Braichmelyn

Braichmelyn 1900
Braichmelyn oddeutu 1900 yn dangos y rhes tai ar ochr y gogledd o’r ffordd cyn iddynt gael eu dymchwel

Braichmelyn yw un o’r strydoedd mwyaf eiconig  ym Methesda ac mae’n portreadu i ni heddiw amodau byw cymdeithas chwarelwyr Dyffryn Ogwen yn ystod cyfnod canol y 19g. Fel un rhes hir o dai unllawr, ac unffurf eu gwedd, yr adnabyddir Braichmelyn, er bod nifer o is-adrannau llai amlwg yn perthyn i’r datblygiad o’r cychwyn cyntaf. Y Penrhyn fel perchennog y tir awdurdododd adeiladu holl dai Braichmelyn. Y drefn arferol oedd bod perchennog y tir yn lesu’r hawl i nifer o adeiladwyr mentrus i godi’r tai, gyda’r perchennog yn derbyn yr arian o’r les tra oedd yr adeiladwr yn derbyn ei gyfran ef o’r rhent. Ar derfyn cyfnod y les, gan amlaf wedi 25 mlynedd, byddai’r tai yn dychwelyd i feddiant perchennog y tir.

Braichmelyn 1845
Manylyn o Fraichmelyn ar Fap y Degwm 1840

Gellir dyddio’r datblygiad cychwynnol i gyfnod ychydig cyn 1840, ac felly byddai’n ddiddorol gwybod pwy yn union awdurdododd y cynllun i adeiladu’r tai. 1840 oedd dyddiad marwolaeth George Hay sgweiar goludog stad y Penrhyn a fynnodd ei anfarwoldeb yn y torllwyth hyll o gastell a adeiladodd ar gost enfawr yn Llandygái.  Hyd at adeiladu Braichmelyn, cyfraniad eithriadol bitw wnaeth y bonheddwr hwn i gartrefu pobl ar dir ei stad yn Nyffryn Ogwen, a hyd y gwelir, rhan gychwynnol yn unig o’r rhes tai  ym Mraichmelyn sy’n perthyn i gyfnod blynyddoedd olaf yr afradwr hwn.  Dengys map y Degwm, sy’n ddyddiedig i’r un cyfnod, fodolaeth yr hanner rhes gyda’i chymar o’r un dyddiad yn Caerberllan. Ei olynydd graslon Edward Gordon, mae’n debyg, orchmynnodd adeiladu gweddill y rhes – er tybed o gywilydd i oferedd ei dad yng nghyfraith? – ac mae map Johnson yn cofnodi cwblhau’r holl ddatblygiad erbyn 1855.

Tir hen fferm hynafol Tyn Twr oedd cnewyllyn y datblygiad, y lleoliad ar gefnen fain o dir a gywasgwyd rhwng glan Afon Gaseg a llethr serth y “fraich” ar gwr y de. Cyn awdurdodi cynllun ffyrdd yr ardal, ac yn arbennig ffordd fawr Telford, ceid mynediad i Fraichmelyn ar lwybr o’r gogledd oedd yn croesi Afon Gaseg ar ryd neu bompren wachul rhwng Abercaseg a Llawr y Nant (Dangosir lleoliad y bompren ar fap sy’n ddyddiedig i 1765). Y ffactor bwysig roddodd fynediad mwy sefydlog i’r safle oedd adeiladu pont y Gaseg a ganiataodd gysylltu’r ffordd o Bont Uchaf yn Carneddi  yn y man gyda ffordd fawr Telford islaw Capel Cwta. Ar y pumed o Fedi 1800 arwyddwyd cytundeb i William Roberts adeiladu’r bont ar gost o £290 gan ei ymrwymo yn ogystal i’w chynnal a’i chadw am y saith mlynedd ganlynol.

Mae Map Johnson yn dangos mor gyflym y sefydlwyd Braichmelyn yn y pymtheng mlynedd rhwng 1840 ac 1855. Yng nghyfrifiad 1841dim ond 88 tŷ oedd ar y rhestr gan gynnwys datblygiadau cychwynnol yn Tan y Gadlas, Capel Cwta, Tan Rhiw a Cwlyn. Erbyn cyhoeddi map Johnson yn 1855 yr oedd yr holl ddatblygiad yn gyflawn gyda thai ychwanegol ym Mhen y Graig, Cefn Capel Cwta, Ty’n Twr a Chaerberllan, a’r oll yn cyfuno i greu un pentrefan estynedig  ar naill ochr y ffordd. Y datblygiad pwysicaf oedd y ddwy res o dai unllawr o boptu’r ffordd. Roedd rhes ochr y de yn cynnwys 32 tŷ wedi eu trefnu mewn pedwar bloc, a gyferbyn roedd uned o 12 tŷ ar safle sydd heddiw yn fynedfa i stad Gernant – dymchwelwyd y tai hyn ar gychwyn yr 20g. Cyplyswyd y tai gyda gerddi estynedig  yn y cefn, nifer ohonynt gyda’u lle chwech pwrpasol ar derfyn yr ardd, a cheid mynediad i’r cefn drwy lwybrau cul rhwng y pedwar bloc. Adeiladwyd pob tŷ oddi fewn i gynllun syml i gynnwys dwy brif ystafell ar y llawr gyda chroglofft uwchben, ac ym mwyafrif y tai ceid estyniad bychan yn y cefn ar gyfer y gegin a lle i ymolchi. Goleuid y tŷ drwy’r ddwy ffenest o boptu’r drws ffrynt, gyda’r drws yn agor yn syth bwt i’r ffordd dan gysgod bargod estynedig.  Yn y libart ffrynt cywasgid adeilad y cwt glo os oedd digon o le i’w ganiatáu (Un cwt glo sydd yn aros yn y rhes erbyn heddiw). Er mor set oedd gofynion cynllun y perchennog, eto ym Mraichmelyn mae trefn yr adeiladwyr unigol i’w ganfod yn adeiladwaith nifer o’r tai – defnyddiwyd llechen i adeiladu rhai, eraill mewn meini maen mwy unffurf, a chynifer mewn cerrig bras amrywiol eu gwead, ond oll, wrth gwrs, wedi eu toi â llechen las y Penrhyn. Pwy oedd yr adeiladwyr mentrus sydd eto i’w canfod? – ond mae enw un o leiaf yn gybyddus, sef Owen Jones, Tyn y Coed, Llandygái, a adeiladodd dri thŷ ar lesiant yn Tan y Gadlas yn 1844.

Mae cynllun unffurf tai syml Braichmelyn yn drawiadol. Y math hwn o dŷ unllawr, boed yn  sengl, yn gyplau neu mewn rhes, ddefnyddiwyd gan stad y Penrhyn i osod ei stamp ar gynlluniau tai gwaith a ddilynodd adeiladu Braichmelyn wedi pedwardegau’r ganrif.

Mae’n bur debyg mai cynllunydd y math hwn o dŷ oedd Benjamin Wyatt, prif asiant dylanwadol stad y Penrhyn o gyfnod cynharach. Onid o’r cyfnod cynnar hwn y daeth y syniad o greu sefydliad i gartrefu gweithwyr, ac yn achos Braichmelyn i gartrefu chwarelwyr a’u teuluoedd yn unig. Ni fwriadwyd i’r datblygiad fod ag unrhyw gyfleusterau dinesig na chymdeithasol – dim siop, na chapel, na thafarn nac ysgol – oherwydd ar y cyntaf pentrefan i huno ynddo oedd Braichmelyn. Yng nghyfrifiad 1841 yr oedd yn gartref i 132 o chwarelwyr a dim ond naw dyn ar y gofrestr oedd mewn galwedigaeth wahanol,  tri ohonynt yn  ffermwyr, un yn gariwr a’r gweddill heb ddynodiad. Cyfanswm poblogaeth Braichmelyn yn ôl y cyfrifiad oedd 388 person. Erbyn cyfrifiad 1851 yr oedd rhif y tai yn 108, nifer y chwarelwyr wedi chwyddo i 178 a’r boblogaeth yn 571 person. Gellir canfod amrywiaeth ymhlith y deiliaid gan gynnwys gofaint, gwneuthurwyr sets, rhai meinars – yn lojo fel arfer – crydd, saer coed, dau deiliwr, un ffermwr, clerc yn y chwarel, ac ym Mhont y Twr drepar a groser, a rhyfedd y rhyfeddodau, gweinidog Capel Jerusalem ym Modforis. Fel bo’r disgwyl yr oedd gwead cymdeithasol Braichmelyn o fwriad yn dra gwahanol i bentrefi cyfoesol Bethesda a Rachub a oedd yn datblygu ar stadau annibynnol yr ardal i gynnwys poblogaethau lawer mwy amrywiol eu galwedigaethau.

Os datblygwyd Braichmelyn fel arbrawf i ateb gofyn eithriadol ddwys y cyfnod i gartrefu gweithlu’r chwarel, yna fe’i defnyddiwyd gan stad y Penrhyn yn gynsail i ddatblygiadau llawer ehangach ar weundir agored Mynydd Llandygái mewn cyfnod ychydig yn ddiweddarach pan adeiladwyd tai yn y Gefnan, Llwybr Main a Thanybwlch ar gyfer cartrefu chwarelwyr yn bennaf.  Byddai’n gwbl annheg defnyddio’r enw ‘geto’ am y datblygiadau hyn, oherwydd yn y cysyniad o ranbarth cyfyngedig i weithwyr  tyfodd drychfeddwl llawer mwy eangfrydig nag un y Penrhyn wrth sefydlu pentrefi gweithiol haelionus, megis New Lanark, Bournville a Port Sunlight,  yn ystod cyfnod ail hanner y 19g. Prin y gellid honni fod perchenogion y Penrhyn ymysg rhagflaenwyr mwyaf daionus  a bendithiol Prydain! Ond o ba le y daeth y syniad gwreiddiol o greu maestref gyfyngedig i weithwyr megis yr un ym Mraichmelyn?

Gellir olrhain y syniad i’r rhes arbrofol o wyth tŷ gyda’u gerddi atodol a adeiladwyd gan Richard Pennant yn 1798 ar gomin agored Mynydd Llandygái. Ond yr oedd gan res iwtilitaraidd Tai’r Mynydd hefyd ei tharddiad cynharach mewn cynlluniau manwl o blanhigfeydd siwgr  teulu’r Penrhyn ar ynys Jamaica.  Er nad ymwelodd Pennant â’r ynys bellennig, mae’n eithaf sicr y byddai ef a’i asiant Wyatt yn gyfarwydd â threfn y planhigfeydd o neilltuo ardal arbennig i gartrefu’r caethweision,  yn ogystal â phennu darn o dir yr un mor neilltuedig i’w galluogi i dyfu eu bwyd.  Mae’n bosibl mai addasiad o’r cynlluniau hyn sydd i’w gweld ym Mraichmelyn, yn sicr mewn  trefn nad oedd mor farbaraidd â’r gwreiddiol yn Jamaica. Ond er mwyn ateb problem diffyg cartrefi yn Nyffryn Ogwen roedd yn drefn a neilltuai pobl ac yn drefn a oedd hefyd yr un mor ymarferol ei chynllun yn darparu tai syml i liaws gweithlu Chwarel Cae Braich y Cafn yn 1840.

Hafoty Famaeth a Hafoty Lowri

Ar ucheldir comin Llanllechid, dyffryn Afon Ffrydlas a chyrion y Carneddau yng nghymoedd Caseg a Llafar mae yno doreth o safleoedd sy’n perthyn i gyfnodau cynhanes a chyfnodau hanesyddol diweddarach. Olion cymdeithasau yn byw ar y cyrion sydd i’w gweld yn yr ardaloedd hyn yn defnyddio adnoddau’r ucheldir pan fyddai amgylchiadau economaidd, amgylcheddol, neu hyd yn oed boliticaidd, yn caniatáu. Credir, er enghraifft, fod yr ucheldir wedi ei boblogi yn ystod cyfnod yr Oes Efydd (2500-750 Cyn Crist) fel yr oedd prinder tir yn yr iseldir yn gorfodi  cymdeithasau, dan orfodaeth efallai, i ledu i diroedd ymylol llai ffrwythlon, onid i ymadael yng nghyfnod dilynol yr Oes Haearn (750 -45CC) wrth i’r adnoddau ddirywio dan bwysau newid  hinsawdd.

Mewn arolwg diweddar cofrestrodd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol fwy na 700 o safleoedd a nodweddion archaeolegol yn yr ardaloedd hyn, ond y broblem enfawr ydyw gosod y mwyafrif ohonynt yn eu cyd-destun hanesyddol cywir. Yn gyffredinol, dosberthir safleoedd a nodweddir gan adeiladau crwn i gyfnod cynhanes a chyn Rufeinig, tra perthyn safleoedd ac adeiladau sgwarog i gyfnodau ôl-Rufeinig, y Canol Oesoedd a chyfnod y Chwyldro Diwydiannol Diweddar, ond rhaid pwysleisio mai rhaniad cyffredinol iawn yw hwn. I’r categori cynhanes perthyn carneddau claddu, twmpathau llosgi cerrig, ac anheddau byw gyda nifer ohonynt wedi eu cysylltu â chaeau bychan a waliau cerrig isel sydd yn ymddangos heddiw fel petaent yn igam ogamu ar grwydr diamcan hyd  y gweunydd.

Prif nodwedd llawer o’r adeiladau o gyfnodau diweddarach yw eu bod yn ymddangos yn ddigyswllt a neilltuedig. Ystyrir fod canran uchel yn gorlannau neu yn ffaldiau, rhai yn sefydliadau dros dro, eraill yn fwy parhaol gyda chwt bychan neu loches yn gysylltiedig, ac eraill yn addasiadau o adeiladau cynharach, rhai o gyfnod cynhanes, at ddefnydd mwy perthnasol i’w cyfnod. Yn arolwg yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol cofnodir bod 94 safle corlan yn ucheldir Llanllechid a’r Carneddau ac maent oll yn rhan o economi fugeiliol a ddatblygodd oddeutu dechrau’r ddeunawfed ganrif. Ond mae hefyd olion o economi gynharach, a llai diffiniol, a ddatblygodd yn yr ardaloedd hyn, fel mewn rhannau eraill o Gymru,  yn ystod y 12fed ar 13eg ganrif. Seiliwyd yr economi ar ransio gwartheg a’i nodwedd amlycaf yw adeiladau hirsgwar sy’n amrywio rhwng deuddeg a 40 troedfedd mewn hyd a rhwng naw i ddeunaw troedfedd mewn lled. Maent wedi’u gwasgaru yn yr ucheldir ar uchder rhwng 600 a 1200 troedfedd. Ystyrir i’r adeiladau hyn wasanaethu fel hafotai  mewn cyfundrefn drawstrefa, ac fel yn yr Oes Efydd, awgrymir mai gwasgfa ar adnoddau yn yr iseldir oedd yn gyfrifol fod tiroedd ymylol yn yr ucheldir, a phorthiant gweunydd yr haf, yn cael eu defnyddio i fagu gwartheg. Cofnododd Pennant yn ei daith drwy Ogledd Cymru yn 1773-6 symudiad poblogaeth drawstrefol i’r ucheldir ond erbyn diwedd y ganrif peidiodd y drefn â bod.

20201030_103101
Cynllun tŷ hir Mynydd Du yng Nghwm Caseg

Mae oddeutu deuddeg hafoty ar ffurf tai hirion yn yr ucheldir sy’n ffinio’r Carneddau, gyda saith enghraifft yn nyffryn Afon Caseg. Mae Hafoty Famaeth wedi ei lleoli ger tarddle Afon Ffrydlas ar uchder o 1700 troedfedd. Nodir y safle gan furiau trwchus ar sylfaen o feini mawr ac mae’r adeilad yn mesur 9 wrth 15 troedfedd. Adeiladwyd corlan ddiweddarach ym mhen de  orllewinol yr hafoty, ac mae’r enw yn awgrymu swyddogaeth yr adeilad fel meithrinfa i anifeiliaid. Y safle arall berthnasol yw Hafoty Lowri sydd wedi ei leoli i’r de o’r Gyrn ar uchder o 1500 troedfedd. Yno canfyddir adeilad mwy sgwarog sy’n mesur 15 troedfedd gyda’r muriau yn sefyll hyd at chwe throedfedd o uchder. Yn gyffredinol, adeiladwyd yr anheddau hirion i ddilyn yn hytrach na bod yn groes i’r llethr, ac mae ganddynt leoliad agos at ddŵr. Ychydig o’r safleoedd hyn a archwiliwyd yng Ngwynedd a’u prif nodwedd yw tlodi eu diwylliant materol  a dyddiad amhendant eu sefydlu, yn amrywio o’r Canol Oesoedd diweddar hyd at y ddeunawfed ganrif. Yn wreiddiol mae’n debyg fod gan y safleoedd hyn ledaeniad ehangach  yn yr iseldir yn ogystal ag yn yr ucheldir ond fod olion  yr iseldir wedi eu chwalu gan ddatblygiadau diweddarach. Ar y llaw arall, datblygodd rhai o’r safleoedd yn gynsail i rai o ffermydd cynnar yr ardal, yn arbennig felly’r rhai sydd ar y ffin rhwng y ddau amgylchfyd.

20201030_103529
Cynllun adeiladau hirsgwar o gyfnod amhenodol ger Tan y Garth

Yng Nghiltwllan a Than y Garth, er enghraifft, mae adeiladau hirsgwar o gyfnod cynnar amhenodol yn amlwg yn sylfaenol i ddatblygiad y ffermydd hyn fel sefydliadau parhaol yn nhirlun ardal Gerlan a chyrion dyffrynnoedd y Carneddau. Cynrychiolwyr mwyaf adnabyddus yr economi hon oedd y porthmyn a fyddai’n gyrru’r gwartheg i’w gwerthu ym marchnadoedd Lloegr. Gadawodd y porthmyn eu marc ar Ddyffryn Ogwen mewn dau safle arbennig. Y cyntaf oedd Capel Ogwen yn aber afon Ogwen lle’r oedd safle derbyn y gwartheg wedi iddynt groesi i’r tir mawr o Fôn, i’w hail drefnu yno cyn cychwyn ar eu hynt. Mae’r ail safle, Tŷ Glas, ar y ffin rhwng Nant Ffrancon a Nant y Benglog, ac yno yr oedd y porthmyn yn ymgynnull gyda’u gyrroedd yn dilyn cwblhau rhan gyntaf eu taith wedi gadael glannau’r Fenai.

Mae gwaith ymchwil diweddar dan nawdd Cynllun y Carneddau a’r Parc Cenedlaethol yn debygol o gyfrannu’n sylweddol at ein gwybodaeth o archaeoleg ucheldir plwyf Llanllechid. Drwy ddulliau newydd o ddarganfod o’r awyr, megis LAIDAR, daw toreth o wybodaeth newydd ynghylch safleoedd a therfynau oedd gynt yn guddiedig dan orchudd o fawn a llystyfiant  Gyda gwybodaeth fanwl o’r fath daw cyfle i osod safleoedd fel yr hafotai yn eu gwir gyd-destun archaeolegol a hanesyddol a gweld, efallai, sut yr oeddynt yn cyd-gysylltu â’i gilydd i gynnal economi mewn amgylchedd ymylol oedd ar y gorau yn y Canol Oesoedd yn anodd a bregus. Megis ar gychwyn mae ail ddehongli cymdeithasau trawstrefa ucheldir y Carneddau, ac Eryri yn gyffredinol, a bydd rhyfeddodau i’w disgwyl o’r ymchwil a gyflwynir yn y blynyddoedd nesaf.

Ffynhonnell   

RCAMW. 1956 – An Inventory of the Ancient Monuments in Caernarvonshire Volume 1 East. HMSO, London

The National Trust. 2010.  Historic Buildings, Sites and Monuments Record –  Carneddau, Glyderau, Moel Faban. Llandudno

Clwb Golff Tyn y Maes

Pwy fyddai wedi dychmygu fod gan Fethesda glwb golff! Tybed beth yw hanes ei sefydlu, a beth tybed fyddai’r rhesymau cymdeithasol am fodolaeth y fath sefydliad?  Bellach mae manylion ynghylch y clwb wedi llithro bron i ddifancoll lwyr yng nghof hanes y pentref, ond i’w ganfod yn ddiweddar drwy ymchwil dyfal y Dr J Elwyn Hughes ar gyfer ei erthyglau yn Llais Ogwan, ac yn fwy rhyfeddol fyth, mewn cofnod ar gyrsiau golff diflanedig Prydain sy’n rhan o wefan genedlaethol.

IMG_2948
Y cwrs golff yn Nant Ffrancon. Cynllun drwy ganiatâd a charedigrwydd Adran Archifau a Llawysgrifau, Prifysgol Bangor, Llawysgrif PFA/6/207

Sefydlwyd clwb golff Nant Ffrangcon, sylwer ar y sillafiad, yn Nhyn y Maes yn 1930  gyda’r Arglwydd Penrhyn, Hugh Napier Douglas-Pennant, a’i wraig Sybil Mary, yn llywyddion anrhydeddus. Yr Arglwydd bid sicr a ganiataodd brydles i’r maes chwarae gan mai ef wrth gwrs oedd y tirfeddiannwr. Agorwyd y clwb yn swyddogol ar Fai 10fed 1930 pan chwaraewyd gornest arddangosiadol gyda Mr Skirton o Glwb Bangor a Mr Lewis Williams o glwb Porth Llechog, Amlwch, yn herio’r ddau aelod o glwb y dathlu, Mr Hugh Lloyd a Mr Wheldon Jones. Nid yw’r canlyniad yn wybyddus. Yn dilyn yr ornest trefnwyd nifer o gystadlaethau agored i’w chwarae ymhlith yr aelodau a’u gwesteion.

20201108_095357
Cwpan swyddogol i gystadleuwyr y clwb

Lleolwyd canolfan y clwb, y ‘clyb hows’ ys dywedir, ym mhentref Tyn y Maes, ond yr oedd y maes chwarae gryn bellter anghyfleus i ffwrdd ar safle ar ochr arall i Afon Ogwen ger Pont Ceunant yn Nant  Ffrancon. Naw twll a berthynai i’r cwrs, ond er ei fyrred gallasai’r clwb gynnal chwaraewr proffesiynol i hyfforddi sgiliau’r darpar aelodau. Ef oedd Mr Palferman,  enillydd mewn cystadleuaeth genedlaethol i chwaraewyr golff proffesiynol a gynhaliwyd yn Wrecsam yn ystod yr un flwyddyn ac, o ganlyniad, yn abwyd pwysig i ddelwedd y clwb newydd. Mr E R Hughes oedd yr ysgrifennydd a chredir mai perchennog siop ym Methesda oedd ef. Y ffioedd i ymaelodi oedd £1.5.0  i ddynion, 15/- i ferched, a 10/6 i aelodau cyffredin yn ogystal ag i ieuenctid o dan ddeunaw oed. Gallai ymwelwyr chwarae ar y cwrs o dalu 2/- y dydd, ond ym mis Awst byddid disgwyl iddynt dalu 3/- am y cyfle. Yr oedd gan y clwb gwpan gystadleuol yn ogystal,  i’w dyfarnu’n flynyddol, bur debyg, i bencampwyr y cystadlaethau, a’i thrysori i’r enillydd am gyfnod cyn ei dychwelyd ar gyfer gornestau’r tymor canlynol.

IMG_2166
Maes y ‘Tir Pal’

Lleolwyd y ‘lincs’ ar dir fferm Dolawen ar faes a adweinir fel y ‘Tir Pal’, llain o dir agored, cwrs  ei borfa a phonciog ei dirwedd, sy’n agor i gyfeiriad y de i ehangder Nant Ffrancon. Mae’n hawdd dilyn amlinelliad allanol y cwrs drwy ganlyn y ffordd o Bont Ceunant i gyfeiriad Tai Newyddion cyn yno droi i gerdded i gyfeiriad y gogledd ar lwybr sydd heddiw yn rhan o Lôn Las Ogwen. Ar ongl eithaf y llwybr cyn bod tomennydd rwbel y chwarel wedi ei orchuddio,  troi eto i ddilyn hen lwybr sy’n arwain i’r gogledd ddwyrain at fythynnod y Ceunant. Bellach mae olion mewnol y cwrs wedi hen ddiflannu wrth i flewyn glas llyfn y ‘tîs’ a’r ‘grîns’ ildio i lystyfiant  garw gweundir dyffryn mynyddig yn Eryri lle nad oedd cwrs golff erioed i fod yn rhan o’i dirwedd.

Byrhoedlog fu hanes y clwb golff yn hanes Dyffryn Ogwen, ac er yr holl lafur a’r balchder o’i sefydlu, daeth ei weithgareddau i ben ar Fehefin 5ed 1936.  Mae’n berthnasol gofyn heddiw, o bellter hanesyddol ymron i dri chwarter canrif, beth oedd y cymhelliad seicig a fynnodd sefydlu adloniant mor elitaidd, grachaidd ei ddelwedd, mewn pentref chwarelyddol pur gyffredin yn ystod cyfnod dirwasgiad economaidd tridegau’r ganrif flaenorol? Sefydliad a berthynai i ddosbarth canol ac uwch cymdeithas fwy cyfoethog ac ymwthiol fyddai clwb o’r fath, ond ym Methesda’r tridegau gellid cyfrif ar brin ddeunaw aelod o’r haen hon o’r boblogaeth.  Nid pawb ar gyflog chwarelwr allai dalu tâl aelodaeth a phrynu’r gêr angenrheidiol a’r trowsus plysffors ffasiynol yn ei ddydd, er mwyn anrhydeddu’r berthynas â’r clwb. Felly gellid barnu mai aelodaeth ddewisedig, ddethol o blith criw bychan proffesiynol yr ardal a fyddai’n cynnal delwedd crandrwydd y clwb golff. Ond wedi’r cyfan yr oedd sefydlu’r clwb, er byrred ei dymor, yn ddatganiad arwyddocaol a hollbwysig yn hanes y pentref, i nodi fod Bethesda bellach ar y map ac yn dringo’n hyderus i fyny ysgol gymdeithasol y cyfnod.

Diolch i Gwyn Thomas, Ceunant,  John Morris, Dolawen a John Elwyn Hughes, Bethel am gyfrannu o’u gwybodaeth am y clwb golff.

Ffynhonnell: Golf’s Missing Links, https://www.golfsmissinglinks.co.uk/index.php/wales-64