Chwarel Doctor Hughes

Chwarel Dr Hughes
Chwarel Dr Hughes

Mae’n siŵr fod Dr Hughes, pwy bynnag oedd o, wedi gobeithio gwneud ei ffortiwn yn cloddio am lechi yn y chwarel sy’n dwyn ei enw ar lethr Mynydd Moel yng Nghwm Caseg. Ond Dr Hughes fentrus ac anwybodus oedd o, oherwydd cloddio yr oedd mewn brig o shalgraig Ordoficaidd gwael ac nid mewn haenau llechfaen Cambriaidd megis yn Chwarel Cae Braich y Cafn. Mae mân lefelau’r chwarel bitw yn dyddio i tua 1860, cyfnod pan oedd anturwyr blysiog yn heidio i Wynedd yn y gobaith o efelychu ffortiwn teulu’r Penrhyn. Er enghraifft, cyflogodd perchnogion y Royal Bangor Slate Company, cwmni  o Lundain oedd yn ceisio datblygu Chwarel Bryn Hafod y Wern yn 1854, chwarelwr i agor lefelau arbrofol mewn tri gwahanol fan yng Nghwm Caseg, sef Llidiart y Graean, Clogwyn yr Heliwr a Phant y Daren. Ac ym mhellafoedd eithaf Cwm Caseg fe gynlluniwyd chwarel enfawr ar bared Cwm Bychan wrth droed Carnedd Llewelyn, ac fe agorwyd ffordd drwy’r dyffryn ar gyfer y fenter aflwyddiannus.

Perthyn un nodwedd arbennig i chwarel Dr Hughes a hwn yw’r barics a adeiladwyd ychydig bellter oddi wrth safle’r gloddfa. Yn yr adeilad, sydd bellach mewn cyflwr pur ddrylliedig, mae hyd at ddeuddeg o ystafelloedd, ac mewn chwarel sydd mor ddiarffordd gellir deall y rheidrwydd i baratoi cyfleuster o’r fath ar gyfer gweithlu a fyddai’n aros yn barhaol ar y safle yn ystod yr wythnos waith. Nid oedd barics yn rhan o’r ddarpariaeth ar gyfer gweithlu Chwarel y Penrhyn megis yr oedd yn Chwarel Llanberis ac mae darganfod enghraifft o adeilad o’r fath yn cyfoethogi cofnod diwydiannol Dyffryn Ogwen.

 

 

Dr Hughes tomen
Tomen chwarel Dr Hughes

 

 

Yr oedd yn rhaid wrth fuddsoddiad pur sylweddol cyn gallu mentro agor chwarel. Nodir mewn adroddiad i Gomisiynwyr y Brenin yn 1824 fod Dawkins Pennant, Arglwydd y Penrhyn, wedi gwario £2,131,15,6½ yn agor lefelau arbrofol ym Mryn Hafod y Wern rhwng Hydref 1818 ac Awst 1824  a gynhyrchodd gwerth £173. 6. 3 o lechi yn unig. Mae’n amlwg hefyd fod rhai o gyfalafwyr amlycaf Prydain y cyfnod yn rhan o’r fenter o ddatblygu chwareli yng Ngwynedd. Yn gynnar yn 1825 yn ystod cyfnod o ymelwa brwd sefydlwyd cwmni  The Welsh Slate, Copper and Lead Mining Company  gan ‘a company of gentelmen’, dan arweinyddiaeth teulu’r Rothschild a chyda’r Arglwydd Palmerston yn un o’r cyfarwyddwyr, i ymholi am chwareli i’w gweithio ym Methesda, Nantlle a Ffestiniog. Nod y cwmni oedd cael ‘take note of some promising ground, where from £20,000 to £50,000 might be laid out to profit’ ond ni chofnodwyd pa chwareli a archwiliwyd yn Nyffryn Ogwen gan y consortiwm. Serch hynny dengys ymholiadau o’r fath gymaint yr oedd hapfasnachwyr am fentro’n ariannol i geisio efelychu llwyddiant teulu’r Penrhyn yn datblygu’r farchnad yn y diwydiant llechi.

Chwarel pur wahanol oedd yr un a ddatblygwyd wrth droed y Gyrn ar gyfer cynhyrchu cerrig sets. Nid yw dyddiad y datblygiad yn wybyddus na phwy oedd y datblygwyr, ond mae’n amlwg yn perthyn i gyfnod canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg pan oedd chwareli tebyg yn datblygu’n llwyddiannus ym Mhenmaenmawr. Ond nid oedd disgwyl i chwarel mewn lleoliad mor ddiarffordd lwyddo er bod tramffordd ar rheiliau wedi ei datblygu hyd at Fwlch Molchi, a ffordd oddi yno i Dan y Foel er mwyn dwyn y cerrig i gyrraedd y farchnad. Mae’r holl ddatblygiadau aflwyddiannus hyn yn destament i awch datblygwyr estron gan fwyaf i greu llwyddiant tebyg i Chwareli y Penrhyn neu Benmaenmawr, ond heb y cyfalaf na’r wybodaeth angenrheidiol o ddaeareg na lleoliad i wneud y mentrau yn llwyddiant.

Ffynonnellau

Dylan Pritchard. 1942. Historical Aspects of the Welsh Slate Industry: early days of the Slate industry. Quarry Managers’ Journal, July, 1942.

Dylan Pritchard. 1942. The Financial Structure of the Slate Industry: of North Wales 1780-1830. Quarry Managers’ Journal, December, 1942.

Tafarndai Dyffryn Ogwen

Derbyniodd pentref Bethesda feirniadaeth lem gan rai sylwebyddion am annuwioldeb meddwol ei phreswylwyr. Pan gerddodd George Borrow drwy Fethesda ar ei daith yn Eryri yn 1854 fe fyddai wedi sylwi bid sicr, fel gŵr hoff o’i beint, ar nifer anarferol y tafarndai yn y Stryd Fawr, er, yn rhyfeddol, ni roddodd sylw i hynny yn ei deithlyfr. Pe byddai wedi holi, yn hytrach na gwrando ar sylwadau brathog ei gydymaith am ymddygiad anfoesol preswylwyr y pentref, yna byddai wedi canfod y rheswm pam fod nifer y tafarndai wedi eu cyfyngu i stribedyn byr o’r stryd. Y rheswm oedd fod Stad y Penrhyn yn gwrthod agor tafarndai ar dir y stad a olygai fod y tai tafarn wedi’u cywasgu i dir cyfyng Stad Cefnfaes.

Damwain a hap yw na roddwyd y Star, ac nid Bethesda, yn enw ar y pentref oherwydd yr oedd yno dafarn o’r un enw yn ogystal â chapel ar y stryd fawr yn 1820. Bedair blynedd ar ôl ymweliad Borrow yn 1858 gallai cyfeirlyfr masnach Slaters gynnwys rhestr o 18 tafarn a gwestai ym mhlwyf Llanllechid a’r cyfan ac eithrio un wedi eu lleoli ar y Stryd Fawr. Yn ogystal mae Slaters yn nodi fod un ar ddeg o fân-werthwyr cwrw hefyd yn masnachu yn y pentref. Yn 1874 rhestrai cyfeirlyfr Worrall 23 tafarn yn y

Ffig 5 Rynys
Rynys yn Rachub

gymdogaeth: 17 yn y Stryd Fawr, dau ar dir stadau annibynnol, a phedwar ar dir stad y Penrhyn, sef y Bull a’r Red Lion yn Llanllechid, y Bardsey Island yn Rachub a gwesty’r Douglas ym Methesda. O ystyried fod 3,000 yn gweithio bryd hynny yn Chwarel y Penrhyn rhoddai hynny gyfartaledd o 130 chwarelwr i bob tafarn . Pa annuwioldeb, felly?  Ysywaeth, gall un meddwyn dynnu sylw torf.

y Bull
Bull/Coach and Horses

Mae enwau tafarndai Dyffryn Ogwen yr un mor ddiddorol â’u lleoliadau yn yr ardal. Gellir cofnodi teyrngarwch i’r frenhiniaeth yn y Crown, y King’s Arms, y King’s Head , y Queen’s Head, y George a’r Victoria. Gwell talu gwrogaeth i frwydrau a chadfridogion yr ymerodraeth yn y Waterloo, y Wellington a’r Britannia, a gwell peidio ag anghofio teulu’r Penrhyn yn y Douglas. A sut yn y byd y cafodd dyffryn mor anforwrol a di-arfordir dafarnau yn dwyn enwau fel y Ship, y Menai Bridge a’r Bardsey Island?  A rhaid rhoddi terfyn ar y fytholeg fod pob tafarn ar ochr yr afon o’r Stryd Fawr oherwydd yr oedd y Cefnfaes Vaults a’r Castle ar ochr arall y ffordd – y cyntaf ger siop William Lewis a’r ail gyferbyn â hen swyddfa cyngor dinesig Bethesda.

NeuOg (1)
Victoria

Yr oedd cysylltiad agos rhwng rhai o’r tafarnau a Chymdeithasau Cyfeillgar y pentref, y sefydliadau cleifion hollbwysig a gynlluniwyd i gynnig amrediad o wasanaethau ariannol, cynilion, yswiriant neu bensiynau, i’w haelodau cyn bod sôn am y Wladwriaeth Les. Cyfrannai’r aelodau at gronfa ganolog ar y cyd gan dderbyn y budd-dal perthnasol pan fyddai’r gofyn yn codi. Amcangyfrifwyd fod oddeutu 27,000 o’r Cymdeithasau hyn yn bodoli ym Mhrydain yn 1880, rhai yn enfawr ar raddfa ddinesig ac eraill yn fychan ar raddfa bentrefol. Ym Methesda sefydlwyd Cymdeithas yr Odyddion yn 1839. Roedd ganddi bum cant o aelodau mewn pump cyfrinfa – y Penrhyn a’r Victoria a gyfarfyddai yn y Percival Arms ar waelod Allt Caffi; y Prince Llywelyn a gyfarfyddai yn y  Sportsman; cyfrinfa Bethesda yn y Queens a chyfrinfa Llechid a gyfarfyddai yn y Red Lion yn Llanllechid.

Ar ddydd Iau Dyrchafael, diwrnod gŵyl Gristionogol i glodfori dyrchafiad Crist i’r Nefoedd ar y deugeinfed dydd wedi’r Pasg, a diwrnod o ŵyl o weithio yn y chwarel, cyfarfyddai aelodau’r cyfrinfeydd yn y Percival Arms, pawb yn gwisgo sashes arbennig eu cyfrinfa, i gerdded i wasanaeth yn eglwys Llandygái. Dychwelai pob aelod i’w gyfrinfa benodedig ei hun i drafod busnes y gyfrinfa ac i ddathlu gyda chinio a thipyn o randibŵ i ddilyn bur debyg.

Y pandy coll
Cefnfaes Vaults

Cymdeithas arall nodedig, a thrwyadl Gymreig ei hamcanion, oedd y Gwir Iforiaid a sefydlwyd ym Methesda yn 1841 gyda thri chant o aelodau. Yr oedd ganddynt ddwy gyfrinfa, sef Gomer a gyfarfyddai yn y King’s Arms, a’r Tywysog Llywelyn a gyfarfyddai yn y King’s Head. Cyrchfan eu gorymdaith hwy oedd Eglwys y Santes Ann ger llyn Meurig. Meddai’r gymdeithas hon ar egwyddorion Cristnogol ac ieithyddol cryf ac ni oddefai aelodau a fyddai’n dwyn anfri drwy amharchu’r egwyddorion hyn. Tebygir y Gwir Iforiaid, a sefydlwyd yn gyntaf yn Wrecsam cyn symud i Gaerfyrddin, yn fath o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg gynnar gan fod ‘cadw y Gymraeg rhag syrthio i lwch angof’ yn un o’i hegwyddorion pwysicaf. Y Rechabiaid oedd trydydd clwb y cleifion ym Methesda. Er syndod nid tafarn oedd man cyfarfod y gymdeithas hon eithr mewn pabell y cyfarfyddai’r aelodau gan olrhain eu tarddiad yn llythrennol i adnod yn llyfr y proffwyd Jeremeia. Cesglid cyfraniadau at y gymdeithas hon ar nos Lun yn dilyn Sadwrn setlo yn y chwarel yn Tan Capel, sef ystafell yr ysgol islaw capel Bethesda.

gwestyr-douglas.jpg
Gwesty’r Douglas Arms

Tafarndai yn gwasanaethu ardal a phoblogaeth ddiwydiannol oedd rhai Dyffryn Ogwen fel y mae eu lleoliad a’u henwau yn tystio iddo i raddau. Serch hynny mae’n ofynnol gwahaniaethu rhwng tafarndai a gwestai. Fel gwestai yr ystyrid y Victoria a’r Douglas yn y pentref ac yr oedd gan y ddau sefydliad eu gwasanaeth coitis annibynnol i gysylltu â Bangor.

Wrth gwrs gwesty cyntaf plwyf oedd y Royal (Plas y Brenin heddiw) yng Nghapel Curig sy’n dyddio i gyfnod degawd olaf y ddeunawfed ganrif. Hwn oedd datblygiad cyffrous a moethus Richard Pennant ar derfyn Ffordd y Lord a adeiladwyd ganddo drwy Nant Ffrancon yn 1790 gyda’r bwriad arloesol o’i sefydlu fel gwesty ar gyfer denu twristiaid i Eryri. Yr oedd i’r sefydliad ei lwyddiannau, fel y tystia cyfeiriadau nifer fawr o deithwyr ac ymwelwyr cynnar i Eryri gan gynnwys George Borrow. Ond er cymaint ei bwysigrwydd newidiwyd llwybr y ffordd Dyrpeg a llwybr diweddarach ffordd bost Telford i osgoi ei leoliad diarffordd ar lan Llynau Mymbyr. Statws y Royal a’r Douglas fel gwestai a arbedodd eu cau yn ystod cyfnod teyrnasiad Edwrad Gordon, yr Hen Lord, yn ystod saithdegau’r ganrif pan benderfynodd na ddylid cael tafarnau ar dir ei stad. Penderfyniad a gadarnhaodd barhad llewyrchus tafarndai pentref Bethesda.

Royal Capel Curig 1840
Royal, Capel Curig yn llun Snowdon from Capel Curig gan Louis Haghe, trwy ganiatâd Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Cysylltiad cyntaf Dyffryn Ogwen â chyfundrefn ffyrdd tyrpeg y dwyrain arweiniodd at sefydlu tafarn swyddogol gyntaf yr ardal yn 1801 a hynny cyn datblygu pentrefi diwydiannol yr ardal o 1820 ymlaen. Tafarn Tŷ’n Clwt, ger Hen Dyrpeg, oedd y dafarn hon ac ar gyfer gwasanaethu’r fforddolion y’i sefydlwyd ac nid ar gyfer gofynion y gymdeithas leol. Nid oes gofnod fod tafarndai yn rhan o wasanaethau Dyffryn Ogwen cyn i drafnidiaeth a diwydiant dra-arglwyddiaethu ar ddatblygiad yr ardal er bod y porthmyn wedi cyfrannu cyn hynny at wead y gymdeithas wledig. Ond yr oedd bragu cwrw yn rhan annatod o ffabrig y gymdeithas leol fel y tystia adroddiadau am ormodedd dathliadau ar ddyddiau gwŷl a chwaraeon ym Mhenygroes Tregarth ac ar ddol fawr Tŷ’n Clwt. Yr arfer oedd bragu gartref ar gyfer gofynion y gymdeithas fel yn Nhŷ’r Ffeltiwr, y murddun sy’n sefyll ar ochr y ffordd i Fryn Hafod y Wern yn Llanllechid. Yno pan fyddai’r brag yn barod gosodid torch ar y drws i arwyddo fod y cyflenwad yn barod i’w ddosbarthu a’i yfed.

Tynyclwt Isa'
Y dafarn ger Tŷ’n Clwt

A phwy fyddai’n cael y sioc fwyaf heddiw o gerdded stryd fawr pentref Bethesda, yr annuwiol yn disychedu mewn pedair tafarn, ynteu’r duwiol yn sychedu am yr ysbrydol mewn un capel? Rhyfedd o fyd!

Gwybodaeth ychwanegol gan John  Elwyn Hughes a Ieuan Wyn

Ffynhonnell

Ernest Roberts. 1979. Cerrig Mân. Dinbych.