Ffos Fawr Pantdreiniog a Stryd y Dŵr

Ym mhlwyf Llanllechid yr oedd yn gwbl angenrheidiol fod gan holl fân chwareli’r plwyf gysylltiad uniongyrchol gyda ffynonellau dibynadwy o  ddŵr i’w pweru i weithio’n llwyddiannus. Ac nid oedd chwarel Pantdreiniog, y fwyaf a’r bwysicaf yn y plwyf, yn eithriad i’r gofyn hwn. Bu chwarel Pantdreiniog mewn gwaith am dros gyfnod o ganrif, ond yn ysbeidiol – plwc o weithio cyn dirwasgiad ac yna ail gychwyn – hyd nes cyrraedd ddyddiad ei chau yn derfynol yn 1907. Ond drwy gydol ei blynyddoedd ar agor yr oedd dŵr yn hanfodol i’w gweithrediad a’i llwyddiant. Afon Ffrydlas sydd gryn hanner milltir i’r de-ddwyrain o leoliad y chwarel  oedd prif, ac unig, ffynhonnell ei dŵr. Mae ceg Ffos Fawr Pantdreiniog, fel y gelwid hi ganrif a mwy yn ôl yn yr ardal, i’w chanfod yng ngheunant Cerrig y Rhyd islaw adfail bwthyn Nant y Tŷ sydd ar y lan gyferbyn a rhes tai Tan y Foel.

Yno yr oedd cafnau pren i ddechrau, ac yn ddiweddarach pibellau pridd, yn dringo’r llethr o wely’r afon i ffos agored islaw Tan y Foel i ganlyn ymlaen i Gilfodan, cyn newid yn llwybr tanddaearol i gyrraedd Allt Cafnau oedd, fel mae’r enw yn ei nodi, yn arwain y dŵr oddi yno i gyfeiriad y chwarel.  Dengys map yn 1855 fod llyn bychan yn dal y dŵr ar ymyl dwyreiniol y chwarel, a’r cyflenwad hwn a ddefnyddiwyd ymhen amser i weithio rhai o brif beiriannau’r chwarel yn ystod cyfnod cynnar ei datblygiad. Y peiriannau pwysicaf oedd y brif allt i gysylltu â gwaelod y twll ar ochr y de a’r pwmp heidrolig  ar ymyl y gogledd oedd yn gwarchod gwaelod y twll rhag cael ei foddi. Ar un cyfnod diweddarach yn hanes y chwarel yr oedd dŵr o’r Ffos Fawr yn llifo drwy gafn agored o lechi ar un ochr o Stryd y Dŵr ac yn arwain yn uniongyrchol i safle olwyn ddŵr a safai ar erchwyn gogledd y twll, a’r olwyn hon oedd yn gweithio’r pwmp islaw. Yr oedd y pwmp yn codi’r dŵr gwastraff i lefel oedd yn arwain yn uniongyrchol i Afon Ogwen islaw Stryd y Graig yn y pentref. Yn ystod cyfnod olaf gweithio’r chwarel rhwng 1903 a 1907 trosglwyddwyd  prif beiriannau’r chwarel i weithio â stem, egni o losgi glo a oedd yn llawer drytach i’w gynhyrchu na dŵr, ond yr oedd cyfraniad y dŵr lawn cyn bwysiced yn gweithio offer y pwmp. Aildrefnwyd y cyflenwad  i redeg mewn pibell ddur ar y terfyn eithriadol gul rhwng ymyl y twll a ffin eiddo’r Penrhyn i’r gogledd. O’i safle uwchlaw yr oedd y bibell yn disgyn hyd wyneb y clogwyn i weithio offer y pwmp yn y dyfnder islaw, a buan y daeth clonc riddfannol, gyson y falfiau i’w gyffelybu i anadl rhyw fod arallfydol, ac o ganlyniad cyfeirid yn barchus at y pwmp fel ‘Jac Pirs’.

Chwaraeodd y ffin rhwng y ddau eiddo ar ochr y gogledd ran allweddol yn hanes chwarel Pantdreiniog, ac yn fwyaf arbennig yn nyddiau cynnar y gloddfa. Yn wreiddiol Stad Coetmor oedd yn gymydog i stad Cefnfaes cyn iddi gael ei phrynu gan stad y Penrhyn yn 1855.  Yr oedd chwarel fechan Llety’r Adar wedi agor ar stad Coetmor mor gynnar â dechrau’r 19g ac yn cydoesi ar y terfyn gyda thwf cynharaf Pantdreiniog. Derbyniai Llety’r Adar ei dŵr o lyn bychan yn Llidiart y Gwenyn, lleoliad  i’r dwyrain o’r chwarel, a’i gronni mewn cronfa fawr ar dir uwchlaw’r gloddfa sydd heddiw yn rhan o gwrtil Ysgol Dyffryn Ogwen. Oddi yno llifai’r dŵr i weithio peiriannau’r gwaith i’w safle islaw ar ffordd bost Telford ym mynedfa’r gogledd i bentref Bethesda. Terfynwyd gweithio chwarel Llety’r Adar yn fuan yn y 19g a bryd hynny byddai perchnogion Pantdreiniog wedi bod yn hynod awyddus i dderbyn ei chyflenwad ychwanegol at ddefnydd y gwaith, ond nid oedd bosib i drefniant cymdogol o’r fath fyth ddigwydd rhwng dwy stad a oedd yn cydfyw yn anfoddog ar y terfyn â’i gilydd, ac yn arbennig felly pan hawliodd stad y Penrhyn ei statws fel y cymydog mwyaf nerthol wedi’r pryniant yn 1855.

20201030_102932
Cynllun chwarel Pantdreiniog cyn ac wedi 1903; noder mai dŵr oedd yn gweithio’r chwarel cyn 1903 a pheiriannau stem ar ôl 1903; sylwer ar leoliad pwysig y pwmp heidrolig ar ochr gogledd y twll yn nau gyfnod gweithio’r chwarel

Nid yw’r un o’r ddwy chwarel, Llety’r Adar na Phantdreiniog, bellach yn bodoli yn nhirwedd yr ardal, ond erys eu henwau fel atgof prin o’u gorffennol fel sefydliadau gwaith o bwys.  Ar y llaw arall mae rhannau o Ffos Fawr Pantdreiniog  yn aros hyd heddiw yn gofadail distadl i hanes y gloddfa, ac mae enwau Stryd y Dŵr ac Allt Cafnau yn ategu cyfraniad allweddol yr hen chwarel i economi a datblygiad cymdeithasol pentref Bethesda yn ystod y 19g

Ffynhonnell

J. Ll. W. Williams., D.A. Jenkins. 1996. Tair Chwarel ym Mhlwyf Llanllechid, Bethesda Rhan 2. Trafodion  Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon. 57. 65-84.

Lôn Las Ogwen

Mae llwybr Lôn Las Ogwen rhwng y Felin Fawr a safle hen ysbyty’r chwarel ym Mryn Llwyd yn cofnodi dau begwn yn hanes cyflogaeth yn chwarel y Penrhyn. Wrth rodio’r llwybr heddiw mae’n anodd dychmygu’r prysurdeb a fu yn y rhan hon o’r chwarel. I’r de o bont Coed y Parc lleolwyd y brif dderbynfa i holl wagenni’r chwarel a oedd yn cario’r llechi gorffenedig i’r porthladd yn aber Cegin. Y ddolen gyswllt hollbwysig rhwng y chwarel a’r dderbynfa oedd yr Allt Fawr y mae ei lleoliad yn tra arglwyddiaethu uwchlaw safle’r llwybr troed heddiw.

delwedd 3
Llwybr y rheilffordd fel yr oedd cyn 1890 yn dolennu hyd ymyl tomennydd rwbel y chwarel ond sydd heddiw yn droedffordd y Lôn Las

Ond cyn adeiladu’r allt, y ddolen gyswllt oedd y rheilffordd a redai hyd lwybr y Lôn Las heibio i’r ysbyty yn fwa wrth droed y tomennydd rwbel hyd nes cyrraedd y Felin Fawr.  Cyn dyddiau’r rheilffordd mae’n bur debyg mai hwn oedd llwybr y dramffordd geffylau o’r chwarel i’r Felin Fawr yn ogystal, ac felly mae troedffordd y Lôn Las yn cyfeirio’n ôl i gyfnod cynnar iawn yn hanes cloddfa Cae Braich y Cafn. Rhwng 1890 ac 1900 yr ataliwyd ar lwybr y rheilffordd ac y dargyfeiriwyd holl drafnidiaeth y chwarel i redeg o bonc Red Lion, prif ganolfan cynhyrchu’r gwaith, drwy’r Allt Fawr ac ymlaen i’r dderbynfa ger y Felin Fawr.

delwedd 2
Yr Alltfawr yn cysylltu rhwng prif bonc weithredol y chwarel, Red Lion, a’r Felin Fawr

Wrth droed murddun hen ysbyty’r chwarel, ar y ffordd fawr ger pont Ty’n Tŵr, saif adeiladau a oedd gynt yn perthyn i ysgol Pont Tŵr. Adeiladwyd yr ysgol yn 1830 ar lain o dir a roddwyd gan deulu’r Penrhyn a chyda cyfraniadau gan y chwarelwyr. Ar y cychwyn gweithredai fel ysgol rydd yn addysgu plant o ardal gyfagos Llyn Meurig a phentrefan Braichmelyn a oedd yn ehangu ei maint yn ystod y cyfnod hwn. Yn ddiweddarach perthynai’r ysgol i’r Gymdeithas Genedlaethol, mudiad a sefydlwyd i addysgu plant a oedd yn mynychu’r eglwys Anglicanaidd.

ysgolpont twr
Ysgol Tŷ’n Tŵr

Yn 1864 yr oedd 148 o fechgyn a 144 o enethod ar y llyfrau o dan ofal dau athro. Terfynwyd ar ei defnydd fel ysgol ddyddiol yn 1915, ac wedi hynny fe’i defnyddiwyd i amryfal ddibenion hyd nes ei throsi yn nifer o anheddau. Dywedir bod bechgyn o’r ysgol hon yn cael mynediad rhwydd i weithio yn y chwarel, ac yn ddiweddarach am gyfnod yn y 1950au ymlaen defnyddiwyd yr adeilad fel canolfan i hyfforddi prentisiaid ar gyfer y chwarel. Mae’n berthnasol cofio hefyd fod prentisiaid a ddymunai ddilyn crefftau arbenigol yn derbyn hyfforddiant ymarferol yng ngwahanol adrannau’r Felin Fawr, ac yn y chwarel ei hun yr oedd sied yr ‘hogia bach’ lle dysgid y prentisiaid sut i hollti a naddu llechi. Dyma oedd pegwn dechrau’r daith i weithio yn y chwarel, ac, yn gyffredinol, yr oedd gan y Penrhyn enw da am hyfforddi ei gweithlu ar gychwyn gyrfa.

Pegwn arall cyflogaeth y chwarel oedd y waliau tin domen sydd â’u gweddillion maluriedig i’w gweld ar fin llwybr y Lôn Las uwchlaw Grisiau Cochion. Lleolwyd y waliau answyddogol hyn, ac mae o leiaf dair os nad pedair wal i’w gweld, yn llythrennol yn nhin y domen fawr sydd yn gysgod uwchlaw llwybr y Lôn Las.

Walia tindoman1
Waliau maluriedig ar fin y Lôn Las uwchlaw Grisiau Cochion – Cwt tin doman

Yma yr oedd dynion a oedd wedi colli eu gwaith yn y chwarel am amryfal resymau yn rwbela ar y tomennydd ac yn naddu llechi o’r clytiau gwastraff yn y waliau sydd bellach yn furddynnod. Dywedir bod cerrig da yn cael eu taflu’n fwriadol dros y domen er mwyn hwyluso’r mentrau answyddogol hyn. Gallasai awdurdodau’r chwarel gau llygad i weithgaredd answyddogol o’r math hwn cyn belled â bod y cynnyrch yn cael ei werthu drwy sianelau swyddogol y gwaith fel bod y gyfundrefn yn ennill mwy na cheiniog o lafur y di-waith. Nid oedd awdurdodau chwarel y Penrhyn yn enwog am eu haelioni i’r rhai nad oedd mwyach yn gyflogedig ganddynt, ond i fod yn deg nid elusen oedd y chwarel wedi’r cyfan.

Wrth gerdded y llwybr heddiw nodweddir llechwedd serth y domen uwchlaw Grisiau Cochion gan glytiau llechfaen enfawr, rhai ohonynt, efallai, wedi eu bwrw yn gymwynasgar fwriadol ar gyfer gofynion naddwyr y waliau tin doman. Ond perthyn i gyfnod diweddarach cwmni rhyngwladol yn hanes y chwarel y mae mwyafrif llethol y clytiau hyn. Adroddir bod dymchwel y cerrig dros ymyl y domen yn bolisi bwriadol gan y cwmni, mesur pur ynfyd a oedd yn sicr yn peryglu’r tai islaw. A dyna yn union a ddigwyddodd pan rowliodd un clwt enfawr i libart cefn un o dai Grisiau Cochion gan greu braw a phryder i’r perchennog tanllyd ei dymer! Ond gwelodd y preswylydd ei gyfle hefyd, ac fel hen chwarelwr medrus ei grefft, fe naddodd y clwt yn flociau taclus a’u defnyddio, yn rhad ac am ddim, i adeiladu cwt swmpus yn lloches i’w gerbyd. Ac felly mae dau begwn cyflogaeth i’w gweld hyd heddiw ar droedffordd y Lôn Las.

Gwybodaeth

Tecwyn Hughes, Ffordd Gerlan, Gerlan; Idris Lewis, Dôlwern, Bethesda

Ffynhonnell

Hugh Derfel Hughes. 1866. Hynafiaethau Llandegai a Llanllechid. Bethesda