Bryn y Byrddau

Dyma erthygl arall gan un o’n cyfranwyr gwadd, sef Dafydd Fôn Williams. 

Llyn Meurig 1768 a
Rhan o Fap – Plans of the Penrhyn Estate in the Counties of Caernarvon and Denbigh belonging to Richard Pennant, Esq., surveyed by G. Leigh, 1768. Penrhyn Ychwanegol 2944 – drwy garedigrwydd a chaniatâd Archifau a Chasgliadau Arbennig, Prifysgol Bangor. Noder y canlynol – Tŷ Hen = 95, Bryn y Byrddau = 95D; Ddôl = 100, Tan y Castell = 100C; Bryn Llys = 94, Bryn Rhys Du = 94H.

Yn yr erthygl am Lyn Meurig ar y safwe hon yn Rhagfyr 2016, cyfeiria’r awduron at yr eglwys St Anne wreiddiol a leolwyd yn ymyl y llyn, ac a orchuddiwyd gan domen y chwarel ganol y bedwaredd ar bymtheg. Adeiladwyd yr eglwys St Anne bresennol yng Nghilgeraint, yn ddigon pell oddi wrth y domen, i gymryd ei lle.

Fodd bynnag, nid gyda’r eglwys, na’r llyn, na’r tai y mae a wnelo hyn o lith, ond yn yr hyn sydd gan Hugh Derfel i’w ddweud amdani, yn yr adran o’i lyfr Hynafiaethau Llanllechid a Llandygai ble mae’n nodi eglwysi’r ardal. Am yr eglwys noda:

‘Eglwys Bryn y Byrddau’  Safai mewn lle o’r enw, [ sef Bryn y Byrddau ] ar lan Llyn Meurig, lle yr adeiladwyd Sant Ann y tro cyntaf’

Yn ôl map Arolwg o diroedd y Penrhyn 1768, roedd cae o’r enw Bryn y Byrddau ger Llyn Meurig, ac, mewn rhai o brydlesau’r stad, nodir cae Bryn y Byrddau yn un o gaeau fferm Tŷ Hen. Mae’n amlwg fod eglwys wreiddiol St Anne yn sefyll ar y cae hwn. Dylid, hefyd, nodi yn y fan hyn fod fferm Bryn Llys yn yr un ardal. Mae’r ddwy fferm, cae Bryn y Byrddau, yr eglwys, a’r llyn o dan domen y chwarel ers dros 150 mlynedd.

Dydy Bryn y Byrddau ddim yn enw cyffredin. Yn wir, does na’r un enghraifft o’r enw mewn unrhyw le arall yng Nghymru. Ond mae’r enw yn ymddangos, ond heb nodi lleoliad manwl, mewn barddoniaeth o’r 14eg ganrif, ac, yn benodol, mewn barddoniaeth a ganwyd i deulu pwysig Tuduriaid Môn.

Yn ei farwnad i Tudur Fychan o Benmynydd, penteulu’r Tuduriaid, a fu farw yn 1367, mae Iolo Goch yn dweud

‘ Dwyn llew Bryn Byrddau dan llaw”

Dwyn arglwydd Bryn Byrddau o dan awdurdod ( angau )

 

Yn ei farwnad mae’n nodi nifer o lysoedd eraill oedd yn gysylltiedig â Thudur, ac â’r Tuduriaid, ynghyd â’u prif diroedd.

Bardd pwysig iawn, ychydig yn hŷn na Iolo Goch, oedd Gruffudd ab Maredudd ab Dafydd (bu farw c1382 ). Ef oedd yr olaf o’r Gogynfeirdd mawr, ( fe’i cymherir, o ran safon a phwysigrwydd gyda Chynddelw Brydydd Mawr ganrif a hanner o’i flaen) Canai’n bennaf, bron yn unig, i Duduriaid Penmynydd, ac mae yntau yn canu marwnad i Dudur Fychan, ble mae’n cyfeirio ato fel

‘ Treistwyn ior Bryn Byrddau’

Dwyn trwy drais arglwydd Bryn Byrddau

Bu i fab Tudur, Goronwy ap Tudur foddi yn 1382, a chanodd GMD awdl farwnad iddo. Mae’n tristau ar ôl

‘Rhi cywir llawhir llyw Bryn Byrddau’

Brenin ffyddlon, un hael [oedd] arglwydd Bryn Byrddau

Er mai ym Môn yr oedd  prif eiddo’r teulu sef ym Mhenmynydd, Trecastell, ac Erddreiniog, ac mai gyda Môn y’u cysylltir, yr oedd gan y teulu, oherwydd eu bod yn ddisgynyddion uniongyrchol  i Ednyfed Fychan, distain ( Prif weinidog ) Llywelyn Fawr, diroedd helaeth mewn mannau eraill o Gymru, gan gynnwys Ceredigion, ardal Abergele, ac Arfon. Yn ei farwnad i Dudur Fychan mae GMD yn cyfeirio at ‘ naf (arglwydd) Bryn Ffanygl ( ger Abergele ), ac yn nodi, oherwydd ei farwolaeth

‘gwae’r deheu’ a ‘ gwae dwy Wynedd ‘ ( sef Gwynedd Uwch Conwy, a Gwynedd Is Conwy = y Gogledd i gyd, fwy neu lai).

Mae a wnelom ni yma a thiroedd y teulu yn Arfon. Hwy oedd perchnogion y ddau Afael a roed i Ednyfed gan Lywelyn Fawr – Gafael Gronw ab Eden a Gafael Cennin. ‘Gafael’ oedd daliad o dir etifeddol dan y gyfundrefn lwythol Gymreig, yn amrywio o le i le o ran ei fesur ac ar wasgar yn aml mewn parseli o dir. Roedd yn rhan o’r gwely, sef holl diroedd y teulu estynedig. Roedd Gafael Cennin, rywle yng Nghororion, sy’n cyfateb i blwyf Llandygái heddiw, ond allwn ni mo’i leoli’n union, fel y gallwn leoli Gafael Gronw ab Eden; hwnnw oedd sail demesne y Penrhyn. Diddorol, o gofio’r enw mai fel Wyrion Eden yr adwaenir y Tuduriaid ( gyda ‘wyrion’ yn golygu ‘disgynyddion’, nid y ‘wyrion’ cyfoes.)

Mae’n amlwg, o’r marwnadau a nodwyd, fod Bryn Byrddau yn un o blastai’r teulu, ac yn blasty digon amlwg i gyfeirio ato fel un o’u prif lysoedd, ac yn blasty y byddai pawb a wrandawai ar y farwnad yn ei adnabod yn syth. Fodd bynnag, does neb heddiw yn gwybod ble’r oedd. Does dim cyfeiriad ym mhapurau’r teulu at enw sydd, a bod yn onest, yn un anghyffredin iawn. Does dim sôn amdano ym mhapurau tiroedd Môn na Cheredigion. Dim ond tiroedd Cororion sydd ar ôl felly. Fel y nodwyd, yr unig enghreifftiau o’r enw yng Nghymru yw’r lleoliad y sonia HD amdano. Ai yma, yng nghyffiniau Llyn Meurig, yr oedd tiroedd Gafael Cennin, ac ai dyma ble’r oedd plasty, neu lys, Bryn Byrddau y Tuduriaid?

Un arall o gaeau Tŷ Hen, gyda llaw, oedd Tan y Castell. Y fferm nesaf i Dŷ Hen, a’r fferm yr oedd Llyn Meurig ar ei thir, oedd fferm Brynllys – sy’n enw diddorol yn y cyswllt hwn. Mae enwau llefydd, megis ffermydd a chaeau, yn enwedig hen enwau sydd, yn aml, wedi aros yn ddigyfnewid ers canrifoedd, yn dystion cadarn iawn i hanes eu lleoliad. Dim ond i nodi un enghraifft. Yn nechrau’r 1990au fe gloddiodd Gwasanaeth Archeolegol Gwynedd yn Niwbwrch, Ynys Môn, i geisio cael hyd i un o lysoedd Llywelyn Fawr. Roeddynt yn gwybod fod ganddo lys wedi bod rywle yn yr ardal, ond doedd ganddynt ddim syniad ble. Ond roedd na gae y tu allan i’r pentref o’r enw Cae Llys, a dyma gloddio yno. Ac, wir i chi, dyna ble cafwyd hyd i ran o’r llys. Roedd enw’r cae yn cadw cof ardal am lys tywysog Cymreig a ddiflannodd o dan y tywod yn dilyn stormydd enfawr yng nghanol y 14G, yr un enw wedi cadw cof am fwy na chwe chanrif. Mae Bryn Llys, o dan y domen, yn cadw cof am rhyw lys, ac mae cae Bryn y Byrddau, sef yr unig enghraifft o enw un o lysoedd y Tuduriaid, yn agos iawn. Diddorol, hefyd, yw cofio fod Ciltreflys ar y llethrau gyferbyn ar draws yr Ogwan, ac mae ‘treflys’ yn enw ar fferm ganoloesol sydd â’i chynnyrch, a’i thrigolion, yn cynnal y llys. Fel arfer, mae’n weddol agos i’r llys. Efallai mai’r tŵr, yr enwyd fferm Tyn Tŵr ar ei ôl, oedd yn cael ei gynnal, ond byddwn yn amau hynny. Tŵr oedd hwnnw, sef lle roedd ychydig o filwyr yn cadw golwg, yn yr achos hwn, ar y bwlch i, ac o, Nant Ffrancon. Doedd o ddim yn gastell, nac yn llys, dim ond lle i gadw golwg. Yn 1469, fel ‘le tour de Abercaseg’ y cyfeirir ato, tŵr, nid castell, na llys, Fyddai dim angen treflys i gynnal y tŵr a’i lond llaw o wylwyr, a fyddai Bryn Llys ddim yn cael ei enwi ar ei ôl, ond fe fyddai’r ddau yn addas i’w henwi oherwydd un o lysoedd y Tuduriaid, neu eu cyndeidiau.

Fedrwn ni brofi dim, bellach, a dydy hyn o eiriau yn ddim ond damcaniaeth, ond mae’n hynod o ddiddorol, ac mae’r ddamcaniaeth wedi ei seilio ar gyfeiriadau hanesyddol pendant.

Ffynonellau

Melville Richards.   Brynbyrddau.     Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon 1962.

Hynafiaethau Llanllechid a Llandygai.   Hugh Derfel Hughes.  tud 72.

Arolwg o diroedd y Penrhyn 1768

Gweithredoedd Tir y Penrhyn

Iolo Goch ac Eraill.   Ifor Williams.

 

Wyrion Eden.   Glyn Roberts  yn Bulletin of the Board of Celtic Studies Cyf 15

Advertisements

Ffos Coetmor

Mae ffos Coetmor yn tarddu ym mhen uchaf Gwaun Cwys Mai gan godi dŵr o Afon Ffrydlas. O’i tharddiad i’r man lle mae’n llifo i afon Ogwen mae’n mesur oddeutu pedwar cilomedr mewn hyd ac mae’n disgyn tua 280 metr mewn graddiant.

Ffig 1 Ffos Coetmor - Copi
Y maen hirfain sy’n nodi rhaniad y dŵr yn Afon Ffrydlas a tharddiad Ffos Coetmor. Daw’r llun drwy ganiatâd o archif lluniau y diweddar Ifor Williams, Coetmor 

Nodir man ei tharddiad yn Afon Ffrydlas gan faen hirfain sy’n sefyll ar raniad y dŵr. Oddi yno mae’r ffos yn crymanu i gyfeiriad Bwlch Molchi cyn gwyro eto i ddilyn godre Moel Faban a disgyn i wastatir ysgwydd ddwyreiniol Dyffryn Ogwen yn Llidiart y Gweunydd. Yna mae’n llifo ar dir gwastad drwy Hen Barc i gyfeiriad Fferm Coetmor. O Goetmor i ymuno ag afon Ogwen mae ei chwrs yn gymharol fyr ond ar lan yr afon estynnwyd y ffos mewn addasiad diweddarach i lifo’n gyfochrog â’r afon hyd nes cyrraedd melin Coetmor gryn hanner milltir i’r gogledd.

 

 

 

Gwelir y cofnod cyntaf am y ffos yn 1786 ar fap o dir comin plwyf Llanllechid. Er hynny, mae’n  perthyn i gyfnod llawer cynharach yn hanes Dyffryn Ogwen, er nid i gyfnod y Rhufeiniaid fel sydd wedi ei nodi ar rai o fapiau’r Arolwg Ordnans. Er nad oes dogfennau i gadarnhau dyddiad ei ffurfio mae’n weddol bendant ei bod yn gysylltiedig â phlasty Canol Oesol Coetmor, sef cartref hen deulu pendefigaidd y gellir olrhain ei dras yn ôl i’r bymthegfed ganrif ac, yn ôl traddodiad, i gyfnod cynharach yn y drydedd ganrif ar ddeg. Nid oedd gan y plasty gyflenwad parhaol o ddŵr yn llifo i’r safle ac, felly, rhaid oedd goresgyn y diffyg drwy lunio ffos, a Ffos Coetmor oedd datrysiad y broblem. Yng Nghoetmor mae’r ffos yn llifo drwy Gae Llyn ac yno gwelir fod ei llwybr wedi ei gysylltu â dau hen gafn a fyddai yn y gorffennol pell wedi cynnal olwynion dŵr at wasanaeth y plasty hynafol. Pan adeiladwyd y Coetmor presennol oddeutu 1870 lluniwyd llyn arbennig ar gyfer y fferm wedi ei leoli i’r dwyrain ar ymyl Lôn Bach Odro.

Dŵr o’r ffynhonnell hon oedd yn bwydo un olwyn ddŵr a safai wrth dalcen yr ysgubor, ac ynni o’r olwyn hon a oedd yn gyfrifol am droi holl offer y fferm ar gyfer dyletswyddau megis corddi a malu bwyd yr anifeiliaid. Dibynnai llawer o ffermydd Dyffryn Ogwen ar ynni dŵr i gyflawni eu dyletswyddau. Yn ogystal â bwydo fferm Coetmor yr oedd ffos Coetmor yn danfon dŵr i Dyddyn Sabel a Chae Ifan Gymro ac yr oedd nifer o ffosydd eraill yn yr ardal yn cyflawni’r un gofyn i ffermydd eraill. Dim ond olion nifer o’r ffosydd sydd i’w gweld megis creithiau ar y tir bellach. Er enghraifft derbyniai Tan y Foel ddŵr o Ffos Fawr Pantdreiniog a Bryn Owen ddŵr o ddyfroedd chwarel Bryn Hafod y Wern, a derbyniai hen weithdy Pont y Pandy ddŵr o Afon y Llan. Mae’n amlwg fod llawer mwy o’r ffosydd hyn i’w cofnodi yn y dyffryn.

OLYMPUS DIGITAL CAMERA
Addasiad David A. Jenkins o gynllun Johnson, 1855 yn dangos yr argae ddŵr yn chwarel Llety’r Adar sy’n derbyn dŵr o Ffos Coetmor, drwy garedigrwydd a chaniatâd Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor, Mapiau Penrhyn PFA/6/173, Volume of maps of Penrhyn Lands, Pandy Bridge to Tŷ’n y Maes

 

Chwaraeodd ynni dŵr ran eithriadol bwysig mewn sefydlu diwydiant cynnar yn Nyffryn Ogwen yn ogystal, ac fel y byddai’r disgwyl roedd lleoliad ger Afon Ogwen yn eithriadol ddefnyddiol. Ar lan yr afon yng Nghae Star y sefydlwyd stad ddiwydiannol gynharaf y dyffryn gyda ffatri wlân, melin gerrig, melin bwyd anifeiliaid, lladd-dy a bragdy ymhlith y cyfleusterau a ddibynnai ar ddŵr yr afon. Cyflenwai’r afon yn ogystal ynni i Chwarel y Penrhyn ac i Chwarel Dôl Goch, i felin Coetmor a’r pandy ym Mhont y Pandy a dŵr i droi y ddwy felin rawn a safai un o bob tu’r afon yn Nhal-y-bont. Yr oedd holl chwareli plwyf Llanllechid, ac eithrio Chwarel Tan y bwlch, hefyd yn ddibynnol ar ynni dŵr i’w gweithio, a threfnwyd ffosydd pwrpasol i’w cyflenwi. Tarddai ffos Coetmor o afon Ffrydlas i gyflenwi dŵr i chwarel Llety’r Adar; tarddai ffos fawr Pantdreiniog, eto o afon Ffrydlas, i gyflenwi chwarel Pantdreiniog, a tharddai ffos o afon bellennig yr Afon Wen yng Nghwm Caseg i chwarel Bryn Hafod y Wern.

Yr hyn sy’n wych yn Nyffryn Ogwen heddiw wrth gwrs yw bod cynllun newydd Ynni Ogwen ar droed i greu ffynhonnell ynni o ddyfroedd Afon Ogwen uwchlaw Ogwen Banc i gynhyrchu nid yn unig drydan ond hefyd er budd cymunedol ac amgylcheddol. Byddai cynllunwyr ffos Coetmor wedi bod yn gefnogol iawn i’r fenter ond yn rhyfeddu mae’n siŵr at gynnyrch y dechnoleg. ‘Trydan? … Beth ydy trydan’?

 

Ffynonellau

J.Ll.W.Williams a D.A.Jenkins.  1993. ‘Dŵr a Llechi ym Mhlwyf Llanllechid, Bethesda- agweddau ar ddatblygiad diwydiant yn Nyffryn Ogwen’. Trafodion  Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon. 54. tt. 29-62.

J.Ll.W. Williams a D.A. Jenkins. 2010. ‘Ffos Coetmor: ffos ddŵr gynharaf Dyffryn Ogwen’. Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon, 71, tt. 10-

Porticos llechi

Un o nodweddion pensaernïol amlycaf pentrefi chwarelyddol Gwynedd oedd y portico llechi a warchodai’r drws ffrynt rhag y ddrycin. Erbyn heddiw ysgubodd drycin ail gynllunio nifer helaeth ohonynt o strydoedd pentrefi Dyffryn Ogwen ac ychydig o’r briwsion, megis, sy’n aros i gofnodi hanes eu datblygiad. Ar gyfrif brysiog, ac anghyflawn fe dybiwn, erys pedwar ar hugain portico llechi yn Nyffryn Ogwen: dau ym Mynydd Llandygái; un yn Nhregarth; dau yn Nhyn Lôn ger y Gelli, un ger Hendyrpeg; pump yn Gerlan; dau yn Hen Barc, a’r gweddill ym Methesda. Gellir ychwanegu wyth at y cyfanswm wrth edrych ar hen luniau o dai’r ardal ond nid oroesodd yr un o’r rhain.

Cynllun syml ac unffurf a oedd i’r portico. Byddai iddo ddau dalcen talsyth o bob tu i’r drws a tho crib yn arwain y glaw i’r naill ochr, er bod rhai enghreifftiau llai niferus sydd â tho fflat yn goron iddynt. Cysylltid y darnau llechi yn gadarn â’i gilydd â bolltau haearn. Mae’r talcenni yn blaen a diaddurn ond yn y mwyafrif torrir ar undonedd y cyfanwaith ag addurn syml a leolir yn y canol uwchlaw’r drws. Gall hwn fod yn addurn unigryw fel y pysgodyn ar bortico yn Stryd Cefnfaes neu’r tair saeth ar bortico ym Mynydd Llandygái, ond gall hefyd arwyddo gwaith cwmni seiri meini unigol. Enghraifft o hyn yw’r ffurf tarian fwa â llinell gyfochrog, sy’n nodweddu drws cefn y tŷ cyntaf yn Coetmor Mownt;  dau dŷ yn Stryd Cefnfaes; rhes o bump yn Stryd ‘Rallt, Gerlan; dau dŷ yn Hen Barc a dau fwthyn yn Nhŷ’n Lôn ger y Gelli. Yr un arwyddlun sydd i’w weld ar bortico pedwar tŷ yn Ffordd Carneddi, sy’n awgrymu mai’r un adeiladydd a adeiladodd yr holl res, ac ailadroddir yr arwyddlun ar bortico Haulfre yng Nghilfodan ac yn yr un enghraifft a oroesodd yn Llwybr Main, gan awgrymu fod yr holl dai hyn hefyd yn cyfoesi â Ffordd Carneddi.

tan-y-coed-1
Portico Tan y Coed, Bangor

Yn ganolog i hanes y portico llechi mae portico Tan y Coed ym Mangor, y mwyaf ei faint a’r mwyaf gosgeiddig ei ffurf gyda tho fflat uwchben gorchudd syml ar ffurf bwa dros y drws, a’r unig enghraifft y mae dyddiad ei adeiladu wedi ei nodi. Cynlluniwyd Tan y Coed yn 1810 gan Benjamin Wyatt, ysgrifennydd stad y Penrhyn yng nghyfnod Richard Pennant, fel ysbyty gyntaf yr ardal, sef y Caernarfon and Anglesey Local, ac fe fu’n agored tan 1834. Mae’n bur amlwg i ffurf portico gosgeiddig Lime Grove sef cartref Benjamin Wyatt wrth geg afon Cegin ddylanwadu ar gynllun Tan y Coed, er mai mewn bric, gyda dwy golofn ar naill ochr y fynedfa, ac nid mewn llechen y’i hadeiladwyd. Cynllunydd Lime Grove oedd Samuel Wyatt, brawd Benjamin, pensaer enwog yn Llundain a chefnogwr mawr defnyddio llechi pensaernïol o chwarel y Penrhyn yn ei adeiladau, gan wneud hynny mor gynnar â diwedd y ddeunawfed ganrif.

Y Felin Gerrig yng Nghoed y Parc oedd man cychwyn yr holl broses o ffurfio’r portico. Yno, datblygwyd dulliau o lifio a chaboli cerrig melin mawr eu maint, a’r llechi hyn oedd yn sail i wneuthuriad y portico. Dyddiad adeiladu’r felin oedd 1813, er bod lle i gredu fod darpariaeth ar gyfer trin cerrig melin yn dyddio i gyfnod cynharach fel mae tystiolaeth Samuel Wyatt yn ei awgrymu. Yn 1846 cyflwynwyd llifiau crwn a dulliau mwy modern o drin y cerrig melin yng Nghoed y Parc, addasiadau a arweiniodd at hwyluso prosesau masgynhyrchu yn y diwydiant. Wrth ystyried dosbarthiad y portico llechi cyfyd rhai cwestiynau diddorol. Yn gyntaf, a oes modd adnabod nifer o ffurfiau cynnar ymhlith y porticos? Yn ail, a ellir canfod newid yn y broses o lifio’r clytiau llechi yn ffurf orffenedig y portico? Yn olaf, a ellir rhoi trefn ar hanes datblygiad y portico o gofio mai briwsion yn unig sydd bellach yn cynrychioli’r nifer gwreiddiol?

poryico-tynclwt
Portico Tyn Clwt

Ymhlith y detholion gellir adnabod grŵp bychan a allai fod ymhlith y rhai cynharaf i’w datblygu. Nodweddir y rhain yn bennaf gan gynllun syml, ond unigryw, a pherthynant i dai unigol yn hytrach nag i res, a hyd y gellir canfod mae’r tŷ a’r portico yn cyfoesi. Ymhlith yr enghreifftiau cynharaf mae portico tafarn Tyn Clwt, sy’n dyddio i gyfnod y Ffordd Dyrpeg yn 1802, ac mae ffurf eithriadol syml portico bwthyn Gwêl Elidir yng Nghilfodan hefyd yn awgrymu ei hynafiaeth.

portico-bryn-estyn
Portico Bryn Estyn

Rhaid cynnwys portico unigryw Bryn Estyn ym Mynydd Llandygái ymhlith y detholion yn ogystal. Nodweddir y portico hwn gan addurn tri phen saeth yn crogi am i lawr o fwa’r canopi, y saeth ganol yn fawr a’r ddau o bob tu yn llai. Ffurf crwm y bwa yw ei nodwedd bwysicaf er hynny, a gellir ei gymharu â phortico tebyg ei ffurf, ond sydd heb yr addurn, yn yr Hen Dŷ ar y cei ym Mhorth Penrhyn. Tybir fod y ddau dŷ yn dyddio i gyfnod cynnar yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg gan fod Bryn Estyn yn un o ffermydd cynharaf Mynydd Llandygái a’r Hen Dŷ yn cyfoesi â chyfnod adeiladu’r porthladd.

 

 

Gellir awgrymu fod portico Tyn Clawdd yn Nhregarth hefyd yn perthyn i’r grŵp cynnar hwn. Mae’n enghraifft eithriadol ddiddorol ar sawl cyfri. Mae i’r portico gynllun syml gyda tho brig yn gapan ar ei ben. Mae wyneb y llechen yn fras a heb ei lathru’n llyfn ac mae ansicrwydd ai nod cyllell ynteu lif gron a welir ar ymyl y talcenni. Dan y brig mae arwyddlun ar ffurf bwa dolennog gyda blaen miniog canol y bwa yn cyfeirio at i fyny, ac er mwyn pwysleisio cyfanwaith y cynllun ysgythrwyd llinell gyfochrog i ddilyn ymyl uchaf y bwa. Mae ffurf gywasgedig y bwa yn awgrymu y gallasai’r patrwm fod yn rhagflaenydd i’r holl arwyddluniau tebyg a berthyn i borticos diweddarach y fro. Addaswyd Tyn Clawdd yn dŷ dau lawr yn gynnar yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac mae’n bur debyg i’r addasiad gynnwys ychwanegu portico at yr adeilad newydd.

Perthyn dau bortico unigryw arall i’r grŵp cynnar hwn a’r ddau’r drws nesaf i’w gilydd yn Rhes Cefnfaes, Bethesda. Yn dra gwahanol i holl borticos eraill Dyffryn Ogwen nodweddir y ddau gan do fflat fel yn yr enghraifft gynnar yn Nhan y Coed. Yn ychwanegol, mae gan y ddau arwyddlun unigryw uwchlaw’r drws: un ar ffurf pysgodyn, a’r llall yn fwa pigfain tri onglog gyda hicyn bychan lawn mor onglog o bob tu ar gychwyn y bwa. Ystyrir fod y ddau bortico yn enghreifftiau cynnar o’u bath, ond cyfyd cwestiwn diddorol ynghylch eu lleoliad yn Rhes Cefnfaes. A yw’r ddau yn weddillion cyfres a fyddai wedi nodweddu’r stryd gyfan yn hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg ynteu a ydynt yn ychwanegiadau diweddarach gan ddau gymydog y drws nesaf i’w gilydd, efallai er mwyn harddu stryd nad oedd portico yn rhan o’i chynllun gwreiddiol?

Mae dau bortico arall yn rhes Cefnfaes, ond nid ar y rhan wreiddiol o’r stryd a adeiladwyd ar dir stad Cefnfaes. Yn hytrach, perthynant i ddau dŷ un talcen (semi-detached) a adeiladwyd yn rhan o ddatblygiad diweddarach ar dir stad Penrhyn. Nodweddir y ddau bortico gan doeau crib; cynllun unffurf; toriad caboledig a llyfnder eu gorffeniad ac, yn bennaf oll, gan yr arwyddlun ar ffurf bwa dolennog islaw’r brig sy’n rhoi stamp ychwanegol i’r holl gynllun. Mae toriad yr arwyddlun yn gywir a medrus, ac yn bur debyg wedi’i dorri gan beiriant yn hytrach nag â llaw.

porticostryd-cenfaes-3
Portico to crib Stryd Cefnafes

Yn wir, gellir ystyried holl gyfanwaith y portico yn gynnyrch masgynhyrchu ac mae dosbarthiad eang y math hwn o bortico yn Nyffryn Ogwen yn cadarnhau’r awgrym. Cysylltir y portico bwaog yn bennaf â rhai o strydoedd y pentref a adeiladwyd yn chwech a saith degau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, megis Ffordd Carneddi, yr Allt Ucha yn Gerlan a Coetmor Mownt ym Methesda, ond cysylltir hwy hefyd â thai un talcen megis yn Nhyn Lôn, Hen Barc a Llwybr Main, gyda Heulfre yng Nghilfodan yr unig dŷ sengl. Gwelir un ychwanegiad at addurn porticos Ffordd Carneddi lle mae rhai yn arddangos cyfres o saethau ar grib y toeau. Mae’n debyg fod y porticos cymesur hyn felly yn gynnyrch y cyfnewidiau sylweddol a wnaethpwyd yn y Felin Gerrig ar ôl 1846, cyfnewidiau a roddodd derfyn bid sicr ar grefft y seiri meini annibynnol a fyddai wedi cynllunio’r porticos unigol cynnar.

Mae hanes y portico llechi yn codi nifer o gwestiynau na ellir eu hateb heb lawer mwy o ymchwil. Tybed a ystyrid y porticos cynnar yn symbolau o statws a chyrhaeddiad cymdeithasol yn ogystal â bod yn gysgod defnyddiol rhag y glaw a’r gwynt? Ac nid pawb a allai eu fforddio, bur debyg; bargod pren syml a gysgodai dai mewn strydoedd cynharach megis yn Nolgoch, Caerberllan a Braichmelyn. Mae’n debyg mai i bedwar degau a saith degau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg y gellir priodoli cyfnod bri y portico llechi yn Nyffryn Ogwen, ond eto nid pob tŷ yn y rhesi lle’r oedd rhai a feddai ar y cyfleuster. Pam, er enghraifft, mai dau dŷ yn unig yn Nhyn Lon sydd â phortico. Beth tybed oedd yn cyfrif am yr amrywiaeth yn y porticos: prinder arian efallai; diffyg statws cymdeithasol, ynteu newid mewn ffasiwn? Gallasant oll fod yn rhesymau dilys. Erbyn degawd olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg nid oedd y portico llechi yn rhan o bensaernïaeth y strydoedd a adeiledid bryd hynny. Bargod cyfansawdd o hyd y rhes gyfan oedd yn Rhes Gordon er enghraifft, a bargod unigol a roddwyd i bob tŷ yn Ffordd Tanrhiw, ac ni chafodd Rhes Elfed na bargod na phortico.

Ar ychydig iawn o ymchwil y seiliwyd rhai o’r damcaniaethau a gyflwynwyd yn y nodyn hwn, a gallasai gwybodaeth fanylach am y cysylltiad rhwng portico a dyddiad adeiladu rhai o’r tai a restrwyd chwalu’n deilchion yr holl ddoethinebu! Da fyddai cael rhagor o wybodaeth a syniadau gan ein darllenwyr yn hyn o beth.

Gwybodaeth

Sara Oliver, Tregarth

Ieuan Wyn, Carneddi

Ffynonellau

Hughes, Hugh Derfel. 1866. Hynafiaethau Llandegai a Llanllechid. Bethesda.

Roberts, T. Theo. 1999. Y Felin Fawr (Chwarel y Penrhyn); ei hanes a’i rhamant. Dinbych.

Nant Tŷ

nant-y-ty-20
Paentiad J.T. Parry o Nant Tŷ, casgliad preifat drwy ganiatâd

Prin fod neb bellach yn gwybod am Nant Tŷ, y murddun sy’n swatio’n ddisylw uwchlaw ceunant Cerrig y Rhyd ger Tan y Foel ar Afon Ffrydlas. A pham dewis adrodd stori am ddyheadau ac uchelgais y teulu a drigai yn yr adfail hwn rhagor na theuluoedd adfeilion eraill cyffelyb y dyffryn? Un rheswm yw bod hanes y teulu yn wybyddus inni, ond rheswm pwysicach yw y gwnaethpwyd paentiad olew o’r tŷ gan yr artist lleol J.T. Parry (1853-1913) ac mae’r paentiad ei hun yn symbol gweladwy o uchelgais y teulu ar dro’r ugeinfed ganrif.

nant-ty-2
Murddun Nant Tŷ heddiw

Nid oes cofnod o bryd yn union yr adeiladwyd Nant Tŷ, nid oedd yno yn 1768 er bod dau gae Nant Du yn perthyn bryd hynny i fferm fynydd Cymysgmai. Yn 1841 yr oedd Nant Du yn bodoli ac roedd yn gartref i ŵr gweddw John Rowlands ac oedd yn chwarelwr 60 oed ac i’w fab 25 oed John Thomas a’i briod Mary. Cofnodir bod ganddynt ferch naw diwrnod oed o’r enw Elinor ond nid oes cofnod o John y mab sy’n ymddangos yng Nghyfrifiad 1851 yn fachgen deuddeg oed. John Thomas oedd deiliad Nant Du hyd at 1871, er ei fod wedi mabwysiadu Rowlands fel cyfenw erbyn y cyfrifiad olaf a bod enw’r tŷ wedi newid o Nant Du i Nant y Tu a Nant Tŷ. Rhwng mis Ionawr 1837 a Rhagfyr 1852 ganed saith o blant i John a Mary ac fe oroesodd tair o ferched a thri bachgen. Afraid fyddai dilyn hynt a helynt yr holl blant; bu i bob un ond un sef Robert briodi a magu teulu, ac yr oedd rhai yn fwy llwyddiannus nac eraill. Canolbwyntiwn felly ar Mary, hi oedd tin y nyth. Treuliodd rai blynyddoedd yn forwyn yn ei chartref yn Nant Tŷ cyn derbyn y cyfle i briodi â gŵr gweddw a oedd bedair blynedd ar bymtheg yn hŷn na hi. Symudodd i fyw i’w gartref ym Mhen y Bryn ac i dŷ sylweddol ei faint a llawer mwy na Nant Tŷ a adeiladwyd brin ddeng mlynedd ar hugain yn gynharach. Nid oedd teulu y Rowlansiaid yn eithriadol hapus ynghylch priodas Mary yn ôl y sôn.

penybryn-1884
Ffotograff o 1884 o’r cartref ym Mhen y Bryn y byddai Mary yn symud iddo ar ôl iddi briodi

Chwarelwr darbodus a diwylliedig oedd y gŵr hwn ac yn 1892 ganed un bachgen iddynt pan oedd Mary yn 39 oed. Yn 1908 bu farw ei gŵr gan adael Mary yn weddw, ond mewn amodau cyfforddus o ystyried cyflwr dirwasgedig Dyffryn Ogwen yn dilyn Streic Fawr 1900/03. Ar ddiwrnod ei angladd dywedir na fynnai teulu’r Rowlansiaid ddod i mewn i’r tŷ ond cytunasant i sefyll ar y ffordd gyferbyn. Ond er gwaetha’r trallod o golli ei gŵr yr oedd Mary yn uchelgeisiol iawn ar gyfer dyfodol ei  mab. Er iddo adael yr Ysgol Sir yn un ar bymtheg oed i weithio mewn swyddfa cyfreithiwr ym Methesda cofrestrodd yn 1910 i ddilyn cwrs diploma mewn peirianneg drydanol ym Mhrifysgol Bangor. Nid fel peiriannydd trydanol yr adnabyddir y mab, er iddo dreulio gyrfa yn y diwydiant, ond yn hytrach fel enillydd cyntaf medal ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1937 ac fel crëwr Siôn Blewyn Coch, un o hoff gymeriadau straeon cenedlaethau o blant Cymru.

nant-ty-1911
Ffotograff o Anne Rowlands, Margaret Pritchard a Daniel J Pritchard, preswylwyr olaf Nant Tŷ yn 1912

 

Yn y cyfamser John, brawd hynaf Mary, a symudodd i fyw i Nant Tŷ ac ef a’i deulu oedd yr olaf i fyw yno fel y dengys ffotograff o’i wraig Anne Rowlands sy’n sefyll o flaen y tŷ yn 1912. A dyma’r cyfnod pryd mae’n debyg y comisiynwyd J. T. Parry i beintio’r darlun o Nant Tŷ gyda’r wraig yn sefyll yn falch o flaen y drws ffrynt.

Parc y Penrhyn

prif-lodge-1wedi-newid
‘Grand Lodge’ Parc y Penrhyn yn Llandygái

Mae Parc y Penrhyn yn enghraifft o haerllugrwydd a thrachwant teulu’r Penrhyn yn chwarter cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cynlluniwyd y parc i amgáu yr horwth castell bygythiol a adeiladwyd rhwng 1821 ac 1836 gan Thomas Hooper ar gyfer George Hay Dawkins Pennant (1763 – 1840). Ei fwriad oedd ynysu ei diriogaeth rhag gwerin Dyffryn Ogwen. Mae’r parc wedi ei amgylchynu gan wal saith milltir o hyd sydd rhwng dwy a thair metr o uchder, ac ar ochr y môr mae’n gweithredu fel morglawdd. Cynlluniwyd y wal i amgáu darn mawr o dir amaethyddol o ansawdd ardderchog ar y penrhyn rhwng aber Afon Cegin yn y gorllewin ac aber Afon Ogwen yn y dwyrain. Mae Afon Ogwen hefyd yn llifo drwy ran o’r parc, ac ymestynnwyd y wal i’r dwyrain yn fwriadol er mwyn ei chynnwys oddi fewn i breifatrwydd libart y bonheddwr. Cynllunydd y wal oedd Thomas Baxter, goruchwyliwr gwaith cyffredin ar stad y Penrhyn, ond mae’n bur amlwg fod Thomas Hooper ei hun wedi goruchwylio peth o’r gwaith yn arbennig wrth gynllunio’r Grand Lodge.

port-lodge
Lodge y Porthladd oddeutu dechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Daw’r ddelwedd o archif cardiau post Dyffryn Ogwen drwy ganiatâd Alaw Jones, Parc Moch, Bethesda

Credir i’r wal gael ei hadeiladu gan seiri meini a oedd wedi gorffen adeiladu Tŵr Marcwis yn Llanfairpwll, a defnyddiwyd peth cerrig o chwareli calchfaen Penmon yn y gwaith. Eir i mewn i’r parc drwy dri phorthdy swyddogol sef porth Tal-y-bont sef y mwyaf distadl o’r tri; porth y cei sy’n dipyn mwy crand; a’r prif borth, y Grand Lodge yn Llandygái, y mwyaf rhodresgar ohonynt oll y mae ei bensaernïaeth yn efelychu cynllun tyrog neo-gothig y castell.

 

lodge-talybont
Lodge Tal-y-bont

Yn wreiddiol yr oedd hen blasty canoloesol y Penrhyn yn cynnwys tiroedd y demesne. Ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif roedd y tiroedd hyn yn fferm sylweddol, ddau gan acer ei maint o dan oruchwyliaeth Richard Hughes, sef prif asiant y stad yn 1768. Wrth drosi parseli o gaeau bychan y demesne yn barc caeedig o 1820 ymlaen ad-drefnwyd daliadaeth nifer o’r ffermydd gan gynnwys Aberogwen ac Abercegin a diddymwyd eraill megis Dologwen a Maes y Penbwl.  Felly, golygodd sefydlu’r parc greu cyfnewidiadau mawr i’r gymdogaeth yn ogystal ag i’r tirlun. Y cyfnewidiad pennaf, wrth gwrs, oedd i’r cyhoedd gael eu gwahardd rhag mynychu’r ardal, cam a olygai fod hen lwybrau cyhoeddus bellach wedi eu cau i deithwyr. Y ffordd fyrraf o Fangor i gyfeiriad y dwyrain oedd ar Lôn Domas a redai o Aber Cegin gan groesi Aber Ogwen ar ryd neu bompren i ganlyn ymlaen i Gonwy. Dengys un o gynlluniau Telford fod y ffordd wreiddiol o Landygái i’r Penrhyn Arms ym Mangor yn rhedeg i’r dwyrain o lwybr y ffordd bost y cynlluniodd ef yn 1820. Y llwybr newydd hwn a oedd i bennu rhediad wal y parc pan adeiladwyd hi ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach. Safle freintiedig y parc oedd hefyd i gyfrif fod rheilffordd yr LNWR i Gaergybi yn 1848 wedi gorfod dewis llwybr llawer anos i gyrraedd Bangor. Golygodd hyn fod angen turio dau dwnnel yn hytrach nag anelu’n gyfleus ar draws y penrhyn i ddilyn llwybr yr hen Lôn Domas gynt.

Creadigaeth yn perthyn i gyfnod dechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg yw Parc y Penrhyn. Mae ei  gynllun wedi’i seilio ar gonfensiynau cynllunio gerddi bonedd a ddatblygwyd gan benseiri addurnol megis Lancelot ‘Capability’ Brown a Humphrey Repton yn y ganrif flaenorol. Erbyn cyfnod amgáu Parc y Penrhyn yr oedd bri yr ardd addurnol wedi cilio ac roedd y pwyslais ar gynllunio gerddi trefol er mwyniant yr holl gymdeithas yn hytrach nag er bodd yr unigolyn cefnog. Mae gwerth ystyried felly beth tybed a gymhellodd George Hay Dawkins Pennant i greu ei barc preifat a chyfyngedig yn Llandygái? Mae urddas, dilyn y ffasiwn ac ymffrostio yn ei gyfoeth oll yn gymhellion a wireddwyd bid sicr, ond tybed a oedd ganddo hefyd gymhellion llai rhodresgar yn ei isymwybod?  Sais a aned yn Swydd Rhydychen oedd y bonheddwr ac fe etifeddodd olyniaeth y Penrhyn drwy fod yn fab i gefnder Richard Pennant. Yr oedd yn aelod seneddol pur uchelgeisiol a’i brif ddiddordeb oedd mewn gwleidydda. Er iddo dderbyn yr olyniaeth yn 1808 ni symudodd i’r Penrhyn tan 1816, ac wedi ymsefydlu yno nid oedd yn ymwybodol o dras Cymreig y teulu nac ychwaith o gymdogaeth dlawd ei etifeddiaeth. Gallai odro cyfoeth hawdd o ddiwydiant ei stad heb feddu gwybodaeth am ei pheirianwaith na’i pheryglon. Yn ei isymwybod gallai deimlo’n alltud mewn cymdeithas ddieithr nad oedd ganddo ddiddordeb ynddi ac a siaradai iaith nad oedd ef yn ei deall.

Wal y Parc.JPG
Wal y Parc ger Tŷ Newydd

Yn ei ‘alltudiaeth’ ei ymateb greddfol oedd adeiladu castell gaerog a chodi wal uchel i amddiffyn ei diriogaeth a thrwy hynny greu ‘a little England beyond Llandygái’ o ystumio ychydig ar yr ymadrodd o Sir Benfro. Oddi fewn i’r parc yr oedd cynlluniau i harddu’r amgylchfyd drwy blannu gelltydd o goed a llwyni yn gefndir i lawntiau breision. Rhoddai hyn yr argraff o’r tirlun gweledol delfrydol a bywiogai’r golygfeydd o’r Fenai a mynydd-dir Eryri. Dyluniwyd hefyd gyfres o erddi cyfoethog, rhai i gyflenwi’r tŷ â blodau a llysiau, eraill er arddangos gwychder y cynnyrch. Cynlluniwyd  yn ogystal berllan amrywiol ei ffrwythau ar gyfer gofynion y teulu. Yn ddiweddarach dan warchodaeth yr ‘Hen Lord’ cyflogwyd Walter Speed yn brif arddwr. Yn ystod hanner olaf  y bedwaredd ganrif ar bymtheg enillodd y garddwr enwog hwn fri cenedlaethol am wychder ei greadigaeth o fewn muriau parc caeedig y Penrhyn.

Mae un adeilad sy’n werth ei nodi o fewn ffiniau’r parc  sy’n perthyn i gyfnod cynharach y demesne ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif. Ar yr arfordir ar benrhyn cul a ymestynnai  i’r môr adeiladodd Richard Pennant faddondy bychan er defnydd ei wraig Anne Susannah. Erys y penrhyn ond, ysywaeth, mae’r baddondy yn furddun a ddiflannodd o dan ymosodiadau’r môr a diofalwch y perchnogion. Pe byddai’n sefyll caffai ei ystyried yn adeilad unigryw o’i gyfnod ac yn un o nifer a adeiladwyd gan Richard Pennant i ryngu bodd ei wraig Anne Susannah. Ymhlith yr adeiladau niferus hyn mae’r llaethdy ym Mhen Isa’r Nant, a’r tŷ swanc i ymlacio ynddo yn Ogwen Banc ac mae’n bur debyg yn ogystal, adluniad Pennant o’r hen blasty canoloesol gwreiddiol yn y Penrhyn i fod yn faenordy ‘canol oesol’ castellog.

O ddarllen y cyfraniad hwn byddwch yn sylweddoli ei bod yn enghraifft wych o erthygl ddi duedd a di ragfarn!

Ffynhonnell

Pennant, E. H. Douglas. 1998. The Penrhyn Estate 1760-1997: The Pennants and the Douglas-Pennants. Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon. 59. tt. 35-54.

 

 

Ogwen Banc

pen036
Map Johnson o Ogwen Banc yn 1855. Drwy ganiatâd Archifau a Chasgliadau Prifysgol Bangor, Papurau a Mapiau’r Penrhyn PFA/6/173

Cynlluniwyd tŷ Ogwen Banc gan Benjamin Wyatt ar gyfer teulu ei feistr Richard Pennant yn ystod deng mlynedd olaf y ddeunawfed ganrif. Er mai fel asiant hirben Stad y Penrhyn y cofir am Wyatt yn bennaf, yr oedd hefyd yn gynllunydd adeiladau a gymhwysodd ei hun fel cynllunydd ar fferm ei deulu yn Weeford, Swydd Stafford.

Adeiladwyd y tŷ yn arbennig ar gyfer teulu’r Penrhyn ac fe’i disgrifiwyd yn 1816 fel ‘an elegant pavilion’ i’w ddefnyddio ‘as an occasional resort  for refreshment and recreation paying a morning visit to the quarry, or to other objects of curiosity in the vicinity’. Gellwch ddychmygu’r olygfa:  y teulu a’r dewisedig rai yn cyrraedd mewn crandrwydd ar ôl teithio ar Ffordd y Lord, y ffordd newydd o’r Penrhyn i Ogwen Banc i wylio’r gwaith yn y chwarel mewn rhyfeddod fel petaent ar safle Cape Canaveral yn edrych ar lansiad y llong ofod ddiweddaraf.

pont-ogwen-banc
Pont Ogwen ger Ogwen Banc

At hynny, ystyriwch leoliad bendigedig y safle fel yr oedd yn 1790. Yr afon yn byrlymu heibio mewn dolen tra gwahanol i’w llwybr presennol, a phenrhyn o dir yn ymwthio allan o flaen y tŷ gyda phont yn croesi i dir glas agored ar ochr draw yr afon. Meddai Edmund Hyde Hall wrth ddisgrifio’r lleoliad delfrydol hwn ar ei ymweliad rhwng 1809 ac 1811 – ‘This is a very beautiful place , at once protected, decorated and almost hidden by its recent plantations… Before it either roars or growls, according to the season, the cataract, which, gliding in swift stream through the single arch of the bridge above, becomes beautifully broken into falls over and among the dark rocks. The bridge itself has the parapet ornamented in a way which, in my own opinion, is not very becoming, but upon the whole the greenness and lively floridity of the plantations give the place the character of an emerald set in the waste. Seats formed and painted like mushrooms are placed in the different points of view, and from them the quarry, more particularly, is very distinctly seen’.

Paradwysaidd le, os bu erioed ei debyg yn ôl y disgrifiad, ac yna ar y gorwel, un o ryfeddodau mawr a mwyaf cynhyrfus y cyfnod: diwydiant a diwydiant y chwarel yn benodol, yn sŵn y morthwylio, sŵn y saethu, rhyferthwy’r clogwyn yn rhwygo a channoedd o ddynion yn ymlafnio ym môn y graig.

ogwen-banc-ddoe
Tŷ gwreiddiol Ogwen Banc. Delwedd drwy ganiatâd Cwmni Gwyliau Ogwen Banc

Hon oedd chwarel Cae Braich y Cafn dan arolygiaeth yr enwog William Williams o’r Tŷ Newydd yn Llandygái, a’r gloddfa yn dilyn gogwydd y graig tua’r gorllewin yn gyfres o dyllau dyfnion – Twll yr Hen Chwarel, Twll Nantwich, Chwarel y Pwll, Porth yr Hir a Twll Dwndwr Isaf. Golygfa i ryfeddu ati bid siwr, a’r dethol rai heb sylweddoli efallai eu bod yn dystion i dwf syniadaeth newydd yn ymwneud â chyfalafiaeth ac ariangarwch.

Mae’n anodd dychmygu’r gwychder a fu yn Ogwen Banc, wedi’r cyfan yma y difyrrwyd y Brenin Edward a’i wraig ar eu hymweliad â theulu’r Penrhyn yn 1894. Yn y man er hynny, daeth cyfnewidiadau mawr i’r safle.

ceunant-ogwen-banc3
Ceunant Ogwen Banc

Yn ystod dauddegau’r ugeinfed ganrif unionwyd llwybr yr afon i lifo drwy gafn cul rhag i’w dyfroedd foddi twll y chwarel gerllaw. O ganlyniad, golygfa bur wahanol sydd yna heddiw gyda thomennydd y chwarel yn pwyso’n fygythiol uwchlaw’r safle a chyfres o dai pren yn swatio rhwng  planhigfa’r coed ffawydd. Mae’n olygfa sydd bellach yn gwireddu cyfeiriad un o’r sylwebyddion cynnar yn 1810 a nododd wrth iddo ganmol gorchestion y cynllunydd, ‘Wyatt had given variety and life to a most dreary and forlorn waste’. Byddai Walter Davies, y sylwebydd, yn rhyfeddu o weld y cyfnewidiadau sydd wedi gweddnewid Ogwen Banc erbyn heddiw.

ogwen-bank-heddiw
Ogwen Banc heddiw

Ffynonellau

Jones, Peter Ellis. 1981.  ‘The Wyatts of Lime Grove, Llandygai’. Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon. 42.  tt. 81-116

Hall, Edmund Hyde. 1809  – 1811 A Description of Caernarvonshire. Gol. E Gwynne Jones, 1952 Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon , Cyfres Record Rhif 2. Caernarfon.

Lime Grove

 

New Picture
Lime Grove yn 1800 o lyfr Lewis Williams Wyatt, A Collection of Architectural Design 1800-1801. Defnyddir y ddelwedd drwy ganiatâd y Royal Institute of British Architects

Adeiladwyd Lime Grove gan y pensaer Samuel Wyatt ar safle gerllaw ceg Afon Cegin ym mhlwyf Llandygái. Cafodd Samuel ei wahodd gan Richard Pennant i ail-lunio plasty gwreiddiol y Penrhyn.

Lime Grove plan
Cynllun Lime Grove o lyfr Lewis Williams Wyatt (gweler uchod) a thrwy garedigrwydd y Royal Institute of British Architects

Fel rhan o’i gomisiwn gofynnwyd i Samuel Wyatt hefyd drosi ystablau Lime Grove yn dŷ ysblennydd. Cynlluniodd Wyatt Lime Grove mewn arddull neoglasurol i gynnwys chwe ystafell wely i’r teulu a dwy ystafell i’r gweision. Canmolwyd yr adeilad am burdeb technegol ei luniad.

 

O 1786 hyd ei farwolaeth yn 1818 y tŷ hwn oedd cartref Benjamin Wyatt, prif asiant stad y Penrhyn a’r gŵr a drawsnewidiodd seiliau economaidd Dyffryn Ogwen yn ystod ei yrfa. Brawd Samuel Wyatt oedd Benjamin, un o bump o frodyr galluog o Weeford, ger Lichfield yng Nghanolbarth Lloegr, ac mae’n bur debyg mai drwy gysylltiad Samuel â’r Penrhyn y daeth Benjamin i sylw Richard Pennant pan benodwyd ef i’r swydd yn 1786. Cyn hynny roedd wedi  gweithio fel cynllunydd â chwmni’r teulu ond ei bennaf gymhwyster oedd fel ffermwr a rheolwr stad fawr yn ei ardal enedigol. Pan gafodd ei benodi roedd yn 42 oed ac yn briod â merch bragdy llewyrchus yn Stoke on Trent, ac yn dad i naw o blant. Tadogodd bedwar ar ddeg o blant yn ystod ei fywyd a byddai chwe llofft Lime Grove o dan eu sang o ganlyniad!

Dyn amryddawn oedd Benjamin Wyatt. Gwnaeth  gyfraniad  arloesol yn Nyffryn Ogwen yn arbennig o gofio fod rhan helaethaf ei yrfa yn cydredeg â chyfnod o ddirwasgiad economaidd a thrafferthion cymdeithasol o ganlyniad i ryfel rhwng Prydain a Ffrainc o dan arweiniad Napoleon Bonaparte. Un o dasgau cyntaf Wyatt pan gafodd ei benodi yn 1786 oedd creu rhwydwaith isadeiledd i gysylltu chwarel ei gyflogwr yng Nghae Braich y Cafn â’r angorfa yn Aber Cegin. Ef oedd cynllunydd ‘Ffordd y Lord’ i gysylltu glannau’r Fenai a Choed y Parc wrth droed y chwarel, tasg a gwblhawyd erbyn 1788. Yn 1793 lluniodd Wyatt estyniad i’r lôn hyd at Lyn Ogwen gan ddilyn ochr orllewinol Nant Ffrancon ac yna ymlaen am Gapel Curig. Yno adeiladwyd gwesty moethus y Royal  a oedd yn gynllun cwbl arloesol ar gychwyn y bedwaredd ganrif ar bymtheg i ddenu twristiaid i Eryri.

Ymddiriedodd Wyatt y gwaith o oruchwylio datblygiad y chwarel yng Nghae Braich y Cafn i’w ddirprwy fel ysgrifennydd y stad sef i ddechrau William Williams , gŵr a oedd yr un mor amryddawn ag yntau ac yna o 1802 ymlaen James Greenfield, gŵr a ddaeth yn fab-yng-nghyfraith iddo pan briododd â’i ferch Charlotte.  Gyda threfniant o’r fath gallai Wyatt ganolbwyntio ar gynllunio strategaethau pellgyrhaeddol y stad. Yn 1786 gweinyddodd y cynllun i drawsnewid y traeth yn Aber Cegin yn borthladd masnachol, ac erbyn 1790 yr oedd y porthladd newydd yn ymestyn 600 troedfedd i’r môr ac yn derbyn llongau o 300 i 400 tunnell eu maint. Cyrhaeddai cynnyrch y chwarel y porthladd mewn troliau a olygai fod traul eithriadol ar seiliau bregus Ffordd y Lord. Ystyriwyd adeiladu camlas i gysylltu’r chwarel a’r porthladd mewn cydweithrediad â’r adeiladydd camlesi Thomas Dadford, cynllun a oedd yn eithriadol flaengar ac yn un o’r enghreifftiau cynharaf o’i fath ym Mhrydain. Gweler yr erthygl am Gamlas y Penrhyn am ragor o wybodaeth.

Defnyddiodd Wyatt ei brofiad fel ffermwr  i wella ansawdd amaethyddiaeth stad y Penrhyn yn ogystal. Cyflwynodd fesurau i sychu’r corsydd; i deilo’r caeau, a chylchdroi cnydau; i dyfu llysiau megis rwdins a chabaets yn borthiant, ac i adeiladu beudái ac ysguboriau ar y ffermydd. Gwyddai am bwysigrwydd plannu coed fel adnodd ac fel lloches a chyflawnodd hynny drwy blannu oddeutu  600,000 o goed ar dir y stad. Yr oedd hefyd yn weinyddwr tan gamp ac fe’i penodwyd yn brif glerc i ofalu am gynnal a chadw’r ffordd dyrpeg rhwng Pentrefoelas a’r Fenai a agorwyd yn 1806.

Lime Grove Ty
Delwedd o Lime Grove o lyfr Lewis William Wyatt (gweler uchod)  a thrwy ganiatâd y Royal Institute of British Architects

Oddeutu 1860 dinistriwyd Lime Grove yn llwyr ac adeiladwyd Plas y Coed ar y safle, ond cyn ei ddymchwel yr oedd hanes Lime Grove fel cartref boneddigion wedi’i sefydlu. O holl dylwyth Benjamin Wyatt un yn unig a arhosodd gartref, a’r mab hwn, James, yn llanc dwy ar hugain oed a benodwyd i olynu ei dad ar ei farwolaeth yn 1818 gan barhau drwy hynny, gysylltiad y teulu Wyatt â stad y Penrhyn hyd at farwolaeth James ei hun yn 1882.

Ffynhonnell

Jones, Ellis. 1981. The Wyatts of Lime Grove. Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon  42.  tt. 81-116.

Pen y Gaer

 

Llun awyr Carneddi
Pen y Gaer o’r awyr; llun drwy ganiatâd David Longley

Mae Pen y Gaer sydd uwchlaw fferm Cilfodan yn y Carneddi yn tra-arglwyddiaethu dros bentref Bethesda a rhan helaeth o Ddyffryn Ogwen. Caer o gyfnod yr Oes Haearn ydyw ac felly mae’n dyddio mewn amser o rhwng y ganrif gyntaf Cyn Crist a’r ganrif gyntaf Oed Crist. Dewiswyd safle’r gaer yn ofalus i goroni bryncyn isel, ac adeiladwyd rhagfur o gerrig i amgylchynu cylch hirgrwn yn y canol sy’n mesur oddeutu 63 x 46 metr mewn maint. Nid oes olion adeiladau oddi fewn i’r gaer heddiw ond ni olyga hyn nad oedd nifer o dai bychan crwn yno yn wreiddiol. Gosodwyd y fynedfa ar ymyl de-orllewinol y  gaer ac yno hefyd mae rhan o’r rhagfur gwreiddiol yn aros. Adeiladwyd wal fodern i orchuddio’r rhagfur gan atgyfnerthu’r argraff mai safle amddiffynnol oedd Pen y Gaer. Gerllaw, ac i gyfeiriad y dwyrain ac ar waelod yr allt, lleolwyd tŷ crwn a lloc wedi’u hamgylchynu gan rag-glawdd isel, safle fferm fechan neu annedd efallai. Mae’r safle hon yn perthyn fwy neu lai i’r un cyfnod â’r gaer, ac mae cyfres o gaeau bychan sy’n dringo’r allt ar silffoedd pwrpasol i gyfeiriad y Foel hefyd o bosibl yn perthyn i’r un cyfnod.

Caer Tanfoel
Pen y Gaer, Tan y Foel a Charneddi o’r awyr; llun drwy ganiatâd David Longley

Ceir tair caer arall yn Nyffryn Ogwen. Mae caer Pendinas yn Nhregarth fel pe bai wedi’i lleoli mewn man strategol i reoli mynediad i geunant Afon Ogwen, tra bo’r gaer uwchlaw fferm Tŷ’n y Caeau, ger Pentir, yn gwarchod y fynedfa i ddyffryn Afon Cegin. Y gaer leiaf ei maint, os nad y lleiaf ym Mhrydain, yw’r safle sydd bellach wedi’i hynysu yng nghanol chwarel y Foel yn Rachub, ac mae’n anodd damcaniaethu pam tybed y lleolwyd caer mewn safle mor strategol anaddas.

Caer Cilfodan
Pen y Gaer wrth edrych tua’r gorllewin; llun drwy ganiatâd Roland Flook

Mae dadlau brwd ynghylch pwrpas caerau yr Oes Haearn. Dadleua un garfan mai safleoedd ar gyfer pentrefi sefydlog oeddynt, tra bo eraill yn mynnu mai eu prif swyddogaeth oedd bod yn noddfa amddiffynnol dros dro mewn cyfnod o ansicrwydd a rhyfela. Mae’n amlwg fod peth gwirionedd yn perthyn i’r ddwy farn gan fod archwiliadau archeolegol yn cadarnhau agweddau o’r ddwy ddamcaniaeth. Yn y gaer yn chwarel y Foel, er enghraifft, mae safleoedd chwech o gytiau crynion wedi’u trefnu o fewn yr amddiffynfa ac ym Mhendinas dywedir fod anheddau wedi’u distrywio mewn archwiliadau cynnar yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg nas cofnodwyd yn fanwl. Yn Nhre’r Ceiri ar gopa’r Eifl, gellir gweld cynllun sefydliad cyfan o dai crynion a stordai a adeiladwyd o gerrig, a llociau agored yn perthyn iddynt ac mae archwiliadau ar safleoedd yng Nghlwyd, megis Dinorben a Moel y Gaer, yn dangos cynlluniau tebyg. Yno ceir safleoedd o dai crynion ar fframwaith o wiail a dwb sy’n gysylltiedig ag adeiladau bychan sgwâr a gynhelir gan bedwar polyn, un ym mhob congl, y dehonglir eu bod yn stordai ac yn ydlannau. Trefnwyd yr adeiladau yn ofalus ar batrwm o strydoedd cyntefig. Mewn archwiliadau manwl mewn nifer o fryngaerau mawr yn ne Lloegr awgryma’r dystiolaeth fod penaethiaid dylanwadol yn trigo yn y safleoedd hyn gan gynnig nawdd a lloches i’w taeogion yn gyfnewid am gynnyrch eu llafur ar y tiroedd sy’n amgylchynu’r bryngaerau. Er bod y darlun yn un amherffaith gan fod cynifer o’r safleoedd wedi’u dinistrio ac wedi diflannu â threigl amser, tybed a ellir awgrymu darlun tebyg ar gyfer Pen y Gaer lle mae nifer o fan dyddynnod ar y llethrau yn dibynnu ar loches y fryngaer. Pwy a ŵyr, efallai mai Pen y Gaer a Phen Dinas oedd pentrefi sefydlog cyntaf Dyffryn Ogwen!

Pen y Gaer carneddi
Cynllun Pen y Gaer; cynllun drwy ganiatâd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru

P’run bynnag yw’r dehongliad cywir o swyddogaeth y bryngaerau mae eu maint a’u hadeiladwaith yn proffesu mai drwy gydweithrediad cymunedol y cawsant eu codi. Yn gyffredinol caerau bychan llai na hectar eu maint a ganfyddir yng ngorllewin Prydain ond ar ororau Cymru ac yn ne Lloegr ceir dosbarthiad caerau mwyaf Prydain gydag amddiffynfeydd llawer ohonynt yn amgáu arwynebedd o hyd at ddeg hectar a mwy. Mae’r amddiffynfeydd hefyd yn anferthol eu maint. Yn Maiden Castle yn Swydd Dyfnaint mae’r rhag-gloddiau pridd yn creu llethr o 25 metr uwchlaw gwaelod y ffos a gloddiwyd gan lafur cymunedol. Er mai pitw iawn yw rhag-gloddiau caerau Dyffryn Ogwen mewn cymhariaeth maent hwythau yn tanlinellu’r ffaith fod y gwaith wedi’i gyflawni o dan swyddogaeth pwyllgor dewisedig neu efallai, ac yn fwy perthnasol, awdurdod un pennaeth. Parhaodd Pen y Gaer yn safle fach ei maint a’i chynllun, ond nid felly Pendinas lle adeiladwyd rhagfur o bridd a cherrig mewn fframwaith o drawstiau coed cydnerth i gryfhau’r amddiffynfa. Ar gyfer cyflawni gwaith o’r fath mae’n rhaid felly fod adnoddau’r gymdeithas yn ddigonol i gynnal  byddin o adeiladwyr a chloddwyr dros gyfnod estynedig o amser gan eto gadarnhau’r ddamcaniaeth fod awdurdod canolog yn cynllunio ac yn awdurdodi adeiladu’r caerau hyn.

caer pendinas
Cynllun safle Pendinas; cynllun drwy ganiatâd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru

Mae’r rhag-gloddiau a chymhlethdod y mynedfeydd yn dweud llawer am ddulliau gwarchod y caerau rhag ymosodiadau. Yn y caerau sydd â rhagfuriau o bridd ar fframwaith coed neu fur o gerrig mae cryfder y safle yn dibynnu lawn cymaint ar y lleoliad naturiol a ddewiswyd, megis ar fryniau serth neu uwchben clogwyni peryglus, lle roedd y pwyslais ar dynnu’r gelyn mor agos at ffin y gaer cyn ymosod arnynt o uchder yr amddiffynfa. Tacteg wahanol a briodolir i’r caerau sydd ag amddiffynfeydd uchel uwchben ffosydd dyfnion lle mae’r pwyslais ar gadw’r gelyn ar waelod y dibyn er mwyn hyrddio cerrig ac arfau atynt o bellter. Dengys archwiliadau mai muriau bocs coed a cherrig oedd yr amddiffynfeydd cynharaf ond i’r rhag-gloddiau pridd a ffos eu disodli mewn cyfnod pan oedd y caerau o dan ymosodiad byddinoedd y Rhufeiniaid yn ystod concwest Prydain yn y ganrif gyntaf Oed Crist.

Mae un ychwanegiad diweddarach yn llechu ar ymyl orllewinol Pen y Gaer , sef cwt powdwr a ffrwydron a adeiladwyd gan W.J. Parry i gymryd lle y cwt cynharach a adeiladodd ar ymyl bellaf stad Cefnfaes yng Ngwaun Cwys Mai.  Perthyn y cwt i gyfnod olaf busnes ffrwydron Parry ar gychwyn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac er ei bod bellach yn ddrylliedig, ceir yno un ystafell fawr ar gyfer storio’r pylor du ac ystafell lai ar gyfer cadw’r ffrwydron. Defnyddiwyd y stordy hyd at dridegau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg ac fe’i nodweddir gan y drws coch a fyddai’n rhybuddio o beryglon ei chynnwys. Ceir rhagor o wybodaeth am y cwt yng nghofnod Y Beudy Newydd.

Ffynhonnell

RCAMW. 1956 – An Inventory of the Ancient Monuments in Caernarvonshire Volume 1 East. HMSO, London.

Williams, J. Ll. W. 1997. ‘Two Powder Magazines in the Parish of Llanllechid, Bethesda and their significance in the industrial turmoil of the late nineteenth century’. Gwynedd Ddiwydiannol 2, tt. 7-17.

Quarry View

Pedwar tŷ oedd yn Quarry View, rhes fer o dai a safai wrth dafarn y Siôr ar Ffordd Carneddi, a’r ‘quarry’ yn y cyswllt hwn oedd Chwarel Pantdreiniog. Yno yr oedd cartref  Richard Hughes, contractor yn Chwarel y Penrhyn, a gŵr a dynnodd sylw trychinebus iddo’i hyn yn ystod y Streic Fawr rhwng 1900 a 1903.

Un o’r rhesymau, ymhlith nifer, a arweiniodd at yr anghydfod blin oedd bod rheolwr y chwarel, E. A. Young, yn mynnu creu haen weithredol newydd yng ngweinyddiaeth y chwarel, sef y contractwr. Golygai’r drefn hon fod gosod bargeinion drwy’r chwarel o dan reolaeth y contractwr yn hytrach na’r chwarelwr unigol. Golygai hyn na allai’r chwarelwr bellach gynllunio a datblygu ei fargen mewn trafodaeth â’r stiward gosod. Credai’r swyddogion y byddai’r drefn newydd yn arwain at reolaeth gadarnach o’r chwarel a fyddai’n fwy cynhyrchiol ac o’r herwydd yn cynyddu’n sylweddol broffidioldeb y gwaith. Ar y llaw arall credai’r gweithlu fod y drefn yn sarhad ar eu medrusrwydd fel crefftwyr ac yn tanseilio eu statws a’u hannibyniaeth. Penodwyd Richard Hughes yn is-gontractwr yn gyfrifol am un bonc gyfan.

Cychwynnodd y Streic yn ddisymwth ac mewn ffordd eithriadol danllyd. Ym mis Hydref 1900 gwrthododd pedwar ar ddeg o chwarelwyr ar Bonc y Ffridd weithio i’r drefn a orfodwyd gan y contractwyr. Cawsant eu hatal o’r chwarel am dri diwrnod. Ar ddychwelyd cawsant ar ddeall nad oeddynt i weithio mwyach yn eu bargeinion gwreiddiol a bod y rhain yn awr yn rhan o un contract enfawr dan reolaeth Richard Hughes ac Edward Williams, dau o’r contractwyr. Rhybuddiodd y chwarelwyr nad oedd y ddau gontractwr i ymddangos yn agos at Bonc y Ffridd, ond pan feiddiodd Williams anwybyddu’r rhybudd ac ymddangos yno, ymosodwyd arno yn giaidd a’i arwain yn glwyfedig o’r chwarel. Yr wythnos ganlynol mewn cyfweliad gyda newyddiadurwr o’r Liverpool Daily Post cyfeiriodd Richard Hughes, at y chwarelwyr fel loafers.

Cafwyd ymateb digyfaddawd i’r cyhuddiad â bygythiad y byddai dirprwyaeth yn ymweld â Mr Hughes liw nos i dalu’r pwyth yn ôl iddo am ei ensyniad haerllug. Diflannodd y cyhuddwr ond dridiau yn ddiweddarach ymddangosodd yn y chwarel yng nghwmni ei ddau fab, William a Thomas. Yn ystod yr awr ginio ymosodwyd ar y triawd yn frwnt a chiaidd ac arweiniwyd hwy yn glwyfedig i Fethesda gan fintai fawr o chwarelwyr. Dychwelodd y fintai yn ôl i’r chwarel i geisio dysgu’r un wers i’r contractwyr eraill ond yr oeddynt oll wedi cymryd y goes a diflannu. Felly dan amodau eithriadol dreisgar y dechreuodd y streic fawr yn chwarel y Penrhyn. Yr oedd y terfysg yn fel ar fysedd yr awdurdodau. Daethpwyd ag achos cyfreithiol yn erbyn chwech ar hugain o’r chwarelwyr ac ymddangosodd tri chant o farchfilwyr ym Methesda i gadw’r heddwch. Condemniwyd ymddygiad treisiol y chwarelwyr gan arweinyddion y streic ym Methesda a chan y rhai a gydymdeimlai â’u hamcanion ledled Prydain.

Ond trwy dair blynedd boenus y streic nis anghofiwyd am frad Richard Hughes y ’contractor mawr’ yn y gymdogaeth. Gwnaethpwyd ei fywyd ef a’i deulu yn gwbl annioddefol wrth iddynt ddioddef ymosodiadau a bygythiadau treisiol a geiriol yn eu herbyn. Ym mis Ionawr 1901, ychydig wythnosau wedi’r ymosodiad cyntaf yn y chwarel, gwrandawyd ar achos yn y Llys ym Mangor yn erbyn Thomas Hughes a gyhuddwyd o daro ac archolli wyneb Anne Griffiths gyda phiser wrth i’r ddau godi dŵr o ffynnon ger eu cartref ym Mynydd Llandygái.

Adroddwyd am yr achos yn y Genedl Gymreig sy’n nodi fod ‘cryn ddiddordeb’ yn yr achos a bod y llys yn llawn. Yn yr ymrafael adroddwyd mai drwy ddamwain y niweidiwyd Anne Griffiths wrth i Hughes geisio arbed ei wyneb rhag y cerrig a anelwyd ato, ac i’r wraig ei alw’n ‘ysglyfath diawl’ a bygwth gwneud yr ochr arall i’w wyneb yn ’archolledig fel y llall’ gan gyfeirio at y niweidiau a dderbyniodd pan hysiwyd ef a’i dad a’i frawd o’r chwarel. Cafwyd Hughes yn euog a’i ddirwyo i ddeg swllt a chostau.

Yn ystod y streic yr oedd yn achlysur dyddiol yn y chwarel i’r rhai a fynnai weithio adrodd wrth ddau stiward penodedig os oeddynt wedi dioddef gwrthwynebiad geiriol neu gorfforol yn eu herbyn y tu allan i oriau gwaith. Cofnodwyd y dystiolaeth yn ofalus gan awdurdodau’r chwarel a’i chyflwyno i sylw’r heddlu. Yn y dogfennau trist hyn mae nifer yn cofnodi ymosodiadau ar deulu ac eiddo Richard Hughes.

 Llythyr Rhif 17 Penrhyn Quarry, December 17 1901

Bethesda – Richard Hughes, Quarry View, Carneddi reported that his wife and daughter were molested by a large crowd by the Market Hall after they had ben shopping in the High Street. His daughter was kicked in the leg and stones were thrown. They were escorted home by constables. Identified – the son of Thomas Enoch Williams Cae Evan Gymro was a prominent assailant.

 Llythyr Rhif 22  Penrhyn Quarry January 14 1902

 Carneddi – Richard Hughes Quarry View reported that a man was repairing windows at his house were smashed on New Year’s Eve. When the man left for dinner a crowd of boys from Carneddi British School threw stones smashing one of his windows and frame. Identified was the son of Edward Jones (Ned Bach Pandy); the son of Daniel Williams (Dan bach bach); the son of Mary Thomas, Penceunant. He complained that life was unbearable for him and his wife and begged for police protection which he suggests will be removed by Sergeant Owen.

Wrth edrych yn ôl heddiw ac adolygu dyddiau blin y Streic Fawr gellir cydymdeimlo â sefyllfa ddiflas y ‘contractor mawr’ a’i deulu ac ni ellir cyfiawnhau bryntni’r dystiolaeth, ond mae’n dangos hefyd fod gwirionedd yn yr hen ddihareb a ddywed ‘cwyd y blewyn, a chwyd y blewyn dithau’.

Gwybodaeth ychwanegol gan Griff C. Morris, Bigil, Rhos y Nant, Bethesda.

Ffynonellau

Jones, R. Merfyn. 1981.  The North Wales Quarrymen 1874- 1922. Caerdydd.

Lindsay, Jean. 1987. The Great Strike: A History of the Penrhyn Quarry Dispute of 1900-1903. Newton Abbot.

Archifdy Prifysgol Bangor – Daily Reports Chwarel y Penrhyn Hydref 1901-Medi 1902.

Coetmor Hall

Ar droad yr ugeinfed ganrif W. J. Parry oedd un o gymeriadau mwyaf blaenllaw Bethesda . Roedd hefyd yn ffigur eithriadol bwysig yn hanes gwleidyddiaeth, enwadaeth ymneilltuol a chysylltiadau diwydiannol Cymru yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Fe’i magwyd yn unig blentyn i chwarelwr cyffredin a gwraig uchelgeisiol o Fôn. Ac yntau’n wyth oed bu farw’r tad ond mynnodd y fam ei addysgu yn Ysgol Llanrwst. Pan oedd yn 22 oed sefydlodd fusnesau fel cyfrifydd ariannol a masnachwr deunyddiau adeiladu ym Methesda. Etholwyd ef yn aelod o’r Bwrdd Lleol yn 1867, ei gam cyntaf i fyd llywodraeth leol. Ef hefyd oedd asiant Stad y Cefnfaes, safle a roddai gryn ddylanwad iddo yn y pentref.

Fel cyfrifydd gallai ei statws proffesiynol agor drysau i gylchoedd mwy dethol na rhai general merchant cyffredin. Yn 1878  priododd am yr eildro â Mary Pugh, merch o gefndir cyfforddus yn Nolgellau, a buont yn byw am gyfnod byr ym Maes y Groes, ger Tal-y-bont. Symudodd y teulu i Coetmor Hall yn 1884. Hwn oedd y tŷ ysblennydd a adeiladodd Parry ar Fryn Crach ger safle hen plasty Coetmor.

Coetmor Hall (JLlW) (2)
Coetmor Hall, mae’r llun drwy garedigrwydd J. Elwyn Hughes

Yr oedd crandrwydd Coetmor Hall yn drawiadol – tŷ eang â saith ystafell wely, parlwr, ystafell fwyta, stydi, swyddfa, ystafell filiards a llety i’r morwynion – a phreifatrwydd yr eiddo wedi ei ddiogelu gan wal uchel. Yno yr oedd y teulu yn croesawu pwysigion y dydd a’u difyrru mewn nosweithiau o adloniant. Coetmor Hall oedd y symbol mwyaf gweledol o drawsnewidiad Parry o blith y werin i’r dosbarth canol uchelgeisiol.

W%5b1%5d.J. Parry & children
W. J. Parry a’i deulu, mae’r llun drwy garedigrwydd J. Elwyn Hughes

Wedi gyrfa eithriadol a amrywiai o gyflawni’r gwych i’r gwachul bu farw Parry yn hen ŵr siomedig yn 1927. Goroeswyd ef gan ei drydedd wraig, Mary Guy, a bu hi farw yn 1932. Yn dilyn ffrae deuluol ynghylch etifeddiaeth Parry, ac yn dilyn ocsiwn o gynnwys y tŷ, yn gwbl annisgwyl, llosgwyd Coetmor Hall i’r llawr ar Fawrth yr ail 1933. ‘Dy gongl …. gwely im oedd, nid gwâl moch’.

 

Coetmor Hall wedi%27r tân

Coetmor Hall ar ôl y tân, mae’r llun drwy garedigrwydd J. Elwyn Hughes

Ffynhonnell

Williams, J. Ll. W. 2009. ‘Portread o fywyd teuluol W. J. Parry, Coetmor Hall, Bethesda’. Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon. 70, 85-106.