Garneddwen

carneddau-garneddwen
Map Elias Owen o leoliad y carneddau yn y Garneddwen o Drafodion Cymdeithas Hynafiaethwyr Cymru

Mewn Arolwg o Stad y Penrhyn yn 1768 yr oedd Garneddwen yn un o nifer o dyddynnod bychan oedd ag enwau megis Pant y Ffrydlas, Abercaseg a Thyddyn Caseg a leolwyd ar y gwastatir rhwng afonydd Ffrydlas a Llafar. Bryd hynny yr oedd Garneddwen yn dyddyn pur sylweddol 28 acer ei faint iddo 14 cae oedd ag enwau megis Clwt y Fuches, Ddôl Bengam, Pwll Pryfaid, Ddôl Wen Fechan. Ond pam tybed y rhoddwyd yr enw Garnedd Wen? Mae’r ateb i’w gael yng nghyfrol amhrisiadwy Huw Derfel Hughes Hynafiaethau Llandegai a Llanllechid a gyhoeddwyd yn 1866. Mae’n cofnodi yn y llyfr y ‘carneddau…. a roddasant yr enw ‘Y Carneddi’ i ardal …. yr isaf o ba rai a elwid Y Garneddwen’. Yna, rhydd ddisgrifiad o sut y chwalwyd y garnedd hon yn 1816 i wneud y ‘ffordd fawr’, tasg a gymerodd wythnos i’w chwblhau, sy’n awgrymu pa mor fawr oedd y garnedd wreiddiol. Oddi fewn darganfuwyd cist â chaead carreg yn pwyso 30 canpwys â cherrig mân ar ei waelod. Yn y gist yr oedd ysgerbwd dyn o daldra pur fawr a’i esgyrn wedi eu staenio’n ddu, sy’n awgrymu ei fod mewn arch o goed yn wreiddiol. Ni ddywedwyd bod creiriau wedi’u darganfod gyda’r corff ond gallasai’r rhain fod wedi diflannu wrth chwalu’r bedd oherwydd eu bod naill ai’n fychan, megis gleiniau neu lafnau o efydd, neu oherwydd eu bod wedi pydru megis dilledyn neu amdo’r meirw.

llun-garneddwen
Garneddwen

Er mor sylfaenol yw’r disgrifiad o’r safle a’i chynnwys mae’n cadarnhau fod y Garneddwen yn cyfateb i garneddau claddu sy’n nodweddiadol o gyfnod cynnar yn yr Oes Efydd ac yn dyddio o rhwng 2500 a 2000 CC. Mae dyddiad chwalu’r garnedd hefyd yn cyfateb i gyfnod adeiladu ffordd bost Telford drwy y Ddôl Wen, sef un o gaeau’r Garneddwen. Mae stad tai Glanffrydlas ar y safle heddiw.

Ond nid y Garneddwen oedd yr unig garnedd gladdu o’r cyfnod a chwalwyd wrth adeiladu’r ffordd bost. Mewn map a gyhoeddwyd yn Nhrafodion Cymdeithas Hynafiaethwyr Cymru cofnododd Elias Owen, prifathro Ysgol Genedlaethol Llanllechid ac hynafiaethwr o gryn awdurdod, fod dwy garnedd wedi sefyll yn agos at safle presennol Cofeb y Milwyr ger Capel Jerusalem. Nid y rhain oedd yr unig garneddau ar lawr y dyffryn, gan fod eraill wedi eu lleoli ar lwybr Afon Ogwen, un er enghraifft ym Mhenisa’r Nant ac arall yn ‘Y Crwn’ ger Tai’n y Coed uwchlaw Pont y Pandy. Mae’n bur debygol fod llwybr yr afon yn atynfa bwysig wrth leoli safleoedd claddu yn yr Oes Efydd. Mae Elias Owen hefyd yn nodi lleoliadau nifer o garneddau sydd yng nghyrion Moel Faban, Gwaun Cwys Mai a Mynydd Llanllechid. Mae rhai, er nad y cyfan ohonynt, yn safleoedd cydnabyddedig heddiw. Er nad yw’n nodi’r safle mae Elias Owen hefyd yn tynnu sylw at enw Pen y Carneddi yn yr ardal lle lleolwyd capel y Carneddi yn 1816. Dywedir i’r capel sydd ar dalcen strategol o dir sy’n tra-arglwyddiaethu dros Ddyffryn Ogwen gael ei godi ar garnedd o gerrig ond ni chofnodwyd ai carnedd o gyfnod cynhanes ydoedd ai peidio.

Hughes, Hugh Derfel. 1866. Hynafiaethau Llandegai a Llanllechid. Bethesda.

Owen, Elias. 1866.  Arvona Antiqua – ancient dwellings, or cyttiau, near Llanllechid. Archaeologia Cambrensis  vol XII (3rd series), tt. 215-228.

Williams, J Ll. W., Kenney, Jane. 2013.  Prehistoric Sites in Llanllechid and Llandygai in northern Gwynedd: A contribution using Antiquarian and Place Name Studies. Archaeoleg yng Nghymru/ Archaeology in Wales. 52. tt. 101-112.

Advertisements

Parc y Penrhyn

prif-lodge-1wedi-newid
‘Grand Lodge’ Parc y Penrhyn yn Llandygái

Mae Parc y Penrhyn yn enghraifft o haerllugrwydd a thrachwant teulu’r Penrhyn yn chwarter cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cynlluniwyd y parc i amgáu yr horwth castell bygythiol a adeiladwyd rhwng 1821 ac 1836 gan Thomas Hooper ar gyfer George Hay Dawkins Pennant (1763 – 1840). Ei fwriad oedd ynysu ei diriogaeth rhag gwerin Dyffryn Ogwen. Mae’r parc wedi ei amgylchynu gan wal saith milltir o hyd sydd rhwng dwy a thair metr o uchder, ac ar ochr y môr mae’n gweithredu fel morglawdd. Cynlluniwyd y wal i amgáu darn mawr o dir amaethyddol o ansawdd ardderchog ar y penrhyn rhwng aber Afon Cegin yn y gorllewin ac aber Afon Ogwen yn y dwyrain. Mae Afon Ogwen hefyd yn llifo drwy ran o’r parc, ac ymestynnwyd y wal i’r dwyrain yn fwriadol er mwyn ei chynnwys oddi fewn i breifatrwydd libart y bonheddwr. Cynllunydd y wal oedd Thomas Baxter, goruchwyliwr gwaith cyffredin ar stad y Penrhyn, ond mae’n bur amlwg fod Thomas Hooper ei hun wedi goruchwylio peth o’r gwaith yn arbennig wrth gynllunio’r Grand Lodge.

port-lodge
Lodge y Porthladd oddeutu dechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Daw’r ddelwedd o archif cardiau post Dyffryn Ogwen drwy ganiatâd Alaw Jones, Parc Moch, Bethesda

Credir i’r wal gael ei hadeiladu gan seiri meini a oedd wedi gorffen adeiladu Tŵr Marcwis yn Llanfairpwll, a defnyddiwyd peth cerrig o chwareli calchfaen Penmon yn y gwaith. Eir i mewn i’r parc drwy dri phorthdy swyddogol sef porth Tal-y-bont sef y mwyaf distadl o’r tri; porth y cei sy’n dipyn mwy crand; a’r prif borth, y Grand Lodge yn Llandygái, y mwyaf rhodresgar ohonynt oll y mae ei bensaernïaeth yn efelychu cynllun tyrog neo-gothig y castell.

 

lodge-talybont
Lodge Tal-y-bont

Yn wreiddiol yr oedd hen blasty canoloesol y Penrhyn yn cynnwys tiroedd y demesne. Ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif roedd y tiroedd hyn yn fferm sylweddol, ddau gan acer ei maint o dan oruchwyliaeth Richard Hughes, sef prif asiant y stad yn 1768. Wrth drosi parseli o gaeau bychan y demesne yn barc caeedig o 1820 ymlaen ad-drefnwyd daliadaeth nifer o’r ffermydd gan gynnwys Aberogwen ac Abercegin a diddymwyd eraill megis Dologwen a Maes y Penbwl.  Felly, golygodd sefydlu’r parc greu cyfnewidiadau mawr i’r gymdogaeth yn ogystal ag i’r tirlun. Y cyfnewidiad pennaf, wrth gwrs, oedd i’r cyhoedd gael eu gwahardd rhag mynychu’r ardal, cam a olygai fod hen lwybrau cyhoeddus bellach wedi eu cau i deithwyr. Y ffordd fyrraf o Fangor i gyfeiriad y dwyrain oedd ar Lôn Domas a redai o Aber Cegin gan groesi Aber Ogwen ar ryd neu bompren i ganlyn ymlaen i Gonwy. Dengys un o gynlluniau Telford fod y ffordd wreiddiol o Landygái i’r Penrhyn Arms ym Mangor yn rhedeg i’r dwyrain o lwybr y ffordd bost y cynlluniodd ef yn 1820. Y llwybr newydd hwn a oedd i bennu rhediad wal y parc pan adeiladwyd hi ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach. Safle freintiedig y parc oedd hefyd i gyfrif fod rheilffordd yr LNWR i Gaergybi yn 1848 wedi gorfod dewis llwybr llawer anos i gyrraedd Bangor. Golygodd hyn fod angen turio dau dwnnel yn hytrach nag anelu’n gyfleus ar draws y penrhyn i ddilyn llwybr yr hen Lôn Domas gynt.

Creadigaeth yn perthyn i gyfnod dechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg yw Parc y Penrhyn. Mae ei  gynllun wedi’i seilio ar gonfensiynau cynllunio gerddi bonedd a ddatblygwyd gan benseiri addurnol megis Lancelot ‘Capability’ Brown a Humphrey Repton yn y ganrif flaenorol. Erbyn cyfnod amgáu Parc y Penrhyn yr oedd bri yr ardd addurnol wedi cilio ac roedd y pwyslais ar gynllunio gerddi trefol er mwyniant yr holl gymdeithas yn hytrach nag er bodd yr unigolyn cefnog. Mae gwerth ystyried felly beth tybed a gymhellodd George Hay Dawkins Pennant i greu ei barc preifat a chyfyngedig yn Llandygái? Mae urddas, dilyn y ffasiwn ac ymffrostio yn ei gyfoeth oll yn gymhellion a wireddwyd bid sicr, ond tybed a oedd ganddo hefyd gymhellion llai rhodresgar yn ei isymwybod?  Sais a aned yn Swydd Rhydychen oedd y bonheddwr ac fe etifeddodd olyniaeth y Penrhyn drwy fod yn fab i gefnder Richard Pennant. Yr oedd yn aelod seneddol pur uchelgeisiol a’i brif ddiddordeb oedd mewn gwleidydda. Er iddo dderbyn yr olyniaeth yn 1808 ni symudodd i’r Penrhyn tan 1816, ac wedi ymsefydlu yno nid oedd yn ymwybodol o dras Cymreig y teulu nac ychwaith o gymdogaeth dlawd ei etifeddiaeth. Gallai odro cyfoeth hawdd o ddiwydiant ei stad heb feddu gwybodaeth am ei pheirianwaith na’i pheryglon. Yn ei isymwybod gallai deimlo’n alltud mewn cymdeithas ddieithr nad oedd ganddo ddiddordeb ynddi ac a siaradai iaith nad oedd ef yn ei deall.

Wal y Parc.JPG
Wal y Parc ger Tŷ Newydd

Yn ei ‘alltudiaeth’ ei ymateb greddfol oedd adeiladu castell gaerog a chodi wal uchel i amddiffyn ei diriogaeth a thrwy hynny greu ‘a little England beyond Llandygái’ o ystumio ychydig ar yr ymadrodd o Sir Benfro. Oddi fewn i’r parc yr oedd cynlluniau i harddu’r amgylchfyd drwy blannu gelltydd o goed a llwyni yn gefndir i lawntiau breision. Rhoddai hyn yr argraff o’r tirlun gweledol delfrydol a bywiogai’r golygfeydd o’r Fenai a mynydd-dir Eryri. Dyluniwyd hefyd gyfres o erddi cyfoethog, rhai i gyflenwi’r tŷ â blodau a llysiau, eraill er arddangos gwychder y cynnyrch. Cynlluniwyd  yn ogystal berllan amrywiol ei ffrwythau ar gyfer gofynion y teulu. Yn ddiweddarach dan warchodaeth yr ‘Hen Lord’ cyflogwyd Walter Speed yn brif arddwr. Yn ystod hanner olaf  y bedwaredd ganrif ar bymtheg enillodd y garddwr enwog hwn fri cenedlaethol am wychder ei greadigaeth o fewn muriau parc caeedig y Penrhyn.

Mae un adeilad sy’n werth ei nodi o fewn ffiniau’r parc  sy’n perthyn i gyfnod cynharach y demesne ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif. Ar yr arfordir ar benrhyn cul a ymestynnai  i’r môr adeiladodd Richard Pennant faddondy bychan er defnydd ei wraig Anne Susannah. Erys y penrhyn ond, ysywaeth, mae’r baddondy yn furddun a ddiflannodd o dan ymosodiadau’r môr a diofalwch y perchnogion. Pe byddai’n sefyll caffai ei ystyried yn adeilad unigryw o’i gyfnod ac yn un o nifer a adeiladwyd gan Richard Pennant i ryngu bodd ei wraig Anne Susannah. Ymhlith yr adeiladau niferus hyn mae’r llaethdy ym Mhen Isa’r Nant, a’r tŷ swanc i ymlacio ynddo yn Ogwen Banc ac mae’n bur debyg yn ogystal, adluniad Pennant o’r hen blasty canoloesol gwreiddiol yn y Penrhyn i fod yn faenordy ‘canol oesol’ castellog.

O ddarllen y cyfraniad hwn byddwch yn sylweddoli ei bod yn enghraifft wych o erthygl ddi duedd a di ragfarn!

Ffynhonnell

Pennant, E. H. Douglas. 1998. The Penrhyn Estate 1760-1997: The Pennants and the Douglas-Pennants. Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon. 59. tt. 35-54.