Yr Athro Syr Hubert von Herkomer

Dyma gyfraniad gan gyfrannwr gwadd i’r wefan sef Griff Morris, Rhos y Nant.

Hunanbortread Hubert von HerkamorArtist enwog yng nghyfnod Oes Victoria oedd Hubert von Herkomer (1849-1914). Fe’i ganed yn Bafaria yn yr Almaen cyn i’r teulu ymfudo i’r America pan oedd yn ddwyflwydd oed ond, ac yntau yn wyth, ailsefydlodd y teulu yn Southampton wedi dychwelyd yn waglaw i Brydain. Er eu tlodi llwyddodd Hubert yn bedair blwydd ar ddeg i dderbyn ychydig hyfforddiant fel artist mewn ysgol gelf yn South Kensington, Llundain, cyn sefydlu ei hun yn ei ugeiniau cynnar fel artist medrus ac uchelgeisiol a fynnai hawlio sylw fel realydd cymdeithasol yn ei bortreadau teimladol  o fywyd tlodion ac anffodusion ei gyfnod. Yn 1870 prynwyd un o’i luniau mwyaf nodweddiadol, ‘After the Toil of the Day’ gan Charles  William Mansel Lewis, mab yr Aelod Seneddol David Lewis, adeiladydd Castell Stradey ym mhumdegau’r ganrif a pherchennog stad sylweddol ei maint yn Llanelli.  Bwriad Lewis oedd bod yn artist, ac er bod cefndir y ddau yn bur wahanol, un yn gynnyrch ysgol fonedd a Phrifysgol Rhydychen a’r llall o hil teulu o fewnfudwyr, seliwyd eu cyfeillgarwch a dylanwadodd Herkomer yn drwm ar ddatblygiad cynnar Lewis fel artist.  Yn sgil eu cyfeillgarwch datblygodd gyrfa artistig Herkomer yn arlunydd portreadol llwyddiannus ond enillodd hefyd fri fel critig celfyddyd llym ei feirniadaeth ac fel trefnydd arddangosfeydd arlunio o bwys. Ymhen amser, wrth i’w enwogrwydd ymledu llwyddodd i sefydlu  ei ysgol arlunio ei hun yn Bushey ar gyrion Llundain. Oes aur ei gelfyddyd oedd y cyfnod rhwng 1879 ac 1884 pryd yr oedd y gofyn am ei bortreadau ar ei fynychaf, ond yr oedd hefyd wedi datblygu yn dirlunydd golygfeydd medrus ei grefft.  Ymhlith y pwysigion a fynnai ei ddawn oedd Edward Gordon, Barwn cyntaf Penrhyn, yr ‘Hen Lord’ fel yr adweinid ef yn lleol, a bortreadwyd gan Herkamor yn 1881, er nad oedd y llun yn dderbyniol gan y teulu yn ôl y sôn! Yn 1885 penodwyd Herkomer i gadair Gelf y Slade ym Mhrifysgol Rhydychen, penllanw i yrfa bachgen a oedd o gefndir mor dlawd a difreintiedig ar y cychwyn.

Hwfa M^ón
Hwfa Môn yn ei regalia fel Archdderwydd a gynlluniwyd gan Herkomer

Ei gyfeillgarwch agos gyda Lewis oedd cychwyn cysylltiad Herkomer â Chymru a chyda’r Eisteddfod Genedlaethol yn fwyaf arbennig. Ef oedd y beirniad celf yn eisteddfod Dinbych yn 1882 ac am yr ail dro yn eisteddfod Llanelli yn 1895 pryd y bu’n eithriadol llym a dirmygus ei feirniadaeth ar safon isel y cystadleuwyr ac at ddiffyg parch a statws i’r celfyddydau cain yng Nghymru. Mewn ymdrech i godi’r safon gwahoddwyd ef i gynllunio gwisgoedd newydd i Archdderwydd yr Orsedd ac yn Eisteddfod Genedlaethol Llandudno yn 1885  Hwfa Môn oedd y cyntaf i’w arwisgo yn y regalia newydd. Urddwyd Herkomer yn aelod o’r Orsedd.

Ond beth sydd a wnelo gyrfa Herkomer â Dyffryn Ogwen? Fel athro celfyddyd lawn cyn bwysiced â bod yn artist cydnabyddedig yr oedd ganddo ddiddordeb ymarferol mewn addysgu ei ddisgyblion yn y grefft o arlunio.  Ac am gyfnod arbennig rhwng 1877 ac 1884 yng Nghwm Idwal y sefydlodd nifer o gyrsiau ar sut i arlunio’r tirlun, er ei fod yn ystyried ei hun yn arlunydd portreadau yn bennaf.  Yn ei lyfr ‘My School and my Gospel’ mae’n disgrifio sut, yn ei eiriau ef, ‘the methods of procedure for landscape painting were the most cumbersome ever adopted’. Ymwelai â Chwm Idwal yn ystod misoedd Mawrth hyd gychwyn Mai a byddai’r achlysuron hyn yn fater i ryfeddu gan y boblogaeth leol, neu y ‘natives’ fel y cyfeiriai ef atynt. Yng Nghwm Idwal cynhwysai ei wersyll bedair pabell a gartrefai ddeg person yr un, ond ychwanegai fod rhai pebyll i gynnal ei deulu a gynhwysai ei ddau blentyn a’i dad. Yn y gwersyll yr oedd hefyd ddau gwt arbennig ar gyfer arlunio ynddynt, ac mewn gohebiaeth gyda Lewis trafodai Herkomer archebu naw trawst 29 troedfedd o hyd ar gyfer pontio’r afon yn Idwal er mwyn gosod un o’r cytiau arlunio ar y fframwaith. Disgwylid i’r cytiau fod yn troi i wynebu llewyrch yr haul drwy gydol y dydd. Yr oedd cyflenwi gofynion yr holl ymgyrchoedd hyn yn rhyfeddol o gymhleth. Amcangyfrifid fod pwysau defnyddiau crai yr adeiladau a holl offer y dysgu a chynhaliaeth y preswylwyr yn ddeg tunnell, a’r nwyddau hyn i’w danfon o Lanelli gyda’r trên i Fetws-y-coed ac yna i’w halio oddi yno i Lyn Idwal gyda cheffylau, gan gofio, wrth gwrs, nad oedd rheilffordd yn cyrraedd Bethesda yn ystod y cyfnod sydd dan sylw. Ac meddai, wrth ddisgrifio Cwm Idwal mewn brawddegau synhwyrus, ond tra secsist ac israddol yn ein hymadrodd ni heddiw – ‘ Idwal must be seen in its wild mood. In the soft, sunny days of Summer, it carries a false face – as false as the face of a woman who is rouged and powdered’.

Mae cyfrifiad 1881 ym Methesda, ac yn benodol yn ardal Penybryn, yn  cynnwys un cofnod cwbl annisgwyl. Cartref  Henry Jones, chwarelwr 51 oed, a’i briod Ann, oedd rhif 46 Penybryn, sef rhif 18 Pantglas heddiw, yn dilyn ad-drefnu cynllun gwreiddiol tai Penybryn. Yno hefyd y trigai William Hughes, gŵr dibriod a chlerc wrth ei alwedigaeth, ac yn aros ar ymweliad o Plymouth yr oedd chwaer Ann, a’i mab.  Ac yna rhyfeddod y

Edward Gordon DP
Portread Hubert von Herkomer o Edward Gordon Douglas Pennant, Barwn y Penrhyn

rhyfeddodau – Hubert Herkomer, 31 oed, penteulu ac artist, Lorenz Herkomer, 67 oed, penteulu ac artist, a Lulu Griffiths, 31 oed, morwyn ond hefyd a ddisgrifir fel ‘medical student’. Gwnaethpwyd y cyfrifiad ym mis Mai 1881, ond beth tybed a fyddai’r achlysur a ddenodd y tri ymwelydd i aros ym Mhenybryn? A oedd y tri ar daith arbennig i Ddyffryn Ogwen, ai ynteu chwennych cysgod cyfforddus rhag gerwinder Cwm Idwal yr oeddynt? A phwy o’r triawd oedd Lulu Griffiths? Gellir cynnig rhai awgrymiadau yn unig. Y flwyddyn 1881 oedd achlysur peintio portread Edward Gordon, Barwn Penrhyn, a pha well achlysur efallai nag i’r artist ieuanc ymddangos yng nghastell Penrhyn yn drwsiadus ac yng nghwmni ei dad a’r nyrs ieuanc a ofalai am ei dad.  Ond yr oedd hefyd efallai is gynllun i’r achlysur. Lulu Griffiths oedd y ferch o Ruthun a gyflogwyd gyntaf gan Herkomer i ofalu am ei wraig Anna a’u dau blentyn. Yn 1882 chwalodd y briodas a’r flwyddyn ganlynol bu farw Anna. Flwyddyn yn ddiweddarach yn 1884 priododd Herkomer â Lulu a gall y darllenydd ystyried ym mha fodd y datblygodd eu perthynas tan hynny.  Yn drasiediol bu farw Lulu yn 1885 dri mis ar ôl rhoddi genedigaeth yn farw anedig i’w phlentyn yn dilyn damwain ac i gwblhau’r hanes yn gyflawn, priododd Herkomer â’i chwaer hi Margaret yn 1888.

Cyfrannodd Hubert von Herkomer yn adeiladol at fywyd artistig a diwylliannol Cymru yng nghyfnod Oes Fictoria, ond fe wnaeth Dyffryn Ogwen hefyd gyfrannu at ddatblygiad cymhleth y cymeriad amryddawn hwn ei ddoniau a ystyrid yn ffigur mor ddylanwadol yng nghoridorau dysg ac orielau celf ei gyfnod.

Ffynhonnell

Hubert von Herkomer,  My School and my Gospel, 1908.

Advertisements

Gallt Tramffordd Dinas

Gallt Dinas 3
Llwybr yr allt yn Dinas

Yn 1800 adeiladwyd tramffordd i hwyluso danfon holl gynnyrch llechi chwarel Cae Braich y Cafn (chwarel y Penrhyn) i’r porthladd yn Aber Cegin. Ceffylau oedd i weithredu’r dramffordd a golygai’r cynllun y gallasai un ceffyl dynnu o leiaf chwe wagen ar y tro gyda chyfanswm y llwyth hyd at 12 tunnell. Amcangyfrifwyd yn 1801 fod angen 140 o ddynion, 100 o geirt dwy olwyn a 600 o geffylau i gario holl gynnyrch llechi chwarel Cae Braich y Cafn i’r arfordir yn Aber Cegin.

 

Tramffordd chwarel
Cynllun y dramffordd rhwng Coed y Parc a Porth Penrhyn

Cynlluniwyd y dramffordd i redeg o Goed y Parc drwy Goed y Dinas i Dyddyn Iolyn, ymlaen i Landygái, heibio i Dŷ Newydd, at Allt Marchogion nes cyrraedd Aber Cegin, pellter o chwe milltir o’r chwarel. Rhwng ei deupen gostyngai’r llwybr 558 troedfedd a olygai adeiladu tair allt rhwng y cymalau gwastad, y gyntaf yn Nhanysgrafell, yr ail yn Dinas, a’r drydedd yn Allt Marchogion.

Roedd yr allt yn Dinas yn 264 llath o hyd ac yr oedd yn disgyn 190 troedfedd . Gweithredai’r gelltydd drwy i bwysau’r llwyth ar i lawr dynnu’r wagenni gwag ar i fyny, trosglwyddiad mewn ynni o rhwng un a dau gan tunnell y dydd. Agorwyd y dramffordd ym mis Mehefin 1801 ac mae felly yn un o’r tramffyrdd cynharaf a gynlluniwyd ym Mhrydain. Roedd y gelltydd yn cynnwys 24,902 o drawstiau llechi a 457 tunnell o reiliau haearn bwrw. Cost yr holl gynllun o ffurfio llwybr y dramffordd,  adeiladu’r gelltydd yn ogystal â chost y pontydd a pheiriannau gweithio’r gelltydd oedd £8,328.5.0. Cwblhawyd y gwaith yn rhad drwy ddefnyddio cyfran o weithlu’r chwarel a ddiswyddwyd oherwydd y dirwasgiad a achoswyd gan ryfel Napoleon Bonaparte rhwng Prydain a Ffrainc.

Yr oedd yn rhaid goresgyn rhai problemau cychwynnol cyn bod y system yn gweithio’n llwyddiannus. Yn wreiddiol defnyddiwyd olwyn â dwy fflans ar y wagenni ond, mewn tro yn y rheilffordd, yr oedd yr olwyn yn cloi ar y rheiliau. Disodlwyd yr olwyn hon gan olwyn fflans sengl er mwyn iddi redeg yn rhwyddach. Newidiwyd y cynllun hefyd i ymestyn y gelltydd yn Nhanysgrafell ac yn Dinas yn 1812. Yn y cynllun gwreiddiol drwy groesffordd agored yn Nhanysgrafell y rhedai’r dramffordd drwy Allt Bryn Eglwys, ond adeiladwyd pont yno i gyrraedd pen yr allt gan ei hymestyn i 121 llath o hyd ac adeiladu seiding ar ei gwaelod. O waelod yr allt gwyrai’r dramffordd cyn rhedeg yn syth i gyfeiriad Hendyrpeg. Yn Llandygái ychwanegwyd cyffordd ar gyfer estyniad i’r Felin Isaf lle’r oedd gwaith Samuel Worthinton yn malu callestr ar gyfer y diwydiant gwneud llestri yn Lerpwl.

Mae’n rhyfeddod fod rhannau o’r dramffordd wreiddiol i’w gweld hyd heddiw er iddi gael ei bylchu mewn sawl rhan gan gynlluniau diweddarach. Rhwng Dinas a’r Felin Fawr yng Nghoed y Parc addaswyd llwybr y dramffordd i gynnal y rheilffordd stem ac mae’r tyrrau uchel a adeiladwyd o bennau llifio i gynnal y llwybr yn aros yn Nhanysgrafell ac uwchlaw ceunant Afon Ogwen yng Nghoed y Dinas. Yn Dinas mae gwely’r allt i’w braidd ganfod yn rhimyn isel yn y cae uwchlaw’r ffordd ac mae rhan o fwa’r bont ai cludai o dan y Ffordd Dyrpeg sydd bellach wedi ei guddio mewn drysni. Erys tŷ gofalwr yr allt er bod hwn hefyd wedi’i guddio gan ddatblygiad safle carthion Tregarth.

Rhwng Tyddyn Dicwm a thro yr hen A5 i Dyddyn Iolyn mae llwybr y dramffordd yn dilyn yn gyfochrog i’r A5 presennol cyn  croesi i’r cae wrth gefn Tollborth Lôn Isa lle erys ei llwybr fel crib isel. Ar Allt Marchogion, ar draws y ffordd i Fynwent Dinas Bangor, saif tŷ gofalwr yr allt a ostyngai i’r porthladd, tŷ a oedd yn wreiddiol mewn dwy ran gyda bwlch yn y canol yn arwain y dramffordd i ben yr allt.  Bellach adeiladwyd ystafell ychwanegol yn y bwlch i gyfuno dwy ran y tŷ gwreiddiol.  Ac i ddychwelyd i ben deheuol y dramffordd yng Nghoed y Parc, yno mae rhes Tai’r Stablau a adeiladwyd yn wreiddiol i ofalu am y ceffylau a weithiau ddatblygiad a ystyrid yn un tra chwyldroadol yn ei ddydd. Mae’r holl nodweddion hyn yn gofadeiliau i ddatblygiad y mae iddo bellach bwysigrwydd ac arwyddocâd rhyngwladol y dylid ei ystyried yn rhagflaenydd i holl ddatblygiad rheilffyrdd y byd. Rhyfeddol!

New Picture (21)
Tŷ ceidwad yr allt  sy’n arwain i’r porthladd yn Allt Marchogion, Bangor gyda ychwanegiad diweddarach i ymuno dwy ran yr adeilad gwreiddiol

 

 

 

 

Ffynhonnell

J I C Boyd. 1985. Narrow Gauge Railways in North Caernarvonshire. Vol. 2. – The Penrhyn Quarry Railways. Oxford.

Gwaith copr Parch Moch – diweddariad

Mae Alaw Jones, Parc Moch wedi gwneud rhai sylwadau diddorol ynghylch y nodyn a gyhoeddwyd gennym ym mis Medi 2018 ynghylch cloddfa gopr Parc Moch. Mae Alaw yn sicr yn gwybod mwy am ryfeddodau’r goedwig hon nag awduron y nodyn!

Yn gyntaf, tynnodd sylw at safle siafft ddofn sy’n agor yn nghanol y goedwig ychydig fetrau i’r gogledd o’r llwybr troed i Goed Isaf. Mae’n fwy na thebyg fod y siafft hon yn perthyn i’r lefel a agorwyd o lan yr afon Ogwen i redeg o dan ffordd yr A5 i gyfeiriad y dwyrain. Does ryfedd felly na roddwyd sylw iddi gan Telford pan adeiladodd ef y ffordd bost yn 1819/20 ond mae tri neu bedwar o feini mawr yn wal y Parc yn nodi ei safle tanddaearol.

twll

Yn ail, mae Alaw yn awgrymu fod llawer gwell llwybr yn cysylltu’r gloddfa â Ffordd y Coed na’r llwybr drwy Coed Isaf a nodwyd yn yr erthygl. Ei awgrym ef yw fod y llwybr eang sy’n codi ger Tan y Bryn ac yn arwain i Dai’n y Coed cyn ymuno â Ffordd y Coed gerllaw y Wern, gan ddilyn ymlaen heibio i Gochwillan, yn llawer haws, ac yn sicr yn fyrrach, i gyrraedd Aber Ogwen.  Nid oes amheuaeth fod llwybr Tan y Bryn yn un cynnar iawn ond mae pa mor gynnar yw cynnar yn fater arall.

llwybr

Ysgol Glan Rhyd Idwal

ysgol GRhI

Gwnaeth Marian Elias gymwynas enfawr â hanes ein hardal pan ddarbwyllodd  y diweddar Margaret Roberts, Tal y Braich, i ysgrifennu ei chlasur o lyfr ‘Oes o Fyw ar y Mynydd’ a gyhoeddwyd gyntaf yn 1979. Ac er clod i Margaret Roberts heb ei phennod hi ar ‘Yr Ysgol Ddyddiol’ ni fyddai prin ddim o hanes  Glan Rhyd Idwal wedi goroesi hyd heddiw ac ni fyddai’r cofnod hwn yn bodoli ychwaith. Mae lleoliad y safle neilltuedig  yn gyfarwydd i lawer, ond rhag ofn bod yr encil yn ddieithr i eraill gwell nodi lle y saif. Adeiladwyd Glan Rhyd Idwal ar grib y Benglog yn drothwy i ehangder Nant Ffrancon islaw. Gellir cyrraedd y safle o ben Llyn Ogwen drwy gymryd hen lwybr Ffordd y Lord heibio i ganolfan wybodaeth Parc Cenedlaethol Eryri ac yno, ar fin y llwybr o fewn canllath neu lai, y saif yr adeilad mewn planhigfa o goed trwchus.

Mae cynllun yr adeilad ar ffurf eglwys oherwydd fel eglwys y cynlluniwyd y safle gan yr Arglwydd Penrhyn fel cyfrwng i wasanaethau Eglwys Loegr ar y Sul. Mae dyddiad ei hadeiladu yn ansicr ond credir ei bod yn dyddio o gyfnod 50au neu 60au’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, sef oes aur adeiladu eglwysi yn Nyffryn Ogwen o dan nawdd Edward Gordon, yr ‘Hen Lord’. Yn ystod yr wythnos fe’i defnyddid fel Ysgol Wladwriaethol (mudiad y National Society) dan nawdd yr Eglwys i addysgu plant o aelwydydd anghydffurfiol ardal Nant y Benglog a Nant Ffrancon. Hon oedd yr ysgol a fynychodd Margaret Roberts, a chydnabod ei theulu am genedlaethau cyn hynny, hyd oni chaewyd ei drws yn derfynol oddeutu 40au neu 50au’r ganrif ddiwethaf.  Heddiw troswyd yr adeilad yn dŷ.

Roedd Margaret Roberts yn un o ddeg o ddisgyblion yr ysgol yn y cyfnod 1917-1922, fwy neu lai, gan nad yw’n manylu ar y dyddiadau yn yr ysgrif.  Deuai’r athro i’w dysgu yno o Fethesda, yn ŵr caredig nad oedd wrth ei natur yn ddisgyblwr ciaidd ond, o ddarllen rhwng y llinellau, na feddai ar lawer o drefn. Yr oedd yr ysgol ar agor o ddeg y bore hyd at hanner awr wedi tri y prynhawn i groesawu’r fintai fechan o ddisgyblion a fyddai’n  cyrchu yno o ddalgylch gwasgaredig ffermydd y fro. I Margaret Roberts golygai hyn y byddai’n cerdded yno o’i chartref yn Nhal y Braich, siwrnai o chwe milltir y dydd yn ôl ac ymlaen.  Yn yr ysgol cuddid yr allor y tu cefn i lenni coch nad oedd wiw i’r disgyblion eu hagor ac eithrio drwy fynnu cipdrem slei yn wrthgefn i’r athro. Dechreuid y dydd gyda gwasanaeth crefyddol hirfaith gyda’r Credo yn dwyn y sylw pennaf. Diflas oedd yr addysg wedyn drwy adrodd y tablau yn ddi- ddiwedd a chofio sut i sillafu rhesi diderfyn o eiriau Saesneg. Saesneg oedd iaith yr addysg, ac meddai Margaret Roberts yn un o frawddegau mwyaf cofiadwy’r llyfr – ‘Credem yn siŵr mai lord oedd pob Sais ac mai ein braint fawr oedd iddynt siarad ond ychydig eiriau â ni’. Onid hon oedd y gyfundrefn addysg a luniwyd er creu gwaseidd-dra?

Ond yr oedd gwaredigaeth wrth law o gaethiwed y dosbarth. Ar rai prynhawniau byddai’r athro, yn ei fawr ddoethineb, yn tywys y disgyblion i werthfawrogi gwychder amgylchedd yr ysgol ar deithiau i Lyn Idwal neu lwybrau’r Benglog gan edrych ar gyfansoddiad cymhleth y creigiau neu ogoniant byd natur yn ei gyflawnder a’i amrywiaeth.  Ac yn ystod yr awr ginio yr oedd Llyn Ogwen a chwarel cerrig hogi’r Benglog ar y trothwy i’w archwilio a’u mwynhau cyn troedio yn ôl i undonedd blinedig yr ysgol weddill y prynhawn.  Er mai Saesneg oedd prif gyfrwng y dysgu mynnai’r athro drosglwyddo gwybodaeth am enwau lleoedd yr ardal gan egluro beth oedd eu hystyr, a thrwy hynny gyfoethogi gwybodaeth y disgyblion am eu hamgylchfyd. Mae ei disgrifiad o Ysgol Glan Rhyd Idwal, er mor fychan ei maint, yn adrodd cyfrolau am ba mor gaethiwus, ac ailadroddus oedd cyfundrefn addysg y National Society yng Nghymru ar dro’r bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed. Dengys hefyd ba mor gyfeiliornus oedd mynnu mai Saesneg oedd iaith yr addysg gan amddifadu cenedlaethau o blant o’r cyfle i ddysgu yn eu mamiaith. Eto, er mor gaeth oedd y dysgu ailadroddus,  gallai Margaret Roberts ddweud iddi ‘gael addysg werthfawr yn Ysgol Glan Rhyd Idwal’, ond efallai mai’r rheswm am hynny oedd gweledigaeth un athro dawnus a fynnai addysgu ei ddisgyblion yn eu cynefin y tu allan i gaethiwed yr ystafell ddosbarth.

Llyfryddiaeth

Margaret Roberts, Oes o fyw ar y mynydd, Gwasg Gwynedd, 1979.