Dyma erthygl gan un o’n cyfranwyr gwadd Deri Tomos, Llanllechid. Mae dolenni at ragor o wybodaeth ar ddiwedd yr erthygl.

Ymysg rhyfeddodau Dyffryn Ogwen mae ugeiniau, onid cannoedd, o bentanau a llechi mawrion eraill a gerfiwyd yn hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg er mwyn addurno nifer o anheddau’r dyffryn. Dyma Lechi Cerfiedig Dyffryn Ogwen. Mae nifer ag arnynt ddyddiadau rhwng 1823 a 1843. Wedi’r cyfnod byr hwn aeth yr arfer o’u cerfio allan o ffasiwn ac, i bob pwrpas, yn angof. Yn sicr collwyd nifer ohonynt am byth. Ond o tua 1977 dechreuodd ymchwil, a brwdfrydedd, Gwenno Caffell ac aelodau eraill Cymdeithas Archaeoleg Llandegai a Llanllechid newid yr agwedd ddi-hid hyd yma ac achub nifer o drysorau a fyddai wedi’u colli am byth heb eu gwaith. Yn 1983 cyhoeddwyd y llyfryn (dwyieithog) a oedd i dynnu sylw ehangach atynt (Llechi Cerfiedig Dyffryn Ogwen, Amgueddfa Genedlaethol Cymru). Er, yn ôl y sôn yn y Dyffryn, bu angen cryn berswâd ar yr Amgueddfa Genedlaethol i ymgymryd â’r gwaith ! Mae enwau nifer o’r unigolion a fu’n allweddol yn hyn o beth wedi’u rhestru yn y llyfryn.

Yn ddiweddar bu adferiad pellach ym mhroffil y traddodiad wrth i’r artist Sian Owen, sydd â’i gwreiddiau yng Nghaellwyngrydd, ddefnyddio ambell batrwm i ysbrydoli celf newydd gan drefnu arddangosfeydd a gweithdai pwrpasol. Bu sawl disgrifiad cyhoeddus ar glawr a sgrîn, gan gynnwys rhai gan Magnus Magnusson, Jan Morris a Dewi Prysor.
Mae i bob pentan ei hanes ei hun, ond goroesodd cryn dipyn o gefndir y toreth o fanylion annisgwyl sydd wedi’u cynnwys yng nghynllun un ohonynt. Llechi Seryddol Bryn Twrw yw’r pentan hwnnw. Yn ôl Gwenno Caffell mae’r rhain ymhlith y llechi cerfiedig mwyaf a gofnodwyd. Er nad ydynt, bellach, ym Mryn Twrw maent wedi’u gwarchod yn ofalus. Yn 1983 gwnaethpwyd copi mewn resin ohonynt, sydd bellach yng nghasgliad Storiel (Amgueddfa Bangor).

Wedi’i wneud o dri llechfaen mawr, mae i’r pentan bum pâr o baneli gwyddonol manwl ynghyd â phanel canol lle amgylchynir enwau a dyddiadau teulu Bryn Twrw (Richard a Grace Jones a’u merch Eleanor) gan ddarluniadau gwych o deulu’r Sidydd. Y panel sêr-ddewiniol hwn, yn bennaf, sydd wedi dal llygad ymwelwyr diweddar. (Gan gynnwys, yn ôl y sôn, gais gan fyfyrwyr o Fangor ar i’r Parch Aelwyn Roberts fwrw allan gythreuliaid !) Ond y mae i’r pentan liaws o fanylion eraill sy’n adlewyrchiad dadlennol o’r wybodaeth am seryddiaeth yn 1837 – gan gynnwys manylion clip (diffyg) haul 1836, ymweliad comed Halley yn 1835, y pedair planed (cor-blanedau bellach) newydd a ddarganfuwyd yn negawd cyntaf y ganrif ac, o bosib, un o’r lluniau cyntaf o’r smotyn mawr coch presennol ar wyneb y blaned Iau.
Gwyddom i’r wybodaeth gyrraedd Bryn Twrw yn 1835 o law mathemategydd o’r enw John William Thomas a aned yn Rallt Isaf, Pentir, yn 1805 yn fab i Dorothy a William Thomas, gofalwr cŵn Plas Pentir. (Defnyddiodd John William yr enwau “Arfon” ac yna “Arfonwyson” wrth lythyru a chyhoeddi.) Mae copi o un llythyr allweddol wedi’i gynnwys yn yr erthygl amdano yn Y Gwyddoniadur Cymreig. Ym meddiant disgynyddion Richard a Grace mae copïau o gylchgronau gwyddoniaeth boblogaidd y cyfnod sy’n dogfennu safon a chynnwys gwybodaeth a diddordeb gwerin ddeallus y cyfnod. Mae’n debyg mai trwy law Arfonwyson y cyrhaeddodd y rhain y dyffryn. Er mai yn Saesneg y mae’r dogfennau hyn, uchelgais John William Thomas oedd sicrhau bod eu cynnwys a’u cefndir ar gael i’r darllenydd Cymraeg. (Cymraeg, wrth gwrs, yw iaith y pentan.) Treuliodd ei fywyd byr (bu farw o’r diciâu yn 1840 tra’n gweithio yn Arsyllfa’r Brenin yn Greenwich) yn addysgu a chyhoeddi yn Gymraeg ar fathemateg a seryddiaeth.
Mae hanes bywyd Arfonwyson wedi’i gofnodi’n drwyadl gan y gwyddonydd R. Elwyn Hughes (Pentyrch) ac mewn ambell goffadwriaeth o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cyhoeddwyd ychydig am ei gyfraniad i ddysgu mathemateg trwy’r Gymraeg – pwnc amserol iawn i ni heddiw – gan Gwyn Llewelyn Chambers. (Mae erthyglau Elwyn a Gwyn i’w cael yn llawn ar wefan y Llyfrgell Genedlaethol.) Mae Peter Lord yn cofnodi y paentiwyd llun ohono ar gyfer Cymreigyddion Llundain gan William Roos, yr artist ffasiynol o Gymru, ond diflannodd pob cofnod o’r llun hwn yn fuan wedi’i farwolaeth. Erbyn heddiw diflannodd, hefyd, bob arwydd o’i fedd ym mynwent eglwys Alphege yn Greenwich.
Mae angen mwy o ymchwil i deulu a (unrhyw) disgynyddion i John William Thomas a hefyd fanylion teulu Richard a Grace Jones – a’u perthynas â cherfwyr y Pentan. Mae eu henwau hwythau – Thomas a William Jones – yn elfen fawreddog o gynllun y panel canol.
Wrth baratoi ar gyfer darlith ddiweddar ar Arfonwyson a Phentan Bryn Twrw aethpwyd ati i ddogfennu’n ffotograffig ac esbonio manylion, yn arbennig fanylion gwyddonol, y llechi. Oherwydd natur sgleiniog y pentan (wedi bron i ddwy ganrif o flac-ledio gofalus !) nid hawdd i amatur dynnu lluniau eang – felly aethpwyd ati i ddarlunio’r manylion unigol.
Casglwyd tua 200 o luniau unigol, pob un yn gofyn am eglurhad. Felly, fe’u dosbarthwyd yma yn bum rhan ar wahân y gellir eu cyrraedd drwy’r cysylltiadau gwe (hyperddolenau) isod. (Mae’r rhan fwyaf o’r lluniau wedi’i lleihau ar gyfer y wefan. Os hoffech gopi maint gwreiddiol, neu os hoffech lawr lwytho ffeil pdf o’r rhannau, rhoir cyfarwyddiadau yn y mannau priodol.)
Manylion gwyddonol Arfonwyson a Phentan Bryn Twrw:
Rhan 1: Y Sidydd
Rhan 2: Cysawd yr Haul
Rhan 3: Seryddiaeth Diffygiadau’ ar yr Haul a’r Lleuad
Rhan 4: Comed Halley a Chlip Haul 1836
Rhan 5: Ychydig Gefndir
Mae’r ffeiliau yn agor mewn tudalen newydd, er mwyn eich galluogi i ddychwelid yn hawdd i’r wefan hon.)