Penrhyn Teras

Penrhyn Teras

Penrhyn Teras yw’r rhes uchel o dai tri llawr sy’n croesawu teithwyr i Fethesda ar ffordd bost Telford o gyfeiriad y gogledd. Adeiladwyd y teras i gynllun tebyg i’w gymar cynharach Ogwen Teras ym mhen arall y pentref sy’n llawer mwy gosgeiddig ei osgo gyda’i dro trawiadol. Nodwedd amlycaf Penrhyn Teras oedd ei adeiladwaith mewn brics coch . Roedd felly yn dra gwahanol ei wneuthuriad i adeiladu traddodiadol yr ardal. Mae adeiladu’r teras yn  dyddio i gyfnod ychydig yn gynharach na dyfodiad rheilffordd yr LNWR i Fethesda ym mis Awst 1884. Mantais fawr y teras oedd ei hagosrwydd at yr orsaf a olygai mai’r tai hyn a gyflwynai’r argraff gyntaf o bentref Bethesda i ymwelwyr. Cynlluniwyd y teras i guddio craith amlwg hen chwarel lechi Llety’r Adar, ac o ganlyniad gellid barnu ei bod yn ychwanegiad cadarnhaol i fywiogi mynedfa i’r pentref a oedd cyn hynny yn llwydaidd ac yn ddiolwg.

Penrhyn Teras 5Yng nghyfrifiad 1891 gallai’r teras ymfalchïo mewn rhestr bwysfawr o ddinasyddion a masnachwyr uchelgeisiol a gynhwysai ddau feddyg teulu, clerigwr, athro cerdd, dau gigydd, ysgolfeistr, grosar, a gwerthwr glo ymysg eraill. Erbyn degawd cyntaf yr ugeinfed ganrif efallai mai Penrhyn Teras oedd rhan bwysicaf stryd fawr y pentref gan ei bod yn cynnig amrywiaeth o siopau, ac yn eu plith un gwesty. Erbyn 1910 pan gyhoeddwyd y Borough Pocket Guide cyntaf i Fethesda yr oedd pedwar o brif hysbysebwyr y rhifyn yn arddangos lluniau o’u heiddo yn y teras a’u sylw yn pwysleisio fod pwysigrwydd masnachol y pentref wedi gogwyddo bellach oddi wrth Ogwen Teras tuag at y pen gogleddol mwy ffasiynol.

Penrhyn Teras 2
Hysbyseb o’r Borough Guide

Yr adeilad mwyaf awdurdodol yn y rhes oedd y Bethesda United Club a ffurfiau’r talcen deheuol (gweler hefyd erthygl Y Caffi gan Idris Lewis o 1 Medi 2018). Yr oedd gan yr adeilad hwn gantel urddasol yn llechu’r fynedfa, ac esgynnid i’w gyntedd drwy ddringo tair gris garreg o’r pafin islaw. Cynlluniwyd yr adeilad i gynnig amrywiaeth o gyfleusterau diwylliannol ac adloniadol a gynhwysai lyfrgell, ystafell ddarllen, ystafelloedd cyfarfod, darlithfa ac o leiaf ddwy ystafell ar gyfer chwarae biliards, a hyn oll yn ymestyn dros dri llawr. Ar y llawr isaf yr oedd siop ddanteithion a chartref y gofalwr. Yn 1903 yr oedd yr adeilad dan reolaeth y Bethesda United Club gyda phwyllgor dan gadeiryddiaeth prifathro cyntaf yr Ysgol Sir, D. J. Williams, yn gyfrifol am ei redeg. Cynlluniwyd yr adeilad yn wreiddiol gan Yr Arglwydd Penrhyn i fod yn Glwb Ceidwadol y pentref gyda chaffi yn rhan ohono. Yn ystod cyfnod y Streic Fawr yn 1900 chwaraeai ran flaenllaw fel canolfan i’r rhai a wrthwynebai’r streic. Yno y lletywyd y militia ar eu hymweliadau â Bethesda yn ystod terfysgoedd cynnar 1900, ac o bryd i’w gilydd yr oedd yn ddinas noddfa i’r dychweledigion hynny a fynnai weithio yn groes i egwyddor y streic. Cyfeirid at yr adeilad fel y ‘Cafe’ ac yr oedd yn un o dri lle a roddai loches i’r ‘bradwyr’ ar y stryd fawr. Y ddwy ganolfan arall answyddogol oedd tafarndai y Waterloo a’r Victoria gyda’i labedi Prydeinig. Preswylydd y ‘Cafe’ oedd Persi Jones a thrigai Robert Lloyd yn y Victoria, y ddau yn chwarelwyr a’r ddau yn aelodau brwd o bwyllgor dethol a frwydrai dros gryfhau mesurau i ddiogelu’r rhai a fynnai weithio drwy’r anghydfod. Yr oedd y ddau hefyd yn llofnodwyr y llythyr a ymddangosodd yn y wasg yn diolch yn raslon am y bunt wasaidd a gyflwynwyd i’r dychweledigion gan yr Arglwydd Penrhyn yn 1900 , y bunt a adwaenid yn ddirmygus fel ‘punt y gynffon’. Bid hynny fel y bo, efallai mai ymdrech i adfywio delwedd anghymdeithasol y ‘Cafe’ oedd sefydlu yr ‘United Club’ yn 1903 fel mae enw’r sefydliad newydd yn ei gyfleu.

Penrhyn Teras 4Masnachwr mwyaf llwyddiannus a brwdfrydig y teras efallai oedd  T.J. Roberts , Castle House gyda’i ‘bazaar’ gwerthu pob peth o enweiriau i lestri tsieni, ac o dorri gwallt i deganau plant, a hyn oll am chwech cheiniog a dimau. Bu i dad y gŵr hwn drigo am gyfnod yn Chicago, ac o’r profiad hwn y datblygodd y teulu fersiwn Gymreig o archfarchnad Americanaidd – y dylanwad cyntaf, bur debyg, at gosmopoleiddio diwylliant pentref Bethesda. O’r siop hon y datblygodd cwmni teithio dibynadwy yn cynnal gwasanaeth rhwng Bethesda a Bangor yn 1926 gan weithredu o garej gyfleus a sefydlwyd  ar safle dros y ffordd i Castle House ar y gongl rhwng Ffordd y Stesion a’r briffordd. Hwn wrth gwrs oedd cwmni’r Moduron Porffor a anfarwolwyd yn lleol fel bysus chwech a dima neu fysus Tomi neu fysus Tomi Barbar. Mewn gwirionedd tad perchennog y bazaar oedd gwir gychwynnydd y cwmni gan mai Joseph Roberts a ddechreuodd gario pobl i Fangor mewn cerbyd estynedig ei faint yn fuan wedi terfyn y Rhyfel Byd cyntaf.

Byddai trigolion prysur Penrhyn Teras yn gwaredu pe gwelent gyflwr y teras bonheddig hwn heddiw heb yr un siop, â’i liw llachar yn bŵl, y bysus wedi diflannu ac adeilad yr United Club wedi ei ddinistrio yn llwyr. Dyna dro ar fyd, ac tro er gwell ysywaeth.

Gwybodaeth ychwanegol gan Heulwen Roberts, Ystradawel, Bethesda.

Ffynhonnell

Dienw. circa 1910. The Borough Guide to Bethesda. Cheltenham

Pwrws Tregarth?

Tybed a fu wyrcws yn Nhregarth ar ryw amser yn y gorffennol pell?  Sylw ymyl y ddalen, mewn sgwrs wrth basio megis, oedd cychwyn y chwilota i weld a oedd sefydliad o’r fath wedi bodoli yn y pentref ar un adeg.  Dywedodd Islwyn Williams, Braich, iddo gofio ei fam yn sôn am y pwrws, sef yr enw a Gymreigiwyd ar dafod leferydd, bid siŵr, o’r Saesneg gwreiddiol – poor house – wrth gyfeirio at sefydliad o’r fath yn y pentref. Yn ôl Islwyn, lleolwyd y pwrws ar safle a oedd dros y ffordd i gapel Penygroes cyn iddo gael ei chwalu mewn cyfnod diweddarach ar gyfer adeiladu rhestai Penrhyn View.  A dyna ddechrau chwilio yng nghyfrifiad pob blwyddyn gan ddechrau yn 1901 a gweithio yn ôl i’r cyntaf yn 1841 cyn sylweddoli nad oedd unrhyw gyfeiriad at na wyrcws na thlodion ar gael yn Nhregarth.  Ond yn gwbl annisgwyl dyma ganfod cyfeiriad mewn adroddiad ar hanes sefydlu Eglwys y Gelli fod John Edward Jones, Craigpwrdy, wedi llafurio yn galed yn 1851 yn adeiladu’r ysgoldy cyntaf ar safle’r Gelli. Ond ysywaeth nid oedd enw John Edward Jones, na’i gyfeiriad yn Craigpwrdy,  i’w ganfod yn y cyfrifiad.  Felly, ai dyma ddiwedd y stori?  Wel ie yn ffeithiol, derfynol bid sicr, ond na, cyn dechrau dyfalu ymhellach.

Yn 1834 sefydlwyd Comisiwn Brenhinol i ymchwilio i broblemau ymarferol casglu a gweithredu Treth y Tlodion a oedd yn datblygu i fod yn faen tramgwydd eithriadol i gymunedau yn ystod chwarter cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Canlyniad yr ymchwiliad oedd cyfuno plwyfi’r wlad yn nifer o Undebau annibynnol i weithredu’r Ddeddf.  Sefydlwyd pedair Undeb yn lleol – ym Mhwllheli, Caernarfon, Bangor a Biwmares gyda Bwrdd Gwarcheidiol yn cael ei ethol i weinyddu’r gwaith. Etholwyd 30 aelod i gynrychioli’r 21 plwyf yn Undeb Bangor gyda thri aelod yr un yn cynrychioli plwyfi Llanllechid a Llandygái. Yn 1838 awdurdododd y Bwrdd Gwarcheidiol adeiladu wyrcws ar gost o £3,800 yng Nglanadda, Bangor, ond oherwydd anghytundebau ynghylch gweithredu’r Ddeddf rhaid fu disgwyl tan 1845 cyn y gwireddwyd y cynllun mewn adeilad newydd. Nid oes gan hyn unrhyw berthnasedd â Thregarth fel y cyfryw, ac eithrio fod yn rhaid chwilio cyn 1834 os am ddarganfod bodolaeth unrhyw bwrdy yn yr ardal.

Cyn i fesurau’r Comisiwn ddod i rym yn 1834 câi tlodion y wlad ofal, neu ddiffyg gofal, naill ai yn yr elusendai neu mewn sefydliadau a ariannwyd gan Dreth y Tlawd a gesglid ar gyfer anghenion pob plwyf yn unigol. Sefydliadau a gychwynnwyd yn wreiddiol gan urddau crefyddol yn y Canol Oesoedd oedd yr elusendai ond erbyn y ddeunawfed ganrif yr oedd y mwyafrif yn derbyn nawdd gan ddyngarwyr cyfoethog, yn aelodau o’r teulu brenhinol, yn archesgobion ac yn offeiriaid, yn farsiandïwyr llwyddiannus neu yn aristocratiaid bonheddig. Nid oes hanes fod teulu’r Penrhyn wedi noddi elusendy yn Nyffryn Ogwen ac felly mae’n annhebygol mai sefydliad o’r math hwn a fyddai wedi bodoli yn Nhregarth.

Ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg yr oedd ardreth y tlawd yn datblygu yn faich trwm ac annymunol ar drethdalwyr pob plwyf ac ar drugaredd anwastad ac angharedig yr awdurdodau y gweinyddid y dreth er lles y tlodion.  Yn rhagflaenu tlotai ail hanner y ganrif ceisiodd rhai plwyfi sefydlu tai gwaith ar gyfer y tlodion oedd mewn iechyd a phwrdai ar gyfer yr oedrannus, gydag arian y dreth yn talu rhent y preswylydd. Yr oedd amgylchiadau yn y sefydliadau hyn yn warthus o druenus gyda’r tlodion yn byw yn afreolus heb drefn i’w gwarchod, a gan amlaf byddai unigolion o bob oedran yn ddynion, merched a phlant yn rhannu llety dan yr unto. Yn 1813 yr unig dloty cydnabyddedig yn Sir Gaernarfon oedd yr un a sefydlwyd ym mhlwyf Llanbeblig yng Nghaernarfon.  Ond yr oedd rhai plwyfi bychan hefyd wedi darparu llety ar gyfer eu tlodion. Cofnodir, er enghraifft, fod tri bwthyn wedi eu hadeiladu ar gost o £27 yn Llanrug yn 1801 ar gyfer lletya tlodion y plwyf, mesur o raslonrwydd goleuedig mewn plwyf nad oedd ei adnoddau, bur debyg, yn enfawr yn ystod y cyfnod cynnar sydd dan sylw.

Oes gan yr hyn a gofnodwyd yn Llanrug yn 1801 unrhyw berthnasedd â phwnc yr ymchwiliad presennol i fodolaeth y pwrws yn Nhregarth?  Tybed?  A yw un cof ‘cenedl’ anysgrifenedig, ac un cofnod ysgrifenedig o enw tŷ yn ddigon i gadarnhau fod pwrws tebyg i’r un yn Llanrug hefyd wedi bodoli yn Nhregarth i esmwytho bywyd tlodion Dyffryn Ogwen ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg? Cewch chi ddarllenwyr benderfynu, ond cofiwch gysylltu os gallwch chi gyfrannu at y chwilota am bwrws tybiedig Tregarth!

Gwybodaeth ychwanegol gan Rosemary Williams, Ffordd Tanrhiw, Tregarth; J. Dilwyn Williams, Penygroes, ac yn bennaf oll i Islwyn Williams, Braich.

Ffynhonnell 

C Flynn Hughes, 1946. The Workhouses of Caernarvonshire 1760-1914. Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon,  Rhif 7.

Eglwys y Gelli, Tregarth, Centenary Souvenir and Celebration Programme, June 7th-15th, 1969. Rhaglen yn cynnwys erthygl William Roberts o gylchgrawn Yr Haul 1904.

Eglwys Glanogwen

Eglwys Glanogwen
Eglwys Glanogwen

Adeiladwyd Eglwys Glanogwen yn 1856 ar fryncyn digon uchel i gysgodi capel Jerusalem a godwyd yn 1846 ar lain gwlyb o dir ychydig fetrau islaw i’r gogledd. Yr oedd y ddau addoldy yn ddatblygiadau cymesur ac yn addurniadau cymwys i fynedfa’r pentref o gyfeiriad y de. Noddwyd adeiladu’r eglwys gan Edward Gordon Douglas Pennant, yr ‘Hen Lord’, gyda rhodd o £6,000. Ar y llaw arall, drwy lafur a benthyciadau ariannol gan yr aelodau yr adeiladwyd capel Jerusalem. Cynllunydd yr eglwys oedd T.H. Wyatt, pensaer o Lundain oedd â chysylltiadau agos â theulu’r Penrhyn, er bod pedwar cynllunydd wedi ymgeisio am y comisiwn i gynllunio’r eglwys –  G. E Street, Henry Kennedy a chwmni Weightman, Hadfield a Goldie. Am reswm nad yw’n gwbl hysbys daeth y cwmni olaf ag erlyniad yn erbyn y ficer a bu helynt amhriodol iawn ar gychwyn sefydlu’r eglwys.

 

Eglwys Glanogwen 2Ar y llethr creigiog rhoddwyd mynwent eang i amgylchynu’r eglwys, ac, er gwaethaf ei hanfanteision garw, hon oedd prif gladdfa’r ardal yn ystod hanner olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae maint y fynwent, dwysedd y beddau a chyfnod cymharol fyr ei defnydd yn adlewyrchiad o gyflwr truenus iechyd ardal Bethesda yn ystod y cyfnod. Ynddi gwelir cyfartaledd uchel o bersonau’n marw cyn eu bod yn hanner cant oed ac roedd marwolaethau babanod a phlant yn sefydlog uchel ac yn amlwg yn ddilyniant trist mewn rhai teuluoedd. Er na chofnodir beth oedd achos y marwolaethau, ac eithrio damweiniau yn y chwarel, mae’n bur debyg fod afiechyd y diciâu yn un rheswm paham fod cynifer o bobl ieuainc yn eu harddegau wedi’u claddu yn y fynwent.

Yn nhawelwch Pant, ar gwr eithaf y de o ddatblygiad ‘select’ amgylchedd yr eglwys, capel Jerusalem a Teras Ogwen, adeiladwyd persondy yn 1864 i gartrefu bugail yr eglwys. Cynlluniwyd y tŷ i fod ymhlith y mwyaf yn y pentref a dewiswyd lleoliad a oedd yn ddigon agos at yr eglwys ond eto yn ddigon pell rhag bod ymyrraeth ormodol y plwyfolion yn tarfu ar hedd y preswylydd. Yn ystod Streic Fawr Chwarel y Penrhyn 1900/03 adroddir fod eglwysi Anglicanaidd ardal Dyffryn Ogwen wedi derbyn nifer o gymunwyr newydd o blith chwarelwyr a oedd yn deyrngar i’r Arglwydd Penrhyn. Ficer Glanogwen bryd hynny oedd y Parchedig R.T. Jones, gŵr a anfarwolwyd gan Caradog Pritchard yn Un Nos Ola Leuad fel y ‘Canon’. Yn 1905 ac effeithiau’r streic wedi datgymalu’n greulon holl ffabrig cymdeithas yr ardal, gofynnodd Esgob Bangor i’r ‘Canon’ gyflwyno adroddiad am gyflwr cymdeithasol Bethesda. Derbyniodd y dasg â’i ddau lygad ynghau. Adroddodd fod y gymdogaeth yn ffyniannus gan nodi fod nifer o siopau newydd wedi agor ac nad oedd ef yn ymwybodol fod busnesau wedi cau oherwydd sgil effeithiau’r streic. Amcangyfrifai fod pob teulu yn derbyn, ar gyfartaledd, rhwng £1 a £1.50 yr wythnos. Roedd yn ddatganiad a fyddai’n awgrymu, rhwng y llinellau megis, nad oedd neb yn dioddef o gynni, a gallai’r ficer gyfeirio at lewyrch cyffredinol yr ardal drwy gofnodi’n eiddigeddus fod capel Jerusalem am wario £3,000 ar adeiladu festrïoedd newydd ac ar brynu organ. Cyflwynwyd yr adroddiad i’r Arglwydd Penrhyn ym mis Mai 1905, a mynnai’r awdur gyfrinachedd yr adroddiad rhag creu diflastod gan y dymunai ddal i fyw yn y pentref ‘and be of some use’. Teg awgrymu fod teyrngarwch y gŵr cyfiawn hwn yn llawer cadarnach i’w feistr bydol nag yr oedd i’w Feistr ysbrydol.

Yn rhagflaenu adeiladu’r eglwys sefydlwyd ysgol y wladwriaeth Glanogwen yn 1851 a hynny eto drwy nawdd yr Arglwydd Penrhyn. Yn 1864 yr oedd 132 o fechgyn a 129 o enethod yn derbyn addysg eglwysig Brydeinig yn yr ysgol er bod mwyafrif teuluoedd y pentref yn proffesu crefydd ymneilltuol. Mae’n amlwg iawn fod eglwys Glanogwen, fel yr ysgol, wedi chwarae rhan amlwg  ym mywyd crefyddol ac addysgol pentref Bethesda am dros gant a hanner o flynyddoedd bellach. Bellach, wrth wynebu cyfnod ansicr i grefydd yn gyffredinol mae cynnal sefydliadau gweledol pob enwad eglwysig yn fater o gryn bryder, ac yn achos eglwys Glanogwen bydd adeilad T. H. Wyatt a chyflwr bregus ei meindwr trawiadol yn siŵr o  hawlio sylw selogion ei chynulleidfa ym mlynyddoedd ei dyfodol.

Ffynonellau

Jean Lindsay   1987. The Great Strike : A History of the Penrhyn Quarry Dispute of 1900-1903. Newton Abbot.

Cofrestr Mynwent Eglwys Crist Glanogwen, Bethesda, M235a/b, Cymdeithas  Hanes Teuluoedd Gwynedd.

Tyn yr Hendre

Dyma gyfraniad gan Dafydd Fon, un o’n cyfranwyr gwâdd.

Wrth fwrw golwg ar fap Arolwg Degwm 1840 o ddaliadau gwaelod plwyf Llanllechid, mae Tyn Hendre yn sefyll allan fel ploryn unig, oherwydd mai dyma’r unig ddaliad yn yr ardal honno nad yw’n eiddo i George Hay Dawkins Pennant. Perchennog Tyn Hendre yw uchelwr arall, sef Iarll Egmont. Roedd hwn yn aelod o deulu pwerus Percival, gyda chanolbwynt eu tiroedd yn Iwerddon a Gwlad yr Haf. Fodd bynnag, roedd yr Iarll yn berchen ar un ar bymtheg o ddaliadau o wahanol faint yn Llanllechid, i gyd, ar wahân i Dyn yr Hendre, o gwmpas pentref Llanllechid, a rhwng Lôn Coed ac afon Ogwen. Tiroedd oedd y rhain a fu, unwaith, yn perthyn i hen stâd Coetmor, cyn i honno fynd ar chwâl trwy orchymyn Llys y Siansri yn 1801-2. Mae’n debyg i’r daliadau hyn yn Llanllechid ddod i ddwylo Iarll Egmont trwy briodasau gyda Wyniaid Coetmor, a phriodas yr Iarll ei hun gyda Jane Wynne o’r Wern.

Bid a fo am hynny, daliad gweddol fychan o 63 acer  ar y llethrau oedd Tyn Hendre yn 1840, pan oedd yn cael ei ffermio gan Richard Thomas a’i bartner. Oherwydd na fu yn rhan o diroedd Stâd y Penrhyn,  gyda’i chofnodion manwl o weithredoedd, mae’n anodd cael cyfeiriadau cynnar ati, ar wahân i fap o’r daliad yn 1786,’ belonging to James Coytmore Pugh’.

Yn ôl Cyfrifiad 1851 roedd tri Tyn Hendre, un yn 20 acer, un arall yn 26 acer, a’r olaf yn 10 acer, i gyd yn cael eu ffermio gan dri theulu gwahanol. Beth bynnag, roedd tro ar fyd ar ddod i’r fferm. Erbyn 1848, fel holl ddaliadau Iarll Egmont yn y plwy, roedd wedi mynd i ddwylo’r Penrhyn, ac, fel rhan o ad-drefnu tiroedd y stâd, gwnaed newidiadau mawr i’r fferm. Penderfynwyd gwneud un fferm fawr o nifer o ddaliadau canolig a bychain o’i chwmpas, a’u huno yn un fferm o dan enw Tyn Hendre. Roedd hen fferm Winllan ar y llethrau; roedd hon yn ddaliad o 52 o aceri. Yn Nhachwedd 1855 nodir yn Llyfr Rhent y Penrhyn land added to Tyn Hendre, a diflannodd Winllan am byth (Erys ei henw yn y goedlan garegog, Marian y Winllan, sef y cyfair coed sy’n cario’r un enw heddiw, ac a roes ei enw i Tan y Marian, a adeiladwyd ar y llethrau oddi tani). Mae teulu Hugh Hughes yn ei ffermio yn ôl Cyfrifiad 1851, ond nid oes sôn am Winllan yng Nghofnodion 1861.

Y fferm fwyaf ar derfyn de-orllewinol Tyn Hendre, rhyngddi hi a Winllan,  oedd Tŷ Gwyn, fferm 143 o aceri, yn ymestyn o’r llethrau i lawr gwlad. Yn 1855 nodir yn y llyfr rhent land added to Tyn Hendre. Yn wahanol i Winllan, cadwyd y tŷ yn yr achos hwn, gan ei osod i un o giperiaid y stâd, ac yn 1861, Richard Butler, Gamekeeper, a aned yn Swydd Rhydychen, oedd yn byw yno. Ugain mlynedd yn ddiweddarach, cipar arall o Sais oedd yno, dyn o’r enw Gumbelton.  Bum mlynedd cyn uno Tŷ Gwyn a Thyn Hendre, yn 1850, roedd rhan o hen dyddyn Tyddyn Fertos (oherwydd dieithrwch y gair, mae sawl fersiwn o’r enw, pob un yn ddieithr), wedi ei ychwanegu i diroedd Tŷ Gwyn. Aeth gweddill tir y tyddyn bychan i ddaliad arall, felly roedd Tyddyn Fertos, hefyd, bellach wedi diflannu. I Dyn Hendre, hefyd, yr aeth Tyddyn Isaf, daliad oedd wedi cael ei osod am nifer o flynyddoedd gyda Thyddyn Fertos, felly roedd yn rhesymol i’r ddau ddaliad fynd efo’i gilydd.

Ble mae tai Tan y Lôn yn awr, roedd hen dyddyn bychan 10 acer Tyddyn y Lôn; yn 1855 nodir land added to Tyn Hendre and cottage let separately. O Galan Gaeaf 1855 gostyngwyd rhent Talybont Public House oherwydd Land added to Ty’n Hendre. Roedd Talybont Public House yn nhenantiaeth Henry Ellis, aelod arall o’r teulu lluosog, yn gefnder i Ellisiaid Cefnfaes. Roedd, hefyd, yn rhentu Cae’r Ffos a Thyddyn Cwta.

 Erbyn 1861 roedd Tyn Hendre wedi tyfu’n sylweddol, yn fferm o 242 acer, ac yn cael ei rhedeg, ers ei ffurfio’n derfynol yn 1856, gan Sais 31 oed (yn 1861)o’r enw Charles Newcomb Bicknell, oedd yn enedigol o ardal Coventry. Er mai mab i was fferm oedd Bicknell, mae’n amlwg ei fod yn ffermwr galluog, oherwydd yn 1851, ac yntau ond yn 21 oed, ef oedd tenant fferm 260 acer Cae Mawr yn Llaniestyn, Ynys Môn, ar stâd Bulkeleys, Baron Hill. Roedd yn talu rhent, o dan yr enw C Bicknell and Son, o £320 y flwyddyn am y fferm. Ymhen ychydig, yr oedd Bicknell, hefyd, yn arwerthwr, gyda swyddfa ym Mangor. Nid tenant o ffermwr arferol oedd Bicknell, ond un o swyddogion y stâd, hefyd, ac roedd rheswm penodol am hynny. Yn ôl cynlluniau rheolwyr Stâd y Penrhyn, er y byddai Tyn Hendre yn fferm arferol yn ei hanfod, fe’i bwriadwyd, yn benodol,  i arbenigo mewn magu ceffylau, yn gobiau, ceffylau gwedd, a cheffylau tynnu coetsys a marchogaeth, gyda’r ceffylau at ddefnydd ffermydd cyfagos, y stâd yn gyffredinol, a theulu’r Penrhyn eu hunain. Hi fyddai bridfa a magwrfa ceffylau Stâd y Penrhyn. O’r herwydd, byddai’r tenant yn fwy na thenant arferol. Yn unol â’r bwriad, erbyn 1862, fe welir fod £20 o rent y fferm yn cael ei dalu gan The Penrhyn Home Farm; hynny, mae’n sicr, i adlewyrchu’r magu ceffylau ar gyfer y stâd a ddigwyddai yno.

 

Yn ogystal ag uno’r tiroedd, oddeutu 1860, yn unol  â’r bwriad o arbenigo,  fe gododd y stâd adeiladau newydd ar gyfer y fferm, yn ogystal â thŷ newydd, gyda’r cyfan i fod yn fodel o fferm. Mae’r tŷ wedi ei adeiladu gryn bellter (70 medr) oddi wrth yr adeiladau amaethyddol, sy’n eithriad hyd yn oed i fferm fodel, ond nid yw hynny ond yn adlewyrchu’r ffaith mai swyddog stâd, yn hytrach na thenant cyffredin, sy’n byw yno. Mae’r tŷ ar batrwm lled-Gothig a ddefnyddiwyd yn gyson gan  y Penrhyn ar gyfer ei hadeiladau yn ail hanner y 19 ganrif, ar ffurf H, deulawr, gydag adeiladau allan ar ffurf L ynghlwm yng nghefn y tŷ.

 

Mae’r adeiladau amaethyddol wedi eu cynllunio a’u hadeiladu yn ôl cynlluniau modern yr oes, gyda’r pwrpas o fod yn ymarferol, hawdd gweithio ynddynt, a’u cynnal, yn gadarn a chymesur, ac yn hawdd gweithio yn eu gofod. Er y cafodd beudai, ysgubor, a thylciau moch eu codi, y prif adeiladau oedd y stablau ar gyfer ceffylau.

Adeiladau cymesur ydynt, wedi eu trefnu’n 4 ochr o gwmpas cowt sgwâr, gyda thoeau o lechi, wedi eu hawyru. Mae beudai’r gwartheg ar yr ochr orllewinol, gyda stablau’r ceffylau ar hyd yr ochr ogleddol, a hanner yr ochr ddwyreiniol.

Mae gweddill yr ochr ddwyreiniol wedi ei neilltuo ar gyfer gofod i gadw troliau ac ati, tra bo llofftydd granar uwchben y stablau. Mae’r cyfan yn dangos obsesiwn oes Fictoria efo trefn a chynllun, ac yn sicrhau, yn yr achos hwn, ofod trefnus, hawdd gweithio ynddo, a chysur i’r anifeiliaid, yn enwedig y ceffylau gwerthfawr.  Mae’r adeiladau hyn yn dangos y fformiwla oedd gan reolwyr stâd y Penrhyn ar gyfer eu ffermydd; rhyw ddeng mlynedd ar hugain yn ddiweddarach, yn nechrau’r 1890au, fe adeiladodd y stâd eu hadeiladau amaethyddol olaf yn eu cynllun gwelliant, sef adeiladau fferm Tai’r Meibion, ac y mae’r rhain, ar wahân i’r diffyg pwyslais ar y stablau, ar yr un cynllun ag adeiladau Tyn Hendre. Oherwydd bod yr adeiladau hyn wedi profi’n hynod o ymarferol a defnyddiol , ynghyd â chadarn eu hadeiladwaith, dros y blynyddoedd, ni fu fawr ddim newid arnynt, ac, oherwydd eu bod mor agos i’r gwreiddiol, y mae adeiladau amaethyddol y ddwy fferm, yn ogystal â’r tai,  wedi eu rhestru.

Er mai Sais oedd preswylydd cyntaf  Tyn Hendre, yn ôl i ddwylo Cymry y daeth yn weddol fuan. Bu Bicknell farw yn ŵr gweddol ifanc 46 oed yn 1876, a daeth Owen Ellis i  Dyn Hendre. Mab oedd ef i ysgolfeistr Llanfaelog ym Môn, ond un a oedd wedi ei eni yn Nhalybont, ac wedi priodi merch Aberogwen. Er bod yr enw’n awgrymog, nid wyf, hyd yn hyn, wedi gallu ei gysylltu ag Ellisiaid niferus y plwyf. Bu ef farw’n weddol ifanc, ond ei deulu ef fu’n ffermio Tyn  Hendre am ddegawdau wedi hynny.

Fel ôl-nodyn, rhag ofn i rywun gael darlun o luchio tenantiaid druan ar y clwt wrth uno daliadau i greu Tyn yr Hendre yn 1855, rhaid dweud nad felly y bu. Yn wahanol i nifer o stadau, roedd gan y Penrhyn yr enw o fod yn dda gyda’u tenantiaid amaethyddol, os oedd y rheiny’n ffermwyr effeithiol. Dyna fu yn yr achos hwn. Rhoddwyd tenantiaeth ffermydd mwy i’r ddau ffermwr a gollodd eu ffermydd wrth greu Tyn yr Hendre. Aeth Huw Hughes a’i deulu o Winllan i  Grymlyn, lle disgrifir ef yng Nghyfrifiad 1861 fel farmer of 100 acres, a rhoddwyd tenantiaeth Pant y Cyff, plwyf Llandygai, i Thomas Jones wedi iddo ef a’i deulu adael Tŷ Gwyn.

Erbyn heddiw, erys Tyn Hendre yn un o brif ffermydd yr ardal, ac erys yr adeiladau a adeiladwyd mor gadarn. Fodd bynnag, nid ceffylau, ond pobl, sy’n cael swcr yno heddiw, a hwy sy’n troedio’r stablau a fu unwaith yn rhan o gynlluniau uchelgeisiol Stâd y Penrhyn yng nghanol Oes Fictoria.

Ffynonellau

Dogfennaeth y Penrhyn yn Archifdy Prifysgol Bangor, yn enwedig Llyfrau Rhent

Ystadegau Cyfrifiad 1841 – 1911

Cofnodion Geni, Priodi, a Marwolaethau Dosbarth Bangor

Gwefan  ‘British Listed Buildings’

Cynlluniau Cyngor Gwynedd i restru pentref Llanllechid