Fferm Moelyci

y cyntaf
Cynllun  fferm  Moelyci  yn Arolwg y Penrhyn 1768.  Archif Penrhyn Ychwanegol 2944: ‘Plans of Penrhyn Estate in the Counties of Caernarvon and Denbigh belonging to Richd Pennant, Esqr., 1768. Surveyed by G. Leigh.’ Drwy ganiatâd Archifau a Chasgliadau Prifysgol Bangor, Papurau a Mapiau Penrhyn.

Fferm Moelyci*, neu Moel Leucu i ddefnyddio’r enw gwreiddiol efallai, yw un o ffermydd hynotaf Dyffryn Ogwen, a sefydliad ac iddo hen hanes. Gellir olrhain hanes y fferm yn ôl i’r unfed ganrif ar bymtheg, ond ceir cofnod llawn am ei chynnwys fel uned amaethyddol  yn yr Arolwg a gomisiynwyd gan Richard Pennant, Arglwydd cyntaf Stad y Penrhyn, o’i etifeddiaeth yn 1768. Yn yr Arolwg ceir gwybodaeth am  nifer y caeau, eu maint, eu henwau, ac enw’r tenant  sef  Thomas Robart Owen. Cynhwyswyd y manylion hyn ar y map enfawr gan George Leigh sydd hefyd yn rhan anhepgor o’r Arolwg.

 

moelyci schedule
Rhestr y caeau yn Moelyci yn Arolwg 1768. Archif Penrhyn Ychwanegol 2944: ‘Plans of Penrhyn Estate in the Counties of Caernarvon and Denbigh belonging to Richd Pennant, Esqr., 1768. Surveyed by G. Leigh.’ Drwy ganiatâd Archifau a Chasgliadau Prifysgol Bangor, Papurau a Mapiau Penrhyn.

Yn wreiddiol lleolwyd prif adeilad y fferm  yng nghysgod y bryn i’r gorllewin o adeiladau presennol Moelyci  oddeutu hanner y ffordd i fferm Tŷ’n y Caeau yn y de. (cyfeirnod grid  Arolwg Ordnans-SH592676). Mewn archwiliad diweddar o’r safle canfuwyd adeilad sylweddol yn cynnwys nifer o ystafelloedd ar lwyfan uchel o lechi gyda muriau’r adeilad yn sefyll mor uchel â phedair troedfedd. Nid tŷ crand mohono ond ffermdy ymarferol  ei gynllun. Er hynny,  mae’n amlwg fod cyfoeth yn caniatáu adeiladu tŷ mor sylweddol ei faint ar y  safle, a bod hefyd chwarel lechi bur fawr gerllaw i gyflenwi’r deunyddiau angenrheidiol ar gyfer y gwaith o godi’r tŷ. O’r holl ffermydd yn yr Arolwg, Moelyci, efallai, sydd â’r crynhoad mwyaf diddorol o enwau caeau, ac o’u dehongli, maent yn rhoi cipolwg ar weithgareddau a chynhaliaeth y sefydliad. Yn ei chyfnod yr oedd hon yn fferm  fawr o 161 acer. Roedd iddi gyfuniad o weundir yn ffinio â’r mynydd, ynysoedd o dir corsiog a chaeau mwy cynhyrchiol eu defnydd. Ar y llethrau yr oedd ‘Ffridd’ eang  24 acer a dau lain ffiniol o’r enw Tir Du yn cyfateb i dir lle byddid yn torri mawn efallai.

Tystir i werth amaethyddol y fferm mewn enwau megis ‘Cae’r Ŵyn’ a ‘Chae’r Meheryn’ sy’n awgrymu mai fferm ddefaid oedd hon,  er mae’n eithaf sicr y byddai  gwartheg yn rhan o’r economi o ganfod eu pwysigrwydd yn ffermydd cyfatebol yr ardal yn yr un cyfnod. Byddai porthiant i’w gynaeafu o bedair gweirglodd a enwir felly yn ogystal â nifer o gaeau eraill llai heb enwau sy’n eu diffinio a dau ysgubor i gynnal y cynhaeaf. Un o’r unedau lleiaf oedd yr ‘Ardd Datws’, yr unig dir âr wrth ei enw yn yr holl sefydliad ac yn amlwg yn uned a ddarparai ar gyfer gofynion bwyd y teulu. Mae enwau’r caeau hefyd yn awgrymu fod ochr fwy fasnachol i weithgaredd y fferm. Yno yr oedd ‘Cae’r Gof‘ a  ‘Chae’r Efail’, yn ogystal â ‘Chae’r Pandy’, a’r awgrym yn ‘Cae Dŵr’ fod y dŵr angenrheidiol wrth law ar gyfer gofynion y pandy.  Enw mwy diddorol yw ‘Gweirglodd y Barty’,  sydd o’i ddehongli naill ai’n cyfeirio at danerdy neu fracty,  ond mater o farn yw a oedd yr holl ddiwydiannau hyn  wedi’u lleoli yn yr un sefydliad  ac yn gweithio ar yr un amser.  Serch hynny yr oedd  y  pandy yn ffaith a’i ddŵr yn llifo i lawr yr allt i weithio y felin yn Felin Hen islaw. Hynodrwydd pennaf enwau caeau Moelyci yw’r tri chae a enwir yn ‘Cae’r Ddeiol’, ‘Cae’r Wrach’ a ‘Chae Pistyll yr Eurich’. Y ddeiol sy’n cofnodi symudiad yr haul ac a ddefnyddid yn yr amser gynt i gofnodi’r amser cyn bod cloc wedi’i ddyfeisio. Fel arfer cysylltir ei leoliad â thir yr eglwys ac felly, o’i ganfod yn Moelyci,  byddai’n ychwanegu bri i’r sefydliad. Ond beth am y wrach? A fyddai hi a’i hyll dremion yn difrïo’r sefydliad?  Does wybod, ond rhaid cofio fod y gair gwrach hefyd yn golygu ysgubau  hirion o redyn, gwellt neu hesg a ddefnyddid yn orchudd hyd grib y das cyn ei thoi. Ac a oedd gofaint metelau gwerthfawr, gan gynnwys aur, wedi rhoddi ei sêl freintiedig i’r ffynnon? Eto does wybod ond rhaid cofio bod eraill yn cyfeirio at y ffynnon fel ‘ffynnon oerach’ yn hytrach na ‘ffynnon eurich’. Pwy sydd i wybod bellach yn nhreigl y blynyddoedd? Hynodrwydd mawr Moelyci yw ei bod, drwy enwau’r caeau yn cyflwyno darlun o gyflwr economi fferm ar derfyn y Canol Oesoedd diweddar a chyn i Gyfnod Modern y Chwyldro Diwydiannol newid holl gynlluniau’r  gorffennol.  Yn fuan wedi cyhoeddi’r  Arolwg yn 1768 aeth Richard Pennant ati i wella cyflwr amaethyddol  ei stad, ac yn fuan chwalwyd ffiniau’r hen gaeau a’u cynllunio i gyfuniadau newydd. Felly ffosil rhyfeddol yw caeau Moelyci sy’n cofnodi’r hyn a fu ac sydd bellach ar fin mynd yn angof.

Yn 1818 cynhaliodd stad y Penrhyn adolygiad manwl o gyflwr holl adeiladau ei thiriogaeth.  Mae’r adroddiad yn un eithriadol fanwl gan restru gwendidau’r adeiladau a’r gost o’u hadnewyddu.  Mae’r rhestr yn nodi diffygion Moelyci.  Cofnodir fod angen ffenestri newydd yn y tŷ, llawr cerrig newydd yn y parlwr,  byrddau llawr newydd yn y llofft ac atgyweiriadau i’r to, oll ar gost o £18.  Roedd angen gwaith sylweddol yn y beudy i atgyfnerthu’r  muriau a’r to ar gost o £22, a gwaith yr un mor ddwys yn yr ysgubor gan ychwanegu at ei uchder a chryfder yr adeiladwaith, ar gost o £18. Ac yr oedd mân gyfnewidiau i’w gwneud yn y stabl a hofal y ceirt ar gost o £7.6.0. Cost yr holl atgyweirio oedd £65. 6. 0  Nid yw’n wybyddus a gyflawnwyd yr atgyweiriadau ym Moelyci na gofynion yr adroddiad yn ei lawn gynnwys – y gost o gyflawni’r holl gynllun oedd £4,427.13.6 – cost anferthol sy’ cyfateb i tua £500,000 heddiw a hynny mewn cyfnod pan yr oedd y stad mewn cyfnod pur anodd yn ei hanes . Yn y flwyddyn honno bu farw Ann Susannah wedi iddi ymdrechu  yn ystod y deng mlynedd blaenorol i dalu dyledion mawr ei gŵr Richard Pennant. Yr oedd y stad ar fin trosglwyddo i ofalaeth, neu ddiffyg gofalaeth, yr olynydd George Hay ac, fel y gŵyr pawb, yr oedd ei fryd ef ar adeiladu castell drudfawr yn Llandygái yn hytrach na gofalu am anghenion preswylwyr ei stad.

Ymwelodd y Chwyldro Diwydiannol â Moelyci yn 1870 pan adeiladwyd rheilffordd Chwarel y Penrhyn trwy’r tir. Bellach mae hon hefyd yn rhan o hen hanes gan adael gweddillion pont fel yr unig gofadail o’i bodolaeth. Ond mae gan Foelyci un gyfrinach arall y mae’n anfoddog i’w datgelu. I’r dwyrain o’r fferm mae poncen gron y mae ei chopa wedi’i therasu. Cyfeirir at y safle fel ‘camp Moelyci’.  Mae’n amlwg mai tomen naturiol yw hon, un o ddyddodion Oes yr Ia bid sicr, ond,  ar ei chopa dyn sy’n gyfrifol am ei therasu.  Diystyrir yr awgrym mai mwnt  i gastell pren Normanaidd sydd yma,  ond yn dilyn archwiliadau geoffisegol  ar y copa darganfuwyd amlinell tŷ crwn o gerrig sy’n awgrymu fod yno sefydliad parhaol yn perthyn i gyfnod diwedd Oes yr Haearn a dechrau cyfnod y Rhufeiniaid. Tybed, felly, mai  ar y boncen gron y sefydlwyd yr annedd gyntaf yn hanes hir Moelyci?

*Cofiwch mai ynganu Moelyci fel un gair sy’n cywir. Nid oes ‘ci’ yn agos at yr enw!

Ffynonellau

Archifau a Llawysgrifau Prifysgol Bangor  -Penrhyn Additional 2944 –  ‘Plans of Penrhyn Estate in the Counties of Caernarvon and Denbigh belonging to Richd Pennant, Esqr., 1768. Surveyed by G. Leigh.’ Penrhyn Archive – Estate Maps – 2203, 2205, 2207.

Archifau a Llawysgrifau Prifysgol Bangor – Archif Penrhyn  PFA/14/1146 – A Report of the State of the Buildings on the Penrhyn Estate. 1818.

J. Ll. W. Williams, Lowri Wynne Williams. 2013/14. ‘Eto yr oedd y wlad yn byw ar ei chynnyrch naturiol er gwell er gwaeth’ – darlun o economi amaethyddol Dyffryn Ogwen ar derfyn y ddeunawfed ganrif drwy gyfrwng enwau caeau. Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon. 74/75. 44-66.