Chwarel Llety’r Adar

OLYMPUS DIGITAL CAMERA
Cynllun y chwarel yn 1855 ar chwith eithaf y map  – Casgliad Mapiau Johnson, Papurau a Mapiau Penrhyn Ychwanegol – drwy ganiatâd Adran Archifau a Llawysgrifau Prifysgol Bangor

Adweinir y chwarel hon gan fwy nag un enw, ac yn ôl eich dewis chwi gallwch ddefnyddio Llety’r Adar, Chwarel Coetmor neu Gloddfa’r Coed fel yr enw mwyaf priodol i’ch bodd. Mae dau o’r enwau, os nad y tri, yn cyfeirio at y ffaith i’r chwarel gael ei hagor yng nghanol coedwig enwog Y Coed Mawr, sef y goedwig a roddodd ei henw i’r hen blasty ac i’r stad yn Nyffryn Ogwen.

Lleolwyd y chwarel i weithio clogwyn llechfaen enfawr a oedd yn creu rhwystr ar ymyl y gogledd o safle pentref Bethesda’r dyfodol. Agorwyd y chwarel yn 1797 gan ddau ŵr lleol yn ôl y dystiolaeth, a bu’n gweithio’n ysbeidiol dan law nifer o ddatblygwyr, rhai lleol a rhai estron, ond heb ddilyniant perchnogaeth teilwng na buddsoddiad digonol i gynnal ei llwyddiant yn yr hir dymor. Ac ar ymweliad Telford cyn 1820 â’r ardal i gynllunio ei ffordd bost drwy’r dyffryn safai’r chwarel yn segur. Bu’r gweithgaredd prysuraf yn ystod y cyfnod wedi 1820 hyd at ddyddiad ei chau yn derfynol yn 1857 pan brynwyd stad y Coetmor gan stad y Penrhyn, ac ni fyddai’r perchnogion newydd am oddef cystadleuaeth, boed fach neu fawr, i’w prif gloddfa yn y dyffryn. Yn ystod cyfnod ei hanterth un o’r datblygwyr mwyaf effeithiol oedd William Turner, perchennog chwarel lwyddiannus y Diffwys ym Mlaenau Ffestiniog, a gŵr a fu’n rheolwr chwarel Dinorwig rhwng 1809 ac 1828. Ffurfiodd ef gwmni bychan i weithio Llety’r Adar yn ystod y dau ddegau, ond un o nifer o fentrau o’i eiddo oedd hwn ac ymhen ychydig flynyddoedd gwerthodd y chwarel i gymdeithas o estroniaid o Loegr. Y cwmni hwn oedd perchnogion a datblygwyr y chwarel hyd at ddyddiad ei chau yn derfynol yn 1857.

Mae sawl cynllun o’r chwarel yn nodi ei maint eang ar ddyddiad ei chau. Lleolwyd y prif glogwyn islaw safle presennol Rhos y Coed ac Ysgol Dyffryn Ogwen gan ymestyn i gyfeiriad y gogledd yn gefn i Res Elfed a’r Lôn Newydd, sydd, wrth gwrs, yn sefydliadau llawer diweddarach ar gynllun yr hen chwarel. Lleolwyd y prif dwll islaw’r clogwyn lle saif Capel Bethania heddiw, ac yn ystod y cyfnod yr oedd y chwarel wedi cau ffurfiai bwll dwfn a pherygl yn llawn dŵr parhaol. I’r gorllewin, yn ymestyn i gyfeiriad Dôl Ddafydd ac Afon Ogwen lleolwyd y tomennydd rwbel a ddefnyddiwyd mewn cyfnod diweddarach yn sylfaen i orsaf rheilffordd Bethesda a rhai o strydoedd tai ardal gogledd y pentref. Yr oedd ffordd bost Telford, a adeiladwyd rhwng 1815 ac 1820, yn rhannu’r chwarel yn ddwy adran – rhan y dwyrain yn cynnwys y clogwyn a’r twll, rhan y gorllewin y tomennydd, gyda phont uwchlaw’r ffordd yn eu cysylltu. Yr oedd lleoliad y chwarel ar y ffin eithaf rhwng stad Coetmor i’r gogledd a stad Cefnfaes i’r de yn sicr o greu problemau dyrys i’w datblygiad. Yno ar stad Cefnfaes, ac yn cydredeg mewn amser, yr oedd chwarel fwy llwyddiannus Pantdreiniog yn cystadlu i elwa ar yr un brig llechfaen â chwarel Llety’r Adar ac yn ceisio ei ddatblygu ar y terfyn llai ffafriol i’r gogledd. O ganlyniad yr oedd y ffin gyfyng cyd-rhyngddynt yn rhwystr i ddatblygiad y naill fel y llall, gyda chwarel fwy pwerus Pantdreiniog yn manteisio i ddatblygu ei thwll hyd at eithaf y terfyn.

Fel ym mhob un o chwareli plwyf Llanllechid, ac eithrio cloddfa Tanybwlch yn Rachub, ynni dŵr oedd yn gyrru holl beiriannau chwarel Llety’r Adar, ac ar y ffin gyfyng â’r cymydog ymwthiol y drws nesaf golygai hynny greu cynlluniau arbennig i sicrhau bod cyflenwad cyson yn cyrraedd ar gyfer gofynion y safle. Gellir amgyffred maint y broblem, a’r mesurau a ddatblygwyd i’w goresgyn, mewn nifer o fapiau o’r cyfnod, ac yn fwyaf arbennig mewn map gan Johnson sy’n ddyddiedig i 1850. Gwaredigaeth Llety’r Adar oedd ei chysylltiad â Ffos Coetmor a oedd yn llifo i gyfeiriad y gogledd oddeutu chwarter milltir i’r dwyrain o safle’r chwarel. Ffos gwneud ar dir Coetmor oedd hon i gyflenwi gofynion hen blasty’r stad a oedd erbyn y cyfnod dan sylw yn prysur ddadfeilio, ond nid ffos mo hon ar gyfer uwchofynion diwydiant trwm megis chwarel lechi. Addaswyd llif y ffos i gronni mewn llyn bychan a gynlluniwyd islaw’r ffordd yn Llidiart y Gweunydd, ond mae’n amlwg nad oedd y cynllun hwn yn ddigonol ar gyfer anghenion y chwarel. Y cynllun nesaf hollbwysig oedd adeiladu cronfa ddofn, hir a main ei chynllun, i gynnal y dŵr cydrhwng y chwarel a’r llyn yn Llidiart y Gweunydd. O’r gronfa hon trosglwyddwyd y dŵr drwy fflodiart i yrru olwyn ddŵr a oedd yn gweithio’r brif allt a gysylltai gyda gwaelod y twll.

Chwarel Llety'r Adar
Chwarel Llety’r Adar yn ei chyflwr presennol wrth gefn Penrhyn Teras

Ar derfyn ei dyddiau fel cloddfa safai yn faluriedig ar drothwy pentref oedd yn ehangu’n gyflym yn hanner olaf y 19g  gan greu maen tramgwydd hyll i ddatblygiad pellach treflan uchelgeisiol ei dyhead. O ganlyniad chwalwyd rhannau helaeth o’r safle er gwella’r brif fynedfa i’r pentref o gyfeiriad y gogledd. Nodwyd eisoes leoliad Capel Bethania ar safle’r twll a’r rheilffordd a rhai o strydoedd y pentref yn orchudd ar y tomennydd, ac i’r dwyrain chwalwyd y cafn dŵr enfawr a fu dros gyfnod helaeth yn rhwystr i drefn caeau chwarae Ysgol Dyffryn Ogwen. Yn yr un modd, ar ddechrau’r ugeinfed ganrif cynlluniwyd y ffordd newydd hollbwysig o gapel Bethania i Rachub i arwain drwy domennydd a chlogwyni’r chwarel, ac am gyfnod defnyddiwyd uwch glogwyn y chwarel ym Mhen y Bonc fel safle tomen sbwriel i bentref Bethesda. Megis atgof anfelys yw gweddillion yr hen chwarel bellach, y chwarel a adnabyddid ag enw mor hyfryd, hudolus a Llety’r Adar.

Ffynonellau

Hugh Derfel Hughes. 1866. Hynafiaethau Llandegai a Llanllechid. Bethesda

Dylan Pritchard. 1942. The Financial Structure of the Slate Industry: of North Wales 1780-1830. Quarry Managers’ Journal, December, 1942

  1. Ll. W. Williams a David A. Jenkins 2010. Ffos Coetmor; Ffos ddŵr gynharaf Dyffryn Ogwen. Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon, 71. 10-28

Penardd Gron

DSC_0444 Fig 1
Map 1768 o safle Penarddgron a Siambrau Gwynion

Twmpath di-sylw iawn ydi Penardd (Garth) Gron ar godiad tir isel rhwng Ty’n Lôn a Bryn Twrw yn Nhregarth, ac yn y ddeunawfed ganrif yr oedd yn rhan o dir tyddyn bychan Tyddyn y Bartle. Bellach mae’r holl olion cyn hanesyddol oedd ar y safle wedi’u chwalu yn sgil amaethu modern ein canrif ni, ond erys eu cysgod mewn lluniau awyr o’r lleoliad.  Rai canrifoedd cyn i’r Rhufeiniaid goncro Cymru yn y ganrif gyntaf Oed Crist yr oedd yn safle i fferm fechan. Yn rhyfeddol mae cynllun y fferm i’w ganfod ym map Arolwg Stad y Penrhyn sy’n ddyddiedig i 1768, ond sydd o ganlyniad yn cofnodi dosbarthiad tir a phatrwm anheddu a berthynai i gyfnod yn agos i ddwy fil o flynyddoedd yn gynharach na dyddiad y map. Hynny yw, i gyfnod a fyddai’n cydoesi bur debyg â’r Rhufeiniaid, os nad hyd yn oed, â chyfnod cynharach yn yr Oes Haearn. Ar y map mae’r safle wedi ei ddynodi mewn cylch bychan a enwir yn rhestr enwau’r Arolwg yn Cae Pen y Bryn ac, fel mae’r enw yn ei gyfleu yn hawlio copa’r allt lle saif. Y cylch hwn fyddai prif annedd y sefydliad ac o’i amgylch mae fframwaith o gaeau bychain sy’n ategu cynllun cylchog y safle. Adroddir gan Huw Derfel, a ddisgrifiodd y fangre yn 1866, i’r cylch canol fesur oddeutu 40 wrth 32 llath mewn maint a’i fod wedi ei ddiogelu gan glawdd cerrig llydan. Yn fuan wedyn mae’n adrodd i’r cylch gael ei ddinistrio ac i gerrig y rhag-glawdd gael eu defnyddio i adeiladu waliau, tra cloddiwyd gweddill y safle i ennill ychwaneg o dir llafur. Yn ogystal cynlluniwyd fframwaith newydd i’r caeau gan ddisodli’r hen gynllun gwreiddiol.

Nid hon yw’r unig safle o’i bath yn y gymdogaeth oherwydd ychydig bellter i’r gogledd orllewin yn Siambrau Gwynion mae gwrthglawdd canolog a nifer o gaeau bychan o’i amgylch yn dynodi lleoliad fferm fechan debyg i un Penardd Gron. Lleolwyd y safle hwn eto ar gopa bryn isel ac mae cylch bychan yr annedd canolog wedi ei enwi yn Arolwg 1768 fel Bryn yr Odyn. Yn ymestyn i gyfeiriad y de orllewin o’r safle mae gwlypdiroedd eang y Wern Fawr yn ffurfio gwrthgyferbyniad trawiadol â safle cryno’r sefydliad bach ar y bryn uwchlaw.

Ond i ddychwelyd i Benardd Gron a Hugh Derfel yn arbennig, oherwydd nid dyma ddiwedd y stori. Yn dra diddorol edrydd Huw Derfel fod Penardd Gron wedi trosglwyddo ei hynodrwydd cynhanesyddol drwy gof cenedl cenedlaethau i gyfnod y ddeunawfed ganrif yn ardal Tregarth. Bryd hynny daeth y safle yn gyrchfan poblogaidd i gynnal digwyddiadau cymdeithasol ar y Sul, megis i ymladd ceiliogod, i ddawnsio, i ymladd a hyd yn oed i ddathlu’r gyfeddach feddw. Yr oedd nifer o leoliadau tebyg yn ardal Tregarth. Sonnir am Suliau Chwarel Goch a gynhelid ar dri Sabath olaf mis Gorffennaf pan oedd bragu cwrw yn gwbl angenrheidiol ar gyfer yr amgylchiad. Yno ceid gornestau tosio a phitsio gyda’r merched yn cystadlu lawn cymaint â’r dynion a’r dathliadau yn gorffen mewn rhialtwch o ganu, dawnsio ac anrhefn. Ar ddyddiau Gŵyl cynhelid gornest redeg ar Allt Cerrig Llwydion i gyrraedd at Lidiart y Talgae, gorchest a olygai ddringo dwy allt serth er ennill polyn o dybaco. Ar y Suliau gellid cicio pêl, curo bandi a dyrnu’r iâr ar Ddôl Fawr Ty’n Clwt neu Ben yr Ala, ac ar feysydd y Penrhyn cynhelid rasys ceffylau, a’r holl ornestau yn gyfleon i feddwi’n dwll ac yn esgus i ddyrnu eich cyfeillion a’ch gelynion fel ei gilydd!

Ond i ddychwelyd unwaith yn rhagor i Benardd Gron ac i hynafiaeth y safle. Edrydd  Hugh Derfel fod yno hefyd ar ymyl y cylch canolog garnedd fawr o gerrig yn gorchuddio cist gladdu, ac o agor y gist bod ynddi wrn pridd a rhwbiwr o garreg. Ac mae enw un o gaeau Tyddyn y Bartle hyd yn oed yn cofnodi ei hunion leoliad – Cae’r Garnedd.  Mae carneddau claddu o’r math hwn yn perthyn i’r Oes Efydd sef i ddwy fil o flynyddoedd yn gynharach na’r fferm o’r Oes Haearn oedd ar y safle. Mae carneddau carreg o’r math hwn yn enghreifftiau prin ar lawr gwlad, er yn llawer mwy niferus yn yr ucheldir lle nad oedd pwysau i’w dinistrio er gofyn amaethu fel yn yr iseldir. Yr oedd carnedd fawreddog o’r un math o bentwr cerrig wedi sefyll yn y Garneddwen, Bethesda, cyn i hon hefyd gael ei dymchwel yn adroddiad Hugh Derfel o’r un cyfnod, ac ysgerbwd dynol yn hytrach na chorfflosgiad mewn wrn, megis yn Penardd Gron, oedd yn y gist gladdu. Yn yr un modd saif un o garneddau mwyaf ei maint iseldir Gwynedd gerllaw safle Bryn yr Odyn, sef Carnedd Howel. Carnedd o bridd a cherrig yw hon sy’n mesur hyd at 80 troedfedd mewn cylchfesur ac mewn archwiliadau cynnar, sy’n dyddio i tua 1869, darganfuwyd wrn a theilchion llestri  sy’n perthyn i gladdedigaethau o fewn y garnedd, er mae’n debyg na ddarganfuwyd y gist fewnol o fewn y twmpath enfawr.

Y gred yn Penardd Gron oedd bod ysbrydion a’r Tylwyth Teg yn cartrefu o fewn twmpath cerrig y garnedd, ac mae’n rhyfedd meddwl fel yr oedd rhyw fath o barhad ysbrydol, prin wybodus ar gof a chadw, yn pontio traddodiadau’r gorffennol pell cydrhwng sefydlu’r safle paganaidd ym mwrllwch defodaeth cynhanes a chyfnod ei dinistrio mewn oes a oedd i fod, tybed, yn fwy goleuedig? Y rhyfeddod yw bod archwiliadau diweddar ar safleoedd claddu cynhanes yn dangos yn eglur pa mor bwysig oedd dathlu, gloddesta a dinistrio celfi personol mewn seremonïau cymdeithasol a gynhelid yn eu cynteddau, yn union fel yn y dathliadau afreolus a ddigwyddai ar erwau Penardd Gron gwta ddau gant a hanner o flynyddoedd yn ôl!

Ffynonellau

 Hugh Derfel Hughes. 1866. Hynafiaethau Llandegai a Llanllechid. Bethesda

J. Ll. W. Williams, Jane Kenney. 2013 Prehistoric Sites in Llanllechid and Llandygai in  Northern Gwynedd – a contribution using antiquarian and place name studies. Archaeoleg yng Nghymru/Archaeology in Wales. 52, 101-112

J. Ll. W. Williams. 2018/19. Reconstructing field systems in the pre-industrial landscape of Tregarth in Dyffryn Ogwen. Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon, 78, 10-20.

Capel Jerusalem

Capel Jerusalem 3
Capel Jerusalem gyda’r ardd a thŷ’r gofalwr i’r chwith

Wrth gyfeirio at gapel Jerusalem yn Y Drysorfa yn 1842 meddai Richard Jones, Abercaseg ‘bernir fod yr addoldy hwn yn un o’r rhai mwyaf, harddaf a gwerthfawrocaf yng Nghymru’, a gellir ategu’r sylw hwn gan fod y capel yn parhau yn un o drysorau pensaernïol addoldai Cymru hyd heddiw. Er hynny, gellir ei ystyried fel un o addoldai mwyaf hunangyfiawn ardal Dyffryn Ogwen.  Hwn oedd capel ‘byddigions’ y gymuned yn ystod hanner olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Trafodwyd sefydlu’r capel ar dro rhwng 1839 ac 1840 gan ddau ŵr, Owen Jones, Brynsalem, a oedd yn flaenor yn y Carneddi ac Evan Edward, Bethesda. Sefydlwyd pwyllgor a danfonwyd Cornelius Roberts, Dolawen at yr Arglwydd Penrhyn i ofyn am dir ar brydles i adeiladu arno. Bu’r cais yn llwyddiannus a derbyniwyd cytundeb dros gyfnod o drideg mlynedd. Aethpwyd ati i adeiladu’r capel yn 1841 ar lain o dir gwlyb a chreigiog, Drysni Uwch Ben yr Afon, a oedd yn rhan ddigon diwerth o Fferm Penybryn. Gwnaethpwyd y gwaith o arloesi a sychu’r gors gan fyddin fechan o wŷr ieuanc yn eu hamser hamdden – enwir naw dyn ac yr oedd gan saith ohonynt gyfeiriadau ym Mraichmelyn. Darpar aelodau oedd hefyd yn gyfrifol am adeiladu’r capel, y gwaith wedi ei rannu rhwng y crefftwyr ac aelodau’r pwyllgor a oedd yn gyfrifol am ddarparu ‘r defnyddiau ac am y cyfrifon. I dalu am y fenter casglwyd arian drwy addewidion di-log dros gyfnod o ugain mis, a derbyniwyd addewidion cychwynnol a oedd yn ychydig dros £1100. Oherwydd trafferthion yn Chwarel y Penrhyn ni ellid gwireddu’r holl addewidion a chwtogwyd y swm cychwynnol i £800. Adeiladwyd y capel ar raddfa helaeth a hynod uchelgeisiol o’r cychwyn cyntaf. Pensaer y cynllun oedd T. Evans o Fangor a mesurai’r adeilad 24 wrth 20 metr oddi , ac oddi fewn cynlluniwyd yr adeilad i gynnwys hyd at fil o seddau. Aethpwyd ati’n fuan i greu gardd a chae o flaen yr adeilad a fyddai’n deilwng o’r capel drwy gyrchu pridd o Ogwen Banc lle’r oedd tomennydd y chwarel yn prysur orchuddio’r fan honno.

Ymunodd 160 o gapel Carneddi i sefydlu aelodaeth y capel newydd. Adeiladwyd capel Jerusalem ar gost o £3041/13/0½ ac mae’n rhyfeddod fod yr holl waith wedi’i gwblhau’n wirfoddol mewn cwta flwyddyn, ac yn barod ar gyfer y cyfarfodydd agoriadol a gynhaliwyd rhwng y seithfed a’r nawfed o Hydref 1842. Agorwyd y capel gan y Parch John Jones, Talysarn gyda chymorth gweinidogion o gylch eang yng ngogledd Cymru. Yn fwy rhyfeddol fyth gorffennwyd talu’r ddyled yn llawn erbyn 1872, sef cyfanswm o £6,605 a gynhwysai dalu am yr adeilad, yr adeiladau cysylltiedig, y rhenti, y trethi a’r morgais, oll drwy gasgliadau gwirfoddol di-log a’r dull cyffredinol o dalu’n flynyddol am eisteddle yn y capel. Dechreuwyd ail lunio’r capel yn 1874/5 drwy adeiladu o’i fewn awditoriwm ar hanner cylch a llunio nenfwd addurnedig a phulpud a sêt fawr osgeiddig o bren mahogani.  Gallasai’r capel eistedd 950 o addolwyr ac ychwanegwyd porth ac iddo fwa enfawr i gysgodi’r brif fynedfa. Pwrcaswyd ffenestr lliw gan gwmni o Lerpwl i addurno cefn y porth. Holl draul yr adlunio oedd £2050, ac eto cyfrifwyd yr arian drwy glwb di-log a gorffen talu’r ddyled yn llawn ymhen pedair blynedd o’r ail agoriad swyddogol yn Sulgwyn 1875. Gyda balchder gallasai un o’r blaenoriaid ymffrostio’n falch ‘ni bu angen darlith, cyngerdd na chwrdd te i dalu dim o’r ddyled’. Fel aelwyd grefyddol ni ellir beirniadu cyfraniad capel Jerusalem i fywyd ysbrydol yr aelodau, ond gellir awgrymu yn gwrtais mai cyfraniad sefydliadol ‘sidet’ ydoedd ar rai amseroedd yn hanes yr eglwys.

New Picture (31)
Llun oddifewn i’r capel

Mewn capel a oedd mor unigryw ei gynllun ac mor ganolog ei leoliad ni ellir honni fod ei gyfraniad ehangach i gymdeithas Dyffryn Ogwen yn fwy nodedig, ac efallai yn llawer llai, na chyfraniad capeli eraill yn y gymdogaeth.  Nid oedd yno draddodiad cerddorol enwog megis yn eglwys Llanllechid neu gapel Carneddi, er y sefydlwyd côr i ganu yn y moddion. Serch hynny pwrcaswyd organ reiol i arwain y canu yn 1905 ac ar y dechrau defnyddiwyd ffynhonnell dŵr y gors i wyntyllu ei phibau. Cynhelid Ysgol Sul hynod lewyrchus yn y capel ond eto yng nghapel Bethesda y cynhelid ysgol Tan Capel, er bod Jerusalem wedi cyfrannu’n ariannol at ei sefydlu. Ac yn ystod y Streic Fawr tawel iawn oedd ymyrraeth yr eglwys yn yr heldrin mewn cymhariaeth â chefnogaeth gyhoeddus gan rai o weinidogion ymneilltuol yr ardal. Ac yng nghapel Bethesda y sefydlwyd eisteddfod y plant a wnaeth ddwyn bri cenedlaethol i’r gymdogaeth. Nid ymddengys chwaith fod y capel yn ddylanwad ysol yng nghynteddau cyfundrefn enwad y Methodistiaid Calfinaidd yng Nghymru, ac ni adnabyddid gweinidogion cynnar yr eglwys fel pregethwyr, diwinyddion neu weinyddwyr nodedig oddi allan i gylch cyfyng a pharchus eu presenoldeb plwyfol. Yn wir parhaodd gweinidogaeth y Parch Thomos Roberts yn ddifwlch yn Jerusalem o 1866 hyd at 1899.

Gellir awgrymu felly mai dyletswydd capel Jerusalem oedd bod yn gyson geidwadol gul gyda’r pwyslais ar barchusrwydd o beidio tramgwyddo a chynhyrfu’r dyfroedd. Mae’n debyg fod sawl rheswm i gyfrif am hyn. Gellir nodi natur ddethol y gynulleidfa; gellir nodi balchder yr eglwys yn ei harddwch sefydliadol; gellir nodi pwyslais y swyddogion ar ariannu dyled yr adeiladu a’r ail adeiladu; gellir nodi, fel sefydliad ar brydles gan stad y Penrhyn, yr amharodrwydd  i dramgwyddo perchennog y tir. Mae’r rhain oll yn rhesymau dilys ond gellir priodoli’r prif reswm, efallai, i gryfder a grym awdurdodol y blaenoriaid a arweiniodd yr eglwys o’i chychwyn cyntaf. Mae’n amlwg nad oedd amgylchiadau sefydlu’r capel yn hawdd a bod y blaenoriaid cynharaf yn sicr o dan bwysau enfawr. Bryd hynny cofnodir agwedd anhrugarog blaenor blaenllaw, Thomas Jones, Bryn Llwyd, dyn a ddisgrifiwyd fel ‘gŵr llym a garw y byddai troseddwyr yn arswydo rhagddo’, pan gyhuddodd ddau o’i gyd flaenoriaid o lwfrdra oherwydd iddynt ymfudo i’r America yn hytrach nag aros i ysgwyddo baich y ddyled. Blaenor mwyaf dylanwadol y cyfnod, a gŵr a fu’n driw i’w ddyletswyddau yn yr eglwys am hanner canrif o 1842 ymlaen, oedd Robert Parry, arweinydd y chwarelwyr yn streiciau Chwarel y Penrhyn yn 1865 ac 1874. Adnabyddid y gŵr hwn fel ‘Y Llywydd’, dyn cadarn, gyda llygaid braidd yn llym, a gŵr ‘i’w ofni i’r cryf yn gystal â’i fod yn amddiffyn i’r gwan’ yn ôl un disgrifiad ohono.

Robert Parry
Llun o Robert Parry

Ond beth, efallai, oedd ymateb yr eglwys i gampau diplomyddol y gŵr hwn o gofio na fyddai yn gymeriad wrth fodd awdurdodau’r Penrhyn?  Ceir un ateb yn ysgrif gŵr anhysbys, ond diacon bur debyg, a gofnododd yn gampus hanes pum deg mlynedd cyntaf yr achos yn Jerusalem. Tra oedd yn amlwg yn ymwybodol o ‘hawliau cyfiawn’ y gweithwyr oedd yn ‘sefyll allan’ yn 1865, eto yr oedd yn bryderus fod swyddogaeth ddiwydiannol a swyddogaeth eglwysig yn mynnu tarfu ar weithgaredd ysbrydol y capel. Yr oedd hefyd yn dra ymwybodol o dactegau llechwraidd y gyfundrefn o danseilio ymdrechion y gweithlu ac yn feirniadol o bolisi’r oruchwyliaeth ‘mai’r ffordd i drin y Cymro ydoedd gwasgu ar ei boced’.  Ond eto daw i’r casgliad yn 1874 ‘nid oes a fynnom ni a’r cweryl, nag am ddoethineb neu annoethineb y pleidiau, digon yw dywedyd i’r gweithwyr yr holl amser yma gael cydymdeimlad y wlad yn gyffredinol a’u cynhorthwy yn sylweddol – iddynt ymddwyn yn weddus, na chafwyd hwy yn droseddwyr cyfraith y wlad, nag achosi terfysg mawr un modd;  ac i Robert Parry ddangos doethineb, a medrusrwydd  anarferol yn rheoli cynifer o ddynion dan y fath amgylchiadau a’u cadw o fewn terfynau gweddusrwydd’. Efallai nad oes tegwch mewn derbyn fod barn un dyn yn gyfystyr ag agwedd y ‘capel’ yn ei gyfanrwydd, ond o ddarllen rhwng y llinellau gellir amgyffred parodrwydd y sylwebydd i gadw’r ddysgl yn wastad rhag creu unrhyw drallod cymdeithasol neu, yn llawer gwaeth, rwyg yn yr eglwys. Troedio’r llwybr cul didramgwydd oedd y nod gyda’r canlyniad fod gweddusrwydd yn bwysicach nag egwyddor.

Tybed beth fyddai ymateb gŵr mor deg a chadarn ei argyhoeddiadau â Robert Parry i’r anghydfod blin yn 1940 pan orfu’r blaenoriaid i‘r Parch Thomas Arthur Jones ymddiswyddo o ofalaeth yr eglwys? Craidd yr anghydfod oedd cais gan y Cyngor Sir i ddefnyddio ystafelloedd gwag y capel fel ysgol ddyddiol dros dro ar gyfer plant o Lerpwl a ddanfonwyd  i’r pentref i’w gwarchod rhag y rhyfel. Dewisodd y gweinidog ganiatáu’r cais, a dewisodd y blaenoriaid ei wrthod, ac yn ddisymwth diswyddwyd y gweinidog – enghraifft arall o rym a phenderfyniad sêt fawr gul ei gorwelion i weithredu’n llym a digyfaddawd. Gallasai parchusion y sêt fawr gyfiawnhau eu gwrthodiad drwy ddatgan fod adeiladwaith y tŷ yn gysegredig, ac mai i bwrpas crefydd yr adeiladwyd y capel. O ddehongli’r penderfyniad yn fwy cignoeth awgrymir fod balchder yn yr adeilad yn bwysicach na graslonrwydd y moddion cysegredig a oedd i’w cynnig ynddo.

Tybed ai dylanwad gwarcheidiol swyddogion yr addoldy oedd y prif rwystr i atal capel Jerusalem yn y gorffennol rhag cyfrannu’n helaethach i gymdeithas ehangach Dyffryn Ogwen?  Yr eironi mawr, serch hynny, yw mai capel Jerusalem, o holl addoldai anghydffurfiol yr ardal, yw un o’r unig dri sydd bellach yn cynnig moddion gras i holl gymuned Dyffryn Ogwen yn y flwyddyn 2020.  Rhyfedd o fyd!

Diolch – i Andre Lomosik, Brig y Nant, Heulwen Roberts, Ystradawel, Idris Lewis, Dolwern a Dafydd Roberts, Cae’r Wern, am eu cyfraniadau i’r nodyn hwn.

Ffynonellau

Llawysgrif heb awdur a dyddiad – Crynodeb – Hanes Dechreuad a Chynnydd yr Achos Methodistaidd yn Jerusalem. Llawysgrif ym meddiant Dr Dafydd Roberts, Cae’r Wern.

John Owen 1992. Dathlu Canrif a Hanner Jerusalem, Bethesda, 1842-1992. Dinbych

D Huw Owen 2005. Capeli Cymru. Talybont, Ceredigion. 41—42

Cyflog Chwarelwr

IMG_20200618_091259
Dalen yn cofnodi enillion Hugh Hughes ym mis Gorffennaf 1876 – llun drwy garedigrwydd Heulwen Roberts, Ffordd Bangor

Nodyn anorffenedig sy’n dilyn oherwydd mae’n trafod pwnc dadleuol, sef beth oedd cyflog chwarelwr yn Chwarel y Penrhyn yn ystod cyfnod Oes Victoria. Mae’r nodyn yn seiliedig ar gyfrol sy’n cofnodi enillion manwl un gweithiwr yn y chwarel dros gyfnod o flwyddyn yn ymestyn o fis Hydref 1875 hyd fis Awst 1876. Ac er mor eglur yw manylder y dystiolaeth mae’n anodd iawn ei ddehongli fel adlewyrchiad cywir o gyflog y gŵr sydd dan sylw.

Mae clawr allanol y gyfrol yn nodi’r manylion canlynol – rhif, 0300; lleoliad, Ponc Sebastapol; marciwr,  J. Griffith. Llafur gŵr o’r enw Hugh Hughes (Rhif 310) a gofnodir ar 24 tudalen gyntaf y gyfrol ac yna yn ddisymwth, heb unrhyw eglurhad, mae’r manylion yn terfynu ym mis Awst 1876. Llenwir gweddill tudalennau’r llyfr gyda chyfrifon oddeutu 36 chwarelwr o bonc Sebastapol sy’n ymestyn dros gyfnod estynedig o fis Gorffennaf 1906 hyd fis Awst 1909, ac er mor fanwl y dystiolaeth ni chofnodir y cyfansymiau ariannol a dalwyd am waith y dynion hyn. Felly, dogfen Hugh Hughes yn unig sy’n berthnasol i’r nodyn hwn.

Oddieithr i’w enw a’i rif yn y chwarel, ni cheir manylion ychwanegol am y gŵr hwn, am ei deulu na chyfeiriad ei gartref. Mae’n amlwg mai holltwr a naddwr ydoedd wrth ei waith ac yn ôl tystiolaeth yr ystadegau roedd yn ŵr arbennig o gyson yn ei grefft. Oddi fewn i’r gyfrol mae’r tudalennau wedi eu hargraffu i gofnodi llafur Hugh Hughes dan dri phennawd – y blociau a gyflawnwyd; y lechi gradd gyntaf  a orffennwyd; y llechi ail a thrydydd gradd a gwblhawyd. Nodir o dan y penawdau fesur pob llechen a naddwyd, a’r pris am y nifer a gyflawnwyd, ac mae cyfanswm y prisiau am yr eitemau hyn wedi eu cyfrif. Ychwanegir y cyfansymiau unigol i gyrraedd at un cyfanrif terfynol am yr holl waith a gwblhawyd. Yn y cyfnod o dan sylw derbyniodd ddeuddeg taliad misol, yr arian i’w dalu am bob pedair wythnos o waith.

Mae’r symiau a nodwyd yn enw’r derbynnydd yn weddol gyson yn amrywio rhwng £6/17/1¼  (taliad Ionawr 26, 1876), a £14/13/4 (taliad Rhagfyr 29, 1875, sef y mis blaenorol). Mae’r taliad olaf o £3/5/0¾ ym mis Awst 1876 yn eithriadol isel, ond deg diwrnod yn unig o waith a gyflawnwyd gan Hugh Hughes i ennill yn swm hwn. Cyfanswm yr arian a enillwyd ganddo am ei lafur dros gyfnod o 42 wythnos oedd £123/10/2¾ ond yr oedd wedi gweithio yn eithriadol galed i ennill y swm hwn.

Ar ddiwedd pob mis, ac ar waelod pob tudalen, cofnodir cymal newydd o dan bennawd cyfansawdd  – poundage, yards, tonnage, assistance – sy’n cynnwys, hyd y gwelir, gyfanrifau’r holl eitemau unigol a gynhyrchwyd. Ar sail hyn cyflwynir pris ychwanegol sy’n llawer mwy na’r pris a nodir am y llafur gwreiddiol gan Hugh Hughes. Amrywia’r symiau o £12/4/9 ar ei isaf i £23/9/2 ar ei uchaf. Ni dderbyniodd arian ychwanegol y poundage ym misoedd Mehefin a Gorffennaf ond ym mis olaf ei lafur nodir swm ychwanegol o £8/17/6½ i’w enw. Cyfanswm arian y poundage dros 42 wythnos oedd £181/15/3½. Mae’n anodd dehongli sut yr oedd yr arian atodol hwn yn cael ei gyfrifo’n gywir, a’r rhesymeg am ei adnabod fel swm ar wahân cyn cael ei gyfuno gyda’r taliad sylfaenol, onid ei fod yn cynrychioli bonws y ‘cyfri mawr’ ar ddiwedd cyfnod penodol o waith.

Yn y cyfrifiad terfynol ar ddiwedd pob mis cyfunir pris llafur Hugh Hughes gyda phris ychwanegol y poundage, ac o ganlyniad, mae’r symiau a gofnodir am y deuddeg mis yn amrywio rhwng £36/11/3¼ ar ei uchaf a £24/9/8 ar ei isaf ond yn disgyn yn sylweddol is yn wythnosau olaf ei lafur. Dros gyfnod o 42 wythnos derbyniodd Hugh Hughes gyflog yn agos at £305/5/6¼ a olygai fod ei gyflog misol oddeutu £26/8/0 sef ychydig dros £7 yr wythnos. Mae’n berthnasol ystyried beth fyddai’r prif ofynion ar gyflog, megis un Hugh Hughes, i gyrraedd at safon cymharol gyffredin o fyw yn y degawd o 1870 ymlaen? Gyda dros fil a hanner o weithlu chwarel y Penrhyn yn byw mewn eiddo a oedd ym mherchnogaeth y stad yn 1873 disgwylid i’r prydleswr dalu rhent blwyddyn o rhwng £1 a £6 ar yr eiddo, y swm yn ddibynnol ar faint a chymwysterau’r annedd.  Taliadau rhywbeth yn debyg a ddisgwylid ei dalu ar dai ym meddiant stad y Cefnfaes ym Methesda. Roedd y tai hyn yn rhesi unffurf heb gymhwyster gardd neu nifer bychan o aceri fel yn nhyddynnod Mynydd Llandygái er enghraifft. Mewn erthygl yn y Caernarvon and Denbigh Herald, dyddiedig Rhagfyr 13eg,1873, cyhoeddwyd amcangyfrif o gostau byw mis i deulu yn cynnwys gŵr, gwraig a phum plentyn.

£ s p
Rhent @2/6 10 0
Bara 2 0 0
Glo 12 0
Cig 8 0
Sach tatws                                            7 7 0
Dillad 12 0
Menyn 3phwys &20c yr wythnos 1 0 0
Llefrith 2 0
Siwgr 3ps @4c yr wythnos 4 0
Te 1½ps 4 6
Canhwyllau 1½ps @4c yr wythnos 2 0
Cyfanswm 6 1 6

O ystyried y manylion hyn mae cyflog misol Hugh Hughes, ar yr olwg gyntaf, yn caniatáu y byddai chwarelwr tebyg iddo gyda’r gallu i gadw ei deulu yn weddol gyfforddus dan yr amodau a gyflwynwyd yn y papur newydd. Awgrymir y byddai ganddo beth arian mewn llaw i brynu efallai anghenion hanfodol, neu hyd yn oed i gelcio ychydig os oedd yn byw yn fforddiol. Mae’n wybyddus fod chwarelwyr darbodus yn buddsoddi arian mewn llongau masnach, llechi’n arbennig, a bod hyd yn oed gwmni llongau arbenigol yng Nghaerdydd wedi ei sefydlu i dderbyn buddsoddiadau o’r fath.  Eithr un olwg ar enillion y chwarelwr a fyddai hyn, yr enillion pan fyddai llewyrch yn ei ganiatáu, ond nid dyna fyddai canlyniad cyson pob mis gwaith fel y dengys enillion Hugh Hughes yn ei dri mis olaf mewn cyflogaeth. Ni wyddom beth oedd amgylchiadau’r gŵr hwn, na beth oedd y rhwystrau i atal ei gyflog  –  salwch, anaf, bargen wael, tywydd anffafriol, anghytundeb gyda’r meistri – yr amodau cyfnewidiol personol a gwaith a fyddai’n arwain at gyfnod llai llwyddiannus, yr union ansicrwydd mewn telerau a chyflogaeth a oedd yn feini tramgwydd i sefydlu cymod diwydiannol yn y chwarel.

Os cywir y dadansoddiad uchod yna mae’n werth ystyried y canlyniad yng nghyd-destun hanes trofaus y cyfnod dan sylw. 1874 oedd y flwyddyn y torrodd streic allan, a barhaodd am naw wythnos, lle’r oedd pwnc cyflogaeth a chyflogaeth deg yn gymal canolog yn y gofyniad – yr hawl i dderbyn cyflog safonol o 30s yr wythnos, 27s ar fargen sâl pe na byddid yn cyrraedd y cytundeb ar y fargen; mewn geiriau eraill math o gytundeb i dalu isafswm cyflog. Arweiniodd y streic at arwyddo cytundeb hollbwysig Pennant-Lloyd, siarter a oedd yn gwarantu talu pris uwch am gynhyrchu llechi, ond yn bwysicach fyth, efallai, gytundeb a oedd i gychwyn cyfnod o gymod mewn cysylltiadau diwydiannol yn y chwarel. Digwyddai’r cyfnod rhwng 1875 ac 1879 fod yn flynyddoedd o chwyddiant yn y farchnad lechi, ond erbyn 1879 lledodd dirwasgiad yn y diwydiant at gwtogi 20% o gyflogau’r gweithlu yn chwarel y Penrhyn ac i wythnos waith o bedwar a hyd at dri diwrnod. Hwn oedd hefyd y cyfnod pryd y trefnwyd mai contractwyr fyddai’n rhedeg y chwarel, dull newydd tra atgas a ystyrid gan y gweithlu i danseilio eu hunaniaeth a’u proffesiynoldeb. Yn 1885, gwta ddeg mlynedd o’i sefydlu, diddymwyd cytundeb Pennant-Lloyd, mesur a oedd i arwain at y cyfnod mwyaf helbulus yn hanes y chwarel ac i gyfres o streiciau eithriadol  niweidiol i’r diwydiant. Yn ganolog yn y streiciau hyn yr oedd bustl anorffenedig cyflogaeth deg yn ymwthio i’r brig, ac yn streic 1896/97 y cais oedd am ychwanegiad cyflog wedi ei bennu ar  bris o 5s/6c y diwrnod gyda gostyngiad i 4s/6c pe methid a chyrraedd y targed ar y fargen. Ac ystyfnigrwydd di-syfl y perchenogion i ystyried talu cyflog teg i’r gweithlu a arweiniodd yn y diwedd at streic niweidiol 1900/03.  Ac felly, un enghraifft o’r ataliad ansymudol hwn oedd mater cyflogaeth Hugh Hughes yn 1874.

Noder: I Idris Lewis, Dolwern, mae’r diolch am achub y gyfrol hon rhag cael ei dinistrio. Bydd Idris yn cyflwyno’r gyfrol i feddiant Archifdy Gwynedd yng Nghaernarfon yn y dyfodol agos.  Diolch hefyd i Dafydd Roberts, Cae’r Wern am fwrw golwg ar y nodyn.