod  gan Mr Grey ddylanwad mawr ar drefniadaeth y daith ac nid yw’n syndod felly ei fod i gyd-deithio gyda’r côr fel math o chaperone i ofalu am ei llwyddiant. Sylwer er hynny mai côr y Penrhyn-Dinorwig y’i gelwid yn y wasg leol ond fe’i gelwid yn gôr y Penrhyn yn Chicago. Mae’n amlwg felly  fod gofyn atgyfnerthu aelodaeth y côr cyn y gallasai gyrraedd gofynion y gystadleuaeth o ran ei niferoedd.

Gadawodd y côr Lerpwl ar fwrdd y Vancouver ar ddydd Iau 24 Awst 1893 gan gyrraedd Québec yr wythnos ganlynol cyn mynd yn ei flaen i Chicago. Cafwyd cyngerdd cofiadwy yn Lerpwl cyn cychwyn a chyfrannwyd oddeutu £50 ychwanegol at y costau a oedd bellach yn £1,300. Cyn cychwyn cafwyd anerchiad o rybudd gan y Parch James Davies yn ‘hyderu y byddai eu hymddygiad ar y daith ym mhob ystyr yn anrhydedd i genedl y Cymry’ – mewn geiriau eraill roeddent i fihafio yn Chicago!  Yr oedd disgwyliadau’r ardal yn fawr ac fel yr eglurodd gohebydd Y Cymro ‘fe’n synnir ac fe’n siomir yn fawr os na ddeuant â’r wobr gyda hwynt yn ôl’. Yn cyd-deithio ar fwrdd y Vancouver yr oedd côr Meibion y Rhondda.

Canodd saith côr yn y gystadleuaeth, pump ohonynt o wahanol rannau o’r Unol Daleithiau – Pitttsburg, Wilkesbar, Salt Lake City,  Edwardsdale ac Iowa a chôr Meibion y Rhondda a chôr y Penrhyn o Gymru.  A chôr Meibion y Rhondda a orfu gyda’r Penrhyn yn ail mewn cystadleuaeth a ystyriwyd ymysg yr orau yn yr holl eisteddfod. O ddarllen rhwng y llinellau nid oedd yr eisteddfod yn llwyddiant ysgubol, yr oedd cynulleidfaoedd y dydd yn denau ond roedd rhai cyngherddau’r nos yn llawer mwy niferus. Yr oedd y cystadlaethau llenyddol yn brin iawn eu henillwyr ac ataliwyd gwobrwyo mewn llawer o’r cystadlaethau, ac nid oedd y gornestau canu yn wefreiddiol a mynegwyd siomiant nad oedd safon wych ym mhrif gystadleuaeth y corau cymysg. Nodwyd fod y safon uchaf gan gorau o Gymru gan gynnwys côr merched o Gaerdydd.  Ataliwyd hyd at gyfanswm o $800 mewn gwobrwyon yn yr eisteddfod. Un a lwyddodd, serch hynny, oedd Dewi Glan Ffrydlas o Fethesda, a fu’n fuddugol yng nghystadleuaeth cyfres o englynion ar y testun ‘Cydwybod’, a llwyddo’r ail dro am gyflawni Hir a Thoddaid ar destun eithriadol ysbrydoledig sef beddargraff i’r Parch Lewis Meredith.

Ni fu’r daith gartref mor gyfforddus â’r daith i’r Unol Daleithiau. Cwynodd nifer fach o aelodau’r côr fod teithio o Montréal yn steerage y llong Oregon yn dra anghyfforddus a hynny tra oedd yr arweinydd Mr Broome a chyfaill iddo (Mr Grey tybed?) yn cael aros yn y saloon. I ychwanegu halen ar y briw ysgrifennodd arweinydd côr y Rhondda fod aelodau ei gôr ef yn berffaith fodlon â’r cyfleusterau ac y byddai yn berffaith sicr o deithio gyda’r un cwmni eto pe  byddai’r cyfle yn codi.  Glaniodd y dyrfa yn lluddedig yn Lerpwl wedi mordaith ystormus a dychwelyd i Fethesda i groeso tywysogaidd gan y lliaws a oedd wedi tyrru i’r stesion i’w derbyn ddechrau Hydref.  Yr oedd un colyn i ddilyn y daith –  ar ddechrau mis Tachwedd cyhoeddwyd fod Mr Broome, yr arweinydd, wedi ymddiswyddo gan iddo dderbyn penodiad cyffelyb yn Montréal. Ond i gantorion Bethesda, heb anghofio’r ychwanegiad o Ddinorwig, yr oedd y daith i ffair y byd i’w chofio gyda chwilfrydedd a llwyddiant.

Ffynonellau

Mae’r nodyn hwn yn seiliedig ar yr adroddiadau canlynol yn y wasg yn 1893 – Y Cymro, Awst a Hydref; Y Werin, Tachwedd; Y Drych, Awst; Y Tyst, Medi;  Tarian y Gweithiwr, Gorffennaf, 1890.