Persondy St Anne’s

Mae hen bersondy eglwys Santes Anne wedi’i leoli ar Allt Bryn Eglwys ac mae porthordy bychan yn gwarchod y llwybr sy’n arwain tuag ato. Adeiladwyd y tŷ yn 1864 pan sefydlwyd eglwys Santes Anne ar y bryn uwchlaw. Mae’n adeilad helaeth yn nhraddodiad persondai yr Eglwys Anglicanaidd yn yr ardal, megis Maes y Groes a Phandy Newydd yn offeiriadaeth Llanllechid neu ficerdy Glanogwen ym Methesda.

Ficerdy St Anne%27s

Preswylydd hynotaf persondy Santes Anne oedd Morfydd Eryri, gwraig y canon David Walter Thomas, ficer yr eglwys. Ganed Morfydd Eryri, neu Anna Fison i ddefnyddio ei henw bedydd, yn swydd Suffolk yn 1839, yr ieuengaf o ugain o blant. Yn dilyn marwolaeth gynnar ei rhieni fe’i magwyd gan ddwy chwaer hŷn, y naill yn Rhydychen a’r llall yng Nghaergrawnt. Er na fu yn fyfyrwraig ffurfiol yn yr un o’r ddwy brifysgol, eto cafodd ei dylanwadu gan yr aelwydydd academaidd y’i magwyd arnynt. Ar ôl teithio’r cyfandir am gyfnod a dysgu saith iaith yn rhugl, gan gynnwys Hebraeg ac Arabeg, dechreuodd ymddiddori yn y Gymraeg o dan gyfarwyddyd yr Athro Charles Williams, prifathro Coleg yr Iesu, Rhydychen. Yn 1871 priododd â David Walter Thomas a symud i fyw i Fryn Eglwys wedi iddo ef dderbyn gofalaeth a oedd werth £250 y flwyddyn. Mynnodd o’r cychwyn cyntaf mai’r Gymraeg fyddai iaith yr aelwyd, ac mewn awyrgylch a oedd ar brydiau braidd yn ormesol magodd ymhen amser bump o blant. Gyda’r un brwdfrydedd, a phenderfyniad diysgog, ymdaflodd i fywyd diwylliannol y fro gan sefydlu dosbarthiadau nos a sefydlu côr eithriadol lwyddiannus a gipiodd brif gystadleuaeth gorawl yr Eisteddfod Genedlaethol ar bedwar achlysur. Iddi hi y priodolir cychwyn gyrfa Ffrancon Davies, y canwr bas o gyrion Coed y Parc, a ddatblygodd yn un o gantorion enwocaf ei gyfnod ym Mhrydain.

Cysylltir Morfydd Eryri yn bennaf â’i chyfraniad at yr Eisteddfod Genedlaethol, yn gyntaf fel cystadleuydd a beirniad, ond yn bwysicach fel un a gyfrannodd at sefydlu gweinyddiaeth hirdymor gadarnach i’r Eisteddfod. Cipiodd y goron yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yn 1883 gyda phryddest (yn Saesneg) ar Landaf, ond yr oedd eisoes wedi dwyn sylw’r Cymmrodorion yn 1878 at ailsefydlu Cyngor yr Eisteddfod gyda Siarter Frenhinol i gryfhau awdurdod y corff. Yn 1880 cynigiodd gynllun i ddiwygio prif amcanion yr Eisteddfod drwy ganolbwyntio’r cystadlu yn benodol ar feysydd llenyddiaeth, cerddoriaeth a’r celfyddydau cain.

Ymgeisiodd am y gadair gyntaf mewn ieithoedd modern ym Mhrifysgol Bangor yn 1884 a daeth yn ail allan o ddeugain o ymgeiswyr i gipio’r swydd ac yn nhysteb un o’i chefnogwyr adroddodd fod ‘her linguistic attainment may fairly be called extraordinary’. Gadawodd Morfydd Eryri Ddyffryn Ogwen yn 1894 wedi cyfrannu’n adeiladol a helaeth at fywyd diwylliannol ei bro a’i chenedl fabwysiedig. Yr oedd ei chyfraniad yn aruthrol ond hefyd yn gwbl syfrdanol o ystyried mai merch ydoedd yn cystadlu mewn cymdeithas wrywaidd ymwthiol a chul ei gorwelion cyfnod Oes Victoria.

Ffynonellau

Roberts, Ernest.  1963. Bargen Bywyd fy Nhaid. Llandybïe.

Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion. 19 53.  Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940. Llundain.

Advertisements

Gwesty’r Douglas Arms

Gwesty%27r Douglas

Mae gwesty’r Douglas yn adeilad urddasol iawn ar stryd fawr pentref Bethesda. Mae’n glamp o adeilad gyda bargod colofnog cysgodol yn gwarchod y drws ffrynt ac arfbais unigryw ar yr arwydd uwchlaw. Mae pryd y cafodd y gwesty hwn ei sefydlu yn gwestiwn anodd i’w ateb, ond mae rhai ffeithiau y mae gwerth eu hystyried. Yn gyntaf, nid oes perthynas uniongyrchol rhwng sefydlu’r gwesty ac adeiladu’r Ffordd Bost Telford trwy Fethesda. Adeiladwyd y ffordd yn 1820 ac fe’i dangosir yn glir ar un o’r mapiau cyntaf o blwyf Llanllechid yn 1822. Er y gellir amau lleoliad rhai o’r adeiladau ar y map, nid yw’r Douglas Arms, nac ychwaith gapel Bethesda, wedi eu nodi ar y map. Tyn y Maes oedd lleoliad cyfnewid ceffylau’r goets fawr ar y Ffordd Bost ac nid y Douglas Arms ym Methesda. Yn ail, adeiladwyd y gwesty ar dir stad y Penrhyn, ac mae’r enw Douglas yn awgrymu fod yna gysylltiad uniongyrchol ag Edward Gordon Douglas Pennant, sef Barwn cyntaf y Penrhyn a dderbyniodd yr olyniaeth yn 1840 a’i chynnal hyd at ei farwolaeth yn 1886. Os cywir y cysylltiad yna byddai dyddiad sefydlu’r gwesty yn perthyn i gyfnod wedi 1840, ond mae rhyw awgrym, a bydd rhaid aros am gadarnhad ddogfennol, fod y drysau ar agor mewn cyfnod ychydig yn gynharach.

Mae gwerth ystyried dau beth arall hefyd. Adeiladwyd y gwesty i fanteisio ar gysylltiad rhyngwladol y ffordd i Iwerddon, ac efallai i’r Penrhyn fachu ar y cyfle o wneud hynny tra oedd llif y drafnidiaeth yn ei anterth, oherwydd erbyn 1854 peidiodd y gwasanaeth o Lundain wrth i’r trên gynnig dull llawer cyflymach na’r goets fawr i gyrraedd Caergybi. Sylw perthnasol arall yw mai Edward Gordon Douglas oedd y gŵr na fynnai gael tafarnau ar dir ei etifeddiaeth, er mae’n rhaid cydnabod mai fel gwesty ac nid fel tafarn y cyfrifid y Douglas Arms. Erbyn 1874 yr oedd yr holl dafarnau ar dir stad y Penrhyn wedi eu cau – yr Halfway ar Bont y Pandy, y Bardsey Island yn Rachub, y Bull a’r Red Lion yn Llanllechid, y Coetmor Arms ym M Bella, y Tŷ’n Clwt yn Hendyrpeg a’r George and Dragon yn Nhal-y-bont.

Yr unig ffaith sy’n berffaith sicr ynghylch Gwesty’r Douglas Arms yw ei fod yn bodoli yn 1855 oherwydd fe’i dangosir ar fap Johnson o ardal Pen y Bryn sy’n dyddio o’r flwyddyn honno.

Raw013
Map Johnson o 1855 yn dangos lleoliad y Douglas.Fe’i defnyddir drwy ganiatâd Archifau Prifysgol Bangor

Ymhlith y trwyddedwyr cynnar yr oedd John Hughes Shephard, a hanai’n wreiddiol o swydd Middlesex, a bryd hynny yn 1874 yr oedd y gwesty yn cynnig gwasanaeth  ‘coaches and omnibuses to and from Bethesda’. Dyna a wnâi Hannah Ellis a ddaliai’r drwydded yn 1886 gan gynnig yr un gwasanaeth ond bellach mewn cystadleuaeth â rheilffordd yr LNWR i Fethesda. Mae’n amlwg y cyfrifid gyrru coets a cheffyl yn broffesiwn llawn amser yn y pentref ac yng nghyfrifiad 1871 cofrestrwyd saith dyn a oedd yn byw ar y Stryd Fawr ac yn yrwyr o’r fath. Mae hanes hefyd y byddai plant y pentref yn croesawu rhai o’r ymwelwyr drwy ganu iddynt wrth iddynt ddisgyn o’r goets ar gyrraedd y Douglas ac wedyn byddai hen ymrafael yn eu plith wrth iddynt geisio dal yr arian a deflid i’w plith.

Wrth gwrs, pe canfyddid un ddogfen ac arni un dyddiad perthnasol, yna fe fyddai’r rhan helaethaf o’r llith hwn yn ddiwerth, ond onid yw damcaniaethu yn rhan o hudoliaeth hanes?

Cafwyd gwybodaeth berthnasol gan Catrin Wager a Brenda Wyn Jones.

 

 

 

Cronfa Ddŵr Chwarel Llety’r Adar

Mae’n amlwg nad oedd Chwarel Llety’r Adar (a adnabyddir hefyd fel Chwarel Coetmor neu Chwarel y Coed) yn un o chwareli llechi mwyaf llwyddiannus Dyffryn Ogwen. Pa ryfedd mewn gwirionedd na lwyddodd y chwarel hon oherwydd wedi iddi gael ei sefydlu yn 1797 nid yn unig bu’n dioddef o ddiffyg cyfalaf parhaol i’w datblygu ond roedd hefyd wedi’i lleoli mewn safle a oedd yn cystadlu â thwf pentref Bethesda ar ei gwr gogleddol, ac roedd wedi’i hollti gan ffordd bost Telford.

Grym dŵr a oedd yn gweithio ei holl beiriannau, ond fel yn holl chwareli plwyf Llanllechid nid oedd ganddi ffynhonnell naturiol o ddŵr yn llifo i’w chyfeiriad. Dengys nifer o fapiau o gyfnod 1855 fod dulliau arbennig wedi’u datblygu i gysylltu’r chwarel â ffynhonnell barhaol o ddŵr. Ffynhonnell y dŵr oedd Ffos Coetmor a oedd yn llifo tua’r gogledd gryn chwarter milltir i ffwrdd o’r chwarel. Yn Llidiart y Gweunydd (neu Lidiart y Gwenyn ar dafod leferydd heddiw) ar drofa’r ffos i’r gogledd sefydlwyd llyn bychan a ffos yn arwain ohono i’r chwarel. Mae’n amlwg, er hynny, nad oedd y trefniant hwn yn ddigonol ar gyfer anghenion y chwarel. I oresgyn y broblem adeiladwyd cronfa ddŵr anferthol rhwng y llyn a’r chwarel sydd eto’n un o ryfeddodau diwydiannol cudd Dyffryn Ogwen. Adeiladwyd y gronfa fel uned hirfain yn mesur oddeutu 400 medr o hyd a 25 medr o led yn un pen gan gulhau i 10 medr uwchlaw pen y chwarel. I’w diogelu amgylchynwyd y gronfa gan gloddiau pridd uchel a chysylltwyd hi ag adeilad bychan ar ei hymyl gogleddol.

OLYMPUS DIGITAL CAMERA
Cynllun y gronfa ddŵr gan Dr David Jenkins wedi’i seilio ar fap sydd yng ngofal a gyda chaniatâd Archifau Prifysgol Bangor

Yr oedd tair rhan fewnol i’r gronfa. Roedd y ddwy agosaf at Lidiart y Gweunydd wedi’u cysylltu’n uniongyrchol â’r ffos, ac uned yn yr ardal hirgul yn debygol o storio’r dŵr i’w ryddhau dan reolaeth i’r chwarel. Er nad yw manylion dosbarthiad y dŵr i’r chwarel yn berffaith eglur yn y mapiau dengys un map, er enghraifft, fod inclein a leolwyd ar ymyl y twll yn derbyn dŵr o’r gronfa. Mae map arall yn dangos fod olwyn ddŵr yn sefyll yn yr un lleoliad. Yr oedd y gronfa hon yn rhan o gaeau chwarae Ysgol Dyffryn Ogwen ( a adwaenid o barchus goffadwriaeth fel y ‘jyngl’) hyd at chwedegau’r ganrif ddiwethaf ac mae rhan fechan ohoni i’w gweld heddiw ar y llwybr rhwng Llidiart y Gweunydd a Chanolfan Hamdden Plas Ffrancon.

cronfa llety%27r adar
Gweddillion drylliedig pen dwyreiniol y gronfa ddŵr ger Canolfan Plas Ffrancon. Llun gan Irene Williams

Ffynhonnell  

Williams, J. Ll. W. a Jenkins, David A. 1996. ‘Tair Chwarel ym mhlwyf Llanllechid’, Bethesda. Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon, 57, 65-84.

Williams, J. Ll. W. a Jenkins, David A. 2010. Ffos Coetmor. ‘Ffos ddŵr gynharaf Dyffryn Ogwen’. Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon, 71. 10-28.

Chwarel cerrig hogi’r Benglog

Yn ystod yr Oes Efydd oddeutu pedair mil a hanner o flynyddoedd yn ôl yr oedd bod meddu ar galen hogi gyn bwysiced â meddu ar gyllell efydd. Ym meddau arwrol y cyfnod gosodid y galen hogi ochr yn ochr â’r gwrthrychau metel i ddynodi statws cymdeithasol yr unigolyn ac i’w baratoi ar gyfer y byd nesaf. Ar fynydd Penmaenmawr claddwyd cerrig hogi ar lawr cylch o feini hirion o’r un cyfnod, ond mewn gweithred o ddefosiwn, mae’n debyg, yn hytrach na fel symbol o arwriaeth. Mewn cyfnod diweddarach daeth y galen hogi i fod yn angenrheidiol yng nghyfundrefnau amaethyddol y Canol Oesoedd gan ddod â bri i nifer o fannau lle roedd cerrig addas i gynhyrchu’r offer.

Nid pob craig sy’n addas i’w defnyddio fel carreg hogi. Mae’n ofynnol iddi fod yn galed ac heb risialau bras yn ei chyfansoddiad naturiol fel nad yw’n amharu ar lyfnder ei defnydd fel carreg hogi. Y creigiau mwyaf addas yw’r rhai o gyfansoddiad gwaddod mân, megis llechen, ond sydd wedi eu trawsffurfio a’u crasu dan wasgedd metamorffig aruthrol. Mae nifer o safleoedd yn Eryri lle mae creigiau o’r math hyn yn rhan o’r ddaeareg ac un o’r lleoliadau pwysicaf yw mynedfa’r llwybr o Lyn Ogwen i Gwm Idwal yn y Benglog. Ar y safle heddiw saif canolfan wybodaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a thu cefn i’r adeilad, mewn agen gul, ond tra dofn, cloddiwyd y graig i gynhyrchu’r calennau.

Cyfeiriwyd gyntaf at gloddfa Nant y Benglog yn 1759 mewn llythyr gan un o Forrisiad enwog Môn, William at ei frawd Lewis yn Llundain, ond mae’n debyg fod y safle yn llawer hŷn na dyddiad y llythyr hwn. Yn yr un flwyddyn ataliwyd prydles ar y chwarel gan  Syr Hugh Warburton, etifedd hanner stad y Penrhyn, oherwydd ei fod wedi ymuno â nifer o anturwyr eraill i fwyngloddio copr yn Nyffryn Ogwen. Yr oedd y chwarel wedi ail agor erbyn i Thomas Pennant deithio drwy Eryri yn 1775-6 oherwydd mae’n dweud ‘near this place {Ogwen} is a quarry noted for excellent hones of which quantities are sent annually to London’, a cheir cofnod pellach gan ymwelydd arall fod y farchnad yn ymestyn cyn belled â Dulyn yn 1800. Erbyn 1796 yr oedd llygad blysiog Richard Pennant, Arglwydd newydd y Penrhyn ar y fenter ac roedd ei estyniad o Ffordd y Lord o Goed y Parc drwy Nant Ffrancon i Lyn Ogwen yn creu cyfleoedd am fentrau newydd. Adroddwyd bryd hynny fod llwyth llong o gerrig heb eu trin wedi’u danfon i’r Unol Daleithiau.

Yn 1801 cymerodd y diwydiannwr o Lerpwl, Samuel Worthington, a oedd yn gyfaill agos i Richard Pennant brydles am un mlynedd ar hugain ar y safle am rent blynyddol o £20 a breindal o ddeg swllt y dunnell ar y cynnyrch. Adeiladodd felin i drin y cerrig yn y Felin Isaf yn Llandygái yn rhan o’i sefydliad pwysig yno a oedd yn malu callestr ar gyfer gofynion ei grochendy yn Lerpwl. Daeth cyfnod Worthington yn gweithio’r safle i ben yn 1829 pan aeth yn ôl i ddwylo’r Penrhyn, ond nid oedd llawer o lewyrch yno hyd nes i ŵr o Hirael ym Mangor gymryd y gwaith yn 1864. Cyflogai ef hyd at saith o weithwyr ac adeiladodd dŷ ar gyfer y goruchwyliwr. Sefydlodd felin i drin y cerrig ar y safle gan ddefnyddio dŵr yr afon o Lyn Idwal i yrru’r peiriannau.

Cofnodir fel y byddai crefftwyr o ardal Hiraethog yn pwrcasu calennau o’r Benglog drwy ofyn i ffermwyr a oedd yn gwerthu nwyddau ym Methesda eu dwyn yn ôl ar eu taith gartref, ac yn yr un modd yr oedd gofyn parod am ‘Idwal hones’ cyn belled i’r de â’r Drenewydd. Ond byr fu atgyfodiad y diwydiant yn y Benglog wrth i galennau carborwndwm  ddisodli’r cerrig traddodiadol fel arfau hogi ar derfyn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Dim ond agen ddofn y gloddfa sydd ar ôl bellach yn y Benglog, a throswyd y felin yn ganolfan wybodaeth i’r ymwelwyr sy’n tyrru i’r ardal hon heddiw nad ydynt gan fwyaf yn ymwybodol o chwys a llafur gorffennol y safle.

Chwarel Carreg Hogi y Benglog
Yr agen sy’n dynodi lle’r oedd y chwarel calenni hogi

 

Ffynonellau

Bassett, T. M. 1974. ‘Diwydiant yn Nyffryn Ogwen’.  Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon 35. 73-84

Davies, Ivor E.  1976. ‘The Manufacture of Hone Stones in Gwynedd’. Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon 37. 80-86