Cae’r Mynydd

Y mae i Gae’r Mynydd ym Mynydd Llandygái hanes cymhleth a diddorol iawn. Sôn yr ydym am gyfnod cymharol fyr rhwng 1790 ac 1805, ond cyfnod eithriadol bwysig yn hanes Dyffryn Ogwen pan oedd Richard Pennant, arglwydd cyntaf stad y Penrhyn, yn sefydlu ei chwarel lechi ar lethrau’r Fronllwyd yng Nghae Braich y Cafn. Yr oedd y fenter yn llwyddiannus ac yn cynnig potensial eithriadol o’i datblygu. Yr oedd cymhlethdodau cenedlaethol a rhyngwladol yn rhwystro gwireddu’r potensial hwnnw er hynny. Y bygythiad rhyngwladol oedd y rhyfel rhwng Ffrainc a Phrydain, rhyfel Napoleon Boneparte, a ddechreuodd yn 1793, a’i effeithiau’n rhwystro datblygu marchnadoedd ar y cyfandir. Ymhellach, yr oedd llongau rhyfel Ffrainc yn gysgod parhaol ar arfordir Prydain gan atal  mynediad i’r farchnad dramor hyd oni ddaeth y rhyfel i’w therfyn gyda buddugoliaeth Trafalgar yn 1815. Yn nes adref yr oedd penderfyniad llywodraeth Prydain i godi treth o 20% ar lechi, ac yn ddiweddarach 40%, er mwyn diogelu cynhyrchwyr teils de Lloegr yn rhwystr eithriadol anhaeddiannol i ddatblygiad y diwydiant.

Canlyniad y rhwystrau hyn oedd colledion yn y farchnad lechi a chyfnod o ansicrwydd yn y chwarel a arweiniodd at ddiswyddo hyd at 300 o chwarelwyr yng Nghae Braich y Cafn. Yr oedd sgil effeithiau’r dirwasgiad yn bur ddifrifol ac roedd yn bosibl y gallasai’r cyni arwain at anghydfod cymdeithasol, bygythiad na allai Richard Pennant a’i brif swyddogion, William Williams a Benjamin Wyatt, ei anwybyddu. Ymateb Pennant oedd cyfeirio’r di-waith i lafurio ar gynlluniau ymarferol ac uchelgeisiol i wella isadeiledd plwyf Llandygái. Un o’r cynlluniau oedd adeiladu estyniad i Ffordd y Lord yn 1798 i gyrraedd at Gapel Curig a gwasanaethu yno westy’r Royal. Cynllun arall o’r un cyfnod oedd adeiladu porthladd yn Aber Cegin a’i gysylltu yn 1801 â’r chwarel gyda thramffordd ar reiliau. Yn 1796 ymgymerodd ag un cynllun arall, llawer mwy di-nod, ond un oedd â goblygiadau cymdeithasol tra arwyddocao, sef awdurdodi plannu can acer o datws ar ffridd agored i’r gogledd o’r chwarel. Defnyddiwyd y dull Gwyddelig o blannu – dull rhwydd o greu gwely lle mae tatws yn y rhes gyntaf yn cael eu gorchuddio gan dywarchen y rhes nesaf gan ailadrodd y broses hyd at ddiwedd y llain. Mewn cyfnod o gyni mawr, a thrwy ei raslonrwydd, golygodd y cynllun nad oedd plwyfolion ei ystâd ym Mynydd Llandygái yn wynebu newyn. Ychwanegodd  Pennant at y fwydlen drwy yrru penwaig o un o oradau’r Penrhyn i leddfu’r cyni. Cyfeiriwyd at y gwely tatws fel Cae’r Mynydd.

Ar yr un pryd ag yr oedd Pennant yn cyflawni ei wasanaeth dyngarol i’w blwyfolion yr oedd hefyd yng nghanol brwydr etholiadol i gynrychioli Sir Gaernarfon yn y Senedd. Ei wrthwynebydd oedd Syr Robert Williams o’r Friars ym Miwmares a oedd yn Chwig yn ôl ei ddaliadau gwleidyddol. Ef a orfu mewn etholiad eithriadol gynhennus a phersonol annymunol pan ymosodwyd yn gyhoeddus ar Pennant fel Tori mewn cyfres o bamffledi ffiaidd a  dialgar. Yn yr ornest ymosodwyd ar Pennant ar sgwâr Conwy gan ŵr yn chwifio ‘dwy gigwain dridaint’ a thatws a phenwaig ynghlwm wrthynt ac yn ei gyfarch yn ddirmygus fel ‘Arglwydd y pytatws a’r penwaig’. O ganlyniad i’r ymrafael honnir fod Pennant wedi tyngu y byddai’n gofalu bod gwellt yn tyfu ym marchnad ac ar heolydd Conwy. Os gwir yr honiad,  yna daeth ei gyfle yn 1802 pan gynlluniwyd y Ffordd Dyrpeg o Bentrefoelas i Landygái i gyfeirio drwy Gapel Curig a Nant Ffrancon gan osgoi Llanrwst a Chonwy.

Ond i ddychwelyd yn ôl i Gae’r Mynydd. Cynllun a weithredodd am un flwyddyn yn unig fu planhigfa datws Cae’r Mynydd ac mae’n eithaf tebygol  na fyddai wedi bod yn  llwyddiannus yn y blynyddoedd canlynol oherwydd amodau hinsoddol tra anghyffredin.  Adwaenir  y tair blynedd 1798, 1799 a 1800 fel blynyddoedd o brinder ym Mhrydain pan fethodd cnydau bwyd dyfu drwy’r  holl deyrnas. Cofnodir 1798 fel blwyddyn o sychder mawr a ddilynwyd yn 1799 gan eira a rhew caled a barhaodd hyd at fis Mehefin ac a ddilynwyd gan lifogydd enfawr ym mis Gorffennaf. Patrwm tebyg oedd i’r flwyddyn ganlynol gydag eira a rhew a barhaodd hyd at yr haf gan atal plannu cnydau hyd weddill y flwyddyn. Yn yr argyfwng canmolwyd graslonrwydd Richard Pennant yn lleol ond drwy ymyrraeth y Llywodraeth yn ganolog yr arbedwyd dinasyddion y wlad rhag newynu.

Rhesi tatws2
Rhesi tatws Cae’r Mynydd heddiw

Ond ddau gan mlynedd yn ddiweddarach a fyddai’n deg holi ynghylch cymhellion Richard Pennant yng Nghae’r Mynydd?  Ef wedi’r cyfan oedd y diwydiannwr uchelgeisiol yr oedd ei olud yn deillio o blanhigfeydd siwgr Jamaica.  Ai ymgais i ddiwyllio rhan o weundir agored a diffrwyth Moelyci drwy lafur rhad ac am ddim ei blwyfolion oedd y gwely tatws? Ac ai tacteg i ennill sylw cyhoeddus i’w ymgyrch etholiadol oedd rhannu bwyd â’i weithlu difreintiedig?  Chwi ddarllenwyr diduedd a gaiff benderfynu p’un ai dyngarwr hael ei gymwynas oedd Pennant ynteu arch gyfalafwr cyfrwys a breintiedig.

Dodd, A.H.  1968. A History of Caernarvonshire 1284-1900. Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon. Dinbych.

Hughes, Hugh Derfel. 1866. Hynafiaethau Llandegai a Llanllechid. Bethesda

 

Advertisements

Y Gofeb

Cofeb 23
Cofeb y Milwyr, defnyddir y llun drwy garedigrwydd Andre Lomozik

‘Os dewisa meibion Arfon gysgodi’n awr oddi tan fynyddoedd Eryri, ac felly osgoi eu dyletswydd, yna collant yn dragwyddol ddelfryd pennaf cenedlaetholdeb – sef  y cyfle i ymladd dros ryddid a thros Ymerodraeth, a byddant yn annheilwng o’r dreftadaeth enfawr honno a enillwyd iddynt gan eu cyndadau’.

Roedd yr uchod yn rhan o araith recriwtio a draddodwyd  gan y Canon R T Jones, ficer Glanogwen, yn Awst 1914 yn annog bechgyn ieuanc Bethesda i ymuno yn y Rhyfel Mawr. Nid ef oedd yr unig un o weinidogion yr efengyl yn Nyffryn Ogwen i bwyso ar yr ieuanc i ymuno â’r gad, ond er cymaint yr anogaeth jingoistiaidd, y bwrw sen a’r cyhuddiadau o lwfrdra gan yr awdurdodau, amharod iawn oedd chwarelwyr ieuanc y fro i ymuno yn y brwydro hyd oni ddaeth gorfodaeth yn y Ddeddf Consgripsiwn a ddaeth i rym ym mis Mai 1916. Cynhaeaf brwnt Rhyfel Mawr 1914-1918 oedd i 92 o fechgyn ieuanc Dyffryn Ogwen gael eu lladd yn y brwydro, gan gynnwys mab y Canon R T Jones a fu farw gerllaw Theassalonika yng ngwlad Groeg ar 27 Mawrth, 1917. Trafodwyd codi cofeb i goffáu’r milwyr yn 1919 a rhoddwyd y gwaith i’w chynllunio i R J Roberts o Lanfairfechan. Fe’i hadeiladwyd yn y flwyddyn ganlynol gan Richard Williams, yntau hefyd o Lanfairfechan. Dewiswyd carreg galch o Fôn ar gyfer y gofeb , dewis anghyson o gofio mai cofebion o lechen sy’n coffáu ymadawedig yr ardal.  Dadorchuddiwyd y gofgolofn mewn gwasanaeth arbennig ar 7 Mehefin 1924.

Ym mis Ebrill 1950 ychwanegwyd dau faen ar y naill ochr i’r brif golofn ac arnynt torrwyd enwau  y milwyr a laddwyd yn ystod yr ail Ryfel Byd 1939-1945.

Meirion
Gruffydd Meirion Jones, Bron Derw, Ffordd Bangor (mae’r llun drwy garedigrwydd ei nith, Lowri Coulten)

Ymhlith y 32 a fu farw mae enw Gruffydd Meirion Jones, bachgen a gofnododd ei hynt a’i helynt yn y fyddin mewn mwy na 300 o lythyrau a ddanfonodd at ei rieni ym Mron Derw, Ffordd Bangor, cyn cael ei ladd yn un o frwydrau olaf y rhyfel yn 1945. Yn ddiweddar danfonwyd yr e-bost canlynol gan ei nith Lowri Coulten yn cofnodi gwasanaeth a gynhaliwyd yn yr Almaen i goffáu’r frwydr y bu Meirion farw ynddi. Dyma ei gynnwys:

‘Yr ydym newydd ddod yn ôl o’r Almaen lle buom yn cymryd rhan yn y gwasanaeth coffa yn Stolzenau. Buom yn dilyn y llwybr a gymerwyd gan y Commandos o Osnabruck hyd at yr afon Weser, gwelsom y man lle rhoddwyd eu cychod yn y dŵr, ac wedyn  cawsom ymweld a’r fan lle’r anafwyd Meirion.  Hefyd, dangosodd Hermann o ble daeth y “shells”, fe eglurodd sut fath o bethau oeddynt a pha mor berygl oeddynt.

Cofeb Meirion
Enw Gruffydd Meirion Jones ar y gofeb ym Methesda

Nid oedd llawer o obaith os oedd dyn  yn cael ei daro gan shell fel yna, ac yr oedd y “field dressing station” bron 15 milltir i ffwrdd.  Yno bu farw Meirion, ac fe’i claddwyd tu ôl i’r FDS mewn gardd i dŷ rhywun cyn ei symud i fynwent Hannover rhyw ddwy flynedd wedyn.

Daeth tua 300 o bobl o ardal Stolzenau i ‘r gwasanaeth ac yr oedd yn dipyn o beth clywed enw “Trooper Gruffydd Meirion Jones aus Bethesda in Wales” yn cael ei ddarllen allan gan Almaenwr.  Yr oedd yn wasanaeth syml iawn – anerchiad gan y Pastor, emyn neu ddwy gan gôr o ferched, fi yn dweud ychydig o eiriau mewn Almaeneg, ac wedyn enwi y milwyr Almaenig a laddwyd y tridiau hynny – plant yn wir 16 neu 17 mlwydd oed, a plant ysgol y dref yr un oed oedd yn eu henwi.

Lowri Coultren
Lowri Coulten wrth fedd ei hewythr yn Hannover yn yr Almaen

Mae wedi bod yn benwythnos fyth gofiadwy i feddwl ein bod wedi medru cael trefnu teyrnged fel hyn i hogyn o Fethesda a laddwyd 70 mlynedd yn ôl. Rhoddais y pridd o ardd “Bron Derw” ar ei fedd’.

Mae’n debyg y gellid ychwanegu manylion tebyg am farwolaeth yr holl fechgyn a gofnodir ar y Gofeb o flaen Capel Jerusalem –  y fath wastraff o eneidiau ieuanc, y fath dristwch o ddiffodd gobeithion bywyd mor ddisymwth, y fath rwystredigaeth fod Prydain, ac felly Cymru, yn rhan o ryfeloedd diddiwedd rhywle yn y byd ers cynifer o flynyddoedd.

Gwybodaeth gan Lowri Coulten, Boughton, ger King’s Lynn, Swydd Norfolk.

Ffynonellau

Hughes, John Elwyn. 2008. Byd Go Iawn Un Nos Ola Leuad. Cyhoeddiadau Barddas, Llandybïe.

Roberts, Dafydd. 1984. ‘Dros Ryddid a Thros Ymerodraeth’: Ymatebion yn Nyffryn Ogwen 1914-18. Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon. 45. 107-123.

Ysgubor Coetmor

Coetmor ysgubor (1)
Ysgubor Coetmor, defnyddir y llun drwy garedigrwydd David Longley

Yr adeilad mwyaf nodedig ar fferm Coetmor erbyn heddiw yw’r ysgubor sydd ar ymyl ddeheuol y buarth. Mae’n adeilad sylweddol ei faint yn mesur 21.50 metr o hyd wrth 7.50 metr o led ac wedi ei adeiladu ar echel dwyrain i’r gorllewin. Adeiladwyd yr ysgubor o gerrig breision sy’n wahanol i gerrig nadd gweddill adeiladau’r buarth. Mae cynllun gwreiddiol yr adeilad yn aros er bod rhai newidiadau diweddarach i’w gweld. Yr oedd gan yr ysgubor ddau brif borth yn wynebu ei gilydd ar ganol yr adeilad, gan rannu’r rhan fewnol yn ddwy uned agored. Heddiw, un porth sy’n aros, yn agor i’r buarth o fur y gogledd, ac mae ei gymar ar fur y de wedi’i gau, a drws cul cyffredin wedi cymryd ei le. Mae’r porth gwreiddiol yn ddigon llydan i drol fynd drwyddo. Awyrwyd yr adeilad drwy dyllau cul sydd wedi’u gosod fesul dau yn y muriau: mae wyth yn aros ar fur y gogledd, chwech ar fur y de a thair ar dalcen y dwyrain, er mai cysgod rhai ohonynt sydd i’w gweld bellach. Ar wahân i’r fentiau, a golau o’r ddau ddrws, yr oedd yr adeilad yn dywyll a’r gwagle o’i fewn yn agored.

Trawstia Coetmor
Trawstiau Ysgubor Coetmor, defnyddir y llun drwy garedigrwydd David Longley

O ganlyniad i’r addasiadau a wnaed i’r ysgubor yn 1870 ychwanegwyd llawr pren cadarn i rannu uned y gorllewin yn ddwy ystafell gyda’r llawr uchaf yn troi yn llofft stabl a stordy eang. Mae ychwanegiadau diweddarach yn cuddio’r ffaith mai adeilad cwbl agored a drafftiog o fwriad oedd yr ysgubor. Hwn yw’r adeilad hynaf ar safle Coetmor ac mae ei ffurf yn cyfateb i ysguboriau degwm o gyfnod y Canol Oesoedd. Perthynai i blasty Coetmor, prif sefydliad bonheddig yr ardal, a’i hanes yn ymestyn yn ôl i’r bymthegfed ganrif os nad, yn ôl traddodiad, i gyfnod cynharach. Chwalwyd adfail yr hen blasty yn 1870 ac fe adeiladwyd fferm bresennol Coetmor ar y safle. Mewn cynlluniau cynnar gwelir fod yr ysgubor yn sefyll dafliad carreg i’r gogledd-orllewin o safle’r plasty. Lleolwyd y plasty yn union y tu cefn i ffermdy presennol Coetmor, sy’n egluro paham fod gardd mor eang o flaen y ffermdy. Mae maint enfawr y plasty, a’i ffurf sgwarog, yn nodweddion annisgwyl yn y cynlluniau. Amcangyfrifir bod yr adeilad yn mesur 20 metr wrth 15 metr a fyddai’n golygu bod llawr y tŷ oddeutu 300 metr sgwâr. Mae ei faint, felly, yn cymharu â chartrefi bonheddig eraill o’r Canol Oesoedd  yn y gymdogaeth, megis Gwydir neu Hen Neuadd y Faenol. Mewn archwiliad geoffisegol diweddar ceisiwyd darganfod seiliau’r hen blasty ond ofer fu’r ymchwiliad oherwydd bod sbwriel sgrap ar y safle yn camarwain data’r ymchwiliad.

Ysgubor Coetmor
Talcen yr ysgubor, defnyddir y llun drwy garedigrwydd Idris Lewis

Quarry View

Pedwar tŷ oedd yn Quarry View, rhes fer o dai a safai wrth dafarn y Siôr ar Ffordd Carneddi, a’r ‘quarry’ yn y cyswllt hwn oedd Chwarel Pantdreiniog. Yno yr oedd cartref  Richard Hughes, contractor yn Chwarel y Penrhyn, a gŵr a dynnodd sylw trychinebus iddo’i hyn yn ystod y Streic Fawr rhwng 1900 a 1903.

Un o’r rhesymau, ymhlith nifer, a arweiniodd at yr anghydfod blin oedd bod rheolwr y chwarel, E. A. Young, yn mynnu creu haen weithredol newydd yng ngweinyddiaeth y chwarel, sef y contractwr. Golygai’r drefn hon fod gosod bargeinion drwy’r chwarel o dan reolaeth y contractwr yn hytrach na’r chwarelwr unigol. Golygai hyn na allai’r chwarelwr bellach gynllunio a datblygu ei fargen mewn trafodaeth â’r stiward gosod. Credai’r swyddogion y byddai’r drefn newydd yn arwain at reolaeth gadarnach o’r chwarel a fyddai’n fwy cynhyrchiol ac o’r herwydd yn cynyddu’n sylweddol broffidioldeb y gwaith. Ar y llaw arall credai’r gweithlu fod y drefn yn sarhad ar eu medrusrwydd fel crefftwyr ac yn tanseilio eu statws a’u hannibyniaeth. Penodwyd Richard Hughes yn is-gontractwr yn gyfrifol am un bonc gyfan.

Cychwynnodd y Streic yn ddisymwth ac mewn ffordd eithriadol danllyd. Ym mis Hydref 1900 gwrthododd pedwar ar ddeg o chwarelwyr ar Bonc y Ffridd weithio i’r drefn a orfodwyd gan y contractwyr. Cawsant eu hatal o’r chwarel am dri diwrnod. Ar ddychwelyd cawsant ar ddeall nad oeddynt i weithio mwyach yn eu bargeinion gwreiddiol a bod y rhain yn awr yn rhan o un contract enfawr dan reolaeth Richard Hughes ac Edward Williams, dau o’r contractwyr. Rhybuddiodd y chwarelwyr nad oedd y ddau gontractwr i ymddangos yn agos at Bonc y Ffridd, ond pan feiddiodd Williams anwybyddu’r rhybudd ac ymddangos yno, ymosodwyd arno yn giaidd a’i arwain yn glwyfedig o’r chwarel. Yr wythnos ganlynol mewn cyfweliad gyda newyddiadurwr o’r Liverpool Daily Post cyfeiriodd Richard Hughes, at y chwarelwyr fel loafers.

Cafwyd ymateb digyfaddawd i’r cyhuddiad â bygythiad y byddai dirprwyaeth yn ymweld â Mr Hughes liw nos i dalu’r pwyth yn ôl iddo am ei ensyniad haerllug. Diflannodd y cyhuddwr ond dridiau yn ddiweddarach ymddangosodd yn y chwarel yng nghwmni ei ddau fab, William a Thomas. Yn ystod yr awr ginio ymosodwyd ar y triawd yn frwnt a chiaidd ac arweiniwyd hwy yn glwyfedig i Fethesda gan fintai fawr o chwarelwyr. Dychwelodd y fintai yn ôl i’r chwarel i geisio dysgu’r un wers i’r contractwyr eraill ond yr oeddynt oll wedi cymryd y goes a diflannu. Felly dan amodau eithriadol dreisgar y dechreuodd y streic fawr yn chwarel y Penrhyn. Yr oedd y terfysg yn fel ar fysedd yr awdurdodau. Daethpwyd ag achos cyfreithiol yn erbyn chwech ar hugain o’r chwarelwyr ac ymddangosodd tri chant o farchfilwyr ym Methesda i gadw’r heddwch. Condemniwyd ymddygiad treisiol y chwarelwyr gan arweinyddion y streic ym Methesda a chan y rhai a gydymdeimlai â’u hamcanion ledled Prydain.

Ond trwy dair blynedd boenus y streic nis anghofiwyd am frad Richard Hughes y ’contractor mawr’ yn y gymdogaeth. Gwnaethpwyd ei fywyd ef a’i deulu yn gwbl annioddefol wrth iddynt ddioddef ymosodiadau a bygythiadau treisiol a geiriol yn eu herbyn. Ym mis Ionawr 1901, ychydig wythnosau wedi’r ymosodiad cyntaf yn y chwarel, gwrandawyd ar achos yn y Llys ym Mangor yn erbyn Thomas Hughes a gyhuddwyd o daro ac archolli wyneb Anne Griffiths gyda phiser wrth i’r ddau godi dŵr o ffynnon ger eu cartref ym Mynydd Llandygái.

Adroddwyd am yr achos yn y Genedl Gymreig sy’n nodi fod ‘cryn ddiddordeb’ yn yr achos a bod y llys yn llawn. Yn yr ymrafael adroddwyd mai drwy ddamwain y niweidiwyd Anne Griffiths wrth i Hughes geisio arbed ei wyneb rhag y cerrig a anelwyd ato, ac i’r wraig ei alw’n ‘ysglyfath diawl’ a bygwth gwneud yr ochr arall i’w wyneb yn ’archolledig fel y llall’ gan gyfeirio at y niweidiau a dderbyniodd pan hysiwyd ef a’i dad a’i frawd o’r chwarel. Cafwyd Hughes yn euog a’i ddirwyo i ddeg swllt a chostau.

Yn ystod y streic yr oedd yn achlysur dyddiol yn y chwarel i’r rhai a fynnai weithio adrodd wrth ddau stiward penodedig os oeddynt wedi dioddef gwrthwynebiad geiriol neu gorfforol yn eu herbyn y tu allan i oriau gwaith. Cofnodwyd y dystiolaeth yn ofalus gan awdurdodau’r chwarel a’i chyflwyno i sylw’r heddlu. Yn y dogfennau trist hyn mae nifer yn cofnodi ymosodiadau ar deulu ac eiddo Richard Hughes.

 Llythyr Rhif 17 Penrhyn Quarry, December 17 1901

Bethesda – Richard Hughes, Quarry View, Carneddi reported that his wife and daughter were molested by a large crowd by the Market Hall after they had ben shopping in the High Street. His daughter was kicked in the leg and stones were thrown. They were escorted home by constables. Identified – the son of Thomas Enoch Williams Cae Evan Gymro was a prominent assailant.

 Llythyr Rhif 22  Penrhyn Quarry January 14 1902

 Carneddi – Richard Hughes Quarry View reported that a man was repairing windows at his house were smashed on New Year’s Eve. When the man left for dinner a crowd of boys from Carneddi British School threw stones smashing one of his windows and frame. Identified was the son of Edward Jones (Ned Bach Pandy); the son of Daniel Williams (Dan bach bach); the son of Mary Thomas, Penceunant. He complained that life was unbearable for him and his wife and begged for police protection which he suggests will be removed by Sergeant Owen.

Wrth edrych yn ôl heddiw ac adolygu dyddiau blin y Streic Fawr gellir cydymdeimlo â sefyllfa ddiflas y ‘contractor mawr’ a’i deulu ac ni ellir cyfiawnhau bryntni’r dystiolaeth, ond mae’n dangos hefyd fod gwirionedd yn yr hen ddihareb a ddywed ‘cwyd y blewyn, a chwyd y blewyn dithau’.

Gwybodaeth ychwanegol gan Griff C. Morris, Bigil, Rhos y Nant, Bethesda.

Ffynonellau

Jones, R. Merfyn. 1981.  The North Wales Quarrymen 1874- 1922. Caerdydd.

Lindsay, Jean. 1987. The Great Strike: A History of the Penrhyn Quarry Dispute of 1900-1903. Newton Abbot.

Archifdy Prifysgol Bangor – Daily Reports Chwarel y Penrhyn Hydref 1901-Medi 1902.