Mae paham y penderfynwyd adeiladu eglwys a mynwent gysylltiedig yn Nhanysgrafell yn ddirgelwch. Adeiladwyd yr eglwys ym 1847, a’i chysegru y flwyddyn ganlynol, i fod yn gangen o eglwys St Ann, yr addoldy gwreiddiol a safai gerllaw Llyn Meurig cwta filltir i’r de o Danysgrafell.
Ystyriwyd y dylid sefydlu’r gangen atodol er mwyn gwasanaethu’r cynnydd sylweddol ym mhoblogaeth ardal wasgaredig Coed y Parc wrth i chwarel y Penrhyn ehangu yn hanner cyntaf y ganrif. Dewiswyd lleoli’r datblygiad ar safle eithriadol gyfyng yng nghysgod craig enfawr mewn coedlan drwchus, a derbyniwyd nawdd gan Edward Gordon Douglas Pennant, Barwn 1af y Penrhyn, i’w hadeiladu. Cynhaliwyd gwasanaethau’n rheolaidd yn yr eglwys ar y Suliau a bu’n gartref i Ysgol Sul lewyrchus hyd at ddechrau’r ugeinfed ganrif. Byrhoedlog, er hynny, fu tymor ei gwir bwysigrwydd yn arbennig wedi i eglwys newydd St Ann gael ei hadeiladu yn 1865 ar y llethr uwchlaw ym Mryn Eglwys.
Mae’n anodd dirnad addasrwydd y safle yn Nhanysgrafell onid oedd yn fwriad ar y cyntaf i sefydlu pentrefan ehangach na’r dyrnaid o dai sy’n sefyll yng nghysgod craig yr eglwys. Gellir mesur pwysigrwydd yr eglwys drwy ystyried cylch eang y claddedigaethau sydd yn y fynwent.

Yn naturiol yr oedd mwyafrif y meirwon yn byw yng nghwmpawd agos Coed y Parc, yn arbennig rhwng 1850 ac 1860, ond mae hefyd yn cynnwys ymadawedig o gylch ehangach sy’n ymestyn i Dy’n y Maes, Nant y Benglog, Rachub, a Bryntirion ym Methesda. Tybed nad oedd yn Eglwys wreiddiol Sant Ann ger Llyn Meurig gladdfa gynharach ac i fynwent Tanysgrafell gymryd ei lle wrth i domennydd Chwarel y Penrhyn wasgu yn y lleoliad cyntaf. Ar ddechrau’r ugeinfed ganrif rhoddwyd y gorau i ddefnyddio’r eglwys a chafodd ei dymchwel dan amodau pur amheus yn ystod chwedegau’r ganrif gan adael mynwent ddrylliedig i goffáu gwerin a ddioddefodd haint a chynni wrth sefydlu cymdeithas ddiwydiannol ar lethrau Bryn Eglwys a Choed y Parc.

Ffynhonnell
Cofrestr Mynwent Eglwys Tanysgrafell, Bethesda, M270, Cymdeithas Hanes Teuluoedd Gwynedd