Siet Llanllechid

Does dim nodweddion arbennig yn diffinio siet (escheat) Llanllechid. Mae’n gae bychan  sydd wedi’i leoli y tu cefn i Dan Bryn ar gychwyn y llwybr troed drwy Gors Goch i Chwarel y Bryn. Caiff y cae ei amgylchynu gan waliau uchel ac mae mynedfa iddo drwy ddôr gul sydd dan glo. Ynddo carcharir defaid coll comin Llanllechid, a chyfrifoldeb y bugail mynydd yw edrych ar ei ôl. Ar un amser yr oedd parc siet llawer mwy wedi’i leoli ar y ffridd rhwng Tŷ’n Stabal a phentref Rachub. I’r cae hwn y cesglid defaid coll y mynydd i’w hadfer gan eu perchnogion tra byddai’r gweddill heb nod yn cael eu trosglwyddo i siet Llanllechid. Ar Hydref 29ain, diwrnod Ffair Llan, y byddai’r gweddill hwn yn cael eu gwerthu yn y sêl ‘siet’ arbennig, defod a oedd yn rhan o gyfrifoldeb gweinyddol hen bencadlys amaethyddol plwyf Llanllechid.

Cofnododd William Williams (1738-1817) yn ei arolwg o Sir Gaernarfon yn 1808, fod mwy na 4000 acer o dir plwyf Llanllechid yn gomin â hawl gan bob ffermwr yn y plwyf i bori ei anifeiliaid yn ddiwaharddiad arno. Mae’n amlwg fod hawl mor benagored o’i fath yn creu trafferthion ac yn 1846 sefydlwyd Pwyllgor Gwarchod Comin Llanllechid i lunio cyfundrefn ar gyfer diogelu’r comin. Penderfynwyd yn y pwyllgor cyntaf, a gynhaliwyd yn nhafarn y Red Lion yn Llanllechid, ar dri gorchymyn gwarchodol. Yn gyntaf, y rhoddid caniatâd i bob ffermwr gadw tair dafad i bob acer o’i ddaliadaeth yn y plwyf, ond y byddai’n rhaid i’r deiliad dalu dau swllt am bob dafad a fyddai dros y cyfri penodedig. Yn ail, cytunwyd na chai ffermwr yr hawl i ail osod ei gyfran ef o’r comin i ffermwr arall. Yn drydydd, penderfynwyd codi dirwy o ugain swllt y diwrnod ar dresmaswyr a fyddai’n torri brwyn ar y comin cyn y dydd cyntaf o Awst.

Erbyn mis Chwefror 1849 yr oedd yn amlwg fod buddiannau cymuned Llanllechid cymaint fel yr oedd gofyn am  swyddog arbennig i’w gwarchod, a phenderfyniad y pwyllgor oedd penodi ‘cwnstabl’ i warchod y plwyf, y cyntaf o’i fath yn hanes yr ardal mae’n debyg. Ymhlith ei ddyletswyddau yr oedd gwarchod y comin rhwng misoedd Ebrill a Medi rhag pobl a oedd yn niweidio’r borfa drwy dorri tywyrch. Disgwylid i’r cwnstabl ymweld â’r comin rhwng Penisarnant a chwarel Bryn Hafod y Wern ar nifer o amseroedd yn ystod yr wythnos ac roedd un ymweliad i ddigwydd ar nos Sadwrn pob wythnos. I’w gynorthwyo penderfynwyd penodi pymtheg o gwnstabliaid yn warchodwyr gwirfoddol o blith ffermwyr cymwys neu rai a fynnai gyfrannu at y gwaith. Gwnaethpwyd newid pellach yn 1852 pan benderfynwyd cyflogi gwarchodwr llawn amser i ofalu am fuddiannau’r comin yn unig. Telid wyth swllt a chwe cheiniog yr wythnos am ei wasanaeth ac roedd caniatâd iddo hefyd dderbyn yn ychwanegol hanner gwerth y defaid a oedd yn tresbasu ar y comin. Erbyn 1859 yr oedd cae tresbas wedi’i sefydlu ym mhentref Llanllechid ac roedd cynnig gerbron y dylid adeiladu tŷ i’r swyddog i ofalu am y cae. Mae’n amlwg fod costau cynnal y gyfundrefn yn troi yn faich erbyn chwedegau’r ganrif gyda chyflog y gwarchodwr bellach yn 14 swllt yr wythnos. Ym mis Chwefror 1861 penderfynwyd y dylid diddymu’r swydd yn gyfan gwbl, penderfyniad anymarferol oherwydd ddau fis yn ddiweddarach gorfu i’r pwyllgor ymddiried gwasanaeth gwarchod y comin i ofal wyth o ffermwyr gwirfoddol.

Yr hyn sy’n ddiddorol am holl drafodaethau’r pwyllgor yw diddordeb gwarcheidiol stad y Penrhyn yn y penderfyniadau. Er enghraifft, yn 1849 yr oedd hanner cyflog y gwarchodwr i’w dalu o goffrau Treth y Tlodion a’r hanner arall i’w warantu gan yr Arglwydd Penrhyn. Yn yr un modd yr oedd hanner pris cot y plismon, sef 20 swllt, i’w dalu gan y pwyllgor ac roedd cais i berchennog y stad dalu’r hanner arall. Ni basiwyd yr un penderfyniad heb fod arno yn gyntaf sêl bendith rheolwr stad y Penrhyn, boed hwnnw yn Mr Wyatt neu Mr Ironmonger, er mewn gwirionedd, penderfyniadau ynghylch tir y Goron ac nid perchnogaeth y Penrhyn oedd dan drafodaeth.

Gwybodaeth – Cofnodion Pwyllgor Gwarchod Comin Llanllechid – drwy law Edgar Roberts, Llanfairpwll.

Ffynhonnell

Jones, Emyr Gwynne. 1973. ‘A Survey of the ancient and present state of the county of Caernarvon, by William Williams (Part 2’). Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon 34. tt. 112-162

Advertisements