Capel Caegwigyn

Dyma gyfraniad difyr arall gan un o’n cyfranwyr gwadd, Megan Hughes Tomos.

“Capel Caegwigyn ?”meddech chi, “Stad Caegwigyn sydd yn Nhal-y-bont nid Capel Caegwigyn”.  Ond Capel Caegwigyn oedd enw’r fan lle sefydlwyd achos cyntaf yr Annibynwyr yma yn y dyffryn a’r cyffiniau.  Mae’n wir bod ymgynnull yn y dyffryn wedi bod ymhlith yr Anghydffurfwyr mewn mannau megis Cororion, Cochwillan, Tyddyn Iolyn, Carreg y Fedwen a’r Felin Isaf, ond yng Nghaegwigyn y sefydlwyd yr eglwys gyntaf.

Ceir disgrifiadau manwl o ddechreuadau’r achos yng nghofiant Tanymarian a chyfeirir at rywfaint o erlid a fu ar Anghydffurfwyr cynnar.  Sonnir am gyfarfod mor gynnar â dechrau’r ddeunawfed ganrif yn Nhyddyn Iolyn, tŷ garddwr Penrhyn, lle’r oedd dau ddyn o Rydychen yn bresennol.  Cafodd y garddwr rybudd na fyddai ei fywoliaeth yn sicr os parhâi i agor ei ddrysau i rai a oedd yn cefnu ar yr eglwys sefydledig.

Syndod wrth ddarllen yr hanes yw pa mor bell yr oedd y gynulleidfa gynnar yn barod i deithio i gael addoli a chymuno yn ei ffordd ei hun.  Deuai rhai o Ddwygyfylchi i gyfarfodydd yn y dyffryn ond eraill o gyn belled â Rhosmeirch, Sir Fôn, a hynny cyn dyddiau codi Pont Telford yn 1826.  Yr un modd cerddai Anghydffurfwyr y dyffryn hwythau ymhell i gyfarfodydd mewn tai yn yr ardaloedd hynny.

Y mae gennyf yn fy meddiant ysgrif sy’n disgrifio hanes sefydlu gweinidog cyntaf yr eglwys yng Nghaegwigyn.  Dyma sut y disgrifir dechreuadau’r achos yn yr ardal:

“Yr oedd Dinas Bangor y pryd hynny yn gadarnle Eglwysyddol ac yn nodedig o elyniaethus i Ymneilltuaeth.  Dechreuwyd pregethu gan yr Annibynwyr ym Mangor yn ystod arosiad cyntaf y Parch. J. Griffith yng Nghaernarfon. Telid ymweliadau mynych â Chororion a Chaegwigyn, ac anturiai [y Parchedig JohnGriffith] i mewn i’r Ddinas ragfarnllyd ac erledigaethus a chafodd ei daro gan garreg mewn pelen eira yn ei arlais, nes y teimlodd oddi wrthi ar hyd ei oes.  Ar ei ôl ef ymwelid â’r ardal gan y Dr George Lewis a daeth pethau i wisgo’i gwedd ffafriol a gwnaed cais ar i William Hughes i gymeryd gofal yr achos bychan yn Caegwigyn ac i sefydlu achos ym Mangor.  Cydsyniodd â’r cais ac ymsefydlodd yno yn ystod y flwyddyn 1788 pan yn 27ain mlwydd oed”(Ysgrif Mary Evans, merch William Hughes,  yn rhoi hanes bywyd ei thad i’r Parchedig John Roberts, Llanbryn-mair.)

Cafodd y Dr George Lewis ddylanwad aruthrol ar dwf Annibyniaeth yn yr ardal hon fel mewn ardaloedd eraill megis Llŷn ac Eifionydd a Meirionnydd.  Roedd diwygiadau’r ddeunawfed ganrif wedi effeithio arno ac roedd yn ddiwinydd galluog.  Cyhoeddodd nifer o lyfrau diwinyddol ac ymarferol gan gynnwys esboniad pwysig ar y Testament Newydd a chyfrol ddiwinyddol ddylanwadol iawn o’r enw Drych Ysgrythurol.

Sonnir yng nghofiant Tanymarian hefyd am addoldai eraill yn yr ardal:

“Nid oes sicrwydd am un lle yn yr holl gylch a drwyddedwyd i addoli, ond lle a elwir yn nghofrestr Llys Esgobol Bangor yn Turnpike Aber.  Cofrestrwyd ef gan William Hughes Hydref 13 1795 ond yr oedd yn Caegwigyn eglwys gorfforedig chwe blynedd, beth bynnag cyn hynny, oherwydd yr oedd Mr Hughes wedi ei sefydlu yn weinidog arni er’s dros chwe blynedd ac mae digon o seiliau cyfreithlon i gredu ei bod wedi ei ffurfio bedair blynedd cyn urddiad Mr Hughes.  Yr hen Gaegwigyn oedd y capel ymneilltuol cyntaf yn y plwyfi yma – Llanllechid, Llandegai a hefyd Bangor”.

LLyfr William Hughes001
Capel Caegwigyn o Cofiant Tanymarian

Er mai tŷ wedi’i addasu oedd Caegwigyn dywedir bod ynddo le i tua phedwar ugain i gant o wrandawyr.  Difyr yw’r sylw canlynol yn y cofiant:

“ond er mor fychan ydoedd, yno, ac nid yn Tyddyn yr Ordor, fel y tybiai y Bangorwyr, yr urddwyd Mr Hughes”.

Roedd William Hughes yn weinidog ar gynulleidfa Bangor hefyd, ond oherwydd llid yr Eglwyswyr cymerodd dipyn o amser i ddod o hyd i adeilad a bu raid setlo ar adeilad yng Nglanadda, ymhell o ganol y ddinas, sef Tyddyn yr Ordor, Hendre Wen.  Yr un modd bu raid i William Hughes symud o’r naill lety i’r llall fwy nag unwaith gan y bu cryn dipyn o erlid arno yntau.

Ceir yn y cofiant sylw diddorol arall am yr urddo, neu’r sefydlu:

“Daeth Mrs Edwards Nanhoron yn ei cherbyd a’i gweision mewn arwydd-wisgoedd i’r sefydliad a dywedid fod gweled boneddiges o’i sefyllfa hi yn cyrchu at ymneilltuwyr tlodion wedi llenwi yr ardalwyr â syndod, a bu yn foddion i ladd llawer o’r rhagfarnau oedd yn erbyn yr achos yn ei fabandod.”

Beth a barodd i Mrs Edwards Nanhoron, neu’r ‘Etholedig Arglwyddes’, fel y geilw Harri Parri hi yn ei nofel o’r un enw, ddod â’i gosgordd i gyfarfod sefydlu William Hughes yn weinidog Caegwigyn?  Beth oedd y cysylltiad?  Onid Eglwyswyr oedd teulu Plas Nanhoron a addolai yn Eglwys Llaniestyn?  Mae’n debyg i Mrs Catherine Edwards, yn dilyn ei phrofedigaeth o golli ei gŵr y Capten Timothy Edwards ar fordaith, gael tröedigaeth a phenderfynu ymuno â’r gynulleidfa yng Nghapel Newydd.  Ond fel y dywedodd R. Tudur Jones yn Hanes Annibynwyr Cymru, wrth iddo nodi bod achos Pen-lan, Pwllheli, wedi’i sefydlu yn 1650 ac mai 1652 sydd ar y garreg yn nhalcen ffrynt Capel Helyg, Llangybi:

“Nid oes amheuaeth am gadernid Piwritaniaeth amryw o uchelwyr Llŷn ac Eifionydd.”

Ymuno yn y ffrwd hon o Anghydffurfiaeth a wnaeth Arglwyddes Nanhoron a dyna sut y daeth i gysylltiad â William Hughes a dod i ddangos ei chefnogaeth iddo ar ddiwrnod ei urddo’n weinidog yng Nghaegwigyn.

Mab Mary a Rowland o Rosgyll Bach, Eifionydd, oedd William Hughes.  Fe’i ganwyd William Hughes yn 1761 ac yn ôl y sôn roedd yn gloff o’i enedigaeth gan fod ganddo droed glwb (talipes). Oherwydd hynny, mae’n debyg, yn hytrach na gweithio ar y tir, anfonwyd ef yn brentis neu yn “egwyddor was”, fel y dywedid bryd hynny, i ddysgu gwaith dilledydd (draper) yn un o siopau Pwllheli.  Yno y daeth dan ddylanwad y Parchedig Richard Thomas, gweinidog eglwysi Annibynnol Pwllheli a Chapel Helyg a buan y daeth yn aelod o gynulleidfa frwd Capel Helyg.  Roedd dylanwad y Dr George Lewis wedi bod yn drwm iawn yn yr ardal honno hefyd.

Er iddo ddod yn weinidog i ofalu am yr achos yng Nghaegwigyn, Tal-y-bont a’r achos ym Mangor, ychydig o gynhaliaeth a gâi, fel y rhan fwyaf o weinidogion y cyfnod.  Cyfeiriodd Hugh Derfel Hughes yn Hynafiaethau Llandegai a Llanllechid mai digon bychan oedd swm y casgliad yn y cyfarfodydd ar y Sul.  Mae’n debyg mai £10 oedd cyfanswm cyflog blwyddyn William Hughes.  Llwyddodd i gael £5 gan y Trysorfwrdd Cynulleidfaol yn Llundain ym Mehefin 1792 a chwe phunt bob Mehefin wedyn hyd 1798.  Bu raid iddo, er mwyn medru cynnal ei hun, ddysgu’r grefft o rwymo llyfrau.  Daeth hynny’n bwysicach fyth wedi iddo briodi yn 1790.

Er gwaethaf ei gloffni, âi ar daith bregethu flynyddol drwy Gymru, fel llu o bregethwyr Anghydffurfwyr eraill ei gyfnod, ac ar un o’r rhain y cyfarfu â’i wraig Margaret Roberts, Ty’n-ddôl ger y Bala.  Pan oedd ar ei ffordd adref o un o’r teithiau hyn yn 1793 arhosodd yn y New Inn yn Llanrwst ac arweiniodd hynny at gryn helynt yn ei hanes.  Dyma fel yr adroddodd ei ferch yr hanes:

“Wedi deall am ddyfodiad Mr Hughes, galwodd un o’r enw Robert Owen yn y tŷ a bu daer ar Mr Hughes i gadw oedfa dan yr Hall, a chydsyniodd yntau.  Tebygwn mai ar y grisiau o dan y pendist ar ochr ddeheuol yr adeilad y safai y llefarwr.  Ymddengys fod cynulleidfa luosog a gweddaidd wedi dyfod ynghyd, ac yr oedd amryw o bobl barchus a chyfrifol y Dref ymysg y gwrandawyr.  Yn fuan wedi dechrau y gwasanaeth gwelid dau hedd ynad yn agoshau at y fan, ac a safasant o hirbell gan hylldremu yn herfeiddiol a dirmygus ar y pregethwr.  Ac yna gadawsant y dorf, ond fe anfonasant ddau gwnstabl i roddi dwylaw ar y pregethwr.  Erbyn hyn disgynnai gwlith y Nef yn drwm ar y gwrandawyr, ac yr oedd ‘eneiniad oddi wrth y Sanctaidd hwnnw’ yn ireiddio ysbrydoedd y pregethwr a’r gwrandawyr.  Dygwyd ef yn ddiattreg o flaen yr ynadon, a chyhuddwyd ef yn ôl geiriau y ŵys ‘o bregethu gau athrawiaeth’.  Gofynnodd Mr Hughes mewn llais addfwyn a gostyngedig ‘pa au athrawiaeth a draddodais?’  Ni allent ei ateb ond gan ddweyd ei fod ef a rhai cyffelyb iddo yn aflonyddu y wlad, ac yn tynnu’r bobl o’r Eglwys. ‘Mae y werin,’ eb efe, ‘yn ymdyrru i wrando arnoch chwi, ond pe byddai i’r gŵr Eglwysig goreu ag y rhoes yr Arglwydd Dduw barabl iddo erioed yn pregethu yn yr Eglwys ni cheir neb bron i wrando arno.’  Wedi y fath ffug brawf gwaradwyddus dirwywyd ef i’r swm o £10.”

Fodd bynnag, yn ffodus iddo, yn ôl un hanes talodd diaconiaid Bangor y ddirwy drosto, ond yn ôl ei ferch gŵr o Felin-y-coed a’i thalodd.  Honnai hefyd mai ei thad oedd y pregethwr Ymneilltuol olaf i gael ei garcharu am bregethu.  Rhestrir nifer o ymosodiadau tebyg yn Hanes Annibynwyr Cymru a sonia Betsi Cadwaladr yn ei hunangofiant am ymosodiad tebyg ar ei thad ar daith bregethu yn ardal Capel Curig.

Y mae gennyf yn fy meddiant lyfr â llofnod William Hughes arno a’r dyddiad 1789.

A minnau’n byw o fewn milltir neu ddwy i Dal-y-bont, byddaf yn ceisio dychymygu’n aml ymhle yn union yr oedd pan lofnododd y llyfr hwn.  Mwy na thebyg mai mewn rhyw ystafell gefn ym Mangor yr oedd, lle’r arferai encilio o’i waith yn gweinidogaethu a throi at rwymo ychydig o lyfrau.

Beth yw natur y llyfr, Llyfr William Hughes fel y’i galwaf?  Nid un llyfr ydyw ond cyfrol “amryw” sy’n cynnwys nifer o lyfrau, pamffledi ac adroddiadau enwadol wedi eu cydrwymo.  Y mae’n cyfleu cynnwrf diwinyddol a thwf Ymneilltuaeth yn niwedd y ddeunawfed ganrif.  Dyma gynnwys Llyfr William Hughes yn ôl trefn rhwymo’r llyfr. Cyfieithiadau i’r Gymraeg o weithiau Saesneg gan John Bunyan yw’r pedair eitem gyntaf, a’r rheini wedi eu hargraffu yng ngwasg John Daniel yng Nghaerfyrddin:

  1. Esponiad ar y Deg Pennod Gyntaf o Genesis  (1788)
  2. Y Ddinas Sanctaidd, neu’r Jerusalem Newydd (1789)
  3. Crist yn Iachawdwr Cyflawn: neu Eiriolaeth Crist (1789)
  4. Gwrthodedigaeth yn Brofedig, neu’r Athrawiaeth o Etholedigaeth Tragwyddol a Gwrthodedigaeth (1791)

Ond yna ceir y canlynol:

  1. Ystori neu Ddammeg yr Emprwr o Judea a’i Ferch gan Dafydd Wiliam, Treletert (a argraffwyd yn Aberystwyth yn 1809)
  2. Pregeth ar Ddihenyddiad Moses Paul, Indian, yr hwn a gafwyd yn euog o lofruddiaeth a bregethwyd yn Newhaven, America gan Sampson Occom, ‘Indian Genedigol’ (a argraffwyd gan John Daniel yng Nghaerfyrddin yn 1789)
  3. Llythyr y Gymmanfa at yr Eglwysi – tri ohonynt, sef y llythyrau gan Gymanfa’r Bedyddwyr ar gyfer 1788, 1790 a 1791 a argraffwyd gan Ioan Daniel yng Nghaerfyrddin
  1. Hanes byrr o fasnach y caethglud yn Africa neu’r slave trade gyd â chyfarchiad at bobl Prydain Fawr ar yr addasrwydd o ymattal oddiwrth siwgwr a rum yr India Orllewinol, nes y ceir ei fwynhau yn gyfreithlon
thumbnail_IMG_6251
Cyfieithiad Edward Barnes o bamffled William Fox yn erbyn caethwasiaeth. Fe’i cyhoeddwyd yn Wrecsam, tua 1793

Y rhyfeddod cyntaf i mi oedd gweld cymaint o gyfieithu oedd ar waith mewn gweisg megis Caerfyrddin a Wrecsam, ond cwbl annisgwyl oedd y pamffledi am yr ‘Indian Genedigol’ ac yn bendant y pamffled yn erbyn caethwasiaeth.  Roedd y pamffled hwn  mewn llyfr gweinidog a oedd yn lletya yn y ddinas a oedd gymaint dan ddylanwad teulu Penrhyn, a ymelwai fwy nag anad unrhyw deulu arall ar fasnachu caethweision. Mwy o syndod fyth, efallai, yw bod y llyfr hwn yn eiddo i weinidog Anghydffurfiol a oedd yn gweinidogaethu o fewn pum canllath neu lai i fynedfa’r Plas a’i rwysg.

O ymchwilio ymhellach gwelir bod y pamffled hwn yn debyg i’r pamffled a geir yn llyfr Andrew Green, Cymru mewn 100 Gwrthrych, a enillodd iddo wobr Llyfr y Flwyddyn am lyfr ffeithiol yn 2019. Y pamffled hwnnw yw’r hanner canfed gwrthrych ac fe’i cyhoeddwyd yn 1792 gan John Daniel yng Nghaerfyrddin.  Ef oedd argraffydd blaenaf y cyfnod ac erbyn diwedd y ddeunawfed ganrif tyfodd Caerfyrddin i fod yn brif ganolfan argraffu Cymru.  Pamffled Cymraeg gwreiddiol oedd hwnnw gan Morgan John Rhys a oedd yn un o’r prif ymgyrchwyr yn erbyn caethwasiaeth ar ddiwedd yr 1780au a dechrau’r 1790au.

Ond beth am y pamffled yn Llyfr William Hughes?  Pamffled ydyw a oedd yn rhan o’r un symudiad ond cyfieithiad y tro hwn.  Gwr ô’r enw William Fox (fl. 1791–1813) a’i lluniodd ac fe’i cyfieithwyd gan Edward Barnes (fl. 1760–1795), Methodist o Lanelwy.  Fe’i hargraffwyd yng ngwasg Anna Hughes yn Wrecsam ond nid oes dyddiad ar y pamffled.  Barn yr Athro E. Wyn James, arbenigwr ar y maes,  yw iddo gael ei argraffu oddeutu 1793.  Ond nid caethwasiaeth oedd unig gonsyrn yr Ymneilltuwyr radical hyn ond y modd yr ysbeilid brodorion America, yr ‘Indiaid’, a chredent mewn cenhadu yn eu plith.  Dyna sydd y tu ôl i chweched eitem Llyfr William Hughes, sef Pregeth ar Ddihenyddiad Moses Paul (1789)

Un peth a barodd beth dryswch imi ynglŷn â Llyfr William Hughes oedd sut y gallai pamffled dyddiedig 1793 ymddangos mewn llyfr â llofnod William Hughes a’r dyddiad ymddangos ar ei flaen bedair blynedd ynghynt.  Ond o ystyried mai rhwymwr llyfrau oedd William Hughes wrth ei grefft, nid yw hynny’n gymaint o syndod.  Felly, fe welwn fod William Hughes nid yn unig yn un a fentrai i bregethu ei argyhoeddiadau crefyddol ar y stryd yn gwbl agored ond ei fod hefyd yn bleidiol i’r ymgyrch yn erbyn y gaethfasnach a’r gamdriniaeth o frodorion America.

Ym 1797 y gadawodd William Hughes eglwysi Annibynnol y dyffryn a Bangor a throi ei olygon am Ddinas Mawddwy.  Trosglwyddodd ei lyfr i’w fab Ellis Hughes a aeth yn weinidog i’r Coed-duon, Mynydd Islwyn, a llofnododd hwnnw’r llyfr gan ysgrifennu yng nghefn y llyfr farddoniaeth o’i waith ei hun.  Yna cafodd nai iddo a oedd yn ddilledydd yn Lerpwl y llyfr a’i lofnodi cyn iddo fynd i law brawd fy hen nain, Rebecca, sef Lewis Jones y Bwlch.  Etifeddodd chwaer fy nhad y llyfr gan deulu hwnnw ac fe’i trosglwyddwyd i ’nhad ar ei hôl hithau gan mai William Hughes oedd ei enwau cyntaf.

Cyd-ddigwyddiad llwyr yw i minnau ei etifeddu a minnau’n byw o fewn milltir neu ddwy i Gaegwigyn lle bu fy ngor-or-hendaid yn weinidog cyntaf ar eglwys gyntaf yr Annibynwyr yn y dyffryn.  Cyd-ddigwyddiad arall yw mai ym Methlehem, Tal-y-bont, y pregethodd fy mrawd, y Parchedig John Lewis Jones, am y tro olaf cyn ei farwolaeth annhymig fis Gorffennaf 2020.  Y Sul hwnnw oedd 15 Mawrth 2020, y Sul cyn y clo cyntaf wedi i Covid 19 daro’r wlad.

Rwy’n ddiolchgar iawn i Einion Thomas am dynnu fy sylw at y pamffled yn gwrthwynebu caethwasiaeth pan ddangosais lyfr fy ngor-or-hendaid iddo.  Wedi hynny elwais ar wybodaeth a gefais gan Andrew Green am y pamffled hwnnw ac yna ar gyfoeth o wybodaeth gan yr Athro E. Wyn. James am Morgan John Rhys a’r ymgyrch gynnar dros hawliau’r caethweision a brodorion America.

Hugh Derfel Hughes, Hynfiaethau Llandegai a Llanllechid (1866)

‘Hanes Eglwys Bethlehem, Gerllaw Bangor, Ysgrif 1’, yn Cofiant Tanymarian dan olygiaeth W. J. Parry (1886), tt. 258 – 261

  1. Tudur Jones, Camau ar Daith Dwy Ganrif (1982)
  2. Tudur Jones, Hanes Annibynwyr Cymru (1966)

Harri Parri, Etholedig Arglwyddes (1993)

Andrew Green, Cymru mewn 100 Gwrthrych (2018), tt. 106 – 107

  1. Wyn James, ‘Morgan John Rhys a Chaethwasiaeth Americanaidd’, yn Canu Caeth: Y Cymry a’r Affro-Americaniaid, gol. Daniel G. Williams (2010), tt.2-25.

Y cwt barbar

Y cwt barbar, llun drwy garedigrwydd a chaniatâd Lynda Pritchard, Rachub

Y cwt barbar oedd Senedd pentref Rachub ac yno bob nos, oni bai am nos Sul, y trafodid holl agweddau ar fywyd y dreflan, y gymdogaeth a’r byd. Lleolwyd y cwt yn strategol ar y gongl rhwng y Stryd Fawr a Lôn Groes. Cwt yn hytrach na siop oedd y gyrchfan gyda seti o ryw hen fws, digon cyfforddus er pur ansad ar eu traed o frics, yno i groesawu pob cwsmer am shêf neu i gneifio’u mwng. Nid oedd na dŵr na thrydan yn rhan o gyfleusterau’r cwt  a rhaid oedd cyrchu’r dŵr berw o’r drws nesaf mewn hen gwpan a chrac ynddi.  Arthur Roberts oedd y barbwr hynaws; blaenor parchus yn Capel Llan, a barbwr amser hamdden oedd efe cans chwarelwr ydoedd wrth ei alwedigaeth a ddilynodd ei dad yn gymwynaswr i dwtio pennau brawdoliaeth y fro. Chwe cheiniog oedd y pris am ei gymwynas, gyda cheiniog o newid gan amlaf i blant, a’r un fyddai’r canlyniad waeth beth fyddai dyhead y ffasiwn –  siortbacnseids.

Ond symbol arbennig, ac unigryw, oedd y cwt barbar o’r llu amrywiol o gyfleusterau a oedd yn plethu bywyd pentref hunangynhaliol Rachub yn endid byw – cymuned o lai na mil o eneidiau, ond un oedd â’i thras yn ymestyn yn ôl i hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ac wrth gwrs lled un cae a hanner i ffwrdd i’r gogledd yr oedd yr hen sefydliad eglwysig a roddodd ei enw i blwyf Llanllechid a thyfu yng nghysgod hwnnw a wnaeth y pentref gan rannu rhai o’r dyletswyddau gweinyddol, crefyddol, cymdeithasol a gweithiol newydd gyda hen draddodiadau gwledig a chyfansoddiadol y llan o gyfnod llawer cynharach. Wrth gwrs, mantais fawr crynswth pentref Rachub oedd iddo gael ei sefydlu ar lain o dir serth a ‘achubwyd’ megis o dir comin y Goron gan warantu iddo annibyniaeth  o grafangau ysig stad y Penrhyn gan sefydlu ynddo ei her, ei falchder a’i urddas o’r cychwyn cyntaf. Yr oedd iddo hefyd ei adnoddau – tair chwarel lechi ar y trothwy, os cyfrifid Chwarel y Foel yn drydedd, er na allai’r un o’r tair addo cyflogaeth sicr fel y gallai prif gynheilydd economi’r pentref yn chwarel y Penrhyn. Ac felly chwarelwyr oedd mwyafrif llethol ei phreswylwyr mewn gwaith er bod nifer o dyddynnod bychan yn rhannu’r safle i’r de a ffermydd mwy safonol eu maint yn ymestyn i gyfeiriad y gogledd.

Cynllun Jonhston o Rachub yn 1855; drwy garedigrwydd a chaniatâd Archifau a Chasgliadau Arbennig, Prifysgol Bangor

Ac yr oedd y dreflan hon yn endid clos, hunangynhaliol, fwy neu lai, tan ganol yr ugeinfed ganrif gan feddu ar yr holl gyfleusterau a oedd yn angenrheidiol i gynnal a meithrin ei phreswylwyr. Ar un cyfnod yr oedd yn y pentref dair becws, o leiaf saith o siopau bwyd yn cynnig yr amrywiaeth angenrheidiol o’r cigydd i’r groser, i lysiau, i chips, a hyd yn oed i dda da, ac yn Rhes Groes yr oedd yno siop ddillad.  Yn y pentref yr oedd yno ymgymerwr yn gwerthu glo a warws i ddosbarthu diodydd pop. Gallai’r pentref gynnal dau gwmni bysiau – bysus Albert a bysus Grey Motors – ac yn Rhes Gefn sefydlwyd yr emporiwm mwyaf esoterig Dyffryn Ogwen – stiwdio dillad benthyg yr enwog John P a gyflenwodd wisgoedd i holl gwmnïau drama’r ardal a thu hwnt.  Ar y sgwâr yr oedd yno unwaith ddwy dafarn, a dwy dafarn arall yn Llanllechid, y pedair yno i ddisychedu gofynion eu cwsmeriaid a fynnai ymgodymu’n groes i barchusion cul y gymdeithas ddirwestol.

Gofalid am werthoedd ysbrydol y pentref mewn tri chapel anghydffurfiol – capel Salem y Wesleaid, capel Carmel yr Annibynwyr, a chapel Bethel y Bedyddwyr, ac ar y trothwy yn Llanllechid ceid capel  Peniel y Methodistiaid Calfinaidd, ac yno, wrth gwrs, yr oedd yr Eglwys Anglicanaidd i ddeiliaid ffyddlon y gyfundrefn Brydeinig o addoli.  Chwaraeodd y gwerthoedd ysbrydol hyn ran annatod wrth sefydlu’r pentref ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg cans yn Rachub yr agorwyd capel cyntaf y Methodistiaid yn yr ardal yn 1793 wedi i’r achos drosglwyddo o’i nythle cyntaf i  lawr y lôn yn Tai’n y Coed, ei gorffori dros gyfnod o bron i bum mlynedd ar hugain yng nghapel yr Achub, ac yna ei ddanfon gyda sêl bendith ei gymunwyr i agor y fam eglwys yng nghapel y Carneddi yn 1816.  Lawn cyn bwysiced i lewyrch  y pentref oedd awch ei phreswylwyr am ddiwylliant ac addysg.  Sefydlwyd yr ysgol wladwriaethol yn 1828, yr ysgol swyddogol gyntaf yn Nyffryn Ogwen a dilynwyd hi gan yr ysgol Frytanaidd yn 1853. Mater o farn yw pa mor llwyddiannus oedd yr addysg a drosglwyddwyd yn nosbarthiadau’r ddau sefydliad hwn o gofio tystiolaeth y disgyblion a addysgwyd dan drefn haearnaidd a Seisnig ysgolion tebyg yn yr ardal – gweler er enghraifft dystiolaeth Ernest Roberts yn Ysgol Tancapel, Bethesda neu Syr Ifor Williams yn ysgol Tregarth.  Ond yr oedd llwyddiannau ysgubol, wrth gwrs,  yn y disgyblion fel yn eu hathrawon. Elias Owen, prifathro ysgol yr eglwys o 1855 hyd 1871, oedd y gŵr craff cyntaf i gofnodi hynodrwydd arbennig archaeoleg yr ardal, tystiolaeth a gyflwynodd mewn erthyglau dysgedig mor gynnar ac 1866.  A phe chwilid am un o ddisgyblion galluocaf y gyfundrefn Frytanaidd yna byddai enw Yr Athro W. E. Williams, mab tyddyn Tyddyn Canol, athro electroneg ym Mhrifysgol Bangor ac un o arloeswyr hedfan awyrennau ym Mhrydain, yn sicr o ddod i’r brig, ond un cynrychiolydd fyddai ef o’r fintai broffesiynol enfawr a’r llu mwy o gymdeithion cyffredin a gyfoethogodd fywyd yr ardal a thu hwnt ers sefydlu’r pentref dros agos i ddwy ganrif. 

Sail ymlyniad gwleidyddol y gymdeithas oedd gwerthoedd sosialaidd oedd yn coleddu meddylfryd rhyddfrydig gan barchu egwyddorion cydraddoldeb ac annibyniaeth barn drwy ymwrthod ag awdurdod anghyfiawn. Y rhagoriaethau hyn ddaeth i’r brig yn hanes trychinebus cysylltiadau diwydiannol bregus yr ardal pan wynebodd cymdeithas y pentref gynni eithriadol yn y streiciau yn chwarel y Penrhyn ar derfyn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed. Ac yn y cywair hwn y llwyddodd cynrychiolydd yr ardal ar y Cyngor Sir, yr Henadur Thomas Morris, i gyfrannu ei farn er lles ei etholwyr mewn cyfnod diweddarach yn hanes y pentref.  

A rhaid peidio ag anghofio campau ysgubol tîm pêl-droed Llechid Celts yn chwarae yn fuddugoliaethus yng nghynghreiriau’r gamp yng ngogledd Cymru a balchder bro yn sbardun i’w llwyddiant gyda chnewyllyn y tîm yn fechgyn lleol i’w clodfori.  Ac os am ddathlu balchder y pentref yna rhaid oedd troi allan i gefnogi ei rhianedd yn y carnifal blynyddol, oll yn eu rigelia benthyg,  gan mwyaf, o emporiwm John P.  Ac fel y cwt barbar symbol o lwyddiant ac urddas pentref oedd hyn oll i gadarnhau’r ymwybyddiaeth o berthyn ac o ddathlu hunaniaeth gymunedol.

Un pentref bach yng Nghymru wnaeth gyfraniad enfawr i fywyd y genedl oedd Rachub ac mae’n dal i wneud hynny, diolch byth, fel pentref balch a chlos, ond o dan amodau pur wahanol ers ei sefydlu.  Ciliodd y wefr mewn crefydd a distawodd banllefau’r dilynwyr ar y cae pêl-droed. Cymuned fewnblyg yn gwerthfawrogi ei gwerthoedd sylfaenol oedd Rachub, ond bellach pentref yn edrych allan ydyw yn awr fel nifer o bentrefi tebyg ledled Cymru. Cymuned i gysgu ynddi a theithio allan ohoni yn ddyddiol, neu i ymddeol iddi ydyw yn bennaf bellach, y newid enfawr a ddigwyddodd i’w ffawd ers canol yr ugeinfed ganrif hyd at y presennol.

A dyma sut mae beirdd talcen slip Rachub yn rhagweld dyfodol y pentref –

Ymhen rhyw ganrif eto

Bydd llawer newid lle,

Bydd stemars yn dod i Rachub

A Gallongrydd yn dre.

Bydd efail yr hen Ifan

Yn storfa fawr a hardd

A’r hen Barc Moch yn borthladd

I longau Prydain Fawr.

Efallai fod y bardd wedi rhagweld sgil effeithiau cynhesu byd eang (!) ond prin y byddai wedi darogan y byddai’r efail yn mabwysiadu enwau mor annerbyniol hurt a’r Efail Swynol  neu yn Saesneg The Enchanted Forge. Bobol annwyl yr enw cywir ydi’r Efail, a dyna derfyn ar y mater.

Diolchiadau i Vivienne Parry, Gwynfor Ellis, Marian Jones, Fred Doyle, Dilwyn a Lynda Pritchard a holl aelodau Cymdeithas Hanes Rachub a Llanllechid.