Yr Home

Mae Hugh Davies yn ei gyfrol Atgofion Hanner Canrif yn cyfeirio at yr Home mewn paragraff sy’n gyforiog o gyfeiriadau dirgel, ond heb fradychu’r un gyfrinach, am y sefydliad a leolwyd mewn tŷ helaeth ar draws y ffordd i’r Eglwys ym mhen gogleddol pentref Tregarth. Meddai –  ‘Safai Cartref plant amddifad – yr Home – ar draws y ffordd i’r Eglwys, a cherddai rhyw ugain o enethod ôl a blaen i’r ysgol o’r Cartref yn gyplau trefnus, o wahanol oedran, wedi eu gwisgo’n unffurf, eu gwalltiau yn gwta, gwta, ac un o wasanaethyddion y Cartref yn eu tywys yn ddieithriad. Cofiaf yn dda fod llond fy nghalon o gydymdeimlad tuag at y genethod hyn, ac yn ddistaw bach – bu sawl un ohonynt o bryd i’w gilydd yn gariadon ysgol i mi’.

Enw swyddogol y sefydliad oedd St Mark’s Nursery Home, a pherthynai, yn un o gyfres o gartrefi i gymdeithas y Waifs and Strays Society, cymdeithas a newidiodd ei henw yn ddiweddarach yn  Church of England Children’s Society. Sefydlwyd y gymdeithas yn Llundain yn 1881 gan Edward Rudolf, swyddog yn y gwasanaeth sifil, o’i brofiad personol ef o weld plant amddifad ar strydoedd y brifddinas. Buan iawn y lledaenodd y gofyn am gymorth i blant digartref i ddinasoedd diwydiannol gweddill Prydain  lle’r oedd problemau digartrefedd yn datblygu’n broblem enfawr ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.  Yng Nghymru ymddengys fod digartrefedd plant yn broblem gymdeithasol a berthynai i gefn gwlad yn ogystal ag i’r ardaloedd diwydiannol, fel yr awgrymir gan ddosbarthiad cartrefi’r gymdeithas. Yn Esgobaeth Bangor, er enghraifft, sefydlwyd cartrefi ym Mangor, Caernarfon, Bodorgan a Dolgellau tra oedd un cartref yn unig yn esgobaeth Llanelwy a hynny yn Wrecsam, a chartref Caerleon oedd yr unig un yn esgobaeth Llandaf. Yn ystod yr un amser yr oedd y Methodistiaid Calfinaidd hefyd yn agor cartref i blant amddifad yn y Bontnewydd yn 1902 gan ddwyn sylw pellach at faint y broblem gymdeithasol oedd yn bodoli yng ngorllewin Cymru.

Agorwyd y cartref cyntaf yn Nhregarth yn 1893 mewn bwthyn bychan yn Sling gyda thair ystafell ar y llawr isaf a thair ystafell i fyny’r grisiau ar gyfer lletya chwe merch fach rhwng chwe mis a phum mlwydd oed. Erbyn 1896, gyda’r gofyn yn cynyddu, symudwyd y cartref i’w leoliad newydd yn y tŷ helaeth a adeiladwyd gerllaw safle’r eglwys ar dir a berthynai i stad y Penrhyn.  Mae p’un a oedd cysylltiad swyddogol rhwng y cartref a stad y Penrhyn yn gwestiwn na ellir ei ateb oni wneir ymchwil pellach i’r pwnc.

Metron y sefydliad yn Nhregarth oedd  Clementine Daxon Harris, gwraig bumdeg tri oed, Saesnes a oedd yn enedigol o Nassau yn Ynys Bahamas, India’r Gorllewin; a’i merch Grace Louise, oedd yn ddau ddeg tri oed, ac yn enedigol o Efrog Newydd, a wasanaethai fel yr is fetron.  Cyflogid un ferch ddwy ar bymtheg oed, Annie Griffith o Fethesda, fel morwyn. Nid cartref cariadus oedd yr Home eithr sefydliad lle’r oedd disgyblaeth a chosb eithriadol lym yn nodwedd annymunol o’r drefn yn ôl tystiolaeth nifer o’r merched a fu’n gaeth yno. Dengys cyfrifiad 1901 fod pedair ar ddeg o ferched yng ngofal y cartref gyda’r hynaf yn dair ar ddeg a’r ieuengaf yn bump oed. Merched lleol oedd y mwyafrif yn hanu o Fangor, Caernarfon, Caergybi a Llandudno, ond yr oedd un ferch o Lundain ac un arall o Gaer. Nodir nad oedd  y ddwy ieuengaf – Blodwen Lewis, chwech oed, a Chrissie Welch, pump oed, yn gwybod pwy oedd eu rhieni.  Gweithredai’r sefydliad yn Nhregarth fel cangen gynnal i gartref merched hŷn y gymdeithas yng Nghaernarfon, ac  i’r cartref hwnnw y danfonid y plant yn eu harddegau cynnar i’w haddysgu i fod yn forwynion.

Merched yn yr Home

Yn 1921 rhoddwyd clo terfynol ar ddrysau’r Home wrth i weithgaredd y Waifs and Strays Society ddod i’w derfyn yn Nhregarth ac ymhen amser trosglwyddwyd y tŷ i feddiant preifat.

Gwybodaeth ychwanegol  gan Rosemary Williams, Ffordd Tanrhiw, Tregarth, Thelma Morris, Llandegfan,  John Dilwyn Williams, Penygroes.

Ffynhonnell 

Hugh Davies, 1964. Atgofion Hanner Canrif. Caernarfon

Cefnfaes – hen fferm ddiflanedig

Dyma gyfraniad gan un o’n cyfranwyr Dafydd Fôn Williams, gyda diolch iddo am ei gyfraniad

Fferm yng ngwaelod plwyf Llanllechid oedd Cefnfaes, yn terfynu ar yr hen Dai’r Meibion. Nid yw’n bodoli bellach, a hynny ers dros ganrif a hanner. Mae’r enw yn awgrymu ei bod yn hen ddaliad, gan ei fod yn mynd â ni i’r Canol Oesoedd, pan oedd ‘maes’ yn dir agored , heb gaeau amgaeedig. ( Mae’r gair ‘cae ‘yn perthyn i’r gair ‘cau’ ).

Hanes Cefnfaes

Ym Mawrth 1675 y cawn y dystiolaeth ysgrifenedig cyntaf o’r daliad, mewn cytundeb ble mae Syr Robert Williams o’r Penrhyn yn rhoi les i Hugh ap William Gruffydd o Lanllechid ar chwarter ‘Cefn-faes in the parish of Llanllechid’ am 17 mlynedd, a hynny am un taliad o £25 a 4 ceiniog y flwyddyn o rent. Yr un dyddiad rhoddwyd les ar yr un telerau ar chwarter arall o dir Cefnfaes i Hugh Davies o Aber.

Daw’r dystiolaeth ysgrifenedig nesaf yn 1715. Yr hyn sy’n ddiddorol yma yw’r hyn a ddywedir am yr enw

Lease …. of a cottage,tenement, and lands called the Grose, alias Kevnevaes, in the parish of Llanllechid.

Felly, yn ol y ddogfen hon, enw gwreiddiol Cefnfaes oedd Y Groes. Nid oes cofnod arall o hyn ar gael, ond mae’n hynod ddiddorol fod dau Dyddyn Maes y Groes heb fod nepell o’r Cefnfaes, ac, wrth gwrs, mae Maes y Groes yn bod heddiw. Tybed ai Cefn Maes y Groes oedd enw’r tir gwreiddiol, gyda ‘cefn’ yn air cyffredin yn golygu ‘cefnen’ o dir?

 Gwelwn Cefnfaes nesaf yn 1751 pan oedd gŵr o’r enw John Hughes yn talu 12 swllt o dreth tir arni. Pan wnaed arolwg o diroedd y Penrhyn yn 1768, nodwyd fod Rowland Williams yn rhentu Cefnfaes, oedd yn ddaliad o 142 erw, gyda 26 o gaeau o amrywiol faint iddi.

Yn 1775, William Griffith oedd yn talu £1.4.0 o dreth tir ar Gefnfaes, ond roedd y cynnydd sylweddol hwnnw i’w egluro yn bennaf i’r ffaith fod WG hefyd yn dal tir cyfagos Wern, sef daliad cyfagos o 30 acer, sydd, hithau, wedi diflannu ers canrif a hanner, a mwy.

Erbyn 1793, mae tenantiaeth Cefnfaes wedi dod i ddwylo gŵr o’r enw Owen Ellis. Ef a’i ddisgynyddion fu’n dal tenantiaeth  Cefnfaes am weddill ei bodolaeth fel fferm ac, oherwydd cysylltiad y teulu hwn â’r Cefnfaes y mae Ysgol/ Canolfan Cefnfaes a Stryd Cefnfaes ym Methesda heddiw.

Y tenantiaid – yr Ellisiaid

( Mae gwybodaeth fwy manwl ac ychwanegol am y teulu hwn mewn nodiadau eraill a fydd yn ymddangos yma ar Cilfodan ac Ellisiaid Llanllechid )

Carreg fedd y teulu Ellis

Gellir olrhain teulu Owen Ellis ym mhlwyf Llanllechid am, o leiaf, ganrif cyn cymryd tenantiaeth Cefnfaes, ac roeddynt yn deulu lluosog, canghennog yn y plwyf. Yn 1793, roedd Owen yn byw yn y Cefnfaes, oherwydd y flwyddyn honno mae ei frawd, Harry, oedd yn byw yn y Groeslon, yn ysgrifennu ei ewyllys, oedd yn rhoi ei holl eiddo i Owen Ellis, of Cefnfaes, ac yn ei enwi’n ysgutor i’r ewyllys.  Bu Owen Ellis yn y Cefnfaes hyd ei farw  yn 1802. Yn dilyn marwolaeth ei gŵr ymddengys i’w weddw, Jane, ffermio’r Cefnfaes am rai blynyddoedd. Yna, yn 1813, cawn gofnod o roi tenantiaeth ar y cyd i’r weddw, Jane ( nee Williams) a’i mab hynaf, Owen Ellis arall. Mae’n amlwg iddo ef, am gyfnod cyn hynny, fod yn byw mewn ardaloedd eraill, gan i’w ddau fab hynaf, Owen,( g. 1802) a Humphrey,( g. 1803), gael eu geni mewn rhannau eraill o Arfon, un yn Llanberis, a’r llall ym Metws Garmon. Bu’r Owen Lewis hwn yn denant y Cefnfaes hyd ei farw yn 75 oed yn 1850.

Erbyn hynny mae’r fferm wedi ei rhannu’n ddwy, ond yn dal yn nhenantiaeth yr un teulu. Cyn y rhannu swyddogol, roedd dau dŷ ar y fferm, sef Cefnfaes, neu Hen Gefnfaes, a Chefnfaes Newydd.Yn ol Cyfrifiad 1841, yng Nghefnfaes roedd Owen Ellis, 65 oed, ei fab hynaf 39 oed, yntau’n Owen, tri o blant eraill, Ellis, 30 oed, Ann, 25, a Catherine, 25. Yno, hefyd, roedd 5 o weision a morynion. Yng Nghefnfaes Newydd, wedyn, roedd ail fab Owen, Humphrey, 38, ei wraig, Jane, 35, a’u plant, Owen, 14, Catherine, 9, a William, 8.  Yn llyfrau rhent Stad y Penrhyn 1849 gwelir y broses o rannu’r hen fferm yn ddau ddaliad annibynnol. Am Gefnfaes nodir

Now let to these two tenants separately

Gyda’r ddwy fferm roedd y mwyafrif o dir hen ddaliad Pwll Budur, ynghyd â rhan o’r Wig, oedd yn terfynu ar y Cefnfaes. Roedd ( Hen ) Gefnfaes yn 80 acer, a Chefnfaes  Newydd yn 60 acer. Er mai yn 1849 y nodir hyn yn swyddogol, mae’n amlwg fod y rhaniad yn bodoli’n answyddogol beth amser cyn hynny; ar fap OS (Argraffiad 1880, ond gydag un newid yn unig, sef dangos y rheilffordd, ers argraffiad 1839), dangosir Cefnfaes Newydd a Hen Gefnfaes, gyda’r gyntaf rhwng Tai’r Meibion a Thraeth Lafan, a’r Newydd fwy wrth ochr tir Tai’r Meibion tua’r de-orllewin. Mae’r rheilffordd yn rhannu’r ddwy, ond gyda thiroedd y ddwy ohonynt i’r gogledd-orllewin o’r A5.

 Yn 1849 roedd Owen Ellis yn talu rhent blynyddol o £100 ar un daliad, tra’r oedd ei fab, Humphrey, yn talu £75 y flwyddyn ar y llall. Mae’n arwyddocaol mai dyma renti uchaf holl ffermydd y plwyf, ar wahan i’r £130 yr oedd James Wyatt yn ei dalu am fferm Glan y Môr. Mewn cymhariaeth, doedd rhent un o ffermydd Cochwillan ond £65 y flwyddyn.

Bu farw’r ail Owen Ellis yn 1850. Yn dilyn ei farwolaeth cymrwyd tenantiaeth Cefnfaes gan ei fab hynaf, Owen, gydag Ann, yn cadw tŷ iddo, y drydedd genhedlaeth, a’r trydydd Owen Ellis, i ffermio Cefnfaes. Yn ystod ei denantiaeth ef y daw bodolaeth Cefnfaes fel fferm annibynnol i ben.

Natur y Fferm

Mae enwau rhai o gaeau Cefnfaes yn dangos natur wlyb y tir hwn mewn oes cyn ei ddraenio, ( ar dywydd gwlyb iawn gellir gweld y natur hwn hyd heddiw) . O’r 142 erw yn y daliad gwreiddiol, , roedd Cors y Cefnfaes yn 29 acer, ac roedd Cae Llaciau ( ‘llaciau’ y gelwir y sianeli ar Draeth Lafan y daw’r llanw i mewn ar eu hyd o flaen y llanw, felly, byddai Cae Llaciau yn awgrymu ffrydiau o ddwr ), Gwern Fudr, a Gwern y Cae Newydd yn 22 acer ychwanegol o’r fferm, oedd yn gwneud traean o’i thir yn dir gwlyb, o fawr werth i amaeth. Mae tir sydd wedi ei enwi oherwydd presenoldeb coed gwern, fel arfer, yn wlyb, gan mai mewn tir o’r fath y tyf y coed rheiny. Oherwydd natur gwlyb y tir, yn 1850 fe roddodd y stad £10 i Gefnfaes, a £4:10:0 i Gefnfaes Newydd  for draining lands

Mae gweddill tir Cefnfaes, fodd bynnag, yn dir llawr gwlad ffrwythlon. Enwau digon cyffredinol sydd i fwyafrif y caeau, yn nodweddion daearyddol, megis Cae Gwyn Mawr, Bryn Mawr, Winllan Fawr, a Cae Newydd  Mawr, neu’n enwau’n disgrifio defnydd amaethyddol, megis Gweirglodd Uchaf, Buarth Lloiau, a Fuches Newydd.

Mae ewyllys Owen Ellis yr hynaf ( bf 1802 ) yn dangos inni sut fferm oedd Cefnfaes yn ei oes ef. Fferm gymysg ydoedd, fel holl ffermydd ei dydd, gyda’r prif bwyslais ar fod yn hunan-gynhaliol, er bod marchnad i gynnyrch dros-ben, yn anifeiliaid a chnydau. Roedd Owen Ellis yn berchen ar 7 buwch, 5 bustach, 5 o wartheg teirblwydd, a 5 o wartheg blwydd, y cyfan werth £129. Roedd  6 cheffyl ar y fferm, gwerth £5 yr un, nifer o ddefaid, oedd werth £30, ac un mochyn, gwerth £2. Roedd yno gynnyrch hefyd, yn yd, haidd, a gwenith, gwair, a gwellt, y cyfan werth £33. Mae nifer bychan yr anifeiliaid, yn ogystal â nifer uchel y ceffylau, ar gymaint o dir yn awgrymu fod cnydau sylweddol yn cael eu tyfu. Dylid cofio, yn ogystal, fod ffermio’n dal yn weddol gyntefig, yn ddigyfnewid ers y Canol Oesoedd, ac mai dyma’r cyfnod y sefydlwyd Cymdeithasau Amaethyddol ym mhob sir er mwyn moderneiddio a gwella amaethyddiaeth Prydain. Yn ogystal, mae enwau caeau yn dangos sefydlogrwydd defnydd yn y cyfnod cyn gweld gwerth cylchdroi cnydau a defnydd tir. Er enghraifft, mae Gweirglodd yn awgrymu’n gryf mai dyma’r defnydd bob blwyddyn o’r tir hwn. Felly, hefyd, gyda’r rhan fwyaf o gaeau ag enwau defnydd amaethyddol.

Er bod Cefnfaes yn fferm o faint sylweddol, bychan oedd y tŷ. Tair ystafell sydd iddo, sef cegin, siambar, a llofft, gyda’r holl ddodrefn  yn werth llai na £23. Wedi cymryd dillad Owen Ellis a holl offer y fferm i ystyriaeth, mae stâd ffermwr Cefnfaes yn 1802 yn £279:12:0, sy’n cyfateb i lai nag £20,000 heddiw. Fodd bynnag, yr oedd, wyth mlynedd cyn ei farw, wedi llwyddo i brynu Cilfodan Isaf, ac roedd y fan honno yn mynd i fod o elw mawr i’w ddisgynyddion.

Ym 1850 bu farw Owen Ellis, y mab, a’i gladdu ym mynwent Llanllechid gyda’i wraig, Catherine (oedd wedi marw yn 1816). Mae’n ddiddorol cymharu Cefnfaes yn ei gyfnod ef gyda’r fferm yng nghyfnod ei dad.  Tair ystafell oedd i’r tŷ o hyd, ond mae un ‘washouse’ ychwanegol. £8:10:0 oedd gwerth yr holl ddodrefn, llai o dipyn na gwerth dodrefn ei dad hanner canrif ynghynt. Mae’r ystafelloedd gwely wedi mynd ychydig yn fwy crand, hefyd, gan mai 2 bedrooms sydd yno yn 1848   (pan ysgrifennwyd yr ewylly )  ac nid siambr a llofft fel yn1802. Roedd ganddo 20 o wartheg, 2 yn llai na’i dad , un gaseg ( ddall! ) ac un ceffyl, lle’r oedd gan ei dad 6, ac un mochyn oedd yno yn awr hefyd. Mae’r lleihad, mwy na thebyg, oherwydd fod daliad y mab, oherwydd y rhannu, yn llai o dipyn na daliad ei dad. Mwy diddorol yw gweld y gwahaniaeth mewn prisiau. Yn 1850 £3 oedd gwerth buwch, ble’r oedd hi’n £7 hanner canrif ynghynt, ac mae’r lleihad ym mhrisiau pob anifail yn debyg – ar wahân i geffyl, sydd wedi mwy na dyblu yn ei werth, o £5 yn 1802 i £11:10:0 yn 1850. Mae, hyd yn oed, y mochyn druan wedi colli chwarter ei werth mewn hanner canrif. Roedd y fferm yn parhau i dyfu yr un cnydau, a hynny ar oddeutu’r un cyfraddau ag yn amser y tad. Roedd gan y mab, hefyd, tua’r un faint o’r cnydau yn ei ydlan a’i storfeydd,  gyda gwerth y cyfan yn £17:14:0, tra’r roedd cnydau ei dad werth bron i £10 yn fwy. Fodd bynnag, roedd y gwahaniaeth yn y gwair a’r gwellt oedd gan y tad, gan fod ganddo werth £9:4:0 yn fwy o hwnnw na’i fab. Ar y cyfan, felly, mae’n ddiddorol sylwi nad oes fawr o wahaniaeth i’w weld rhwng amaethyddiaeth y Cefnfaes yn 1802, a’r amaeth yno yn 1848.

Roedd hi’n arfer i sawl ffermwr ddal tir ychwanegol i’w ddaliad cartref. Erbyn 1840 roedd Owen Ellis, Cefnfaes,ynghyd â Hugh Jones, Tyn Hendre, hefyd yn rhentu rhan o Dai’r Meibion, sef y caeau eang ar y llethrau, Bronnydd Uchaf a Bronnydd Ganol. Ar y terfyn â Chefnfaes, tua Thraeth Lafan,  yr oedd daliad o 41 acer o’r enw Pwll Budur. Tir gwlyb oedd hwn yn ei hanfod, fel y dengys enw’r tri chae oedd iddo – Cae Pen y Lana ( Glannau? )( 14 erw), Tir Sych y Pwll ( 8 erw ), a Tir Gwlyb ( 19 acer ). Gellir gweld y pwll budr ei hun hyd heddiw, wrth gerdded Llwybr yr Arfordir o Aberogwen tuag Aber, ac fe ellir gweld dyfrffos Pwll Budr yn llifo i’r môr. Yn 1768 roedd Pwll Budur yn cael ei osod gyda Rallt, ac yn 1840, Ann Hughes, Aberogwen, oedd yn dal y tir. Fodd bynnag, yn 1849, nodir ym mhapurau’r Penrhyn

Pwll Budur added to Cefnfaes

Mewn gwirionedd, rhoddwyd ychydig o dir Pwll Budur i Glan y Môr, hefyd, ond aeth y mwyafrif helaeth at dir Cefnfaes. Felly, yn awr, mae Cefnfaes yn ddaliad mwy, er mai tir gwlyb yw llawer o’r ychwanegiad, ac mae Owen Ellis a’i blant yn ffermio dros 120 acer yn ngwaelod plwyf Llanllechid.

Diwedd Cefnfaes

Rhwng 1840 a diwedd y ganrif fe wnaeth Stad Penrhyn newidiadau a gwelliannau mawr i nifer o ffermydd eu stad. Un elfen oedd uno tiroedd i greu daliadau mwy hyfyw. Er ei bod yn arfer ers blynyddoedd lawer i un tenant ddal mwy nag un daliad, ( fel y gwelwyd gyda Phwll Budur ) yn ail hanner y 19 ganrif, gwelir y Penrhyn yn uno tiroedd yn fwriadol, a rheiny’n uno parhaol. Canlyniad y broses hon oedd colli sawl daliad oedd wedi bodoli am ganrifoedd. Roedd gan y Penrhyn ddau fath o denant. Yn gyntaf, roedd y tenantiaid blynyddol, a rhennid y rhain yn Denantiaid Calan Mai ac yn Denantiaid Calan Gaeaf. Y dosbarth arall oedd Tenantiaid Lês. Roedd tenantiaeth  y rhain wedi ei gosod fel les o hyn a hyn o flynyddoedd, ( unrhyw hyd rhwng 21 mlynedd a their cenhedlaeth ), ac ni allai, fel arfer, ddod i ben ond ar ddiwedd y les, neu pe byddai’r tenant yn ildio’r les Tenantiaeth Calan Gaeaf oedd i’r ddwy Gefnfaes, ond Tenantiaeth Les oedd un Tai’r Meibion. Yn 1857 daeth tenantiaeth les Tai’r Meibion , oedd yn nwylo Henry Evans ers blynyddoedd, i ben, ac fe fanteisiwyd ar hynny i uno’r ddwy Gefnfaes efo Tai’r Meibion i wneud un fferm sylweddol iawn , a rhoddwyd y denantiaeth i’r ddau frawd  Ellis efo’i gilydd. Yn Rôl Rhent Penrhyn 1857 nodir ychwanegu at  Gefnfaes

Chief part of Tai’r Meibion out of lease’

ac ychwanegir £107/5/0 o’i rhent ( o’r £108 a nodwyd) at rent Cefnfaes i greu rhent o £295 y flwyddyn, rhent fyddai’n cyfateb i oddeutu £30,000 heddiw. Ganrif ynghynt, yn 1757, £18 oedd y rhent blynyddol! ( rhyw £3,500 yn arian heddiw )

Mae les 1859 gan y Penrhyn yn gosod  256 acer, sef tiroedd ‘ old Cefnfaes, Cefnfaes Newydd, Tai’r Meibion, and Ffridd Bryn Adda ( ger y Bronnydd )’, a’r cyfan o dan enw Tai’r Meibion, i Owen a’i frawd, Humphrey Ellis. Erbyn hyn, mae’r rhent blynyddol wedi cynyddu ganpunt, i  £ 392.

Er gwaethaf yr uno, mae’n amlwg i’r ddau frawd aros yn eu hen gartrefi am rai blynyddoedd. Yng Nghyfrifiad 1861, mae Owen, yn hen lanc, yn byw gydag Ann, ei chwaer ddibriod, yn yr Hen Gefnfaes, tra bod Humphrey a’i wraig yn dal yng Nghefnfaes Newydd.

Fel y nodwyd, o dan enw Tai’r Meibion yr unwyd tiroedd y pedwar daliad, a hwnnw oedd yr enw a oroesodd. Erbyn 1863, ceir cyfeiriad at ‘Owen Ellis, Tai’r Meibion, Gent’, ac yn 1867, sonnir am Owen Ellis, ‘formerly of Cefnfaes, and now of Tai’r Meibion’. Erbyn Cyfrifiad 1871, nid oes sôn am yr un o’r ddau Gefnfaes. Yn y cyfrifiad hwnnw mae Owen, Humphrey, Jane, ac Ann, eu chwaer, yn byw efo’i gilydd yn Nhai’r Meibion. Mae’r ddwy Gefnfaes wedi diflannu’n llwyr, ond arhosodd atgofion amdanynt ar dir Tai’r Meibion, gan mai enwau dau o gaeau’r fferm oedd ‘Cae tŷ yr hen Gefnfaes’, a ‘Chae Cefnfaes Newydd’, sy’n amlwg yn olion tiroedd y ddwy fferm. Cae arall, mewn rhan mwy gwlyb o’r tir, oedd Cors y Cefnfaes, ( sef y gors a nodwyd yn 1768 )ac, fe erys hyd heddiw goedlan ar y tir gyda’r enw Coed Cefnfaes. Mae’r goedlan hon yn ymestyn  o’r A55 ger bythynnod Tan yr Allt i lawr i’r ochr draw i’r Rheilffordd.

A dyna ni, ddiwedd Cefnfaes. Diflannodd y fferm, neu’n hytrach, y ffermydd, yn nechrau 60au’r 19 ganrif, ond ni ddiflannodd yr enw. Arhosodd yn enw’r stad a dyfodd oherwydd fod tenant Cefnfaes yn berchen ar fferm Cilfodan yn Nyffryn Ogwen, ac ar ran helaeth o dir y fferm honno y datblygwyd Bethesda a’r Carneddi. Oherwydd hynny, daeth cyfoeth i Owen Ellis a’i ddisgynyddion, a chan mai tenant Cefnfaes oedd Owen pan oedd twf Bethesda yn ei anterth, daeth Stad Cefnfaes i fod. Petai Bethesda wedi datblygu ar ôl 1860, yna Stad Tai’r Meibion fyddai hi, a byddid wedi colli enw Cefnfaes am byth. Ond mae’r hen fferm ddiflanedig o ben draw plwyf Llanllechid yn dal yn fyw yn y ganolfan a’r stryd sy’n parhau i gario’i henw, ganrif a hanner wedi iddi hi ei hun ddiflannu.

Ffynhonellau

Arolwg o diroedd y Penrhyn 1768

Arolwg Degwm 1840

Papurau’r Penrhyn yn Archifdy Prifysgol Bangor

Casgliad Ewyllysiau  Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Ystadegau Cyfrifiad 1841 – 1871

Hanes Llenyddiaeth ac Enwogion Plwyfi Llanllechid a Llandegai  William Parry ( Llechidon ) 1868

Hanes Methodistiaeth Arfon William Hobley

Cyfrifiad Presenoldeb Mannau Addoliad 1851

Map OS 1880  Taflen 77 a 78 ( fel taflenni 1839)