Y mae gan Tai’r Mynydd arwyddocâd arbennig yn hanes cymdeithasol Dyffryn Ogwen. Yn dra anffodus er hynny, dinistriwyd adfeilion y tai ar y safle hwn mewn gweithred gwbl ddianghenraid gan berchennog nad oedd yn sylweddoli pwysigrwydd hanesyddol y safle. Y tai oedd un o’r enghreifftiau cynharaf yn Nyffryn Ogwen o’r hyn y cyfeirir ato fel pensaernïaeth nawddogol gan berchennog gwreiddiol stad y Penrhyn, Richard Pennant, Arglwydd cyntaf y Penrhyn.
Fel perchennog chwarel Cae Braich y Cafn, a oedd yn datblygu’n gyflym nepell i’r de o safle Tai’r Mynydd, mae’n siŵr y byddai Pennant wedi bod yn ymwybodol o brinder tai i gartrefu ei weithlu mewn ardal a oedd mor wledig â Dyffryn Ogwen. Wrth deithio yn yr ardal yn 1804 meddai Bingley –‘in different parts around are scattered the whitwashe cottages of the workmen, built from the designs of Mr Wyatt’, a rhwng 1790 ac 1800 cofnodir fod Pennant wedi adeiladu deugain o dai a oedd yn cynnwys chwedeg tri o anheddau byw. Mantais fawr yr arglwydd oedd fod ganddo’r cyfalaf i adeiladu tai a’i fod hefyd yn berchen ar rannau helaeth o dir yr ardal. Yn 1798 adeiladodd res o wyth tŷ ar glwt agored o’r comin ym Mynydd Llandygái. Adnabyddid y safle fel Tai’r Mynydd ac mae’r enw wedi goroesi yn enw’r ffordd sy’n arwain at y lleoliad sydd wedi ei leoli rhwng Hirdir a’r Gefnan. Terfynir y ffordd gan domennydd presennol chwarel y Penrhyn ac o’r bron na thraflyncwyd yr holl safle gan eu hymlediad bygythiol. Mae’n bur debyg mai cynllunydd y tai oedd Benjamin Wyatt, prif asiant Stad y Penrhyn yn y cyfnod. Datblygiad gwerinol iawn fyddai hwn mae’n siŵr o’i gymharu â chynlluniau cyfoesol, mwy mawreddog Wyatt yn Ogwen Banc a Phenisa’r Nant ar gyfer Anna Susannah, gwraig Richard Pennant.
Cynlluniwyd Tai’r Mynydd ar gyfer chwarelwyr cyffredin ac o’r herwydd yr oedd cynllun rheolaidd a chyson yr holl safle yn unigryw o safbwynt eu gosodiad pensaernïol. Roedd y cysyniad hefyd o dai ar gyfer y gweithwyr hefyd yn un newydd a phwysig yn hanes yr ardal. Adeiladwyd y tai yn rhes gyflawn o fythynnod un llawr syml, i gynnwys dwy ystafell a chroglofft uwchlaw. Adeiladwyd y rhes gyda cherrig bras ac roedd arnynt doeau o lechi. Roedd safon yr adeiladwaith felly yn uwch na’r anheddau gwael a geid yn rhannau helaethaf Cymru yn y cyfnod, gan gynnwys Dyffryn Ogwen. Nodwedd

arbennig y tai oedd bod stribed hir a chul o dir o flaen bob uned gan gyflawni undod rheolaidd i’r holl gynllun. Mesurai stribed yr ardd hiraf ychydig dros 55 metr o hyd wrth ddeg metr o led yn fras (18 x 3 llath). Mae cynllun rheolaidd yr holl safle yn dra gwahanol i gynlluniau bythynnod cyfredol a oedd gerllaw’r datblygiad. Mae’n wir fod gwahaniaeth sylfaenol rhwng gosodiad rheolaidd rhes o dai unffurf a bythynnod unigol , megis y rhai a safai yn gymharol agos at Dai’r Mynydd yn Braich, Talgae a Thregarth. Roedd clwt o dir afreolaidd ei gynllun ger y bythynnod hyn a fyddai’n llai nag acer ei faint. Cymharer, er enghraifft, gynllun rhif 62 yn Nhregarth oedd a dau lain perthynol yn mesur ychydig yn fwy nag un acer o faint, gydag un o’r unedau unigol rheolaidd ei gynllun yn Nhai’r Mynydd.

Mae’n ddiddorol sylwi mai yn Arolwg stad y Penrhyn yn 1768 cyfeirir at y clytiau bychan sy’n gysylltiedig â’r bythynnod fel ‘gardd’ a dyna yn ogystal oedd swyddogaeth y lleiniau hir gul yn Nhai’r Mynydd.
Sut felly y cyrhaeddodd yr aderyn brith hwn i ganol y brain ar lethrau Mynydd Llandygái? Mae’n bur debyg y dylid chwilio am gynsail i gynllun Wyatt o gyfeiriad y tu allan i Dyffryn Ogwen. Ac y mae dau ddewis posibl, y naill fel y llall heb ffeithiau i’w cadarnhau. Yn gyntaf gallasai Wyatt fod yn gyfarwydd â chynlluniau y ‘burgages’, sef gerddi y dinasyddion ym mwrdesdrefi concwest Edward y cyntaf yng Nghymru. Yng Nghaernarfon ac yng Nghricieth mesurai’r gerddi rheolaidd hyn ychydig llai nag wyth llath mewn hyd wrth bump llath mewn lled tra bo gerddi Biwmares yn wyth llath wrth oddeutu tair llath. Mae’n annhebygol, er nad yn amhosibl, y gwyddai Wyatt am y gerddi hyn, ond mae eu maint a’u lled afreolaidd yn debygol o fynd yn erbyn eu derbyn fel y llinyn mesur cywir.

Yr ail ddewis fyddai edrych tuag at stadau siwgr teulu’r Penrhyn yn Jamaica. Yn y stadau hyn yr oedd y caethweision wedi’u lletya mewn tai unigol gyda’r hawl i ddefnyddio gardd ar gyfer plannu llysiau. Er mae’n debyg nad ymwelodd Pennant yn bersonol â Jamaica yr oedd yn gyfarwydd â gweld cynlluniau map o’i eiddo yno, ac fel perchennog ystyrir ei fod yn ddylanwadol iawn yn cyfarwyddo gofalaeth ei ystadau. Dywedir ei fod hefyd yn dra ymwybodol o anghenion sylfaenol ei gaethweision o ran llety, bwyd a iechyd cymharol dda. Wedi’r cyfan, roedd pob caethwas yn fuddsoddiad ariannol i’w warchod. Yn Jamaica, yn ôl y sôn, ar derfyn pob blwyddyn derbyniai pob caethwas ddogn o rym fel math o ‘dal’ bonws am ei lafur di dal. Gallasai’r caethwas hirben werthu ei ddogn i eraill, a chyda caniatâd y perchennog, ddefnyddio’r arian i brynu rhandir ychwanegol gan roddi iddo elfen o hunangynhaliaeth yn ei ymdrechion i gynnal ei deulu, ond heb eto ei alluogi i ennill ei ryddid. Mae nifer o fapiau o blanhigfeydd John Pennant, tad Richard, yn dyddio o gyfnod 1770-75 yn Jamaica. Mae un cynllun penodol o Stad Coate’s ym mhlwyf Clarendon yn dangos yn eglur raniadau tir y stad, ac mae rhanbarth arbennig wedi’i neilltuo ar gyfer defnydd y caethweision (dynodir â W ar y map). Gwelir fod y rhanbarth hwn wedi’i rannu yn leiniau hirgul tra bo tai y caethweision mewn rhandir cyfagos (dynodir â X ar y map).

Gellir awgrymu mai y math hwn o drefniant gweinyddol o Jamaica oedd y cynsail i gynllun Richard Pennant yn Nhai’r Mynydd yn 1798 ac mai hwn oedd y cynsail o haelioni awdurdodol a ddefnyddiwyd gan stad y Penrhyn fel templed ar gyfer adeiladu y Gefnan yn 1843, ac eto yn 1862 yn natblygiad cynhwysfawr, ond unffurf, cynllun Tan y Bwlch a Llwybr Main. Fel yn Jamaica, felly hefyd ar Fynydd Llandygái, y tenant drwy ei lafur oedd yn gyfrifol am adeiladu’r tŷ a chynnal yr ardd, ac yn Nyffryn Ogwen eu ‘braint’ oedd cael byw yn y tŷ hyd at derfyn y les cyn i’r stad ail berchenogi’r adeilad. Wrth i Pennant gynllunio Tai’r Mynydd tybed faint o ymwybyddiaeth ddyngarol Samuel Worthington, ei gyfaill o Grynwr a’i gyd ddiwydiannwr o Lerpwl, a’i dylanwadodd? Ynteu ai gwell fyddai derbyn mai cymhelliad pennaf y cynllun oedd cyfrannu at hunan-les nawddoglyd Richard Pennant?
Ffynonellau
Gwybodaeth bersonol gan E H Douglas Pennant, Llandygái a thrafodaeth berthnasol gyda Rhian Parry, Porthaethwy.
Judith Alfrey. 2001. Rural Building in Nineteenth Century North Wales; the role of the great estates. Archaeologia Cambrensis,,CXLVII (1998), 199-216
A.H. Dodd 1968. A History of Caernarvonshire 1284-1900. Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon. Dinbych
Hugh Derfel Hughes. 1866. Hynafiaethau Llandegai a Llanllechid. Bethesda
Hysbysiad Cyfeirio: Ffordd y Lord – Hanes Dyffryn Ogwen