Capel Bethesda

Capel Bethesda (1)
Capel Bethesda

Enwyd pentref Bethesda ar ôl y capel a adeiladwyd gyntaf yn 1820 ar y ffordd bost a oedd newydd ei hadeiladu gan Thomas Telford. Yno hefyd yr oedd  tafarn o’r enw y Star, ac efallai yn wir y dylai enw’r dafarn fod yn enw ar y pentref!  Capel Bethesda oedd capel cyntaf a phwysicaf yr Annibynwyr yn yr ardal. Cafodd ei ailadeiladu yn 1841 a thrachefn rhwng 1872 a 1874 ar gost o £2,000. Y pensaer oedd Richard Owens a gynlluniodd dalcen i’r capel ar ffurf tri bae mewn arddull Eidalaidd sy’n eithriadol addurnedig. Cynlluniodd bediment uchel i’r bae canol gyda thabled yn cofnodi enw’r capel o’i fewn ac oddi tano dair ffenestr hirgul wedi’u gwahanu gan bileri Corinthaidd. Mae’r porth wedi ei encilio ond wedi ei fframio gan ddwy golofn Dwscanaidd o bob tu. Addurnwyd y ddau fae allanol â phâr o ffenestri dan bediment ar y naill ochr ac islaw iddynt gwpl o ddrysau o dan fwa crwm. Ychwanegwyd pileri Corinthaidd ar y ddwy ochr i addurno ymylon allanol yr ail lawr. O holl gapeli Dyffryn Ogwen hwn yw’r capel mwyaf addurnedig a mawreddog ei olwg. Mae ei leoliad hefyd yn dra arwyddocaol gan ei fod wedi ei adeiladu ar ffin eithaf stad Cefnfaes a stad Penrhyn fel pe bai yno i wahodd datblygiadau yr un mor aruchel i gyfeiriad y de. Yn 1866 yr oedd 593 o gymunwyr a olygai mai hwn oedd capel mwyaf yr ardal, a hynny cyn iddo gael ei ehangu am y trydydd tro.

Yn 1888 sefydlwyd David Adams (1845-1923) yn weinidog y capel, gŵr a gyfrifid yn ei ddydd yn un o ddiwinyddion pwysicaf Cymru. Cyn gyrfa Adams fel gweinidog nid oedd Cymru wedi profi chwyldro’r ddiwinyddiaeth newydd o’r Almaen. Adams felly a gyflwynodd ddysgeidiaeth meddylwyr megis Hegel a Kant i ddiwinyddiaeth Cymru. Yn ystod ei gyfnod yn y capel dywedir iddo ganolbwyntio yn ei bregethau ar agweddau moesol yn hytrach nag ar bynciau dadleuol y ffydd Gristionogol, a chysylltir ef yn arbennig ag ymgyrchoedd sobreiddiwch ac am ei lafur mawr fel holwr yn yr Ysgol Sul. Perchid ef am angerdd ei foesoldeb ond câi ei feirniadu am gulni’r moesoldeb hwnnw a oedd yn cael ei danseilio gan Galfiniaeth, penarglwyddiaeth a grymoedd materoliaeth yn ei dyb ef. Yr oedd yn awdur nifer o lyfrau diwinyddol ac athronyddol eu cynnwys ac yn 1913 fe’i hurddwyd yn gadeirydd yr Undeb Annibynnol Cymraeg. Bu’n weinidog ar gapel Bethesda am saith mlynedd cyn symud i eglwys yn Lerpwl yn 1895.

Yr oedd arhosiad Adams ym Methesda yn cydoesi â gyrfa gŵr arall eithriadol ddylanwadol yn hanes Cymru yn ogystal â hanes capel Bethesda. Yn 1887 penodwyd R. S. Hughes (1855-1893) yn organydd a chôr feistr y capel a symudodd i Fethesda yn dilyn cyfnod fel cerddor yn Llundain. Yn gynharach yn ei yrfa yr oedd Hughes wedi bod yn gymhorthydd i’r Dr Ronald Rogers, organydd y gadeirlan ym Mangor, ac ar ei eirda ef y daeth Hughes i Fethesda. Perthynai traddodiad grymus o ganu corawl a chynulleidfaol i gapel Bethesda o dan arweinyddiaeth nifer o gerddorion lleol gan gynnwys yr enwocaf ohonynt David Roberts (Alawydd 1820). Yr oedd penodi Hughes yn gam diddorol o gofio gwrthwynebiad yr enwadau ymneilltuol i gael offeryn cerdd yn rhan o’r gwasanaeth, ac yng nghapel Carneddi, er enghraifft, rhaid oedd aros tan 1873 cyn penderfynu defnyddio offeryn yno. Mewn awyrgylch o’r fath yr oedd penodiad Hughes felly yn gyfystyr â bod capel ymneilltuol yn noddi cerddor proffesiynol, penderfyniad beiddgar ond un a fyddai’n cyfateb i’r ddelfryd o sefydlu’r capel fel un o brif eglwysi’r Annibynwyr yng Nghymru. Ar ei benodiad yr oedd Hughes yn fachgen ieuanc tri deg dwy oed ond fel y dengys yr adroddiad isod nid oedd ei ddyfodiad yn rhydd o anawsterau mewn eglwys a oedd yn uchel ei pharch ond yn gul ei moesau. Yn Hydref 1888 ceir y cyfeiriad canlynol gan Griffith Edwards, Ysgrifennydd y capel – ‘Cwrdd brodyr heno, penderfynwyd fod R S Hughes yr organydd i gael y rhybudd olaf os na ddaw yn aelod eglwysig ac yn ddirwestwr ac i barhau felly, ac os na fedr ddal y naill a’r llall ei fod i golli ei le. Mr Adams a minnau i’w weld ar unwaith’. Er cymaint y rhybuddion, o gofio am ymgyrch sobreiddiwch Adams, a chymaint oedd problem barhaol Hughes gyda’r ddiod, arhosodd yn organydd y capel hyd at ddyddiad ei farwolaeth yn ŵr tri deg wyth oed yn 1893. Er byrred ei oes cyflawnodd lawer wrth sefydlu llwyfan yng Nghymru i ganeuon poblogaidd sentimental y cyfnod. Cofir ef yn bennaf ym Methesda fel athro ac arweinydd cerdd, fel cyfeilydd rhagorol ac organydd gwych a fyddai’n tynnu lluoedd i’r capel cyn oedfa’r nos i wrando ar ei ddatganiadau. Claddwyd Hughes ym mynwent Eglwys Glanogwen dafliad carreg  o’i gartref yn Rhes Douglas, lle cofnodir ei arhosiad â choflech ar fur y tŷ.

Nid Adams a Hughes oedd yr unig ffigurau adnabyddus i ddisgleirio yng Nghapel Bethesda. Yno hefyd y daeth Rhys J Huws i weinidogaethu rhwng 1905 a 1912 mewn cyfnod anodd yn hanes y pentref yn dilyn rhwygiadau cymdeithasol y streic fawr. Cyn dod i Fethesda o Fethel yr oedd Huws wedi sefydlu yno Eisteddfod y Plant, cynllun a ddatblygodd yn eithriadol lwyddiannus yn ystod ei arhosiad yn y capel a’r pentref, ac mae’n bur debyg mai syniad y gŵr athrylithgar hwn a symbylodd sefydlu Eisteddfod Genedlaethol i fudiad yr Urdd gwta chwarter canrif wedi hau’r hedyn ym Methesda. Er hynny, mae’n rhaid cofio fod cyn weinidog yng nghapel Bethesda, Hwfa Môn (Rowland  Williams) wedi sefydlu eisteddfod hynod lwyddiannus yn y pentref yn 1864 a bod eisteddfodau yn rhan o ferw bywyd cymdeithasol yr ardal o dan lywyddiaeth y capeli, y chwarel a chymdeithasau diwylliannol.

A phwy tybed oedd yn llywyddu holl ragoriaethau capel Bethesda? Pwy ond y  bythol bresennol W. J. Parry, arweinydd mwyaf blaenllaw y capel, ffigur pwysicaf pentref Bethesda. Roedd yn gyfrifydd ac yn ŵr busnes ac yn asiant stad Cefnfaes, ac yn un o ffigurau amlygaf Cymru ei gyfnod yn y byd cyhoeddus, ym meysydd crefydd ac addysg, gwleidyddiaeth plaid a llywodraeth leol. Roedd yn arloeswr ac yn arweinydd hirben undebaeth lafur, ac yn flaenllaw ym myd newyddiaduraeth a chyhoeddi llyfrau a cherddoriaeth. Ef oedd yn gyfrifol am ddenu R. S. Hughes i’r capel a bid sicr Adams a Rhys J. Hughes hefyd ac roedd ei gysylltiadau â phrif bersonoliaethau a mudiadau Cymru yn eang ac yn ddylanwadol. Yr oedd ei ymlyniad i gapel Bethesda yn ddwfn a diffuant yn deillio o’i gysylltiad fel plentyn â rhai o sylfaenwyr diwylliedig yr eglwys. Cafodd ei ethol yn flaenor yn dair ar hugain oed yn 1844 a bu’n deyrngar i’r achos hyd ei farwolaeth yn bump a phedwar ugain oed, er bod rhan o’i deyrngarwch wedi symud i gapel split Bethania pan briododd am y trydydd tro yn 1902 â Mary Guy, Saesnes o ganolbarth Lloegr a ddymunai gael gwasanaethau yn Saesneg.

Addoldy a gynlluniwyd i ddelwedd fawreddog W. J. Parry oedd capel Bethesda a byddai ei weld heddiw yn gaeedig yn siom enbyd i ddyn a gyfrannodd mor helaeth i gapel yn ogystal â phentref Bethesda ond a fu farw yn ei henaint yn ŵr unig a chwerw.

Gwybodaeth ychwanegol

Wyn Thomas, Adran Gerdd, Prifysgol Bangor

Elwyn Hughes, Bryn Ogwen, Bethel

 

Ffynonellau

Ernest Roberts. 1963. Bargen Bywyd fy Nhaid. Llandybïe.

Elwyn Hughes.(Gol) 2012. Rhai o Enwogion Llên Dyffryn Ogwen . Gwasg Dinefwr.

Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion. 1953. Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940. Llundain.

Roose Williams. 1978. Quarryman’s Champion: the life and activities of William John Parry of Coetmor. Dinbych.

Haslam, J. Orbach, A.Voelcker. 2009. Gwynedd (Pevsner Buildings of Wales).

Nadolig Llawen

Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i holl ddarllenwyr gwefan Hanes Dyffryn Ogwen. Diolch i chi am fod mor ffyddlon yn darllen y wefan yn ystod y flwyddyn hon a gobeithio y gwnewch ddal ati yn y flwyddyn newydd yn ogystal. Ers sefydlu’r wefan ym mis Tachwedd 2016  mae rhagor na chant o erthyglau byr wedi ymddangos ac mae bron i gant arall yn yr arfaeth. Bydd cyfraniadau gan nifer o gyfranwyr gwadd yn ymddangos yn ystod y flwyddyn nesaf a buasem yn falch o dderbyn cyfraniadau gennych chithau hefyd ddarllenwyr y wefan. Mae’r wefan yn cael ei darllen yn rheolaidd yn Unol Daleithiau America ac yn Hong Kong, ac yn achlysurol mewn rhannau eraill o’r byd lle mae pobol Pesda yn bresennol. Pob dymuniad da i chi oll.

Dymuniadau gorau,

John a Lowri

Bryn Derwen

Adeiladwyd Bryn Derwen ar gyfer James Greenfield, brodor o swydd Sussex, a benodwyd yn rheolwr chwarel Cae Braich y Cafn yn 1802 gan Richard Pennant, Arglwydd cyntaf stad y Penrhyn. Mae’n dŷ ysblennydd a leolwyd gerllaw ffordd bwysicaf y cyfnod sef Ffordd y Lord a oedd i’w throsi yn 1805 yn Ffordd Dyrpeg rhwng Pont Tŵr a Llandygái. Nid yw’n sicr mai Benjamin Wyatt, prif asiant Stad y Penrhyn, oedd cynllunydd y tŷ ond yr oedd yn amlwg yn ddigon crand i dynnu sylw Thomas Telford pan oedd ef yn cynllunio’r ffordd bost drwy’r dyffryn yn 1815. Disgrifiwyd y tŷ yn 1810 gan Richard Fenton yn ei lyfr Tours in Wales fel ‘…a new creation out of a spot lately covered with rocky excrescences and surrounded by bog and turbary, (but) now displaying pleasure grounds, groves, and gardens walled and cropped with fruit and fine meadows’.

Mynedfa Bryn Derwen
Y lôn goed urddasol sy’n arwain at Fryn Derwen

Greenfield oedd y rheolwr a gynlluniodd y chwarel i fod yn un o gloddfeydd llechi mwyaf y byd. Cyn ei ddyfodiad yr oedd y gloddfa o dan ofal William Williams yn datblygu yn gyfres o byllau dyfnion ar echel dwyrain i’r gorllewin. O dan gynllun Greenfield  datblygodd ef y chwarel yn gyfres o bonciau cymesur i ddringo hyd lethr y Fronllwyd a phob ponc wedi’i chysylltu â system o elltydd ar naill ochr y gwaith. Dan ei arweiniad datblygodd y chwarel i gyflogi oddeutu 600 o weithwyr gan gynhyrchu hyd at 40,000 tunnell o lechi a phroffid y gwerthiant wedi chwyddo o £7000 yn 1808  i £18,415 erbyn 1813.

Ond daeth tro ar fyd. O 1800 ymlaen bu anghydfod rhwng y gweithwyr a’r perchennog ynghylch cyflogaeth sefydlog ac amodau gwaith teg, gyda rhai chwarelwyr yn ennill 17 swllt y mis tra oedd eraill yn derbyn £6 am wneud yr un gwaith. Torrodd yr anghydfod yn streic yn 1825 a barhaodd am un diwrnod yn unig ond, er byrred y brotest, ni thrafodwyd cwynion y gweithwyr yn gymodlon, a’r aflwyddiant hwn a arweiniodd at y pegynnu mewn cysylltiadau diwydiannol a fu’n gymaint o faen tramgwydd yn y chwarel hyd weddill y ganrif. Ychydig amser wedi’r digwyddiad darganfuwyd Greenfield wedi boddi yn yr Afon Ogwen a bu cryn ddyfalu am y rhesymau a arweiniodd at y fath drasiedi – ai drwy ddamwain y bu iddo foddi ynteu a oedd y sen o orfod wynebu’r brotest ddiwydiannol gyntaf yn hanes Chwarel y Penrhyn yn ddigon iddo gymryd ei fywyd?  Mae cryn ddyfalu ynghylch pa union lyn yn yr afon y cyfarfu Greenfield â’i dynged. Y farn gyffredinol yw mai Llyn Du, sef pwll ar ochr Parc Meurig o’r ynys sydd y tu isaf i Bont yr Inn, yw’r lleoliad tebycaf. Mae  gan y llyn hwn ail enw sef Llyn Dronfield, ond tybed a drodd yr enw Greenfield yn Dronfield yn nhafodiaith Dyffryn Ogwen?

Ffynhonnell

Hugh Derfel Hughes. 1866. Hynafiaethau Llandegai a Llanllechid. Bethesda.

Richard Fenton. 1804-1817. Tours in Wales, (ed). J. Fisher.