‘Rwsiaid’ Dyffryn Ogwen

IMG_20200131_0001 (2)
Llun sydd ym meddiant Valerie Jones o griw o goedwigwyr, sef o bosibl y Rwsiaid perthnasol i’r nodyn hwn

Yr oedd yn achlysur go arbennig pan ddaeth y Rwsiaid i Dregarth yn ystod cyfnod y Rhyfel Byd cyntaf. Yn ôl y sôn cartrefwyd y dieithriaid mewn cytiau pren a adeiladwyd dros dro yn Sling ar safle lle saif y tai cyngor heddiw. Criw o fechgyn talog oeddynt, oddeutu un ar hugain mewn nifer. Eu gwaith oedd torri coed ar Foelyci yng Nghoedwig y Foel, Parc Dafydd Owen a Pharc y Bwlch. Mae lle i gredu mai’r fintai hon sydd yn y llun a atgynhyrchir yn y nodyn hwn er na ellir, yn anffodus, gadarnhau i sicrwydd y lleoliad na’r cysylltiad.

Wedi eu torri danfonid y coed i lawr llethr y mynydd i gwt llifio gerllaw y Pandy ar allt Craig y Pandy. Adroddir y byddai rhisgl a mân frigau’r coed yn cael eu naddu’n fwriadol i hwyluso taith y bonion i lawr llithrfa (chute) arbennig a adeiladwyd ar lethr serth y mynydd cyn eu trosglwyddo i reilffordd gul a redai, eto ar y goriwaered, o Gerrig y Fedwen i gaeau Ty’n y Caeau a Moelyci ac ymlaen hyd nes cyrraedd at y felin ar wastadedd Craig Pandy. Sled bren fyddai’n cario’r coed a fyddai wedi’u llifio yn ddarnau tua dwylath o hyd a fyddai’n cael eu rhwymo i’r cerbyd gyda tsiaeni. Adroddir y byddai un o’r criw yn reidio i lawr y llethr ar y wagen ac yn brecio ei chyflymder gyda braich bren, ac yn yr hwrlibwrli byddai llawer o ddamweiniau yn digwydd gan daflu’r sled oddi ar y cledrau. Byddai fforman yn goruchwylio’r gwaith ac mae’n gwestiwn ai Rwsiaid fyddai ef. Yn y felin lifio defnyddid dŵr o Afon Ty’n Lôn, sy’n codi o gyfeiriad Chwarel Goch cyn llifo i lyn y Pandy gerllaw Ceinfro, a’r dŵr hwn a ddefnyddid i droi’r olwyn ddŵr a oedd yn gweithio peiriannau’r felin lifio. Ceffylau tyddynwyr yr ardal a ddefnyddid i dynnu’r sledi gweigion yn ôl i fyny’r llethr a’u troliau hwy a ddefnyddid hefyd i gario’r coed a’r ystyllod o’r felin i stesion Tregarth, ac oddi yno i’w dosbarthu at ddefnydd y pyllau glo neu’r fyddin yn ôl y gofyn.

A dyna gadarnhau, cyhyd ag y bo modd, fanylion am orchwylion y fintai hon o dramorwyr. Mae’n amlwg, o hanesion y cyfnod, eu bod yn griw cymeradwy iawn yn lleol – roedd nifer wedi dysgu Cymraeg ac ar nos Sadwrn byddai rhialtwch yn dilyn eu hymweliadau â thafarndai Bethesda. Yr oedd storïau’n lleol am ryw anghydfod personol ymhlith y criw a setlwyd ganddynt mewn llys mewnol ond a arweiniodd at ddiarddel un o’r bechgyn a ddiflannodd yn ddisymwth o’r ardal, ond sibrydion oedd y rhain heb gadarnhad na thystiolaeth. Ond pwy tybed oedd y bechgyn hyn, y Rwsiaid, fel y gelwid hwy gan bobl Tregarth?

Mae’n ymddangos bellach nad Rwsiaid wrth eu cenedl mohonynt oll, ond yn hytrach gymysgedd o fechgyn o genhedloedd a oedd yn ffinio arfordir Môr y Baltig, ac er i’r mwyafrif ddiflannu ar derfyn y rhyfel yn ôl i’w hardaloedd gwreiddiol efallai, arhosodd rhai yn y gymuned leol gan briodi â merched yr ardal. A dyna oedd stori Carl Andersson a fagodd deulu yn Ffordd Tanrhiw, a dyna hefyd oedd hanes Kusta Strandberg, saer coed wrth ei grefft, a ymgartrefodd yn Weun, Pentir ar ôl priodi merch o Lerpwl. Ond mae manylder am fywyd Theodore Torn yn fwy perthnasol fyth. Bachgen o Estonia oedd ef wrth ei genedl, yn enedigol o Arensburg, sef Kuressaare heddiw, prif dref ynys fechan Saaremaa. Priododd Theodore â merch leol ym mis Gorffennaf 1918 ac ar derfyn y rhyfel symudodd ef a’i briod o Dregarth i ddilyn ei waith yn Nolgarrog. Ganed iddynt un plentyn, sef Maria, a hi ymhen amser ddaeth yn fam i Valerie Jones, Dob, Tregarth. Bu farw Theodore yn ddisymwth yn 1925 yn ŵr ieuanc 44 oed ac fe’i claddwyd  ym mynwent y Gelli, ac yno hefyd y mae bedd Carl Andersson.  Cadwodd Valerie gysylltiad agos â theulu ei thaid yn Estonia gan ymweld â hwy nifer o weithiau ar ynys Saaremaa. Eiddo Valerie yw’r llun uchod o’r bechgyn yn y coed sydd yn rhoddi rhyw elfen o gadarnhad mai mintai’r ‘Rwsiaid’ sydd i’w gweld yn y llun. Bachgen arall y mae cof lleol amdano oedd ? Gustersson oedd â chysylltiad agos â theulu’r Pandy yn Nhregarth. Bu’n aros yno am gyfnod byr tra oedd yn gweithio yn y felin lifio, ond torrodd y gŵr hwn ei gysylltiad yn ddisymwth â’r Pandy ond nid cyn gadael gwn revolver yng ngofal Idwal Williams, tad Thelma Morris, a hi a adroddodd am yr amgylchiad hwn.

Mae sut y daeth y fintai hon i Dregarth yn y lle cyntaf, a phryd yn union y cyrhaeddasant yn ystod cyfnod y rhyfel yn gwestiynau na ellir mo’u hateb heb wneud llawer mwy o ymchwil. Ond mae rhai ffeithiau sy’n debygol o fod yn berthnasol wrth geisio dyfalu ymhellach. Yr oedd sefyllfa boliticaidd y Baltig yn ystod y rhyfel byd cyntaf yn ferw gwyllt o ansefydlogrwydd a gorthrwm. Ers y Canol Oesoedd yr oedd Estonia wedi dioddef gormes gan luoedd Denmark, yr Almaen, Rwsia, Sweden a gwlad Pwyl yn eu tro, ond ar gychwyn y rhyfel yr oedd y wlad yn dioddef gwrthdaro rhwng grym ac uchelgais imperialaidd Rwsia ar yr un llaw a’r Almaen ar y llaw arall. Talaith yn rhan o ymerodraeth Rwsia dan y Tsar oedd Estonia ar gychwyn y rhyfel ond wrth i rym Rwsia bylu yn y rhanbarth lluoedd yr Almaen oedd i sefydlu eu hawdurdod dros holl diriogaeth a chefnfor y Baltig. Ym mis Medi 1917 goresgynnodd byddin yr Almaen ynys Saaremaa ac ar derfyn y rhyfel yr oedd yr holl wlad yn eu meddiant gyda’r bwriad hirdymor o gaethiwo Estonia yn dalaith daeog i’r Almaen. Nid hynny a ddigwyddodd oherwydd erbyn 1920 llwyddodd Estonia drwy ryfel i sefydlu ei hun yn wlad annibynnol. Ond beth yw perthnasedd hyn i’r fintai yn Nhregarth? Mae’n eithaf tebygol y byddai awdurdodau milwrol Prydain yn hynod ddrwgdybus o griw o ffoaduriaid wnaeth gyrraedd y wlad yn ystod berw’r rhyfel o daleithiau ansefydlog a oedd ym meddiant naill ai Rwsia neu’r Almaen. Mae’n bur amlwg y byddai ffoaduriaid o’r fath yn gofyn am loches, ac yn ystod y rhyfel caethiwyd 32,000 o unigolion y cyfeirid atynt fel ‘enemy aliens’ ym Mhrydain ac i’r categori hwn y perthynai ‘Rwsiaid’ Tregarth bur debyg. Derbyniwyd y fintai hon ar amod o gael eu rhan gaethiwo a’u gosod ar waith er budd ymdrech filwrol y wlad yn hytrach na’u danfon i garchar dan glo. Dim ond ymchwil pellach all gadarnhau’r ddamcaniaeth hon a sefydlu pa awdurdod a oedd yn gyfrifol am gynnal y gwersyll yn Sling, talu’r criw os oedd tal yn ddyledus, a darganfod pwy oedd y swyddog a oedd yn arolygu’r gwaith ar fynydd Moelyci.

IMG_0147
Model o’r sgwner tri mast gyda baner Estonia sydd ym meddiant Valerie Jones

Ond mae un cwestiwn arall i’w ystyried sef sut y gallasai’r fintai hon fod wedi cyrraedd Prydain a Thregarth yn benodol? Rhaid damcaniaethu ymhellach. Mae’n wybyddus fod masnach lewyrchus iawn wedi bodoli ers cenedlaethau rhwng Prydain a gwledydd y Baltig yn mewnforio coed, a Phrydain, er enghraifft, oedd prif fewnforiwr coed o Latvia, y wlad nesaf i’r de i Estonia. Mae’n bosibl mai criw o longwyr oedd y fintai hon a laniodd mewn porthladd rywle ym Mhrydain, ac i’r llong naill ai gael ei chaethiwo gan yr awdurdodau neu i’r criw o’u ofyn am loches. Ategir y ddamcaniaeth gan un llun a model o long hwyliau a oedd ym meddiant dau o’r unigolion uchod yn Nhregarth. Model bychan o long hwylio tri mast – sgwner bur debyg – a oedd ym meddiant Theodore Torn, a baner Estonia sydd yn cyhwfan ar ei starn, ond, ysywaeth, nid oes enw i’r llong a heb yr enw mae’n annhebygol y gellid canfod i ba borthladd, a phryd yn union, y bu iddi gyrraedd Prydain.  Llong dri mast sydd hefyd yn y ffotograff du a gwyn a oedd ym meddiant teulu’r Pandy, ond mae’n anodd canfod ai baner Estonia sydd yn chwifio ar starn y llong hon. Gwell peidio â damcaniaethu ymhellach ond mae hanes y criw bywiog o ffoaduriaid a groesawyd i’r Dyffryn – y Rwsiaid chwedl y gred leol – yn haeddu mwy o sylw gan haneswyr y dyfodol yn Nyffryn Ogwen.

20190916_205403
Ffotograff o’r sgwner dri mast sydd ym meddiant Thelma Morris ond a berthynai yn wreiddiol i Gustersson.

Diolch – Mae’r nodyn hwn yn ddyledus i garedigrwydd Islwyn a Valerie Jones, Dob, Tregarth; i Thelma Morris, Llandegfan ac i Cynrig a Carys Hughes, Rallt Uchaf, Pentir, a ddatgelodd wybodaeth amhrisiadwy am hynt y Rwsiaid yn Nhregarth.

Ffynonellau

Atgofion Hanner Canrif, Huw Davies , 1964, Caernarfon, tud. 20-21.

Y Felin Gerrig

3
Y Felin Gerrig yn y Felin Fawr yng Nghoed y Parc. Mae’r adeilad gwreiddiol ar y safle wedi ei adeiladu mewn carreg gydag ychwanegiad diweddarach mewn llechi ar ei flaen

Meddai Fenton am ei ymweliad â’r Penrhyn ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg ‘everything here savours of slate, door and window casings, cisterns …(and) mangers’. Yn ddiarwybod iddo, cyfeirio yr oedd at gynhyrchion un o adrannau mwyaf arbenigol Chwarel y Penrhyn, sef y Felin Gerrig. Roedd y Felin Gerrig bryd hynny yn y broses o ddefnyddio dulliau newydd o lifio a thrin clytiau llechi mawr er mwyn eu haddasu yn llu o isgynhyrchion a dueddai i fod yn eithriadol drwm. Yn y chwarel cyfeirid at y clytiau mawr fel cerrig melin. Rhan o’r Felin Fawr yng Nghoed y Parc oedd y Felin Gerrig, ac yno yr oedd byrddau llifio a pheiriannau i blaenio’r clytiau. Yn y felin gerrig, a sefydlwyd gyntaf yn 1813, yr oedd un ar bymtheg o fframiau llifio wedi eu cysylltu ag un olwyn ddŵr a fyddai’n cynhyrchu’r ynni i’w gweithio. Cysylltid y fframiau cyntefig drwy nifer o echelydd â chyllyll a fyddai’n symud yn ôl ac ymlaen dan reolaeth yr olwyn ddŵr i lifio drwy’r darnau llechi i’r maint dewisedig. Defnyddid tywod wedi ei gymysgu â dŵr fel grud i hwyluso’r broses o lifio. Yn 1846 adeiladwyd melin gerrig newydd gyda llifiau crwn yn disodli’r hen gyllyll ynghyd â pheiriannau ar gyfer plaenio a chaboli’r clytiau. Yr olwyn ddŵr wreiddiol oedd yn cynhyrchu ynni ar gyfer yr holl beiriannau newydd, a gwasanaethodd hon yn ddifwlch hyd at ddyddiad cau’r gwaith yn 1965.

Y Felim GerrigYr oedd cynnyrch y felin yn amrywiol. Categori eithriadol bwysig, a’r mwyaf niferus bur debyg, oedd clytiau ar gyfer eu gwneud yn gerrig beddau, cynnyrch sydd wrth eu cannoedd i’w gweld yn holl fynwentydd yr ardal ac yn rhan o dirwedd hanesyddol a chymdeithasol Dyffryn Ogwen. Y syndod yw na dderbyniodd y cynnyrch hwn sylw arbenigwyr, yn dechnegol nac yn hanesyddol, ac eithrio wrth gwrs archwiliadau arloesol gwirfoddolwyr Cymdeithas Hanes Teuluoedd Gwynedd yn cofnodi pob carreg yn y mynwentydd. Yn y nodyn hwn, ac mewn anwybodaeth, ni ellir ond rhestru’r math o gwestiynau a fyddai ynghlwm ag astudiaeth o’r pwnc. Pwy oedd y seiri meini cynnar a oedd wrth y gwaith? A ellir adnabod eu cynnyrch drwy ffurf y cerrig neu geinder yr arysgrifau a dorrwyd arnynt â llaw? A ellir pennu dyddiad pryd y mae technegau torri, trin a chaboli’r cerrig yn newid, o gofio fod melin gerrig newydd wedi ei sefydlu yn y Felin Fawr yn 1846? Beth yw’r gwahaniaethau rhwng cerrig cynnar y beddau bwrdd a cherrig talsyth o gyfnod diweddarach, a beth a ddysgir o hyn oll am ddatblygiad chwareli cynnar yr ardal? Pryd y daeth cwmnïau masnachol oddi allan i’r dyffryn i reoli’r farchnad gan hepgor cyfraniad y seiri meini lleol? A dyma gwestiynau o werth cymdeithasol pwysig: pwy oedd y bobl, a beth fyddai eu galwedigaethau, a fynnai gael eu cofio â chofadeiliau o gerrig amrywiol yn hytrach nag o lechfaen? Mae un hanner y dasg eisoes wedi ei chwblhau gan wirfoddolwyr y Gymdeithas, gan fod pob carreg fedd wedi ei chofrestru a’i lleoliad yn wybyddus, a dyddiad pob coffâd wedi ei gofnodi fel nad oes rhaid poeni am osod fframwaith cronolegol i brosiect ymchwil o’r fath. Dyma osod her i’r sawl a ddarlleno felly i afael mewn prosiect o’r fath!

Fel yr awgrymodd Fenton yr oedd llechi ar gyfer adeiladu hefyd yn eithriadol bwysig yn chwarel y Penrhyn. Gellir eu gosod mewn nifer o gategorïau. Cymerer, er enghraifft, y clytiau anferth a’r cwrbyn cul hyd ochr y ffordd a ddefnyddiwyd i balmantu rhan o Ffordd Carneddi, nodwedd a ailadroddir ar raddfa lai yn Rhes Gordon ym mhen arall y pentref. Cerrig melin bras oedd y rhain o’u cymharu â chynnyrch pensaernïol ar gyfer gofynion y farchnad adeiladu. Roedd y rhain yn drawstiau, grisiau, rhiniogau a siliau cyffredin, ac yn fwy uchelgeisiol unedau addurniadol, megis pentanau ac aelwydydd ar gyfer yr ystafelloedd mewnol a phorticos er gwarchod y drws allan. Torrwyd meintiau’r darnau i fesur union a’u cysylltu’n gywir, megis dan law saer coed, er bod rhai o’r cymalau yn mesur hyd at dair medr mewn hyd ac yn pwyso nifer o dunelli. Gellir mesur cywirdeb y gwaith ym Mhen Isa’r Nant, y llaethdy enwog a adeiladwyd yn arbennig ar gyfer gwraig Richard Pennant oddeutu 1800 gan Benjamin Wyatt prif asiant stad y Penrhyn. Dodrefnwyd y tŷ yn ofalus gyda llechi er mwyn creu’r awyrgylch oeraf a’r glanaf ar gyfer gorchwylion yr adeilad, ac fe’i disgrifiwyd gan Fenton fel ‘having its floor, its benches and its linings all of beautiful slate of the Penrhyn quarry, finely polished and nicely jointed’.

Yr un arbenigedd oedd yn gyfrifol am lunio aelwydydd a phentanau llechi yn nhai’r ardal. Rhaid cydnabod er hynny fod ffin annelwig rhwng y gwaith o gynhyrchu’r defnydd crai yn y felin gerrig, a medrusrwydd y seiri meini mewn gweithdai unigol yn cwblhau’r unedau gorffenedig ar gyfer y cwsmer. Cynlluniwyd yr aelwydydd cyntaf yn y cyfnod rhwng 1823 a 1843 pan ddatblygodd ysgol o addurnwyr medrus lleol y ddawn o gyfoethogi’r aelwydydd â cherfiadau o ddelweddau amrywiol gan gynnwys cylchoedd consentrig, ffurfiau byd natur, adeiladau a phontydd ac yn y blaen. Ceir rhai cyfuniadau darluniadol hefyd sy’n portreadu amgylchiad neu olygfa bersonol o ddewis y sawl a’i comisiynodd. Datblygodd y grefft ar fympwy a chais unigolion i addurno eu haelwydydd, ac yn aml aelodau o’r teulu ― chwarelwyr cyffredin wrth eu gwaith ac nid contractwyr proffesiynol er elw masnachol ― a fyddai’n cyflawni’r addurniadau. Byrhoedlog oedd y ffasiwn o addurno’r pentanau cyn i fasgynhyrchu ddisodli crefft yr unigolyn a datblygu unedau unffurf, diaddurn ac eithrio rhai cylchoedd consentrig, ar gyfer marchnad adeiladu strydoedd tai cyfnod diweddarach yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Serch hynny, adroddir y stori am ddicter gwraig oedrannus o Dregarth pan glywodd fod ei merch yng nghyfraith yn mynnu dewis aelwyd o lechi yn hytrach nag un o ddeunyddiau mwy modern, gan frathu’n siort mai i gymdeithas gyffredin y perthynai’r unedau llechi. Tybed ai hwn oedd y gwir reswm a arweiniodd at dranc yr aelwyd lechi fel nodwedd amlwg o gymdeithas chwarelyddol Dyffryn Ogwen, ei bod yn rhy ‘down marcet’ i blesio mewn cymdeithas falch a oedd yn dringo ar i fyny. Rhyfedd felly mai llechen oedd y dewis poblogaidd fel carreg fedd, ond nid yw tragwyddoldeb yn mesur statws cymdeithasol yr ymadawedig.

Cyfyd un cwestiwn diddorol ynghylch dyddiad sefydlu’r felin gerrig gyntaf yn y Felin Fawr. Medd Hugh Derfel mai 1813 oedd y dyddiad agoriadol, ond dengys llechi llaethdy Penisa’r Nant a datblygiadau cyfamserol eraill, megis adeiladu porticoâu llechi’r ardal, fod darpariaethau trin a chaboli llechi lawn mor sgilgar wedi eu sefydlu rai blynyddoedd ynghynt na’r dyddiad a nodwyd gan Hugh Derfel.

Diolch i’r canlynol am gyfrannu eu gwybodaeth at yr erthygl hon: Helen Hughes,  Hendyrpeg, Tregarth;   Gareth Oliver, Tŷ’n Clawdd, Tregarth: Ieuan Wyn, Carneddi; Gareth Llwyd

Ffynonellau

Hugh Derfel Hughes. 1866. Hynafiaethau Llandegai a Llanllechid. Bethesda

Theo Roberts. 1999. Y Felin Fawr (Chwarel y Penrhyn); ei hanes a’i rhamant. Dinbych.

Cochwillan

IMG_2532
Cochwillan

O’r tri phlasty canoloesol yn Nyffryn Ogwen – Coetmor, Penrhyn a Cochwillan – yr olaf yn unig sy’n sefyll heddiw. Y mae gan Gochwillan gysylltiadau agos iawn â John Williams (1582-1650), Archesgob Caerefrog, ac arglwydd geidwad y sêl fawr i’r brenin Siarl 1af. Ef a brynodd stad Cochwillan yn ôl wedi i’w gefnder ei gwerthu i Iarll Penfro yn 1620. Ond er iddo ei phrynu ni wnaeth ddim i’w gwella na’i gwasanaethu, ac ni fu’n byw yn y plasty ychwaith. Yn ystod cyfnod ei ‘alltudiaeth’ i Wynedd ym mhedwardegau’r ganrif ei brif gartref oedd Castell Conwy, castell a adnewyddodd â’i arian ei hun wrth geisio gwrthsefyll ymosodiadau lluoedd y Senedd yn erbyn ei noddfa frenhinol. Drwy gysylltiad teuluol llyncwyd stad Cochwillan gan y Penrhyn a throdd y sylw at harddu’r plasty yno yn hytrach na Cochwillan, gyda’r canlyniad, ac yn groes i fwyafrif tai bonedd Gwynedd, ni fu cyfnewid nac adnewyddu ar adeiladwaith gwreiddiol y plasty. Defnyddiwyd y tŷ fel annedd cyffredin hyd at oddeutu 1870 ac yna llithrodd i ddefnydd ysgubor wair tan gyfnod adfer yr adeilad yn 1969 i fod yn un o’r enghreifftiau gorau a’r mwyaf clasurol o dŷ-neuadd o’r canol oesoedd yng Nghymru.

Cochwillan 1
Cynllun Cochwillan

Mae’r neuadd yn gyflawn ei hadeiladwaith ac wedi ei chodi ar gynllun hirsgwar, yn agored i’r to hyd at naw metr o uchder, ac wedi ei rhannu yn dri bae gan nenffyrch trawst gordd. Ceid mynediad i’r neuadd drwy ddau ddrws gyferbyn â’i gilydd yn y dull sy’n nodweddu neuaddau o’r math hyn. Heddiw porth y gogledd a ddefnyddir fel mynedfa, ond yn ystod cyfnod ei gogoniant yn y Canol Oesoedd roedd mynedfa’r de lawn gyn bwysiced, os nad yn bwysicach, gyda’r porthordy, sydd bellach wedi ei ddinistrio, yn ei warchod ar draws cwrt agored. Felly, byddai’r ymwelwyr yn defnyddio’r drws cefn ar gyfer mynychu’r adeilad. Pomp a rhwysg oedd un rheswm am hyn oherwydd wrth ddynesu at y neuadd gallasai’r ymwelydd ryfeddu at ysblander yr adeilad, y to o lechi unffurf, y corn ar simdde uchel, a’r ffenestri trawiadol, oll yn adlewyrchu pwysigrwydd y perchennog a’i safle aruchel yn ei gymdeithas. Rheswm ymarferol oedd yn ail, wrth gwrs, gan mai yno yn y cefn yr oedd y porthordy a’r gwastrodion i dderbyn ceffylau a’r gweision i arwain y gwahoddedigion o’r cwrt allanol i ysblander y neuadd. Y neuadd oedd, ac yw, canolbwynt yr adeilad, ond yn y ddau ben ceid ystafelloedd i letya’r teulu. Ar ochr y gorllewin roedd stafelloedd bwyta gyda solar uwchlaw, ac ar ochr y dwyrain roedd ystafelloedd ymlacio a solar, bid sicr, er mai adluniad o’r gwreiddiol a geir yma oherwydd difrodwyd y pen hwn o’r adeilad. Rhennir yr ystafelloedd byw oddi wrth y neuadd gan barwydydd derw cadarn. Mae sgrin dderw’r gorllewin yn wreiddiol, ond mae sgrin y dwyrain wedi’i hadnewyddu’n rhannol â distiau newydd. Gwarchodai’r sgrin lwyfan isel i gynnal bord loddesta’r perchennog, prif arwydd o’i groeso, ei haelioni a’i ymffrost. Ar fur y gogledd lleolwyd aelwyd eang a gynhelir gan ddistyn pren anferth, aelwyd sy’n ymestyn yn gorn oddi allan i’r mur ac sy’n rhan o’r cynllun gwreiddiol. Mewn neuaddau mwy cyntefig lleolwyd aelwyd agored ar ganol y llawr ond gyda chynlluniau diweddarach i foderneiddio a rhannu’r neuadd yn gyfres o ystafelloedd ar ddau lawr ychwanegwyd corn canolog i’r aelwyd fel yn nhŷ John Iorc yn Nhŷ’n Tŵr, enghraifft arall o dŷ canoloesol yn Nyffryn Ogwen.

cochwillan-2.jpg
Nodweddion pensaernïol Cochwillan o lyfr Hugh Derfel Hughes 1866

Adeiladwyd Cochwillan, mae’n debyg, gan Wiliam ap Gruffudd a frwydrodd ar ran Harri Tudur ym mrwydr Bosworth. Am ei gefnogaeth fe’i hurddwyd yn siryf Sir Gaernarfon am ei oes. Perthynai’r gŵr hwn i nifer o deuluoedd bonedd Llŷn, Môn a Meirion, ac roedd ganddo gysylltiadau agos â phrif uchelwyr Gwynedd. Yr oedd yn dad i ddeuddeg o blant â phedair gwraig wahanol a meddai ar y tŷ newydd ysblennydd a ddisgrifiwyd uchod. Mae’n debyg yr adeiladwyd y tŷ oddeutu 1450, ac iddo gymryd lle tŷ cynharach ar y safle mewn cyfnod pan oedd ailadeiladu neu adeiladu o’r newydd yn boblogaidd a hynny yn rhannol oherwydd difrod i eiddo yn dilyn gwrthryfel Glyndŵr. Yr oedd Cochwillan yn enwog am ei lletygarwch i feirdd y cyfnod ac yn rhan o gylchdaith y glêr a gynhwysai ymweliadau â’r Penrhyn a Choetmor yn Nyffryn Ogwen. Swyddogaeth y bardd oedd hysbysebu cyfoeth a haelioni’r noddwr a thrwy hynny sefydlu ei statws fel uchelwr o fri yn ei gymdeithas. Roedd gan yr uchelwr hefyd ei ddyletswyddau. Disgwylid iddo feistroli hyd at bedair ar hugain o gampau yn cynnwys campau corfforol megis saethyddiaeth a hela â milgi; bod yn feistr mewn gemau megis gwyddbwyll; meddu ar allu i diwnio’r delyn ac i arfer ei ddoniau diwylliannol drwy farddoni a bod yn hyddysg yn niwylliant ei wlad. Canolbwynt y bywyd cymdeithasol oedd y wledd, sef y symbol mwyaf gweladwy a hysbysebai gyfoeth a statws y noddwr. Dyma hen, hen draddodiad y gellir ei olrhain yn ôl i gyfnodau cynnar yng nghynhanes Prydain ac Ewrop. Cynhelid y gwleddoedd pwysicaf deirgwaith y flwyddyn yn dilyn cyfraith Hywel Dda sef ar y Nadolig, y Pasg a’r Sulgwyn – gyda gwyliau llai i ddilyn ar ddyddiau seintiau yn yr abatai.

Cochwillan 3
Nodweddion pensaernïol Cochwillan o lyfr Hugh Derfel Hughes 1866

Ymwelai rhai o brif feirdd y cyfnod â phlastai Gwynedd, beirdd megis  Lewis Môn, William Llŷn, Sion Brwynog, Dafydd Llwyd o Fathafarn a’r disgleiriaf ohonynt oll, Guto’r Glyn (1410-1490). Bardd yn enedigol o Lyn Ceiriog oedd Guto ac fe ganodd ym mhrif dai bonedd Cymru yn ystod ei yrfa. Treuliodd gyfnod yn Normandi yn 1436/7 ac fe frwydrodd yn rhan o fyddin Rhisiart Iarll Penfro yn Ffrainc yn 1441. Yr oedd yn ymwelydd cyson â Dyffryn Ogwen. Canodd gywydd i Robert ap Ieuan Fychan o Goetmor yn 1475 yn gofyn am ddau filgi ar ran Sieffre Cyffin ap Morris o Groesoswallt, ac yn 1470 danfonodd gywydd at Rhisiart Gyffin, deon Bangor, yn gofyn am deils (llechi) ar ran Gruffydd ap Einion o Henllan. I noddwr mor hael â Wiliam ap Gruffudd canodd gywydd moliant yn mawrygu’r croeso a gafodd yng Nghochwillan gan fynegi ei fwriad i dreulio gweddill ei oes ar yr aelwyd yno, bwriad nas gwireddwyd gan iddo farw yn abaty Glyn y Groes. Molodd wychder cartref newydd Wiliam a chyfeirio’n benodol at benwynni trawiadol ei noddwr. Dyma ran o’i gywydd moliant gyda diweddariad o’r testun.

Mae da Wiliam i’m dwylaw,
Mae’n feistr ym yn f’oes draw.

Gwely ares goleurym
A siambr deg sy’n barod ym.
Mae yno i ddyn mwyn a ddêl
Fwrdd a chwpwrdd a chapel
A gwych allor Gwchwillan
Ac aelwyd teg i gael tân;
Y mae deuwres i’m diro:
Ei goed o’r glyn gyda’r glo.
Gwledd fraisg ac ymgeledd fry,
Gwin aml a’i gywain ymy.

Wiliam â’i wallt, waywlym ŵr,
Arial mawl, yw’r ail milwr.
Tew ei blaid, llonaid pob llys,
Trwy Wynedd a’r tair ynys:

Mae cyfoeth Wiliam yn fy nwylo,
mae’n feistr i mi acw yn fy oes.
Mae i ddyn mwyn a ddaw yno
fwrdd a chwpwrdd a chapel
ac allor wych Cochwillan
ac aelwyd deg i gael tân;
mae dau fath o wres ar gyfer ymdwymo:
ei goed o’r glyn ynghyd â’r glo.
Gwledd helaeth a chynhaliaeth fry,
a llawer o win i mi a’i gludo oll ar fy nghyfer.

Wiliam â’i wallt yw’r ail filwr,
gŵr llym ei waywffon, anian moliant.
Helaeth yw ei deulu drwy Wynedd
a’r tair teyrnas, llond pob llys:

Yr oedd penwynni Wiliam yn destun edmygedd i’r beirdd ac fel hyn y disgrifiodd Dafydd Llwyd o Fathafarn ei wallt.-

Pe cneifid, ond odid oedd

Cnu pen nis cawn er punnoedd

Rhai a debygai, o barch,

Blew William yn blu alarch.

Gadewch i ni droi’r cloc ymlaen dri chan mlynedd a cherdded o Gochwillan i gyfarfod â churad athrylithgar, byr dymor, Eglwys Llanllechid, Ieuan Brydydd Hir, a’i longyfarch fel darganfyddwr, copïwr, cyfieithydd, dehonglwr a’r cyntaf i werthfawrogi barddoniaeth Beirdd yr Uchelwyr cawn ninnau ei werthfawrogi uchod. Pwy fyddai wedi meddwl bod y beirdd hyn wedi cerdded y Lôn Goed ar eu ffordd i glera rhwng Coetmor a Chochwillan. Mae hanes yn fyw yn ein hardal ni!

Ffynonellau

RCAMW. 1956 – An Inventory of the Ancient Monuments in Caernarvonshire Volume 1 East. HMSO, London

Frances Lynch. 1995. A Guide to Ancient and Historic Wales: Gwynedd. CADW. Llundain.

Eurig Salisbury, Barry J. Lewis. 2014. Guto’r Glyn: a life. Gwefan httpc://www.gutorglyn.net

  1. E. Lloyd, R.T. Jenkins, W.Ll. Davies (gol) 1953. Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940. Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion. Llundain.