Pontydd Afon Ogwen

PontBeudy Llwyd 2
Pont y Beudy Llwyd, llun drwy ganiatâd Emyr Roberts, Bryn Derwen Bach, Bethesda

Ar ei llwybr o gwta ddeng milltir, fel yr ehed y fran, o ucheldir Eryri yn Llyn Ogwen i lan y Fenai yn Aberogwen adeiladwyd deunaw pont i groesi Afon Ogwen. Gellir ychwanegu tair pont arall ar Afon Gaseg ac Afon Ffrydlas sy’n hynod agos afon Ogwen ond ddim yn ei chroesi. Mae gan yr holl bontydd hyn eu lle yn cofnodi datblygiadau arbennig yn hanes yr ardal, ac mae eu pensaernïaeth yn ddrych o dechnegau adeiladu gwahanol a berthyn i’w cyfnod a’u defnydd. Ar ei deithiau drwy Sir Gaernarfon rhwng 1809 a 1811 cofnododd Edmund Hyde Hall y pontydd a oedd yn croesi Afon Ogwen o’i tharddiad i’r môr. Mae’n rhestr ddiddorol oherwydd ei bod yn sefydlu’r croesfannau pwysicaf a oedd ar yr afon bryd hynny. Gan gychwyn yn Llyn Ogwen mae’n rhestru – y Bont Newydd, sylwer ar yr enw, sy’n cyfeirio at fwa’r bont dyrpeg sydd bellach yn llechu o dan bont ddiweddarach Telford yn y Benglog; Pont Ogwen ger Ogwen Banc; Pont y Tŵr, ac mae’n nodi fod y ffordd dyrpeg newydd i Gapel Curig yn ei defnyddio; Pont Coetmor; Pont Talybont, a elwir ganddo yn Bont Ogwen ac a ddefnyddid meddai yn groesfan i’r ffordd dyrpeg o Gonwy.  Mae hefyd yn ychwanegu fod pont i gerddwyr ym Mhen Isa’r Nant ac un arall at ddefnydd ffermydd ychydig yn uwch i fyny’r dyffryn gan gyfeirio naill ai at Bont Bryn yr Hwyaid neu at Bont y Beudy Llwyd. Mae’n bur debyg mai isafswm y croesfannau yw’r pontydd hyn ac y byddai rhydau answyddogol hefyd yn croesi’r afon yn y mannau lle byddai llif cyson, ond bas y dŵr, yn caniatáu hynny, a nodir ar fapiau arolwg ordnans cynnar fod dwy ryd yn croesi’r afon yn y merddwr ger Pentre yn Nant Ffrancon. Mae’r sarn yn enw Pont Sarnau hefyd yn awgrymu mai rhyd oedd yn rhagflaenu adeiladu’r bont yn y groesfan honno yn ogystal.

Pont Aberogwen 2
Pont Aberogwen

Cyn bod trafnidiaeth ffyrdd wedi datblygu yn rhan o fyd masnach a’r gofyn am bontydd adeiledig diogelach i groesi afonydd, yr oedd llwybrau culion a phomprennau pren neu garreg yn ddigon addas i gyflawni gofynion ardal ddiarffordd megis Dyffryn Ogwen yn y ddeunawfed ganrif. Ac mae dwy o’r pontydd syml hyn yn rhan o’r gyfres sydd ar yr afon heddiw – un ohonynt, pont garreg y Beudy Llwyd yn amlwg yn hynafol iawn, a’r llall, pompren bren Dolawen, yn fodern ond ar gynllun o gyfnod cynharach. Pont y Beudy Llwyd yw’r bont fwyaf ‘cyntefig’ ei hadeiladwaith sy’n croesi Afon Ogwen ac mae’n enghraifft odidog o bont y cyfeirir atynt yn Saesneg fel ‘clapper bridge’. Nodweddir y pontydd di ganllaw hyn gan feini mawr sy’n ffurfio’r droedffordd a’u pennau yn gorffwys naill ai ar y ddwy lan gyfochrog neu ar gyfres o bileri carreg, fel yn yr enghraifft yn Nant Ffrancon. Hon, heb os, yw’r bont fwyaf hynafol ar yr afon a gallasai ddyddio o gyfnod mor gynnar â’r Canol Oesoedd fel nifer o’i math tebyg yn Lloegr, er nad oes tystiolaeth benodol i gadarnhau hynny yn yr achos hwn. Awgrymir mai croesfannau tebyg i Dolawen a’r Beudy Llwyd fyddai rhagflaenwyr gweddill pontydd yr ardal cyn y disodlwyd hwy yn bennaf gan bontydd bwa carreg.

Mae pontydd bwa carreg yr afon i gyd yn perthyn, fwy neu lai, i gyfnod cymharol fyr rhwng 1770 a 1825. Hwn yw’r cyfnod a welodd weithgaredd diwydiannol eithriadol gynhwysfawr yn hanes y dyffryn yn bennaf dan arweiniad Richard Pennant. Yn 1769 cwblhawyd ffordd dyrpeg Ymddiriedolaeth Ffordd Dyrpeg Sir Gaernarfon i gysylltu Conwy a Bangor, a olygodd naill ai godi pont newydd neu ailgynllunio’r hen groesfan yn Nhalybont. Yn 1802 tro Ymddiriedolaeth Ffordd Dyrpeg Pentrefoelas i Landygái oedd agor ffordd dyrpeg drwy Ddyffryn Ogwen a welodd adeiladu’r bont gyntaf yn y Benglog fel y nodwyd uchod.

 

Cofnodir yn 1788 fod yr hen bont ym Mhont y Tŵr mewn cyflwr adfeiliedig pryd yr ail adeiladwyd hi, ac yn yr un flwyddyn adeiladwyd Pont Coetmor o’r newydd. Pont y Tŵr yw’r unig bont garreg tri bwa sydd ar yr afon a tybed nad yw ei ffurf unigryw yn efelychu cynllun pont garreg gynharach, megis Pont y Beudy Llwyd, a safai ar y safle yn wreiddiol. Bid hynny fel y bo, chwaraeai Pont y Tŵr, a Phont Coetmor i raddau llai, eu rhan fel dolennau cyswllt yng nghyfundrefn ffordd dyrpeg yr Ymddiriedolaeth. Perthyn pont Ogwen Banc i’r un cyfnod, ei safle bryd hynny i gysylltu’r ‘elegant pavilion’ ar un ochr i’r afon â’r chwarel ar yr ochr arall, a oedd erbyn 1793 yn datblygu yn atynfa ddiwydiannol ryfeddol. Nid oes gofnod pryd yn union yr adeiladwyd Pont y Ceunant ger Tŷ’n y Maes, y bont garreg dau fwa, sy’n cysylltu ffordd Telford â ffordd gynharach Richard Pennant ar ochr orllewinol Nant Ffrancon, ond mae’n amlwg yn perthyn i gyfnod adeiladu pontydd carreg y dyffryn y soniwyd amdanynt uchod.

Pontydd Benglog1
Pontydd y Benglog

Byr oedd cyfnod pwysigrwydd y ffordd dyrpeg ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg cyn i Thomas Telford gychwyn ar adeiladu’r ffordd bost drwy Ddyffryn Ogwen o 1815 ymlaen. Cyfeiriwyd at Telford fel ‘’Pontifex Maximus’, fel brenin cynllunwyr pontydd Prydain, a’i orchestion mwyaf, wrth gwrs, yw Pont y Borth a thraffont ddŵr Pontcysyllte ger Llangollen, ond yn Nyffryn Ogwen pontydd un bwa, syml eu cynllun ond cadarn ac ymarferol eu hadeiladwaith, oedd ei gyfraniad arbennig. Cynlluniodd bum pont yn yr ardal, er mai ail Bont y Benglog a Phont y Pandy yw’r unig ddwy sy’n croesi Afon Ogwen ond, fel y nodwyd eisoes, mae’r tair arall ym mhen deheuol Bethesda, ychydig lathenni yn fyr o gyrraedd glan yr afon. O holl bontydd yr afon, dim ond ar ddwy yr argraffwyd dyddiad eu hadeiladu, y ddwy o fewn pum mlynedd i’w gilydd, a’r ddwy yn arddangos technegau adeiladu tra gwahanol. Adeiladwyd Pont y Pandy yn 1819 gan Telford yn bont fwa carreg fel y nodwyd uchod, ond pont haearn yw pont Aberogwen a gafodd ei bwrw yng ngwaith dur Penydarren ym Merthyr Tudful yn 1824. Lluniwyd hi o dri thrawst haearn sy’n cynnal troedffordd gul o gwta naw troedfedd ar ei brig ac mae peth amheuaeth ynghylch y bwriad o’i hadeiladu yn y lle cyntaf rhwng ceg yr afon a’r môr. Er hynny, gellir ei chyfrif ymhlith dethol griw y pontydd haearn cyntaf a adeiladwyd yn y byd, ac y mae’r un mor unigryw, er mor eithriadol wahanol ei ffurf, â Phont y Beudy Llwyd. Ynddi mae holl ddyfeisiadau chwyldroadol y byd mecanyddol newydd i’w canfod yn cystadlu megis â thechnegau traddodiadol y bwa a’r meini, a chyfyd y cwestiwn sut bod teulu’r Penrhyn ymhlith y cyntaf i ymddiried mewn technoleg mor flaengar pan oedd Telford, un o brif adeiladwyr pontydd Prydain, yn ymarfer ei grefft yn lleol yn ystod yr un cyfnod.

Perthyn y pontydd mwyaf gosgeiddig sy’n croesi’r Afon Ogwen i gyfnod adeiladu’r ddwy reilffordd yn y dyffryn – traphont Llandygái i 1848 dyddiad agor y rheilffordd rhwng Caer a Chaergybi, a traphont Coetmor i 1884 ar y llinell rhwng Bangor a Bethesda. Mae’r ddwy ohonynt yn enghreifftiau arbennig o dechneg adeiladu pontydd cain mewn brics coch sy’n nodwedd o bensaernïaeth y mwyafrif o bontydd reilffyrdd Prydain yn ystod y 19g.

Traffont llandygai 1
Traphont Llandygái

Nodweddir y ddwy bont gan uchder eithriadol y bwâu uwchlaw dyfroedd yr afon – pymtheg bwa ar draphont Llandygái, a phedair ar draphont Coetmor – gan greu argraff o ysgafnder a glendid yr adeiladwaith ond heb ymyrryd â chryfder yr holl gyfanwaith.

Pontydd cul, syml, ar drawstiau haearn wedi eu cysylltu â dwy lan gyfochrog yr afon, sy’n nodweddu’r croesfannau i gerddwyr a adeiladwyd yn ystod cyfnod diweddar y bedwaredd ganrif ar bymtheg i gymryd lle pomprennau pren o gyfnod cynharach. Dyma yw hanfod adeiladwaith Pont Melin Cochwillan, Pont Sarnau, Pont yr Inn a Phont Bryn yr Hwyaid, ac y mae eu defnyddioldeb ymarferol yn llawer pwysicach nag arbenigrwydd eu pensaernïaeth. Yr oedd gan Bont yr Inn ei rhagflaenydd cynharach yn union ar draws yr afon i westy’r Douglas a chofnodir hefyd fod pompren yn cysylltu dwy lan yr afon ychydig i’r gogledd o Ogwen Banc, ond byr hoedlog oedd eu defnydd gan adael nodweddion amlwg eu lleoliad yn y ddau le. Gellid datgan yr un sylw am y bont ddiweddaraf a adeiladwyd i groesi’r afon yn Nhalybont ac sy’n rhan o ffordd ddwy heol yr A55. Trawstiau concrit wedi eu hatgyfnerthu’n fewnol gyda bariau haearn sy’n cynnal adeiladwaith y bont, ac er mor ymarferol, ddigymeriad y cynllun, prin y gellir ei gymharu â glendid amlinell Traphont Llandygái, cadernid Pont y Tŵr neu symlrwydd Pont y Beudy Llwyd. Ac mae’n gwestiwn a wnaiff trawstiau concrit oroesi cryfder naturiol y meini sydd yn y pontydd carreg. Serch hynny, pwy fyddai wedi credu fod cynifer o bontydd mor wahanol eu cynllun, eu hadeiladwaith a’u defnyddioldeb wedi eu cywasgu i lwybr afon sydd mor fyr ei chwrs ag Afon Ogwen!

P0nt y Twr
Pont y Tŵr

 

Gwybodaeth ychwanegol

Griff Morris, Bigil, Rhos y Nant, Bethesda

Ffynonellau

Roads and Bridges County Archives – Archifdy Caernarfon

E Hyde Hall 1809/1811 A Description of Caernarvonshire.

Gol. E Gwynne Jones, 1952 Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon , Cyfres Record Rhif 2. Caernarfon.

Enwau Caeau Dyffryn Ogwen

2020-02-18 (3)
Dosbarthiad enwau DO ar fap digidol Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru drwy ganiatâd a charedigrwydd Rhian Parry, Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru

Mae pob enw ar gae yn hwyluso tasg y perchennog yn trefnu gwaith dyddiol y fferm neu’r tyddyn yn llwyddiannus, ond mae’r enwau hefyd yn ddrych i etifeddiaeth ardal a’i threftadaeth. Ym Mhrydain byth ers i drefn amaethyddol y Neolithig chwe mil o flynyddoedd yn ôl ddechrau rhannu’r amgylchfyd gwyllt yn gyfres o unedau trefnus caeedig, megis caeau, felly hefyd y daeth y rheidrwydd i gyfeirio atynt yn unigol gydag enw. Ac mae’r enwau, fel ffurf ffisegol y caeau, wedi gorfod newid dros y canrifoedd yn ymateb i gyfnewidiadau mewn dulliau amaethu, datblygiadau economaidd, gofynion statudol y llywodraeth neu reol y tirfeddianwyr, ac mae’r enwau gan amlaf yn adlewyrchu’r newidiadau hyn.  Ond tra bod y newydd yn disgrifio’r presennol erys rhai enwau o’r hen, hen amser.

Gellir dosbarthu enwau caeau i fras gategorïau syml – categori lleoliad, megis ‘cae dan beudy’ neu ‘cae pella’; categori eu defnydd megis’ buarth yr ŵyn’ neu ‘gweirglodd y tro’; categori disgrifiadol megis ‘boncen eithin’ neu ‘talwrn y rhedyn’; categori enwau personol megis – ‘cae Rhys Powel’ neu ‘tyddyn Morfydd uchaf’; ac yn olaf caeau ag enwau anghyffredin arnynt, megis ‘ cae gwrnog’, ‘bichd’,  ‘pedair llathen’, ‘cae cyd’ neu ‘dalar bengam’, i enwi ond ychydig.

Wrth bwyso a mesur cofnod enwau caeau ardal Dyffryn Ogwen heddiw, sydd bellach yn rhestr o dros fil o enwau, ychydig iawn o eiriau anghyffredin a berthyn iddi.  Caiff ei nodweddu yn bennaf gan amledd enwau lleoliad a defnydd sydd, ar yr olwg gyntaf, yn ymddangos yn ailadroddus a dibwys. Ond fel y nodwyd uchod mae’n gofnod hyfyw a gwerthfawr sy’n cynrychioli agwedd ar gymdeithas amaethyddol y presennol, ond er hynny mae’n agored i’w newid ac felly mae’n frau a bregus i’w cholli oni chaiff ei chofnodi. A dyna yn union sydd wedi digwydd ym Mynydd Llandygái, er enghraifft. Cyn 1800 gweundir agored heb neb yn byw ynddo ydoedd, ond yn ystod y ganrif ganlynol amgaewyd yr holl ardal yn gyfres o gaeau bychan ynghlwm â nifer o fythynnod, unedau o rhwng dwy a chwe acer mewn maint, a oedd yn cynnal poblogaeth o chwarelwyr llawn amser a thyddynwyr rhan amser, y gwaith gartref yn bennaf yn ddyletswydd y wraig a’r plant. Yr oedd i bob cae ei enw syml yn y categorïau lleoliad neu ddefnydd mae’n bur debyg, ond heddiw wrth geisio cofnodi’r enwau dim ond deuddeg sydd wedi goroesi o gyfnod cymdeithas sydd bellach wedi diflannu bron yn llwyr ers bron i hanner canrif.  Ac yn y broses o golli enwau a breuo’r iaith Gymraeg aeth cymeriad ardal Mynydd Llandygái hefyd ar chwâl.

I’r rhai sy’n ymddiddori mewn hanes mae’n resyn na chofnodwyd enwau caeau Dyffryn Ogwen yn Arolwg y Degwm yn 1834 a hynny oherwydd esgeulustod y cofnodwr mae’n debyg, ac o ganlyniad mae plwyfi Llandygái a Llanllechid ymhlith yr ychydig yng Nghymru sydd heb restr berthnasol.  Serch hynny mae yn Nyffryn Ogwen gofnod yn Arolwg y Penrhyn 1768 sy’n dyddio i bron  ganrif yn gynharach na’r Degwm. Mae’r Arolwg yn rhestru holl enwau caeau’r ffermydd, tyddynnod a bythynnod y fro a berthynai i’r stad gan nodi eu lleoliad ar fapiau sydd yr un mor fanwl eu cynnwys â’r rhestrau enwau. Mae’r casgliad hwn felly yn agor ffenestr annisgwyl i ddadansoddi economi amaethyddol Dyffryn Ogwen ar derfyn y Canol Oesoedd megis, a chyn cychwyn y cyfnod diwydiannol a wnaeth chwalu seiliau’r hen drefn yn y fro.  Fel y byddai’r disgwyl mae enwau lleoliad a defnydd yn britho’r casgliad ond mae enwau disgrifiadol, personol ac anghyffredin yn llawer pwysicach nag yn y cofnod modern presennol.  Dengys yr enwau bwysigrwydd magu gwartheg yn yr economi, ac mewn cyfundrefn sydd â phwyslais ar fod yn hunangynhaliol mae tyfu grawn, tatws a magu geifr, ebolion a cheffylau yn chwarae eu rhan. Mae corsydd, gwlypdiroedd a choedlannau gwern, ponciau anhydrin, tir gwyllt a chreigiog yn mynnu sylw, ac mae’r enwau anghyffredin yn cyfeirio at hen, hen ddulliau amaethu yn y ‘tir agored’ a oedd yn prysur ddiflannu cyn, ac yn ystod, cyfnod cofnodi’r arolwg – hen enwau megis tir gwag, pedair pladur, gwrthgwys a llociau.  Yn y rhanbarth ar y ffin rhwng plwyfi Llanllechid ac Abergwyngregyn ymddengys nifer uchel o enwau personol – Barbara, Ellen, Ednyfed, Joseph, Heilyn ac Ifan – a rhai ohonynt â chysylltiad agos â Llys y Tywysogion yn Abergarthcelyn yn y drydedd ganrif ar ddeg;  cymeriadau pwysig megis Ednyfed Fychan, disdain Llywelyn ap Iorwerth, a Heilyn ap Cynfrig a oedd yn un o lysgenhadon Llywelyn ap Iorwerth.

Wrth gwrs mae enwau a ffiniau caeau yn newid yn nhreigl amser ond mae’n rhyfeddol mor wydn y deil rhai. Ym Mryn Eithin, Llanllechid, er enghraifft, erys ‘Bryn Llwm’ a ‘Cae Tŷ’r Ffeltiwr’ yn enwau digyfnewid ers 1768 ar y ddau gae sy’n gyfochrog â’r ffordd i Fryn Hafod y Wern, a thebyg fod llawer mwy o enghreifftiau i’w darganfod yn yr archif drwy ymchwil pellach.  Ond beth am yr enw ‘Cae Ysbyty’ a berthyn i ddau gae sydd yn yr ardal?  Mae un ohonynt bellach yn gae chwarae i blant yn Rachub, a’r ail yn stribyn bychan cul,  llai na hanner acer ei faint, ar allt serth ger y tŷ ym Mlaen y Nant yn Nant Ffrancon.  Yn arolwg 1768 gelwir y cae yn Rachub yn Cae Groes  ac adnabyddir yr ail fel Gweirglodd Tŷ Croes. A dyma pryd y gall dychymyg redeg yn rhemp! Beth tybed yw arwyddocâd y gair ‘croes’ yn y ddau enw? A oes yma gysylltiad rhyngddynt â llwybr pererinion y Canol Oesoedd, troedffordd a oedd yn Rachub nepell o safleoedd eglwysi cynnar Llanerchyn. Ym Mlaen y Nant gwelir y cae o’r un enw yn dringo’n serth uwchlaw’r fferm yn llwybr cydnabyddedig, os gerwin, i Fuarth Rhiwiau ac ymlaen hyd ochr Foel Goch i gysylltu yn y man â Chwm Gafr cyn arwain i wastadnant Nant Peris.  Ond pam yr enw Cae Ysbyty tybed? Gellir egluro hwn ym Mlaen y Nant ond nid yn Rachub, ysywaeth. I’r cae hwn ym Mlaen y Nant y danfonir pob anifail sy’n glaf, ac yno i’w gwella ymhen y rhawg o flasu’r amrywiol flodau a phlanhigion a dyf yn rhan o lystyfiant naturiol y llethr, llystyfiant a gatalogiwyd gan ymwelydd diweddar i gynnwys oddeutu 70 math o blanhigion lleol a’r mwyafrif ohonynt yn meddu ar rinweddau  meddyginiaethol arbennig.

Mae pob enw yn drysor boed mor ddinod ac ailadroddus a ‘cae isaf pellaf’ neu ‘cae tan y beudy’ oherwydd maent yn rhan o’n treftadaeth a’n hetifeddiaeth, i’w cadarnhau, a’u trosglwyddo  i genedlaethau ein dyfodol. Mae prosiect enwau caeau Dyffryn Ogwen bellach wedi tynnu i’w derfyn ar ôl dwy flynedd o waith casglu manwl ac mae’n gyfuniad o weithgaredd diflino nifer o gasglwyr diwyd ac o gydweithrediad parod ffermwyr ac aelodau o gymdeithas amaethyddol Dyffryn Ogwen, yn bobl leol ac yn bobl sydd bellach ar wasgar.  Ni ellid fod wedi cwblhau’r gwaith heb gefnogaeth a nawdd Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru a’r Gymdeithas sydd bellach yn gwarchod yr archif enwau ar goflein ddigidol genedlaethol. Tybed sut y bydd cymdeithas Dyffryn Ogwen ymhen wyth can mlynedd yn dadansoddi’r drysorfa hon?  Mawr obeithiwn y byddant yn cofnodi’r cyfnewidiau a ddigwydd drwy dreigl y canrifoedd ond â’n gwaredo, os mai donkey paddock number one fydd yr enw a ben y rhestr!

Diolch i Rhian Parry, Porthaethwy, Gwyn Thomas, Blaen Nant, a Ieuan Wyn, Talgarreg am eu cymorth gyda’r nodyn hwn.