Nant Ffrancon

Llun 1
Golygfa i lawr Nant Ffrancon tua’r gogledd gyda Llyn Ogwen ar dde’r llun

Mae Nant Ffrancon yn enghraifft berffaith o ddyffryn a gafniwyd gan nerthoedd grymus un rhewlif mawr a oedd, lai na 15,000 o flynyddoedd yn ôl yn ystod Oes yr Iâ, yn llenwi’r dyffryn hyd at ei ymylon. Mae pob gwerslyfr daearyddiaeth o’r bron yn nodi trawstoriad clasurol ffurf U-bedol y dyffryn, ac yn cyfeirio at res y crognentydd ar ochr y gorllewin – Cwm Ceunant, Cwm Graianog, Cwm Perfedd, Cwm Bual, Cwm Coch, Cwm Cywion – oedd yn bwydo rhewlifau ychwanegol o’r uwch gopaon.  Ac ym mhegwn y de, uwch trothwy mawr y Benglog, ‘roedd rhew o gronfa’r Glyderau a Chwm Idwal yn ymuno i rymuso’r  prif rewlif. Wedi i’r rhew gilio, oddeutu 10,000 o flynyddoedd yn ôl, ac i’r dyffryn ail sefydlu i’w ffurf bresennol daeth llyn i lenwi cyfran helaeth o lawr y Nant gyda gwrthglawdd o glogfeini enfawr yn ei gynnal ar lan y gogledd yn ardal Pont Ceunant.

20211024_155754736_002
Map yn dangos ôl troed y llyn yn Nant Ffrancon

Yn nhreigl amser diflannodd y llyn gan adael corsydd eang i’r afon Ogwen droelli ei ffordd drwyddynt yn hamddenol, ddireol, ac ar brydiau i orlifo’n wyllt hyd lawr y dyffryn. Yn y cyfamser, daeth nifer o ffermydd i fodolaeth i feithrin  gweirgloddiau ymylol y dyffryn: Blaen Nant, Pentre, Tŷ Gwyn,  Maes Caradog, Ty’n y Maes, Braich Tŷ Du a Dolawen, oll yn eu dydd i gyfrannu at hwsmonaeth dda a chymdeithas gartrefol y dyffryn fel yn nhraddodiad gorau ffermydd mynyddig Cymru.

Daeth newid sylweddol ar fyd yn ystod cyfnod chwedegau’r ugeinfed ganrif pan benderfynodd awdurdodau cadwraethol y dylid dyfnhau gwely’r afon drwy ei charthu dros bellter o bedwar cilomedr o droed Rhaeadr y Benglog, gyda’r bwriad o atal llifogydd dros ehangder y dyffryn a gwella porfeydd y gweirgloddiau. Aethpwyd ati yn ddeheuig i wneud y gwaith dros gyfnod o dri mis am gost o oddeutu £45,000 i gwblhau’r cynllun. Profodd y dasg o garthu yn llawer anoddach mewn mannau oherwydd croglwyth y meini enfawr oedd yn llenwi gwely’r afon, a rhaid oedd defnyddio ffrwydron i’w chwalu, yn arbennig yn ardal Pont Ceunant. Pentyrrwyd y meini, y graean a’r clog-glai yn dwmpathau uchel hyd lennydd yr afon gan ffrwyno ei lled i sianel gyfyng. Yn y broses chwalwyd nifer o fan ynysoedd a ystyrid yn rhwystrau ychwanegol ar ei chwrs. Yn ystod y blynyddoedd wnaeth ddilyn, ymateb naturiol yr afon oedd llifo’n rhwydd gyflym gan lanhau ei gwely o’r graean oedd weddill ac ail gychwyn erydu’r gwely yn ogystal â phridd y torlannau.  Canlyniad hyn oedd creu cynefinoedd cwbl noeth a difywyd ar gyfer cynnal planhigion, anifeiliaid a physgod cynhenid yr afon, ac er mor drylwyr y gwaith nid oedd y cynllun wedi llwyddo i atal y brif broblem sef atal y llifogydd dinistriol.

20211024_155754736_003
Map y cynlluniau i adfer yr afon

Ar ddiwedd yr ugeinfed ganrif, ac wedi dioddef cyfnod hir o gam reolaeth, penderfynwyd, yn bennaf gan awdurdod Cyfoeth Naturiol Cymru, gweithredu cynllun i geisio adfer yr afon i safon mor agos â phosibl i’w chyflwr gwreiddiol fel nad oedd mwy o ddifrod yn digwydd i’w hamgylchedd naturiol.  Golygodd y cynllun fewn-lenwi  gwely’r afon hyd at ddau fetr mewn mannau i ail greu proffil a fyddai’n asio’n agosach at wyneb gweddill y dyffryn; defnyddiwyd y meini a’r graean a bentyrrwyd ar ei glannau i adfer y proffil gan ryddhau’r afon i ddolennu’n rhwyddach; ail luniwyd rhai o’r ynysoedd gwreiddiol o gerrig a graean i ddargyfeirio llif yr afon yn rhwyddach; ailadeiladwyd safle un hen ryd ac adnewyddwyd rhes o gerrig naid mewn man arall i hwyluso croesi’r afon. Rhoddwyd sylw arbennig i adnewyddu ecoleg naturiol merddwr corsiog llawr y dyffryn ac i adfer llystyfiant cynhenid glannau’r afon – hesg, brwyn, cyrs a gweiriau cwrs – ar y ffin hollbwysig rhwng y tir a’r dŵr.  Mewn rhannau tawelach o’r afon gadawyd i goed a phrysgwydd dyfu ar gyfer creu cysgod uwch deorfeydd graeanog ei physgod, ac yn arbennig ar gyfer yr eog oedd wedi prinhau yn sylweddol  yn dilyn dryswch y carthu. Nid bwriad yr ad-drefnu  oedd atal llifogydd yn llwyr ond yn hytrach greu trefn i’w rheoli rhag achosi difrod parhaol, ac yn sgil y cynllun rhoddwyd amodau ar waith i wella a diogelu ansawdd gweirgloddiau gwerthfawr ffermydd ymylon y dyffryn.

20211024_155754736_001
Map Llystyfiant Nant Ffrancon ar y chwith a ap yn dangos y gweirgloddiau ar y dde

Mae’r cynllun i adnewyddu amgylchedd naturiol Nant Ffrancon yn llwyddiant a’r afon bellach wedi ei rhyddhau unwaith yn rhagor o’i charchar. Mae gwersi i’w dysgu, wrth gwrs, y bwysicaf mae’n debyg yw bod angen bod yn ofalus rhag ymyrryd yn ormodol gyda threfn naturiol draeniad ardal gyfan heb yn gyntaf bwyso a mesur beth allasai’r canlyniadau niweidiol fod o’u cymharu â manteision cynllun o’r fath. Ond, o adfer un cynllun, cyfyd un arall yr un mor heriol. Ers cenedlaethau dirifedi mae cymdeithas glos ffermwyr y dyffryn, oedd gynt mor sicr ei holyniaeth mewn gwewyr.  Un fferm sydd heddiw mewn meddiant teuluol yn y dyffryn tra bo’r gweddill yn perthyn i sefydliad cadwraethol cenedlaethol sydd â’i bencadlys gweithredol yn Lloegr gydag isadran llai ei ddylanwad yng Nghymru. Mae’n gwestiwn pryderus faint fydd teyrngarwch y sefydliad hwn i gynnal hen drefn amaethyddol Gymreig y dyffryn, tra bo coedwigaeth a thwristiaeth yn llawer mwy tebygol o gyfrannu yn helaethach at goffrau’r sefydliad. Amser a ddengys wrth gwrs, ond mae ansicrwydd am ddyfodol hen draddodiadau a iaith a diwylliant ardal gyfan.

Diolch – i Gwyn Thomas , Ceunant, am ei gyfraniadau i gynnwys y nodyn hwn. I Idris Lewis am ei gyfraniad gyda delweddau’r nodyn

David Arthur Jenkins (1938 – 2023)

Dave

Dyma deyrnged i un a gyfrannodd fapiau a dyluniadau cywrain at y wefan hon, ac un a gyhoeddodd ymchwil ar Ddyffryn Ogwen, Dr David Arthur Jenkins (1938 – 2023) gynt o Allt Bryn Eglwys

Deuthum i adnabod David Jenkins yn fuan wedi i mi ddychwelyd yn ôl i fyw i Fethesda ar ddiwedd y 60au a buan iawn y daethom yn gyfeillion gan ein bod yn rhannu yr un diddordebau fwy neu lai. Daearegydd gyda gradd yn y pwnc o Brifysgol Caergrawnt oedd ef, ond ehangodd ei ddisgyblaeth i faes gwyddorau pridd a datblygu yn un o brif awdurdodau Prydain yn y pwnc. Ysgrifennodd draethawd ymchwil ei ddoethuriaeth ar briddoedd Eryri cyn dyfod yn aelod o Adran Biocemeg a Gwyddor Pridd y Brifysgol ym Mangor.  Ei ddiddordeb oedd astudio’r cysylltiad micro-fiolegol sydd rhwng y pridd a’r planhigion sydd yn tyfu ynddo. Golygai hyn edrych ar y berthynas rhwng y meicro fineralau sy’n rhoddi nodd yn y pridd a’r modd mae planhigion yn amsugno’r buddiant drwy’r gwraidd wrth dyfu. I’r perwyl hwn cynlluniodd, addasodd ac arbrofodd ddulliau a thechnegau newydd mewn microscopi, gan ddefnyddio trawstoriadau meicro manwl a thechnegau XRdifraction a MicroProbe, i ehangu maes yr ymchwil. Buan iawn y sefydlodd ei hun drwy ei ddarlithoedd yn yr adran, a thrwy ei arbenigedd yn y maes yn academydd unigryw a disglair gyda chlod arbennig  ym Mhrydain ac yn rhyngwladol. Drwy ei enw da deuai myfyrwyr ymchwil o sawl gwlad dramor i astudio dan ei gyfarwyddyd yn yr Adran ym Mangor, a daeth yntau yn sgil ei ymchwil deallusol yn gyfarwydd â phrif gyfundrefnau priddoedd y byd – priddoedd podsol ei ardal, priddoedd chernozem de ddwyrain Ewrop, laterites Affrica, priddoedd halwynig Pacistan a phriddoedd tir cras Awstralia. Bu ar ymweliadau tymor hir ym Mhrifysgol Bogotá  yng Ngholombia, De America, a phrifysgol OAU yn Ile-Ife yn Nigeria, yn bennaf i gyfarwyddo sefydlu labordai gwyddorau pridd yn y prifysgolion hyn.  Cyfrannodd  hefyd at brosiectau ymchwil i briddoedd halwynig ym Mhacistan ac yr oedd yn ymwelydd cyson ac yn gyfrannwr uchel ei barch mewn cynadleddau gwyddorau pridd ledled y byd. Yng Nghymru daeth yn ffigur amlwg yn y Welsh Soils Discussion Group a gelwid arno yn gyson fel arholydd allanol yn adrannau astudiaethau pridd prifysgolion eraill ym Mhrydain. Yn yr Adran ym Mangor sefydlodd Amgueddfa Ddaearyddol oedd yn cynnwys enghreifftiau o’r mwynau a’r mineralau pwysicaf yn y gyfundrefn ddaearyddol, ased oedd yn bwysig nid yn unig yn y dysgu ond oedd hefyd yn un o ragoriaethau cudd y Brifysgol.

Un o ddiddordebau ysol ac ymarferol David, ers ei arddegau cynnar yn Swydd Efrog ei fagwraeth yn Harrogate, oedd archwilio yn yr ogofau tanddaearol yng nghreigiau calchfaen ei ardal. Yma yng Nghymru daeth yn gyfarwydd ag ogofau de Cymru ond ar garreg ei ddrws, dechreuodd astudio ac ymweld ag ogofau a thwneli mewn chwareli a chloddfeydd yn dyddio o’r cyfnod diwydiannol diweddar. Drwy ei waith ymchwil i hen fwyngloddiau sefydlodd gysylltiad agos gyda grŵp ymchwil The Early Mines Study Group, yn wir yr oedd yn un o sefydlwyr y grŵp. Pennaf diddordeb y gymdeithas oedd cynnal archwiliadau archaeolegol i sefydlu hynafiaeth y mwynfeydd, yn bennaf yn ardal Dyffryn Afon Rheidol i’r dwyrain o Aberystwyth ac yna ym Mynydd Parys ar Ynys Môn. Dan arweiniad David sefydlwyd grŵp o ymchwilwyr tanddaearol dan faner Cloddwyr Tanddaearol Mynydd Parys a drwy eu gwaith darganfuwyd fod y mwynglawdd yn dyddio’n ôl i gyfnod cynnar yn yr Oes Efydd oddeutu 4,000 o flynyddoedd yn ôl. Drwy ei ymrwymiad i’r grŵp sefydlodd David ei hun fel y prif awdurdod ar y mwynglawdd a threuliodd oriau lawer yn ymchwilio, yn cynllunio ac yn ailagor toreth o geuffyrdd, siafftiau a sianelau dŵr tanddaearol a berthynai i’r mwynglawdd yn ystod oes ei gweithio o gyfnod cynhanes hyd at y cyfnod modern yn y 18/19 ganrif. Mae ei gynlluniau o gymhlethdod tanddaearol y gloddfa yn gyfraniad arbennig ac yn gynnyrch oriau o astudiaeth dan amodau anodd ac ar brydiau eithriadol beryglus i’w cwblhau. Yr oedd David hefyd yn un o sefydlwyr Cymdeithas Hanes Porth Amlwch, cymdeithas a arweiniodd at greu’r Amgueddfa i hanes y porthladd a’i chysylltiad gyda’r mwynglawdd ar y mynydd gerllaw.

Yn sgil ei ddisgyblaeth fel daearegydd datblygodd ddiddordeb arbennig mewn archaeoleg drwy addasu a chymhwyso technegau daearyddol i astudio agweddau penodol y maes hwn.  Un maes ymchwil oedd i gyfansoddiad llestri pridd o gyfnodau cyn hanes,  gwaith a sefydlwyd yng Ngwynedd ond a ehangodd mewn diddordeb i rannau eraill o Gymru, a phrosiectau y tu hwnt yn nyffryn Afon Po yn yr Eidal a llestri o Ynys Cyprus. Datblygodd unwaith yn rhagor dechnegau arbrofol yn y maes hwn a symbylwyd ei ddiddordeb drwy ei gysylltiad gyda’i frawd Christopher oedd, cyn ei farwolaeth yn ddiweddar, yn grochenydd enwog iawn ym Mhrydain. Bu’r ddau yn ymchwilio i gyfraniad gwahanol fwynau/mineralau i greu gwydriad ar grochenwaith artistig modern. Yn rhinwedd ei ddiddordeb mewn archaeoleg  bu’n astudio safleoedd bwyeill cerrig Neolithig ar y Graig Lwyd ym Mhenmaenmawr a safle sglodion callestr Mesolithig yn Llyn Aled Isaf ar Fynydd Hiraethog. Estynnodd ei ddiddordeb i faes gweinyddiaeth archaeolegol drwy ei benodi’n un o ymddiriedolwyr  Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd a gwasanaethodd fel Cadeirydd yr Ymddiriedolaeth yn ddoeth a chytbwys ei arweiniad ar un achlysur anodd iawn yn hanes y sefydliad.

Sut mae gwerthuso cyfraniad David fel ysgolhaig ac addysgwr ar yr un llaw, ac fel cyfaill a chydweithiwr ar y llaw arall? Prif ddiddordeb David oedd ei waith academaidd. Yr oedd yn ymchwilydd eithriadol drwyadl gyda dychymyg a chywreinrwydd i arbrofi, addasu a chymhwyso yn sylfaen i’w waith. Ei waith oedd prif amcan ei fywyd, ac ar brydiau roedd hynny yn bwysicach na phopeth arall yn ei fywyd. Ac eto, er cysegru talp enfawr o’i fywyd i’w ddysg, yn rhyfeddol, ychydig iawn sydd ganddo i ategu ei ymrwymiad; does dim cyfrol swmpus i’w enw ac roedd yn awdur cymharol ychydig o erthyglau gwyddonol  gyda’r mwyafrif ohonynt fel cyfrannwr a chyd awdur. Eto yr oedd ei safle  yn y byd academaidd yn ddi-ddadl uchel mewn bri a pharch. Defnyddiai David ei labordy fel ei dreftadaeth bersonol i foddio ei gywreinrwydd gwyddonol heb falio llawer os oedd ei ddarganfyddiadau i’w rhannu gyda gweddill ei gymheiriaid academaidd, heb sôn am gyfrannu at y gymdeithas gyffredinol ar led. Dyn oedd hapusaf, efallai, yn ei gwmni ei hun, yn parchu ei neilltuaeth, ond eto ef y person mwyaf hawddgar a pharod ei gymwynas; gŵr gyda llawer iawn o gydnabod, ond gŵr eithriadol breifat, hyd yn oed yn ei breifatrwydd; ac o ddymuniad roedd ei gylch cyfeillion yn brin ac yn gyfyng. Ymfalchïai yng nghampau a gyrfaoedd ei deulu a bu’n eithriadol deyrngar i’w wraig Sheila yn ystod ei gwaeledd  hir; ac yn dra anffodus treuliodd yntau ei flynyddoedd olaf wedi ei lethu gan afiechyd a’i gwanychodd yn greulon.

Yr oedd David yn berffeithydd yn ei anian, sydd efallai yn egluro paham yr oedd mor amharod o arddangos ac ymhyfrydu yn ei gyfraniadau. Ei gas beth oedd ysgrifennu ei ganlyniadau, nid nad oedd ei arddull yn gywir ac yn rhwydd o’i chyflawni, ond ymhyfrydai mewn cywasgu popeth pe gallai i ffigur, neu gynllun oedd wedi ei ddylunio’n gywrain. Yr oedd y dyluniad yn bwysicach na’r cynnwys ysgrifenedig, a hynny efallai yn etifeddiaeth weledol ei fagwraeth yn fab i artistiaid proffesiynol ac oherwydd ei edmygedd o hirbell o greadigaethau  celfyddydol ei frawd. Efallai mai artist rhwystredig oedd David hefyd, yn ddylunydd creadigol yn ei arbrofion i foddio ei ddychymyg a’i gywreinrwydd mewnol preifat. Pwy a ŵyr? Ond, ar Allt Bryn Eglwys roedd gŵr bonheddig yn byw, un cymhleth ei gymeriad, ond un a oedd yn werth ei adnabod a’i drysori fel cyfaill – Dr David Arthur Jenkins, David Jenkins, Dave Jenks i’w gyfoedion, ond Def i’w gyfeillion agos.  Bydded heddwch i’w lwch.

Ponciau Chwarel y Penrhyn

rHIAN pARRY MAP
Cynllun William John Roberts, Pant, o bonciau chwarel y Penrhyn drwy garedigrwydd a chaniatâd Dafydd Roberts, Cae’r Wern, Tregarth

Pan chwalodd cwmni rhyngwladol McAlpine bensaernïaeth gyson ponciau Chwarel y Penrhyn yn 70au’r ganrif ddiwethaf collodd Dyffryn Ogwen un o’i golygfeydd mwyaf syfrdanol. Yr oedd cafnio wyneb y Fronllwyd yn gyfres o lwyfannau cymesur, fel pe byddai rhyw gawr synhwyrol wedi arolygu’r gwaith, yn orchestwaith na fynnai gael ei ddinistrio. Ond nid cawr mo’r pensaer na’r adeiladwr, ond yn hytrach genedlaethau o chwarelwyr a fu’n datblygu cynllun arloesol a sefydlwyd yn gyntaf yn 1799 gan y rheolwr James Greenfield.

Mae cynllun pwysig William John Roberts, Pant, yn arddangos datblygiad y chwarel hyd at gyfnod dauddegau’r ganrif ddiwethaf fwy neu lai. Mae’n rhoddi darlun o gloddfa frig agored wedi ei gweithio yn gyfres o bonciau cymesur yn dringo llethr y mynydd, a lleoliad twll hirgrwn dwfn islaw a oedd agos at fod yn 130 acer mewn ehangder. Mae prif echel y twll yn dilyn hollt y graig ar ogwydd gogledd ddwyrain i dde orllewin ac mae’r agoriad yn filltir o hyd a’i echel groes yn 580 llath mewn hyd. Yn 1920 yr oedd tua ugain o bonciau yn weithredol, eu huchder rhwng 60 ac 80 troedfedd, a chyfanswm dyfnder y chwarel yn ymestyn i 1200 troedfedd.  Cyfeirir at raniad cyffredinol y chwarel fel yr ochr chwith y dwyrain ac ochr dde yn y gorllewin. Yn gyffredinol gellid ystyried fod pob ponc yn uned annibynnol  ond yn cyfrannu i undod canolog y gwaith drwy gyfrwng gelltydd o’r ponciau uchaf neu danciau codi o wahanol leoliadau isel yn y twll, yn ogystal â rhaffau dur a oedd yn crogi yn uchel ar draws cyfanwaith y chwarel. Mae’r cynllun yn nodi lleoliad ponc Red Lion, megis ar hanner ffordd yn nhrefn y ponciau, sef y prif lawr ar gyfer cynhyrchu llechi a gweinyddu’r gloddfa. O bonc y Ffridd y cenid yr utgorn ar bob awr yn y dydd i rybuddio fod saethu ar ddigwydd ac yno, mewn cyfnod diweddarach, y lleolwyd y gloch a genid ar gyfer yr un gorchwyl.  Ponc George oedd man cychwyn y ffos danddaearol a oedd yn gwaredu dŵr o’r chwarel i’w arllwys i afon Ogwen bron i ddau gilomedr i ffwrdd ger Tanysgrafell, a gwaith mintai o Formoniaid a ddaeth i’r ardal o Ferthyr Tydfil yn 1837 oedd tyrchu’r ffos holl bwysig hon.

Penrhyn 1840 Talcen Mawr
Y Talcen Mawr a phonciau chwarel y Penrhyn yn 1840

Perthyn haenau llechi’r chwarel i’r Cyfnod Daearegol Is-Gambriaidd ac yr oeddynt wedi eu trefnu yn welyau cyson islaw craig galed graean y Fronllwyd. Roedd trefn y gwelyau llechfaen fel a ganlyn: ar y brig yr oedd haen y llechen wyrdd, haen a oedd oddeutu 60 troedfedd mewn trwch; islaw caed prif haen y llechen borffor sef gwely o graig union ei hollt ac o wead main yn mesur oddeutu 90 troedfedd mewn trwch. Cyfeirid at yr haen hon fel y llechen sidanaidd a hon a oedd craidd prif olud y chwarel. Yr haen isaf yw’r llechen lwyd fraith, llechen galed ei chyfansoddiad gyda hollt anunion oedd yn gofyn am offer arbenigol i’w thorri a’i thrin ac am y rhesymau hyn nid oedd wedi ei chwarelu yn gyson ers dechrau’r ganrif. Yn gyffredinol gellid casglu fod cynlluniau ar gyfer dyfodol y chwarel yn 1920 yn canolbwyntio ar ddatblygu haenau mwy proffidiol yr ochr chwith er bod hynny yn golygu newid cwrs afon Ogwen a symud miliynau o dunelli rwbel oedd yn gorchuddio’r haenau mwyaf dewisol.

Mae enwau’r ponciau yn ddrych i ddatblygiad y chwarel dros gyfnod ei datblygiad yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae nifer o’r enwau yn cyfeirio at nodweddion daearyddol neu at ansawdd y graig mewn rhannau arbennig o’r gloddfa, tra bo eraill yn enwau penodol teulu’r perchnogion neu yn cofnodi cerrig milltir yn hanes Prydain yn ystod y ganrif. Mae nifer o’r enwau felly yn rhoddi fframwaith topograffig a chronolegol i hanes datblygiad y chwarel. Mae enwau Ceiling  a Garret yn nodi eu safle fel y ponciau uchaf a’r uchaf ond un yn y dref; Ponc Ddwbwl yn dynodi uno dwy bonc yn un; Ponc Roller lle’r oedd yr olwyn oedd yn gweithio’r Allt Ffawr ar yr ochr chwith wedi ei lleoli; tra oedd Sinc Bach a Thwll Dwndwr yn arwyddo dilyniant i waelod y gwaith. A Phonc Wyrcws yn bonc o gerrig gwael. Aelodau teulu’r Penrhyn roddodd eu henwau i bonciau Pennant, George, Douglas a’r Fonesig Alice Douglas Pennant, tra oedd Rushout yn cyfeirio at Syr Charles Rushout, sef tad Blanche Georgina gwraig gyntaf George Sholto, ail Farwn y Penrhyn, a fu farw yn 1869. Mae Fitzroy yn coffáu Blanche Georgina Fitzroy sef merch Charles Fitzroy, Arglwydd Southampton, a briododd ag Edward Sholto (Trydydd Arglwydd y Penrhyn) yn 1887. Roedd Ponc Lord wedi ei henwi i anfarwoli’r Arglwydd Penrhyn pan gafodd ei wneud yn farwn yn 1866 . Ond pwy tybed a oedd y ddau William Owen a Parry, i ennill y fath anfarwoldeb ymhlith y crachach o gael ponciau yn dwyn eu henwau? A beth am Jolly Fawr a Jolly Bach? Dywedir mai tafarn y Jolly Herring ym Mhenmaenmawr oedd tarddiad yr enw gan fod y perchennog yn gweithio ar y bonc, ac meddir mai tafarnwr y Red Lion ym Mangor anrhydeddodd  y chwarel gydag enw ei dafarn ef. A brodor o Holywell oedd yn gweithio yn y chwarel anfarwolodd enw ei bentref genedigol ar y bonc oedd yn dwyn yr un enw, ac meddir mai ar ôl dyn o Fliwmares y rhoddwyd enw Blw ar bonc arall. Ac a ddarganfuwyd twrch daear pan agorwyd Ponc Twrch am y tro cyntaf? Pwy a ŵyr!

Y cyfeiriadau mwyaf diddorol yw’r rhai sy’n cofnodi digwyddiadau yn hanes Prydain neu gofnod arbennig yn hanes y chwarel. Mae Twll Dwndwr yn gyfeiriad uniongyrchol at un o dyllau sylfaenol y gwaith yng nghyfnod William Williams ar derfyn y ddeunawged ganrif, tra perthyn Agor Boni i gyfnod rhyfel Napoleon Boneaparte rhwng Ffrainc a Phrydain yn 1793 i 1815. Gadawodd rhyfel y Crimea, a frwydrwyd rhwng lluoedd Prydain/Ffrainc yn erbyn byddin y Tsar o Rwsia yn y cyfnod o 1853 i 1856, ei hoel wrth enwi tair o’r ponciau – Crimea, Sebastapol a Malakoff – a Malakoff oedd y frwydr dyngedfennol ym mis Medi 1855 a derfynodd y gwarchae ar borthladd Sebastabol lle’r oedd llynges Môr Du y Tsar yn cael ei gwarchod rhag hwylio allan i ymosod ar Fôr y Canoldir. Aelodau o deulu brenhinol Lloegr ar eu hymweliad â’r chwarel oedd ffynhonnell rhai o enwau’r ponciau eraill. Yn 1864 ymwelodd y Brenin Edward VII â’r chwarel ac enwyd ponc Edward yn ar ei ôl, a dilynwyd ef gan ymweliad Princess Mary, a ddaeth yn Frenhines Mary yn ddiweddarach, yn dilyn ei hymweliad hi yn 1894.

1890
Cwymp yn Chwarel y Penrhyn yn 1890 ar ochr chwith y llun a noder y Talcen Mawr yn y canol – Llun drwy ganiatâd Cwmni Francis Frith

Un o ragoriaethau cynllun Greenfield oedd iddo wneud y chwarel yn lle llawer mwy diogel i weithio ynddo – rhagor nag un clogwyn serth yr oedd yno bellach nifer o glogwyni llai eu maint wedi eu cafnio dan reolaeth i wyneb y graig. Serch hynny, yn hwyr neu’n hwyrach, yr oedd y saethu di-baid gyda ffrwydron, yn sicr o wanio a datod cymalau a ffawtiau’r graig, a bu hynny ddigwydd ar fwy nag un achlysur yn hanes y chwarel. Gellir rhesymu i ffawd fod yn garedig na chafwyd trychinebau erchyll yn y chwarel ar ddau achlysur. Digwyddodd y cyntaf ym mis Gorffennaf 1872 pan ddatgysylltodd hyd at bedair ponc ar ddeg ar ochr chwith y chwarel a dymchwel dau gan troedfedd i’r twll islaw wedi i’r graig gael ei thanseilio. Cyd-ddigwyddiad graslon oedd i’r cwymp ddigwydd pan oedd y gwaith ar gau a thrwy hynny arbed trychineb a fyddai wedi bod yn angheuol i fyddin o weithwyr. Yn 1890 bu cwymp llai ei faint, eto ar yr ochr chwith, ac yn ystod cyfnod modern y gwaith digwyddodd cwymp dros nos ym mis Ebrill 2012 a beryglodd ddatblygiad pellach y chwarel bryd hynny. Un o nodweddion peryclaf y chwarel yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg oedd y Talcen Mawr, neu Malakoff fel yr adweinid ef gan rai, sef piler anferth o gyfansoddiad olifin dolerit folcanig a dra-arglwyddiaethai dros y gloddfa, gyda’r rheidrwydd fod yn rhaid ei ddinistrio er diogelwch i’r gweithlu a dyfodol y gwaith. Digwyddodd hynny ar Sadwrn 20 Ebrill 1895 mewn ffrwydrad dan reolaeth pan ddefnyddiwyd  saith tunnell a hanner o bowdwr du i’w chwalu dan amodau diogel. Un o’r gwŷr a chwaraeodd ran flaenllaw yn y ‘big blast’ oedd Thomas Roberts o Ben y Bont, Llandygái, ac yn dra eironig lladdwyd y gŵr hwn naw diwrnod yn ddiweddarach mewn damwain â wagan llawn rwbel ar ben yr allt ar Bonc Ffridd.

Chwarel penrhyn 5
Ponciau Chwarel y Penrhyn mewn llun a dynnwyd yn chwarter cyntaf y 19g. Llun o archif y diweddar Alaw Jones, Parc Moch, Bethesda, drwy ganiatâd a charedigrwydd

Canolbwynt pob ponc oedd y caban,  neu’r cwt tân fel y gelwid ef yn Chwarel y Penrhyn, ac mae llawer wedi ei ysgrifennu am ddylanwad arloesol y sefydliad hwn yn llywio pob agwedd o fywyd gweithwyr y chwarel. Fel y nodwyd eisoes gweithredai pob ponc fel uned annibynnol a’r cwt tân oedd man cyfarfod y gweithlu i fwyta eu lluniaeth ac i drafod ac ymgomio ynghylch materion pwysig y dydd. Yr oedd Llywydd i bob cwt tân ac ef a fyddai yn sefydlu tôn a chyweirnod y drafodaeth a ddigwyddai ymhlith dynion, a feddai ar safon ddeallusol a oedd ben ac ysgwydd uwchlaw rhai o berchnogion y gwaith. Y gwahaniaeth mawr rhyngddynt oedd mai Cymraeg oedd iaith y gweithlu a Saesneg oedd iaith y meistri, ac ni fynnai’r lleiafrif wrando ar iaith y mwyafrif.  Gweithredai pob ponc nid yn unig fel uned ddiwydiannol ond hefyd fel canolfan ddiwylliannol yn cynnal amryfal weithgareddau ac ar brydiau yn cystadlu yn erbyn y goreuon o bonciau eraill megis yn yr eisteddfod a drefnwyd ar bonc y Wyrcws yn 1876 neu’r cyngerdd mawreddog a gynhaliwyd ar bonciau’r chwarel ym mis Medi 1860 i ganu oratorio’r Meseia gan Handel.

Pan chwalwyd cynllun cyfansawdd y ponciau gan gwmni McAlpine yn 1965 cyfrif y ponciau oedd 23 ar yr ochr chwith ac 15  ar yr ochr dde er bod nifer o’r ponciau yn dilyn o gylch y twll yn ddifwlch a dyfnder yr holl waith yn mesur o waelod y twll i’r brig yn 500 metr (1500 troedfedd). Megis atgof yw’r ponciau bellach ers i foderniaeth mewn dympar a dreigiau dur ysgubo ymaith pob arwydd o grefftwaith y gorffennol a phallodd y gân a’r dadlau megis dafnau o wlith ar godiad yr haul.  Ond nid yw’r sylw uchod yn berffaith gywir. Pan gyflwynwyd cais i ehangu’r chwarel fodern gan ei pherchnogion rai blynyddoedd yn ôl trefnwyd i ail ddefnyddio enwau traddodiadol y ponciau ar gyfer y rhai newydd ac felly erys peth o ogoniant y gorffennol i’r dyfodol. Islaw rhoddir rhestr o bonciau’r chwarel cyn i gwmni McAlpine ei pherchnogi yn 1965.

Ffynhonnell yr wybodaeth – Gwnaethpwyd cywiriadau sylfaenol i’r nodyn hwn gan Dafydd Roberts, Cae’r Wern, Tregarth a thrwy ei garedigrwydd ef y cyhoeddir cynllun ei dad o bonciau’r chwarel.  Cyfrannwyd ymhellach gan Idris Lewis, Dolwern drwy ei luniau o’r chwarel ac ef a dynnodd ein sylw at erthygl bwysig Elias Owen isod. Cydnabyddir hefyd luniau o archif y diweddar Alaw Jones, Parc Moch.

Ffynonellau

Edmund Douglas Pennant, 1982. The Pennants of Penrhyn. Gwasg Ffrancon, Bethesda.

Elias  Owen, 1885, The Penrhyn Slate Quarry, The Red Dragon; the National Magazine of Wales. Cyfrol VII, Ionawr-Gorffennaf 1885, Caerdydd.

Rhestr ponciau’r chwarel yn 1965, rhestr drwy garedigrwydd Idris Lewis, Dolwern, Bethesda

Ochr chwith Top gwaith
Crimea
Penrhyn Harding
Gefnan Gefnan
Ceiling William Parry
Garret Holywell
Tan garet Smith
Dwbwl Ffridd
Rowler William Owen
Twrch Blue
Twlldwndwr Twlldwndwr
Ponc lefal Ponc lefal
Jolly Fawr Agorboni
Jolly Fach Twll Du
Sling Red Lion
Sinc bach Sinc bach
Fitzroy Douglas
Sebastopol George
Lord Rushout
Lady Edward
Princess Mary Alice
Pennant
Lower Pennant
Malakoff

Lady                                                       Edward

Princess May                                      Alice

Pennant

Lower Pennant

Dôl Ddafydd

Nid oes yr un afon yn bod o dan y cread heb fod dyn neu natur, rhywbryd neu rhywdro, wedi cynllwynio i newid rhan, neu fwy, o’i llwybr i’r môr. Nid yw afon Ogwen yn eithriad i’r rheol hon, ac mae sawl ymyrraeth i’w ganfod yn ei chwrs rhwng ei tharddiad yn Llyn Ogwen a’i haber yn Aberogwen. Ym Mhont Ogwen, er enghraifft, newidiwyd ei chwrs rhag i’w dyfroedd lifo’n beryglus a boddi prif dwll cynhyrchu chwarel y Penrhyn, tra islaw yn Aberogwen sythwyd ei gwely drwy dorri gwddf y ddolen fawr oedd yn atal ei llif i’r môr.  Mewn mannau eraill dargyfeiriwyd ei dyfroedd i bweru mân ddiwydiannau – melinau blawd  yng Nghoetmor a Chochwillan, pandai ym Mhont y Pandy a Melin Cochwillan a pheiriannau  cynnal a chadw Stad y Penrhyn yn y Felin Isaf yn Llandygái. Ym Mhont Ogwen mae pwerdy Ynni Ogwen yn defnyddio ei dyfroedd i gynhyrchu trydan mewn cynllun cymunedol uchel iawn ei glod a’i lwyddiant. Mae rhai o bapurau’r Penrhyn o gyfnod y 18g yn tystio fod yr afon yn creu problemau dyrys yn ardal Llandygái yn dilyn llifogydd enfawr. Ym mis Mawrth 1770 ysgubodd llif yr afon y bont yn Llandygái a pheryglu’r felin, ei hargae a’i fflodiart olygodd adeiladu ‘hedge’, cob coed pur debyg, i waredu’r afon rhag creu dinistr pellach. Mae’r dystiolaeth hon yn cadarnhau fod mesurau cynnar wedi eu cymryd i warchod dolydd ei glannau rhag eu niweidio’n barhaol. Tybed a oes tystiolaeth fod camau tebyg wedi eu cymryd i ddiogelu a newid gwely’r afon mewn rhannau eraill o’i chwrs yn Nyffryn Ogwen? Credir bod camau eraill wedi’u cymryd, ond heb dystiolaeth ddogfennol i gadarnhau’r gosodiad a gyflwynir isod.

Un o nodweddion amlycaf yr afon ar ei thaith o gwta ddeng milltir i’r môr yw nifer y dolydd agored sy’n agor cydrhwng plygiadau o greigiau caled lle gorfodwyd yr afon i erydu ei gwely mewn cyfres o raeadrau prysur megis ym Mhont Ogwen, neu drwy gafnio ei llwybr mewn ceunant dwfn megis rhwng Pont Coetmor a Phont y Pandy. Ar derfyn Oes yr Iâ, ddeng mil a mwy o flynyddoedd yn ôl, cyfres o lynnoedd bychan oedd yn llenwi’r dolydd hyn gyda phlygiau’r creigiau megis gwrthgloddiau yn atal y dŵr yn ôl hyd oni, ymhen amser, i erydiad a llif yr afon eu bylchu.  Mae’r ddôl sy’n ymestyn yn eang rhwng pentref Bethesda a Phont Coetmor yn y gogledd yn gynnyrch yr amodau ffisegol hyn, ac mae’n amlwg fod yr afon wedi chwarae rhan bwysig yn hanes datblygiad y rhan hon o Ddyffryn Ogwen.

Screenshot_20201112-110705_Gallery
Rhan yn unig o fap Llanllechid gan George Leigh, Arolwg y Penrhyn 1768. Noder y newidiadau yng ngwely afon Ogwen rhwng Dôl Ddafydd a Phont Coetmor. Drwy garedigrwydd a chaniatâd Archifau a Chasgliadau Arbennig, Prifysgol Bangor.

Wrth lifo’n egnïol drwy bentref Bethesda yr oedd talcen enfawr y graig yn Ffordd y Stesion yn gorfodi’r afon i wyro i’r gorllewin cyn ymollwng i lifo’n rhydd a dilyffethair hyd gweirglodd agored Dôl Ddafydd, cartref presennol clwb rygbi pentref Bethesda, ac i’r ddôl gyferbyn yn Nhy’n Clwt. Heddiw gellir gweld cysgodion ei llwybr dolennog mewn lluniau o’r awyr, ac yn nhir Ty’n Clwt mae’n bosibl dilyn craith fylchog ei gwely hyd oni ei bod yn cysylltu, fwy neu lai, gyda ffrwd fechan sy’n llifo islaw rhes tai Fron Ogwen, gyda chob cerrig i’w gwarchod, cyn ymuno ag afon Ogwen uwchlaw Pont Coetmor.  Mae map Arolwg y Penrhyn 1768 o blwyf Llanllechid yn dangos yn eglur lwybr troellog ac ansefydlog yr hen wely ochr yn ochr â llwybr gwely newydd yr afon.

IMG_20200107_0004
Map Ordnans 1900 rhwng Dôl Ddafydd a Phont Coetmor yn nodi’r ffin weinyddol rhwng plwyf Llanllechid a Llandygái yn dilyn gwely ‘ffosil’ yr hen afon. Dengys y map gysylltiad Ffos Coetmor ag Afon Ogwen a’r ffos yn arwain i Felin Coetmor.

Ar fapiau Ordnans y cyfnod 1888/1900 mae llwybr troellog ‘ffosil’ yr hen afon yn ffurfio’r ffin statudol rhwng  plwyfi Llanllechid a Llandygái, ac yn dechnegol fe berthyn dôl fawr Ty’n Clwt i blwyf Llanllechid ac nid i blwyf Llandygái, sefyllfa i gnoi cil arno gan mai i stad Coetmor y perthynai’r tir hwn yn wreiddiol cyn 1855, ac nid i stad y Penrhyn.  Ers cyn cof afonydd oedd yn ffurfio’r ffiniau mwy arhosol rhwng tiriogaethau cymunedau bychan a gwledydd mawrion fel ei gilydd, a dyna oedd swyddogaeth afon Ogwen yn ogystal. Yr oedd dau blwyf Dyffryn Ogwen mewn bodolaeth ers y Canol Oesoedd fel unedau eglwysig a’r afon, fel heddiw, oedd y ffin rhyngddynt. O dan drefn weinyddol Tywysogion Gwynedd yn y 13g afon Ogwen oedd yn gwarchod y ffin rhwng trefgor Creuwyrion a threfgor Bodfeio yng nghwmwd Arllechwedd Uchaf. Yn hanesyddol, felly, perthyn hen gwrs afon Ogwen i gyfnod cynnar iawn yn y Canol Oesoedd, ond nid yw’r casgliad hwn yn cyfrannu dim at ddatrys pam, sut a phryd y daeth y gwely newydd i fodolaeth rhwng Dôl Ddafydd yn y de a Phont Coetmor yn y gogledd.

Cyfeiriwyd eisoes at bwysigrwydd map Arolwg y Penrhyn yn cadarnhau fod llwybr newydd yr afon wedi ei sefydlu, fwy neu lai, cyn ac yn sicr erbyn 1768. Dengys y map fod y ddolen rhwng  y talcen llechi islaw Ffordd y Stesion ac aber afon Galedffrwd (Pont Sarnau) mewn bodolaeth ac mae’n rhesymol ystyried yr adeiladwyd y cob cerrig bryd hynny i ddargyfeirio’r afon rhag llifo i Ddôl Ddafydd, gan ymestyn y cob ymlaen cyn belled â Llyn Tsieni. Adnewyddwyd y rhag-glawdd yn y 19g gyda llechi o domen rwbel chwarel gyfagos Llety’r Adar. Golygodd hyn droi’r afon i lifo am gryn chwarter milltir mewn dolen sylweddol ei maint, ond o gyrraedd at ddôl fawr Ty’n Clwt gorfodwyd hi unwaith yn rhagor i wyro, cyn mabwysiadu ar wely cymharol unionsyth sy’n arwain i Ddôl Goch yn y gogledd orllewin. Oddi yno i Bont Coetmor mae’r afon yn crymu unwaith yn rhagor i lifo eto rhwng cobiau cerrig sy’n atgyfnerthu ei thorlannau. Yn y tro yn Nhy’n Clwt mae banc o gerrig sylweddol ei faint ar lan y ddôl sy’n gyrru’r dŵr i redeg yn gyflym i gyfeiriad y dorlan gyferbyn – nid banc naturiol mo hwn ond yn hytrach un a adeiladwyd mewn cymysgedd o gerrig cymedrol eu maint sydd wedi eu hangori gan drefniant o lechi ar eu cylith – a’r banc hwn sy’n gwthio’r afon i newid ei chwrs.

Raw011
Map Johnson 1855 yn dangos safle Dôl Ddafydd a rhan yn unig o’r rhaglawdd i gadw’r afon rhag llifo i’r ddôl. Map Johnson drwy ganiatâd Adran Archifau a Llawysgrifau Prifysgol Bangor, Papurau a Mapiau Penrhyn Ychwanegol

Ond i ba bwrpas y gwnaethpwyd yr holl gyfnewidiadau hyn i’r afon rhwng Dôl Ddafydd a Phont Coetmor?  Yr esboniad rhesymol, ond nid efallai’r cywiraf, fyddai fod newid ei chwrs wedi ei gynllunio i atal llifogydd ar y dolydd, ond mae profiadau’r cyfnod presennol yn tanseilio’r fath ganlyniad. Gellir cynnig dwy ddamcaniaeth arall, y ddwy yn seiliedig ar leoliad a phwysigrwydd Ffos Coetmor yn yr estyniad islaw’r tro ger dôl fawr Ty’n Clwt, er mae’n rhaid cyfaddef nad oes tystiolaeth ddogfennol i gynnal yr un o’r ddau ddyfaliad a ganlyn. Ffos Coetmor yw un o ffosydd cynharaf Dyffryn Ogwen a luniwyd yn arbennig  i wasanaethu hen blasty bonheddig Coetmor y gellir olrhain ei hanes yn ôl i’r 15g os nad cynt, ac yn wreiddiol yr oedd y ddyfrffos hwn yn ymuno ag afon Ogwen ychydig fetrau i’r gogledd o’r tro yn yr afon. Addaswyd y  ffos mewn cyfnod diweddarach i ddanfon ei dŵr i bweru’r felin rawn ger Pont Coetmor gryn hanner milltir i’r gogledd, ac ychwanegwyd at ei chyfaint drwy adeiladu fflodiart yn nhro’r Ogwen i gyflenwi dŵr ychwanegol i weithio chwarel lechi Coetmor ym Mryn Bella.  Addasiadau diweddarach na map 1768 oedd y rhain – y felin yn ddyddiedig nid cynt na 1788, sef dyddiad pont Coetmor, a’r chwarel i 1826 – a dyna grynhoi tystiolaeth y cyntaf o’r ddau ddyfaliad, sef mai addasiadau ar ddechrau’r 19g  oedd yn gyfrifol am newid cwrs yr afon. Mae’r ail dybiaeth yn ystyried dyddiad cynharach i Ffos Coetmor, ac o’i chyflawni yn y Canol Oesoedd, sut y byddai ei dyfroedd yn ymuno ag afon Ogwen, o gofio y byddai cwrs yr afon yn llifo gryn bellter i ffwrdd ar eithaf dôl fawr Ty’n Clwt?  Mae canlyniad y dybiaeth yn eglur, sef bod cyd-berthnasedd yr afon a’r ddyfrffos yn perthyn i gyfnod amhenodol cyn 1768. O’i ystyried mae’r casgliad hwn efallai yn rhy ryfeddol i’w dderbyn, sef y troswyd afon Ogwen yn benodol ar gyfer derbyn dyfroedd ffos hynafol Coetmor, a hynny, bur debyg, mor gynnar â’r Canol Oesoedd. Yn dra anffodus ni all Map 1768 gadarnhau’r dybiaeth gan mai map tiriogaeth y Penrhyn ydyw, ac fel yr eglurwyd yn gynharach, ar dir annibynnol stad Coetmor y byddai’r ddau ddyfrffos wedi ymuno.

IMG_0336
Y banc cerrig ar lan dôl fawr Ty’n Clwt sy’n gorfodi afon Ogwen i wyro i’r dorlan gyferbyn

Mae un casgliad pendant i’r holl ddyfalu, nid drwy brosesau naturiol o erydiad a thraws lifo mae’r Ogwen wedi meddiannu ei chwrs presennol rhwng Dôl Ddafydd a Phont Coetmor, ond yn hytrach drwy ymyrraeth dyn.  Fel y trafodwyd, pryd y bu hyn ddigwydd yng nghyfnodau hanes sydd yn gwestiwn na ellir ei ateb yn bendant, ond efallai, rhyw ddydd yn y dyfodol, daw dogfennau i’r fei wnaiff gadarnhau’r naill neu’r llall o’r cynigion a drafodwyd uchod.

Diolch – ffrwyth trafodaethau lu gydag Einion Thomas, cyn archifydd Prifysgol Bangor, yw’r nodyn hwn ac Einion sy’n gyfrifol am ddwyn sylw at y llawysgrif isod. Diolch hefyd i Idris Lewis, Dolwern, am ei gyfraniad gyda’r delweddau.

Ffynhonnell

Archifdy Prifysgol Bangor,  Llawysgrif PFA/14/313 – Richard Hughes i (John Pennant?), Mawrth 22, 1770.

Medd Syr Ifor

Syr Ifor Williams oedd un o bennaf ysgolheigion Cymru a hogyn o Dregarth oedd o. Yr oedd ystyr enwau, ac enwau lleoedd yn arbennig, yn bynciau o gryn ddiddordeb  iddo, ac yn wir Enwau Lleoedd a roddodd yn deitl i’r un o’r llyfrau mwyaf diddorol a ysgrifennodd. Yn y gyfrol mae’n sylwi ar tua ugain o enwau sy’n perthyn yn benodol i ardal Dyffryn Ogwen,  ac felly beth gwell na manylu ar y modd y mae’n egluro tarddiad ac ystyr rhai o’r enwau hyn. Ond cyn cychwyn, yn ei bennod gyntaf yn y llyfr dan y teitl Rhybudd,  mae’n dyfynnu sylw ei hen athro yn y coleg Syr John Morris Jones “’Fydd ‘na neb ond ffyliaid yn treio esbonio enwau lleoedd!”

Gwell dechrau gydag enwau mynydd a bryn sef pwnc ei ail bennod yn y llyfr.

Carnedd Dafydd a Charnedd Llywelyn  – y carneddau yn cyfeirio at feddfeini cerrig ar y copaon sy’n nodi yn wreiddiol feddau arwyr o gyfnodau cynhanes ond mewn cyfnod diweddarach a fabwysiadodd enwau dau o dywysogion Cymru.

Y Gludair Fawr a’r Gludair Fach – camffurf yn Saesneg yw’r ffurf Glyder, ac ystyr gludair yw pentwr o gerrig wedi eu casglu ar y copa naill ai yn naturiol neu i ffurfio carnedd gladdu.

Y Tryfan – nid tri-faen mo’r esboniad ond yn hytrach perthyn dau gymal i’r enw. Y cymal cyntaf try yn golygu blaen, a’r ail gymal ban yn  golygu uchel, ac felly mynydd yn codi yn uchel iawn gyda chopa main iddo yw y Tryfan.

Y Gyrn – esbonia fod peth ansicrwydd i egluro’r enw. Gall darddu o’r hen air curn sy’n golygu pentwr, neu efallai o’r enw corn sy’n golygu pigwrn, ond sylwer mai’r ffurf  luosog  cyrn sydd i enw’r mynydd.

Moel Faban a Moel Grach – mae moel gydag ansoddair treigledig, megis yn y ddwy enghraifft yma, yn golygu bryn, ac nid moel yn yr ystyr o fod yn noeth megis o ben dyn heb wallt. Ond ychwanega’r awdur, wrth ystyried enw Moel Wnion, y gall moel olygu pen crwn i fynydd a dyna ddisgrifio’r copa uwchben Llanllechid.

Y Drosgl – yr ansoddair trwsgl yw tarddiad yr enw. Ystyr trwsgl i ni heddiw ydi afrosgo ond golygai’r hen enw fod iddo ystyr garw neu anhrefn yn ogystal. Ac ym mhlwyf Llanllechid gwelir y gwrthgyferbyniad rhwng Y Drosgl (garw) ar un ochr i afon Ffrydlas yng Ngweuncwysmai a’r Llefn (llyfn) ar ochr arall y dyffryn.

Eryri – mae’r enw yn tarddu o’r gair eryr y gellir ei olrhain mewn hen Gymraeg i er, or  sy’n golygu codi. Fel aderyn mae’r eryr yn codi yn uwch na phob aderyn arall, ac felly mae mynyddoedd Eryri hefyd yn codi yn uchel.

Y Bera –  gall fod yn gyfystyr ag enw aderyn ysglyfaethus megis y barcud.

Nant y Benglog – penglog yw asgwrn caled y pen ond gall clog hefyd olygu craig neu faen carreg. Tybed felly ai’r Benglog yw’r maen mawr yn Llyn Ogwen sydd ar drothwy Nant y Benglog, ond gall hefyd gyfeirio at y maen fel ar ffurf penglog ddynol yn ogystal.

Gerlan – enw cyfansawdd o cerdd a glan, y ddau yn golygu codiad tir. Troes Gerddlan, felly, yn Gerlan o fod yn colli’r dd yn y canol.

Drum – yn golygu cefn ac yma mae’r enw yn cymhwyso rhan o gorff dyn i olygu crib neu gefnen gul megis rhwng y ddwy garnedd Llywelyn a Dafydd.

Ffynhonnell  

Ifor Williams, 1962. Enwau Lleoedd, Gwasg y Brython, Lerpwl.

Cwm Dolawen

Arsenic cwm cywion 1
Y chwarel yn Nhai Newyddion

Fel ardal  a ddatblygodd un o chwareli llechi mwyaf y byd yr adnabyddir Dyffryn Ogwen heddiw ond ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg gallasai fod wedi datblygu mewn ffordd pur wahanol  gan roi cychwyn ar ddiwydiant cemegol pur afiach yn Nant Ffrancon.  Gyda pharagraff byr o bedwar deg un o eiriau y cyfeiria Hugh Derfel at y gwaith gwenwyn, neu ‘y solfŵa’ fel mae’n ei alw, a ddatblygodd yng Nghwm Dolawen am gyfnod byr oddeutu 1837.  Ond gwell enwi’r elfen wrth ei enw mwy syfrdanol sef y gwenwyn arsenic.

Mae arsenic pur yn fwyn pur anghyffredin yn y ddaear ac mae i’w ganfod yn bennaf wedi ei gyfuno gydag elfennau eraill megis  sylffwr neu  fwyn plwm. Ei  ffurf fwyaf aml yw fel arsenopyrite, cyfuniad sy’n perthyn yn agos i aur ffyliaid, sef iron pyrites. Ac felly fel rhan o gloddfa fwy cyffredinol y datblygwyd y gwaith yng Nghwm Dolawen, sydd  wedi’i leoli yn yr hafn uwchlaw Tai Newyddion.  Yn ystod y cyfnod hwn yr oedd ymchwilwyr barus yn llygadu ucheldir Dyffryn Ogwen, fel rhannau eraill o fynydd-dir Eryri, i geisio darganfod mwynau megis copr, plwm a manganîs ar gyfer marchnadoedd diwydiant. Hwn oedd y cyfnod pan oedd ffortiwn i’w ennill pe canfyddid mwynglawdd tebyg i un Mynydd Parys ym Môn a oedd erbyn dechrau’r ganrif  yn prysur golli ei bwysigrwydd.

Criw o Saeson a oedd yn gyfrifol am y fenter yn ôl Hugh Derfel a hyd y gwyddys nid oedd gweithlu lleol yn rhan o’r gwaith.  Erys craith y mwynglawdd a’i rwbel blêr islaw haenau o graig golau ei lliw ar y llethr uwchlaw Tai Newyddion. O’r mwynglawdd cludid y graig i lan afon Ogwen i’w rhostio  yno er puro’r arsenic. Rhedai’r carthion i’r afon gan wenwyno’r dŵr a lladd y pysgod a buan iawn y rhoddwyd terfyn ar y gwaith gan fod y gweithwyr hefyd yn dioddef o grach ac anhwylder. Ac eithrio’r mwynglawdd ni cheir olion gweladwy eraill o’r fenter yn y dyffryn. Ond yn y cae rhwng y mwynglawdd a glan yr afon saif caban bychan o gerrig mewn safle gwbl ddigyswllt a diarffordd.  Pa ddefnydd a fyddai i adeilad o’r fath nid oes ateb, ond tybed a fyddai’n ffuantus meddwl bod gan yr adeilad  hwn mewn un cyfnod gysylltiad â’r fenter i ennill y gwenwyn.

Ond i ba ddiben ennill yr arsenic yn y lle cyntaf?  Cyfeirid at arsenic fel y gwenwyn  a ddefnyddid gan aelodau uchel ael y gymdeithas i ladd  eu gelynion – ‘the poison of kings’ neu ‘the kings poison’ fel y cydnabyddid ef, cyn i wyddonwyr ddatblygu dulliau o’i adnabod  mewn achosion o lofruddiaeth. Ond yn ystod  oes Victoria defnyddid arsenic mewn dull llawer mwy sidêt, ond yr un mor beryglus, yn gynhwysydd mewn eli ar gyfer cannu croen yr wyneb, yn arbennig i’w ddefnyddio gan ferched a fynnai ddangos nad oeddynt yn gwasanaethu yn  llygad yr haul.

Ffynhonnell

Hugh Derfel Hughes. 1866. Hynafiaethau Llandygai a Llanllechid. Bethesda.

  1. M. Bassett. 1974. Diwydiant yn Nyffryn Ogwen. Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon, 35. , 73-84.

Bwlch Molchi

Dyma gyfraniad gan Dafydd Fôn Williams un o awduron gwadd y wefan. Ei eiddo ef yw’r llun ardderchog o’r Bwlch.

Bwlch Molchi

Bwlch Molchi yw’r ffawt daearegol amlwg sydd rhwng Moel Faban a Moel Wnion. Mae’n ffawt rhyfeddol, gan ei fod, yn enwedig o hirbell, yn ymddangos fel petai’n waith dyn, ond, o agos, mae’n amlwg mai Oes yr Ia a fu’n gyfrifol am ei ffurfio. Roedd y gred iddo gael ei ffurfio gan ddyn mewn enw arall a roddwyd iddo gan William Williams, Llandygái, yn 1802, sef Ffos y Rhufeiniaid. Pam y byddent yn mynd i’r drafferth i’w agor, ni ellir dirnad, ac mae Williams yn gwrthod yr enw, nid ar sail pwrpas, ond ar sail y ffaith nad oes tomennydd o bridd yn ei ymyl yn dangos y cloddio.

Mae’r enw yn un rhyfedd. Clywais eglurhad lleol iddo gael yr enw oherwydd fod defaid yn cael eu golchi yno. Mae dau beth yn milwrio yn erbyn hynny. Yn gyntaf, does dim dŵr yn rhedeg drwy’r bwlch, lle gellid cronni dŵr, a does dim llyn na phwll o unrhyw faint yn ymyl, dim mwy o ddŵr nag a geir ar unrhyw ran o’r mynydd ar dywydd gwlyb. Yn ail, mae’r Gymraeg yn gwahaniaethu’n glir rhwng geiriau megis ‘golchi’ ac ymolchi’, ‘gweld’ ac ‘ymweld’, ac ati. Ymolchi yw ‘golchi eich hun’. Does dim lle i ymolchi yn nes i’r bwlch na stafell ymolchi tai gweddol gyfagos iddo!

Ar fapiau OS, ceir yr enw ‘Bwlch ym Mhwll Le’, a chlywais yr esboniad hwnnw yn lleol hefyd. Ar wahân i’r ffaith nad oes pwll yn agos i’r bwlch, nac arwydd daearyddol i un fod yno yn y mil blynyddoedd diwethaf, ychwaith, edrychwch ar yr enw. Welsoch chi erioed y fath erthyl clogyrnaidd erioed? Fyddai’r Gymraeg fyth yn derbyn ‘ym mhwll le’ yn naturiol, sy’n gwneud i rywun feddwl mai geiriau wedi eu gorfodi yn sgrechian i gaethiwed ffurf annaturiol i ‘egluro’ Bwlch Molchi ydynt.

O ble daeth y ‘Molchi, felly? Nodir, mewn mwy nag un ffynhonnell,  fod eglwys fechan wedi ei lleoli ychydig yn is na’r bwlch, ar Waen Bryn. Roedd olion o’i muriau adfeiliedig yno yn oes William Williams, a thros hanner canrif wedyn yng nghyfnod Hugh Derfel. Enw’r eglwys honno oedd Llanyrchyn, neu Llanylchi ( mae R ac L yn cyfnewid yn aml yn  y Gymraeg ). Hawdd gweld sut y byddid wedi galw’r bwlch wrth enw’r eglwys oedd yn ei ymyl. Yn wir, dyna oedd yr enw yng nghyfnod William Williams, asiant y Penrhyn, ddiwedd y ddeunawfed ganrif.

At the north end of this hill ( Moel Faban ) is a hollow, or chasm, called Bwlch Llanyrchyn’.

Fel y nodwyd, roedd amrywiad ar yr enw, sef Llanylchi. Hawdd gweld Bwlch Llanylchi yn mynd yn Bwlch Ynylchi, a, phan gollwyd y cof am yr eglwys, troes y gair anghyfarwydd ‘ynylchi’ i’r gair oedd yn gyfarwydd i’r trigolion, sef ‘ymolchi’, a’i ffurf lafar ‘ molchi’.

Ffynonellau

Hynafiaethau Llandegai a Llanllechid, Hugh Derfel Hughes.

William Williams, Observation on the Snowdon Mountains,1802.

Nant Ffrancon

OLYMPUS DIGITAL CAMERA
Nant y Benglog a Llyn Ogwen, Llyn Idwal a Chwm a Llyn Clyd

Ymwelodd Charles Darwin (1809-1882) â Chwm Idwal yn 1831 fel myfyriwr o Brifysgol Caergrawnt yn cynorthwyo ei athro, y daearegwr Adam Sedgwick i astudio creigiau Eryri fel y trafodwyd mewn erthygl flaenorol am Gwm Idwal. Yn dilyn ei ymweliad cerddodd ar draws mynyddoedd Eryri gan gychwyn o Nant Ffrancon i Gapel Curig ac ymlaen i Ffestiniog gan orffen yn agos at y Bermo, taith a gymerodd ddeuddydd i’w chyflawni. Astudiodd nifer o greigiau perthnasol ar y daith ac yr oedd yn ymwybodol iawn o dirlun Eryri ond ni ddeallai’r prosesau a’i lluniodd.

Yn union wedi dychwelyd i’w gartref yn yr Amwythig gwahoddwyd ef i ymuno ag ymgyrch ymchwil enwog y Beagle i astudio byd natur ar Ynysoedd y Galápagos oddi ar arfordir Ecwador yn Ne America. Hwyliodd y Beagle ym mis Tachwedd 1831 a Darwin ar ei bwrdd. Erbyn mis Mehefin y flwyddyn ganlynol yr oeddynt yn archwilio arfordir Tierra del Fuego ac mae’n ysgrifennu: ‘ I was astonished when I first saw a range, only from 3000 to 4000 feet in height…with every valley filled with streams of ice descending to the sea coast. Almost every arm of the sea, which penetrates into the interior higher chain. On the coast for 650 miles northward, is terminated by tremendous and astonishing glaciers’. Mae’n amlwg i’r golygfeydd wneud argraff ddofn arno, yn enwedig pan syrthiai talpiau anferth o rew i’r môr gan greu tonnau peryglus eu maint. Bum mlynedd cyn ei farwolaeth ysgrifennodd Darwin ei hunangofiant ac mae’n cyfeirio at ei brofiad gyda Sedgwick yng Nghwm Idwal gan nodi: ‘We spent many hours in Cwm Idwal, examining all the rocks with great care… but neither of us saw a trace of the wonderful glacial phenomena all around us; we did not notice the plainly scored rocks, the perched boulders, the lateral and terminal moraines.Yet these phenomena are so conspicuous that as I declared ….a house burned down by fire did not tell its story more plainly than did this valley’. Nid Darwin oedd y cyntaf i sefydlu’r ddamcaniaeth fod gan rewlifoedd rymoedd erydu a fyddai’n newid y tirlun yn gyfan gwbl. Gwyddonwyr o’r Swistir a Norwy piau’r clod am hynny er i’w dadleuon dderbyn lawn cymaint o anghred a chroes ymresymu yn ystod yr un cyfnod ag a wnaeth damcaniaethau Darwin am esblygiad a detholiad natur.

Mae mynyddoedd Eryri yn ddrych o holl allu nerthol y rhew i drawsnewid y tirlun. Mae Cwm Idwal yn enghraifft berffaith o gwm a gafniwyd o’r mynydd, a Nant Ffrancon yn ddyffryn a ddyfnhawyd ac a ledwyd gyda rhes o ddyffrynnoedd crog – Cwm Cywion, Cwm Coch, Cwm Bual, Cwm Perfedd, Cwm Graianog a Chwm Ceunant – yn bwydo rhew o ucheldir y gorllewin. Wrth i rew y rhewlif doddi credir bod llynnoedd o ddŵr tawdd wedi gorlifo i greu nodweddion megis Bwlch Molchi a Thwll Pant Hiriol yn yr ardal. Ffenomenon ddiweddar oedd yr Oes yr Iâ hwn yng nghalendr datblygiadau daearegol y byd ac fe ddaeth i’w derfyn mor ddiweddar â deuddeg mil o flynyddoedd yn ôl. O ganlyniad mae’r tirlun rhewlifol yn un ffres ac arwynebol ddigyfnewid. Wrth i’r byd gynhesu yn raddol yn dilyn diflaniad y rhew digwyddodd cyfres o gyfnewidiadau y gellir eu cofnodi o’r cyfnod hwnnw tan y presennol.

Ym Mhrydain mae corsydd a llynnoedd Dyffryn Ogwen wedi chwarae rhan allweddol yn dogfennu’r cyfnewidiadau hyn. Un o ryfeddodau byd natur yw bod paill coed a phlanhigion yn cael eu diogelu mewn amgylchfyd asid, megis mewn corsydd a llynnoedd, gan olygu y gellir rhoddi disgrifiad manwl o ddosbarthiad yr holl lystyfiant a ddatblygodd yn nhrefn eu hymddangosiad ers diflaniad y rhew. Datgelir fod planhigion y twndra oer yn ceisio gwladychu tirlun newydd ei ymddangosiad ar gychwyn y cyfnod Ôl-Rewlifol oddeutu 8,000 o flynyddoedd yn ôl, ac fel y cynhesodd yr hinsawdd fod fforestydd collddail yn gwladychu’r dyffrynnoedd a gweiriau’r gweunydd yn meddiannu’r ucheldir. Yn y colofnau paill a astudiwyd o Gwm Idwal, Nant Ffrancon, ac yn arbennig o Lyn Cororion, gwelir fod fforestydd o goedydd bedw a helyg yn ymddangos gyntaf a choed gwern yn ymsefydlu yn ddiweddarach. Yn Nant Ffrancon coed gwern a helyg sy’n dominyddu ar gyrion y llyn a oedd yn raddol ddiflannu o lawr y dyffryn, a thrwy gydol hanes llysieuol Dyffryn Ogwen mae’r wernen yn cyfrannu yn sylweddol at greu darlun o ddyffryn llaith ac oer. Mae amlder yr enw ar gaeau a sefydliadau’r ardal yn tystio i hynny. Fel y cynhesodd yr hinsawdd fwyfwy mae coedlannau derw yn poblogi’r dyffrynnoedd a rhai coed yn tyfu mor uchel â 600 metr yn ôl tystiolaeth y paill o Gwm Cywion. Uchafbwynt yr amrediad llysieuol yw ymddangosiad y dderwen a choedlannau o goed collddail cymysg sy’n nodweddu llystyfiant Dyffryn Ogwen a Chymru hyd at y cyfnod presennol.

Gwelir sensitifrwydd cofnod y paill gan ei fod yn cofnodi ymyrraeth dyn yn y goedwig. O gyfnod amaethwyr cyntefig y Neolithig gwelir fod y fforestydd tan warchae wrth i baill y coed ddisgyn a phaill dieithr grawn a chwyn a ddeuai o drin y tir ymddangos am y tro cyntaf, nodweddion a ganfyddir yng ngholofnau paill Nant Ffrancon a Chororion. Cofnodir cwymp sylweddol ym mhaill y coed yng nghyfnod y Rhufeiniaid wrth i gaeau amaethyddol ledaenu eu defnydd. Gwelir hyn eto yn y ddeuddegfed ganrif wrth i goed gael eu torri ar raddfa helaeth ar gyfer adeiladu tai a llongau. Yn y ddeuddegfed ganrif dengys cofnod y paill o Lyn Cororion fod cywarch (hemp) yn cael ei dyfu yn eang yn Nyffryn Ogwen, nodwedd sydd eto yn adlewyrchu lleithder delfrydol yr ardal ar gyfer tyfu’r planhigyn hwn. Yn dilyn, credir bod hyn wedi sefydlu diwydiant creu dillad bras eu gwead a oedd ymhlith y pwysicaf yng Nghymru yn y cyfnod. Ategir y cysylltiad gan enwau ar gaeau a welir yn Arolwg y Penrhyn 1768 megis Gardd Gywarch yn ffermydd Coed Howel, Rhos Uchaf a Chilgeraint ym mhlwyf Llandygái.

Rhoddir maddeuant felly am grwydro braidd yn bell i gyrion Tierra del Fuego er mwyn cadarnhau pwysigrwydd cyfraniad Nant Ffrancon i astudiaethau gwyddorau naturiol Cymru a’r byd.

Ffynonellau

Parc Cenedlaethol Eryri/Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Cyfoeth Naturiol Cymru (dim dyddiad) Taith Darwin trwy Eryri.

Peter Rhind a Barbara Jones. 2003 The Vegetation History of Snowdonia since the Late Glacial Period. Field Studies, 10, t. 539-552.

Christopher Ralling. 1978. The Voyage of Charles Darwin – his autobiographical writings selected and arranged by Christopher Ralling. Cyhoeddiadau y BBC, Llundain.

Cwm Idwal

OLYMPUS DIGITAL CAMERA
Llyn Ogwen a Nant y Benglog, Llyn Idwal a Chwm Clyd o gopa’r Garn

 

aaam-sedgwick1
Adam Sedgwick, Athro Daeareg, Prifysgol Caergrawnt

Dychmygwch eich bod yn ymweld â Chwm Idwal yn 1831 ac yn gweld dyn ar gefn ceffyl a nifer o fechgyn ieuanc yn casglu darnau o greigiau er mwyn iddo wneud astudiaeth fanwl ohonynt a’u cofnodi’n ofalus.Y gŵr oedd Adam Sedgwick (1786-1873), athro daeareg ym mhrifysgol Caergrawnt a chlerigwr ordeiniedig yn yr Eglwys Anglicanaidd yn ôl arfer y cyfnod. Y bechgyn ieuanc oedd ei fyfyrwyr, ac yn eu plith roedd llanc hynod ddisglair o’r enw Charles Darwin. Ystyriwch hefyd y cyfnod. Ym mhen gogleddol Nant Ffrancon yr oedd Richard Pennant yn gosod seiliau’r chwyldro diwydiannol yn chwarel Cae Braich y Cafn, ac ym mhen deheuol y dyffryn yr oedd rhai o feddylwyr academaidd amlycaf chwyldro dysg yn gosod sylfaeni’r gwyddorau naturiol ym meysydd daeareg ac esblygiad biolegol. Ystyrir Sedgwick yn un o dadau sylfaenol gwyddor daeareg fodern. Ef, yn dilyn ei waith yng Nghwm Idwal, a sefydlodd ddosbarthiad creigiau’r cyfnod Cambriaidd, a phriodoli’r enw Lladin ar Gymru i gyfnod eu ffurfiant. Roedd hynny yn union fel y rhoddwyd enwau llwythau Brythonig Cymru, yr Ordoficiaid a’r Silwriaid, i’r cyfnodau daearegol a ddilynodd. Digon yw nodi mai dosbarthiad y systemau hyn sy’n sefydlu trefn olyniaeth daeareg yr holl fyd erbyn hyn.

charles-darwin
Charles Darwin yn 1838 yn ŵr ifanc 30 oed; braslun gan yr arlunydd George Richmond

Yn dilyn ei ymweliad â Chwm Idwal cerddodd Darwin o Nant Ffrancon i’r Bermo gan sylwi ar dirwedd a daeareg Eryri. Ychydig wythnosau yn ddiweddarach ymunodd â mordaith wyddonol y Beagle i Ynysoedd y Galápagos. Ar y fordaith sylwodd ar arfordir pegwn eithaf De America a gweld yno rewlifoedd yn llenwi’r dyffrynnoedd hyd at lannau’r môr a sylweddoli fel y gallasai grym nerthol y rhew drawsnewid y tirlun yn ei gyfanrwydd i greu mynyddoedd, dyffrynnoedd, llynnoedd a nodweddion ffisegol tebyg i’r rhai a welodd ar ei daith drwy Eryri. Digon yw nodi i ymchwil Darwin yn Ynysoedd y Galápagos arwain at gyhoeddi ei gyfrol enwog The Origin of Species a drawsnewidiodd holl gredo’r byd academaidd am esblygiad yr hil ddynol, ond stori arall yw honno na thrafodwn yn y fan hon. Mae’n ddiddorol nodi, er hynny, nad oedd Sedgwick, fel clerigwr ordeiniedig, yn fodlon derbyn damcaniaeth chwyldroadol Darwin am esblygiad y ddynol ryw.

Pe byddai Sedgwick yn fyw heddiw fe fyddai wedi rhyfeddu o wybod am hanes datblygiad y cyfnod Cambriaidd y gwnaeth ef gymaint i’w ddiffinio. Yn y cyfnod Cambriaidd, oddeutu hanner biliwn o flynyddoedd yn ôl, yr oedd uwch-gyfandiroedd Pannotia a Gondwana yn hollti yn hemisffer y de ac yn graddol symud i gyfeiriad hemisffer y gogledd.

gondwonoland
Cynllun o gyfandiroedd symudol Gondwana yn ystod cyfnod y Triasig, tua 190 miliwn o flynyddoedd yn ôl

Yr oedd Gondwana i dorri i fyny i ffurfio Laurentia, Baltica a Siberia. Nid oedd planhigion yn tyfu ar wyneb y cyfandiroedd hyn gyda’r canlyniad fod gwyntoedd cryfion a glaw yn golchi gwaddodion oddi ar y tir i’r moroedd bas a oedd yn cylchu’r cyfandiroedd cynnar. Yn y môr yr oedd bywyd newydd yn ffynnu ar ffurf treiliobeitau (arthropodau môr) a brachiopodau (anifeiliaid morol di-asgwrn cefn) ac yn arwain at greu amrywiaeth o ffurfiau amlgellog gwahanol. Ar ddechrau’r cyfnod Cambriaidd yr oedd cyfres o ynysoedd folcanig ar hyd ymyl ogleddol uwch gyfandir Gondwana ac yn raddol daeth y rhain at ei gilydd i ffurfio micro-gyfandir Afalonia. Mae rhan o’r micro-gyfandir hwn yn cyfateb i’r hyn sydd heddiw yn ffurfio gogledd a gorllewin Cymru. Yn y cyfnod Cambriaidd yr oedd y rhan hon yn ymsuddo i ffurfio basn morol dwfn a dderbyniai waddodion a olchwyd i mewn iddi dros gyfnod o tua 150 miliwn o flynyddoedd. Mewn cyfnodau pan oedd dyfroedd y basn yn ddwfn dyddodwyd haenau o laid a mwd. Cafodd y dyddodion hyn eu hechdynnu a’u trawsffurfio yn y cyfnod Ordoficaidd a ddilynodd i ffurfio llechfeini Cambriaidd Eryri. Yn yr un cyfnod yr oedd grymoedd tebyg yn ffurfio basnau morwrol ar ymylon micro-gyfandir Laurentia ac mewn amser yr oedd y rhain hefyd i arwain at greu haenau’r llechfeini Cambriaidd yng Ngogledd America.

nant-ffrancon-oes-yr-ia
Llun o arfordir Tierra del Fuego heddiw gyda thirwedd a rhewlifau tebyg i rai Nant Ffrancon 14 mil o flynyddoedd yn ôl

Dyma felly yn fras iawn y cefndir daearegol i sefydlu diwydiant llechi Gwynedd a thaleithiau Vermont ac Efrog Newydd yng Ngogledd America. A dyma bontio’r gagendor rhwng hanner biliwn o flynyddoedd yn ôl pan oedd creigiau Cambriaidd Cwm Idwal, Eryri a Gogledd America yn eistedd dros begwn y de, a chyfnod diweddar y bedwaredd ganrif ar bymtheg pan aeth ymfudwyr o Fethesda a Gwynedd i sefydlu’r diwydiant llechi yng Ngogledd America. Pe gwyddai Richard Pennant am olud llechi Vermont siawns na fyddai wedi ceisio eu datblygu i ychwanegu at fuddsoddiad ei deulu ym mhlanhigfeydd siwgr y Caribî. Ond yn ystod cyfnod ei olynwyr yn Chwarel y Penrhyn yn bennaf yr ymfudodd llech gloddwyr Dyffryn Ogwen i ddatblygu golud llechi ardaloedd gogledd ddwyrain yr Unol Daleithiau. Mae’n rhyfedd meddwl sut y gall un rhan o’r byd ymelwa o wasgfa economaidd rhan arall o’r byd, a thrwy hynny greu cysylltiad rhwng dwy gymdeithas mewn dau gyfandir pellennig. Byddai Sedgwick wedi rhyfeddu o ddeall hynny bid sicr!

Ffynonellau 

Roberts, Brinley. 1978. O’r Ddaear Gyntefig hyd y Presennol: y perspectif daearegol. Y Creu, Gol. R. Gareth Wyn Jones a J. Ll. W. Williams. Y Gwyddonydd, Cyfrol 16, Rhif2/3, 82-95.

James, Evan L. 1978. Y Cyfandiroedd Symudol. Y Creu. Gol. R. Gareth Wyn Jones a J. Ll. W. Williams. Y Gwyddonydd, Cyfrol 16, Rhif 2/3, 96-103.

Parc Cenedlaethol Eryri/Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Cyfoeth Naturiol Cymru (dim dyddiad) Pamffled –Taith Darwin trwy Eryri.