Town House a Country Estate

Mae pawb sydd yn byw yn Nyffryn Ogwen yn dra ymwybodol o ddylanwad Stad y Penrhyn, yn gam neu yn gymwys, ar hanes datblygiad ein cymuned. Ond efallai nad ydym yn llawn sylweddoli  fod awdurdod a chrafangau’r stad wedi treiddio ymhell y tu hwnt i ffiniau ein cwmwd ni. Gwyddom bellach am gysylltiad y Penrhyn â stadau siwgr India’r Gorllewin, ond efallai nad ydym mor gyfarwydd â’r rhan y chwaraeodd aelodau’r teulu, fel llawer o aelodau eraill teuluoedd bonedd Prydain, ym mywyd gwleidyddol y wlad.  Yn unol â dyhead y mwyafrif o deuluoedd bonedd Prydain yr oedd bod yn berchen ar dŷ ffasiynol yn Llundain yn gwbl angenrheidiol i’w delwedd gymdeithasol, ac yn hwylustod arbennig i’r rhai a fynnai ddilyn gyrfa wleidyddol. Yr oedd meddu ar eiddo ychwanegol i’r stad deuluol yn gaffaeliad pellach wrth ddringo’r ysgol gymdeithasol, boed hynny drwy briodas gyfleus neu drwy bryniant, neu hyd yn oed, drwy brydles. Meddu ar y ‘town house a’r country residence’ oedd y nod. Nid oedd teulu’r Penrhyn yn eithriad i’r rheidrwydd cymdeithasol hwn, er mae’n ddiddorol nodi mai cyfalaf y stad yn Llandygái fyddai’n ariannu a chynnal yr aelwydydd ychwanegol gan amlaf.

Yr oedd Richard Pennant, Arglwydd cyntaf y Penrhyn, yn Aelod Seneddol dros Petersfield yn Swydd Hampshire (1761-67), ac yna dros ddinas Lerpwl ar ddau achlysur rhwng 1767 a 1790. Tŷ arbennig yn Hanover Square, yr ardal ddrudfawr rhwng Mayfair ac Westminster, oedd ei gartref yn Llundain. Datblygwyd rhannau o’r ardal fonheddig hon, a Hanover Square yn arbennig, ar gyfer cartrefu uchelwyr mwyaf ffasiynol y cyfnod, yn bendefigion, yn aelodau seneddol ac yn gadfridogion milwrol, cymdeithas y byddai Pennant yn sicr o fod yn hapus yn eu plith.

Meddai yn ogystal ar stad Winnington Hall yn Sir Gaer. Dau dŷ wedi eu huno’n un oedd maenordy’r stad hon. Mae bellach wedi ei throsi yn gyfres o swyddfeydd mewn ardal a berthyn i dref Northwich yn Swydd Gaer. Daw’r tŷ gwreiddiol, sydd o fframwaith coed, o gyfnod diwedd yr unfed ganrif ar bymtheg pan berthynai’r stad i’r teulu bonheddig a roddodd iddo ei enw i Winningtom. Erbyn y ddeunawfed ganrif perchnogion y stad oedd teulu Warburton ac yr oedd Anna, gwraig Thomas Warburton, yn gyd etifeddes i Stad y Penrhyn. Yn 1765 priododd eu wyres Anna Susannah â Richard Pennant a thrwy’r briodas hon etifeddodd Richard stad y Penrhyn yn ei chyfanrwydd yn ogystal â stad Winnington Hall, ac etifeddodd Anna Susannah stadau siwgr ei gŵr yn Jamaica. A dyna greu grym economaidd rhyfeddol stad y Penrhyn ar derfyn y ddeunawfed ganrif. Richard Pennant oedd yn gyfrifol am adeiladu’r cymar cerrig i’r tŷ gwreiddiol yn Winnington pan gomisiynodd Samuel Wyatt i gynllunio’r ychwanegiad yn 1775. Ni bu’r stad ym meddiant y Penrhyn am gyfnod hir iawn.  Ar farwolaeth Richard Pennant yn 1808 gorfu i Anne Susannah werthu’r stad er mwyn rhyddhau arian i dalu dyledion sylweddol ei gŵr wedi iddo ef orwario ar ddatblygu economi amaethyddol a diwydiannol ei stad yn Nyffryn Ogwen.

Olynydd  Pennant yn y Penrhyn oedd George Hay Dawkins, y gŵr a fynnodd gofeb narsisaidd yn ei honglad hyll o gastell yn Llandygái. Yr oedd hwn yn Aelod Seneddol Newark yn Swydd Nottingham rhwng 1814 ac 1817, ac yna dros New Romney yn Swydd Caint o 1820 i 1830, ardaloedd a oedd yn ddigon pell o Ddyffryn Ogwen er mwyn iddo gael ymarfer ei uchelgais  boliticaidd. Cartref y teulu yn Llundain oedd 56 Portland Place, a’i stad yn y wlad oedd  Wicken, ger Stony Stratford ar y ffin rhwng Sir Buckingham a Sir Northampton. Os am ddewis un o’r rhannau mwyaf drudfawr a ffasiynol o Lundain yna byddai Portland Place yn uchel ar y rhestr. Cynlluniwyd y stryd gan Robert a James Adam ar gyfer Dug Portland ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif, ac mae nifer o’r tai Sioraidd gwreiddiol yno heddiw. Mae’r stryd yn anarferol o lydan (33m/110t) o gymharu â gweddill strydoedd y brifddinas, a hynny oherwydd bod tenant cyntaf y stryd, yr Arglwydd Foley, wedi mynnu cael golygfa ddirwystr i gyfeiriad y gogledd, y math o orchymyn pendefigaidd hunanol nid annhebyg i’r wltimatwm a orfododd i breswylwyr tyddynnod glannau’r Fenai ddiflannu er mwyn sefydlu parc y Penrhyn ar gyfer George Hay. Ysgol sydd yn meddiannu rhif 56 Portland Place heddiw, a chyda llaw, pe baech am i’ch plant gael eu haddysgu ynddi fe gyst £6840 y tymor, a chofiwch fod tri thymor yn y flwyddyn addysgol!

Wicken
Stad Wicken yn 1717

Yn 1838 y daeth Wicken gyntaf i sylw’r Penrhyn pan sicrhaodd George Hay Dawkins brydles ar 35 acer o’r stad. Gellir olrhain ei bodolaeth yn ôl i’r drydedd ganrif ar ddeg ac erbyn yr unfed ganrif ar bymtheg roedd ym meddiant teulu Dug Grafton. Yr oedd ganddi fanteision arbennig – yr oedd o fewn 50 milltir i Lundain ac roedd mewn rhan o Loegr a oedd yn enwog am ei helfeydd bonheddig.  Ar ôl deugain mlynedd dan brydles prynwyd y stad gyfan o 3042 acer gan Edward Gordon, Barwn cyntaf y Penrhyn, yn 1877. Bu’n Aelod Seneddol dros Sir Gaernarfon sawl tro rhwng 1841 ac 1865 hyd nes y’i dyrchafwyd i Dy’r Arglwyddi yn 1866. Nid Wicken oedd unig stad wledig Edward Gordon oherwydd bu hefyd yn brysur yn ehangu ei ddylanwad yn llawer nes at gartref. Yn 1859 prynodd stad eang Glan Conwy a ymestynnai hyd at ddyffryn Afon Lledr, Ysbyty Ifan a Llyn Conwy, a phrynodd diroedd ychwanegol yn Sir Gaernarfon gan sefydlu ei hun fel tirfeddiannwr mwyaf y sir yn 1871 gyda daliadaeth gyfan o dros 41,500 acer. Ond yr oedd gan Wicken le amlwg yn hanes teulu’r Penrhyn. Hon oedd yr encil wledig ddigyffro a oedd ymhell o drybestod diwydiannol Dyffryn Ogwen. Ychydig o fuddsoddiad oedd yn angenrheidiol i’w chynnal gan fod incwm sylweddol a chyson o chwarel y Penrhyn yn fodd i’w chadw mewn cyflwr graenus.  Meddai haneswyr Wicken wrth gloriannu hanes cysylltiad y stad gyda’r teulu – ‘The family appear to have regarded Wicken as a convenient second country estate … with more congenial neighbours and certainly more amenable tenants than the small farmers and quarrymen of North Wales amongst whom the family was deeply unpopular’.  A oes yma nodyn o fychanu tybed, ynteu a ydym efallai yn groen denau?

Yn 1866 olynydd Edward Gordon fel Aelod Seneddol, Sir Gaernarfon oedd ei fab George Sholto, hyd nes y’i trechwyd am y tro olaf yn etholiad 1880. Yr oedd gan hwn hefyd ei ddethol breswylfa yn Llundain. Nid oedd mor grand efallai â thai ei ragflaenwyr, ond yr oedd Mortimer House, Halkin St., eto yn rhan o ddatblygiad  Charles Fitzroy, Barwn Southampton ac Edward Harley, Iarll Mortimer ar ran ddethol o ganol y ddinas nid nepell o Oxford Circus.  Nid oes rhaid atgoffa cymuned Dyffryn Ogwen mai unplygrwydd ystyfnig y gŵr hwn wrth geisio gwarchod ei awdurdod  unbenaethol a arweiniodd at un o’r cyfnodau tristaf yn hanes yr ardal.

Eglwys Plwyf Wicken
Eglwys y  Plwyf  yn Wicken, Swydd Northampton

Nid ar y ffrynt ddiwydiannol yn unig y brwydrai’r gŵr hwn rhag erydu ei awdurdod ond hefyd  gwrthwynebai yn ffyrnig nifer o fesurau seneddol  a gadarnhawyd yn y cyfnod rhwng 1888 a 1896 a gyfyngai ar hawliau tirfeddianwyr fel ef. Ond tra byddai’r brwydrau hyn yn chwalu cymunedau ym Methesda gallai George Sholto fwynhau tawelwch digyffro Wicken, neu lonyddwch llesmeiriol Glan Conwy neu arabedd cymdeithas ffroenuchel Mortimer House lle byddai’n cadw llygad barcud ar restrau dyledion y streicwyr hynny a breswyliai ar ei stad. Talodd George Sholto £2000 i adnewyddu ac ehangu eglwys y plwyf yn Wicken yn ystod blynyddoedd streig 1896/97 a hynny er cof am ei wraig gyntaf a fu farw yn 1896. Ac yn Wicken y’i claddwyd yntau yn 1907 er iddo farw ym Mortimer House yn Llundain.

Ni fynnai’r gŵr hwn dderbyn fod y rhod yn troi mewn gwleidyddiaeth, cysylltiadau diwydiannol a thegwch cymdeithasol a  bod dyddiau tirfeddianwyr trahaus fel efe wedi eu rhifo.  Cyfrannodd mesurau i reoli hawliau landlordiaeth, y dreth incwm a thollau marwolaeth i docio yn sylweddol faint eiddo’r Penrhyn yn ystod hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif. Er hynny, nid tan 1944 y bu i’r Penrhyn werthu Wicken a’r stadau siwgr yn Jamaica, ac yn 1973 y gollyngwyd gafael am y tro olaf ar chwarel y Penrhyn.

Ffynonellau 

E H Douglas Pennant. 1998. The Penrhyn Estate 1760-1997: The Pennants and the Douglas-Pennants. Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon. 59. 35-54.

British History on Line. http/ww british-history – Wicken Estate, Northamptonshire,  tud. 413-438

Gwybodaeth ychwanegol drwy garedigrwydd Einion Thomas

Advertisements

Potsio yn Llyn John Bwtsiar, Afon Ogwen, 1884

Dyma gyfraniad arall gan gyfrannwr gwadd, Einion Thomas, Hendyrpeg, a chyn archifydd Archifau Prifysgol Bangor

Potsio 5

Pedisiwn 5
Rhan o’r petisiwn a arwyddwyd gan 1961 o chwarelwyr y Penrhyn yn 1885 – drwy ganiatâd a charedigrwydd  Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor – Casgliad Ychwanegol y Penrhyn,  MS PFA/13/15s

Ysgolion Sul

Mae dyled Cymru i’r Ysgol Sul fel cyfundrefn grefyddol ac addysgol yn anfesuradwy. Gellir honni  fod parhad yr iaith Gymraeg yn rhannol ddyledus i lwyddiant ysgubol yr ysgolion hyn yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ond nid ffenomen Gymreig mo ysgolion Sul yn wreiddiol. Gellir olrhain eu tras yn y lle cyntaf i’r Eidal yn yr unfed ganrif ar bymtheg cyn iddynt gael eu poblogeiddio yn Lloegr yn ystod y ddeunawfed ganrif. Thomas Charles (1755-1814) o’r Bala sylweddolodd addasrwydd yr Ysgol Sul fel cyfrwng i ddysgu hanfodion y ffydd Gristnogol i oedolion a phlant Cymru gan ddefnyddio’r Beibl fel prif ffynhonnell y dysgu.  Yn ystod cyfnod anterth y gyfundrefn yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg datblygodd yr Ysgol Sul i fod yn un o’r grymoedd mwyaf dylanwadol ym mywyd cyhoeddus Cymru.

Yn Nyffryn Ogwen cynhaliwyd Ysgolion Sul cyntaf yr ardal mewn tai unigolion  megis ym Mraich Tŷ Du yn Nant Ffrancon, Cae Gwigyn yn Nhal-y-bont a Bryn yr Odyn yn Nhregarth. Gyda chanoli ‘r sefydliadau enwadol mewn addoldai daeth yr Ysgol Sul yn rhan annatod o weithgaredd pob achos ac yng nghapel Jerusalem yr oedd yn rhan o sefydlu’r eglwys yn 1845. Yr oedd aelodau’r capel hefyd yn gofalu am Ysgol Sabothol Coed y Parc a gynhelid, yn ôl y traddodiad, yn nhai rhai o’r cymunwyr. Ystyrid fod yr ysgol hon ymhlith un o’r rhai cynharaf i’w sefydlu yn ardal trothwy’r chwarel.

Yr oedd gan eglwys Jerusalem gyfrifoldeb hefyd am yr Ysgol Sul a gynhelid yng Nghoetmor. Yn wreiddiol cychwynnwyd yr ysgol hon gan y gwahanol enwadau yn 1856 ond daeth Jerusalem yn llawn gyfrifol amdani o 1866 ymlaen pan adeiladwyd ysgoldy ar ei chyfer gerllaw rhes tai Bryntirion. Amcan pennaf yr ysgol oedd ‘cael gafael ar y rhai a esgeulusant bob moddion gras’ ac yr oedd yn llwyddo yn y gwaith drwy lafur aelodau Jerusalem yn cynnal ysgol Sul yn y prynhawn a moddion ychwanegol yn yr hwyr gydag ambell bregeth neu gyfarfod gweddi. Cyfeirir at waith arbennig Edward Edwards, Ogwen Teras ac at Hugh Williams, Bodffordd House fel arweinyddion.

Ysgoldy Twr
Ysgoldy y Twr – llun o archif Ifor Williams, Fferm Coetmor gynt, drwy ganiatâd.

Ychydig o fforddolion sy’n cerdded heibio i Ysgol y Tŵr heddiw sy’n sylweddoli rhan mor eithriadol bwysig a chwaraeodd ym mywyd crefyddol a chymdeithasol Bethesda yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg pan oedd bri a chenhadaeth yr Ysgolion Sul ar ei anterth. Heddiw, mae gwedd digon digalon ar yr adeilad a adwaenid hefyd fel Ysgol y Tŵr, a bellach caiff ei ddefnyddio fel storfa gan adeiladwr lleol.

Gellir mesur pwysigrwydd  a chyfraniad yr Ysgol Sul i addysg Gristnogol y gymuned yn yr ystadegau moel canlynol. Yn 1879 yr oedd y Methodistiaid Calfinaidd yn nosbarth Bethesda yn gyfrifol am ddwy ar bymtheg Ysgol Sul. Yn dysgu yn yr ysgolion hyn yr oedd 397 athro a 64 athrawes, oll yn rhoddi o’u gallu yn wirfoddol.  Roedd 2960 disgybl ac 1186 o wrandawyr ychwanegol. Roeddynt yn dysgu darllen ac ysgrifennu a chanu drwy gyfrwng y Gymraeg, tasg na allai ysgolion y wladwriaeth mo’i chyflawni gan mai Saesneg oedd iaith y dysgu yn y sefydliadau hyn. Yr Ysgol Sul hefyd oed magwrfa ddeallusol yr ardal lle dysgodd cenedlaethau o bobl y gallu i wrando, i ymresymu, i ddadlau ac i gyflwyno’r neges yn gyhoeddus yn goeth ac yn gryno.  Mewn ardal o ymrafael diwydiannol, megis Dyffryn Ogwen, yr oedd y sgiliau hyn o werth amhrisiadwy. Dyma oedd cyfraniad cwbl orchestol yr Ysgol Sul yn ei gyfnod ac un o’r pennaf resymau fod pentref Bethesda yn dal yn bentref Cymraeg ei iaith a Chymreig ei thraddodiadau hyd heddiw. Er gwaetha’r erydiad ar grefydd yn ystod y ganrif hon mae Ysgolion Sul capel Jerusalem a chapel Carmel yn Rachub yn parhau i greu gwyrthiau deallusol mae’n siŵr.

 

Ffynonellau

Llawysgrif heb awdur a dyddiad – Crynhodeb – Hanes Dechreuad a Chynnydd yr Achos

Methodistaidd yn Jerusalem. Llawysgrif ym meddiant Dafydd Roberts, Cae’r Wern , Tregarth.