Y tŷ â phedwar enw

Dyma erthygl gan un o’n cyfranwyr gwadd, Ieuan Wyn.

Ty'n Lôn, Tŷ Ffeltiwr, Tafarn Gelyn, Bryn Eithin Bach_
Ty’n Lôn, Tŷ Ffeltiwr, Tafarn Gelyn, Bryn Eithin Bach

Un o gaeau Bryn Eithin yn Llanllechid yw Cae Bryn Llwm. Mae Cae Bryn Llwm am y terfyn â’r ffordd o Llan ac am y terfyn â Lôn Bryn. Yng nghornel y cae hwn, ar ochr Lôn Bryn, mae yna furddun. Roedd pedwar enw gwahanol ar y tŷ hwn. Ty’n Lôn (talfyriad o Tyddyn y Lôn) oedd yr enw ar lyfrau Stad y Penrhyn ond roedd yna dri enw arall ar dafod-leferydd.

Bryn Eithin Bach oedd un enw – enw sy’n ei egluro’i hun. Tafarn Gelyn oedd un arall, ac roedd fy nhad yn dweud y byddai ei daid yn sôn am adeg a fu pan oedd y sawl a oedd yn byw ynddo yn arfer gosod torch o gelyn ar ddrws y tŷ ar ddiwrnodau gŵyl ac yn bragu cwrw yno i’w werthu i’r trigolion. Roedd gosod dail bythwyrdd – dail eiddew fynychaf – ar ddrws tŷ tafarn yn hen draddodiad. Cysylltid celyn â dyddiau byr y gaeaf oherwydd bod gwyrddni’r gelynnen yn wrthgyferbyniol i gyflwr y rhan fwyaf o goed yr adeg honno o’r flwyddyn, ac felly’n symbol o barhad. Ar ddrws tŷ tafarn, byddai’n arwydd o wres y croesogarwch na fyddai’n peidio – croeso bythwyrdd!

Mae tystiolaeth bod llawer o firi yn ystod y ddeunawfed ganrif ar y dyddiau gŵyl eglwysig hyn yn Nyffryn Ogwen fel mewn ardaloedd eraill trwy Gymru. Dywed Hugh Derfel Hughes fod y trigolion “ar y Sabbathau yn aml yn cicio pêl droed, curo bandi, ac yn ‘dyrnu’r iâr’ ”ar Ddôl Fawr Ty’n y Clwt ac ym Mhen yr Ala yn Nghregarth. Byddai ymladd ceiliogod ym Mhenardd Gron wrth Eglwys y Gelli, ac yn Chwarel Goch caed ‘Suliau Chwarel Goch’ ar y tri Sul olaf yng Ngorffennaf,  pryd y byddai canu a dawnsio i’r delyn, betio, ac yfed yn drwm. Cynhelid ‘Campiau Cerrig Lwydion’, sef ras redeg i lawr o Lidiart Cerrig Llwydion ac yna i fyny at Lidiart Lleiniau, Talgae. Gelwid yr achlysuron hyn yn ‘chwareufa gampau’, ac roedd hwyl gystadleuol y gwahanol ymrysonfeydd a dawnsfeydd yn denu niferoedd mawr o’r ardalwyr. Hefyd, roedd Gŵyl Mabsant yn ddigwyddiad blynyddol hynod boblogaidd ym mhob bro, gyda’r plwyfolion yn cofio sant eu heglwys leol drwy dreulio’r dydd yn dathlu a chael sbri.

Fel hyn y mae Hugh J. Williams yn disgrifio un o’r hen arferion yn Llanllechid: “Nos Galan Gaeaf elai y bechgyn a’r genethod ieuainc at yr eglwys, er cael gwybod, meddent, enwau y rhai fyddent eu gwragedd neu eu gwŷr y dyfodol, ac fel hyn y gwnaent. Delai pob uno’r genethod bellennau o edafedd gyda hwynt, a chan ddechrau mewn man neilltuol, amgylchent yr eglwys gan adael i’r bellen ddadrys, ac ar ôl cylchu y muriau dychwelent i’r fan y cychwynasant. Yna dechreuent ddirwyn yr edau gan adrodd yn barhaus

“Fi sy’n dirwyn, pwy sy’n dal?

Fi sy’n dirwyn, pwy sy’n dal?”

Cydiai uno’r bechgyn ieuainc ym mlaen un o’r edafedd a deuai o’r diwedd i gyfarwfyddiad ag un o’r genethod oedd yn dirwyn. Hwn fyddai ei gŵr, neu o’r un enw, a’r eneth, neu un o’i chyfenw fyddai ei wraig.”

Daeth yr arferion cymdeithasol y cyfeirir atynt i ben yn araf bach wrth i arweinwyr crefyddol fynnu y dylai’r trigolion ymarfer hunan-ddisgyblaeth. Aethpwyd ati i’w gwahardd, ond cyndyn iawn oedd sawl plwyf i gefnu ar yr hen ddifyrrwch gwerinol. Ceir ymdriniaeth â’r cyfnod trawsnewidiol hwn yn hanes arferion cymdeithasol ein gwlad gan R.T. Jenkins, a dengys sut y bu gan y Methodistiaid ran flaenllaw yn pregethu’n erbyn y chwaraeon a’r dawnsio drwy eu disgrifio fel gwagedd – yn weithgarwch a oedd yn groes i ewyllys Duw ac felly’n bechod. Mae’r hanesydd yn sôn am Twm o’r Nant yn edifarhau wrth gofio fel y byddai’n “chware a champio” ar y Suliau nes bod “Ddiw llun yn ddiallu”, hynny yw ei fod yn methu gweithio ar ddydd Llun ar ôl diota’n ormodol! Mae’r sylw yma’n arwyddocaol oherwydd rhan o fwriad arweinwyr crefydd a diwydiant yr oes oedd dyrchafu diwydrwydd a hunan-ddisgyblaeth yn rhinweddau allweddol i sicrhau cynnydd, a sefydlu patrymau newydd i ddyddiau gŵyl a gwaith wrth i’r gymdeithas amaethyddol droi’n gymdeithas ddiwydiannol.

Yr enw arall ar Dy’n Lôn oedd Tŷ Ffeltiwr oherwydd iddo fod ar un adeg yn gartref i ŵr a oedd yn ymarfer y grefft o wneud hetiau ffelt – hetiau cantel. ‘Brethyn llawban’ a ddywedai’r hen bobl am felt, a’r gair am ei gynhyrchu oedd ‘llaw bannu’, hynny yw pannu efo’r dwylo sef gwasgu, curo a phantio gwlân a rhawn ceffyl llaith a chynnes nes ei fod fel mat – yn geden o ddefnydd gwydn. Yna, ar ôl i’r geden sychu a chaledu, byddai’r ffeltiwr yn ei siapio a’i dorri i wneud het. Enw’r cae agosaf at Gae Bryn Llwm ar ochr Lôn Bryn ydy Cae Ffeltiwr, a’r enw ar Lôn Bryn am gyfnod oedd Lôn Ffeltiwr.

Ffynonellau

Hugh J. Williams, Hanes Eglwys Llanllechid, Jarvis a Foster, Bangor 1910.

Hugh Derfel Hughes, Hynafiaethau Llandegai a Llanllechid, R. Jones, Bethesda1866.

R.T. Jenkins, Hanes Cymru yn y Ddeunawfed Ganrif, Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd 1928

Eglwys Llanllechid a dadeni’r ddeunawfed ganrif

Eglwys Llan 1
Eglwys Llanllechid

Rhwng Hydref 1758 a Mai 1759 bu Evan Evans  (oedd â’r enwau barddol Ieuan Fardd ac Ieuan Brydydd Hir (1731-1788)) a oedd yn ysgolhaig, bardd, offeiriad ac yn bererin ansefydlog ei natur, yn gurad eglwys Llanllechid. Yng Nghymru hwn oedd cyfnod yr ‘eingl esgyb’ yn hanes yr Eglwys Anglicanaidd pan oedd yr holl esgobion yn Saeson uniaith heb na diddordeb na’r brwdfrydedd lleiaf i gynnal a hyrwyddo  iaith a  diwylliant Cymru.

Brodor o Ledrod yng Ngheredigion oedd Ieuan, ac fe’i haddysgwyd yn ysgol enwog Ystrad Meurig. Yn fachgen ieuanc dylanwadwyd arno yn fawr gan Lewis Morris, un o Forisiaid athrylithgar Môn a’i dysgodd yng nghelfyddyd cerdd dafod ac i werthfawrogi llenyddiaeth a hanesyddiaeth gynnar ei wlad. Yn Rhagfyr 1750 aeth i Goleg Merton, Rhydychen, ond ansefydlog fu ei arhosiad gan adael heb raddio yn 1753. Ddwy flynedd yn ddiweddarach derbyniwyd ef yn offeiriad yn eglwys Gadeiriol Llanelwy a dyna ddechrau ar ei bererindota fel curad a’i harweiniodd i nifer fawr o fywoliaethau yng Nghymru yn ogystal â nifer yn ne ddwyrain Lloegr. Yr oedd ei yrfa yn yr Eglwys yn un eithriadol rwystredig. Ni lwyddodd i sicrhau offeiriadaeth sefydlog yn unrhyw un o’r plwyfi y bu yn gwasanaethu ynddynt a gorfu iddo symud yn anfoddog a rhwystredig o un ofalaeth i’r nesaf. Ar un cyfnod cyn cyrraedd Llanllechid bu’n gaplan yn y llynges am  ddeufis, a dro arall ymunodd â’r fyddin, profiad a barhaodd am bedwar diwrnod yn unig cyn i’r awdurdodau ei atal ar ôl darganfod ei fod yn offeiriad ac awgrymu ei fod hefyd yn dioddef o iselder.

Flwyddyn cyn iddo gyrraedd Llanllechid yn 1758 treuliodd Ieuan dri mis yn copïo barddoniaeth Gymraeg o Lyfr Coch Hergest yn Rhydychen, profiad a’i hysbrydolodd i ymchwilio i lawysgrifau cynnar Cymru drwy weddill ei oes. Yn saithdegau’r ganrif noddwyd ef am gyfnod gan Syr Watkyn Williams Wynn i ddefnyddio ei lyfrgell yn Wynnstay, ond wedi treulio rhai blynyddoedd yn ymchwilio yno ni lwyddodd i gyhoeddi ffrwyth ei ymchwil a surodd y berthynas rhyngddo a’r noddwr. Cyfrifid Ieuan yn un o bennaf  awdurdodau Cymru ar y llawysgrifau cynnar a chymaint ei ysgolheictod oni ddaeth i gysylltiad personol â nifer o brif gasglwyr a hynafiaethwyr Lloegr a oedd yn awyddus i wybod mwy am ddiwylliant Cymru. I’r perwyl hwn y cyhoeddodd Ieuan yn 1764 gasgliad pwysig o gyfieithiadau a dadansoddiadau o farddoniaeth gynnar Cymru yn Saesneg  sef Some Specimens of the Poetry of the Welsh Bards, cyfrol a sicrhaodd athrylith ysgolheigaidd Ieuan. Yn 1770 pan oedd yn gurad ym Maesaleg yn Sir Fynwy ysgrifennodd ei ‘Englynion i Lys Ifor Hael’ a ystyrir yn un o’i gyfraniadau barddonol pwysicaf.

Llys Ifor hael, gwael yw’r gwedd, ─ yn garnau

Mewn gwerni mae’n gorwedd;

Drain ac ysgall mall a’i medd,

Mieri lle bu mawredd.

 

Yno nid oes awenydd, ─ na beirddion,

Na byrddau llawenydd,

Nac aur yn ei magwyrydd,

Na mael, na gŵr hael a’i rhydd.

 

I Ddafydd gelfydd ei gân ─ oer ofid

Roi Ifor mewn graean;

Mwy echrys fod ei lys lân

Yn lleoedd i’r dylluan.

 

Er bri arglwyddi byr glod, ─ eu mawredd

A’u muriau sy’n darfod;

Lle rhyfedd i falchedd fod

Yw teiau ar y tywod.

Yr oedd blynyddoedd olaf Ieuan yn rhai trist a chythryblus iawn. Dioddefodd ar hyd ei fywyd gan aflwydd y ddiod, efallai’r prif reswm am ei ddiffyg i ennill cydnabyddiaeth yn yr Eglwys. Ar y llaw arall rhaid nodi nad oedd hierarchaeth  yr Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru yn barod i hyrwyddo gyrfa athrylith a ymddiddorai mewn cyfoethogi diwylliant ac ysgolheictod Cymru. Dyma anghyfiawnder yr oedd Ieuan yn ymwybodol ohono gan iddo ysgrifennu traethawd llym ei gondemniad o’r agwedd hon, ond truth nas cyhoeddwyd ganddo.  Treuliodd Ieuan ddeng mlynedd olaf ei fywyd mewn anrhefn a chyni yn crwydro’r wlad ac yn byw ar garedigrwydd ei gyfeillion. Ar un cyfnod ceisiodd hyfforddiant i ddysgu Hebraeg ac Arabeg yng Nghaerfyrddin a  dro arall ceisiodd yn aflwyddiannus agor ysgol yn Aberystwyth. Drwy gydol ei oes, ac yn arbennig yn ei gyfnod olaf, yr oedd yn awyddus i gyhoeddi ffrwyth ei ymchwil ond ni lwyddodd i ddenu cefnogaeth ariannol  gan foneddigion Cymru i gyflawni’r gorchwyl.  Ar ei farwolaeth pwrcaswyd can cyfrol o’i ymchwiliadau gan Paul Panton o’r Plas Gwyn ym Môn fel rhan o’r nawdd a gyfrannodd i Ieuan yn ystod ei lesgedd olaf. Eraill, felly a fyddai’n derbyn y clod ac yn ymelwa o’i ysgolheictod.

Mae’n bur debyg na fyddai plwyfolion Llanllechid wedi gwerthfawrogi ysywaeth eu cysylltiad byr dymor ag athrylith Ieuan Brydydd Hir, ys dywed yr hen ymadrodd wrth ystyried doniau rhai dynion galluog ‘lle bo camp mae rhemp’.  Fel y dywedodd y bardd Siôn Dafydd Las wrth groniclo bywyd Ieuan :

‘Y gwŷr llên rhagor y lleill

A fyn gwrw’n fwy nag eraill’.

 

Ffynhonnell

Hugh Derfel Hughes. 1866. Hynafiaethau Llandegai a Llanllechid.

Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion. 19 53.  Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940. Llundain.

Gweler hefyd y Bywgraffiadur Cymreig https://bywgraffiadur.cymru/article/c-EVAN-EVA-1731

Gweler hefyd Eglwys Llanllechid.

Castell Penrhyn

Castell Penrhyn 2
Castell Penrhyn o’r awyr – llun drwy garedigrwydd a chaniatâd Alaw Jones, Parc Moch.

Castell diweddar i bob pwrpas yw’r torllwyth llym, diaddurn a adnabyddir fel Castell Penrhyn.  Mae’n meddiannu safle hen blasty y gellir olrhain ei hanes yn ôl i’r Canol Oesoedd cynnar yn y bedwaredd ganrif ar ddeg . Adeiladwyd y castell diweddar ar gyfer George Hay Dawkins Pennant (1763 –1840) i gynllun Thomas Hooper (1776-1856), un o benseiri  amlycaf ei gyfnod a oedd yn enwog am gyflwyno syniadaeth ramantaidd hanesyddol i’w gynlluniau. Yr oedd yn ddewis poblogaidd fel cynllunydd tai bonedd yn Lloegr ac enillodd ffafriaeth y brenin George VI. Cynlluniodd y castell mewn arddull drymaidd neo Normanaidd a chwblhawyd y gwaith rhwng 1821 ac 1836. Yn ystod y cyfnod hwn yr oedd Hooper hefyd yn gweithio ar gomisiynau eraill yng Nghymru yn cynnwys Castell Margam, Tŷ Llanofer yn y Fenni  ac, yn nes gartref, Parc Cinmel a chastell Bryn Bras ger Llanrug. Mae cynllun castell y Penrhyn ar raddfa eithafol  o eang. Yn y tŵr tal cynhwyswyd ystafelloedd i’r teulu, a thu draw yn y prif ran cynlluniwyd y neuadd fawr gyda’i tho bwaog mewn carreg sy’n agored i’r nenfwd. Mae drws ffrynt mawreddog y castell yn arwain drwy goridor cul i agor i ysblander rhyfeddol y neuadd. Cynnwys y rhan hwn y grisiau enfawr  a gymerodd ddeng mlynedd i’w hadeiladu, ac sy’n dringo’n osgeiddig  drwy fwâu  addurnedig i’r llawr uwch ben.  Ar ymyl gogledd ddwyrain y castell lleolwyd adran y gweision a stablau’r meirch yn ddigon pell rhag bod arogleuon y ceffylau a chwilfrydedd y staff yn mennu ar breifatrwydd y preswylwyr.

 

cynllun
Cynllun Castell Penrhyn  – drwy ganiatâd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Aberystwyth.

Disgrifiwyd y castell gan Greville ar ei ymweliad yn 1841 fel –

‘a vast pile of building, and certainly very grand, but altogether, though there are fine things and some good rooms in the house, the most gloomy place I ever saw, and I would not live there if they would make me a present of the castle. It is built of a sort of grey stone polishable into a kind of black marble, of which there are several specimens within. It is blocked up with trees, and pitch dark, so that it never can be otherwise than gloomy’ .

George hay
George Hay Dawkins Pennant i’r hwn yr adeiladwyd y ffoli eithriadol ddrudfawr i foddhau ei ffansi hunanol.

George Hay Dawkins Pennant oedd y cyfyrder ffodus a etifeddodd drwy ewyllys Richard Pennant holl freiniau stad y Penrhyn, gan gynnwys y chwarel lechi yng Nghae Braich y Cafn a’r planhigfeydd siwgr yn Jamaica. Yr oedd yn ŵr eithriadol gefnog cyn derbyn manteision y Penrhyn hyd yn oed gan iddo etifeddu ffortiwn gwerth £93,960 gan ei deulu a oedd hefyd yn berchnogion planhigfeydd siwgr yn Jamaica. Yn 1838 ychydig flynyddoedd wedi adeiladu’r castell derbyniodd  £14,683 17s.2g yn iawndal am y 764 caethwas a enillodd eu rhyddid yn dilyn diddymu caethwasanaeth. Er, nid fel ‘iawndal’ y y dylid disgrifio’r arian erchyll hwn.

Olyniaeth y llwy aur oedd derbyn ffafrau’r  Penrhyn yn ddi-gwestiwn. Derbyniodd yr etifeddiaeth yn 1808 ond ni symudodd i fyw i blasty’r Penrhyn tan 1816 ar farwolaeth Anne Susannah, gwraig Richard Pennant.  Bu Dawkins Pennant yn Aelod Seneddol Newark o 1814 i 1818 a New Romney yng Nghaint o 1820 i 1830 ac felly ei brif ddiddordeb oedd gwleidydda. Yr oedd gan y teulu gartref yn Llundain, 56 Portland Place, ac mae’n debyg  mai hwn fyddai prif gartref George oherwydd ei  ofynion seneddol. Yn ystod cyfnod ei arglwyddiaeth llwyddodd i ehangu ffiniau stad y Penrhyn  i rannau eraill o’r sir a bu’n amlwg yn cryfhau ei ddylanwad politicaidd yn ninas Bangor gan arbenigo ar berchenogi nifer o westai yn y dref. Ond pennaf orchest y pendefig hwn o Sais, na wyddai ddim am dras Cymreig  y Penrhyn, heb sôn am chwarelyddiaeth, oedd  porthi crandrwydd addurnedig ei etifeddiaeth drwy awdurdodi adeiladu’r castell. Mae’n anodd pennu yn union gost adeiladu’r castell –  defnyddiwyd deunyddiau a llafur y stad i gyflawni cymaint o’r gwaith, ond amcangyfrifir i’r gost fod oddeutu £150,000, swm a fyddai’n cyfateb i oddeutu £49,500,000 heddiw. Dylid nodi yr adeiladwyd y castell ar gyfer gofynion un teulu a gynhwysai un bonheddwr, ei wraig, a dwy ferch o briodas gyntaf y tad.

Castell penrhyn o Penylan 1840
Castell Penrhyn o Benylan oddeutu 1840 – Llun gan Thomas Hosmer Shepard.  Casgliad Tirlun Cymru drwy garedigrwydd a chaniatâd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth

Olynydd George oedd Edward Gordon Douglas (1800-1886), bonheddwr a thirfeddiannwr o’r Alban a briododd ferch hynaf George yn 1833 a thrwy hynny berchnogi’r etifeddiaeth. Yn 1841 newidiodd ei enw drwy orchymyn brenhinol i Douglas-Pennant  ac yn ddiweddarach gwnaethpwyd ef yn Arglwydd cyntaf y Penrhyn. Yr oedd gan George deulu mwy estynedig na’i dad-yng-nghyfraith gyda dau fab a thair merch o’i briodas gyntaf, ac wyth o ferched o’i  ail briodas yn 1846. Yn 1841 enillodd etholiad i gynrychioli Sir Gaernarfon yn y senedd, sedd a gynrychiolodd hyd at 1866 pan drosglwyddwyd y sedd yn ddiwrthwynebiad i’w fab. Er mai cefndir yn y fyddin a oedd gan y gŵr hwn ymdaflodd i weithgaredd y stad ac i wella amgylchfyd Dyffryn Ogwen a chwaraeodd ran amlwg yng ngwleidyddiaeth ei sir fabwysiedig. Ehangodd y stad yn Sir Gaernarfon a Sir Ddinbych a phwrcasodd Wicken Park yn swydd Northampton. Cyfeirid ato yn barchus fel yr ‘Hen Lord’, a disgrifiwyd ef fel –‘ gŵr bonheddig, gwyllt ei dymer, caredig ei galon, maddeugar a chrefyddol ei ysbryd. Meistr â lles a ffyniant ei weithwyr yn agos iawn at ei galon, er na fuasai’r gweithwyr yn cytuno bob amser â’i syniadau am eu lles’. Er mawr glod iddo ceisiodd ddatrys yr anghydfod diwydiannol yn chwarel y Penrhyn drwy gyfarfod a Phwyllgor y Streic yn 1874 ac o’r trafodaethau hyn y lluniwyd cytundeb cymodlon Pennant –Lloyd. Ar ei farwolaeth yn 1886 yn ei ewyllys  gadawodd £761,880 i’w fab hynaf Sholto ei ddisgynnydd yn yr olyniaeth.

Yr oedd George Sholto Gordon Douglas-Pennant (1836 -1907), o natur pur wahanol i’w dad ac yn ŵr llym, di-ildio a digyfaddawd.  Addysgwyd ef yn Eton ond er bod ei fryd ar yrfa yn y fyddin  cynghorwyd ef i ganolbwyntio ar yrfa boliticaidd a gofynion stad y Penrhyn. Etholwyd ef yn Aelod Seneddol Sir Gaernarfon o 1866 hyd 1868, ac eilwaith yn 1874 nes iddo golli’r sedd yn 1880, gorchfygiad nad oedd wrth ei fodd. Yn 1886, pan etifeddodd stad y Penrhyn roedd iddi  26,278 acer o dir oedd â gwerth trethiannol o £67,000 y flwyddyn, ac erbyn 1899 yr oedd elw’r chwarel yn £133,000. Pan dderbyniodd Sholto yr olyniaeth roedd sefyllfa chwarel y Penrhyn yn eithriadol fregus a chyflwr ariannol y gwaith fe ddywedir, yn gam neu’n gymwys, ar fin golygu y byddai’r gloddfa’n methdalu. Fel amddiffynnwr digyfaddawd  y syniadaeth fod gan y perchennog hawl ddwyfol i lafur rhydd heb ymyrraeth gan gyrff allanol, ac heb ystyried canlyniadau’r weithred, diddymodd Sholto gytundeb Pennant –Lloyd,. Y cam hwn arweiniodd at streic blwyddyn o hyd yn 1896/7 ac, yn ddiweddarach, at drychineb Streic Fawr 1900 a barhaodd am dair blynedd. Priododd Sholto gyntaf yn 1860 a chawsant un mab a chwech o ferched o’r briodas hon. Bu ei wraig farw yn 1869. Priododd am yr eilwaith yn 1875 ac o’r briodas hon cafwyd dau fab a chwe merch a ganwyd yr olaf o’r tylwyth yn 1889 pan oedd Sholto yn chwedeg tri o oed. Yn ychwanegol i’r Penrhyn yr oedd gan y teulu dŷ gwledig arall yn Wicken Park, Stony Stratford yn swydd Buckingham a chartref trefol yn Mortimer House, Halkin Street, Belgrave Square, Llundain.

Gellir cyffredinoli ynghylch pendefigion y Penrhyn. Yr oeddynt oll, wrth gwrs, yn eithriadol gefnog ac yn perthyn i gylch cyfyng eithriadol o bobl aruchel ac uchel ael ym Mhrydain. Cenhedlodd dau o’r pendefigion deuluoedd mawr ac yr oeddynt yn dra awyddus i briodi eu plant ag epil teuluoedd o’r un cylchoedd breintiedig yn bennaf  er mwyn lledaenu eu dylanwad yn genedlaethol a chryfhau eu buddiannau materol yn y broses. Yn rhinwedd eu hetifeddiaeth, ac nid o reidrwydd eu gallu, yr oedd ganddynt ddiddordeb mawr mewn gwleidyddiaeth fel cyfrwng o hybu eu gyrfaoedd personol yn genedlaethol ac er mwyn diogelu eu buddiannau yn sirol ac yn blwyfol. Yr oedd ganddynt oll gysylltiad agos â’r fyddin ac ymhlith eu diddordebau yr oedd  magu a rhedeg ceffylau yn bwysig yn ogystal â hela a chwrsio ymysg eu cyfoedion. Er eu bod oll yn meddu ar dai trefol moethus yn Llundain, eu prif gartref yn y wlad, a’r gadwyn oedd yn eu huno’n deuluol, oedd Castell y Penrhyn, canolfan stad y Penrhyn a phencadlys chwarel y Penrhyn, a tharddle eu holl gyfoeth.

Gadawodd pendefigion mawreddog y Penrhyn eu hôl yn ddwfn ar Ddyffryn Ogwen –  y cyntaf fel sylfaenydd diwydiant, yr ail fel dandi gwastrafflyd, y trydydd fel cymwynaswr nad oedd pawb yn ei werthfawrogi, a’r pedwerydd fel ellyll dinistriol. Ond yng ngeiriau Dafydd Iwan ‘er gwaethaf pawb a phopeth’ dylem gofio ein bod ni ‘yma o hyd’.

Ffynonellau

RCAMW. 1956 – An Inventory of the Ancient Monuments in Caernarvonshire Volume 1 East. HMSO, London

E H Douglas Pennant. 1998. The Penrhyn Estate 1760-1997: The Pennants and the Douglas-Pennants. Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon. 59. 35-54.

Ernest Roberts  1963. Bargen Bywyd fy Nhaid. Llandybïe.

Y traddodiad corawl yn Nyffryn Ogwen

Dyma erthygl arall gyfranwr gwadd, sef Wyn Thomas sy’n uwch ddarlithydd mewn cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor.

Gwelwyd dwy ganolfan gerddorol o bwys yng ngogledd Cymru’r 19eg ganrif, sef Rhosllannerchrugog yn y dwyrain a Bethesda yn y gorllewin. Tra mai’r diwydiant glo ddenodd y boblogaeth i ardal y Rhos, twf aruthrol yn y diwydiant llechi ynghyd â doniau cynhenid trigolion y fro a fu’n ffynhonnell i gyfoeth ac amrywiaeth y traddodiad corawl yn Nyffryn Ogwen.[1]

Cyfeirir yn aml at gyfraniad eithriadol Robert Williams (1791-1828), Cae Aseth, Dyffryn Conwy[2] a symudodd i weithio yn Chwarel Cae Braich y Cafn yn 1819 ac a gyfrannodd i’r bywyd diwylliannol drwy gynnal dosbarthiadau i ddysgu elfennau cerddoriaeth a nodiant i’r trigolion lleol.[3] Yn y man, ystyriwyd ef yn ‘dad canu cysegredig ac eglwysig yr ardal’[4] a bu’n gyfrwng i godi safon canu cynulleidfaol y gymdogaeth. Dylanwadodd ar gyw-gerddorion eraill – rhai fel ‘Eos Llechid’[5], ‘Asaph’,[6] a ‘Gorfinawc o Arfon’[7] – ac yn dilyn ei farwolaeth annhymig sefydlwyd Cymdeithas y Cantorion Crefyddol yng Nghapel y Carneddi fel parhad i’w waith a chydnabyddiaeth o bwysigrwydd canu corawl a chaniadaeth y cysegr yn ardal Bethesda. Bu’r gymdeithas hon yn llwyddiant ac er y cysylltid hi â’r Methodistiaid Calfinaidd, deuai’r aelodau ynghyd o bob enwad. O ganlyniad, magwyd llinach o gerddorion fel William Owen, Prysgol,[8]  John Parry,[9] David Roberts (‘Alawydd’),[10] a Robert Davies (‘Asaph Llechid’),[11] a fu’n flaengar yn arwain, hyfforddi, cyhoeddi, cyfansoddi ac yn cydlynu gweithgareddau cerddorol y dref. Cymeriadau fel y rhain a osododd sylfeini’r traddodiad ac a barodd i’r bwrlwm cerddorol ym Methesda ddenu sylw bonedd a gwreng yn ddiwahân.

IMG

Wrth i’r Mudiad Dirwestol ennill ei blwyf yng Nghymru yn ystod y 1830au-1840au sefydlwyd nifer o gorau dirwest yn Nyffryn Ogwen (e.e. Côr Dirwestol Braich Melyn a Chôr Dirwest Y Carneddi) a deuai’r rhain ynghyd yn gyson i gyd-orymdeithio a chyd-ganu gyda chorau o ardaloedd Bangor, Llangefni, Llanrug, Pwllheli a.y.b. mewn Cylchwyliau Dirwestol yng Nghonwy (1849) a Chastell Caernarfon (1850).[12] Emynau dirwest, anthemau a detholiad o weithiau cyfarwydd Handel, Haydn, William Croft a Beethoven fyddai’r arlwy gerddorol gan amlaf, ond yn ôl tystiolaeth y wasg, denai’r achlysuron cyhoeddus hyn gynulleidfaoedd niferus yn eu miloedd.

Erbyn ail hanner y ganrif, roedd yr arfer o gynnal Cylchwyl Gantorol ac Eisteddfod Gerddorol flynyddol ym Methesda wedi ei hen sefydlu a chystadlaethau canu anthemau Cymraeg a Saesneg yn ogystal â chystadlaethau cyfansoddi darnau corawl yn gyffredin. Digwyddiadau fel y rhain fu’n symbyliad i sefydlu corau lleol (ym mhonciau’r chwareli, mewn capeli enwadol ac eglwysi, er enghraifft), i godi safon canu’r gymdogaeth ac a fu hefyd yn ysgogiad i gyfansoddwyr ifanc yr ardal i fwrw eu prentisiaeth. Deuai arwyr y byd cerdd yng Nghymru yno hefyd i feirniadu, a rhai fel Edward Stephen (‘Tanymarian’),[13] John Mills (‘Ieuan Glan Alarch’), Llanidloes,[14] a John Roberts (‘Ieuan Gwyllt),[15] a’u tebyg yn gyfrwng i annog datblygiadau ym myd cerddoriaeth a chanu corawl nas gwelwyd mewn ardaloedd eraill o Gymru bryd hynny.

Denai eisteddfodau niferus y dref gystadleuwyr o bob ardal o ogledd Cymru a Chilgwri a heidiai’r tyrfaoedd i fwynhau cystadlu brwd (a ffyrnig, ar brydiau!) rhwng corau’r gymdogaeth a pharthau eraill y wlad. Yn ystod y 1860au gwelwyd bri mawr ar Eisteddfodau Cymreigyddion Bethesda, tra mai Eisteddfodau Ponciau y Chwarel fu’n boblogaidd yn y 1870au. Cynhaliwyd Cyfarfodydd Llenyddol yn gyson yng nghapeli’r fro, ond oherwydd gwerth a phwysigrwydd cerddoriaeth yn y gymuned leol rhaid hefyd oedd cynnwys perfformiadau lleisiol a chorawl ynddynt er mwyn sicrhau cefnogaeth fwy na’r cyffredin. Fel dull o feithrin doniau cerddorol yr ifanc, bu Eisteddfodau’r Plant a’r Eisteddfodau Undebol yn fodd o gynnig llwyfan i’r genhedlaeth iau ac yn eu sgil, daeth cyfle pellach i sefydlu corau deulais (Soprano ac Alto) a thri-llais (SSA) ar eu cyfer. Drwy gyfrwng profiadau amheuthun fel y rhain, y cododd unawdwyr a pherfformwyr lleisiol o’r gymuned a ddaeth i enwogrwydd yn ddiweddarach yn y ganrif. Ond rhaid canmol menter a dyfeisgarwch cerddorion Dyffryn Ogwen yn ogystal. Ym 1853, mentrodd William Morris a hanner-cant o aelodau o Gôr Dirwestol Braich Melyn i dalaith Pennsylvania (Unol Daleithiau) i gynnal cyngherddau ac i chwifio baner gerddorol y genedl.[16] Cyn hwylio o ddociau Lerpwl, roedd y cantorion wedi creu’r fath argraff ar drigolion y ddinas, fel y rhoddwyd sylw i Fethesda ar dudalennau’r papurau newydd ac y daeth enw’r dref yn gyfarwydd yn ardaloedd Everton, Toxteth ac Edge Hill. Ond nid cerddoriaeth gan Handel, Mozart a Mendelssohn yn unig glywyd y tu hwnt i’r Iwerydd, yn hytrach lledaenodd poblogrwydd gweithiau corawl ‘Eos Llechid’, ‘Tanymarian’ a J. Ambrose Lloyd ymhlith y Cymry alltud a denwyd sylw cynulleidfaoedd estron i bwysigrwydd a safon neilltuol cerddoriaeth gorawl yn yr ‘hen wlad’.

Fel cymuned Gymreig, lle rhoddwyd parch a blaenoriaeth i’r iaith, tyfodd yr arfer o gyfieithu gweithiau corawl y traddodiad Ewropeaidd o’r Saesneg, Lladin ac Almaeneg i’r iaith Gymraeg. Cyfeirir at ymdrechion Côr Shiloh (Tregarth), er enghraifft, i drosi geiriau’r oratorio Jephtha (Handel) i’r Gymraeg:

Yn sicr, nid oes terfyn ar lafur bechgyn y chwarelau gyda cherddoriaeth.

Y maent yn mynnu cael meistroli holl gampweithiau prif gerddorion y byd,

gan ddechrau gyda Handel – yn enwedig bechgyn Tregarth’.[17]

Yn yr un modd, roedd sicrhau unawdwyr ac arweinyddion o dalgylch Bethesda ar gyfer achlysuron o’r fath yn flaenoriaeth – onid meithrin doniau lleol a’u cefnogi oedd braint y gymuned gyfan? Hyn fu hanes y bariton, David Ffrangcon-Davies,[18] y soprano Megan Telini,[19] ac yn ddiweddarach y mezzo-soprano, Leila Megane.[20] O ganlyniad i’w profiad fel perfformwyr yn Nyffryn Ogwen ynghyd â’u doniau arbennig, daeth llwyddiant i’w rhan ac fe ledaenwyd enw da’r traddodiad ar lwyfannau cerddorol yng Nghymru a’r tu hwnt. Ond deuai ymwelwyr uchel eu parch i Gastell Penrhyn hefyd (e.e. Y Frenhines Victoria ym 1859 a’r Prif Weinidog William Gladstone ym 1861) ac wrth fwynhau diddanwch corau Bethesda a’r cylch, deuai clod ac anrhydedd i’r gymdogaeth gyfan a sylw pellach i gerddoriaeth a cherddorion y fro. Cyfuniad o gantorion o gapeli ac eglwysi’r ardal oedd aelodau Cymdeithas Gorawl Eglwysig Bethesda a than arweiniad Owen Davies (‘Eos Llechid’) rhoddwyd cryn bwyslais ar berfformio gweithiau cysegredig yn y Gymraeg, waeth pwy oedd yn bresennol yn y gynulleidfa. Y Bethesda Glee Society, St. Annes Glee Society a’r Aber and Llanllechid Glee Society fodd bynnag, fyddai’n darparu’r diddanwch cerddorol yn Saesneg.

Wrth i ddylanwadau cerddorol y traddodiad Ewropeaidd gyrraedd gogledd-orllewin Cymru, datblygodd yr arfer o ddarparu cyfeiliant mwy priodol na harmoniwm neu organ ar gyfer canu corawl. Ym mherfformiad y gantata, Gwarchae Harlech (Edward Lawrance) gan y Penrhyn Choral Society cafwyd cerddorfa yn ogystal â band pres (y Penrhyn Royal Brass Band) i gynnal y rhannau lleisiol. I gynulleidfa’r cyfnod, byddai hyn yn brofiad anghyffredin a hynod ddeniadol am mai prin oedd offerynwyr ac ensemblau ‘Clasurol’ o’r fath yn y gymdogaeth bryd hynny. Yn y man, sefydlwyd The Penrhyn String Band a fu’n cynnal cyngherddau’n gyson yn Neuadd y Farchnad (Bethesda) ac a fu’n diddanu’r boblogaeth leol. Drwy gyfrwng eisteddfodau (mawr a mân) a gallu creadigol cerddorion y fro, lluniwyd cyfansoddiadau newydd ar gyfer corau a chymdeithasau corawl y fro e.e. yr oratorio Ystorm Tiberias (Tanymarian) a berfformiwyd gan Gôr Undebol o gantorion gorau’r gymdogaeth dan arweiniad R.J. Jones (‘Garmonydd’). Ond un mudiad rhyngwladol a ddylanwadodd yn fawr ar allu a chyfeiriad cerddorol y Dyffryn oedd Mudiad y Tonic Sol-ffa a ddenodd filoedd i ddysgu nodiant cerddorol newydd yng nghapeli Jerusalem, Gerlan, Tynymaes, Carneddi, Rhiwlas a.y.b., Drwy gyfres o arholiadau canu a thasgau sain-glust, codwyd safon darllen cerddoriaeth yn nalgylch Bethesda yn rhyfeddol. Y Parch Robert Roberts (brawd John Roberts, ‘Ieuan Gwyllt’) fu’n athro cyntaf y grefft ac fe’i dysgai ar yr amod y byddai ei ddisgyblion yn sefydlu dosbarthiadau eraill yn eu cymunedau Cristnogol. I gyd-fynd â datblygiadau o’r fath, tyfodd poblogrwydd y Gymanfa Ganu yn y sir a gyfrannodd ymhellach at godi safon canu cynulleidfaol ac o ganlyniad, deuai unigolion fel David Jenkins,[21] Roland Rogers[22] a Spencer Curwen[23] i ymweld â’r ardal ac i gefnogi’r gwaith. Unigolion fel y rhain gafodd brofiad o weithgarwch corawl mewn ardaloedd y tu hwnt i Sir Gaernarfon, a’u dealltwriaeth hwy o’r maes fu’n sail i’r arloesi corawl a cherddorol ym Methesda.

Cor penrhyn 1893
Cor Meibion y Penrhyn a fu yn cystadlu yn Eisteddfod Ffair y Byd yn Chicago yn 1893. Mae Edward Broome yr arweinydd ar dde eithaf y llun.

Cyn diwedd y ganrif, roedd The Arvonic Male Voice Choir[24] dan arweiniad Roland Rogers yn teithio i ganolfannau yn Lloegr (e.e. Lerpwl a Huddersfield) i gynnal cyngherddau o gerddoriaeth Gymreig yn ogystal â chystadlu, gyda chryn lwyddiant, yn yr Eisteddfodau Cenedlaethol. Iddynt hwy, roedd camu y tu hwnt i Glawdd Offa yn arwydd o hyder a gallu’r côr i wynebu unrhyw her gerddorol a ddeuai o gyfeiriad y traddodiad yn Lloegr. Ond ‘menter enbyd’ i gôr o feibion y fro (The Penrhyn and Dinorwic Choir), dan gyfarwyddyd Edward Broome,[25] oedd teithio i Ffair y Byd yn Chicago ym 1893. Er na ddaeth llwyddiant i ran y cantorion y flwyddyn honno, roedd cyflawni camp o’r fath yn arwydd o obeithion rhyngwladol yr amaturiaid hyn ac yn arwydd o ymrwymiad y gymuned i gefnogi ei cherddorion i eithaf ei gallu.[26] Yn wir, roedd y daith i’r Unol Daleithiau mor bwysig ac arwyddocaol yn hanes yr ardal ac yn hanes cerddoriaeth Cymru benbaladr, fel y cyfrannodd Yr Arglwydd Penrhyn swm o £300 at y costau.[27]

 

 

IMGCor dynion 1900
Cor dynion y streic yn 1900 – un o dri chôr yn Nyffryn Ogwen

Drwy gydol cyfnod y Streic Fawr (1900-1903) bu cerddoriaeth leisiol ac offerynnol yn rhan allweddol o fywyd cymunedol Bethesda. Parhau wnaeth y canu mawl yn y capeli a’r eglwysi, ond cyfrwng codi arian i liniaru anawsterau gweithwyr a theuluoedd y fro, yn bennaf, fu perfformiadau a chyngherddau corawl bryd hynny. Yn wyneb diffyg Undebau Llafur a Gwladwriaeth Les, roedd disgwyl i’r trigolion ddibynnu ar eu hadnoddau a’u gallu cynhenid ond roedd canu a chyd-ganu yn gyfrwng gwerthfawr hefyd i ledaenu neges! Teithiodd dau Gôr Meibion i barthau gwahanol o Gymru a Lloegr i gyngherdda yn ystod y blynyddoedd argyfyngus hyn, ond y mae hanes ymdrechion Côr Merched y Streic (dan arweiniad Mary Ellen Parry) yn deilwng o ymchwil ac astudiaeth bellach.[28] Y gwragedd hyn a fu’n gefnogol i’w gwŷr, nid yn unig ar eu haelwydydd, ond ym merw’r frwydr am hawliau a thelerau teg, fu hefyd yn barod i deithio a diddanu a chynnal tlodion y fro.[29] Drwy flynyddoedd y Streic, bu cerddoriaeth a gweithgaredd cerddorol yn gyfrwng i uno’r gymuned ddiwylliedig hon.

 

IMG_0002
Cor merched y streic yn 1900, Mae Miss Mary Ellen Parry yr arweinyddes yng nghanol y rhes flaen a Megan Telini ar dde eithaf y rhes ôl

Er gwaethaf y colledion ddaeth yn sgil y Rhyfel Byd cyntaf a’r Dirwasgiad a’i dilynodd yn 20au’r ganrif ddiwethaf, parhaodd y diddordeb mewn canu corawl, cymanfaoedd canu, perfformiadau operatig, eisteddfodau coronog a gwyliau corawl yn Nyffryn Ogwen. Cynyddodd y nifer o gorau plant (e.e. Côr Ysgol y Cefnfaes), daeth perfformiadau o oratorïau crefyddol yn gyffredin yn y capeli (e.e. Judas Maccabeus yng Nghapel Jerusalem) ond yn dilyn anogaeth yr organydd a’r cyfansoddwr, Caradog Roberts (Bangor a Rhosllannerchrugog) sefydlwyd côr meibion unedig a ddaeth yn gonglfaen i weithgaredd cerddorol y gymuned gyfan am flynyddoedd lawer.[30] Enillodd Côr Meibion y Penrhyn ei blwyf ymhlith corau blaengar y genedl a chan ddilyn arfer a threfn y gorffennol, bu’n cystadlu’n gyson, yn teithio’n ddyfal ac yn torri cwys newydd ymhlith corau meibion Cymru’r 20fed a’r 21ain ganrif.[31] Heddiw, er gwaetha’r ffaith nad yw caniadaeth y cysegr fel ag y bu yn nyddiau Diwygiad ’04-05 ac nad oes sôn am Eisteddfod Ponc y Chwarel na Gŵyl Gorawl, fe gododd to o gantorion a chyfansoddwyr o fath gwahanol yn y fro – unigolion a grwpiau poblogaidd sy’n ymwybodol iawn o bwysigrwydd y traddodiad llenyddol, sy’n tynnu ar gyfoeth cerddorol y gorffennol ond sydd yn diddanu cynulleidfaoedd ymhell iawn o olwg y Dyffryn.

Wyn Thomas

Dydd Gŵyl Dewi, 2018

[1] R. Merfyn Jones, The North Wales Quarrymen, 1874-1922 (Cardiff: University of Wales Press, 1982)

[2] John William Evans a Sion William Ifan: Cofiant, neu hanes bywyd a marwolaeth Robert Williams, o Gae Aseth, Llanbedr yn Arfon: yr hwn oedd ben cerddor tra rhagorol yn mhlith y Trefnyddion Calfinaidd; hefyd rheolau a threfniadau llywodraethol y cantorion yn Nhapel y Carneddi, Llanllechyd

(Llanrwst: John Jones, 1830).

[3] R. D. Griffith, Hanes Canu Cynulleifaol Cymru (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1948)

[4] Gladys Lloyd Williams, Hanes Cerddoriaeth yn Nyffryn Ogwen (Caernarfon: Llyfrfa’r Methodistiaid Calfinaidd, 1965), 11

[5] Y Parch Owen Davies (‘Eos Llechid’), 1828-1898, Arweinydd y gân am gyfnod o 20 mlynedd yn Eglwys y Plwyf, Llanllechid.

[6] Griffith Rowlands (‘Asaph’), 1807-1889. Cyn-ddisgybl i Robert Williams, Cae Aseth, chwarelwr ac Arweinydd y gân yng Nghapel yr Annibynwyr (Bethesda) am 45 o flynyddoedd.

[7] John Williams (‘Gorfyniawc o Arfon’), 1814-1878. Cyn-ddisgybl i Robert Williams, Cae Aseth ac awdur nifer o erthyglau cerddorol yn Y Gwyddoniadur Cymreig (1889-1896). Treuliodd gyfran sylweddol o’i fywyd yn Lerpwl.  

[8] William Owen (‘Prysgol’), 1813 -1893. Cyfansoddwr yr emyn-dôn ‘Pen Calfaria’, ‘Deemster’ ac ‘Alma’.

[9] John Parry (Y Carneddi), 1808-1838. Chwarelwr a chyfansoddwr tonau.

[10]  David Roberts (‘Alawydd’), 1820-1872. Awdur Gramadeg Cerddorol (1848) a Llyfr y Psalmau (1867) sy’n cynnwys 150 o emyn-donau cynulleidfaol.

[11] Robert Davies (‘Asaph Llechid’), 1834-1858. Cyfansoddwr yr anthem boblogaidd, Dyn a aned o wraig a genid yn aml yng ngwasanaethau angladdol y fro.

[12] Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Papurau Bob Owen, Croesor, Llsg. 37/30, ‘Hanes Cerddoriaeth Ardal Bethesda’

[13] Edward Jones Stephen (‘Tanymarian’), 1822-1885. Brodor o Faentwrog, gweinidog a chyfansoddwr yr oratorio Gymraeg, Ystorm Tiberius (1885 ac 1887)

[14] John Mills (‘Ieuan Glan Alarch’), 1812-1873. Aelod o deulu cerddorol y Millsiaid o Lanidloes. Awdur Gramadeg Cerddoriaeth (1838)

[15] John Roberts (‘Ieuan Gwyllt’), 1822-1877. Golygydd Llyfr Tonau Cynulleidfaol (1859) a Y Cerddor Cymreig (1861). Bu’n frwd iawn dros boblogeiddio nodiant y sol-ffa yng Nghymru’r cyfnod.

[16] Aberystwyth, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Papurau Bob Owen, Croesor, Llsg. 37/30, ‘Hanes Cerddoriaeth Ardal Bethesda’

[17] Ibid.,

[18] David Thomas Davies (1855 – 1918). Ganwyd ef yn yr Hen Durnpike, Brynllwyd ac ychwanegodd yr enw ‘Ffrangcon’ fel arwydd o’i gyswllt teuluol ag ardal Bethesda. Athro canu yn yr Academi Gerdd Frenhinol (Llundain) ac awdur y gyfrol The Singing of the Future (Lane, 1905).

[19] Margaret Jane Parry (‘Megan Llechid’ neu ‘Madam Telini’), 1878-1940 – Cantores broffesiynol a fu’n amlwg yn y byd cerddorol yn yr Alban (Caeredin), Llundain ac yn yr Eidal. Bu’n ddisgybl i’r cyfansoddwr, R.S.Hughes, organydd Capel Bethesda.

[20] Margaret Jones (Leila Megane), 1891-1960. gw. Ilid Anne Jones, Leila Megane – anwylyn cenedl (Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch, 1999).

[21] David Jenkins (1848-1915), Athro Cerddoriaeth, Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Beirniad eisteddfodol, golygydd Y Cerddor ac arweinydd Cymanfaoedd Canu.

[22] Roland Rogers (1847-1927), organydd a chôr-feistr Eglwys Gadeiriol Bangor. Tiwtor cerdd yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor ac athro canu D. Ffrangcon Davies ac R.S. Hughes.

[23] J. Spencer Curwen (1847-1916). Mab John Curwen, sylfaenydd y tonic sol-ffa ym Mhrydain. Cyhoeddwr cerddoriaeth a fu’n gyfrifol am hyrwyddo cystadlaethau corawl ymhlith cantorion amatur yn Lloegr.

[24] Sefydlwyd y côr o gant a phedwar-ugain o leisiau gan ‘Eos Ceraint’, organydd Eglwys St. Anne. Fe’i dilynwyd gan y Dr. Roland Rogers yn 1882. Gw. Elfed Jones, Côr Meibion y Penrhyn: Ddoe a heddiw (Dinbych: Gwasg Gee, 1984)

[25] Edward Broome (1868-1932). Brodor o Fanceinion a ddaeth yn organydd cynorthwyol Eglwys Gadeiriol Bangor ac yn organydd Eglwys y Santes Fair yn y ddinas. Treuliodd gyfran helaeth o’i oes yn byw yng Nghanada.

[26] Elfed Jones, Côr Meibion y Penrhyn: Ddoe a heddiw (Dinbych: Gwasg Gee, 1984)

[27] Aberystwyth, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Papurau Bob Owen, Croesor, Llsg. 37/30, ‘Hanes Cerddoriaeth Ardal Bethesda’

[28] Elfed Jones, Côr Meibion y Penrhyn: Ddoe a heddiw (Dinbych: Gwasg Gee, 1984), t. 14

[29] ‘Côr Merched y Streic’ – Darlith gyhoeddus gan Brenda Wyn Jones, Bethesda

[30]  Yn 1935 y sefydlwyd Côr Meibion y Penrhyn. Gw. Elfed Jones, Côr Meibion y Penrhyn: Ddoe a heddiw (Dinbych: Gwasg Gee, 1984), t. 14

[31]  Côr y Penrhyn, Anthem, Cwmni Sain, Sain SCD 2679