Y traddodiad corawl yn Nyffryn Ogwen

Dyma erthygl arall gyfranwr gwadd, sef Wyn Thomas sy’n uwch ddarlithydd mewn cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor.

Gwelwyd dwy ganolfan gerddorol o bwys yng ngogledd Cymru’r 19eg ganrif, sef Rhosllannerchrugog yn y dwyrain a Bethesda yn y gorllewin. Tra mai’r diwydiant glo ddenodd y boblogaeth i ardal y Rhos, twf aruthrol yn y diwydiant llechi ynghyd â doniau cynhenid trigolion y fro a fu’n ffynhonnell i gyfoeth ac amrywiaeth y traddodiad corawl yn Nyffryn Ogwen.[1]

Cyfeirir yn aml at gyfraniad eithriadol Robert Williams (1791-1828), Cae Aseth, Dyffryn Conwy[2] a symudodd i weithio yn Chwarel Cae Braich y Cafn yn 1819 ac a gyfrannodd i’r bywyd diwylliannol drwy gynnal dosbarthiadau i ddysgu elfennau cerddoriaeth a nodiant i’r trigolion lleol.[3] Yn y man, ystyriwyd ef yn ‘dad canu cysegredig ac eglwysig yr ardal’[4] a bu’n gyfrwng i godi safon canu cynulleidfaol y gymdogaeth. Dylanwadodd ar gyw-gerddorion eraill – rhai fel ‘Eos Llechid’[5], ‘Asaph’,[6] a ‘Gorfinawc o Arfon’[7] – ac yn dilyn ei farwolaeth annhymig sefydlwyd Cymdeithas y Cantorion Crefyddol yng Nghapel y Carneddi fel parhad i’w waith a chydnabyddiaeth o bwysigrwydd canu corawl a chaniadaeth y cysegr yn ardal Bethesda. Bu’r gymdeithas hon yn llwyddiant ac er y cysylltid hi â’r Methodistiaid Calfinaidd, deuai’r aelodau ynghyd o bob enwad. O ganlyniad, magwyd llinach o gerddorion fel William Owen, Prysgol,[8]  John Parry,[9] David Roberts (‘Alawydd’),[10] a Robert Davies (‘Asaph Llechid’),[11] a fu’n flaengar yn arwain, hyfforddi, cyhoeddi, cyfansoddi ac yn cydlynu gweithgareddau cerddorol y dref. Cymeriadau fel y rhain a osododd sylfeini’r traddodiad ac a barodd i’r bwrlwm cerddorol ym Methesda ddenu sylw bonedd a gwreng yn ddiwahân.

IMG

Wrth i’r Mudiad Dirwestol ennill ei blwyf yng Nghymru yn ystod y 1830au-1840au sefydlwyd nifer o gorau dirwest yn Nyffryn Ogwen (e.e. Côr Dirwestol Braich Melyn a Chôr Dirwest Y Carneddi) a deuai’r rhain ynghyd yn gyson i gyd-orymdeithio a chyd-ganu gyda chorau o ardaloedd Bangor, Llangefni, Llanrug, Pwllheli a.y.b. mewn Cylchwyliau Dirwestol yng Nghonwy (1849) a Chastell Caernarfon (1850).[12] Emynau dirwest, anthemau a detholiad o weithiau cyfarwydd Handel, Haydn, William Croft a Beethoven fyddai’r arlwy gerddorol gan amlaf, ond yn ôl tystiolaeth y wasg, denai’r achlysuron cyhoeddus hyn gynulleidfaoedd niferus yn eu miloedd.

Erbyn ail hanner y ganrif, roedd yr arfer o gynnal Cylchwyl Gantorol ac Eisteddfod Gerddorol flynyddol ym Methesda wedi ei hen sefydlu a chystadlaethau canu anthemau Cymraeg a Saesneg yn ogystal â chystadlaethau cyfansoddi darnau corawl yn gyffredin. Digwyddiadau fel y rhain fu’n symbyliad i sefydlu corau lleol (ym mhonciau’r chwareli, mewn capeli enwadol ac eglwysi, er enghraifft), i godi safon canu’r gymdogaeth ac a fu hefyd yn ysgogiad i gyfansoddwyr ifanc yr ardal i fwrw eu prentisiaeth. Deuai arwyr y byd cerdd yng Nghymru yno hefyd i feirniadu, a rhai fel Edward Stephen (‘Tanymarian’),[13] John Mills (‘Ieuan Glan Alarch’), Llanidloes,[14] a John Roberts (‘Ieuan Gwyllt),[15] a’u tebyg yn gyfrwng i annog datblygiadau ym myd cerddoriaeth a chanu corawl nas gwelwyd mewn ardaloedd eraill o Gymru bryd hynny.

Denai eisteddfodau niferus y dref gystadleuwyr o bob ardal o ogledd Cymru a Chilgwri a heidiai’r tyrfaoedd i fwynhau cystadlu brwd (a ffyrnig, ar brydiau!) rhwng corau’r gymdogaeth a pharthau eraill y wlad. Yn ystod y 1860au gwelwyd bri mawr ar Eisteddfodau Cymreigyddion Bethesda, tra mai Eisteddfodau Ponciau y Chwarel fu’n boblogaidd yn y 1870au. Cynhaliwyd Cyfarfodydd Llenyddol yn gyson yng nghapeli’r fro, ond oherwydd gwerth a phwysigrwydd cerddoriaeth yn y gymuned leol rhaid hefyd oedd cynnwys perfformiadau lleisiol a chorawl ynddynt er mwyn sicrhau cefnogaeth fwy na’r cyffredin. Fel dull o feithrin doniau cerddorol yr ifanc, bu Eisteddfodau’r Plant a’r Eisteddfodau Undebol yn fodd o gynnig llwyfan i’r genhedlaeth iau ac yn eu sgil, daeth cyfle pellach i sefydlu corau deulais (Soprano ac Alto) a thri-llais (SSA) ar eu cyfer. Drwy gyfrwng profiadau amheuthun fel y rhain, y cododd unawdwyr a pherfformwyr lleisiol o’r gymuned a ddaeth i enwogrwydd yn ddiweddarach yn y ganrif. Ond rhaid canmol menter a dyfeisgarwch cerddorion Dyffryn Ogwen yn ogystal. Ym 1853, mentrodd William Morris a hanner-cant o aelodau o Gôr Dirwestol Braich Melyn i dalaith Pennsylvania (Unol Daleithiau) i gynnal cyngherddau ac i chwifio baner gerddorol y genedl.[16] Cyn hwylio o ddociau Lerpwl, roedd y cantorion wedi creu’r fath argraff ar drigolion y ddinas, fel y rhoddwyd sylw i Fethesda ar dudalennau’r papurau newydd ac y daeth enw’r dref yn gyfarwydd yn ardaloedd Everton, Toxteth ac Edge Hill. Ond nid cerddoriaeth gan Handel, Mozart a Mendelssohn yn unig glywyd y tu hwnt i’r Iwerydd, yn hytrach lledaenodd poblogrwydd gweithiau corawl ‘Eos Llechid’, ‘Tanymarian’ a J. Ambrose Lloyd ymhlith y Cymry alltud a denwyd sylw cynulleidfaoedd estron i bwysigrwydd a safon neilltuol cerddoriaeth gorawl yn yr ‘hen wlad’.

Fel cymuned Gymreig, lle rhoddwyd parch a blaenoriaeth i’r iaith, tyfodd yr arfer o gyfieithu gweithiau corawl y traddodiad Ewropeaidd o’r Saesneg, Lladin ac Almaeneg i’r iaith Gymraeg. Cyfeirir at ymdrechion Côr Shiloh (Tregarth), er enghraifft, i drosi geiriau’r oratorio Jephtha (Handel) i’r Gymraeg:

Yn sicr, nid oes terfyn ar lafur bechgyn y chwarelau gyda cherddoriaeth.

Y maent yn mynnu cael meistroli holl gampweithiau prif gerddorion y byd,

gan ddechrau gyda Handel – yn enwedig bechgyn Tregarth’.[17]

Yn yr un modd, roedd sicrhau unawdwyr ac arweinyddion o dalgylch Bethesda ar gyfer achlysuron o’r fath yn flaenoriaeth – onid meithrin doniau lleol a’u cefnogi oedd braint y gymuned gyfan? Hyn fu hanes y bariton, David Ffrangcon-Davies,[18] y soprano Megan Telini,[19] ac yn ddiweddarach y mezzo-soprano, Leila Megane.[20] O ganlyniad i’w profiad fel perfformwyr yn Nyffryn Ogwen ynghyd â’u doniau arbennig, daeth llwyddiant i’w rhan ac fe ledaenwyd enw da’r traddodiad ar lwyfannau cerddorol yng Nghymru a’r tu hwnt. Ond deuai ymwelwyr uchel eu parch i Gastell Penrhyn hefyd (e.e. Y Frenhines Victoria ym 1859 a’r Prif Weinidog William Gladstone ym 1861) ac wrth fwynhau diddanwch corau Bethesda a’r cylch, deuai clod ac anrhydedd i’r gymdogaeth gyfan a sylw pellach i gerddoriaeth a cherddorion y fro. Cyfuniad o gantorion o gapeli ac eglwysi’r ardal oedd aelodau Cymdeithas Gorawl Eglwysig Bethesda a than arweiniad Owen Davies (‘Eos Llechid’) rhoddwyd cryn bwyslais ar berfformio gweithiau cysegredig yn y Gymraeg, waeth pwy oedd yn bresennol yn y gynulleidfa. Y Bethesda Glee Society, St. Annes Glee Society a’r Aber and Llanllechid Glee Society fodd bynnag, fyddai’n darparu’r diddanwch cerddorol yn Saesneg.

Wrth i ddylanwadau cerddorol y traddodiad Ewropeaidd gyrraedd gogledd-orllewin Cymru, datblygodd yr arfer o ddarparu cyfeiliant mwy priodol na harmoniwm neu organ ar gyfer canu corawl. Ym mherfformiad y gantata, Gwarchae Harlech (Edward Lawrance) gan y Penrhyn Choral Society cafwyd cerddorfa yn ogystal â band pres (y Penrhyn Royal Brass Band) i gynnal y rhannau lleisiol. I gynulleidfa’r cyfnod, byddai hyn yn brofiad anghyffredin a hynod ddeniadol am mai prin oedd offerynwyr ac ensemblau ‘Clasurol’ o’r fath yn y gymdogaeth bryd hynny. Yn y man, sefydlwyd The Penrhyn String Band a fu’n cynnal cyngherddau’n gyson yn Neuadd y Farchnad (Bethesda) ac a fu’n diddanu’r boblogaeth leol. Drwy gyfrwng eisteddfodau (mawr a mân) a gallu creadigol cerddorion y fro, lluniwyd cyfansoddiadau newydd ar gyfer corau a chymdeithasau corawl y fro e.e. yr oratorio Ystorm Tiberias (Tanymarian) a berfformiwyd gan Gôr Undebol o gantorion gorau’r gymdogaeth dan arweiniad R.J. Jones (‘Garmonydd’). Ond un mudiad rhyngwladol a ddylanwadodd yn fawr ar allu a chyfeiriad cerddorol y Dyffryn oedd Mudiad y Tonic Sol-ffa a ddenodd filoedd i ddysgu nodiant cerddorol newydd yng nghapeli Jerusalem, Gerlan, Tynymaes, Carneddi, Rhiwlas a.y.b., Drwy gyfres o arholiadau canu a thasgau sain-glust, codwyd safon darllen cerddoriaeth yn nalgylch Bethesda yn rhyfeddol. Y Parch Robert Roberts (brawd John Roberts, ‘Ieuan Gwyllt’) fu’n athro cyntaf y grefft ac fe’i dysgai ar yr amod y byddai ei ddisgyblion yn sefydlu dosbarthiadau eraill yn eu cymunedau Cristnogol. I gyd-fynd â datblygiadau o’r fath, tyfodd poblogrwydd y Gymanfa Ganu yn y sir a gyfrannodd ymhellach at godi safon canu cynulleidfaol ac o ganlyniad, deuai unigolion fel David Jenkins,[21] Roland Rogers[22] a Spencer Curwen[23] i ymweld â’r ardal ac i gefnogi’r gwaith. Unigolion fel y rhain gafodd brofiad o weithgarwch corawl mewn ardaloedd y tu hwnt i Sir Gaernarfon, a’u dealltwriaeth hwy o’r maes fu’n sail i’r arloesi corawl a cherddorol ym Methesda.

Cor penrhyn 1893
Cor Meibion y Penrhyn a fu yn cystadlu yn Eisteddfod Ffair y Byd yn Chicago yn 1893. Mae Edward Broome yr arweinydd ar dde eithaf y llun.

Cyn diwedd y ganrif, roedd The Arvonic Male Voice Choir[24] dan arweiniad Roland Rogers yn teithio i ganolfannau yn Lloegr (e.e. Lerpwl a Huddersfield) i gynnal cyngherddau o gerddoriaeth Gymreig yn ogystal â chystadlu, gyda chryn lwyddiant, yn yr Eisteddfodau Cenedlaethol. Iddynt hwy, roedd camu y tu hwnt i Glawdd Offa yn arwydd o hyder a gallu’r côr i wynebu unrhyw her gerddorol a ddeuai o gyfeiriad y traddodiad yn Lloegr. Ond ‘menter enbyd’ i gôr o feibion y fro (The Penrhyn and Dinorwic Choir), dan gyfarwyddyd Edward Broome,[25] oedd teithio i Ffair y Byd yn Chicago ym 1893. Er na ddaeth llwyddiant i ran y cantorion y flwyddyn honno, roedd cyflawni camp o’r fath yn arwydd o obeithion rhyngwladol yr amaturiaid hyn ac yn arwydd o ymrwymiad y gymuned i gefnogi ei cherddorion i eithaf ei gallu.[26] Yn wir, roedd y daith i’r Unol Daleithiau mor bwysig ac arwyddocaol yn hanes yr ardal ac yn hanes cerddoriaeth Cymru benbaladr, fel y cyfrannodd Yr Arglwydd Penrhyn swm o £300 at y costau.[27]

 

 

IMGCor dynion 1900
Cor dynion y streic yn 1900 – un o dri chôr yn Nyffryn Ogwen

Drwy gydol cyfnod y Streic Fawr (1900-1903) bu cerddoriaeth leisiol ac offerynnol yn rhan allweddol o fywyd cymunedol Bethesda. Parhau wnaeth y canu mawl yn y capeli a’r eglwysi, ond cyfrwng codi arian i liniaru anawsterau gweithwyr a theuluoedd y fro, yn bennaf, fu perfformiadau a chyngherddau corawl bryd hynny. Yn wyneb diffyg Undebau Llafur a Gwladwriaeth Les, roedd disgwyl i’r trigolion ddibynnu ar eu hadnoddau a’u gallu cynhenid ond roedd canu a chyd-ganu yn gyfrwng gwerthfawr hefyd i ledaenu neges! Teithiodd dau Gôr Meibion i barthau gwahanol o Gymru a Lloegr i gyngherdda yn ystod y blynyddoedd argyfyngus hyn, ond y mae hanes ymdrechion Côr Merched y Streic (dan arweiniad Mary Ellen Parry) yn deilwng o ymchwil ac astudiaeth bellach.[28] Y gwragedd hyn a fu’n gefnogol i’w gwŷr, nid yn unig ar eu haelwydydd, ond ym merw’r frwydr am hawliau a thelerau teg, fu hefyd yn barod i deithio a diddanu a chynnal tlodion y fro.[29] Drwy flynyddoedd y Streic, bu cerddoriaeth a gweithgaredd cerddorol yn gyfrwng i uno’r gymuned ddiwylliedig hon.

 

IMG_0002
Cor merched y streic yn 1900, Mae Miss Mary Ellen Parry yr arweinyddes yng nghanol y rhes flaen a Megan Telini ar dde eithaf y rhes ôl

Er gwaethaf y colledion ddaeth yn sgil y Rhyfel Byd cyntaf a’r Dirwasgiad a’i dilynodd yn 20au’r ganrif ddiwethaf, parhaodd y diddordeb mewn canu corawl, cymanfaoedd canu, perfformiadau operatig, eisteddfodau coronog a gwyliau corawl yn Nyffryn Ogwen. Cynyddodd y nifer o gorau plant (e.e. Côr Ysgol y Cefnfaes), daeth perfformiadau o oratorïau crefyddol yn gyffredin yn y capeli (e.e. Judas Maccabeus yng Nghapel Jerusalem) ond yn dilyn anogaeth yr organydd a’r cyfansoddwr, Caradog Roberts (Bangor a Rhosllannerchrugog) sefydlwyd côr meibion unedig a ddaeth yn gonglfaen i weithgaredd cerddorol y gymuned gyfan am flynyddoedd lawer.[30] Enillodd Côr Meibion y Penrhyn ei blwyf ymhlith corau blaengar y genedl a chan ddilyn arfer a threfn y gorffennol, bu’n cystadlu’n gyson, yn teithio’n ddyfal ac yn torri cwys newydd ymhlith corau meibion Cymru’r 20fed a’r 21ain ganrif.[31] Heddiw, er gwaetha’r ffaith nad yw caniadaeth y cysegr fel ag y bu yn nyddiau Diwygiad ’04-05 ac nad oes sôn am Eisteddfod Ponc y Chwarel na Gŵyl Gorawl, fe gododd to o gantorion a chyfansoddwyr o fath gwahanol yn y fro – unigolion a grwpiau poblogaidd sy’n ymwybodol iawn o bwysigrwydd y traddodiad llenyddol, sy’n tynnu ar gyfoeth cerddorol y gorffennol ond sydd yn diddanu cynulleidfaoedd ymhell iawn o olwg y Dyffryn.

Wyn Thomas

Dydd Gŵyl Dewi, 2018

[1] R. Merfyn Jones, The North Wales Quarrymen, 1874-1922 (Cardiff: University of Wales Press, 1982)

[2] John William Evans a Sion William Ifan: Cofiant, neu hanes bywyd a marwolaeth Robert Williams, o Gae Aseth, Llanbedr yn Arfon: yr hwn oedd ben cerddor tra rhagorol yn mhlith y Trefnyddion Calfinaidd; hefyd rheolau a threfniadau llywodraethol y cantorion yn Nhapel y Carneddi, Llanllechyd

(Llanrwst: John Jones, 1830).

[3] R. D. Griffith, Hanes Canu Cynulleifaol Cymru (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1948)

[4] Gladys Lloyd Williams, Hanes Cerddoriaeth yn Nyffryn Ogwen (Caernarfon: Llyfrfa’r Methodistiaid Calfinaidd, 1965), 11

[5] Y Parch Owen Davies (‘Eos Llechid’), 1828-1898, Arweinydd y gân am gyfnod o 20 mlynedd yn Eglwys y Plwyf, Llanllechid.

[6] Griffith Rowlands (‘Asaph’), 1807-1889. Cyn-ddisgybl i Robert Williams, Cae Aseth, chwarelwr ac Arweinydd y gân yng Nghapel yr Annibynwyr (Bethesda) am 45 o flynyddoedd.

[7] John Williams (‘Gorfyniawc o Arfon’), 1814-1878. Cyn-ddisgybl i Robert Williams, Cae Aseth ac awdur nifer o erthyglau cerddorol yn Y Gwyddoniadur Cymreig (1889-1896). Treuliodd gyfran sylweddol o’i fywyd yn Lerpwl.  

[8] William Owen (‘Prysgol’), 1813 -1893. Cyfansoddwr yr emyn-dôn ‘Pen Calfaria’, ‘Deemster’ ac ‘Alma’.

[9] John Parry (Y Carneddi), 1808-1838. Chwarelwr a chyfansoddwr tonau.

[10]  David Roberts (‘Alawydd’), 1820-1872. Awdur Gramadeg Cerddorol (1848) a Llyfr y Psalmau (1867) sy’n cynnwys 150 o emyn-donau cynulleidfaol.

[11] Robert Davies (‘Asaph Llechid’), 1834-1858. Cyfansoddwr yr anthem boblogaidd, Dyn a aned o wraig a genid yn aml yng ngwasanaethau angladdol y fro.

[12] Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Papurau Bob Owen, Croesor, Llsg. 37/30, ‘Hanes Cerddoriaeth Ardal Bethesda’

[13] Edward Jones Stephen (‘Tanymarian’), 1822-1885. Brodor o Faentwrog, gweinidog a chyfansoddwr yr oratorio Gymraeg, Ystorm Tiberius (1885 ac 1887)

[14] John Mills (‘Ieuan Glan Alarch’), 1812-1873. Aelod o deulu cerddorol y Millsiaid o Lanidloes. Awdur Gramadeg Cerddoriaeth (1838)

[15] John Roberts (‘Ieuan Gwyllt’), 1822-1877. Golygydd Llyfr Tonau Cynulleidfaol (1859) a Y Cerddor Cymreig (1861). Bu’n frwd iawn dros boblogeiddio nodiant y sol-ffa yng Nghymru’r cyfnod.

[16] Aberystwyth, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Papurau Bob Owen, Croesor, Llsg. 37/30, ‘Hanes Cerddoriaeth Ardal Bethesda’

[17] Ibid.,

[18] David Thomas Davies (1855 – 1918). Ganwyd ef yn yr Hen Durnpike, Brynllwyd ac ychwanegodd yr enw ‘Ffrangcon’ fel arwydd o’i gyswllt teuluol ag ardal Bethesda. Athro canu yn yr Academi Gerdd Frenhinol (Llundain) ac awdur y gyfrol The Singing of the Future (Lane, 1905).

[19] Margaret Jane Parry (‘Megan Llechid’ neu ‘Madam Telini’), 1878-1940 – Cantores broffesiynol a fu’n amlwg yn y byd cerddorol yn yr Alban (Caeredin), Llundain ac yn yr Eidal. Bu’n ddisgybl i’r cyfansoddwr, R.S.Hughes, organydd Capel Bethesda.

[20] Margaret Jones (Leila Megane), 1891-1960. gw. Ilid Anne Jones, Leila Megane – anwylyn cenedl (Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch, 1999).

[21] David Jenkins (1848-1915), Athro Cerddoriaeth, Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Beirniad eisteddfodol, golygydd Y Cerddor ac arweinydd Cymanfaoedd Canu.

[22] Roland Rogers (1847-1927), organydd a chôr-feistr Eglwys Gadeiriol Bangor. Tiwtor cerdd yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor ac athro canu D. Ffrangcon Davies ac R.S. Hughes.

[23] J. Spencer Curwen (1847-1916). Mab John Curwen, sylfaenydd y tonic sol-ffa ym Mhrydain. Cyhoeddwr cerddoriaeth a fu’n gyfrifol am hyrwyddo cystadlaethau corawl ymhlith cantorion amatur yn Lloegr.

[24] Sefydlwyd y côr o gant a phedwar-ugain o leisiau gan ‘Eos Ceraint’, organydd Eglwys St. Anne. Fe’i dilynwyd gan y Dr. Roland Rogers yn 1882. Gw. Elfed Jones, Côr Meibion y Penrhyn: Ddoe a heddiw (Dinbych: Gwasg Gee, 1984)

[25] Edward Broome (1868-1932). Brodor o Fanceinion a ddaeth yn organydd cynorthwyol Eglwys Gadeiriol Bangor ac yn organydd Eglwys y Santes Fair yn y ddinas. Treuliodd gyfran helaeth o’i oes yn byw yng Nghanada.

[26] Elfed Jones, Côr Meibion y Penrhyn: Ddoe a heddiw (Dinbych: Gwasg Gee, 1984)

[27] Aberystwyth, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Papurau Bob Owen, Croesor, Llsg. 37/30, ‘Hanes Cerddoriaeth Ardal Bethesda’

[28] Elfed Jones, Côr Meibion y Penrhyn: Ddoe a heddiw (Dinbych: Gwasg Gee, 1984), t. 14

[29] ‘Côr Merched y Streic’ – Darlith gyhoeddus gan Brenda Wyn Jones, Bethesda

[30]  Yn 1935 y sefydlwyd Côr Meibion y Penrhyn. Gw. Elfed Jones, Côr Meibion y Penrhyn: Ddoe a heddiw (Dinbych: Gwasg Gee, 1984), t. 14

[31]  Côr y Penrhyn, Anthem, Cwmni Sain, Sain SCD 2679

Advertisements

Perfformiad i’w gofio

Rydym wedi gwahodd cyfraniadau gan gyfranwyr eraill sydd â gwybodaeth am hanes Dyffryn Ogwen. Y cyntaf o’r rheiny yw J. Elwyn Hughes isod. Cofiwch gysylltu os hoffech chi gyfrannu at y wefan. 

 

Deuthum ar draws toriad papur-newydd yn ddiweddar yn cynnwys adroddiad, diddyddiad, a ymddangosodd mewn papur, na chofnodwyd ei enw (ond Y Cymro, efallai), yn dweud hanes y ddrama a berfformiwyd yn yr Ogwen Cinema (Neuadd Ogwen bellach) ym Methesda. Cyflwynwyd y ddrama honno gyntaf mewn perfformiad ar gyfer plant Ysgol Dyffryn Ogwen am hanner awr wedi un bnawn Mercher, Chwefror 13, 1957, ac yna, am saith o’r gloch yr un diwrnod, rhoddwyd ail berfformiad ar gyfer oedolion yr ardal, a’r neuadd dan ei sang y ddwy waith.

Yn ôl yr enw ar ddiwedd yr adolygiad, LLYW oedd yr awdur. Dyfynnaf ei adolygiad isod fel yr ymddangosodd yn y papur-newydd:

 

‘ALECSANDER FAWR’

 

HYFRYD o beth ar noson oer a gwlyb o Chwefror oedd troi i mewn i gynhesrwydd Neuadd Ogwen, nos Fercher, y 13eg o’r mis, ac yno ein traws-symud i gyfnod dros ddwy fil o flynyddoedd yn ôl, cyfnod Alecsander fab Philip o Facedon, y gwladweinydd athrylithgar, a’r cadfridog talentog, brenin Macedon, llywodraethwr Groeg, ymerawdwr Persia, gŵr a arfaethai yn y diwedd fod yn arglwydd yr holl ddaear drwy uno tylwythau’r byd yn un teulu mawr. Bu’r cyfrifoldeb a oedd ar ei ysgwyddau yn ormod iddo ac amharwyd ar gydbwysedd ei feddwl. Mewn ffit o dymer nwydwyllt llofruddiodd ei gyfaill gorau a chryfed ei chwant am allu nes mynnu ohono i’r Groegiaid ei gydnabod fel Duw. Ond er amled ei feiau, anghofiwyd hwy’n fuan oherwydd y daioni a gyflawnodd a’i natur hoffus, garedig.

Bu farw yn ŵr ieuanc 32 oed ym MabiIon yn 323 C.C., ond mae’r hanes a greodd yn nhymor byr ei fri o ddeuddeng mlynedd yn fwy ei sylwedd, efallai, nag eiddo neb arall o feibion dynion.

Dyna gefndir y ddrama ‘Alecsander Fawr’ a gyflwynwyd am y tro cyntaf yn Gymraeg gan Gwmni Ysgol Dyffryn Ogwen, Bethesda. Troswyd a chyfaddaswyd y ddrama yn gelfydd o lyfn a naturiol gan Mr Ieuan Ll. Jones, o ‘Adventure Story’ Terence Rattigan. Cynhyrch­wyd gan Mr Maxwell Roberts a gellid gweld ôl ei hyfforddi gofalus yn y siarad hyglyw, y symudiadau esmwyth a didramgwydd, a’r dysgu trwyadl ar y sgript—segur-swyddi oedd eiddo’r cofweinyddion, gan na fu ball ar gof un o’r cymeriadau.

Rhoed cynhorthwy i gyfarwyddwr y llwyfan, Mr Cecil McCarter, gan aelodau’r staff, Mr Emlyn Evans, a rhai o’r bechgyn hynaf. Gwaith manylgraff Miss Carder oedd llenni’r golygfeydd a fu’n gymorth syl­weddol i greu awyrgylch priodol i’r cyfnod, megis y Deml yn Nelphi, y pebyll a Gerddi Babilon. Cyn­nyrch gwaith celfydd Mrs Eurig Davies, Miss Mabel Jones ac eraill o’r staff oedd y mentyll heirdd cyf­oes a wisgid gan y genethod a dwylo cywrain Mr Idwal Williams a luniodd arfwisgoedd y milwyr—y llurigau a’r coesarnau. Mr Leng o Goleg y Brifysgol, Bangor, a ofalai am y coluro, a gwnaeth ei waith yn fedrus iawn, heb fod yn rhy o ddim.

Gofalwyd am ochr busnes y per­fformiad gan Mr Lewis Hughes, y dirprwy brifathro, gyda’i ddeheurwydd arferol, a bu’r ficer, y Parch. D. T. Davies, yn garedig iawn yn rhoi benthyg set Eglwys Glanogwen i’r cwmni, ac felly arbed cost trwm i’r ysgol.

Aeth anrhydedd blaenaf y perfformiad yn naturiol i DERFEL GRUFFYDD, a lwyddodd i gyfleu cymeriad cymhleth Alecsander i’r byw—ei gorff lluniaidd, ei hyrddiau o dymer afresymol, ei uchelgais gwrthun, ei anwyldeb, ei fonedd, ei garedigrwydd a’i fawrfrydigrwydd—daeth y nodweddion hyn oll i’r golwg yn eu tro yn y rhan hon o’i eiddo—y baich trymaf o ddigon yn y ddrama—rhan a gyflwynwyd yn effeithiol a deallus.

Yr oedd FRANK WILLIAMS, a gynrychiolai Hephaestion—cyfaill mynwesol yr Ymherawdr—yn cyfleu yn ffyddlon a theilwng iawn y cymeriad hoffus, cadarn a theyrngar hwn; bendithiwyd Frank â llais treiddgar, cyfoethog, a fu o gryn help iddo wneud ei ran yn naturiol a chredadwy.

Gwych hefyd oedd actio ANN GWYN EVANS, a gyfleodd gymeriad Y Fam Frenhines yn urddasol ac argyhoeddiadol (er ieuenged ei golwg o ystyried ei bod yn ‘Nain’).

Gofod a ballai imi graffu’n fanwl ar weddill y cymeriadau; gwnaeth pob un ohonynt ei ran yn ganmol­adwy o gofio eu hoed a’u diffyg profiad. Dyma enwau’r gweddill o’r cast: Elwyn Roberts (Perdiccas), Myrddin Gruffydd (Ptolemy), Vin­cent Roberts (Mazares), Enid Huws (Proffwydes Delphi), Ffrancon Roberts (Philotas), John Ff. Davies (Dar­ius, brenin Persia), Clive Llewelyn (y Tywysog Bessus), Gwen Owen (Brenhines Persia), Diana Evans (ei merch), John Elwyn Hughes (Clei­tus), Meirion Parry (y Cadfridog Parmenian), Delyth Pardoe (Rox­ana), June Davies, Carys Hughes a Dorothy Roberts (Morynion y Deml), Dewi Morris, LIion Jones a Geraint Williams (milwyr).

Yr oedd y perfformiad drwyddo—gwaith yr actorion ar y llwyfan, a llafur dyfal y sawl a ofalai am ei holl reidiau—yn enghraifft glodwiw o gydweithrediad hapus a llwyddiannus rhwng staff a disgyblion. Llongyfarchwn yn galonnog y Prif­athro, Mr Ronald Pardoe, a phawb a fu’n gyfrwng i roi i ardalwyr Dyffryn Ogwen ddehongliad mor gywir o neges y ddrama rymus hon—neges nas dysgwyd hyd yn hyn, ysywaeth, gan deyrnedd daear, sef mai oferedd yw holl ymdrechion uchelgeisiol dyn, pa mor dalentog bynnag y bo hwnnw os sylfaenir hwy ar drachwant am allu ac awdurdod, ar dreisio cyd-ddyn a thywallt gwaed.

*          *          *

Roedd darllen yr adolygiad yn peri i mi fynd i lawr lôn atgof yn syth. Bu sawl tro trwstan yn ystod yr ymarferion – a hefyd yn ystod y perfformio ei hun yn yr Ogwen Cinema! Hyd y cofiaf, Mr Ieuan Llewelyn Jones oedd yn cynnal yr ymarferion efo ni a byddai ei wraig, Eurwen, yn dod i’r ysgol i’w helpu ambell waith. Caem hwyl fawr wrth ymarfer a chofiaf fel y byddai Frank Williams (o Faes Bleddyn), John Ffrancon Davies (o Faes Coetmor), Vincent Roberts (o Adwy’r Nant) a minnau (o Fraichmelyn) yn cael hwyl fawr bob tro y clywem gyfeiriad at le o’r enw Egbertana; byddai un ohonom yn siŵr o ofyn ’Be’ am Herbertana, Cuthbertana, Hubertana, aballu?’. Ar adegau eraill, byddem yn sicr o ddod o hyd i rywbeth neu’i gilydd a godai hwrdd o chwerthin arnom – a difetha’r ymarfer am rai munudau.

Ar gyfer y perfformiadau eu hunain, Mrs Eirwen Llewelyn Jones oedd wedi gofalu bod gwisgoedd pawb mor driw ag y bo modd i gyfnod y ddrama ac roedd John Ffrancon, Frank a minnau’n gorfod gwisgo math o ’sgertiau’ byr a rhyw stribedi o fetal yn hongian i lawr drostynt – hynny, heb sôn am y ’grefi brownin’ yr oedd yn rhaid i ni ei rwbio ar ein breichiau a’n coesau i roi gwedd dramorol arnom. Doedd neb wedi meddwl y byddai’r gwres cryf o lampau’r llwyfan wedi achosi i’r brownin redeg yn ffrydiau i lawr ein coesau nes gwneud i rywun feddwl am groen sebra.

Bu ambell dro chwithig a barodd embaras hefyd, fel yr adeg honno pan oedd Alecsander, a chwaraeid gan Derfel Gruffydd (o Garneddwen), yn syrthio’n farw ar soffa yng nghanol y llwyfan. Wrth iddo fynd yn ôl yn wysg ei gefn i orwedd ar y soffa, cododd ei ’sgert’ yn ddirybudd. ’Wnâi hynny mo’r tro i’r hen Derfel, wrth gwrs, a chododd ar ei eistedd, tynnu’r ’sgert’ i lawr, a marw eto – i sŵn bonllefau o chwerthin o’r gynulleidfa!

A dyna’r olygfa honno pan oedd tri milwr, sef Frank, John Ffrancon a minnau ar y llwyfan, yn cymryd arnom ein bod yn feddw ond aeth pethau’n llanast pan roddodd un ohonom y ciw anghywir (a hynny ddwywaith yn olynol) i’w gydactor a pheri i ni fynd drwy ddeialog tair tudalen deirgwaith – afraid dweud mai’r hyn oedd yn mynd drwy feddyliau’r gynulleidfa (heb sôn am y tri actor!) oedd: ’Rydan ni wedi clywed y sgwrs yma o’r blaen … a ddwywaith cyn hynny hefyd!’ Afraid dweud nad aeth yr un o’r tri ohonom ymlaen i fod yn actorion!

Dro arall, roedd y Fam Frenhines, sef Ann Gwyn Evans (Min Ogwen, ger Cae Gias), wedi rhoi gorchymyn i Mazares (Vincent Roberts) fynd i nôl dŵr i olchi traed Alecsander. Troes Vince i fynd allan i gefn y llwyfan trwy agoriad yn y llenni duon. Gwaetha’r modd, doedd yr agoriad ddim yn amlwg a bu Vince yn ymbalfalu’n wyllt ar hyd y llenni yn ceisio dod o hyd i ble gallai eu gwahanu i gael hyd i’r ffordd allan. Ond methiant fu ei ymdrechion a safodd, wedi ildio’n llwyr, yn wynebu’r gynulleidfa â’i freichiau ymhleth. Yna, yn wyrthiol bron, ymddangosodd llaw yn dal desgil drwy agoriad yn y llenni wrth ymyl Vince a gosod y ddesgil yn ei law. Mwy o chwerthin o blith y gynulleidfa a Vince yn cerdded fel pe na bai dim wedi digwydd a chyflwyno’r ddesgil, yn gwbl ddiffwdan, gyda’r geiriau: ‘Dyma eich dŵr, meistr’. A dyna ddiwedd gyrfa fer Vince fel actor!

 

A dyna hefyd f’ymddangosiad cyntaf ac olaf innau yn ceisio ‘actio’ ar lwyfan!

 

Gwesty’r Douglas Arms

Gwesty%27r Douglas

Mae gwesty’r Douglas yn adeilad urddasol iawn ar stryd fawr pentref Bethesda. Mae’n glamp o adeilad gyda bargod colofnog cysgodol yn gwarchod y drws ffrynt ac arfbais unigryw ar yr arwydd uwchlaw. Mae pryd y cafodd y gwesty hwn ei sefydlu yn gwestiwn anodd i’w ateb, ond mae rhai ffeithiau y mae gwerth eu hystyried. Yn gyntaf, nid oes perthynas uniongyrchol rhwng sefydlu’r gwesty ac adeiladu’r Ffordd Bost Telford trwy Fethesda. Adeiladwyd y ffordd yn 1820 ac fe’i dangosir yn glir ar un o’r mapiau cyntaf o blwyf Llanllechid yn 1822. Er y gellir amau lleoliad rhai o’r adeiladau ar y map, nid yw’r Douglas Arms, nac ychwaith gapel Bethesda, wedi eu nodi ar y map. Tyn y Maes oedd lleoliad cyfnewid ceffylau’r goets fawr ar y Ffordd Bost ac nid y Douglas Arms ym Methesda. Yn ail, adeiladwyd y gwesty ar dir stad y Penrhyn, ac mae’r enw Douglas yn awgrymu fod yna gysylltiad uniongyrchol ag Edward Gordon Douglas Pennant, sef Barwn cyntaf y Penrhyn a dderbyniodd yr olyniaeth yn 1840 a’i chynnal hyd at ei farwolaeth yn 1886. Os cywir y cysylltiad yna byddai dyddiad sefydlu’r gwesty yn perthyn i gyfnod wedi 1840, ond mae rhyw awgrym, a bydd rhaid aros am gadarnhad ddogfennol, fod y drysau ar agor mewn cyfnod ychydig yn gynharach.

Mae gwerth ystyried dau beth arall hefyd. Adeiladwyd y gwesty i fanteisio ar gysylltiad rhyngwladol y ffordd i Iwerddon, ac efallai i’r Penrhyn fachu ar y cyfle o wneud hynny tra oedd llif y drafnidiaeth yn ei anterth, oherwydd erbyn 1854 peidiodd y gwasanaeth o Lundain wrth i’r trên gynnig dull llawer cyflymach na’r goets fawr i gyrraedd Caergybi. Sylw perthnasol arall yw mai Edward Gordon Douglas oedd y gŵr na fynnai gael tafarnau ar dir ei etifeddiaeth, er mae’n rhaid cydnabod mai fel gwesty ac nid fel tafarn y cyfrifid y Douglas Arms. Erbyn 1874 yr oedd yr holl dafarnau ar dir stad y Penrhyn wedi eu cau – yr Halfway ar Bont y Pandy, y Bardsey Island yn Rachub, y Bull a’r Red Lion yn Llanllechid, y Coetmor Arms ym M Bella, y Tŷ’n Clwt yn Hendyrpeg a’r George and Dragon yn Nhal-y-bont.

Yr unig ffaith sy’n berffaith sicr ynghylch Gwesty’r Douglas Arms yw ei fod yn bodoli yn 1855 oherwydd fe’i dangosir ar fap Johnson o ardal Pen y Bryn sy’n dyddio o’r flwyddyn honno.

Raw013
Map Johnson o 1855 yn dangos lleoliad y Douglas.Fe’i defnyddir drwy ganiatâd Archifau Prifysgol Bangor

Ymhlith y trwyddedwyr cynnar yr oedd John Hughes Shephard, a hanai’n wreiddiol o swydd Middlesex, a bryd hynny yn 1874 yr oedd y gwesty yn cynnig gwasanaeth  ‘coaches and omnibuses to and from Bethesda’. Dyna a wnâi Hannah Ellis a ddaliai’r drwydded yn 1886 gan gynnig yr un gwasanaeth ond bellach mewn cystadleuaeth â rheilffordd yr LNWR i Fethesda. Mae’n amlwg y cyfrifid gyrru coets a cheffyl yn broffesiwn llawn amser yn y pentref ac yng nghyfrifiad 1871 cofrestrwyd saith dyn a oedd yn byw ar y Stryd Fawr ac yn yrwyr o’r fath. Mae hanes hefyd y byddai plant y pentref yn croesawu rhai o’r ymwelwyr drwy ganu iddynt wrth iddynt ddisgyn o’r goets ar gyrraedd y Douglas ac wedyn byddai hen ymrafael yn eu plith wrth iddynt geisio dal yr arian a deflid i’w plith.

Wrth gwrs, pe canfyddid un ddogfen ac arni un dyddiad perthnasol, yna fe fyddai’r rhan helaethaf o’r llith hwn yn ddiwerth, ond onid yw damcaniaethu yn rhan o hudoliaeth hanes?

Cafwyd gwybodaeth berthnasol gan Catrin Wager a Brenda Wyn Jones.