Pendinas

Pendinas 2

Tŷ neilltuedig yw Pendinas heddiw wedi ei guddio y tu cefn i wal uchel ar ochr y lôn ac â thai diweddarach y tu cefn iddo. Yn wreiddiol safai yn dŷ ar ei ben ei hun ar Ffordd y Lord ym Mhenygroes, Tregarth ac yn 1746 pan gofnodir y tŷ gyntaf, yr oedd yn fwthyn unllawr. Adeiladwyd tŷ newydd dau lawr yn 1890 gan gyplysu’r hen uned wreiddiol fel math o ‘lean tw’ ar hyd y cefn. Adeiladwyd y tŷ o gerrig gyda gorchudd o lechi ar y muriau a tho o lechi safonol.

hugh derfelBu Pendinas yn gartref i ddau athrylith mawr sef Hugh Derfel Hughes (1816-1890), yr hanesydd y mae cymaint o gynnwys y wefan bresennol yn seiliedig ar ei waith, a Syr Ifor Williams (1881-1965) a gyfrannodd yn helaeth a thoreithiog at ysgolheictod Cymru ei gyfnod. Brodor o Landderfel yn Sir Feirionnydd oedd Hugh Derfel, yn fab i’r melinydd yno, ac wedi treulio rhai blynyddoedd yn was fferm symudodd i Ddyffryn Ogwen a chael gwaith fel pwyswr llechi yn chwarel y Penrhyn. Yn 1846 priododd â merch Pendinas ac ymsefydlu yn y tŷ. Ymddiddorodd yn gynnar iawn mewn hanesyddiaeth a’r gwyddorau naturiol a datblygodd ei ddoniau fel bardd. Er na chafodd addysg ffurfiol yn yr un o’r meysydd hyn, yr oedd yn ddigon hyderus i gyhoeddi cyfrol o farddoniaeth yn 1844, sef Blodau’r Gân, a threuliodd gyfnod o amser yn hyrwyddo gwerthiant ei gyfrol drwy rannau helaeth o Gymru. Yn hanesyddol ei gyfraniad pwysicaf oedd ei gyfrol Hynafiaethau Llandegai a Llanllechid. Ffrwyth cystadleuaeth yng nghyfarfod llenyddol Llandygái oedd y gwaith yn wreiddiol a galluogodd cyfraniadau gan noddwyr a charedigion iddo ei gyhoeddi yn gyfrol yn 1866. Mae’r llyfr yn gosod seiliau ar gyfer cofnodi hanes Dyffryn Ogwen mewn cyfnod pan oedd yr hen werthoedd traddodiadol yn cael eu ysgubo ymaith dan bwysau cyfnewidiadau economaidd, crefyddol a chymdeithasol na ellid eu gwrthsefyll. Mae’r llyfr hefyd yn ddrych i ddysg a diddordebau eang yr awdur yn rhychwantu hanes, achyddiaeth, daeareg, llysieueg ac arferion cefn gwlad. Mewn geiriau eraill mae’n drysor o lyfr ac yn ystorfa ddihysbydd o wybodaeth. Yr oedd Hugh Derfel hefyd yn fardd ac yn awdur awdl ar Chwarel Cae Braich y Cafn, ond fel emynydd y cofir amdano bennaf ac awdur yr emyn ‘Y gŵr a fu gynt dan hoelion’.

ifor williams
Syr Ifor Williams

Os mai hanesydd drwy brofiad oedd Hugh Derfel, academydd drwy ddysg prifysgol oedd ei ŵyr Syr Ifor. Astudiodd y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor ac yn 1921 olynodd Syr John Morris-Jones fel pennaeth Adran y Gymraeg yn y coleg. Arbenigodd ar ddehongli llenyddiaeth gynharaf y Gymraeg a datblygodd i fod yn bennaf awdurdod yn ei faes. Cydnabyddid ei ysgolheictod drwy Ewrop. Ei brif waith oedd golygu’r canu cynnar ac ymhlith ei gyfrolau ysgolheigaidd roedd Canu Llywarch Hen (1935), Canu Aneirin (1938), Armes Prydain (1955) a Canu Taliesin (1960). Yr oedd hefyd wedi cyhoeddi nifer o destunau Beirdd yr Uchelwyr gan gynnwys cerddi gan Iolo Goch, Guto’r Glyn a Dafydd ap Gwilym ymhlith eraill. Ond yr oedd hefyd yn sgwrsiwr radio ac yn ysgrifwr poblogaidd iawn a chasglwyd nifer o’r cyfraniadau hyn mewn llyfrau eithriadol ddiddorol. Yn eu mysg mae Meddwn i, I Ddifyrru’r Amser a’r gyfrol bwysig Enwau Lleoedd. Mewn rhyw ffordd mae’r cyfrolau meistrolgar hyn yn ategu ac yn cyfoethogi cyfraniad ei daid yn creu gwerthfawrogiad o fod yn perthyn i fro a chymdeithas bur arbennig.

Advertisements

Cororion

Yn ei lyfr Enwau Lleoedd eglura Syr Ifor Williams mai Creu-wryon fyddai’r ffurf wreiddiol ar enw Cororion. Eglura ymhellach mai ystyr creu oedd cut neu gwt mochyn  a’i fod yn hanfod amlwg mewn sawl enw yn chwedlau y Mabinogi. Cyfeiria ymhellach at chwedl Math Fab Mathonwy.  Yr oedd  Gwydion wedi twyllo Pryderi mab Pwyll Pendefig  Dyfed i ddwyn ei foch. Ar ei daith i ddiogelwch  Caer Dathl, caer Math Fab Mathonwy yng Ngwynedd, â byddin Dyfed ar ei warthaf, nodir cuddfannau creuau’r moch ac yn eu plith mae Creu-wryon.  A dyma felly y cyfeiriad cyntaf yn llenyddiaeth Cymru at safle yn Nyffryn Ogwen, a hynny megis ym ‘mabinogi’ ein llenyddiaeth gan fod Pedair Cainc y Mabinogi yn dyddio i oddeutu’r ddegfed ganrif. Dylid nodi yn ogystal fod Melville Richards yn Enwau Tir a Gwlad yn cygfeirio at ystyr arall yr enw ‘creu’ sef ‘amddiffynfa’ fel sydd yn yr enw lle Creuddyn.

Estynnwch ymlaen i gyfnod y Tywysogion yn y ddeuddegfed a’r drydedd ganrif ar ddeg ac y mae  Creu-wryon bellach yn rhan o Gwmwd Arllechwedd Uchaf. Dan drefn y Tywysogion rhannwyd y cwmwd yn nifer o drefgorau. Yn ardal Dyffryn Ogwen  bodolai  trefgordd Bodfeio i’r dwyrain o Afon Ogwen a threfgor  Creuwyrion i’r gorllewin o’r afon. Ymestynnai  trefgordd Creuwyrion o Draeth Lafan yn y gogledd  hyd at Ddyffryn Mymbyr  yn y de ac yr oedd wedi’i rannu yn nifer o is adrannau sef y gafaelion.  Fel gafael Arthergron yr adnabyddid Cororion.  Drwy drefn yr adrannau a’r is adrannau  hyn yr oedd Tywysogaeth Gwynedd yn cael ei gweinyddu. Byddai’r Tywysog, neu ei weinyddwyr, yn ymweld yn dymhorol i sefydlu’r llys er mwyn casglu’r dreth a’r gynhaliaeth faterol. Cydrannau’r llys oedd y neuadd frenhinol a’r adeiladau preswyl, ond yr oedd hefyd yn cynnwys y diriogaeth frenhinol a’i hamgylchynai. Dyma lle y trigai’r taeogion a hwy drwy eu llafur oedd cynheiliaid y drefn ffiwdal dywysogaidd. Gyda choncwest Cymru yn 1282 meddiannwyd y llysoedd a’r tiriogaethau brenhinol gan frenhiniaeth Lloegr a chollodd Cymru ei hunaniaeth. Aethpwyd ati’n fwriadol hefyd i ysgubo ymaith holl olion materol a ffisegol tywysogaethau’r wlad.  Nid oes olion o’r llys wedi’u darganfod yn Cororion, ond wedi dweud hynny ychydig iawn o sylw y mae’r safle wedi’i dderbyn hyd yma. Dynodwyd nifer o nodweddion archaeolegol yno, yn gytiau crynion a hirsgwar. Nid oes cynllun penodol ohonynt ac ystyrir fod nifer ohonynt yn perthyn i gyfnodau cynharach na Cororion y Tywysogion.  Erbyn y bymthegfed ganrif llithrodd Cororion i ddwylo Gwilym ap Gruffydd, perchennog blysiog stad y Penrhyn. Manteisiodd y gŵr hwn ar gyfle i ymestyn ei diriogaeth drwy brynu trefgordd Cororion wrth i’r drefn frodorol o rannu drwy etifeddiaeth gyfrannog ddirwyn i ben. Erbyn 1413 yr oedd yn derbyn rhent o £14.0.0 y flwyddyn o’i ddaliadaeth newydd.

Map Gafaelion Cororion
Map of the vile of Cororion  1352 (by Benjamin Wyatt). Rhan o gynllun Wyatt o Drefgor Creuwyrion yn nodi’r gafaelion yn ôl eu trefn yn y cynllun gwreiddiol nad oes sicrwydd ynghylch ei ddilysrwydd.  Drwy ganiatâd Archifau a Chasgliadau Prifysgol Bangor, Papurau a Mapiau Penrhyn PFA/6/2944. 

Drwy gamu’n fras drwy’r pum can mlynedd nesaf down i hanes Cororion ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg a chyfnod Richard Pennant yn sgweier stad y Penrhyn. I Pennant yr oedd sefydlu perchnogaeth hanesyddol trefgordd Cororion yn fater o fawr bwysigrwydd ac yn 1794 atgynhyrchodd Benjamin Wyatt, ei brif asiant, gopi gwreiddiol o fap y drefgor yr honnai fod yn ei feddiant. Ni welwyd y map gwreiddiol na chynt nac wedyn, ond mae’r copi yn ddogfen eithriadol ddiddorol oherwydd ei bod yn atgynhyrchu’n fras raniadau tiriogaethol y drefgor fel yr oedd yn y drydedd ganrif ar ddeg.  Cred rhai fod y map yn cadarnhau trefn ddaearyddol gywir gafaeliaid y drefgor, tra bo eraill yn amau’n gryf mai cynllwyn gweinyddol oedd y map i hawlio perchnogaeth gyflawn y Penrhyn ar ran helaethaf plwyf Llandygái. Dim ond Wyatt felly a welodd y map gwreiddiol ac felly gallwch chi farnu ai gwir ynteu gau oedd ei honiadau ynghylch ei ddilysrwydd.

I gadarnhau ei berchnogaeth ar stad y Penrhyn comisiynodd Richard Pennant arolwg manwl o diriogaeth ei etifeddiaeth yn 1768. Nid oedd amheuaeth am ddilysrwydd y mapiau sy’n rhan o’r arolwg a dengys y cyfanwaith fod  Cororion bellach wedi ei rannu yn dri thyddyn/fferm fechan.  Enwir caeau’r tair deiliadaeth ond nid oes yr un enw’n cyfeirio’n uniongyrchol at hynafiaeth y safle ac nid yw’r caeau yn adlewyrchu ffurfiau o gyfnod cynharach fel y gwelir mewn rhai unedau eraill yn y plwyf. Ac eto, wrth ail gynllunio ffiniau’r tair deiliadaeth tybed na ellir canfod ffurf wreiddiol gafael Arthergorn, sef Cororion, yn y drydedd ganrif ar ddeg, ac yn arbennig pe cynhwysid caeau Perthi Corniog yn yr adluniad.

Gafael Arthergron
Manylyn o Fap Arolwg y Penrhyn yn dangos ardal Trefgordd Creuwyrion yn 1768. Drwy ganiatâd Archifau a Casgliadau Arbennig, Prifysgol Bangor,  Archif Penrhyn Ychwanegol 2944. Noder tair fferm Cororion  gyda’r rhifau 21, 22, 23.

Canolbwynt Cororion wrth gwrs ydyw’r llyn, goroesiad rhyfeddol o gyfnod Oes yr Iâ nad oes gofod i’w drafod yn y cyfraniad presennol. Goroesiad oedd y llyn, o’r Wern Fawr, sef y gors eang a ymestynnai i’r  gogledd o Gororion. Yn y cyfnod cyn ei sychu gan Benjamin Wyatt ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, yr oedd yn adnodd pwysig gan wasanaethu oddeutu pymtheg o leiaf o fân ffermydd a thyddynnod cylch Tregarth. Perthynai cyfrannau arbennig o’r gors, o rhwng llai nag acer hyd at bedair eu maint, i bob daliadaeth yn ddibynnol ar faint ac agosrwydd y ddaliadaeth, ac mae’n amlwg mai defnydd tymhorol o’r gwanwyn ymlaen a fyddai i’r adnodd er porthiant i’r anifeiliaid. Bellach crebachodd y gors a dim ond ei gweddillion sy’n weladwy yn y caeau corsiog ar fin y briffordd rhwng Llys y Gwynt a Pherthi Corniog, ond erys rhamant Cororion  a’r llyn tra parheir i ddarllen chwedlau’r Mabinogi.

 

Ffynonellau

Ifor Williams. 1962. Enwau Lleoedd. Lerpwl.

Gwyn Thomas. 1984. Y Mabinogi. Cyngor Celfyddydau Cymru, Caerdydd.

  1. J. Ll. W. Williams; Lowri W Williams. 2014. Richard Pennant – sylfaenydd Stad y Penrhyn. Gwreiddiau Gwynedd, 1 (66), tt. 38-40.