Kalgoorlie

image1
Llun o dîm pêl-droed o Gymry yn Kalgoorlie

Nodyn ar y cyd ag Edgar Roberts, Llanfairpwll sy’n dogfennu hanes ei dad yn Kalgoorlie.

Chwaraeodd ymfudo ran bwysig ym mywyd cenedlaethau o Gymru, ond yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg datblygodd yn anghenraid i ganran uchel o’r boblogaeth a oedd yn chwilio am ragolygon bywyd gwell mewn rhannau pellennig o’r byd. Gellid dadleu fod ymfudo yn fath o faromedr hanfodol a fyddai’n rheoli twf poblogaeth mewn rhannau gorboblog, datblygedig o’r byd,  fel y byddai’r parthau hynny a oedd yn dlotach eu poblogaeth, er yn gyfoethocach eu hadnoddau, yn elwa. Wrth gwrs gwladychiad y dyn gwyn yn ymerodraeth Prydain Fawr oedd hyn yn bennaf, a hynny ar draul y boblogaeth frodorol, er nad oedd moesoldeb  ymyrraeth o’r fath yn mennu dim ar gynlluniau hirdymor llywodraethau’r cyfnod. O ganlyniad daeth rhanbarthau, trefi a phentrefi yng nghyfandiroedd Gogledd America, Awstralia a De Affrica yn enwau cyfarwydd ar sawl aelwyd yn ardaloedd chwareli gogledd orllewin Cymru. Yn ystod ail hanner y ganrif amcangyfrifir y byddai mwyafrif teuluoedd Dyffryn Ogwen gydag o leiaf un plentyn a oedd wedi dewis ymfudo. Cymerer teulu Owen Williams o Ty’n Tŵr fel un enghraifft o lawer. Ganed saith bachgen i’r teulu rhwng 1831 a 1858. Dewisodd pedwar aros gartref, ymfudodd un i Awstralia, bu i un foddi yn Ne Affrica, a llongwr oedd efe, ac ni chofnodir hanes y brawd hynaf a ddiflannodd gan dorri ei gysylltiad â’r teulu.

Cyfraniad pennaf ymfudwyr o Gymru oedd eu profiad fel mwyngloddwyr a chwarelwyr. Ymfudo dan gynllun oedd yn cefnogi ymsefydlu mewn rhan arbennig o’r byd oedd un o’r dulliau mwyaf cyfarwydd o newid aelwyd, yn arbennig felly i deuluoedd, gyda’r trefniant yn aml wedi ei hwyluso drwy gysylltiad personol gyda chyd Gymry a oedd yno yn aros i’w croesawu. Mabwysiadodd Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru ymfudo yn rhan o’u polisi swyddogol yn ystod degawdau olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg.  W. J. Parry, Llywydd yr Undeb, bwysleisiodd bwysigrwydd y cynllun a hynny yn dilyn ei ymweliadau ar dri achlysur â Gogledd America.  Taith breifat heb ymrwymiad i unrhyw gorff swyddogol oedd ei ymweliad cyntaf yn 1871, pan deithiodd drwy ardaloedd diwydiannol a chwarelyddol taleithiau Efrog Newydd a Vermont, dwy ardal a oedd i dderbyn mewnlifiad sylweddol o Wynedd yn ystod hanner olaf y ganrif. Ar y daith hon y dysgodd beth oedd manteision economaidd ymfudo i’r America. Taith wedi ei threfnu gan yr Undeb oedd yr ail yn 1879, gyda Parry fel y Llywydd, yn adrodd yn ôl yn swyddogol  i’r Cyngor, yn gyntaf, ar gyflwr a datblygiad y diwydiant chwarelyddol, ac yn ail, ar briodoldeb ymfudo i Ganada. Yn sgil ei ymweliad penodwyd ef yn ymgynghorydd anrhydeddus i Lywodraeth Talaith Manitoba gyda’r dasg o drefnu i ymfudwyr ymsefydlu yn y rhanbarth hwnnw o’r wlad. Ymwelodd am y trydydd tro yn 1888 i gadarnhau ei gysylltiadau, a bryd hynny y daeth yn berchen ar fferm yn nhalaith Manitoba. Fel gŵr busnes mentrus a llygadog buan y sylweddolodd Parry y gallai elwa yn bersonol o bolisi ymfudo’r Undeb ac wrth i anghydfod yn y diwydiant gynyddu yn negawdau olaf y ganrif sefydlodd ei hun fel hwylusydd ymfudo ac asiant i o leiaf 30 o gwmnïau llongau ym Methesda.  Amcangyfrifir i oddeutu 250 o chwarelwyr a’u teuluoedd ymfudo o Wynedd i America rhwng 1879 a 1881 dan gynllun yr Undeb  gyda’r mwyafrif yn mentro i sefydlu a gweithio yn chwareli llechi taleithiau Vermont a gogledd Efrog Newydd.

Ar y 14eg o Fawrth 1885 ymddangosodd hysbyseb ym mhapur  y North Wales Chronicle yn gofyn am 100 o chwarelwyr i weithio yn chwarel lechi Bangor ger Lauceston yn Tasmania. Hon oedd y flwyddyn, megis mewn cyd-ddigwyddiad, y derbyniodd George Sholto ei olyniaeth i stad y Penrhyn a’i benderfyniad cyntaf oedd diswyddo 100 o’i weithlu o’r chwarel. Bedair blynedd yn gynharach gorfu i’r Undeb ddirwyn i ben y cynllun ymfudo oherwydd gofynion cynyddol taliadau streic i’r aelodaeth ac, felly, yr oedd amodau arbennig yr hysbyseb yn Tasmania –  cyflog o 7/6 y dydd am wyth awr o waith, blaenoriaeth i ddynion priod â theulu, tai yn eu haros, costau’r ymfudo wedi eu talu, a‘r hawl i dderbyn clwt o dir am ddim – yn abwyd nad oedd yn hawdd ei wrthod. Drwy gydweithrediad parod W. J. Parry a’i asiantaethau llongau ymadawodd oddeutu 80 chwarelwr a 40 gwraig a phlant o fewn tri mis o weld yr hysbyseb gyda threfniant i 50 ychwanegol ddilyn pe byddai’r gofyn. Sefydlwyd chwarel Bangor mor gynnar ag 1872 a’i henw wedi ei ddewis am resymau masnachol yn hytrach na bod iddi sylfaenwyr Cymreig.  Carreg ddu frau oedd y deunydd crai i’w chwarelu mewn twll dwfn afiach a byrhoedlog oedd y rhagolygon i’w dyfodol. Erbyn 1887 yr oedd y chwarel ar gau a’r gymuned ar chwâl. Ychydig iawn a arhosodd yng nghyffiniau Lanceston – nid oedd abwyd y llecyn tir am ddim ond megis rhith – a gorfu i’r mwyafrif edrych i rannau eraill o Dasmania ac Awstralia am eu cynhaliaeth. Hyd y gwyddys ni ddychwelodd yr un teulu yn ôl i Fethesda.

Kalgoorlie, tref 370 o filltiroedd i’r gogledd ddwyrain o Perth yn nhalaith Gorllewin Awstralia, oedd yn atynfa arall i ymfudwyr o Gymru. Yno ar derfyn y bedwaredd ganrif ar bymtheg  bu rhuthr gwyllt nid anenwog am ei fryntni a’i oferedd i’r mwyngloddiau aur. Drwy ddamwain y darganfuwyd y wythïen aur yn 1893 gan dri fforiwr ac mae’r mwynglawdd yn dal i’w chloddio gerllaw’r dref hyd y dydd heddiw.  Pentref bychan o 2,000 o bobl oedd Kalgoorlie yn 1898  ond erbyn 1903 chwyddodd ei faint i 6,800 tra yn yr ardal gyfagos heidiodd agos i 200,000 o fforwyr a mwyngloddwyr i chwilio am yr aur i’w bendithio â ffortiwn.  Entrepreneur o Abertawe oedd un o’r rhai a sefydlodd gloddfa The Sons of Gwalia yn yr ardal oddeutu 1897 ac yn sgil y datblygiad daeth Kalgoorlie yn nythfa i lawer o Gymry a oedd wedi ymfudo i Awstralia. Yn 1912 yr aeth Albert Roberts o Fethesda i Awstralia, yn gyntaf i geisio ei lwc yn Ballarat ger Melbourne yn y dwyrain, gan aros yno am ddwy flynedd, cyn troi ei olygon i Kalgoorlie lle treuliodd yr wyth mlynedd nesaf yn y cloddfeydd aur cyn dychwelyd yn ôl i Fethesda.  Yn wahanol i Dasmania yr oedd yno groeso i Gymry gyda nifer o sefydliadau Cymreig yn ei aros, cymdeithas gorawl i ddynion, tîm pêl-droed o Geltiaid, a gwasanaethau Cymraeg yn yr eglwys Saesneg o dan arweiniad gweinidog o Gymro.  Gadawodd Fethesda yng nghwmni tri llanc arall i ymuno â chwech a oedd wedi ymsefydlu yno ynghynt. Mae ei ddisgrifiad o’i ymadawiad â’r pentref yn syfrdanol. Meddai – ‘Y peth cyntaf a welwn wrth ddŵad o’r tŷ oedd y band yn mynd i fyny’r stryd yn chwarae, a phan gyrhaeddais y stryd fawr ni welais gymaint o bobl erioed, a phawb yn edrych o’r top i’r gwaelod arnom. Ond yr orchwyl anodd oedd ysgwyd llaw efo cyn llawer ohonynt. Pan gyrhaeddais yr orsaf roedd honno yn ‘full up’ ac ni fuaswn yn cael lle i droi yno. Roedd y merched yn gweiddi y ‘pethe bach’ ….. Mi ddaeth llawer iawn efo ni ar y trên i Fangor, ac yr oedd y rhan fwyaf o’r hogia yn fwy digalon na ni yn gweld eu hunain yn gorfod aros yma’.

Mae geiriau Albert Roberts, ‘yr hogia…yn gorfod aros yma’,  yn adrodd cyfrolau am ardal y llwyddodd streiciau mawr chwarel y Penrhyn i dorri ei chrib yn deilchion. Nid rihyrsal  i ffarwelio â’r mentrus oedd hwn ond yn hytrach ailadroddiad blinderus cyfresi o ymadawiadau â threflan a gollodd ei henaid mewn gwrthdrawiadau ciaidd. Ymadawiad a fyddai, yn y man, yn arwain at gyfresi mwy ingol fyth o ymadawiadau lle byddai’r  unigolion o adael, yn dychwelyd i’w cofio mewn enw yn unig ar gofgolofnau o garreg.

Gwybodaeth ychwanegol gan – Alwyn Evans , Caerdydd am hanes Cymry yn Kalgoorlie.

Ffynonellau

John Pilling. 2009.  From Bethesda to the Bangor Slate Quarry, Tasmania. Trafodion Hanes Sir Gaernarfon, 70, tud 38-54.

John Ll. W. Williams.  2005. W. J. Parry, Coetmor Hall, Bethesda: Portread o gyfrifydd,  masnachwr a hapfasnachwr Cymreig yn negawdau olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Trafodion Hanes Sir Gaernarfon,  66, tud 137-167.

Aberogwen

20201027_142155
Llun awyr o Aberogwen

Yr oedd hafan Aberogwen yn lleoliad prysur iawn yn y ddeunawfed ganrif. Yno y byddai llechi yn cael eu llwytho i longau bychan ar ôl cael eu cludo i’r traeth mewn cewyll ar gefn ceffylau o fân chwareli cynnar y fro. Mae un o’r adroddiadau cynharaf  am y fasnach yn cydnabod danfon 21 mil o lechi o Aberogwen (‘Oggweyn’) i doi stabl mawr Castell Caer yn 1357/58 am gost o un swllt a deg ceiniog y fil. Erbyn 1682 yr oedd cost mil o lechi wedi codi i ddeg swllt ac wyth geiniog, fel y dengys cofnodion Eglwys Gadeiriol Llanelwy pan ddanfonwyd 20 mil o lechi ‘dwbl’ o Aberogwen i’r Foryd ar afon Clwyd i’w cludo i Lanelwy. Pris y cludiant i’r Foryd oedd pedwar swllt y fil. Cyfeirir at y fasnach yng nghywyddau gofyn beirdd y bymthegfed ganrif am lechi o Aberogwen i doi tai bonedd Dyffryn Clwyd, fel yng nghywydd Guto’r Glyn at Ddeon Bangor yn gofyn ar ran y bonheddwr Syr Gruffydd ap Einion o Henllan:

Annedd hardd yw’r neuadd hon
O chaid teils a choed hoelion.

Toi sy i’m bryd tŷ a siambr wen,
To brig tai Aberogwen,
Cyfrio llys, caf ar ei lled
Cerrig Gwynedd, craig gaened.

Annedd hardd yw’r neuadd hon
os ceid teils a phrennau â hoelion ynddynt.
Mae’n fwriad gennyf doi tŷ a siambr deg,
to mwyaf rhagorol tai Aberogwen,
gorchuddio llys, caf ar ei led
gerrig o Wynedd, brethyn llwyd craig.

F’ungwaith iddaw i Fangor
Fu erchi main ar fraich môr,
Carnedd o Wynedd ynys,
Coflaid llong cyfled â llys.
Rhoi’n bumil ddengmil ydd wyf,
Rhyw ddyblig nis rhôi ddeublwyf;

Fy un dasg ar ei gyfer fu gofyn meini
i Fangor ar fraich o fôr,
carnedd o wlad Gwynedd,
llond llwyth llong mor llydan â llys.
Rwy’n gosod deng mil fesul pum mil,
plyg gweddus na allai dau blwyf ynghyd ei roi;

Nid llechi yn unig oedd masnach llongau’r cyfnod cynnar fel y dengys cyfeiriadau at allforion o fân borthladdoedd yr arfordir o wlân, crwyn a menyn, a mewnforion o frag, gwenith, glo, halen, hopys a sebon, ac yn ogystal eitemau mwy egsotig yn cynnwys gwinoedd, gwirodydd, reis, siwgr ac olew olewydd. Cyfrifid Aberogwen yn rhan o borthladd Biwmares, fel hefyd Abercegin ym Mangor, ac o ganlyniad nid yw’r dystiolaeth ddogfennol yn nodi yn union gyrchfan y fasnach a ddisgrifir. Ond i Aberogwen, bid sicr, yr hwyliodd yr Elisabeth o Gaer yn 1596 i ddanfon llwyth o gwrw, bara caled, halen, haearn a nwyddau haearn i Peires Gryffith of Pethrin, Esquire, sef yr enwog ysbeiliwr Pyrs Gruffydd, sgweiar y Penrhyn. Yn ôl traddodiad, ond heb gofnod swyddogol i’w gadarnhau, adeiladodd ef long ‘in the port of Beaumaris’ (Aberogwen bur debyg), a’i hwylio i gynorthwyo llynges Prydain i orchfygu Armada Sbaen yn 1588. Serch hynny y mae tystysgrif gan Brif Lyngesydd y Deyrnas yn cofnodi i Pyrs hwylio i Abercegin yn 1600 yn gapten ar long ryfel y Grace yn tywys llong ryfel o Sbaen, y Speranza, ac yn meddiannu ei chargo o olew, olewydd, llestri pridd, sidan a nwyddau cain eraill. A dyma gofnodi un rhan o’i yrfa fel môr leidr eofn hyd nes y daliwyd ef yn harbwr Corc yn 1603 a’i ddirwyo yn drwm. Ond cenid ei glodydd ar strydoedd Bangor byth wedyn –

Llwm ac oer y gwela’ i’r Penrhyn,
Glan y Môr, ac Abercegin,
Er pan aeth y Capten Gruffydd
Dros y môr i speilio gwledydd.

Peidiodd pwysigrwydd Aberogwen fel glanfa yn y ddeunawfed ganrif wrth i berchnogion stad y Penrhyn ddatblygu porthladd Abercegin i allforio holl gynnyrch Chwarel Cae Braich y Cafn. Serch hynny, dengys cofnodion y tollau ym Miwmares fod Aberogwen yn dal i allforio llechi o’r forfa megis y tri llwyth a ddanfonwyd i Gaer yn 1730, a bod llongau o Lerpwl a Dumfries hefyd yn galw yno i’w llwytho. Pa un o chwareli plwyf Llanllechid tybed, oedd yn cyflawni’r gofyn yn Aberogwen mor gynnar yn y ddeunawfed ganrif? Chwarel Bryn Hafod y Wern fyddai’r dewis tebygol yn ôl traddodiad, ond eto heb y dystiolaeth angenrheidiol i gadarnhau’r ddamcaniaeth. Ar yr arfordir yr oedd goredau pysgod y Penrhyn yn parhau mewn bri ac yn gynnyrch incwm sylweddol i’r stad, ac yn ôl William Williams, swyddog dylanwadol i’r arglwydd cyntaf Richard Pennant ac awdur y llyfr Observations on the Snowdon Mountains a gyhoeddwyd yn 1802, fod yno hefyd yn Aberogwen welâu wystrys o gryn bwysigrwydd.

Untitled
Aberogwen yn 1910 wedi i wely Afon Ogwen gael ei unioni i lifo i’r môr gan adael Llyn y Celanedd yn wlybtir corslyd

Ciliodd y gogoniant a fu o Aberogwen gan adael traeth agored o dywod, gwymon, broc môr a heidiau o adar y glannau i bigo’u lluniaeth yn y llaid. Ond yn ôl tystiolaeth Hugh Derfel, yn ei gyfrol Hynafiaethau Llandegai a Llanllechid a gyhoeddwyd yn 1866, yr oedd yno ar yr arfordir gaer gron ei chynllun gyda rhagfuriau cerrig yn ei hamddiffyn, ond yn nhreigl y blynyddoedd llithrodd hon i afael y môr a defnyddiwyd ei meini i adeiladu waliau caeau’r gymdogaeth. Yr un mor chwilfrydig yw cyfeiriad diddorol William Williams fod yno wedi ei chuddio yn nhywod y traeth weddillion carnedd o feini enfawr a gafodd ei graddol ddinistrio gan y môr dros genedlaethau dirifedi. Tybed ai beddfaen megalithig o gyfnod y Neolithig, o oed tri mileniwm cyn Crist, a gofnodir gan William  Williams? Hynny o gofio fod Aberogwen bryd hynny yn rhan o wlypdir Traeth Lafan lle mae o leiaf un fwyell garreg o’r cyfnod wedi ei chanfod i gadarnhau gwladychiad y draethell ar amser cynnar o gynhanes. Pwy a ŵyr, efallai fod Aberogwen eto i ddatgelu ei thrysorau?

IMG_1791
Glan y Fenai yn Aberogwen heddiw

Ffynonellau

David Thomas. 1952. Hen Longau Sir Gaernarfon.  Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon. Caernarfon.

Eurig Salisbury, Barry J. Lewis . 2015.  Guto’r Glyn : a life. (Gwefan) – httpc://www.gutorglyn.net

Williams, J. Ll. W., 1996. A Neolithic axe from Traeth Lafan in the Menai Strait, Gwynedd.  Studia Celtica, 30, (1996) 277-282