Ysgol Tan Capel

Capel Bethesda

Clochydd yn eglwys Llandygái yn 1765 oedd Thomas Thomas y dylid ei anrhydeddu fel un o addysgwyr cyntaf Dyffryn Ogwen. Meddai Hugh Derfel wrth gyfeirio at athrawon cynnar y fro ‘er nad oedd yr ysgolfeistri yn drwyddedig, na dysgedig fel y deallir y geiriau heddyw, eto hwy a’r offeiriaid oedd unig oraclau yr hen amser o’r bron …yr oedd yn dda eu cael pryd hynny. Goleuasant gannwyll, ac nis diffoddir hi’.

Ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg sefydlwyd dwy ysgol Genedlaethol yn Nyffryn Ogwen, y naill yn Llandygái a’r llall yn Rachub, a thrwy ryfedd rawd bu i’r ddwy osgoi beirniadaeth lem y tri chomisiynydd a benodwyd gan y llywodraeth yn 1846 i ymchwilio i sefyllfa addysg yng Nghymru. Cyhoeddwyd adroddiad rhagfarnllyd, hiliol a gwrth Gymreig y comisiynwyr yn y flwyddyn ganlynol, a chyfeirir ato gyda dirmyg yng Nghymru fel adroddiad Brad y Llyfrau Gleision. Serch bod cyfrifiad crefyddol 1851 yn dangos fod 80% o boblogaeth Cymru yn Anghydffurfwyr neu’n Ymneilltuwyr prin iawn oedd ysgolion y Gymdeithas Frutanaidd – y British and Foreign School Society -yng Nghymru. Ysgogodd agwedd wrthwynebus adroddiad y comisiynwyr i’r Gymdeithas Frutanaidd sefydlu ysgolion ar gyfer plant o gartrefi Ymneilltuwyr o’r pumdegau ymlaen er mwyn gwrthbwyso dylanwad Seisnig ac Anglicanaidd y Gymdeithas Genedlaethol.

Erbyn 1864 roedd saith ysgol oedd ag athrawon trwyddedig ynddynt yn Nyffryn Ogwen – pedair gan y Gymdeithas Genedlaethol (Anglicanaidd), yn Rachub, Llandygái, Bodfeurig a Glan Ogwen; ysgol ‘rydd’ yn Nhŷ’n Tŵr; a dwy gan y gymdeithas Frutanaidd (Anghydffurfiol) yn Rachub a Charneddi. Er, gellir amau effeithiolrwydd darpariaeth a olygai bod prifathro ac un athrawes yn brwydro i ddisgyblu hyd at 280 o blant, yn fechgyn a genethod fel yn ysgol Tŷ’n Tŵr bryd hynny! Saesneg oedd iaith yr addysg yn ysgolion y ddwy gymdeithas, adlais o argymhellion y comisiynwyr ar y naill law, a’r awydd i lwyddo mewn byd o ddiwydiant a masnach ganol y ganrif ar y llaw arall. Câi dysgu elfennau addysg ffurfiol ei lesteirio gan fater yr iaith ond llwyddai’r Ysgolion Sul i roddi sylfaen gadarnach yn y Gymraeg i blant ac oedolion gan lwyddo i ddenu mwy o ddisgyblion na’r ysgolion dyddiol.

Seler capel Bethesda lle cynhelid ysgol Tan Capel

Fel rhan o’r cynllun i ail adeiladu Capel Bethesda rhwng 1872 ac 1874 cynlluniwyd ystafell helaeth dan y capel gyda’r bwriad o sefydlu ynddi ysgol Frutanaidd gan fod teimlad cryf y dylid sefydlu ysgol Frutanaidd yn y pentref ei hun i wrthbwyso dylanwad ysgol Genedlaethol Glan Ogwen. Gwrthododd yr Arglwydd Penrhyn a rhyddhau tir ar gyfer y fenter ac ariannwyd y cynllun gyda chasgliadau o gapeli Ymneilltuol y pentref. Drwy ystryw ryfygus W. J. Parry, blaenor mwyaf blaengar y capel a gŵr busnes mwyaf llwyddiannus yr ardal, trefnwyd i agor yr ysgol heb ganiatâd awdurdodau’r Llywodraeth yn Llundain. Agorwyd yr ysgol yn swyddogol yn 1874, gyda Llew Tegid o’r Bala yn brifathro, gyda chymorth un athrawes a dau ddisgybl-athro i addysgu tri chant a hanner o fechgyn a genethod o gartrefi Ymneilltuol y pentref. Enw’r ysgol oedd Cefnfaes yn unol ag enw’r stad a oedd yn  ganolbwynt y pentref, ond fel ysgol Tan Capel y cyfeirid ati yn lleol.

Er cymaint rhyfyg Parry yn sefydlu’r ysgol yr oedd yn rhyfeddod iddi llwyddo mewn adeilad a oedd mor anaddas. Cafwyd adroddiad damniol ar yr ysgol gan yr arolygwyr yn 1898 yn nodi’r holl wendidau. Mesurai seler y capel oddeutu 17 metr wrth 16 metr gydag uchder yr ystafell yn llai na 4 metr (51’x 48’x11’), ac yn 1878 yr oedd 273 o blant yn mynychu’r ysgol. Nid oedd golau digonol nac awyr iach yn cyrraedd y dynjwn a gorchuddiwyd y ffenestri gyda bariau metel i warchod y gwydr rhag ei falu gan fandaliaid. Twymid yr ystafell gydag un tân glo. I ychwanegu at y caddug rhennid y seler gyda llenni cochddu trymion i greu llochesau anaddas ar gyfer y gwahanol ddosbarthiadau. Rhannai’r bechgyn a’r merched yr un cyfleusterau cadw cotiau a defnyddid y cyntedd ar gyfer cotiau’r plant bach. Yr oedd y llefydd chwech yn annigonol a gorfodid y plant bach i ddefnyddio’r un cyfleusterau â’r bechgyn. Rhedai carthffos o dan ystafell y plant bach a’i lleoliad yn rheswm digonol i gondemnio’r holl adeilad. Ar derfyn yr iard chwarae llifai Afon Ogwen a dderbyniai holl ysbwriel y plant o’r ffrydiau agored a lifai drwy’r llain cyfyng, ac yn Awst 1879 difrodwyd y maes chwarae wrth i lif yr afon olchi’r mur ataliol ymaith.

Gellir amgyffred pryder y prifathro mewn cyfeiriad yn Llyfr Cofnodion yr ysgol, dyddiedig y cyntaf o Ebrill 1899, sy’n nodi – ‘We had a new teacher yesterday… she has been never teaching before so, of course, could not be expected to know much of the management of a class of children’. O dan yr amodau rhyfeddol hyn sut rhaid gofyn sut yr oedd yn bosibl i blant y cyfnod dderbyn addysg gymwys? Ac eto er gwaetha’r holl rwystrau yr oedd llwyddiannau, fel y dengys praffter cymdeithas lengar a chrefyddol pentref Bethesda yn ystod cyfnod chwarter olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Cafwyd rhybudd yn 1899 gan y Bwrdd Addysg oni symudid yr ysgol i leoliad newydd erbyn y diwrnod olaf o Fai 1901 y byddai grant cynnal y sefydliad yn cael ei atal. Clustnodwyd safle yn Twr ar ymyl gogledd eithaf stad Cefnfaes ar gyfer adeiladu’r ysgol. A dyna oedd dechrau ymgyrch bur chwerw rhwng yr Ymneilltuwyr a’r Anglicaniaid cyn y llwyddwyd i sefydlu ysgol newydd y Cefnfaes yn 1907. Dadl yr Ymneilltuwyr oedd y dylid sefydlu Bwrdd Addysg i hyrwyddo addysg y pentref yn ei chyfanrwydd ond gwrthwynebid hyn yn ffyrnig gan yr Anglicaniaid. Mewn cyfarfod ym mis Mawrth 1893 dadleuai’r Canon Morgan, offeiriad Eglwys St Cross, Talybont, y byddai sefydlu Bwrdd yn gyfystyr â chreu ‘the most destructive thing that could be introduced into Bethesda and would be infinitely worse than the Disestablishment of the Church’ ac yng nghyngerdd blynyddol ysgol Tan Capel i ddathlu dydd Gŵyl Dewi Sant yn 1901, pwysleisiai’r Cadeirydd, y Parch Isfryn Hughes gweinidog Siloam, fod gwrthwynebwyr y cynllun yn defnyddio dulliau annheilwng a chelwyddog i annog y Bwrdd Addysg i wrthod sefydlu’r ysgol. Yr oedd ariannu’r fenter hefyd yn creu anawsterau enfawr gan fod yr ymgyrch yn cyd-daro ag un o gyfnodau mwyaf dirdynnol hanes Dyffryn Ogwen pan oedd dioddefaint a chynni ar ei waethaf yn ystod cyfnod y Streic Fawr. Cost adeiladu’r ysgol newydd oedd £3500 ac erbyn mis Hydref 1902 dim ond £800 oedd wedi ei danysgrifio a dyddiad cau Tan Capel wedi ei bennu ar gyfer diwedd y flwyddyn honno. I geisio ysbrydoli’r ymgyrch trefnwyd danfon dirprwyaeth at Gyngor Eglwysi Rhyddion Dinas Lerpwl ym mis Hydref 1902 a derbyniwyd cefnogaeth ariannol i hybu’r ymgyrch ymlaen. Rhaid cydnabod i’r Bwrdd Addysg fod yn hynod gymwynasgar yn oedi’r bygythiadau i gau’r hen ysgol oherwydd yn y diwedd ni chafodd ei hagor hyd nes Tachwedd 15fed 1907.

Ysgol y Cefnfaes a Chwarel Pantdreiniog

Ffynonellau

Hugh Derfel Hughes 1866. Hynafiaethau Llandegai a Llanllechid. Bethesda.

J. Elwyn Hughes.2007  Canmlwyddiant Ysgol y Cefnfaes, Bethesda

W. J. Parry.  Hanes fy mywyd a’m gwaith. Bethesda

Adroddiadau yn y papurau newydd canlynol – Caernarvon and Denbigh, Mawrth 1893;  North Wales Express, Mawrth 1901, Hydref 1902, Tachwedd 1902, Gorffennaf 1909.

Maes Bleddyn

Maes Bleddyn o’r awyr

Dyma erthygl gan Marian Jones, un o’n cyfranwyr gwadd

Dyma ychydig nodiadau yn dilyn cyfarfod o Glwb Hanes Rachub [29/05/2019] pan gafwyd noson o sgwrsio am Maes Bleddyn, Rachub. Arweiniwyd y cyfan gan Adrian Williams a Peter Roberts.

Daeth nifer fawr ynghyd i sgwrsio a hel atgofion am stad Maes Bleddyn ym mhentref Rachub. Daeth llawer o breswylwyr gwreiddiol Maes Bleddyn yno, ac wrth wrando ar eu hanesion, cafodd y gweddill ohonom ddarlun byw o gymuned hapus, gymdeithasol, Gymraeg a chlos dros ben.

Mae Maes Bleddyn yn cynnwys 60 o dai, ond dim ond 30 ohonynt a adeiladwyd ym 1948, gan gwmni o Loegr o’r enw ‘Pochin’, a cyfeiriwyd at drigolion y tai cyntaf fel ‘pobol tai Pochin’. Yna adeiladwyd y 30 arall ym 1951, ac roedd y tai, i gyd, yn rhai o safon uchel iawn. Yn wir, roeddynt yn llawer mwy modern na nifer o dai eraill oedd yn Rachub ar y pryd, gan eu bod yn cynnwys lle chwech tu mewn, ac ystafell ‘molchi iawn.  Doedd pob tŷ ddim yn dilyn yr un cynllun, – roedd gan rai o’r tai ystafell fyw  [neu’r parlwr] yng nghefn y tŷ, ac eraill yn y ffrynt, ac roedd rhai tai’n cynnwys tair llofft ac eraill bedair. Roedd llawer o blant ‘tai Pochin’ yn cofio gweddill y stad yn cael ei hadeiladu, ac arferent fynd i chwarae’n rhwydd i’r tai gweigion [tai oedd ar hanner cael eu hadeiladu] gan nad oedd math o rwystrau na rhybuddion diogelwch yno. Yn ôl y trigolion, digwyddodd sawl damwain wrth iddynt ddringo i lofftydd y tai, – a hynny cyni’r grisiau gael eu gosod!

Adeiladwyd y stad ar ffurf pentagon, gyda gwagle yn cynnwys glaswellt yn y canol, ac yn wir fel ’Y Canol’ y cyfeiriwyd at hwn. Yma y digwyddai’r cymdeithasu, y chwarae, y criced, y pêl-droed yn ogystal â’r goelcerth flynyddol pob mis Tachwedd. Roedd pawb yn cofio mynd i dŷ hwn a’r llall yn rheolaidd e.e. mynd i dŷ rhywun i weld ffilm ‘Cowbois’ neu ‘London Palladium’ ar y teledu, a mynd i dŷ rhywun arall i gael crempog a.y.b. Roedd gan y trigolion eu system arbennig o dderbyn a dosbarthu papurau Dydd Sul, ac roeddynt ar flaen y gad pan ddeuai cyfle i ddathlu neu gymryd rhan mewn digwyddiadau cymdeithasol. Roedd parti mawreddog yno i ddathlu coroni’r Frenhines ym 1953, ac roeddynt yn flaenllaw iawn wrth gymryd rhan yng Ngharnifal Rachub yn flynyddol. Roedd ganddynt falchder mawr, hefyd, yn eu gerddi hynod daclus, – pawb am y gorau i gael yr ardd fwyaf blodeuog a lliwgar!

Roedd cymeriadau Maes Bleddyn yn bobol mor ddiddorol a lliwgar, ac roedd cymaint yn digwydd yno i ddiddori a diddanu unrhyw blentyn! Roedd ‘na ddyn gwneud triciau’n byw yno, sef Mr Gwilym ‘Blackbird’ Jones [aelod llawn o’r ‘Magic Circle’], ac roedd plant y stad yn talu dima iddo am weld sioe driciau yng Nghae Rhosydd! Roedd Mr Edwin Alun Jones yn hyfforddi plant i adrodd, ac yn mynd â’i barti cyd-adrodd o amgylch nifer fawr o eisteddfodau, a chael cryn lwyddiant yn y maes. Roedd peldroedwyr o’r safon uchaf yno, fel Mr Bobby Morris – gŵr a fyddai heddiw wedi derbyn arian mawr gan glybiau yn Lloegr. Pobol ffraeth oedd y rhain – bob amser yn barod i dynnu coes – yn ymddiddori mewn colomennod a chaneris, betio ar raddfa fechan, mynychu’r capel a’r Royal, yn ogystal â bod yn berchnogion ar gŵn anhygoel fel Toby, Stalin a Bonzo! Ond roedd yr agosatrwydd yn arbennig iawn. Roedd rhywun ar gael pob amser i helpu unrhyw un oedd yn dioddef neu mewn helynt. Roedd person yno, a fyddai’n glanhau simdde, a hynny mewn modd anghonfensiynol, sef cychwyn o ben y to, gan wthio’r huddug i lawr i’r lle tân! Roedd ‘na nifer yno, fyddai’n fodlon rhoi gwersi gyrru car i bobol ifainc, rhai’n grefftwyr a oedd yn gallu creu celfi, yn ogystal â pherson oedd yn gwneud cacennau  priodas!

Llwyddodd y gymdeithas wych yma i fagu crefftwyr dawnus, perfformwyr enwog, arbenigwyr o’r byd addysgol a meddygol, pobl busnes a llawer mwy! Does ryfedd, – o gofio bod y rhain wedi’u magu yn yr amgylchfyd diogel, diwylliedig, cynnes a chartrefol oedd yn bodoli ar stad Maes Bleddyn dros hanner canrif yn ôl.

Castell y Penrhyn

Mae’n rhyfedd fod modd cyffelybu bod ar fwrdd llong â byw mewn castell; yn y ddau fan mae cyswllt gyda’r byd allanol wedi ei dorri. Dyna oedd profiad Annie Evans, merch i gipar ar stad y Penrhyn, a weithiai fel morwyn cegin yn y castell yn ystod blynyddoedd cyntaf yr ugeinfed ganrif. Ei sylw ysgytwol oedd na wyddai hi, na’r gwasanaethyddion eraill, sut oedd y boneddigion yn byw, ac felly yr oeddynt oll fel gwasanaethyddion yn hollol fodlon ar eu byd. I ddadansoddi ei sylw ymhellach gellir awgrymu y cynlluniwyd Castell Penrhyn i fod yn gastell o fewn castell, a thrwy ei amgylchynu gyda mur uchel byddai hyn yn gofalu na allai’r byd allanol feiddio tarfu ar urddas y preswylwyr.

Cyfrifiad 1881 – Yr Arglwydd Penrhyn a’i deulu

Pan gynhaliwyd y cyfrifiad yn 1881 y teulu a oedd yn byw yn barhaol yn y castell oedd Edward Gordon Douglas Pennant, yr Arglwydd Penrhyn cyntaf; ei wraig Mary; tair o’i ferched Louisa, Gertrude ac Adela, a thri o’i wyrion. Nodir yn y cyfrifiad fod yr Arglwydd yn wythdeg oed, ei wraig yn chwedeg dau a’r ieuengaf o’i wyrion yn saith mis oed. Hwn oedd y teulu creiddiol yn y castell ar y pryd, ond yr oedd gan yr Arglwydd deulu estynedig yn ogystal, gyda dau fab a thair merch o’i briodas gyntaf, ac wyth o ferched o’i ail briodas. O bryd i’w gilydd byddai aelodau’r teulu estynedig yn ymwelwyr dros dro yn y castell. Yr oedd yr Arglwydd hefyd yn berchen ar dŷ moethus yn Llundain a chartref yn y wlad yn Swydd Buckingham.

Ond i gynnal y teulu dedwydd yn nhawelwch cyfyng a digyffro castell y Penrhyn yr oedd yn rhaid wrth wasanaeth teyrngar ac ufudd llu o weision, morynion, cogyddion, garddwyr, ciperiaid ac ostleriaid. Yn wir, byddin o wasanaethyddion i redeg trefniadau cymhleth mewn castell moethus o’r maint hwn. Ar derfyn y bedwaredd ganrif ar bymtheg cyflogid rhestr eithriadol estynedig a chynhwysfawr o bobl yn y castell. Yno yr oedd: bwtler; prif forwyn y tŷ; cogyddes; gweision lifrai cyntaf; ail a thrydydd gwas; saith morwyn i’r Arglwyddes a’i merched; tri falet i’r Arglwydd a’i feibio; wyth morwyn tŷ; dwy is forwyn tŷ i ofalu am lofftydd y staff; tair morwyn yn y ddistyllfa; prif forwyn cegin; tair morwyn cegin a’r gegin gefn; stiward lanc i weini yn ystafell y stiwardiaid; dyn lampau a dyn i osod y tanau. Cyflogid pum merch yng ngolchdy’r castell a dyn i droi’r mangl a dwy hen wraig i olchi dillad staff y stabl. Yn yr ardd yr oedd trideg o arddwyr yn gweithio o dan awdurdod y pen garddwr a deuddeg gwastrawd yn gofalu am y ceffylau.

Cynllun cegin Castell y Penrhyn

Yn y castell yr oedd ystafelloedd gorwych y teulu bonheddig wedi eu neilltuo oddi wrth ardaloedd domestig yr adeilad a gynhwysai geginau a mannau byw’r gwasanaethyddion. Ac ni chaniateid i’r rhengoedd isaf eu swyddi siarad â’r rhengoedd uchaf gan fod yn rhaid gwarchod preifatrwydd y perchennog a’i deulu hyd yr eithaf. Ni chaniateid i’r morynion siarad yn uniongyrchol gyda’r arglwyddes, ac yr oedd holl ofynion y teulu i’w cyfathrebu i glyw’r gwasanaethyddion drwy enau’r brif gogyddes neu’r brif forwyn, ac yr oedd yn ofynnol i’r holl forwynion gyfarch y ddwy uchel weinyddes gyda’r teitl ‘Ma’am’. Prin iawn y cyflogid pobol leol ar staff y castell onid oedd gan yr unigolyn eisoes gysylltiad mewnol gyda’r gyfundrefn. O’r holl staff o chwedeg a gyflogid yn 1881 hanai pedwardeg ohonynt o Loegr, wyth o’r Alban, un yr un o’r Iwerddon, Ffrainc a’r Almaen, gan adael y tri ar ddeg a oedd weddill yn Gymry. Drwy ofalu fod y gynrychiolaeth leol yn fychan yr oedd yn llai tebygol y byddai sibrydion yn ymledu yn y gymdogaeth am fywyd oddi fewn i furiau caeedig y castell. Cyflog morwyn yn y gegin gefn yn negawd cyntaf yr ugeinfed ganrif oedd £5 y chwarter, gyda hanner coron yr wythnos i dalu am olchi dillad a hanner coron ychwanegol yr wythnos i brynu cwrw yn ôl tystiolaeth Annie Evans.

Cynllun mewnol y castell

Nid oes angen ychwanegu mwy, dim ond nodi bod Castell y Penrhyn yn symbol gweladwy heddiw o drachwant blysiog a gwancus pendefigaeth a oedd â’i phen yn y cymylau a’i thraed yn ymelwa ar lafur rhad gweithlu chwarel y Penrhyn, a chyn hynny, ar lafur am ddim caethweision yn stadau siwgr ynys Jamaica yn India’r Gorllewin. A gwell peidio anghofio fod teulu’r Penrhyn wedi derbyn iawndal o oddeutu £14,000 am y caethweision hynny a enillodd eu rhyddid ar eu stadau yn Jamaica drwy’r Mesur Diddymu Caethwasiaeth yn 1807.#

Castell y Penrhyn

Ffynhonnell

Llyfr Adnoddau i Athrawon – Castell Penrhyn,  Gwasanaeth Archifau Cyngor Gwynedd.

Lloc amddiffynnol Rachub

Mae peryg fod y nodyn hwn yn ailadrodd y cyfeiriadau a wnaethpwyd at y safle hwn mewn dau nodyn cynharach ar y wefan. Er hynny gadewch i ni fod yn berffaith sicr o bwysigrwydd y safle yn hanes ardal Rachub yn ystod cyfnod Oes yr Haearn/Rhufeinig gynnar rhwng y seithfed ganrif Cyn Crist a’r ail ganrif Oed Crist.

Cynllun o’r lloc amddiffynnol yn Rachub – delwedd drwy garedigrwydd a chaniatâd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Aberystwyth

Disgrifir y safle yng nghyfrol y Comisiwn Brenhinol ar henebion Sir Gaernarfon fel ‘clwstwr cytiau amddiffynnol’ a leolwyd ar benrhyn bychan ac iddo ymylon serth sy’n ymestyn allan i gyfeiriad y gogledd orllewin o Foel Faban ar uchder o tua 900 troedfedd. Amddiffynnwyd gwegil y penrhyn gyda ffos ddofn a atgyfnerthwyd â rhagfur cerrig sydd bellach yn adfeiliedig. Adeiladwyd mur o gerrig sychion rhwng 8/10 troedfedd mewn trwch i amgylchynu’r safle ac mae hon hefyd mewn cyflwr pur adfeiliedig. Oddi fewn i’r safle lleolwyd chwe chwt crwn oddeutu 20 troedfedd mewn trawsfesur, pob uned wedi ei sefydlu ar lwyfan bychan a dorrwyd i oleddf y llethr. Lleolwyd mynedfa’r safle ar ymyl y gogledd orllewin.

Dyma  felly ddisgrifiad moel o nodweddion pwysicaf y safle sydd yn enghraifft o glwstwr cytiau yn ogystal â bod yn gadarnle amddiffynnol. Mewn disgyblaeth lle mae dosbarthu nodweddion yn holl bwysig mae gosod y safle mewn un blwch cyffredinol yn broblemus –  ai clwstwr o gytiau ydoedd ynteu gaer amddiffynnol?  Fel caer amddiffynnol mae gan y safle ei gwendidau amlwg. I’r gogledd mae tir uchel godreon Moel Faban, ond i gyfeiriad y gorllewin mae gan y  safle agoriad di rwystr dros lwyfandir eang o dir a chysylltiad pellach gyda chaer Pendinas yn Nhregarth ac ymhellach draw i gaer Dinas Dinorwig yn Llanddeiniolen. Mae’r ddwy gaer olaf hyn yn fawr eu maint mewn cymhariaeth ag arwynebedd cyfyng y safle yn Rachub. A dyma broblem ychwanegol pe’i defnyddid fel lloches amddiffynnol, byddai yn eithriadol orlawn yn cartrefu cymuned ar ffo mewn cyfnod o argyfwng neu ymosodiad.

Cynllun o nodweddion archeolegol gwaun Corbri rhwng Caellwyngrydd a Chwarel Bryn Hafod y Wern – delwedd drwy garedigrwydd a chaniatâd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Aberystwyth

Oddeutu chwarter milltir i ffwrdd  ar lwyfandir gweunydd Corbri i’r gogledd ddwyrain ceir crynhoad arbennig o safleoedd a berthyn yn y mwyafrif  i’r un cyfnod hanesyddol â’r safle yn Rachub. Yn y cymhlethdod hwn gellir adnabod clystyrau cytiau yn dai crwn sengl neu yn gyplau o ddau, rhai wedi eu hamgylchynu gan fur pridd neu gerrig isel ac eraill mewn safleoedd agored. Mae yno hefyd dai hirion hirsgwar yn rhan uchaf y llecyn gan rannu’r un ardal â’r tai crynion sengl, tra bo nifer uwch o dai crynion â buarth yn yr ardal gyfan. Yn gysylltiedig â’r tai mae nifer o gaeau bychan o amryfal feintiau a ffurf rhai wedi eu cysylltu â therasau  hirion isel neu gaeau wedi eu hamgylchynu gan gloddiau isel. Mae’n amlwg fod haen ar ben haen o ymsefydlu o gyfnodau gwahanol wedi cyfrannu at greu’r cymhlethdod arbennig sydd ar weunydd Corbri.

Awyrlun manwl o gloddiau caeau ar waun Corbri – delwedd drwy garedigrwydd a chaniatâd David Longley, Porthaethwy

Mewn amser, a thrwy ddefnyddio technegau soffistigedig ‘radar’ o’r awyr sy’n cofnodi cyfnewidiadau bychan yn y pridd islaw, bydd yn bosibl canfod a dosbarthu’r nodweddion a berthyn i’r gwahanol haenau archeolegol a gyfrannodd at greu tirwedd hanesyddol mor bwysig yn yr ardal hon. Er hynny, mae’n annhebygol iawn y gellir canfod y cysylltiad a oedd ar un amser rhwng y lloc enigmatig yn Rachub a’r sefydliadau amaethyddol ar weundir Corbri oherwydd, yn y cyfamser, adeiladwyd pentref Caellwyngrydd gan ddifrodi’r haenau bregus  a fyddai o bosibl yn amlygu’r cyswllt rhwng y ddau leoliad.

Ffynhonnell

RCAMW. 1956 – An Inventory of the Ancient Monuments in Caernarvonshire Volume 1 East. HMSO, Llundain.