Llwybr Main a Than y Bwlch

Mynydd 1900
Cynllun Llwybr Main a Than y Bwlch yn 1890. Map OS 1890 drwy garedigrwydd a chaniatâd  Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru

Mae Llwybr Main a stryd gyfochrog Tan y Bwlch ym Mynydd Llandygái yn bictiwr o drefnusrwydd – maent wedi’u cynllunio yn gymen os nad yn gatrodol ofalus i gynnwys acer o dir gyda phob tŷ pâr. Adeiladwyd y ddwy res yn sgil ehangu eithriadol poblogaeth Dyffryn Ogwen a ddigwyddodd yn ystod cyfnod anterth datblygiad Chwarel y Penrhyn yn chwedegau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Awgrymir fod Mynydd Llandygái yn enghraifft o bentref ‘model’ ar raddfa fechan, y cyntaf, ac efallai’r unig, bentref o’i fath yng Nghymru a adeiladwyd yn arbennig i gartrefu gweithlu diwydiannol. Mae’n debyg y byddai cynllun trefnus y datblygiad wedi’i seilio ar gynlluniau a fabwysiadwyd gyntaf ar stadau siwgr y Penrhyn yn Jamaica ddiwedd y ddeunawfed ganrif.  Yno yr oedd yn rhaid cartrefu caethweision yn drefnus a rhoddi iddynt lain bychan o dir i ychwanegu at eu cadw gan arbed costau ychwanegol i’w meistri. Mabwysiadwyd y cynllun gyntaf yn Nyffryn Ogwen gan Richard Pennant yn 1798, a ffurf fwy datblygedig o’r drefn a sefydlwyd ar gomin agored Moelyci gan Edward Gordon ei ddisgynnydd yn olyniaeth y Penrhyn.

Os derbynnir y diffiniad fod Llwybr Main a’i gymar yn ffurf gynnar ar  bentref ‘model’, yna mae’n dra gwahanol i’r pentrefi ‘model’ diweddarach a ddatblygwyd mewn rhannau eraill o Brydain, rhai a ysgogwyd yn bennaf gan Grynwyr megis Bournville ac eraill o dan ddylanwadau cydweithredol megis New Lanark. Nodwedd y pentrefi hyn yw eu bod yn gytbwys eu cynllun ac yn cynnig nifer o wasanaethau cyhoeddus hanfodol i’r preswylwyr. Ond nid felly yr oedd hi ym Mynydd Llandygái – fe’i cynlluniwyd yn bentref gwasgaredig heb ganolbwynt, ac yn wreiddiol nid oedd ganddi wasanaethau na siop, nac ysgol, nac eglwys na chapel na neuadd na thafarn ar gyfer y trigolion. Adeiladwyd y tai drwy lafur y preswylwyr ar brydles i’r Penrhyn. Roedd yr holl ddatblygiad yn arddangos agwedd lethol dadol y meistr tuag at ei  wasanaethyddion -acer o dir i gynnal y deiliad yn ogystal â’i wasanaeth yn y chwarel – ‘an acer and a cow’ oedd yr ymadrodd, gyda phrinten o fenyn i’w ychwanegu at y rhent. Fel ychwanegiad i fap o stad y Penrhyn o 1803 ceir y cymal canlynol – ‘the proprietors of the Penrhyn Estate are entitled to what are called the small tithes of the whole parish of Llandygai which they annually collect viz kids, pigs, geese and eggs’. Fersiwn o’r hawl hwn oedd ar waith yn Llwybr Main erbyn canol y ganrif. Ar derfyn y brydles byddai’r eiddo yn trosglwyddo yn ôl i’r tirfeddiannwr oni fyddai’r cytundeb yn cael ei adnewyddu. Yn 1891/4 amcangyfrifwyd fod 1600 o weithlu Chwarel y Penrhyn yn byw ar stad y Penrhyn ac yn talu rhwng £1 a £6 y flwyddyn mewn rhent, gyda’r swm yn amrywio yn ôl maint y denantiaeth. Mewn lleoliad megis Llwybr Main, gyda chae o faint digonol i gadw buwch ynghlwm â’r tŷ, gellid disgwyl talu uchaf bris y rhent.

Un o broblemau mawr Dyffryn Ogwen drwy gydol y bedwaredd ganrif ar bymtheg oedd y diffyg stoc tai ar gyfer cartrefu gweithlu diwydiannol mewn ardal wledig. Yr oedd stad y Penrhyn yn dra ymwybodol o’r diffyg, ac er gwaethaf adeiladu cynlluniau diddorol megis y ddwy res tai i chwarelwyr ym Mynydd Llandygái, y ‘garden suburb’ i bentref Bethesda ym Mhenybryn, a’r pentref ‘delfrydol’ yn Llandygái i gartrefu gweithwyr y castell –  cynlluniau oll yn dyddio i chwedegau’r ganrif – prin fod y darpariaethau hyn yn ateb prif angen y dyffryn. Serch hynny, yr oedd y diffyg er mantais i’r Penrhyn. Drwy berchnogi’r hawl i’r stoc tai gallasai’r tirfeddiannwr, a oedd hefyd yn brif gyflogwr yr ardal, ddefnyddio hyn fel erfyn cudd i gadw rheolaeth ar y tenant a mynnu ei ufudd-dod a’i deyrngarwch. Nid oes yr un rhan o Ddyffryn Ogwen lle defnyddiwyd y bygythiad cyfrwys a gormesol hwn yn fwy nag yn Llwybr Main.

Yn eironig iawn yr oedd nifer o gytundebau tai Llwybr Main a Than y Bwlch yn terfynu yn ystod blynyddoedd cyntaf yr ugeinfed ganrif. Roedd angen eu hadnewyddu mewn cyfnod pan oedd Dyffryn Ogwen wedi’i rwygo gan ddiflastod y Streic Fawr o 1900 i 1903. Ym Mynydd Llandygái yr oedd i hyn oblygiadau pur ddifrifol. Ym mis Rhagfyr 1901, gwta flwyddyn wedi i’r streic gymryd gafael, yr oedd chwech ar hugain o dai Llwybr Main ym meddiant chwarelwyr oedd ar streic. Dim ond tri thŷ yn y rhes oedd ym meddiant rhai a oedd wedi dychwelyd i’r chwarel. Y broblem fawr a wynebai’r Arglwydd Penrhyn a’i swyddogion oedd p’un a ddylid adnewyddu tenantiaeth y streicwyr ai peidio. Yr oedd y farn yn rhanedig, ac yn eithriadol anfoddog y penderfynwyd adnewyddu prydlesau’r tenantiaid, yn bennaf oherwydd pryder ynghylch llid y farn gyhoeddus pe byddai’r casgliad wedi bod yn wahanol.

Yr oedd yn ofynnol gosod amod ar y penderfyniad, sef pe byddai’r streicwyr yn aflonyddu ar y rhai a fynnai weithio yna byddent yn colli tenantiaeth eu tai. Fel mae’n digwydd, yr oedd hon yn amod pur anodd ei gweithredu fel y dengys adroddiadau am nifer o’r ymosodiadau geiriol a chorfforol a ddigwyddai drwy’r ardal. Mae’r ddwy enghraifft isod yn nodi pa mor agored y digwyddai’r ymosodiadau hyn. Yn Llwybr Main ar Ragfyr 26ain adroddodd Robert Hughes, Robert Griffith, R R Griffith, Owen Parry (Gefnan) a William Pritchard (Llwybr Main) y canlynol, fod ‘crowds of strikers about their houses through the holidays. They all reported that the police cannot give protection because they are afraid of the strikers’. Mae’r ail adroddiad, sy’n ddyddiedig i fis Ebrill 1902, yn nodi’r digwyddiad canlynol yn Gefnan – ‘Thomas Williams (of Tan y Bwlch) the man who resumed work on the 10th reported that crowds filled the road by Ammana Chapel on his return from work and heckeled him . In Gefnan the children aggravated him’.

Yr oedd gorthrwm annheg prydlesau byr dymor yn fater o drafodaeth genedlaethol ym Mhrydain yn ystod diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac yng Nghymru ystyrid y pwnc gyn bwysiced ag addysg a datgysylltiad eglwysig gan y Blaid Ryddfrydol. Yn 1888 sefydlodd y Llywodraeth Bwyllgor Dethol i drafod y mater a gwahoddwyd W. J. Parry i roddi tystiolaeth gerbron y pwyllgor gan yr Aelod Seneddol Tom Ellis. Ers rhai blynyddoedd yr oedd Parry wedi beirniadu annhegwch y drefn er, yn dra eironig, disgwylid iddo ef weinyddu prydlesau o’r fath yn ei swydd fel asiant stad y Cefnfaes ym Methesda. Mewn adroddiad ysgrifenedig dadlennol yn dilyn ei ymddangosiad argymhellodd y dylai’r prydlesau gael eu gweinyddu gan yr Awdurdodau Lleol yn hytrach na chan landlordiaid unigol gyda rhent y tenantiaid yn cael ei dalu yn uniongyrchol i’r awdurdod. Defnyddiodd Lloyd George rai o argymhellion Parry wrth frwydro’r achos yn ystod yr un cyfnod, ond ni wireddwyd rhai o’r awgrymiadau hyd oni ddaeth Deddf Cynllunio Gwlad a Thref i rym yn 1947.  Araf mae melinau cyfiawnder yn gweithredu!

Ffynonellau

Judith Alfrey. 2001.  Rural Building in Nineteenth Century North Wales; the role of the great estates. Archaeologia Cambrensis, CXLVII (1998), t. 199-216.

Jean Lindsay. 1987. The Great Strike : A History of the Penrhyn Quarry Dispute of 1900-1903. Newton Abbot.

Roose Williams. 1978. Quarryman’s Champion: the life and activities of William John Parry of Coetmor. Dinbych.

J. Ll. W. Williams, Lowri Wynne Williams ‘In different parts around are scattered the whitewashed cottages of the workmen, built from the designs of Mr Wyatt’ (Bingley 1804) – the provision of quarrymen’s housing in the industrial expansion of Dyffryn Ogwen, Gwynedd, in the 19th century. Erthygl heb ei chyhoeddi

Advertisements

Y Felin Fawr

cynllun felin fawr 1
Cynllun y Felin Fawr – atgynhyrchiad o lyfryn T. Theo Roberts

Yr oedd y Felin Lifio yng Nghoed y Parc yn sefydliad digon pwysig i Telford gyfeirio ato yn ei ymweliadau â Dyffryn Ogwen ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Y Felin Lifio oedd rhagflaenydd y Felin Fawr a ddatblygwyd o’r newydd yn 1846, a ail luniwyd yn 1855 a thrachefn yn 1865, i fod yn felin gynhyrchu a phencadlys cynnal a chadw mecanyddol Chwarel y Penrhyn. Yn 1813, blwyddyn ei sefydlu, yr oedd 16 o fframiau llifio yn gweithio yn y felin, oll yn cael eu gyrru gan olwyn ddŵr. Yn wir, grym o olwyn ddŵr a yrrodd y peiriannau i hollti, llifio a phlaenio’r cerrig melin hyd oni chaewyd y gwaith yn derfynol yn 1965. Cyfaint dŵr Afon Galedffrwd oedd un o’r prif resymau dros ddewis safle’r felin i’r gogledd o’r chwarel, ac i atgyfnerthu’r cyflenwad adeiladwyd dwy gronfa ar yr afon uwchlaw Coed y Parc yn 1846 ac 1848.

 

Defnyddiwyd cerrig gwenithfaen i adeiladu’r felin gyntaf ond mewn pennau llifio llechi yr adeiladwyd yr ychwanegiad yn 1834. Cynlluniwyd melin newydd, Y Felin Fach, yn 1846, ac ynddi defnyddiwyd llifiau crwn i lifio cerrig melin am y tro cyntaf. Cynnyrch y melinau hyn oedd amrywiaeth fawr o lechi ar gyfer gofynion trwm megis trawstiau adeiladu, cerrig beddau a chistiau bwyd a dŵr ac yn y blaen. Lleolwyd yr olwyn ddŵr rhwng y ddwy felin a throsglwyddwyd gwely’r afon i dwnnel i lifo o dan safle’r gwaith. Sefydlwyd ffowndri ar y safle yn 1838, ac mae’r adeilad presennol yn dyddio i chwedegau’r un ganrif pan ychwanegwyd llawr patent a ffowndri bres at yr adeilad. Gwasanaethid megin y ffowndri gan ail olwyn ddŵr a leolwyd mewn adeilad ar ymyl ddwyreiniol y safle.

 

Ty bach felin fawr
Cwt yr olwyn ddŵr a’r drws i’r lle chwech

Yno hefyd yr oedd lle chwech y Felin Fawr wedi’i sefydlu uwchben yr olwyn a gorseddau anghysurus i bedwar ar y tro fedyddio’r olwyn. Yn 1877 adeiladwyd gweithdy peirianyddol i gynnwys safleoedd i ofaint, seiri coed a ffiteriaid, ond yn 1952 llosgwyd yr adeilad hwn i’r llawr gan adael gwagle enfawr ar ymyl deheuol y safle. Grym dŵr oedd eto’n gweithio peiriannau’r gweithdy yn wreiddiol ond defnyddiwyd twrbein trydan i weithio’r gweithdy mecanyddol a’r efail mor ddiweddar â 1922.

 

y felin fawr 3
Y cwt injan

Yr oedd y Felin Fawr yn enghraifft ardderchog o gymhlethdod diwydiannol hunangynhaliol a adeiladwyd, adeilad arbenigol wrth adeilad arbenigol, i ymateb i ofynion newydd a gwahanol y chwarel. Un o ryfeddodau’r Felin Fawr oedd bod pob peiriant newydd ar ei ddyfodiad i’r chwarel yn cael ei ddatgymalu’n ofalus fel y bo copi perffaith o bob darn yn cael ei wneud ar gyfer atgyweirio’r peiriant pe byddai’r gofyn. Swyddogaeth arall y Felin Fawr oedd fel man cychwyn y rheilffordd i’r porthladd, gwasanaeth a gychwynnodd yn 1801 gyda’r dramffordd geffylau. Sefydlwyd stablau i’r ceffylau tywys i’r dwyrain o safle’r Felin ond troswyd y datblygiad yn rhes tai’r Stablau yn 1875. Ar y gwastad i’r de o Bont Coed y Parc sefydlwyd iard i ddewis a dethol y llechi a oedd i’w danfon i’r porthladd o’r chwarel, safle o bwysigrwydd eithriadol o dan drefniant y rheilffordd stêm o 1874 ymlaen.

Felin Fawr llyn
Y gronfa ddŵr ar afon Galedffrwd uwchlaw y Felin Fawr

Daeth diwedd ar holl weithgaredd y Felin Fawr yn 1965 ac aeth mawredd unigryw’r holl sefydliad i ddwylo’r dynion sgrap. Bu’r Felin Fawr yn goleg prentisiaeth cenedlaethau o fechgyn Dyffryn Ogwen ym mhob celfyddyd weithiol ac mae’n amheus a fydd sefydliad mor ddylanwadol fyth yn hanes yr ardal.

Ffynonellau

T. Theo Roberts  1999. Y Felin Fawr- ei Hanes a’i Rhamant. Dinbych.

J I C Boyd. 1985. Narrow Gauge Railways in North Caernarvonshire. Vol. 2. – The Penrhyn Quarry Railways. Oxford.

Lladd Gwair

Dyma ysgrif gan Ffrangcon Evans, gynt o Fryn Eithin, Llanllechid. Daeth drwy law Ieuan Wyn ac mae ein diolch iddo am roi ei ganiatâd i’w chyhoeddi.

bryn eithin
Bryn Eithin, Llanllechid. Cartref awdur yr ysgrif hon am ladd gwair yn Nyffryn Ogwen

Pwy ddarfu greu’r ymadrodd ‘lladd gwair’, tybed? Mae’n disgrifio’r weithred o dorri gwair i’r dim – ei dorri yn y bôn fel ei fod yn gorwedd yn farw ar ei hyd ar wyneb y ddaear.

 

Ond cyn lladd y gwair, roedd rhaid ei dyfu. Fferm wrth y mynydd oedd y cartref, felly roedd cryn dipyn o’r tir yn anaddas i’w drin, y weirglodd a’r gweunydd yn addas i bori yn unig, a rhai o’r caeau i bori ac i wair.

Ar y caeau hyn rhoddwyd gwrtaith o’r domen dail ger y beudy. Llwyth ar y drol, a thra bod un yn gyfrifol am symudiad y drol, roedd un arall yn dosbarthu’r tail yn sypiau ar y cae. Crafwr maint fforch gyffredin fyddai ganddo, ond y dannedd wedi eu troi fel cribyn, yna byddai’r sypiau yn cael eu chwalu dros y cae gyda fforch gyffredin.

Nawr i ddod  i’r caeau sydd yn addas i’w trin. Y flwyddyn gyntaf, aredig, er mwyn plannu tatws a chnydau eraill. Yr ail flwyddyn, plannu ŷd, a hefyd had gwair, gan y byddai dwy flynedd i’r gwair ddod. Welais i neb yn hau had gwair hefo eu dwylo, fel gyda’r ŷd, er enghraifft. Peiriant i’w wthio gyda llaw oedd gennym, – cafn hir ar ffrâm bren ysgafn, dwy goes ac olwyn tipyn o faint fel olwyn berfa. Roedd yna olwynion bach ar hyd y cafn hefo brws o’u cylch ac wedi eu cysylltu ag olwyn y peiriant, ac wrth i’r peiriant gael ei symud ymlaen roedd yr olwynion bach yn dosbarthu’r had dros y tir, ond gwneud yn siŵr fod y cafn yn llawn o had! Yn nau ben y cafn roedd llinyn, hyd hanner hyd y cafn. Roedd yn rhaid i rywun ddal y llinyn yn dynn o’i flaen, ac wrth gerdded ar y tir, crafu hoel efo ei esgid, i nodi lle’r olwyn ar y ffordd yn ôl, pryd, wrth gwrs, roedd rhaid newid i’r llinyn arall. Bûm yn gyfrifol am hyn o waith droeon.

Fel y dywedais, dwy flynedd i’r gwair, ac fe ddywedir fod y sofl ar ôl i’r ŷd gael ei gario o’r cae yn cadw gwlybaniaeth er tyfiant y gwelltglas. Rhowl garreg oedd gennym i ddarfod y plannu.

Cyn i’r gwair gael cyfle i dyfu, roedd yna un orchwyl bwysig, – hel cerrig. Byddai cryn tipyn yn y gwelltglas, felly roedd rhaid eu hel rhag damwain i’r llafnau. Eu hel yn dwmpathau gyda bwced, ac yna i’r drol, a’u dymchwel ar ochr y ffordd i’r torrwr cerrig ddod yn ei dro i’w torri i’r maint bwrpasol at wneud neu drwsio y ffordd, a swyddog o’r cyngor yn mesur y domen gerrig a rhoi tâl i’r ffarmwr. Cofiwch mai defnyddiau i roi wyneb i’r ffordd y pryd hynny oedd cerrig, pridd a dŵr wedi eu gwasgu â rhowl drom.

Nawr am y lladd !

Pedwar o bladurwyr, a oedd wedi dysgu sut i ladd gwair yn drwyadl, ond rwy’n siŵr mai’r gyfrinach oedd eu bod yn gallu rhoi min ar y llafn. Byddai’r pladurwyr yn mynd â doniau hogi gyda nhw i’r cae. Stric, sef pren wedi ei drin ar gyfer hogi wedi ei fachu ar ochr coes y bladur; darn o groen meddal; corn buwch yn llawn o raean; a saim mewn blwch baco. I baratoi’r stric, wedi ei lanhau, rhoi y saim ar y pedair ochr, taenu’r croen ar y ddaear, tywallt peth o’r graean ar y croen a rhoi’r pren arno, a gwasgu’r pren i lawr fel ei fod wedi ei orchuddio â’r graean.

Pan ddaeth y peiriant lladd gwair, roedd rhaid defnyddio’r bladur i dorri lled y peiriant o amgylch y cae rhag sathru’r gwair. Yma, eto, aed â doniau i’r cae, – mainc i’w defnyddio i hogi’r llafnau a hefyd i adnewyddu’r rhai a oedd wedi eu niweidio gan gerrig.  Wedi torri’r gwair, chwalu’r gwaneifiau â phicwarch. Yna’r gwaith nesaf oedd ei droi, cribyn bren gyffredin, y merched a’r plant yn helpu. Pan yn barod i’w hel, cribyn geffyl (gyda’r ferlen), ei hel yn rhenci, sef yn rhesi, ac yna yn groes i’w hel yn dwmpathau. Ffrâm addasol ar y drol, i gymryd y llwyth, a dwy raff i’w wneud yn ddiogel, rhag dymchwel, gan fod y tir mor anwastad, a’r ffordd i’r gadlas fawr gwell.

Ar ôl clirio’r cae roeddem yn defnyddio’r gribyn delyn, un i’w thynnu y tu ôl gyda dannedd haearn, tebyg i’r gribyn geffyl ond llawer llai wrth gwrs. Wedi gwneud yr orchwyl yma hefyd lawer gwaith. Roedd gennym dŷ gwair, felly dim angen gwneud tas. Erbyn y gaeaf roedd y gwair wedi mynd yn galed, ac roedd gennym gyllell arbennig i’w dorri, un â llafn hir a llydan, a’r carn yn groes i’r llafn. Wedi torri digon i’r alwad, i fynd i’r beudy, y stabl neu i’r cwt malu, fel y’i gelwir, lle roedd yr olwyn ddŵr yn gyrru’r peiriant malu, roedd angen rhywbeth i’w gario. Nithlen oedd enw fy nhad arni. Roeddem yn prynu bwyd i rai o’r anifeiliaid mewn sachau, ac wedi eu gwagio byddai fy nhad yn agor allan bedwar sach, ac yn eu gwnїo yn un gyda nodwydd arbennig – nodwydd sachau – wedi ei gwneud gan of y pentref. (Mae’r nodwydd gen i wedi ei chadw). Yna, gosod y gwair ar y nithlen a’i rhoi ar ein cefnau i’w gario.

nodwydd sachau
Nodwydd sachau:  ”Nodwydd sachau: Nodwydd fawr flaenfain, lled fwaog a fflat, at wnїo sachau. Fe’i defnyddid…i wnїo sachau wedi eu hagor yn ei gilydd i wneud nithlenni, carthenni, ayyb. Ym Maldwyn ceir yr enw ‘nodwydd bacio’.” Cydymaith Byd Amaeth, Huw Jones.

Ffrangcon Evans

 Magwyd yr awdur ym Mryn Eithin, Llanllechid yn Nyffryn Ogwen. Fe’i ganed yn 1913 a bu farw yn 2015, yn 102 flwydd oed.

 _________________

                                      Lladd gwair â’r bladur blwm

                                      Ar weirglodd lwm fynyddig,

                                      Troell corun enbyd iawn,

                                      Pob gwanaf yn llawn o gerrig;

                                      Ni thorrwn arfod yn fy myw

                                      Gan fonau eithin Ffrengig.

 

Pennill ar lafar gwlad yn Nyffryn Ogwen yw’r uchod fel y’i cofnodwyd gan Wynne Roberts, Tregarth. Ei dad, Ifan Roberts, gof Llanllechid, a fyddai’n gwneud nodwyddau sachau ar gyfer ffermydd y cylch.