Chwarel Pantdreiniog

Pantdreiniog cyn 1900
Map yn dangos safle chwarel Pantdreiniog cyn 1900

Un fanteision mawr stad y Cefnfaes oedd bod yr haenau llechi Cambriaidd yn brigo yn ei chanol. Anfantais fawr stad y Cefnfaes oedd bod pentref Bethesda yn gorfod cystadlu yn erbyn lledaeniad  chwarel Pantdreiniog a oedd yn cloddio am lechi ar yr un rhimyn main o dir.

 

Agorwyd chwarel Pantdreiniog yn 1805 a hon, o holl chwareli plwyf Llanllechid, ddarparodd waith am y cyfnod hwyaf o amser, er yn anghyson, dros gyfnod hanes ei datblygiad. Anfantais arall y chwarel oedd ei lleoliad gan ei bod wedi’i chywasgu rhwng stad y Penrhyn ar ochr y gogledd a’r de fel na allai ehangu i’r naill gyfeiriad na’r llall. O ganlyniad datblygwyd y chwarel i gloddio o dwll eithriadol ddwfn o 300 troedfedd yn ôl yr amcangyfrif. Yn y broses crëwyd llu o gymhlethdodau mewn safle a oedd mor gyfyng. Gyda chlogwyni mor serth yn disgyn i’r twll yr oedd amodau gwaith y chwarel yn eithriadol beryglus a chofnodwyd nifer o ddamweiniau angheuol yn ystod y cyfnodau byr y bu’n gweithio. Agorwyd y twll hyd at ffin eithaf y stad ar ymyl y gogledd a threfnwyd y tomennydd rwbel i godi ar dri gris uchel ar ymyl y de ac yn gysgod uwchlaw prif stryd pentref Bethesda. Cyn 1873 cynlluniwyd strydoedd tai ardal Brynteg i redeg yn bennaf ar echel o’r dwyrain i’r gorllewin, ond golygodd ehangiad diweddarach y chwarel at gladdu rhai o’r strydoedd cyntaf o dan y tomennydd felly newidiwyd cynllun y strydoedd newydd i ddilyn trywydd o’r gogledd i’r de. Ar ymyl ddwyreiniol y twll sefydlwyd prif lawr gweithio’r chwarel ac yno y derbynnid y dŵr o Ffos Fawr Pantdreiniog i weithio holl beiriannau’r gloddfa. I waredu dŵr o waelod y twll defnyddiwyd pympiau hydrolig cryfion i’w godi i sianel danddaearol a agorwyd yn 1873 gan The Bangor and Pantdreiniog Slate Company Limited i gyrraedd hyd at Afon Ogwen islaw Rhes y Graig. Hwn oedd y cwmni wnaeth hefyd gynllunio gallt i gyrraedd hyd at waelod y twll gyda phwysau dŵr yn ei gweithio.

Pantdreiniog cynlluniau 1
Map o safle Pantdreiniog

Yn ystod cyfnod streic fawr Chwarel y Penrhyn rhwng 1900 a 1903 yr oedd chwarel Pantdreiniog yn ennyn sylw ymhell y tu draw i ardal Dyffryn Ogwen. Byddai’n fuddiol cynnig ei hanes yn y degawd cyn y streic. Ar ddechrau’r 1890au roedd y chwarel ar brydles i John Williams, gwr oedrannus o Lerpwl, ac yr oedd diffyg trefn, menter ac arian yn llesteirio ei datblygiad. Yn 1890 derbyniodd W. J. Parry, fel asiant stad Cefnfaes, ddau adroddiad gan J.J. Evans, cyn-reolwr Chwarel y Penrhyn, yn adrodd sut y gellid adfywio’r gloddfa yn fenter lewyrchus a phroffidiol drwy fuddsoddi yn ei datblygiad. I’w hatgyfodi argymhellodd y dylid gwario rhwng £1,500 a £2,000 yn ail drefnu’r gloddfa a thrwsio’r prif beiriannau ac y dylid datblygu pen gorllewinol y gwaith am swm o £1,000 yn ychwanegol. Ymhellach argymhellodd godi cyfalaf gweithredol o ddim llai na £4,000, a thrwy osod 15 bargen a dilyn ei argymhellion, y dylai’r chwarel greu elw o £1,000 y flwyddyn, gydag elw ychwanegol o £1,000 pe datblygid pen gorllewinol y chwarel.

Twll Pantdreiniog
Twll chwarel Pantdreiniog

Yn 1893 ymunodd Parry â chyfreithiwr o Fangor, R.H. Pritchard, i geisio sefydlu cwmni oedd â’r cyfalaf angenrheidiol i adfywio’r chwarel, ac am y tair blynedd nesaf ymdaflodd y ddau i’r gorchwyl o geisio darbwyllo broceriaid yn Llundain a Chaerdydd i ymrwymo i’r fenter. Llwyddasant i ennyn diddordeb tri chwmni  ac wedi trafodaethau maith a chymhleth llwyddwyd yn 1896 i sefydlu’r Bangor Slate and Slab Co. Ltd. gan gwmni o Gaerdydd. Penodwyd Parry yn rheolwr gyfarwyddwr ar y fenter. Byrhoedlog fu ei dymor yn y swydd ac yn Rhagfyr 1897 gofynnwyd iddo ymddiswyddo oherwydd ei fod yn ymyrryd â phatrwm gwaith dyddiol y chwarel, ond yn bwysicach, gan ei fod yn mynnu buddsoddiadau uwch eu gwerth  gan y prif gyfranddalwyr yng Nghaerdydd. Bedwar mis yn ddiweddarach, ym mis Chwefror 1898, ymddiswyddodd Parry fel cyfarwyddwr wrth i drafferthion ariannol difrifol lethu’r cwmni. Yn ystod misoedd cyntaf 1899, ac ar gais y rheolwr newydd, rhybuddiwyd Parry am yr eildro i ymatal rhag ymyrryd yn nhrefniadaeth y chwarel, ond  fel asiant y stad mynnai yntau chwilio am fuddsoddwyr mwy addas a fyddai’n barod i sefydlu cwmni newydd i redeg y chwarel. Â’r cwmni yn nwylo swyddog methdaliad yng Nghaerdydd a oedd ar fin derbyn cynnig israddol am y cwmni, newidiwyd y sefyllfa’n llwyr pan gychwynnodd Streic y Penrhyn ym mis Tachwedd 1900.   Daethpwyd i drefniant  buan gyda’r swyddog a oedd yn gweithredu dros gwmni’r Bangor Slate and Slab Co. Ltd. a derbyniwyd amodau gweithio’r chwarel hyd at ddyddiad ei gwerthu pe byddai prynwr.

 

Beth oedd cymhellion Parry i geisio sefydlu chwarel Pantdreiniog?  Mewn llythyr at ei gyfaill Lloyd George mae’n egluro fod y chwarel ‘is beyond doubt one of the best properties of its size in Wales’, ac yn y cywair hwn yr oedd yn benderfynol o fynnu ei llwyddiant. Ond nid dyngarwr egwyddorol mo Parry ond yn hytrach fasnachwr hunanol, mentrus a chynllwyngar.  Yn y degawd rhagarweiniol i’r streic yr oedd bywyd personol Parry yn eithriadol helbulus gan fod dyledion ariannol difrifol yn ei lethu a’i fusnesau ar fin methdalu. O ganlyniad, ei brif nod oedd ceisio cywiro ei faich ariannol ac un o nifer o gynlluniau oedd â’r bwriad i gyflawni hynny oedd chwarel Pantdreiniog. Dengys ei drafodaethau gyda’r tri chwmni a ddangosodd ddiddordeb yn y chwarel pa mor ddichellgar y mynnai fod wrth fargeinio’n gudd er ei fantais bersonol. Amlygir ei gynllwynio yn ei ohebiaeth ynghylch trosglwyddo’r chwarel yn 1900. Meddai wrth swyddog methdaliad y cwmni wrth amlinellu amodau’r trosglwyddo – ‘you will receive 2/6 per ton on all slates produced and also 2/3 (two thirds) of the profit made on all slates sold and the other third being divided between those taking over the workings and the workmen generally pro rata according to the wages earned’. Ond amodau ychydig yn wahanol a amlygir mewn llythyr ychydig ddyddiau’n ddiweddarach at gwmni yswiriant yn Norwich. Meddai -‘I beg to inform you that from 10th December last the work at Pantdreiniog Slate Quarry has been carried on under an agreement upon the co-operative principle by a party of Quarrymen and Labourers who divide 1/3 of the profit and pay me as liquidator the other 2/3 together with royalties upon the slate made. No responsibility is attached to me as liquidator under such agree­ment in respect of accidents to workmen’.

Felly ar 27ain o Dachwedd 1900, bum niwrnod yn unig wedi i’r streic gael ei galw, cychwynnodd chwarel Pantdreiniog fel menter gydweithredol dros dro i’w gweithio gan chwarelwyr heb waith hyd nes y byddai’r anghydfod  drosodd. Er mawr ryddhad i’r ardal bu’n gweithio hyd at ganol haf 1903. Yn yr wythnosau cyntaf cyflogwyd 35 chwarelwr ac erbyn y cyfnod y daeth y cynllun i ben yn 1903 honnai Parry fod 200 yn gweithio yno. Ar derfyn blwyddyn ariannol 1902 dengys ystadegau’r cwmni fod 5,184 tunnell o grawiau, 2,563  tunnell o lechi a 55 tunnell o gerrig melin wedi eu gwerthu, y cyfan werth £35,680. Yn y mis cyntaf talwyd £120 mewn cyflogau i’r gweithwyr ond erbyn mis Mawrth 1903 swm y taliadau misol oedd £367. Am y flwyddyn gwerth y cyflogau oedd £4,749.

Treiddiodd chwarel Pantdreiniog i isymwybod pentrefwyr Bethesda fel symbol o’r gwrthryfel rhwng y cyflogwr a’r cyflogedig, ei bodolaeth yn crynhoi’r dyhead o sefydlu cymdeithas a oedd yn ymwybodol o’i thras a’i gwerthoedd, a fyddai’n coleddu meddylfryd rhyddfrydig, yn gwrthod ymostwng i awdurdod anghyfiawn ac yn gwarchod egwyddorion annibyniaeth a rhyddid. W.J. Parry, i raddau helaeth, oedd yn gyfrifol am greu’r ddelfryd gyfiawn hon. Ond wrth wneud hynny tybed nad oedd ganddo yntau agenda gudd? Yn 1897 ar derfyn y streic a ragflaenodd y streic fawr cyhuddwyd Parry o gynllwynio i ddwyn yr anghydfod i ben er ei fantais ei hun. Mae lle i gredu ei fod wedi gweithredu’n wrthgefn i Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru wrth geisio adfer ei gytundeb i werthu ffrwydron i Chwarel y Penrhyn, gan olygu iddo gael ei ddiarddel o fudiad y bu ef mor ddylanwadol yn ei sefydlu yn 1874. Fel y gellid disgwyl yr oedd hyn yn ergyd i’w ddelwedd a’i hygrededd fel ymladdwr dros iawnderau’r di-waith a’r difreintiedig. O ganlyniad, yr oedd cynnal Chwarel Pantdreiniog drwy’r streic yn gam i adfer ei statws, ac er cymaint rhagoriaeth ei gyfraniad, cyflawnai hyn drwy gynnal ymgyrch ddichellgar, gystadleuol gudd, i geisio blaenoriaeth ar gyfraniad yr Undeb i’w aelodau.

Nid dyma ddiwedd ar gyfraniad chwarel Pantdreiniog i fywyd diwydiannol a chymdeithasol Dyffryn Ogwen ond gwell fyddai trafod y cyfraniad hwnnw mewn pennod arall fydd yn ymddangos.

Ffynhonnell

Hugh Derfel Hughes. 1866. Hynafiaethau Llandegai a Llanllechid. Bethesda

J Roose Williams. 1978. Quarrymen’s Champion. Dinbych

J.Ll.W.Williams a D.A.Jenkins.  1996. Tair Chwarel ym Mhlwyf Llanllechid, Bethesda  Rhan 2. Trafodion  Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon. 57. 65-84.

J.Ll.W.Williams. 2000, W. J. Parry: Quarrymen’s Champion?  Llafur – Cylchgrawn Hanes Llafur Cymru,  8 (1), 97- 110.

Cwm Dolawen

Arsenic cwm cywion 1
Y chwarel yn Nhai Newyddion

Fel ardal  a ddatblygodd un o chwareli llechi mwyaf y byd yr adnabyddir Dyffryn Ogwen heddiw ond ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg gallasai fod wedi datblygu mewn ffordd pur wahanol  gan roi cychwyn ar ddiwydiant cemegol pur afiach yn Nant Ffrancon.  Gyda pharagraff byr o bedwar deg un o eiriau y cyfeiria Hugh Derfel at y gwaith gwenwyn, neu ‘y solfŵa’ fel mae’n ei alw, a ddatblygodd yng Nghwm Dolawen am gyfnod byr oddeutu 1837.  Ond gwell enwi’r elfen wrth ei enw mwy syfrdanol sef y gwenwyn arsenic.

Mae arsenic pur yn fwyn pur anghyffredin yn y ddaear ac mae i’w ganfod yn bennaf wedi ei gyfuno gydag elfennau eraill megis  sylffwr neu  fwyn plwm. Ei  ffurf fwyaf aml yw fel arsenopyrite, cyfuniad sy’n perthyn yn agos i aur ffyliaid, sef iron pyrites. Ac felly fel rhan o gloddfa fwy cyffredinol y datblygwyd y gwaith yng Nghwm Dolawen, sydd  wedi’i leoli yn yr hafn uwchlaw Tai Newyddion.  Yn ystod y cyfnod hwn yr oedd ymchwilwyr barus yn llygadu ucheldir Dyffryn Ogwen, fel rhannau eraill o fynydd-dir Eryri, i geisio darganfod mwynau megis copr, plwm a manganîs ar gyfer marchnadoedd diwydiant. Hwn oedd y cyfnod pan oedd ffortiwn i’w ennill pe canfyddid mwynglawdd tebyg i un Mynydd Parys ym Môn a oedd erbyn dechrau’r ganrif  yn prysur golli ei bwysigrwydd.

Criw o Saeson a oedd yn gyfrifol am y fenter yn ôl Hugh Derfel a hyd y gwyddys nid oedd gweithlu lleol yn rhan o’r gwaith.  Erys craith y mwynglawdd a’i rwbel blêr islaw haenau o graig golau ei lliw ar y llethr uwchlaw Tai Newyddion. O’r mwynglawdd cludid y graig i lan afon Ogwen i’w rhostio  yno er puro’r arsenic. Rhedai’r carthion i’r afon gan wenwyno’r dŵr a lladd y pysgod a buan iawn y rhoddwyd terfyn ar y gwaith gan fod y gweithwyr hefyd yn dioddef o grach ac anhwylder. Ac eithrio’r mwynglawdd ni cheir olion gweladwy eraill o’r fenter yn y dyffryn. Ond yn y cae rhwng y mwynglawdd a glan yr afon saif caban bychan o gerrig mewn safle gwbl ddigyswllt a diarffordd.  Pa ddefnydd a fyddai i adeilad o’r fath nid oes ateb, ond tybed a fyddai’n ffuantus meddwl bod gan yr adeilad  hwn mewn un cyfnod gysylltiad â’r fenter i ennill y gwenwyn.

Ond i ba ddiben ennill yr arsenic yn y lle cyntaf?  Cyfeirid at arsenic fel y gwenwyn  a ddefnyddid gan aelodau uchel ael y gymdeithas i ladd  eu gelynion – ‘the poison of kings’ neu ‘the kings poison’ fel y cydnabyddid ef, cyn i wyddonwyr ddatblygu dulliau o’i adnabod  mewn achosion o lofruddiaeth. Ond yn ystod  oes Victoria defnyddid arsenic mewn dull llawer mwy sidêt, ond yr un mor beryglus, yn gynhwysydd mewn eli ar gyfer cannu croen yr wyneb, yn arbennig i’w ddefnyddio gan ferched a fynnai ddangos nad oeddynt yn gwasanaethu yn  llygad yr haul.

Ffynhonnell

Hugh Derfel Hughes. 1866. Hynafiaethau Llandygai a Llanllechid. Bethesda.

  1. M. Bassett. 1974. Diwydiant yn Nyffryn Ogwen. Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon, 35. , 73-84.

Bwlch Molchi

Dyma gyfraniad gan Dafydd Fôn Williams un o awduron gwadd y wefan. Ei eiddo ef yw’r llun ardderchog o’r Bwlch.

Bwlch Molchi

Bwlch Molchi yw’r ffawt daearegol amlwg sydd rhwng Moel Faban a Moel Wnion. Mae’n ffawt rhyfeddol, gan ei fod, yn enwedig o hirbell, yn ymddangos fel petai’n waith dyn, ond, o agos, mae’n amlwg mai Oes yr Ia a fu’n gyfrifol am ei ffurfio. Roedd y gred iddo gael ei ffurfio gan ddyn mewn enw arall a roddwyd iddo gan William Williams, Llandygái, yn 1802, sef Ffos y Rhufeiniaid. Pam y byddent yn mynd i’r drafferth i’w agor, ni ellir dirnad, ac mae Williams yn gwrthod yr enw, nid ar sail pwrpas, ond ar sail y ffaith nad oes tomennydd o bridd yn ei ymyl yn dangos y cloddio.

Mae’r enw yn un rhyfedd. Clywais eglurhad lleol iddo gael yr enw oherwydd fod defaid yn cael eu golchi yno. Mae dau beth yn milwrio yn erbyn hynny. Yn gyntaf, does dim dŵr yn rhedeg drwy’r bwlch, lle gellid cronni dŵr, a does dim llyn na phwll o unrhyw faint yn ymyl, dim mwy o ddŵr nag a geir ar unrhyw ran o’r mynydd ar dywydd gwlyb. Yn ail, mae’r Gymraeg yn gwahaniaethu’n glir rhwng geiriau megis ‘golchi’ ac ymolchi’, ‘gweld’ ac ‘ymweld’, ac ati. Ymolchi yw ‘golchi eich hun’. Does dim lle i ymolchi yn nes i’r bwlch na stafell ymolchi tai gweddol gyfagos iddo!

Ar fapiau OS, ceir yr enw ‘Bwlch ym Mhwll Le’, a chlywais yr esboniad hwnnw yn lleol hefyd. Ar wahân i’r ffaith nad oes pwll yn agos i’r bwlch, nac arwydd daearyddol i un fod yno yn y mil blynyddoedd diwethaf, ychwaith, edrychwch ar yr enw. Welsoch chi erioed y fath erthyl clogyrnaidd erioed? Fyddai’r Gymraeg fyth yn derbyn ‘ym mhwll le’ yn naturiol, sy’n gwneud i rywun feddwl mai geiriau wedi eu gorfodi yn sgrechian i gaethiwed ffurf annaturiol i ‘egluro’ Bwlch Molchi ydynt.

O ble daeth y ‘Molchi, felly? Nodir, mewn mwy nag un ffynhonnell,  fod eglwys fechan wedi ei lleoli ychydig yn is na’r bwlch, ar Waen Bryn. Roedd olion o’i muriau adfeiliedig yno yn oes William Williams, a thros hanner canrif wedyn yng nghyfnod Hugh Derfel. Enw’r eglwys honno oedd Llanyrchyn, neu Llanylchi ( mae R ac L yn cyfnewid yn aml yn  y Gymraeg ). Hawdd gweld sut y byddid wedi galw’r bwlch wrth enw’r eglwys oedd yn ei ymyl. Yn wir, dyna oedd yr enw yng nghyfnod William Williams, asiant y Penrhyn, ddiwedd y ddeunawfed ganrif.

At the north end of this hill ( Moel Faban ) is a hollow, or chasm, called Bwlch Llanyrchyn’.

Fel y nodwyd, roedd amrywiad ar yr enw, sef Llanylchi. Hawdd gweld Bwlch Llanylchi yn mynd yn Bwlch Ynylchi, a, phan gollwyd y cof am yr eglwys, troes y gair anghyfarwydd ‘ynylchi’ i’r gair oedd yn gyfarwydd i’r trigolion, sef ‘ymolchi’, a’i ffurf lafar ‘ molchi’.

Ffynonellau

Hynafiaethau Llandegai a Llanllechid, Hugh Derfel Hughes.

William Williams, Observation on the Snowdon Mountains,1802.

Melin Cochwillan

Cyd awduron yr ysgrif hon yw Einion Thomas, Hendyrpeg, cyn Archifydd Archifau a Chasgliadau Prifysgol Bangor, a John Ll. W. Williams.

Y Rhufeiniaid a sefydlodd y melinau grawn cyntaf ar gyfandir Ewrop ar droad y mileniwm olaf cyn Crist, a’r cyntaf wedi oed Crist. Byth ers hynny chwaraeodd y sefydliadau hyn ran anhepgorol ddylanwadol yn economi amaethyddol cefn gwlad hyd oni i uwch fecanwaith diwydiannol y bedwaredd ganrif ar bymtheg ddisodli eu pwysigrwydd. Yr oedd y felin yn fath o symbol o lwyddiant y drefn amaethyddol oedd â phwyslais ar dyfu grawn. Roedd eu niferoedd yn adlewyrchu’r tiroedd gorau at gynhyrchu’r cnwd – cymharer er enghraifft y niferoedd uwch ym Môn mewn cymhariaeth â Gwynedd. Ym Môn, y gwynt oedd yn gyfrifol am yrru mecanwaith y felin ond yng Ngwynedd dŵr oedd yn cynhyrchu’r grym i’w gweithio.

Yn Nyffryn Ogwen sefydlwyd pedair melin, tair ohonynt ar lan yr afon Ogwen sef y Felin Isaf yn Llandygái, y Felin Uchaf yn Nhalybont, a Melin Coetmor ym Mrynbella, a’r bedwaredd ar ffrwd fechan sy’n llifo i Afon Cegin yn Felin Hen, hanner y ffordd rhwng Llandygái a Phentir. Y mae a wnelo’r nodyn hwn yn benodol â’r Felin Uchaf yn Nhalybont, neu Felin Cochwillan fel y gelwid hi gan rai, a hanes y felin hon mewn cyfnod pur chwithig yn ei hanes ar ddyddiad yng nghanol y ddeunawfed ganrif sy’n goleuo’r testun. Gwell ceisio gosod y felin yng nghyd-destun y  cyfnod, ac yn arbennig felly yn hanes stad y Penrhyn, sef perchnogion y felin bryd hynny. Yn y cyfnod hwn yr oedd stad y Penrhyn ar ganol un o’r cyfnewidiau pwysicaf yn ei hanes. Roedd yn gyfnewidiad a arweiniodd at foderneiddio ei dyfodol, gydag ymgyrch ar droed i gyfuno perchnogaeth ranedig y stad. Y cyfrannwr mwyaf dylanwadol at y trafodaethau oedd John Pennant, marsiandwr cefnog llwyddiannus a pherchennog nifer o stadau siwgr yn Jamaica, oedd â’i fryd ar asesu a datblygu potensial economaidd stad y Penrhyn i’r dyfodol. Ef oedd tad Richard Pennant, a’r mab hwn oedd i briodi merch y Cadfridog Hugh Warburton yn 1765, a thrwy hynny, nid yn unig sefydlu ei berchnogaeth ar y stad, ond hefyd cyn diwedd y ganrif wireddu ei photensial economaidd drwy ddatblygu chwarel Cae Braich y Cafn. Mae un cymeriad arall yn y stori sef Samuel Wright, cyfreithiwr yng Nghaer, ac ef oedd asiant stad y Penrhyn ers 1771.

Ond pa ran mae melin Cochwillan yn ei chwarae yn y datblygiadau uchod? Mae’r ateb yn syml, sef dim yn y darlun ehangach, ond diddorol mewn manylyn bychan disylw ar un achlysur mewn amser. Ond i gychwyn beth am y felin? Mae lle i gredu y gallasai’r felin, oherwydd ei hagosrwydd at blasty Cochwillan, ddyddio yn ôl i’r Canol Oesoedd cynnar, ond mewn llythyr sy’n ddyddiedig i 1773, cofnodir  ei bod bellach mewn cyflwr gwael a’i dyfodol yn ansicr oni byddid yn ei thrwsio. Gallasai sawl rheswm fod yn gyfrifol am ei chyflwr – diffyg cynhaliaeth gyson gan y perchnogion sy’n fwyaf tebygol, neu fod y diofalwch yn ganlyniad cyfnewid yn yr economi amaethyddol gyda’r pwyslais yn troi at fagu gwartheg yn hytrach nag ar dyfu grawn, neu mewn ardal ffiniol ei adnoddau ffisegol fod newid bychan yn yr hinsawdd yn rhwystr i dyfu grawn yn lleol. Yn arolwg Penrhyn 1768 nodir nad oedd tenant i’r felin.

Ymysg cofnodion claddu Eglwys Llanllechid ceir y cofnod moel, ‘January 25 [1778] buried William Williams, miller [i]. Dyna’r cwbl ond eto mae yna stori drist iawn tu cefn i’r cofnod hwn.

Llythyr Wright
Rhan o lythyr Samuel Wright at John Pennant, drwy ganiatâd Archifau a Chasgliadau Arbennig, Prifysgol Bangor

Ar Ionawr 31ain 1778 mewn llythyr at John Pennant dywed Samuel Wright[ii] ei asiant fod si ar led mai ef John  Pennant a fyddai yn cael ei ddewis yn Uchel Siryf sir Gaernarfon am y flwyddyn. Yn lle canmol y penodiad dywed Wright ei fod yn gobeithio y dewisir rhywun arall. Y rheswm dros hyn oedd y gallasai’r penodiad fod yn un digon chwithig i John Pennant oherwydd fel y dywed, ‘last Saturday a man was committed to Carnarvon Gaol for murdering the Miller at one of the Penrhyn mills’. Y felin oedd Cochwillan, y melinydd oedd William Williams a’r llofrudd oedd Morris Rowland, Tŷ Sclaters a oedd wedi cyfaddef i’r weithred. Yn ôl Wright y rheswm oedd cenfigen ac awydd Rowland i ddial ar Williams oherwydd ei fod yn mynd i briodi merch yr oedd ef Rowland, fwy na thebyg, hefyd mewn perthynas â hi. Am y weithred ‘doedd dim dwywaith mai tynged Rowland fyddai’r grocbren ac yn dilyn y byddai ei gorff, ‘ be hanged in Chains upon one of the mountains or Commons in Llanllechid’, y dynged arferol i unrhyw un a geid yn euog o beth a elwid yn weithred ysgeler. Yn ôl Wright  gwaith digon annymunol fyddai crogi ac wedyn wneud trefniadau i arddangos y corff mewn cadwyni, gorchwyl y byddai’r Uwch Siryf a’i ddirprwy yn gorfod ei arolygu a chan fod y llofrudd yn dod o’r ardal fe allai hyn adlewyrchu’n wael ar Pennant. Yn y diwedd, er holl ofnau Wright, ac er mawr ryddhad iddo, ni ddewiswyd John Pennant fel Uchel Siryf [iii].

Cyfaddefiad
Cyfaddefiad Morris Rowland drwy ganiatâd Archifau Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth

Ond beth am y mwrdwr? Mewn datganiad[iv] sydd hefyd yn gyfaddefiad ac wedi ei ddyddio  Ionawr 24ain dywed Morris Rowland ei fod wedi cyfarfod â William Williams yn yr odyn ger melin Cochwillan ar nos Fercher, Ionawr 21ain. Yr oedd wedi dod â gwn gydag ef â’r bwriad o’i gyfnewid am wn a oedd ym meddiant William Williams. Methiant fu’r cyfnewid ond am ryw reswm fe brynodd bâr o fenig gan y melinydd am chwe cheiniog. Wedi trafod am ychydig aethant allan o’r odyn a dechrau cerdded tuag at gartref Williams ym Mhentre’r Felin. Wedi mynd ryw ganllath aeth yn ddadl rhyngddynt a dywed Rowland iddo saethu Williams a’i glwyfo. Er ei fod wedi’i glwyfo mae Williams yn ymrafael â  Rowland cyn i hwnnw daro Williams â charreg yn ei ben fwy nag unwaith a’i ladd. Gyda Williams yn gorwedd yn gelain ar y llawr aeth Rowland drwy ei bocedi a dwyn ei oriawr, a oedd yn werth £2, ynghyd â’r gadwyn a oedd yn werth 6d a’r goriad gwerth 3d.

Dyna’n fras y cyfaddefiad a disgrifiad o’r hyn a ddigwyddodd. Nid oes sôn am y ferch, ond yn amlwg yr oedd cynnen rhwng y ddau. Yn ddiddorol, ar ddechrau’r datganiad cyfaddefa Rowland ei fod ychydig ddyddiau ynghynt, ar Ionawr 10fed wedi dwyn o siambr wely Williams un hances boced ddu , un hances boced sidan goch a gwyn ac un crafat gwyn. Yn ychwanegol, yn gynharach ar noson y mwrdwr, galwodd yng nghartref Williams a chan nad oedd i mewn aeth i’r drws nesaf i weithdy un William Griffith, saer, a dwyn dau gŷn a dau ebill, oll yn werth 5 swllt. Mae’n amlwg fod gan Rowland ddwylo blewog dros ben!

Clywyd yr achos yn ei erbyn yn Llys y Sesiwn Fawr yng Nghonwy ar ddechrau Ebrill 1778. Er ei fod wedi cyfaddef y drosedd pledio yn ddieuog a wnaeth Morris Rowland, er bod saith o’r ardal wedi eu galw fel tystion, sef, William Griffith, Ann Williams, William David, Henry Prichard, Edward Jones, Henry Ellis a William Philip. Nid oes gofnod o’u tystiolaeth – yn fwy na thebyg yr oedd cyfaddefiad Rowland yn hen ddigon i’w gael yn euog – a hynny a ddigwyddodd gyda’r Barnwr yn ei ddedfrydu i farwolaeth. Ar ddydd Gwener 24ain o Ebrill 1779 aeth Rowland ar ei daith olaf i’r grocbren. Roedd hynny yn fwy na thebyg ar y morfa yng Nghaernarfon, er fe ellid hefyd grogi yn y man lle digwyddodd y mwrdwr, er nad oes tystiolaeth i brofi ei fod wedi ei grogi ger melin Cochwillan. Yr unig dystiolaeth o’i gyfnod yn y carchar cyn ei ddienyddio yw biliau a anfonwyd i’r Llys Chwarter[v] yng Nghaernarfon gan Thomas Prichard, ceidwad carchar Caernarfon. Am fod yn y carchar am dair wythnos ar ddeg rhoddwyd dau swllt a grôt i’w gynnal yn ystod cyfnod ei arhosiad. Talwyd pedair gini i Humphrey Evans, meddyg lleol, am  ymweld â’r carcharor a thalwyd pum punt i’r Parch Robert Evans, i ymweld ag ef, ‘from the thirtieth day of January last, to the time of his execution’.  Ym mha le y claddwyd Morris Rowland, nid oes gofnod? A roddwyd ei gorff mewn cadwyni rhywle yn y plwy i bydru’n fwyd i’r brain, nid oes dystiolaeth ychwaith?

Mae’r amgylchiad, er mor erchyll, bellach yn ddibwys yn nhreigl amser. Ond mae’n adrodd cyfrolau am wynebgaledwch gweinyddu cyfraith a threfn yng nghyfnod canol y ddeunawfed ganrif. Arwydd cyhoeddus oedd y grocbren i’r werin bobl wybod eu lle yn y gymdeithas a phe meiddient â thorri ar yr heddwch yna, y grocbren fyddai eu tynged.  Mae’n bur debyg, er gwaethaf diffyg manylder y llythyr, y gallasai lleoliad y grocbren fod yn agos at safle’r cyffion yn Llanllechid, a’r ddau offeryn dialedd heb fod ymhell oddi wrth gyntedd cyfiawnder yr eglwys. Pa le bynnag y bo, yr oedd yn rhybudd gweladwy i weddill plwyfolion Llanllechid. Ond efallai, o ddarllen rhwng llinellau’r llythyr y gellir canfod llygedyn o gydwybod moesol yn y rhybudd a ddanfonwyd gan Wright i Pennant. Pwy sydd i wybod bellach, o gofio nad oedd moesoldeb ym mêr esgyrn perchennog rhai o’r planhigfeydd siwgr mwyaf yn India’r Gorllewin?

Dylid cofnodi i Felin Cochwillan weithio hyd at ddyddiad amhenodol yn hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg gan godi dŵr o afon Ogwen drwy gyfrwng y ffos fechan sy’n cyrraedd iddi o gyfeiriad y de. Fel y dengys y peintiad isod yr oedd yr olwyn ddŵr a yrrai ei pheirianwaith yn aros ar ei mur allanol hyd at bumdegau’r ganrif ddiwethaf.

Ffrangcon
Peintiad Ffrangcon Evans (1913 – 2015)  o’r felin a baentiwyd oddeutu 1950, drwy garedigrwydd Ieuan Wyn,  Carneddi

[i] Mae cofnodion claddu plwyf Llanllechid, sydd ar gadw yn Archifdy Gwynedd, Caernarfon, ar goll am ‘ryw ddeg mlynedd yn ystod y cyfnod hwn. Drwy lwc mae Cofnodion yr Esgob sydd ar gadw yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth yn gyflawn.

[ii] Papurau Ychwanegol Penrhyn, PFA/14/313.Archifau a Chasgliadau Arbennig, Prifysgol Bangor

Dewisiwyd John Rowlands, Bodaden yn Uchel Siryf am y flwyddyn 1778.

Cedwir y dogfennau yn ymwneud â’r achos ymysg papurau y Sesiwn Fawr yn y Llyfrgell Genedlaethol. Mae dau ddatganiad ar gael. Y cyntaf sy’n ddatganiad byr o’r hyn ddigwyddodd wedi ei ddyddio yn Ionawr 23ain 1778 a’r llall wedi ei ddyddio i’r 24ain sy’n hirach ac yn llawer mwy manwl. Yn ddiddorol iawn mae Morris Rowland yn cael ei ddisgrifio fel Iwmyn ac nid fel labrwr ac hefyd mae’n llythrennog gan ei fod yn arwyddo y ddwy ddogfen gyda’i enw ac nid â chroes.

[v]   Llys Chwarter Caernarfon (tymor y Drindod), Gorffennaf 17eg, 1779