Yn Arolwg y Penrhyn yn 1768 cofnodir fod tair gefail yn Nyffryn Ogwen – gefail William Pierce yn Llanllechid, gefail Joseff Pritchard yn Llandygai a gefail Robert Owen yn y Talgae, ac mae’n debyg y byddai’r tri gof yn cydweithio â Josiah Mills yn Nhyddyn Isaf ger Llandygái a oedd yn saer troliau. Rhyngddynt, bryd hynny, gallasai’r tri gof gwrdd â holl ofynion cymdeithas wledig Dyffryn Ogwen am grefft y gofaint haearn.
Ymhen llai na deng mlynedd ar hugain cyfnewidiwyd holl strwythur y gymdeithas wledig i un ddiwydiannol gan greu gofynion tra gwahanol ar arbenigedd y gofaint. Er nad oes gofnod am y gefeiliau diwydiannol cynharaf yn Chwarel y Penrhyn mae’n amlwg y byddai‘n rhaid wrth grefft y gofaint o’r dechrau cyntaf, ac erbyn 1832 aethpwyd un cam ymhellach a sefydlu ffowndri yn y Felin Fawr i ateb holl ddibenion trwm y gloddfa. Yno atgynhyrchid copïau manwl o’r holl offer a ddeuai i’r chwarel fel y gellid adnewyddu pob darn pe byddai raid o’r stoc a oedd yn bresennol. Yn 1877 adeiladwyd gweithdy peirianyddol newydd yn y Felin Fawr i gynnwys un efail fawr gyda naw pentan, a’u cynnyrch yn amrywio o greu ac adnewyddu celfi, i adeiladu wagenni a rheiliau ac i drwsio peiriannau fel bo’r gofyn mewn diwydiant arbenigol ac iddo draul trwm a garw. Trasiedi’r Felin Fawr oedd i’r siop seiri gael ei llosgi’n ddamweiniol yn 1952 ac i holl geinder patrymau pren y ffowndri, sail i fwrw pob manylyn, gael eu dinistrio’n llwyr gan roddi terfyn anurddasol i grefftwaith cenedlaethau o grefftwyr.
Erbyn canol a diwedd yr 19g yr oedd o leiaf pum gefail draddodiadol yn gweithio yn Nyffryn Ogwen. Roedd dwy ohonynt ym Methesda, un ger y Douglas, a’r llall, gefail Richard Owen, ger Teras Coetmor ym mhen arall y pentref. Roedd tair gefail ar y cyrion sef gefail Ifan Roberts yn Llanllechid, gefail William Edwards ym Mryn Bella, a gefail Tan Lôn yn Llandygái. Yn dra gwahanol i ofynion arbenigol gefeiliau’r chwarel, gwasanaeth mwy traddodiadol a geid yn y gefeiliau hyn. Roedd rhai’r cyrion yn ateb gofynion megis pedoli a thrwsio offer amaethyddol gan rannu’r gwaith gydag is efeiliau yn Nhyddyn Sarn ger eglwys y Gelli yn Nhre-garth, a gefail yn y Getws ger Talybont. Gorchwylion nid annhebyg a fyddai i efeiliau’r pentref yn trin a thrwsio cerbydau, ac yn achos gefail Richard Owen arweiniodd hyn at sefydlu garej trin ceir yn Nôl Ddafydd ar gwr gogleddol y pentref. Yn gyffredin i waith yr holl efeiliau roedd y gwaith o lunio giatiau a rheilings ar gyfer cymuned a oedd yn ehangu mewn maint a phoblogaeth. Rhai o’r giatiau hyn yw’r cofebau mwyaf niferus sy’n aros i gyfraniad cenhedlaeth o ofaint a adawodd eu stamp ar gymeriad yr ardal.

Nid oes ateb pendant i’r cwestiwn sut mae adnabod gwaith y gwahanol ofaint a oedd yn gweithio ym Methesda? Cymerer, er enghraifft, yr holl ddatblygiad tai a adeiladwyd ar gwr gogleddol y pentref o fewn cyfnod byr ar ddiwedd y 19g. Mae gatiau a reilings Rhes Gordon, Rhes Coetmor a Rhes Elfed yn rhyfeddol unffurf eu cynllun gyda rhai amrywiadau bychan. Eu prif nodwedd yw bod tri bar ar ffurf U wedi eu trosi yn ffurfio canolbwynt y giât, ac mae’r holl gyfansoddiad yn y tair stryd yn awgrymu gwaith a brynwyd yn ei grynswth gan un cwmni mawr. Yn ogystal, perthyn un nodwedd arbennig i’r holl gynllun yn Rhes Gordon, sef y trelis modrwyog sydd yn addurn ychwanegol dan fondo’r datblygiad. Tybed a oedd hyn yn rhan o un cytundeb dwsinau i roddi golwg addurnedig ychwanegol i’r holl safle? Mae’n amlwg nad Richard Owen y gof yng ngefail Dol Ddafydd gerllaw a gyflawnodd yr holl waith hwn er bod y datblygiad ar drothwy ei ddrws megis.
Cyflenwid giatiau’r fro yn ôl y gofyn, y mwyafrif llethol ar gyfer tai unigol, eraill yn glwydi i gaeau fferm, rhai yn giatiau mochyn ar gyfer llwybrau’r fro, a rhai mwy ffurfiol yn gomisiynau unigol. Gellir rhannu giatiau’r tai i ddau brif ddosbarth – y rhai plaen eu crefft a’r rhai addurnedig. Giatiau wedi eu rhybedu yw’r mwyafrif llethol, gyda phedwar bar gan amlaf yn creu’r ffrâm ond mewn rhai enghreifftiau prin defnyddir un bar ar ffurf U a’i ben i lawr a’i waelod wedi ei gau gan un bar trawst. Mae’r dulliau o gau’r clwydi yn amrywio, rhai gyda chlicied, eraill gyda bollt i dwll, rhai gyda choes sbring, a nifer bychan ar y giatiau trymaf gyda bach i’w godi oddi ar y derbynnydd.
Ifan Roberts (1885-1973) oedd gofaint Llanllechid am 60 mlynedd, ac yn olynydd i Hugh Thomas mewn gefail â’i thras yn ymestyn i’r efail yn Arolwg 1768. Gellir adnabod ei waith oherwydd ef a gyflawnodd holl giatiau fferm a chwarel Tan y Bwlch yn ogystal â nifer o giatiau i dai unigol ym mhentref Rachub. Nodweddir ei waith gan gatiau plaen a syml eu cynllun gyda fflaped o haearn yn gryfder ychwanegol ar onglau uchaf rhai o’r giatiau trwm. Mae ei grefft i’w gweld ar ei gorau yn y ddwy giât i fynedfa chwarel Tan y Bwlch, ac yn y giât mynydd sydd ar waelod yr allt fawr yn Chwarel y Foel. Tybed ai ef oedd yn gyfrifol am lunio rhai o gatiau mochyn ardal Llanllechid yn ogystal? Ar y llwybr o Bont Dolau Hirion ar y Lôn Goed i Eglwys Llanllechid mae’r un math o fflaped yn addurno’r rhan fwyaf o’r clwydi sydd yn y gatiau mochyn gyda bar ar hytrawst i atgyfnerthu’r cynllun. Mae’n annhebygol mai ef oedd gwneuthurwr y giât mynydd haearn nodedig sydd yn agor i Gwm Caseg ar y ffordd i chwarel Dr Hughes, giât eithriadol drwm a chydnerth ei gosodiad gydag addurn troellog ar ffurf palmette yn goron ar ei brig.
Y mae rhai gatiau haearn ffurfiol a grëwyd i gomisiwn yn aros yn yr ardal. Dioddefodd gatiau a rheilings o’r math hyn adeg yr Ail Ryfel Byd pan awdurdodwyd eu toddi ar gyfer dibenion milwrol. Dyma mae’n amlwg oedd tynged y giatiau i Eglwys Glanogwen, ond erys un enghraifft nodedig yn y giât osgeiddig sy’n arwain i eglwys y Gelli yn Nhregarth. Ond os am weld gwir grefftwaith y gofaint rhaid ond edrych ar y rheilings sy’n amgylchynu bedd mam W. J. Parry yn y fynedfa i Eglwys Glanogwen, gwaith a nodweddir gan ei braffter a’i gadernid.
Bu farw Elisabeth Parry yn 1864 a’r dyddiad hwn yw un o’r cynharaf y gellir ei gysylltu â chrefftwaith y gofaint yn Nyffryn Ogwen. Pe byddid am werthfawrogi crefftwaith y gofaint modrwyog yna rhaid edrych ar fireinder cyfansoddiad giat Brae Side yn Nhregarth sydd, ysywaeth, ond wedi ei diogelu ar gerdyn post o’r dauddegau.
Mae cyflwr llich-di-dafl cynifer o gatiau haearn y fro yn peri gofid, yn arbennig y rhai mwyaf distadl megis y gatiau mochyn. Yr oedd i’r rhain eu crefftwaith arbennig fel y bo’r pen crwm yn cyfateb yn union gyda’r bar gwaelod a’r rheliau yn mesur eu lle yn gyfatebol drefnus yn y cyfanwaith. Mae’r enghreifftiau sy’n gyfan bellach yn brin a fersiynau metal di gymeriad yn cymryd eu lle, a thrwy hynny mae darn o hanes Dyffryn Ogwen hefyd yn llithro i ddifancoll.
Gwybodaeth gan Wyn Roberts, Bryn Difyr, Tregarth; Andre Lomozik, Bethesda
Ffynonellau
Theo Roberts 1999. Y Felin Fawr (Chwarel y Penrhyn); ei hanes a’i rhamant. Dinbych
Andre Lomozik. Gatiau. Llais Ogwan, Mis Ebrill 2016..