Gwaith Gwenwyn Ceunant

IMG_20200804_0001 (2)
Map o leoliad y gwaith arsenic yn y Ceunant

Fel ardal a ddatblygodd un o chwareli llechi mwyaf y byd yr adnabyddir Dyffryn Ogwen heddiw, ond a’r ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg gallasai fod wedi datblygu’n bur wahanol pan roddwyd cychwyn ar ddiwydiant cemegol pur afiach yn Nant Ffrancon.  Gyda pharagraff byr o bedwar deg un o eiriau y cyfeiria Hugh Derfel at y gwaith gwenwyn, neu ‘y solfŵa’ fel mae’n ei alw, a ddatblygodd am gyfnod byr oddeutu 1837 ar lan Afon Ogwen yn y Ceunant.  Ond gwell enwi’r elfen wrth ei enw Saesneg mwy syfrdanol, sef y gwenwyn arsenic.

Mae arsenic pur yn elfen digon anghyffredin yn y ddaear ond fe’i canfyddir yn bennaf ynghlwm gc elfennau eraill megis sylffwr, neu yn amlach fyth yn rhan o fwynau megis copr a phlwm. Ei ffurf fwyaf cyffredin yw fel arsenopyrite, cyfuniad sy’n perthyn yn agos i aur ffyliaid sef iron pyrites, ac yn y cyflwr hwn mae’n amlwg ei fod yn elfen atodol wastraffus iawn yn y mwynglawdd copr a ddechreuodd weithio yn y  Ceunant mor gynnar â 1760. Felly, yn 1837 pan ddaeth criw o Saeson i ail agor y safle fel menter i ennill yr arsenic mae’n amlwg fod yno ddigon o wastraff arsenopyrites i gyfiawnhau datblygu’r safle’n fasnachol. Ond lawn cyn bwysiced oedd bod  yr anturiaethwyr yn deall y prosesau cemegol cymhleth a oedd yn angenrheidiol i ennill y gwenwyn, ac wrth gwrs, fod yno hefyd farchnad ddigonol yn gofyn am y cynnyrch yn 1837.

delwedd 2
Yr agoriad i’r fwynglawdd o lan yr afon

Mae’r broses gemegol o’i ennill yn un gymhleth. Golyga rostio yr arsenopyrite er mwyn caniatáu i’r elfen arsenic sych-darddu (sublimate) mewn awyr cyn ei drosi yn llwch ocsid arsenic gan adael ocsid haearn ar ei ôl fel gwastraff. Yn ystod y ganrif flaenorol arbrofodd nifer o alcemyddion ar y cyfandir â’r broes o sych-darddu, ond un peth oedd llwyddo i wneud hynny mewn arbrawf ond gofyn tra gwahanol oedd trosi’r wybodaeth i’w defnyddio’n ymarferol ar safle diwydiannol.  A dyma’r hyn a ddigwyddodd yn y Ceunant mewn mwynglawdd unigryw o’i bath yng Nghymru. Yn y Ceunant gellir rhannu’r dystiolaeth rhwng y mwynglawdd gopr ac adran prosesu’r gwenwyn. Mae’r mwynglawdd yn dilyn gwythïen o gwarts sy’n arwain i gyfeiriad y de o lan yr afon am oddeutu chwarter milltir.  Mae ceg y twnnel yn agor o dro annisgwyl yn yr afon ac ar ei lwybr tanddaearol cloddiwyd nifer o bantiau dwfn i’w droedffordd fel petai i archwilio ei gynnwys. Awgrymir fod y twnnel yn rhan o’r mwynglawdd gwreiddiol a agorwyd yn 1760 i gloddio am gopr, tra bo’r tyllau dwfn yn agoriadau diweddarach i adennill grisialau gwastraff yr arseno-pyrites, ac felly yn perthyn i  fenter y gwenwyn. Ar ochr y llethr i’r dwyrain adeiladwyd cyfres o ffliwiau sydd wedi eu cydgysylltu yn un cynllun integredig ac yn arwain o leoliad cychwynnol y ffwrnais. Credir mai mawn fyddai’r tanwydd a losgid yn y ffwrnais. Mae’r ddwy ffliw bwysicaf oddeutu 50 troedfedd mewn hyd ac yn sianelau dwy droedfedd sgwâr a adeiladwyd mewn carreg gyda gorchudd o lechi i’w cau.

delwedd 4
Un o’r pydewau ar linell y fwynglawdd danddaearol yn edrych i gyfeiriad y gogledd

Rhed un gyfres ar wastad y tir a’r ail ar y bryn uwchlaw, ac mae’n bur debyg fod agoriad iddynt yn cyrraedd hyd at lan yr afon ac yno, o ganlyniad, yn gwenwyno’r dŵr. Cesglid y gwenwyn ar ffurf yr ocsid yn llwch gwyn wedi iddo sych-darddu drwy awyr y ffliw, ac mae’n debyg y byddai modd ei adfer drwy godi’r gorchudd llechen a’i grafu allan fel bo’r gofyn. Adweinir y system hon fel un ‘cut and cover’ ac fel mae’r enw yn ei gyfleu nid oedd yn addas i warchod y nwyon gwenwynig rhag ffoi i’r awyr agored, canlyniad a fyddai yn creu awyrgylch eithriadol beryglus. Ac wrth gwrs mewn byr amser dyma’r hyn a ddigwyddodd yn y Ceunant. Rhedai carthion y gwenwyn i’r afon gan wenwyno’r dŵr a lladd y pysgod a buan iawn y terfynwyd ar y gwaith wrth i’r gweithwyr ddioddef anhwylderau meddygol pur ddifrifol yn arbennig fel crach ar y croen.

Byrhoedlog felly oedd hanes y fenter i sefydlu’r diwydiant ysgeler hwn yn y Ceunant ar gychwyn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ond cyfyd y cwestiwn beth oedd gofyn y farchnad am gynnyrch mor niweidiol yn ystod y cyfnod dan sylw. Mae’n wybyddus fod arsenic wedi ei  ddefnyddio yn yr Oes Efydd bedair mil o flynyddoedd yn ôl i wella ansawdd bwyeill pres y cyfnod, ac mae digon o gyfeiriadau at y gwenwyn yn ieithoedd clasurol ymerodraethau Groeg a Rhufain. A buan iawn y daeth arsenic yn gyfarwydd fel y gwenwyn a ddefnyddid gan uwch aelodau’r gymdeithas i ladd  eu gelynion – ‘the poison of kings’ neu ‘the king of poisons’ fel y cyfeirid ato – cyn i wyddonwyr ddatblygu dulliau o’i adnabod  mewn achosion o lofruddiaeth. Ond yn ystod  oes Victoria defnyddid arsenic mewn dull llawer mwy sidêt, ond yr un mor beryglus, fel y cynhwysydd mewn eli ar gyfer cannu croen yr wyneb yn wynnach. Defnyddid ef gan elfen fenywaidd o’r gymdeithas a fynnai ddangos nad oedd lliw eu croen yn bradychu’r ffaith eu bod yn gwasanaethu mewn galwedigaethau is gymdeithasol megis a hynny yn llygad yr haul. Sut y newidiodd y ffasiwn, a phobl heddiw yn defnyddio hylifau i dywyllu eu croen fel pe bai ganddynt liw haul, ffasiwn sydd â chanlyniad llawer llai niweidiol na charthion y diwydiant a sefydlwyd agos i ddwy ganrif yn ôl ar gyrion Nant Ffrancon.

Diolch – i Gwyn Thomas, Ceunant am fod mor garedig yn dangos lleoliad y gwaith gwenwyn ac yn adrodd beth o hanes y diwydiant.

Ffynonellau

Hugh Derfel Hughes. 1866. Hynafiaethau Llandygai a Llanllechid. Bethesda.

  1. M. Bassett. 1974. Diwydiant yn Nyffryn Ogwen. Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon, 35. 73-84.

David Bick. 2003. The Old Copper Mines of Snowdonia, Landmark Publishing, 3ydd argraffiad.

Alaw Jones, Parc Moch

Gyda thristwch mae’n rhaid cofnodi marwolaeth Alaw Jones, Parc Moch, ychydig wythnosau yn ôl bellach. Pencampwr adeiladu waliau sych oedd Alaw wrth ei alwedigaeth, ac yn ei amser hamdden ei ddiléit oedd tyfu llysiau a blodau i gystadlu ac i’w harddangos yn sioeau lleol a chenedlaethol ein gwlad. Yr oedd hefyd yn gyfaill a chefnogwr mawr i’r wefan hon ac roedd bob amser yn barod ei gymwynas i ni ddefnyddio lluniau o’i gasgliad gwerthfawr o gardiau post ardal Dyffryn Ogwen. Mawr fydd ein colled ni heb ei gefnogaeth frwd, a mwy fyth fydd colled cymdeithas ehangach Dyffryn Ogwen o golli medrusrwydd ac arbenigedd Alaw. Heddwch i’w lwch.

Medd Syr Ifor

Syr Ifor Williams oedd un o bennaf ysgolheigion Cymru a hogyn o Dregarth oedd o. Yr oedd ystyr enwau, ac enwau lleoedd yn arbennig, yn bynciau o gryn ddiddordeb  iddo, ac yn wir Enwau Lleoedd a roddodd yn deitl i’r un o’r llyfrau mwyaf diddorol a ysgrifennodd. Yn y gyfrol mae’n sylwi ar tua ugain o enwau sy’n perthyn yn benodol i ardal Dyffryn Ogwen,  ac felly beth gwell na manylu ar y modd y mae’n egluro tarddiad ac ystyr rhai o’r enwau hyn. Ond cyn cychwyn, yn ei bennod gyntaf yn y llyfr dan y teitl Rhybudd,  mae’n dyfynnu sylw ei hen athro yn y coleg Syr John Morris Jones “’Fydd ‘na neb ond ffyliaid yn treio esbonio enwau lleoedd!”

Gwell dechrau gydag enwau mynydd a bryn sef pwnc ei ail bennod yn y llyfr.

Carnedd Dafydd a Charnedd Llywelyn  – y carneddau yn cyfeirio at feddfeini cerrig ar y copaon sy’n nodi yn wreiddiol feddau arwyr o gyfnodau cynhanes ond mewn cyfnod diweddarach a fabwysiadodd enwau dau o dywysogion Cymru.

Y Gludair Fawr a’r Gludair Fach – camffurf yn Saesneg yw’r ffurf Glyder, ac ystyr gludair yw pentwr o gerrig wedi eu casglu ar y copa naill ai yn naturiol neu i ffurfio carnedd gladdu.

Y Tryfan – nid tri-faen mo’r esboniad ond yn hytrach perthyn dau gymal i’r enw. Y cymal cyntaf try yn golygu blaen, a’r ail gymal ban yn  golygu uchel, ac felly mynydd yn codi yn uchel iawn gyda chopa main iddo yw y Tryfan.

Y Gyrn – esbonia fod peth ansicrwydd i egluro’r enw. Gall darddu o’r hen air curn sy’n golygu pentwr, neu efallai o’r enw corn sy’n golygu pigwrn, ond sylwer mai’r ffurf  luosog  cyrn sydd i enw’r mynydd.

Moel Faban a Moel Grach – mae moel gydag ansoddair treigledig, megis yn y ddwy enghraifft yma, yn golygu bryn, ac nid moel yn yr ystyr o fod yn noeth megis o ben dyn heb wallt. Ond ychwanega’r awdur, wrth ystyried enw Moel Wnion, y gall moel olygu pen crwn i fynydd a dyna ddisgrifio’r copa uwchben Llanllechid.

Y Drosgl – yr ansoddair trwsgl yw tarddiad yr enw. Ystyr trwsgl i ni heddiw ydi afrosgo ond golygai’r hen enw fod iddo ystyr garw neu anhrefn yn ogystal. Ac ym mhlwyf Llanllechid gwelir y gwrthgyferbyniad rhwng Y Drosgl (garw) ar un ochr i afon Ffrydlas yng Ngweuncwysmai a’r Llefn (llyfn) ar ochr arall y dyffryn.

Eryri – mae’r enw yn tarddu o’r gair eryr y gellir ei olrhain mewn hen Gymraeg i er, or  sy’n golygu codi. Fel aderyn mae’r eryr yn codi yn uwch na phob aderyn arall, ac felly mae mynyddoedd Eryri hefyd yn codi yn uchel.

Y Bera –  gall fod yn gyfystyr ag enw aderyn ysglyfaethus megis y barcud.

Nant y Benglog – penglog yw asgwrn caled y pen ond gall clog hefyd olygu craig neu faen carreg. Tybed felly ai’r Benglog yw’r maen mawr yn Llyn Ogwen sydd ar drothwy Nant y Benglog, ond gall hefyd gyfeirio at y maen fel ar ffurf penglog ddynol yn ogystal.

Gerlan – enw cyfansawdd o cerdd a glan, y ddau yn golygu codiad tir. Troes Gerddlan, felly, yn Gerlan o fod yn colli’r dd yn y canol.

Drum – yn golygu cefn ac yma mae’r enw yn cymhwyso rhan o gorff dyn i olygu crib neu gefnen gul megis rhwng y ddwy garnedd Llywelyn a Dafydd.

Ffynhonnell  

Ifor Williams, 1962. Enwau Lleoedd, Gwasg y Brython, Lerpwl.

Pentref Gerlan

dsc_0431-2
Manylyn o ardal y Gerlan ar Fap Arolwg Penrhyn 1768; sylwer ar Wm Williams land (Cae Ronw) a Rich Williams land (Kiltreflys). Abercaseg = Rhif 63; Tyddyn Caseg = Rhif 64; Gerlan = Rhif 65. Map drwy ganiatâd Adran Archifau a Llawysgrifau Prifysgol Bangor, Papurau a Mapiau Penrhyn Ychwanegol

Gellid disgrifio Gerlan fel un o faestrefi pentref Bethesda yn union fel Carneddi, Rachub neu Fynydd Llandygái. Pentref ydoedd a adeiladwyd yn bennaf i gartrefu gweithlu Chwarel y Penrhyn mewn cyfnod yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Dyma gyfnod pan oedd y chwarel yn ei bri yn cyflogi agos i 3,000 o weithwyr a phrinder llety addas yn creu argyfwng yn yr ardal. Cyn sefydlu’r pentref cilan ddiarffordd iawn o blwyf Llanllechid oedd Gerlan megis llwybr i gyrraedd at ffermydd pellennig Ciltwllan a Gwaen y Gwral (Gwaen Gwiail) ar gwr ffriddoedd Cwm Pen Llafar. Yn wreiddiol gellid cyffelybu cynllun y pentref i wybedyn neu iâr fach yr haf – y corff yn y canol, sef safle Fferm Gerlan a Hen Gerlan ar dir stad y Penrhyn, ac ar naill ochr y corff, asgell y gogledd  yn perthyn i stad annibynnol Kiltreflys ac asgell y de ym meddiant stad annibynnol Cae Ronw. Y mae a wnelo sefydlu’r pentref felly â dau lain o dir a oedd mewn dwylo annibynnol tra bo’r canolbwynt a’r holl diroedd amgylchynol yn perthyn i stad y Penrhyn.

Yn annisgwyl, i Rachub mae’n rhaid troi i chwilio am darddiad pentref Gerlan, ac yno i stad fechan Tanybwlch a theulu y Willamsiaid, ei pherchnogion ers canol y ddeunawfed ganrif. Pan fu farw Huw Williams yn 1765 gorchmynnodd yn ei ewyllys rannu ei diroedd rhwng ei ddau fab Morris a Richard. Roedd y ddau i dderbyn nifer o diroedd gwasgaredig yn yr ardal, ond yn benodol yr oedd cyfran Morris i gynnwys Cae Ronw a chyfran Richard i gynnwys Kiltreflys, dau lain diwerth eu defnydd ar y llwybr i bendraw’r plwyf yng nghymdogaeth y Gerlan. Ar fap Arolwg y Penrhyn 1768 mae’r ddau lain wedi eu nodi y naill fel Wm Williams land (Cae Ronw), a’r llall fel Rich Williams land (Kiltreflys), ac yn wahanol i diroedd cyfagos y Penrhyn nid yw enwau’r caeau wedi’u nodi. Rhyngddynt, ac yn eu gwahanu, mae encil o dir y Penrhyn ac arno ffermdy fferm y Gerlan a oedd, mewn amser, i roi ei enw i’r pentref.  Cadarnheir pwysigrwydd yr encil ym map diweddarach Johnson, dyddiedig 1855, sy’n dangos lleoliad y fferm a’i adeiladau ym Mhen y Clwt, yn rhaniad strategol rhwng Kiltreflys i’r gogledd a Chae Ronw i’r de, y ddau lecyn wedi eu dangos ar y map yn unedau di-gynllun a bellach heb enw eu perchennog. Cyn 1860 yr unig ddatblygiadau oedd bod rhes fechan o fythynnod wedi eu sefydlu yn y Gwernydd i’r de o Gae Ronw, a bod hen feudai a stablau fferm Gerlan wedi eu haddasu yn fythynnod Hen Gerlan .

Raw016
Map Johnson o ardal y Gerlan yn 1855; sylwer ar adeiladau’r fferm ym Mhen y Clwt a manylder y caeau sy’n amgylchynu y ddau lain Kiltreflys a Chae Ronw er nas enwir hwy. Map drwy ganiatâd Adran Archifau a Llawysgrifau Prifysgol Bangor, Papurau a Mapiau Penrhyn Ychwanegol

I ganlyn yr hanes, mae’n rhaid troi’r cloc ymlaen bron i ganrif gyfan i ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, pan oedd amgylchiadau holl blwyf Llanllechid wedi eu troi wyneb i waered a Dyffryn Ogwen yn ardal ddiwydiannol eithriadol ffyniannus yng Nghymru’r cyfnod. Erbyn hynny yr oedd peth newid wedi digwydd ym mherchnogaeth y ddau lain dinod, Cae Ronw a Kiltreflys. Yn 1833 yr oedd etifeddiaeth stad Tanybwlch wedi ei drosglwyddo i Jane, unig etifedd penteulu’r cyfnod, Morris Williams. Ymhen dwy flynedd o dderbyn yr etifeddiaeth, priododd hi â John Taylor, gŵr o Gae Bold yng Nghaernarfon, ond brodor yn wreiddiol o Cumberland. Yn sgil ei briodas ymgartrefodd ef yn Nhan y Bwlch ac o ganlyniad daeth yn berchen ar holl diroedd perthynol y stad gan gynnwys, wrth gwrs,  Kiltreflys a Chae Ronw. Erbyn canol y ganrif yr oedd problem digartrefedd yn dwysáu yn y dyffryn. Golygodd hyn fod darpar Gyngor pentref  Bethesda, a gyflwynodd nifer o welliannau buddiol yn yr ardal yn ystod y cyfnod hwn, megis carthffosiaeth, nwy a gwell safonau adeiladu tai, hefyd yn gorfod edrych am safleoedd addas ar gyfer adeiladu tai ar gyfer y dyfodol.  A namyn tros nos, megis, troswyd dau lecyn dinod Kiltreflys a Chae Ronw yn diroedd ‘real estate’ gwerthfawr eu defnydd. Rhwng 1864 ac 1865 daethpwyd i gytundeb gyda John Taylor y byddai’n gwerthu lleiniau ar y ddau lecyn i’w prynu drwy ocsiwn gan unigolion a phartneriaid ar gyfer adeiladu nifer o gartrefi. Drwy wneud hynny sefydlwyd cynsail i greu pentref newydd, i’w adnabod fel Gerlan, a’i ddisgrifio’n feiddgar ar y pryd fel ‘model village’. Aeth Kiltreflys yn Stryd Hir, Ffordd Gerlan a’r strydoedd eraill sy’n dringo’r allt, a Chae Ronw yn Stryd y Ffynnon a Stryd Goronwy  (Ronw > Gronw >Goronwy – tybed?).

Ac yn y broses dyma sefydlu pentref newydd y gellir adnabod ei phreswylwyr, a phennu eu galwedigaethau, yng nghyfrifiad 1871. Cymerer trigolion dwy stryd fel enghreifftiau. Yn Stryd y Ffynnon trigai 28 chwarelwr,  un mowldiwr, un cyfrifydd, un saer dodrefn, un tafarnwr, un saer maen, un trwsiwr rheiliau metal, un wniadwraig, un groser ac un nyrs. Deg chwarelwr oedd yn byw yn Ffordd Gerlan, ond yr oedd yno hefyd un bwtsiar, un cyfrifydd, un ffermwr, un saer maen, un siopwr, un groser a oedd hefyd yn farchnatwr blawd, un saer dodrefn a dwy wniadwraig.

gerlan 1890
Cynllun rhesi tai Stryd y Ffynnon a Stryd Goronwy ar fap ordnans 1890 

Erbyn 1890 yr oedd Gerlan yn bentref cryno, hunangynhaliol fwy neu lai, a’i thrigolion yn ddigon hyderus i hysbysebu eu nwyddau yng Nghyfeirlyfr Busnes Worralls y flwyddyn honno. Yn Gerlan bryd hynny  yr oedd yno dair siop fwy; bwtsiar; gwerthwr dillad; barbwr; saer maen a siop y post, ac i’r sychedig rai y Gerlan Inn ers 1886, er bod ei rhagflaenydd yno yng Nghors yr Eira ers 1854. Sefydlwyd capel Treflys i enwad yr Annibynwyr yn 1866 a chapel Gerlan i’r Hen Gorff yn 1869, a thrwy raslonrwydd yr Arglwydd Penrhyn ysgol ddyddiol ar lecyn pur fain o’i stad ym Mhen y Clwt i addysgu plant y pentref yn yr iaith fain ac i feithrin eu teyrngarwch i gyflogwr mawr y fro. Ac felly yr oedd i Gerlan gyflwyno ei hun yn bentref cyflawn, llawn hyder a breintiau ar drothwy’r ganrif newydd yn 1900.  Mae’n syfrdan y gwahaniaethau a all ddigwydd i hanes pentref mewn canrif  o amser, ac nid oedd Gerlan yn eithriad i brosesau cyfnewidiol o’r fath. Heddiw does odid ddim un siop i gynnig ei chynnyrch yn y pentref, chwalwyd y ddau gapel, caewyd y dafarn, terfynwyd dysg yn yr ysgol a phrynwyd cyfran o’r tai yn dai haf ac yn ail gartrefi i ddieithriaid. Ac mae hen gymdeithas glos, gynnes a Chymreig y pentref bellach yn gwegian, a phrin fod yr un chwarelwr yn byw oddi fewn i’w ffiniau.

20201024_214102
Panorama o bentref Gerlan mewn cerdyn post dyddiedig i tua 1920. Noder Ffordd Fron Bant (chwith eithaf); Capel Treflys a strydoedd perthynol yn Kiltreflys (chwith canol); capel Gerlan a strydoedd perthynol Goronwy a Stryd y Ffynnon yng Nghae Ronw (canol); Gwernydd (canol de eithaf). Llun o archif cardiau post Dyffryn Ogwen drwy ganiatâd y diweddar Alaw Jones, Parc Moch, Bethesda.

Os cywir yw realaeth y darlun o bentref Gerlan heddiw, yna pam na cheir damcaniaethu unwaith yn rhagor yn rhamant y gorffennol cyn bod treflan o’r fath enw wedi bodoli? Y mae a wnelo hyn â’r enw Kiltreflys, a Treflys fel ei mabwysiadwyd gan garedigion y capel yn 1866. Yn y Canol Oesoedd y treflys oedd y sefydliad hollbwysig a oedd yn cynnal y Teyrn neu’r Arglwydd, ac ar ei ymweliadau cyson â’i lysoedd yno y byddai ef yn casglu treth cynhaliaeth ei deyrnas a gosgordd ei amddiffyniad. Yn Arllechwedd Uchaf yr oedd 50 treflys neu drefgordd yn rhan o’r cwmwd gydag afon Ogwen yn creu’r ffin gyda’r drefgor nesaf i’r gorllewin, sef Creuwyrion. Beth felly oedd y cysylltiad, os cysylltiad o gwbl, rhwng yr enw treflys ac ardal Gerlan y dyfodol?  Felly, dyma’r ddamcaniaeth – yn gam neu’n gymwys! Unwaith yn rhagor rhaid troi at dystiolaeth map 1768 a sylwi  fod y ddau lain annibynnol Kiltreflys a Chae Ronw yn ffinio â chaeau tyddynnod Abercaseg a Thyddyn Caseg, yn ogystal â chaeau fferm y Gerlan. Dau dyddyn ar lawr y dyffryn oedd Abercaseg a Thyddyn Caseg a’u caeau yn dringo hyd eithaf yr allt i Gerlan, ac er nad yw’r enw treflys yn ymddangos ar gaeau yr un o’r ddau dyddyn, eto yr oedd gan Abercaseg ei bwysigrwydd. Yno yn 1284 y gwersyllodd y Brenin Edward 1af am un noson ar ei daith goncwestol drwy Ogledd Cymru i selio ei fuddugoliaeth dros Lywelyn ein Llyw Olaf ym 1282. Pam dewis Abercaseg? Yn Nhyn Tŵr, wrth gwrs, yr oedd cadarnle Tywysogion Gwynedd gyda’r tŵr amddiffynnol yn gwarchod y groesfan bwysig dros afon Ogwen a’r fynedfa i Nant Ffrancon ac ucheldir Eryri. Y ddamcaniaeth yw mai tiroedd y gwastadedd rhwng afonydd Ogwen ac afon Gaseg a fyddai’n cyflawni gofynion y cadarnle yn Nhyn Tŵr ac y byddai’r tiroedd hyn yn ymestyn hyd at y Gerlan fel mae’r enw Treflys yn ei awgrymu. Mae’n ffaith ddiymwad fod pwysigrwydd arbennig i ardal Ty’n Tŵr a dogfen ysgrifenedig i gadarnhau ymweliad Edward 1af ag Abercaseg, ond chwi ddarllenwyr gaiff benderfynu pa mor ffansïol yw’r dehongliad am fodolaeth y treflys yn y Gerlan, ond mae’n werth ei ystyried!

Gwybodaeth – mae ymchwil manwl Dafydd Fôn Williams, Gerlan, yn ganolog i’r ysgrif hon.

Ffynhonnell

Dau Deulu Lwcus – darlith a draddodwyd gan Dafydd Fôn Williams i Gymdeithas Hanes Rachub a Llanllechid yn Ionawr 2016.

Pantdreiniog – y chwarel gydweithredol

Ym mis Awst 1903 wynebai Dyffryn Ogwen ei thrydedd flwyddyn o anobaith wrth i streic fawr chwarel y Penrhyn barlysu gobeithion cymdeithas ddrylliedig a oedd yn disgwyl gweld terfyn cymodlon i’r anghydfod brwnt a rannai’r ardal.

Cynlluniau o chwarel Pantdreiniog cyn 1900 ac wedi 1900. Cynlluniau drwy garedigrwydd David Jenkins, Allt Bryn Eglwys

Gyda chynni’r streic yn gwasgu a chyflwr enbydus y gymuned yn dwyn sylw cenedlaethol dechreuwyd trafod yn 1902 y posibilrwydd o drosi Chwarel Pantdreiniog yn uned gydweithredol flaengar a sefydlog pe onid gellid sicrhau nodd ariannol cynhwysfawr i gadarnhau’r fenter.  Yng nghynhadledd yr  Undeb Gydweithredol a gynhaliwyd yn Doncaster yn ystod Llungwyn 1903 derbyniwyd y cynnig yn unfrydol i sefydlu cwmni y North Wales Quarries Limited a threfnwyd i brynu chwareli Pantdreiniog, Moel Faban a Thanybwlch am £18,400.  Trefnwyd cynhadledd bwysfawr ym Methesda ym mis Awst i lansio’r ymgyrch ac nid oedd ball ar y brwdfrydedd na’r anogaeth ariannol a ddilynodd. Derbyniodd her sefydlu’r cwmni gefnogaeth barod gan Undebau gweithiol a chymwynaswyr dyngarol ledled Prydain, a derbyniwyd buddsoddiadau unigol gan unigolion a oedd â chydymdeimlad ag achos y chwarelwyr ac a fynnai drechu craidd yr anghydfod sef yr hyn a elwid yn ‘Penrhynism’.  Ac fel hunan hysbysebwr heb ei ail cyfrannodd W. J. Parry yn helaeth i gyflwyno trasiedi Bethesda i sylw cenedlaethol y wasg Seisnig ac yn ysgrifau byrlymus, y llygad-dyst C. Sheridan Jones. Penodwyd cyfarwyddwyr i arolygu’r fenter ac mae’n werth manylu pwy oedd y parchusion a etholwyd – Cadeirydd, Richard Bell, AS Derby, ac Arweinydd Undeb Gweithwyr y  Rheilffyrdd; William Abraham (Mabon), Llywydd cyntaf Ffederasiwn Glowyr De Cymru ac AS y Rhondda; J. C. Gray, o’r Undeb Gydweithredol; Henry Vivian, o Gymdeithas Cydbartneriaeth Llafur yn Llundain; a Griffith Edwards, Ysgrifennydd Pwyllgor y Streic, a’r unig gynrychiolydd lleol ar y panel. Etholwyd W. J. Parry yn rheolwr i redeg y tair chwarel gyda Sheridan Jones yn Llundain yn ysgrifennydd y cwmni. Pencadlys y cwmni oedd Manceinion.

Y Cyfarwyddwyr yn ymweld â Chwarel Pantdreiniog yn 1904 – noder sgaffaldiau’r blondins a’r injan stêm

Yr oedd blynyddoedd cyntaf y cynllun yn lled llwyddiannus. Gwariwyd yn helaeth ar foderneiddio chwarel Pantdreiniog. Agorwyd dwy bonc newydd, Bryntirion a Coetmor, gan adnewyddu’r ystolion a oedd yn cyrraedd i waelod y twll. Sefydlwyd cynllun o wifrau dur, y ‘blondins’, i godi cerrig a rwbel o ddyfnder y twll a defnyddiwyd peiriannau stem drudfawr i weithio’r offer. Ychwanegwyd pwmp heidrolig newydd at yr hen un i sychu dŵr y twll a threfnwyd fod pibellau dur yn eu cyflenwi er sicrhau gwell defnydd ohonynt. Cyflwynwyd injans stêm i hwyluso trefn fewnol y chwarel ac adeiladwyd trydydd gris ar y tomennydd. Amgylchynwyd ymyl ddeheuol y chwarel gyda llwybr a gynlluniwyd drwy drefniant i nodi’r ffin gyda stad y Penrhyn. Rhwng Ebrill 1903 a Medi 1906 cynhyrchwyd gwerth £22,920 o lechi gwerthadwy a thalwyd £28,000 mewn cyflogau i’r gweithlu. Mynnai Parry ganolbwyntio ar ddatblygu Pantdreiniog ond yr oedd y cyfarwyddwyr yn dymuno gwario ar ddatblygu’r ddwy chwarel arall yn ogystal. Yn y broses, ac yn groes i gyngor Parry, afradwyd £10,000 ar ddatblygu’r ddwy gloddfa pan, yn ei farn ef, y gofyn oedd gwario o leiaf £60,000 cyn disgwyl i’r unedau dalu eu ffordd. Erbyn 1907 dim ond pedwar dyn oedd yn gweithio ym Moel Faban, dim un yn Nhanybwlch ac oddeutu 100 ym Mhantdreiniog. Mae’n amlwg felly fod dwy farn yn hollti’r cynlluniau o’r cychwyn cyntaf, y farn bragmataidd leol yn arwain drwy bwyll a phrofiad a’r farn estron esoterig yn mynnu drwy ddelfryd ac anwybodaeth. Ceisiodd Parry ar fwy nag un achlysur ymddiswyddo ond yr oedd Bell yn ei annog i aros drwy bledio – ‘you are the soul of the concern, and to think of giving it up now would completely cripple us’.

Ond nid hollt ymysg y cyfarwyddwyr oedd yr unig rwystr a wynebai’r cynllun, ac mae’n rhaid cydnabod bellach mai megis tân siafins oedd brwdfrydedd cychwynnol y fenter. Un o’r problemau sylfaenol oedd bod cynllun y North Wales Quarries Limited wedi ei lansio gwta dri mis yn unig cyn i’r streic lusgo i’w therfyn anfoddhaol ym mis Tachwedd 1903. Yn araf ciliodd y sylw a’r cydymdeimlad cenedlaethol â dioddefaint Dyffryn Ogwen ac yn raddol prinhaodd y ffynonellau ariannol i gynnal y fenter wrth i ddiffygion y cynllun cydweithredol ddod i’r amlwg. Un o obeithion y cynllun oedd y byddai cynnyrch y tair chwarel yn cystadlu ar y farchnad agored gan dorri monopoli cynhyrchu a gwerthu’r llechi. Ond derbyniodd y cynllun wrthwynebiad ystyfnig gan y cwmnïau mawr a oedd am ddiogelu eu marchnad, ac ar derfyn y streic buan iawn yr ail sefydlodd Chwarel y Penrhyn eu masnach mewn cystadleuaeth. Disgwylid yn ogystal y byddai undebau a chwmnïau o fewn y mudiad cydweithredol yn blaenoriaethu prynu cynnyrch y cynllun ond ar y farchnad agored mae’n amlwg na ellid disgwyl am eu cymorth yn barhaol i gadarnhau dyfodol y cwmni yn y tymor hir. Ac fel yr oedd yr arian yn prinhau felly hefyd yr oedd cymhlethdodau rhedeg y cynllun yn dod i’r amlwg. Parry fel y rheolwr oedd i ymgodymu â’r problemau hyn ac fel ffigwr amlwg mewn cymdeithas ddrylliedig ef oedd yn wynebu llach ei gyd blwyfolion o orfod diswyddo gweithwyr wrth i’r cynllun fethu. Ac i ychwanegu at yr amarch, cafodd ei feirniadu’n sarhaus yn y wasg leol am fod yn feistr llawn mor anhrugarog at ei weithwyr ym Mhantdreiniog â’r Arglwydd Penrhyn yn chwarel y Penrhyn. Rhaid cofio nad dyngarwr trugarog oedd  Parry er cymaint oedd ei ymdrech i bortreadu ei hun fel gwarchodwr annibyniaeth a chynheilydd y di-waith yn ei gymuned.

Yr oedd nifer o resymau cymhleth yn gyfrifol am fethiant cynllun cydweithredol y North Wales Quarries Limited ac nid Parry yn unig ddylai dderbyn beirniadaeth am aflwyddiant y prosiect. Ond fel chwarel W. J. Parry yr adnabyddid Chwarel Pantdreiniog, a’r chwarel hon gyfrannodd at y myth mai dyngarwr caredig a chymodlon oedd efe. Mae cofiannydd Parry, Roose Williams, wedi honni fod Chwarel Pantdreiniog wedi chwarae ei rhan fel math o labordy cymdeithasol ar gyfer profi damcaniaethau cydbartneriaeth a chydweithrediad diwydiannol, ac yn hyn o beth gellir cytuno â’r gosodiad.  Ond mae hefyd wedi honni fod Parry yn gredwr brwdfrydig ac argyhoeddedig mewn gweithredu’r damcaniaethau hyn ac yma, yn nhreigl amser, rhaid cwestiynu cywirdeb y canlyniad hwn. Gŵr busnes llygadog, di-ildio a hunanol oedd Parry yn ei hanfod a dyfodol ei gynlluniau ef a sicrwydd ariannol ei fusnesau oedd yn hawlio ei sylw fel mae ei ymrwymiad i chwarel Pantdreiniog yn ei egluro. Ond ni ellir diystyru dylanwad y chwarel hon ar dwf pentref Bethesda ac yn isymwybod ei phreswylwyr. Wrth i’r pentref ddatblygu yng nghysgod anghynnes y gloddfa tyfodd y chwarel yn symbol o’r gwrthryfel rhwng y cyflogwr a’r cyflogedig, a’i bodolaeth yn crynhoi holl ddyheadau’r gymuned i sefydlu cymdeithas a oedd yn ymwybodol o’i thras a’i gwerthoedd, a fyddai’n coleddu meddylfryd rhyddfrydig, yn gwrthod ymostwng i awdurdod anghyfiawn ac yn gwarchod egwyddorion annibyniaeth a rhyddid. Dyma oedd y prif egwyddorion a luniodd gymdeithas y pentref gam wrth gam â datblygiad ymwthiol y chwarel. Ni allai trefn unbenaethol chwarel fawr y Penrhyn fyth gystadlu â’r arbrawf goleuedig yn y chwarel fach hon ar dir annibynnol stad Cefnfaes.

Tomen Chwarel Pantdreiniog uwchlaw Lon Pâb, ysgol y Cefnfaes ar ganol y llun,y stryd fawr ar chwith y llun. Noder hefyd leoliad Tŷ Mawr (tŷ deulawr sengl wrth droed y domen ar y dde o’r llun) cartref rheolwr y chwarel yn y cyfnod cyn 1900

Mae’n syndod fod chwarel Pantdreiniog fel safle diwydiannol weledol wedi diflannu o’r pentref yn 1974 o dan gynllun gwella’r amgylchfyd a ariannwyd gan y Swyddfa  Gymreig. Dim ond y Tŷ Mawr, cartref y rheolwr ym Mryntirion, ac un o glogwyni’r twll a erys i’n hatgoffa o fodolaeth y chwarel eiconig  hon ym Methesda. Ond dair mil a mwy o filltiroedd i ffwrdd ym mhentref South Poultny yn Nhalaith Vermont yn yr Unol Daleithiau mae chwarel Pantdreiniog arall yn aros. Yno, ar ddechrau’r ganrif ddiwethaf fe’i hagorwyd yn chwarel lechi, ond yn nhreigl amser camsillafwyd ei henw a Pantrhiniog ydyw bellach. Collwyd safle gweledol Pantdreiniog yn ei phentref gwreiddiol yng Nghymru ond yn ei phentref mabwysiedig yn Vermont yr enw a gollwyd. Rhyfedd o fyd!

Ffynonellau

W. J. Parry, 1906  A New Chapter in the History and Co-peration of Labour: North Wales Quarries Limited. Co-operative Printing Society Ltd. Manchester.

J Roose Williams. 1978. Quarrymen’s Champion. Dinbych.

J.Ll.W.Williams a D.A.Jenkins.  1996. Tair Chwarel ym Mhlwyf Llanllechid, Bethesda  Rhan 2. Trafodion  Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon. 57. 65-84.

J.Ll.W.Williams. 2000, W. J. Parry: Quarrymen’s Champion?  Llafur – Cylchgrawn Hanes Llafur Cymru,  8 (1), 97- 110.

J. Ll. W. Williams ‘Lle mae camp mae rhemp’ – degawd trychinebus W. J. Parry, Coetmor Hall, Bethesda – erthygl heb ei chyhoeddi.