Yr Eglwys Gatholig

 

Eglwys Gatholig 4
Yr Eglwys Gatholig

Yr addoldy diwethaf i’w adeiladu yn Nyffryn Ogwen yw’r eglwys Gatholig, ac er mor fychan yw’r adeilad mae’n meddu ar yr enw hiraf o holl eglwysi’r fro sef Eglwys Sant Pius X a Sant Richard Gwyn. Pius X oedd y Pab a wasanaethai pan adeiladwyd yr Eglwys a Richard Gwyn yw enw’r sant a’r merthyr Catholig a ddienyddwyd yn Wrecsam yn 1584. Mae’r adeilad yn un syml ond trawiadol gyda’i do llechi serth uwchben muriau o frics. Mae ffenestri hirion yn goleuo’r tu mewn a ffenestr o wydr lliw ar ffurf croes yn croesawu’r addolwyr uwch y porth ar bared y gorllewin. Oddi fewn mae’r adeilad yn olau a siriol gyda nenffyrch coed trawiadol yn cynnal y to uchel.

Eglwys Gatholig 1
Tu mewn i’r Eglwys Gatholig

Cynlluniwyd yr eglwys gan gwmni penseiri Weightman a Bullen ac fe’i cysegrwyd mewn offeren o dan arweiniad Esgob Menevia, y Tad Petit ar ôl iddo ddychwelyd o Ail Gyngor y Fatican yn Rhufain yn 1963. Dilynwyd yr offeren gan ffair a oedd yn agored i holl gyhoedd yr ardal. Anfarwolwyd y ffair gan un o’r anerchiadau croeso byrraf erioed gyda’r eicon pop Russ Conway yn llafarganu fod y ffair ar agor ac i bawb wario yn hael yn y stondinau!

Y Canon Joseph Thompson oedd offeiriad y plwyf ar y pryd, ac yn ôl pob sôn, roedd yn ddyn hynod benderfynol ac ymwthgar ac nid efallai yr addfwynaf o apostolion y Bod Mawr. Ei freuddwyd ef oedd adeiladu eglwys ym Methesda. Am flynyddoedd cynhaliwyd yr offeren yn y Drill Hall dros dro, ac ar brydiau eraill yn nhafarn y Waterloo ar y Stryd Fawr. Dyhead Thompson oedd sefydlu eglwys i gynnal y gwasanaethau. Yng nghylchgrawn yr esgobaeth y Menevia Record ym mis Mawrth 1963 mae’n diolch am gyfraniadau at adeiladu’r eglwys ac yn gwahodd rhagor gan gofnodi fod £500 eisoes wedi’i gyfrannu at yr adeilad ond bod angen rhagor o arian i’w ddodrefnu. Ond yr oedd brwdfrydedd Thompson i wireddu’r prosiect yn llawer dyfnach na hyn oherwydd ers dechrau’r chwedegau yr oedd yn cenhadu yn y wasg Gatholig i geisio denu mwy o Gatholigion i ymsefydlu yn y pentref.  Dan y pennawd Apostolate of the Countryside mae’n ysgrifennu fel a ganlyn: ‘If you want Welsh magnificence and the peace of a little town, apostolic work and the refreshment of country walks and fishing, you should consider living in Bethesda in Caernarvonshire… Bethesda lies at the foot of a pass between the two highest mountain peaks in Wales. It is five miles from Bangor and the sea… Since 1939 a priest from Bangor has looked after Bethesda. Preparations are being made for building a church but in the meantime Mass is said on Sunday in the Drill Hall. Naturally in such a small parish, any help towards th finishing and furnishings of the church would be welcome, though the 100 Catholics of the area and the 30 who manage to come to Mass are very helpful’.

Gwireddwyd y prosiect a chroesawyd y gymuned Gatholig i’r pentref er yr ymddengys mai prin oedd y rhai a ymatebodd yn uniongyrchol i wahoddiad yr offeiriad i’r ardal. Bellach fel yn hanes nifer o enwadau crefyddol eraill yr ardal nid yw niferoedd praidd eglwys wedi ehangu llawer, ond mae’r eglwys yn fyw a dyhead dwyfol Thompson yn dal i losgi’n eirias.

Gwybodaeth ychwanegol gan Frances Llewellyn, Pont y Pandy, Bethesda ac Emyr Roberts, Ystradawel, Bethesda.

Ffynhonnell 

Canning, Roberta. 2007. The Catholic Community in Bangor. Wrexham.

Advertisements

Lady Penrhyn

Lady P

Drwy gyd-ddigwyddiad, mae gan Ddyffryn Ogwen gysylltiad ag un o ddigwyddiadau mawr hanes, un a fu’n gyfrwng i newid cwrs bywyd cyfandir cyfan drwyddo draw.

Lady Penrhyn yw’r cysylltiad hwnnw, sef llong hwyliau a adeiladwyd yn 1786 yn iard Greaves ar Afon Tafwys a hynny’n benodol ar gyfer cludo caethweision rhwng Prydain ac ynysoedd y Caribî.  Roedd gan y llong ddau berchennog, sef William Sever, ei chapten, a William Curtis, perchennog cwmni llwyddiannus yn Rotherhithe a gynhyrchai fisgedi ar gyfer marchnad llongau. Roedd yn ŵr digon amrwd yn ôl pob sôn, ond yn henadur a ddaeth, er gwaetha’r ffaith ei fod yn ôl pob tebyg yn anllythrennog, yn Faer Llundain am gyfnod yn ystod nawdegau’r ganrif. Adwaenid ef wrth ei lys enw Billy Biscuit. Mae’n bur debyg fod y gŵr hwn yn adnabod Richard Pennant, sgweier Stad y Penrhyn. Efallai bod y ddau yn gyfeillion yn hytrach na chydnabod, er nad oes cofnod i gadarnhau yr un o’r ddau gysylltiad, ond rhywsut, rywfodd enwyd y llong yn Lady Penrhyn, er cydnabyddiaeth mae’n debyg i Anne Susannah, gwraig Richard Pennant. Wedi’r cyfan yr oedd gan ei gŵr statws freiniol yn y wlad; roedd yn ddiwydiannwr amlwg, yn berchen ar chwarel lechi lwyddiannus ac yn meddu ar stad siwgr enfawr yn Jamaica. Ef hefyd oedd Aelod Seneddol dinas fawr fasnachol Lerpwl ar y pryd.

Llong gymharol fychan 333 tunnell oedd y Lady Penrhyn a fesurai 103 troedfedd o hyd wrth 27 troedfedd o led, gyda dau ddec uwchlaw a thri yn yr howld. Ar gyfer ei mordaith gyntaf comisiynwyd y llong gan Adran Llynges y Llywodraeth i hwylio i ynys ym mhendraw’r byd ar gyfandir a enwyd bryd hynny yn Van Diemen’s Land. Ei chargo oedd 101 o ferched ac wyth plentyn, carcharorion o garchar Newgate yn Llundain sef un o garchardai mwyaf anllad a chreulon y wlad. Roedd y rhain i’w halltudio i ddiffeithwch digroeso gwladfa benyd Botany Bay.

Disgrifiwyd y merched gan Arthur Philips, a oedd yn bennaf gyfrifol am yr ymgyrch, fel ‘the women in general I should suppose possess neither virtue or honesty. But there may be some for thefts who still retain some degree of virtue and these should be permitted to keep together and strict orders to the master of the transport should be given that they are not abused and insulted by the ship’s company’. Hyd y gwyddys nid oedd merched o Gymru ar y rhestr, er bod yn eu plith ferched â chyfenwau megis Davies, Powell, Lewis, Humphreys a Williams a oedd wedi’u dedfrydu yn llysoedd Lloegr. Trosedd Sarah Davies er enghraifft oedd dwyn pedair hances sidan, a’i dedfryd yn Llys Caerwrangon yn 1783, oedd ei dienyddio ond cyfnewidiwyd hynny i saith mlynedd o garchar. Trosedd Elisabeth Evans oedd dwyn tri phwys o de ac am ei chamwedd derbyniodd ddedfryd yn yr Old Bailey o saith mlynedd o garchar. Oherwydd difrifoldeb troseddau’r merched fe’u cadwyd mewn cyffion a chadwyni drwy gydol y fordaith.

Yr oedd y Lady Penrhyn yn rhan o lynges y ‘First Fleet’ o un llong ar ddeg. Roedd tair ohonynt yn llongau cyflenwi bwyd ac offer, dwy yn llongau rhyfel i warchod y fflyd a chwech yn llongau cludo troseddwyr sef yr Alexander, Charlotte, Friendship, Prince of Wales, Scarborough a’r Lady Penrhyn wrth gwrs. Y rhain hwyliodd ar y fordaith gyntaf i Awstralia yn 1787/88 gan gychwyn y wlad ‘newydd’. Wedi’r cyfan ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif yr oedd yn haws ac yn rhatach lledaenu gorwelion ymerodraeth Prydain drwy wladychu cyfandir gyda dihirod a fyddai’n cael gwared ar y trigolion ‘cyntefig’ brodorol na drwy ennill tiriogaeth mewn brwydrau gwaedlyd fel y gwnaed yn ystod y ganrif ganlynol ar gyfandiroedd Affrica ac India er enghraifft.

Trosglwyddwyd y merched i’r Lady Penrhyn o garchar Newgate ym mis Ionawr 1787, a hwyliodd y llong i gyfarfod â gweddill y llynges oddi ar arfordir Portsmouth. Mynegwyd pryder fod y llong yn rhy fach i gludo cynifer o garcharorion, gan mai ar gyfer 77 y cynlluniwyd y fordaith ar y cychwyn. Er hynny, pan hwyliodd y Lady Penrhyn a’i chyd longau o Portsmouth ar 13 Mai 1787 roedd 168 o bobl ar ei bwrdd yn cynnwys y capten; chwe swyddog milwrol; 33 aelod o’r criw; meddyg; y carcharorion a’u plant a nifer o unigolion ychwanegol. Cafwyd mordaith eithriadol ddidramgwydd ar y cyfan, o ystyried garwedd yr amgylchiadau. Ar y daith arhoswyd yn Ynys Tenerife i dderbyn bwyd a dŵr ffres, a threuliwyd mis yn Rio de Janeiro cyn croesi Cefnfor Iwerydd am yr eildro i gyrraedd trefedigaeth yr Iseldiroedd yn y Cape of Good Hope, De Affrica. Yno, ychwanegwyd at amodau caeth y llong drwy dderbyn saith ceffyl ar ei bwrdd, a llinach y ceffylau hyn, mae’n debyg, a dadogodd holl feirch cychwynnol Awstralia.

O dde Affrica yr oedd y fordaith ar draws Cefnfor y De yn eithriadol anodd o ganlyniad i ddiffyg bwyd a dŵr yfed, a’r gwres llethol yn ychwanegu at annifyrrwch amgylchiadau cywasgedig llong mor fach. Nid oedd gan y merched ddillad i newid iddynt ac fe’u gorfodwyd yn eu carpiau i aros yn yr howld rhag gwres tanbaid yr haul, gan oddef yno blâu chwain a llau a budreddi a chanlyniadau annymunol diffyg glanweithdra. Cymerai’r dynion hefyd fantais ar y merched gan anwybyddu rheol Arthur Philips y llywodraethwr. Bu farw chwech o’r carcharorion ar y fordaith, nifer eithriadol fychan o ystyried caledi’r amgylchiadau. Pan gyrhaeddwyd Botany Bay ar 20 Ionawr 1788 ar ôl mordaith o 252 diwrnod gwelwyd nad oedd yn hafan mor ledrithiol ag y’i disgrifiwyd hi gan Gapten Cook a’i darganfu yn 1770. Ni allai’r llongau angori yn agos i’r lan ac nid oedd yno gyflenwad o ddŵr i’w yfed na thir addas i blannu cnydau bwyd. Yn fuan penderfynwyd symud i fae gwell ei adnoddau ychydig filltiroedd i’r gogledd ac yno sefydlwyd y drefedigaeth benyd gyntaf a’i galw yn Sydney Cove er parch at enw’r Arglwydd Sydney, Ysgrifennydd Cartref Prydain. Amcangyfrifid fod cost yr holl ymgyrch i gyrraedd Awstralia yn £84,000, swm a fyddai’n cyfateb i oddeutu £9.6 miliwn heddiw.

Wedi gwaredu ei chynnwys truenus yn Awstralia yr oedd yr hawl i ddefnyddio’r Lady Penrhyn yn trosglwyddo o’r Llywodraeth i ofal yr East India Company a’i defnyddiodd yn rhan o fasnach te Tsieina. Hwyliodd o Sydney ar 5 Mai 1788 gyda’r bwriad o gasglu crwyn ffwr o Kamchatka ar arfordir dwyrain Rwsia i’w gwerthu yn Tsieina, cyn dychwelyd i Brydain gyda llwyth o de. Daeth terfyn cyflym i’r cynllun pan gyrhaeddodd y llong Ynysoedd Tahiti gan fod angen ei thrwsio a bod aelodau’r criw yn dioddef o anhwylderau amrywiol. Wedi treulio cyfnod yno yn trwsio’r llong ac yn gorffwyso addaswyd y fordaith er mwyn mynd i Macau ac yna i ddilyn yr aber i Guangzhou (Canton). Ar y rhan hon o’r fordaith darganfuwyd nifer o ynysoedd nad oedd cofnod ohonynt cyn hyn ac fe alwyd un ohonynt yn Penrhyn pan gafodd ei chanfod ar 8 Awst 1788. Dychwelodd y llong i Brydain gyda’i chargo o de o Canton gan gyrraedd arfordir Swydd Caint ar 10 Awst. Yn fuan wedyn gwerthwyd y llong i’w defnyddio yn y farchnad gaethweision a siwgr rhwng Prydain a Jamaica, ac mae’n bosibl y byddai Richard Pennant wedi elwa o’i gwasanaeth bryd hynny. Ym mis Gorffennaf 1811 rhoddwyd terfyn ar fordeithiau’r Lady Penrhyn pan suddwyd hi gan forladron o Ffrainc pan oedd ar daith i Granada yn Ynysoedd y Caribî.

Heddiw adnabyddir ynys Penrhyn fel Tongareva ac mae’n rhan o archipelago Ynysoedd Cook yn y Cefnfor Tawel. Tybed a oes yma gyfle i greu cysylltiad o’r newydd rhwng ein cymuned ni yn Nyffryn Ogwen a chymuned yr ynys bellennig hon yn y Cefnfor Tawel sydd, er gwell neu er gwaeth, â chysylltiad â’r dyffryn?

Ffynonellau

King, J. 1982. The‘First Fleet’. The convict voyage that founded Australia 1787-88. Macmillan.

Amryfal ffynonellau ar y we gan gynnwys:

https://en.wikipedia.org/wiki/Lady_Penrhyn_(1786_ship)

https://simple.wikipedia.org/wiki/Lady_Penrhyn_(ship)

http://firstfleetfellowship.org.au/ships/hms-lady-penrhyn/