Capel Ogwen

Dyma gyfraniad gan un arall o gyfranwyr gwadd y wefan sef Ieuan Wyn. Mae’n berthnasol i gyfraniad cynharach am Gapel Ogwen (Mai 8 2017) a sylwadau ychwanegol gan Dei Fon Williams (Mai 17  2017).

Cae’r Ychain

Dyma enw sy’n dod o’r cyfnod pan ddefnyddid ychen i gyflawni gorchwylion trymion ar y tir. Mae sawl cyfeiriad yn ein llên a’n traddodiad gwerin at yr anifail hwn. Yr un amlycaf mewn barddoniaeth yw disgrifiad David Davis yn ei gyfres o englynion ‘Adfeilion Plas Ffynnon Bedr’ o’r ych yn pori lle bu ystafelloedd ysblennydd y plas:

Troir ei gain lydain aelwydau – ’n erddi

A gwyrddion weirgloddiau;

A mynych yr ych o’r iau

Bawr lawr ei gwych barlyrau.

Drwy’r canrifoedd, byddai ffermwyr yn defnyddio caniadau neu alwadau i annog ychen i weithio, ac yma yng Nghymru cofnodwyd sawl enghraifft o’r penillion (ar fesur triban yn bennaf) a’r alawon a ddefnyddid ym Morgannwg yn benodol. Mae tystiolaeth bod yr arfer o aredig efo ychen wedi parhau yno tan oddeutu 1880. Y gair am yrru ychen yw ‘cathrain’, a’r enw ar y gyrrwr yw ‘cathreinwr’, a byddai’n defnyddio galwadau megis ‘Ma-hw!’ a ‘Hw! ’mlaen, Hw!’ – galwadau sydd wedi eu cynnwys yn y caneuon. Clywir hyd heddiw y gymhariaeth ‘yfed fel ych’, yn enwedig am lymeitwyr yn slochian cwrw! Mae’r mynydd-dir hefyd yn dwyn enw’r creadur. Ar ochr orllewinol Cwm Pen Llafar, ceir Pant yr Ychen islaw Foel Meirch a thros y grib o Gwm Moch – enwau anifeiliaid bob un.

 

Croesi Afon Menai

Yn ôl yr Athro E.G. Bowen, y ddau le ar arfordir Môn ar gyfer mynd â gwartheg dros afon Menai i Arfon oedd Porthaethwy a Phenrhyn Safnas (Penrhyn Safn yr Ast – Gallows Point yn Saesneg).Tua diwedd y ddeunawfed ganrif, bu Arthur Aikin yn llygad-dyst o’r croesi o Benrhyn Safnas pan oedd ar ei daith drwy ogledd Cymru. Dyma ran o’r disgrifiad sydd yn ei ddyddlyfr:

‘Some of the boldest and strongest push directly across, and presently reach the land, the more timorous immediately turn around, and endeavour to gain the place from which they set off; but the greater part, borne down by the force of the stream, are carried towards Beaumaris bay, and frequently float to a great distance before they are able to reach the Caernarvonshire shore.’

Capel Ogwen, Llyn Celanedd a Llan-faes

Mae cofnod Brut y Tywysogion am y flwyddyn 1237 yn adrodd fel a ganlyn:

“Bu farw Arglwyddes Cymru, gwraig Llywelyn ap Iorwerth a merch i frenin Lloegr – Siwan oedd ei henw – yn llys Llywelyn yn Aber ym mis Chwefror; a chladdwyd ei chorff mewn gardd gysegredig a oedd ar lan y traeth (yn Llan-faes). Ac yno, wedi hynny, yr ymgysegrodd yr Esgob Hywel fynachlog i’r Brodyr Troednoeth er anrhydedd i’r Wynfydedig Fair.”

Ceir cofnod hefyd bod Elinor, gwraig Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog olaf Cymru, wedi ei chludo dros afon Menai i gladdfa Llan-faes.

Roedd y bardd Goronwy Gyriog yn byw yn y cyfnod ar ôl lladd Llywelyn ap Gruffudd, a chyfansoddodd farwnad i Gwenhwyfar, un o dras frenhinol teyrnas Powys a gwraig Hywel ap Tudur ap Gruffudd o Goedan ym mhlwyf Llanfechell. Yn y gerdd mae’r llinell o gynghanedd sain drawiadol ‘Rhwym caen llen faen yn Llan Faes’ sy’n disgrifio’r maen a roed drosti (caead arch garreg mae’n debyg) fel llen – yn gaenan i’w chaethiwo.

Wrth ystyried y cysylltiad posibl rhwng Capel Ogwen a mynwent Llan-faes, tybed a barhawyd i ddefnyddio’r gladdfa ar ôl chwalu Tŷ’r Brodyr Llwydion (Urdd Sant Ffransis) adeg diddymu’r mynachlogydd? A thybed a oes cyfeiriad at y gladdfa yn y cywyddau i deuluoedd Coetmor, Cochwillan a’r Penrhyn?

Fodd bynnag, mae dehongliad arall yn bosibl o enw’r pwll yn afon Ogwen, Llyn Celanedd. A roddwyd yr enw hwn arno oherwydd mai yma y canfyddid cyrff y rhai a fyddai wedi syrthio i’r afon ar lif mawr?

Gyda llaw, byddai’n dda gweld cynnwys yr enw Llyn Celanedd yn yr wybodaeth a ddarperir ar gyfer ymwelwyr ag Aberogwen.

 

 

Ffynonellau

Alan Llwyd (gol.), Y Flodeugerdd Englynion, Christopher Davies, Abertawe 1978

Gwefan Amgueddfa Cymru – Hanes Bywyd Gwerin – Caneuon Gwerin

T.M. Basset a B.L. Davies (gol.), Atlas Sir Gaernarfon, Cyngor Cefn Gwlad, Gwasg Gee 1977

Emyr Hywel Owen ac Elfed Thomas (gol.), Atlas Sir Gaernarfon: Hanes a Daearyddiaeth, Gwenlyn Evans Cyf., Caernarfon 1954

Arthur Aikin, Journal of a Tour through North Wales and Part of Shropshire with Observations in Mineralogy and Other Branches of Natural History, Llundain 1797

Thomas Jones (gol.), Brut y Tywysogion: Peniarth MS. 20, Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd 1941

Arthur Hughes (gol.), Gemau’r Gogynfeirdd, Pwllheli 1910

Advertisements

Pentref Llandygái

 

Pentref Llandygai 1841
Cynllun pentref Llandygái yn 1841. Rhan o fap Penrhyn Ychwanegol PFA/6/166, drwy ganiatâd Archifau a Casgliadau Arbennig, Prifysgol Bangor.

Pentref Llandygái oedd y pentref ‘delfrydol’ a gynlluniwyd i gwrdd â gofynion Edward Gordon Douglas Pennant, Barwn Cyntaf y Penrhyn, oedd â’r syniad o greu ‘modelau’ pensaernïol buddiol ac effeithiol i gartrefu deiliaid ei stad. Cynlluniwyd pentref Llandygái ar gyfer lletya gweithwyr a chrefftwyr y stad. Yn Llwybr Main a Than y Bwlch ym Mynydd Llandygái lletywyd gweithwyr chwarel y Penrhyn, ac egin ddosbarth canol pentref Bethesda a gymerai ei sylw wrth gynllunio unedau pensaernïol Penybryn, Garneddwen a Ffordd Pantglas.

Llandegai village
Pentref Llandygái circa 1855. Ysgythriad a gyhoeddwyd gan J. Newman & Co,; Casgliad Tirlun Cymru, drwy ganiatâd  Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.

Perthyn cyfnod adeiladu pentref Llandygái i ddegawdau canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac fe’i lleolwyd yng nghesail fonheddig y Grande Lodge a godwyd ychydig flynyddoedd yn gynharach fel y brif fynedfa i gastell y Penrhyn. I gartrefu’r trigolion adeiladwyd tai pâr deulawr cyfforddus ar dir y Tŷ Mawr. Tŷ cynnar sy’n dyddio i 1468 yw hwn a bu’n gartref i WilliamWilliams, y polimath disglair ei ddysg a gynlluniodd chwarel y Penrhyn i’w feistr Richard Pennant ar derfyn y ddeunawfed ganrif. Defnyddiwyd sgwâr y Tŷ Mawr yn ganolbwynt i’r datblygiad i gysylltu gyda’r eglwys, yr ysgol, y neuadd bentref a’r berllan. Gan mai creadigaeth unigol oedd y datblygiad adeiladwyd y naw tŷ ar hugain mewn arddull frodorol i gwrdd â delwedd y pentref fel y tlws, y detholedig a’r delfrydol. Yr oedd pob uned i gydymffurfio ag arddull y cynllun cyffredinol ond eto nid oeddynt yn unffurf eu hadeiladwaith. Cysylltwyd gardd eang gyda phob tŷ a defnyddiwyd waliau isel a gwrychoedd trwchus i nodi’r terfynau. Yr oedd gosodiad gofalus y tai yn golygu na oredrychai un ar ddrws ffrynt y llall gan warantu eu preifatrwydd. Telid rhent o rhwng £4 a £6 y flwyddyn yn dibynnu ar faint y tŷ ac adroddid y byddai’r rigolion yn cynnig ‘a lettuce and the rent’ yn wylaidd wrth ymostwng i dalu’r dreth flynyddol. Nid oedd capel, tafarn na siop yn rhan o gynllun y pentref.

Ty Mawr
Y Tŷ Mawr a’r sgwâr

Rhydd cyfrifiad 1891 drawsdoriad o alwedigaethau’r bobl a oedd yn byw yn y pentref ar y pryd. Yr oedd y ganran uchaf yn weithwyr ar y stad yn blastrwyr, towyr, seiri coed a meini, gofaint, garddwyr a choedwigwyr. Ymddengys fod yr ail genhedlaeth yn dewis swyddi oddi allan i’r stad oherwydd yn eu plith ceir clercod banc, clercod cyfraith a llys sirol, asiant tir organydd, athro ysgol a nyrs gymunedol. Yno hefyd yr oedd meddyg, clerigwr, trafeiliwr nwyddau, gwneuthurwr hetiau a theilwriaid yn ogystal â rhai siopwyr. Yr oedd cyfran fechan iawn yn chwarelwyr ac roedd rhai ohonynt yn gweithio mewn mân swyddi gweinyddol yn y chwarel neu yn y porthladd fel pwyswyr llechi neu glercod.

llandega church 1726
Eglwys Llandygái yn 1726 – ysgythriad gan James Newton; Casgliad Tirlun Cymru drwy ganiatâd  Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.

Prin y gellir honni fod canolfan bentrefol wedi bodoli yn Llandygái cyn i’r pentref presennol gael ei adeiladu yn greadigaeth ddetholedig i’r Barwn. Dengys map Arolwg 1768 fod sgwâr Tŷ Mawr yn fan cyfarfod i sawl llwybr pwysig oedd yn cyrraedd o’r plasty sef y llwybrau o Gonwy dros Afon Ogwen; o Ddyffryn Ogwen; o Finffordd dros Afon Cegin ac o Fangor. Sefydlwyd yr eglwys yn gynnar yn y canol oesoedd a pherthyn corff yr adeilad i gyfnod y bedwaredd ganrif ar ddeg a’r gangell i’r unfed ganrif ar bymtheg. Mae rhannau eraill yn ganlyniad ail-lunio sylweddol yn 1853, eto ar orchymyn y Barwn, pan ehangwyd y corff ac adnewyddwyd y ffenestri ac ailadeiladwyd y tŵr yn ei gyfanrwydd. Yn ôl y traddodiad honnir i Tygái, y sant o Lydaw a gyrhaeddodd yn y chweched ganrif Oed Crist, sefydlu ei eglwys ar lain o dir a elwid yn Maes y Llan ar gwr y Meusyn Glasog ac, ymhen amser, i’r lleoliad hwn gael ei alw yn Tan y Fynwent. Yn Arolwg 1768 tyddyn bychan o wyth acer oedd Tanyfonwent ac roedd un o’r caeau yn dwyn yr enw Cae’r Ddeiol. Eto yn ôl traddodiad, dywedir mai colofn garreg Tygái oedd y ddeiol yn wreiddiol cyn iddi gael ei hail-lunio a’i symud i’r eglwys bresennol i bennu’r amser ar sail cylchdro’r haul. Yn ystod yr archwiliadau i archaeoleg y caeau i’r gorllewin o Landygái yn 1966/67 daethpwyd o hyd i safle pur ddadlennol. Yno, nepell o’r cae criced presennol darganfuwyd olion seintwar fechan o goed gyda bedd cysegr yng nghanol yr adeilad. Roedd y safle wedi ei amgylchynu gan fynwent yn cynnwys o leiaf bump deg saith o feddau. Mewn llawysgrif sy’n dyddio i 1575/6 cofnodir bod eglwys gynharaf Llandygái wedi ei sefydlu yn ‘Cae Meusyn Glasog’ a bod y lleoliad hyd at ddau saethiad bwa saeth o’r eglwys bresennol, ond ni nodwyd y cyfeiriad. Tybed ai hwn oedd safle gynharaf eglwys Tygái yn y chweched ganrif?

Cofnodwyd bod naw tŷ yn Llandygái yn 1811 ond mewn bras gynllun o’r pentref yn 1820 gan Telford dangosir safle’r eglwys, neuadd Talgai, y Tŷ Mawr a dau dŷ arall yn unig. Yn Arolwg 1768 enw un o gaeau y Tŷ Mawr oedd y ‘garden’ a hwn bid sicr oedd y llain tir a nodwyd fel y ‘berllan’ yng nghynllun pentref y Barwn. Ar gyfer ei defnydd fel ysgol i ferched yr adeiladwyd neuadd Talgai yn 1813, er mai clochydd yn yr eglwys, Thomas Thomas, biau’r clod am gynnal yr ysgol gyntaf yn Llandygái yn 1765. Ond mae sefydlu ysgol i ferched yn 1813 yn gam sylfaenol tra arbennig. Y sylfaenydd oedd Anne Susannah, gwraig Richard Pennant, arglwydd cyntaf y Penrhyn. Bu ef farw yn 1808 a thasg anodd ei wraig oedd sefydlogi sefyllfa ariannol fregus y stad yn dilyn dyledion enfawr ei gŵr. Mae’n amlwg fod Susannah yn wraig alluog a thra phenderfynol a hawliodd adeiladu yn ei hoes gyfres o safleoedd anghyffredin megis llaethdy, baddondy ac arsyllfan. Sefydlu ysgol i ferched oedd un o’i chreadigaethau mwyaf blaengar ac uchelgeisiol. Yn 1843 dan nawdd y Barwn y sefydlwyd ysgol i fechgyn yn Llandygái.

Mae pentref Llandygái yn cynrychioli rhai o agweddau gorau pendefigion y Penrhyn, o raslonrwydd ryddfrydig Anne Susannah i gymwynasgarwch ewyllysgar y Barwn. Yr oedd y pentref model hwn hefyd yn ddrych i ddatblygiad pentrefi ‘model’ mwy a gynlluniwyd yn ddiweddarach yn y ganrif gan rai o farwniaid diwydiant mwyaf dylanwadol Prydain megis teulu Cadbury yn Bournville a theulu Lever yn Port Sunlight. Trueni na chadwyd at gynllun y ‘model’ yn Llandygái drwy wrthod caniatâd i adeiladu tai nad oeddynt yn gymesur â phensaernïaeth ddewisol y tai gwreiddiol a thrwy hynny ddryllio peth ar gyfanrwydd y pentref delfrydol.

Ffynonellau

Judith Alfrey. 2001.  Rural Buiding in Nineteenth Century North Wales; the role of the great estates. Archaeologia Cambrensis, CXLVII (1998), 199-216.

Emyr Gwynne Jones. 1975. A Survey of the Ancient And Present State of the County of Caernarvon by William Williams (Pt 3). Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon. 36. 194- 231.

E H Douglas Pennant . 1998. The Penrhyn Estate  1760-1997: the Pennants and the Douglas Pennants. Trafodion Cymdeithas  Hanes Sir Gaernarfon. 59. 35-54.

Catrin Wager. 2014. Will Power. Gwreiddiau Gwynedd. 1 (66), 31.

Cyrch awyr Medi 1940

Dyma gyfraniad gan un o’n cyfranwyr gwadd sef Helen Hughes, Nant y Graean , Hendyrpeg,

Yn ystod cyrch awyr gan awyrennau’r Almaen oddeutu wyth o’r gloch y nos ar 24 Medi 1940, gollyngwyd bomiau yn ardal Dyffryn Ogwen. Mae’r pedwar adroddiad isod yn cofnodi’r digwyddiad.

  • Neges swyddogol gan Adran y Gwasanaeth Awyr ac Adran y Gwasanaeth Cartref a ddyfynnwyd yn y North Wales Chronicle, ddydd Gwener 17 Medi 1940: ‘In a village in North Wales some houses were damaged and a small number of people killed and injured, whilst fires and some damage to houses are also reported from other parts of the Principality. The casualties have been slight’.
  • Dyma sylwadau Wynne Roberts, Tanybwlch, wrth ddychwelyd o’r mynydd gyda’i frawd ar y noson honno: Yr oedd yn noson gymylog a gellid clywed sŵn awyrennau uwchben. Gollyngwyd taflegrau wnaeth oleuo’r awyr yn llachar yr holl ffordd o Foel Wnion at Chwarel y Penrhyn. Disgynnodd un taflegryn a niweidio relings haearn o flaen Rhif 70, Ffordd Carneddi. Hedfanodd un, os nad dwy awyren i gyfeiriad Deiniolen ac yna dychwelyd gan ollwng bomiau wrth hedfan i lawr y dyffryn.
  • Cofnododd J.O. Williams, peiriannydd gyda chwmni trydan y North Wales Power Company, adroddiad swyddogol i’w bennaeth yn Rhostyllen, Wrecsam. O dan y pennawd ‘Damage to System by Bombs’, mae’n ysgrifennu: ‘I happened to be returning home from Llanberis on this particular night, arriving at Bethesda just as the raid started. The mountains around were all lit up by flares which had been dropped. As I arrived at the house I heard the sound of planes approaching from the direction of the Penrhyn quarry and flying very low. These passed over in the direction of Llanllechid and Aber and in passing dropped a number of H E bombs which exploded about half a mile from my house. Two of these fell and exploded on the outskirts of Llanllechid where damage to houses was caused and where the fatalities occurred. These incendiaries were continually being dropped in the neighbourhood from other planes which were flying fairly high. A further series of explosions shook the district and all lights went out. This occurred about 9.15pm’.
  • Cofnodion Eglwys Crist Glanogwen, Medi 24 1940.‘Ymhen rhyw hanner awr wedi terfynu o’i cyfarfod hwn, talodd awyrennau yr Almaen ymweliad ar ardal a gollyngwyd ganddynt amryw o dan-belennau a phelennau ffrwydrol yn yr ardal. Disgynnodd un neu ddau belen mewn ychydig lathenni i ‘r eglwys ac un arall oddi fewn i ardal y tŷ Eglwysig heb wneuthur niwed i’r adeiladau. Lladdwyd un wraig o Lanllechid sef Mrs Davies, mam Richard Davies, Coetmor Mount yr hwn ydoedd aelod o Eglwys Glanogwen’.

Lladdwyd Mrs Ellen Davies yn ei chartref, Llwyn Derw, Rachub, pan drawyd y tŷ gan fom oddeutu 8.30 gyda’r nos. Yr oedd y teulu yn llechu yng nghornel y simnai ond sugnwyd Mrs Davies i fyny’r simnai a bu farw o’i hanafiadau. Achubwyd ei merch a’i ŵyr bychan wyth mlwydd oed a chymydog yn fyw o’r llanastr.  Drwy gyd-ddigwyddiad rhyfeddol, gŵr Mrs Davies oedd y milwr cyntaf o ardal Dyffryn Ogwen a laddwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf yng nghyrch gwaedlyd y Dardanells yn 1915. Bu farw yn yr ymosodiad ar Sulva Bay ar Fedi 26ain yn 33 oed. Yr oedd brwydr y Dardanells yn bur wahanol i’r amgylchiadau yn Llanllechid. Brwydr rhwng byddin a llynges Prydain a Ffrainc yn erbyn byddin Ymerodraeth yr Ottoman yn Nhwrci oedd hon. Y nod oedd ceisio ennill tiriogaeth strategol ar y culfor 60 milltir o hyd rhwng Môr y Canoldir a’r Môr Du a wahanai gyfandir Ewrop oddi wrth Asia. Ni fu’r cyrch yn llwyddiannus a lladdwyd hyd at hanner miliwn o filwyr mewn brwydr a ystyrir heddiw ymysg rhai o frwydrau mwyaf annoeth y Rhyfel Byd Cyntaf. Yn eironig iawn wedi hynny adnabyddid teulu Mrs Davies yn lleol fel teulu Dardanells. Ni ail-adeiladwyd Llwyn Derw yn Lôn Groes wedi’r drychineb yn 1940.

Ymddengys bod hyd at 16 o fomiau wedi disgyn yn  ardal Dyffryn Ogwen y noson honno a gellir eu gwahanu i ddau glwstwr. Lleolir y clwstwr cyntaf yn ardal y chwarel a’r ail yn ardal Rachub a Llanllechid. Y tebygolrwydd yw fod dwy awyren yn gyfrifol am y bomio. Yn gyffredinol yr oedd y difrod yn ysgafn ac eithrio yr alanastra yn Llwyn Celyn wrth gwrs. Gwnaethpwyd difrod ysgafn i fecws Britannia ac i gapel  Bethel ym mhentref Rachub ond disgyn heb niwed i gae yn Tyddyn Uchaf ac ar ffriddoedd Pant Hwfa, Corbri a Waun Bryn wnaeth y gweddill. Yn ardal y chwarel amharwyd ar y gwasanaeth trydan drwy i fom ffrwydro ar un o’r llinellau. Archwiliwyd y difrod ar y noson honno ond nid oedd modd trwsio’r cyflenwad tan y diwrnod canlynol gan fod awyrennau’r gelyn yn dal i hedfan dros yr ardal tan oddeutu tri o’r gloch y bore. Adnewyddwyd y cyflenwad erbyn canol dydd y diwrnod canlynol.

Bu llawer o drafod ai cyrch bwriadol oedd hwn ar Ddyffryn Ogwen ynteu ymosodiad ar ddamwain wrth i awyrennau’r Almaen ddychwelyd o fomio Lerpwl neu drefi cyfagos yng ngogledd Lloegr. Mae’n berthnasol cofio i’r cyrch ddigwydd yn gynnar yn y rhyfel pan oedd cynlluniau ymosodol yr Almaen wedi ystyried targedu Prydain drwy arfordiroedd gorllewin Cymru. Dywedir fod peilotiaid yr Almaen yn defnyddio Afon Menai fel nod i’w harwain ar hyd y glannau i Lerpwl. Ar y llaw arall yr oedd y cyrch ar Dyffryn Ogwen yn un hir a dwys gan ddefnyddio taflegrau llachar i oleuo’r ardal. Dywedir fod peilot un o’r awyrennau a holwyd wedi’r rhyfel wedi nodi mai bwriad y cyrch oedd dinistrio argae trydan dŵr a’u bod wedi camgymryd Dyffryn Ogwen am Ddyffryn Conwy lle’r oedd pwerdy Dolgarrog.

Hwn oedd yr unig gyrch a dargedodd Ddyffryn Ogwen er i  gyrch ddigwydd yn ardal Llanberis ym mis Gorffennaf 1941. Dro arall ym mis Hydref 1940 bu dwy awyren Spitfire yn ymlid awyren Dornier yr Almaen dros Nant Ffrancon ond heb greu dinistr i Fethesda y tro hwnnw. Serch hynny clywid y seiren rhybudd  yn canu yn aml ym Methesda wrth i awyrennau’r Almaen hedfan i ac o Lerpwl ac o gopa Moel Wnion gellid gweld y ddinas yn llosgi yn y pellter yn dilyn cyrch llwyddiannus gan y gelyn.

Cydnabyddiaeth – Dymunaf ddiolch i’r canlynol am wybodaeth a chydweithrediad parod wrth ysgrifennu’r cyfraniad hwn – Wynne Roberts, Clifford Owen, Dafydd Roberts, Dafydd Evans a Gilbert Bowen.

Ffynhonnell

  1. O. Williams, 1940. Damage to Systems by Bombs. Bangor Ms 40214. Casgliadau a Llawysgrifau Prifysgol Bangor.