Mae’r nodyn hwn yn ail drafod pwnc a gafodd sylw ar y wefan rai misoedd yn ôl o dan bennawd trefgor Cororion a’r Wern Fawr. Y mae a wnelo â threfn weinyddol a llywodraethol Cymru, a Gwynedd yn benodol, o dan y tywysogion Llywelyn Fawr (1173-1240), Dafydd ap Llywelyn (bu farw 1246) a Llywelyn ein Llyw Olaf (bu farw 1282) yn y drydedd ganrif ar ddeg. Abergwyngregyn, neu Abergarthcelyn fel y gelwid ef bryd hynny, oedd safle maerdref bwysicaf cwmwd Arllechwedd Uchaf a lleoliad Llys y Tywysogion am agos i 60 mlynedd hyd oni diddymwyd grym Gwynedd gan goncwest y Brenin Seisnig Edward y cyntaf yn 1284. Gan fod Aber yn rhannu arfordir y Fenai â phlwyf Llanllechid mae dylanwad trefn weinyddol y llys i’w ganfod yn y rhan hon o’r ardal estynedig hyd heddiw.
Trefn ffiwdal oedd yr un a weinyddwyd gan y Tywysogion yng Ngwynedd, megis a fodolai, fwy neu lai, yng ngweddill cyfandir Ewrop yn ystod yr un cyfnod. Y Tywysog oedd y teyrn a llywodraethai ei deyrnas yng ngogledd Cymru drwy gyfrwng nifer o is raniadau gweinyddol. Rhennid y cantref, fel y brif uned, yn nifer o gymydau, a’r cymydau hyn wedyn wedi eu his-drefnu yn drefgorau. Y cwmwd oedd yr uned lywodraethol bwysicaf gyda gweinyddwyr y tywysog yn ymweld â hwy yn fisol er mwyn casglu’r rhent a threfnu’r gwasanaethau a oedd yn ddyledus i’r Tywysog. Ar farwolaeth Llywelyn ap Gruffydd yn 1284 awdurdododd Edward gynnal ystent i gofnodi holl feddiannau’r Tywysog drwy ei diriogaeth, ond ysywaeth ni oroesodd y ddogfen hon. Yn 1352 trefnwyd ail ystent a adnabyddir fel y Record of Caernarvon, dogfen mewn Lladin yn cofnodi holl gymydau a threfgorau’r dalaith ac sy’n ddrych i ddeall cymhlethdodau tirfeddiant y cyfnod yn ogystal â’r newidiadau sylfaenol a orfodwyd ar y deyrnas gan y goncwest. Perthynai dwy elfen i ddaliadaeth y tir – y tir rhydd a oedd ym meddiant y tylwyth, a’r tir taeog a oedd yng ngofal y gwŷr caeth. Yn y tir rhydd, rhwymau perthynas hyd at y bedwaredd genhedlaeth a oedd yn sicrhau’r tir yn yr hyn a elwid yn wely neu’n afael. Dan y drefn Gymreig, ar farwolaeth sylfaenydd y gwely rhennid y tir rhwng y brodyr, y cefndryd ac yn olaf y cyfyrdyr, ond ar gyrraedd y bedwaredd genhedlaeth byddai’r tir yn perthyn i’r deiliad olaf fel y gallasai ef ail gychwyn y broses o rannu ei etifeddiaeth. Disgwylid i ddeiliaid y gwely rhydd gyfrannu at ofynion milwrol y tywysog a bod yn bresennol hefyd yn y llys bob tair wythnos ac yn yr uchel lys pan fo’r gofyn. Yn ychwanegol yr oedd deiliaid y gwely i dalu rhent isel am yr etifeddiaeth yn ogystal â chyfrannu at rai taliadau ychwanegol. Yn y tir caeth yr oedd y taeog ynghlwm â’r tir ac yn gyfrifol am dalu dyledion trymach mewn rhent a gwasanaethau i’r tywysog. Yr oedd gan y tywysog hefyd ei diriogaeth ei hun yn arbennig yn y Faerdref, ond hefyd ym mhob cwmwd, a chyfrifoldeb y taeog fyddai i drin y tir hwn a chyfrannu o’i chynnyrch mewn anifail a chnwd at fuddiant y tywysog. Yn ychwanegol perthynai hafodydd i’r tywysog ar lethrau’r ucheldir ble byddai ei wartheg yn pori yn yr haf.
Pwysigrwydd y gwely fel uned tir oedd fod iddo sail gyfreithiol yn ogystal â bod yn nodwedd ddaearyddol ar lawr gwlad, wele – hwn yw’r tir a berthyn i mi am gwehelyth ond mae hefyd yn sylfaen i’n cynhaliaeth! Yn ôl gorchmynion cyfraith Hywel Dda, a gofnodwyd ddwy ganrif yn gynharach na chyfnod y Tywysogion, yr oedd mesuriadau rheolaidd i gynnwys y rhaniadau tir – pedair erw mewn tyddyn; 16 erw mewn gafael, ac yn y blaen, hyd y drefgor oedd â 256 erw. Cyfyd problemau anodd wrth geisio trosglwyddo’r mesuriadau materol hyn yn ddarnau o dir gyda ffiniau cydnabyddedig i’w diffinio. Ar lawr gwlad cynrychiolid y gwely gan gyfres o renciau hir, cyfochrog a gweladwy, ond ymysg y rhain byddai unedau’r tylwyth ar wasgar yn hytrach na bod ar ffurf un bloc cryno.
Fel y gellid disgwyl mae tiroedd cysylltiol y llys yn perthyn yn bennaf i ddyffryn ac ucheldir Aber. Yno y ceir llu o enwau sy’n dynodi pwysigrwydd y sefydliad – Henfaes, sef y maes gwreiddiol, Ty’n y Mŵd sef safle castell mwnt a beili Normanaidd o’r unfed ganrif ar ddeg, ac yn ei gysgod safle neuadd y Llys a ddarganfuwyd mewn archwiliadau archeolegol diweddar. Yno roedd hefyd Llwyn Ednyfed Fychan, ac Ednyfed oedd disdain Llywelyn ap Iorwerth; Llys Sgolaig, sef cartref y clerc yng ngweinyddiaeth y gyfundrefn; Llys Madog, ac ef oedd ysgrifennydd Llywelyn ap Gruffydd; Pentre Du, sef pen eithaf yr uned amaethyddol a chartref y taeogion. Yna yn yr ucheldir roedd yr hafodydd – Hafod Meuryn, Hafod Nant Rhaeadr a Hafod y Gelyn, yr olaf oedd bwthyn hela’r tywysogion, ac uwchlaw ar y bryniau y ffriddoedd pori yn Nant Mawan (Anafon), Nanhysglain a’r Cras. Ond yn ogystal perthynai tiroedd y Llys i arfordir y gorllewin o Aber fel mae enwau megis Ty’n yr Hendref, Tai’r Meibion a’r Wig yn eu cyfleu, ac yno hefyd ceir cyfeiriadau fel Nant Heilyn, a Heilyn ap Cynfrig oedd un o lys genhadon Llywelyn ap Iorwerth; a Chae Gwilym Ddu, sef y barwn William de Breos a ddienyddiwyd gan Lywelyn ap Iorwerth yn 1230. Ac yn y caeau o gylch Tai’r Meibion gwelir rhith y gyfundrefn amaethyddol yn y rhenciau isel sy’n brigo’n donnau ansylweddol eu maint drwy wyneb y borfa bresennol a hefyd yn y llwyfannau sefydlog unionsyth sydd yn nodweddion amlwg yn nhirlun y bryn uwchlaw Tai’r Meibion.
Er tryloywder tystiolaeth y Record of Caernarvon am berchnogaeth y tir, y rhenti dyledus a’r gwasanaethau a oedd i’w cyflawni i’r oruchwyliaeth, eto erys y broblem ddaearyddol o sefydlu ffiniau i’r trefgorddau. Mewn astudiaeth ddiweddar o gwmwd Nantconwy, un o’r pedwar cwmwd yng nghantref Arllechwedd , a oedd yn cynnwys trefgorddau caeth Trefriw a Dolwyddelan, trefgorau rhydd Cwmllanerch a Betws a threfgorddau cymysg Penmachno a Gwedir (Gwydir), dim ond mewn tri achos yn unig y gellir canfod sail i ffiniau’r gwahanol unedau hyn o fewn y cwmwd.

Eto mae un ddogfen bwysig ymhlith papurau Stad y Penrhyn sydd efallai yn cyflwyno tystiolaeth pur wahanol am ffiniau’r unedau o fewn trefgor Cororion mewn un rhan o Ddyffryn Ogwen. Mae’r ddogfen ar ffurf map ac mae’n werth cofnodi’r teitl yn llawn cyn ceisio ei ddadansoddi. … the ville of Creuwyrion , now Llandegai parish in the hundred of Uchaph … showing the probable positions of the different Gavels mentioned in the extent of Edw(ard). Mae cryn ddadlau ynghylch dilysrwydd y map hwn a beth yn union oedd y bwriad o’i greu yn y lle cyntaf. Mae’r map yn dyddio i gyfnod Richard Pennant, Arglwydd cyntaf y Penrhyn, ac mae’n bur debyg yn gopi ar raddfa llawer llai ei faint a’i gynnwys o un o fapiau George Leigh sy’n rhan o Arolwg y Penrhyn yn 1768. Ynddo nodir safle y porthladd yn Aber Cegin, baddondy gwraig Richard ar y traeth gerllaw’r Penrhyn a bras leoliad y chwarel ym Mraich y Cafn, manylion sydd yn dyddio’r map yn derfynol i ddegawd olaf y ddeunawfed ganrif. Mae tiriogaeth y map yn ymestyn o lan y Fenai i Gapel Curig yn y de, sef holl ymestyniad plwyf Llandygái fel y nodwyd yn y teitl. Mae terfyn y de felly yn ffinio â threfgor Gwedir yng nghwmwd Nantconwy yng nghapel Curig. Defnyddiwyd y map hefyd fel sail i gynnwys ychwanegiadau diweddarach megis yn ardal Tregarth, Mynydd Llandygai ac ardal chwarel Cae Braich y Cafn sy’n nodi llociau amgáu yn dyddio yn bennaf rhwng 1718 a 1850 yn ôl nodiadau ymyl ddalen y map. Serch hynny sylwer fod lloc Bodfeurig wedi ei gofnodi mewn dogfen rent o gyfnod y Frenhines Elizabeth yn yr unfed ganrif ar bymtheg.
Beth sydd a wnelo hyn â threfgor Creuwyrion? Awgrymir y defnyddiwyd map o gyfnod diweddarach i gofnodi trefn, lleoliad daearyddol a pherchnogaeth y 9 gafael a berthynai i’r drefgor yn Cororion fel y’u rhestrwyd yn ystent 1352. Nodir yn nheitl y map mai lleoliad tebygol sydd i’r gafaelion, ond ystyrir bod eu dilyniant o Afon Menai i Gapel Curig yn un cywir a bod y ffiniau rhyngddynt, er efallai yn rhai cyffredinol, eto yn dderbyniol yn ddaearyddol. O edrych yn fanwl ar y map canfyddir fod sawl llawysgrifen wedi cyfrannu i’w ffurf derfynol, ond mae’r ysgrifen sy’n nodi enwau’r unedau yn amlwg gyson drwyddo, fel yn wir y llawysgrifen lai ei maint sy’n cofnodi nodweddion manwl rhai o’r gafaelion. Cynnwys y rhestr hon enwau sy’n cyfateb i ffermydd yn y gymuned heddiw – er enghraifft Cefn y Coed yng ngafael 2, Coed Howel yng ngafael 3 a Moelyci yng ngafael 5 – ac onid tybed fod y manylion hyn yn nodi arwyddocâd arbennig i’r gafaelion unigol? Serch hynny o fewn tiriogaeth Gafel Arthergon y llyn yn unig a gofnodir yng Nghororion ac yno enw Perthi Corniog sy’n dwyn y sylw pennaf. Pam hynny tybed, a pha mor gywir yw ffiniau’r gafaelion a ddangosir? Pe defnyddid yr ystadegau maint yn ôl cyfraith Hywel, yna mae’n amlwg mai ffiniau cyffredinol iawn a ganfyddir ar y map. O ganlyniad mae pob gafael a ddynodir yn llawer mwy nag 16 acer a chan hynny mae cyfanswm holl erwau’r trefgorau yn fwy na 256 erw.

Os cywir y dadansoddiad uchod yna mae’n rhaid bod unigolyn anhysbys, neu aelodau o gorff cynharach, wedi cyfleu rhywfaint o dystiolaeth o Ladin y Record of Caernarvon i fap y Penrhyn erbyn diwedd y ddeunawfed ganrif. Yn niffyg gwybodaeth byddai’n ddiwerth pendroni ymhellach ynghylch y ffynhonnell debygol ond cyfyd un cwestiwn arall sydd yn werth ei ystyried – beth oedd y rheswm dros fodolaeth y map? Bernir mai Benjamin Wyatt, prif asiant a strategydd cyfrwys Richard Pennant, oedd awdur y map, a’i ddefnydd tebygol fyddai i gadarnhau hawl difwlch ei feistr ers y bedwaredd ganrif ar ddeg i diriogaeth cyfran helaeth o Ddyffryn Ogwen fel yr ymgorfforir ef heddiw ym mhlwyf presennol Llandygái. Y ddogfen hon oedd i gadarnhau hawl y Penrhyn i diroedd y byddai’r Goron hefyd yn ei hawlio, a’r trysor, wrth gwrs, oedd gwirio meddiant Richard Pennant o chwarel Cae Braich y Cafn. Beth feddyliai’r Tywysogion tybed am y fath ffugio?