Nadolig Llawen!

Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i holl ddarllenwyr gwefan Hanes Dyffryn Ogwen.

Gobeithio eich bod wedi mwynhau darllen hanesion diddorol ein dyffryn eleni. Mae rhagor o nodiadau wedi’u paratoi ar gyfer y flwyddyn nesaf. Mae nifer o gyfranwyr gwadd hefyd wedi danfon cyfraniadau hefyd, felly bydd digon i’w ddarllen!

Gyda phob dymuniad da i bawb ohonoch.

Yn gywir

John a Lowri

Death Valley a’r Klondike

John Evans. Tynnwyd y llun yn San Francisco. Yr oedd yn y ddinas yn 1906 pan ddinistriwyd y ddinas yn yfflon gan ddaeargryn nerthol wnaeth ladd cannoedd o’i thrigolion

Mae Death Valley yng Nghaliffornia yn un o’r mannau poethaf dan wyneb y cread. Ar y llaw arall yn y Klondike yn Alaska, gryn dair mil o filltiroedd i’r gogledd o Death Valley, mae hinsawdd rewllyd hirdymor yr Arctig yn tra arglwyddiaethu ar drefn bywyd. Ond beth sydd a wnelo dwy ardal mor bellennig ac mor gwbl wahanol eu hapêl â hanes Dyffryn Ogwen? Mae’r ateb yn syml – AUR – a’r dwymyn ddychrynllyd a oedd yn meddiannu dynion i ruthro i’w gloddio ym mhedwar ban byd yn y gobaith o ennill ffortiwn a fyddai’n caniatáu iddynt fyw’n gysurus hyd weddill eu hoes. Ond nid aur yw popeth melyn medd yr hen air Cymraeg, ac meddai ymadrodd sinigaidd, ysgeler o America -‘nothing to have a man for breakfast’.

Mae’r stori yn dechrau yn y Parc, tyddyn ar ffin Gwern Cwys Mai ym mhlwyf Llanllechid yn 1871 lle ganed John Evans. Un o bedwar o blant oedd ef ac erbyn ei fod yn unarddeg oed yr oedd yn gweithio fel nafi yn adeiladu rheilffordd yr LNWR i Fethesda. Yn bymtheg oed gadawodd Gymru yng nghwmni ei ddewyrth,  y ddau i geisio bywyd gwell yn Unol Daleithiau’r America, gwlad yr atynfa oludog a breuddwydion y tu hwnt i bob dychymyg. Ac felly yn 1886 caed y ddau yn Death Valley yn ne ddwyrain Califfornia ar y ffin â thalaith Nevada. Mae pam a sut y bu iddynt gyrraedd y fangre uffernol hon yn rhan o’r stori nas datgelwyd rhyw lawer amdani gan John Evans. Ond yno yr oeddynt o ddewis, yn un o’r mannau mwyaf anghysurus yn y byd – dyffryn cul o anialwch crimp 140 milltir o hyd wedi ei gywasgu rhwng mynyddoedd y Sierra Nevada, gyda rhannau o’i lawr yn disgyn yn is na 200 troedfedd islaw arwynebedd y môr.  Lai na chan milltir i’r gogledd safai mynydd uchaf y Sierra Nevada, Mt Whitney, yn dalp anferth o graig 14,000 troedfedd o uchder a’i gopa o dan eira claerwyn am ran helaethaf o’r flwyddyn.  Yr  atynfa, wrth gwrs, oedd y newyddion am ruthr aur i Death Valley yn 1886. Ond nid oed y rhuthr hwn ar yr un raddfa â’r un a ddigwyddodd yng Nghaliffornia yn 1849, yr enwog ‘forty niner’, y rhuthr gwallgof a drawsnewidiodd holl economi’r dalaith ddiarffordd  a’i sefydlu yn atynfa oludog i’r byd. Rhan ffiniol iawn a chwaraeodd Death Valley yn rhuthr 1849, megis croesfan dra pheryglus o’r de i fwyngloddiau gogledd y dalaith ydoedd bryd hynny, a man lle bu farw mintai o fwyngloddwyr ar eu taith o graster yr haul, gan fedyddio’r dyffryn â’i enw angheuol .

Yn  y ffwrnais lethol hon, lle’r oedd gwres dyddiau’r haf yn aros rhwng  90 a 100°F am wythnosau bwygilydd, y bu i’r ddau anturiaethwr ymuno yn y rhuthr mawr yn fforio am aur. Ac yna ymhen llai na blwyddyn o gyrraedd digwyddodd trasiedi pan fu farw’r dewythr o glefyd yr haul gan adael John Evans yn llanc amddifad 16 oed i grafu byw mewn cymdeithas anwar, beryglus, ddireol, lle nad oedd prin gyfraith a threfn yn bodoli.  Rhuthr hwnt ac yma oedd yr un i Death Valley yn 1886 – yr aur yn brin, yr amodau yn anodd, gwres llethol; prinder dŵr a thanwydd; cyfarpar hen ffasiwn; lleoliad anghysbell, ac anawsterau yn cludo’r ysbail i’r banc rhag ymosodiadau lladron gwancus – ond gyda grym ewyllys, penderfyniad, dyfalbarhad, dewrder a dogn helaeth o ffawd bur sicr, llwyddodd John Evans i oresgyn yr holl anawsterau. Prin iawn oedd ei sylw am ei arhosiad yn Death Valley, bu yno hyd 1900 ac yn amlwg yn lled llwyddiannus – cyfrannodd meddai at gynnwys bricsen aur gwerth $140,000 a arddangoswyd yn Ffair y Byd yn Chicago yn 1893 – ond ai gweithio fel mwynwr llawrydd yr oedd ynteu i gwmni mwyngloddio nis gwyddom.

1896 oedd blwyddyn darganfod yr aur yn y Klondike a arweiniodd at ruthr gwallgof arall o oddeutu 100,000 o ddynion (a merched yn eu plith) i gyrraedd un o’r mannau mwyaf anghysbell ar wyneb y cread.  Ac yr oedd John Evans yn eu plith. Gadawodd Death Valley mewn trol a cheffyl am yr ugain milltir cyntaf i gyrraedd y trên a oedd i’w gludo’r wyth can milltir nesaf o’i daith i gyrraedd porthladd  Seattle. Yno ymunodd â llong yr Alpha ym mis Mai 1900 – cragen fusgrell 200 troedfedd o hyd a oedd i hwylio’r 3,000 milltir nesaf  i Nome City, pentref digroeso o bebyll ar lan y môr yng nghulfor Bering rhwng  Alaska a Siberia. Ar ei bwrdd cywasgwyd hyd at 200 o ddynion garw, yn ogystal â chargo, a’r pris i’w dalu am y fath fordaith oedd $1,000. Pan gyrhaeddodd Nome City ni allai’r llong lanio oherwydd y rhew ac yno y buont megis carcharorion am y tair wythnos nesaf – y capten yn feddw a’r bwyd yn eithriadol brin, hyd nes gorfod talu i gychwyr lleol eu rhwyfo i’r lan ar gost o 12/6 yr un. 

John Evans (ar y dde) a’i gyd fforiwr yn hela yn fforest taiga Alaska yn byw megis o’r llaw i’r genau

Canolbwynt y sgarmes aur oedd Dawson City, tref nad oedd wedi bodoli cyn 1896, ond a welodd chwyddo ei phoblogaeth i 30,000 erbyn 1898 ac, yn ôl y disgrifiad, a oedd  ‘little better than a hell on earth…about the roughest place in the world’. Safai yn y mewndir ar aber afonydd yr Yukon a’r Klondike ar y ffin rhwng Alaska a thalaith British Columbia yng Nghanada.  Y daith fyrraf i gyrraedd yno oedd o borthladdoedd Dyea, Skagaway neu Juneau ar arfordir de Alaska, ond taith a olygai ddringo drwy fylchoedd uchel a garw Chilkoot a White Pass i ddisgyn i ddyffryn yr Yukon a hwylio ar ei llif, pe byddai’r afon heb rewi, hyd nes cyrraedd Dawson City. O’r 100,000 a dyrrodd i Alaska amcangyfrir mai dim ond rhwng 30,000 a 40,000 wnaeth gyrraedd y cloddfeydd aur, ac o’r rhain tua 15,000 i 20,000 yn unig  oedd yn fwyngloddwyr aur – ac am y gweddill gellid cyfrif canran uchel ohonynt yn ddichellwyr, twyllwyr, gamblwyr, lladron a llofruddion, gan wireddu’r ymadrodd – ‘nothing to have a man for breakfast’.

Ond yn y gogledd eithaf y dewisodd  John Evans lanio yn 1900 ac o Nome City, yn bartner gyda dau Wyddel a dyn o Sweden, dilynodd yr afon Solomon dri deg milltir i’r mewndir  gan lusgo cwch yn drafferthus yn erbyn y llif yn y fenter o ddarganfod yr aur. Gorchwyl anhawdd iawn ydoedd dan amodau cyntefig a gerwinder eithriadol yr amgylchfyd pryd y gallasai’r tymheredd ddisgyn i ­-50°C (­58°F) rhwng misoedd Hydref a Mehefin. Drwy ffawd y darganfyddid yr aur, naill ai drwy bannu amdano yn llifbridd y nentydd, neu drwy gloddio amdano ar lecyn o dir, y ‘stake’ a nodwyd ar bolyn, ac a gofrestrwyd drwy dalu $15 am yr hawl i’w gloddio hyd weddill y flwyddyn. Ac nid ar chwarae bach yr oedd agor twll mewn daear oedd dan rew parhaol i ddyfnder a olygai gynnau tân fesul troedfedd, fwy neu lai, hyd nes cyrraedd y graig islaw gan obeithio taro gwythïen gyfoethog, ac, os yn llwyddiannus, ymestyn y twll yn dwnnel tanddaearol. Cafwyd peth llwyddiant i’r ymgyrch ond siomedig ar y cyfan oedd y fenter, yn arbennig wedi i aur gael ei ddarganfod yn nhywod aberoedd a thraethau arfordir Nome City, gan chwyddo poblogaeth y ddinas honno i 20,000, yn ffau afrad o dafarndai, casinos a phuteindai. Y dafarn, ac nid y banc, oedd y lle i newid yr aur am arian ac nid ryfedd felly mai perchnogion y tafarndai, drwy eu cyfrwyster ac yn aml gyda byddin o ddrwgweithredwyr i’w gwarchod, oedd pendefigion mwyaf llwyddiannus pob rhuthr aur mewn hanes. Ac yn Nome City yn mis Medi 1899 yr enwog  geidwad cyfraith a threfn a chwiliwr ffortiwn, neb llai na Wyatt Earp ei hun, oedd perchennog y Dexter Saloon yn y ddinas afreolus. Rhywbryd oddeutu 1902 mae’n debyg, ac yn amlwg wedi cael llond bol ar fyw ar y dibyn megis, gwerthodd John Evans ei ‘stake’ yn afon Solomon am ddigon o arian i brynu ei docyn i ddychwelyd yn ôl i Fethesda, yn ŵr ieuanc llawn cyffro mae’n amlwg, ond yn sicr heb feddu ar ffortiwn.

Ond nid oedd twymyn yr aur wedi pallu. Daeth newydd am sgarmes newydd yn Relief Hill yn ne  ddwyrain Califfornia ar y ffin â thalaith Nevada, ac eto ym mynyddoedd y Sierra Nevada gryn 4,000 o droedfeddi uwch arwynebedd y môr. Pentref bychan diarffordd oedd Relief Hill a welodd sgarmesi aur cyson yn ystod y ganrif flaenorol drwy gloddio  yn anhrefnus mewn tyllau dyfnion a thwneli bregus ond yn ddiweddarach drwy ddefnyddio  technegau mwy dinistriol i olchi’r aur o wyneb y graig  gyda phibellau dŵr nerthol. Megis sgarmes fechan a ddigwyddodd yn 1900 yn ail gloddio hen gloddfeydd y ganrif gynt, ond sgarmes a oedd yr un mor orffwyll pan nodwyd am ddinasyddion Relife Hill eu bod yn ‘crazed with gold fever, washed the foundations from under their homes and watched the houses fall into the river, while the wives and children ran for their lives, fleeing a certain death’.  Ac i’r rhanbarth diarffordd hwn , llawn gwylltineb a thor cyfraith, y cyrhaeddodd John Evans oddeutu 1903, a phwy oedd ei ragflaenydd yn Tonopah gerllaw ers 1902 ond Wyatt Earp, yn awr yn berchennog y Northern Saloon. I fod yn fwynwr llwyddiannus yr oedd angen wrth gyfalaf sylweddol cyn gallu cloddio a golchi’r aur a bellach cwmnïau oedd yn rheoli gweithgaredd yn yr hen fwynfeydd yn Relief Hill a Tonopah megis Blue Gravel, Great Eastern, Relief a Wankesha, ac i fforiwr tlawd, ond profiadol, o Gymru prin oedd y cyfleon.  Yn hytrach gwelodd ei gyfle i fod yn warchodwr yn hebrwng y goets a oedd yn danfon yr aur i’r banc gan farchogaeth ar gefn mul ar flaen yr osgordd a gwn yn ei law,  gwaith nad oedd heb ei beryglon, wrth gwrs, o gofio y lladdwyd gwarchodwyr mintai debyg ychydig ddyddiau’n ddiweddarach gan ladron arfog.

Cymharol fyr fu ei arhosiad yng nghymdogaeth Relief Hill, ac yn 1907 penderfynodd ddychwelyd adref i Fethesda gan hwylio o Efrog Newydd i Lerpwl ar Fehefin 28 1907 gan roddi terfyn am dros chwarter canrif o fyw ar y dibyn. Ac meddai, ac ef bellach yn chwarelwr diwyd a blaenor uchel ei barch yng nghapel Carneddi,  ‘gwelais ddigon am un oes a oedd y tu hwnt i ddychymyg y mwyaf beiddgar, drwy grwydro drwy anialwch a thros fynyddoedd a mhac ar fy nghefn’. Bu John Evans fyw gweddill ei oes yn 25 Pen y Bryn y drws nesaf i’w frawd yng nghyfraith J. O. Williams, a’r rhyfeddod  yw na chofnododd ef anturiaethau ei gymydog er yn ddiweddarach iddo ysgrifennu nofel antur i blant am wron dychmygol yn ne America. Ni throediodd JOW gyfandir de America ond byddai defnydd anturiaethau lu yng ngogledd America wedi bod ar gael iddo petai wedi holi hynt a helynt y dyn drws nesaf.

Gwybodaeth

Diolch i Meirion Davies, Bangor a Gwilym Owen, Rhos y Nant am eu hymchwil i hanes John Evans.

Ffynhonnell

Y Cymro, rhifyn Ionawr 6ed 1940, a rhifyn Dathlu Gemau y Cymro 1932-1957 – Erthygl gan John Aelod Jones – Anturiaethau mewn tri rhuthr aur – hanes John Evans