Dyma nodyn ar y cyd ag Idris Lewis, Ffordd Bangor, Bethesda, a’i eiddo ef yw’r holl ddelweddau a atgynhyrchir isod.
Mae cyfnod cynnar y diwydiant llechi yng Ngwynedd ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn amser pan ddefnyddiwyd technegau peirianyddol eithriadol flaengar i weithio’r chwareli. Chwaraeodd Chwarel y Penrhyn ran allweddol mewn datblygu dyfeisiadau i symud, codi a halio llwythau trwm yn hwylus o fewn y gwaith, agwedd a oedd yn gwbl angenrheidiol i lwyddiant unrhyw chwarel gymhleth ei maint. Yn y cynlluniau cynnar o’r chwarel yn 1793 llwybrau sy’n ymddangos yn cysylltu’r gwahanol dyllau ond erbyn 1800 mae’n debyg fod o leiaf rhai gelltydd yn disgyn i’r tyllau ac yn gweithio ar egwyddor gwrth bwysedd gyda dwy olwyn ddŵr yn eu gyrru. Yn y gelltydd hyn yr oedd y llwyth trwm ar y llwybr ar i lawr yn tynnu’r llwyth ysgafn sef y wagenni gweigion ar y llwybr ar i fyny. Mae’n debyg fod y dyfeisgarwch hwn yn gwbl allweddol i gynlluniau Greenfield, rheolwr celfydd chwarel y Penrhyn, oherwydd dengys cynllun cynnar o’r chwarel yn 1822 fod trefniant y ponciau hyd wyneb y Fronllwyd wedi eu cysylltu â dwy allt anferth ar naill ochr y gwaith. Mewn cynllun o gyfnod diweddarach yn Chwarel Bryn Hafod y Wern defnyddiwyd inclein pwysau dŵr i godi rwbel i ben y tomennydd, ac yn y ddyfais hon pwysau tanc dŵr llawn ar y ffordd i lawr sy’n codi’r pwysau trwm ar y ffordd i fyny.
Ar waelod yr inclein llifai dŵr y tanc allan tra yn y pen uchaf yr oedd y tanc gwag yn cael ei ail lenwi ar gyfer gweithio’r daith nesaf ar i lawr. Yn chwarel y Penrhyn un o’r gelltydd yn unig a ddefnyddiai bwysau dŵr i’w gweithio, sef Gallt Goch, a gysylltai o uchder Twll Dwndwr i gyrraedd at lawr Red Lion islaw.
Yr egwyddor o bwysau dŵr a ddefnyddiwyd yn y tanciau dŵr enwog sydd yn Chwarel y Penrhyn a gynlluniwyd i gyrraedd at wahanol leoliadau yn y twll. Cynlluniwyd yr wyth tanc a oedd yn y chwarel gan gwmni peirianyddol enwog de Winton o Gaernarfon ac yr oeddynt yn weithredol o tua 1850 hyd at eu diddymiad yn 1965. Enwyd yr wyth tanc yn ôl y bonc yr oeddynt yn eu gwasanaethu, saith ohonynt sef Lady, Lord, Fitzroy, Sinc Bach, George, Douglas a Sebastopol yn cyrraedd hyd at brif lawr gweithredol y chwarel ym mhonc Red Lion, a’r tanc olaf Princess May yn cyrraedd hyd at un bonc islaw Red Lion. Adeiladwyd cronfa arbennig yn Llyn Owen y Ddôl ar un o flaen ffrydiau Afon Marchlyn yng Ngwaun Gynfi i gronni cyfaint digonol o ddŵr ac agorwyd ffos bwrpasol i’w bibellau fwydo’r tanciau yn y chwarel. Rhedai’r dŵr i lenwi’r brif gist ddŵr a oedd wedi ei lleoli uwchlaw’r tanc ac oddi yno byddid yn ei drosglwyddo i lenwi’r gist uwchlaw’r caets yn ôl gofyn y pwysau a oedd angen ei godi. Cistiau metel oedd ym mhob tanc ac eithrio tanc dŵr Douglas a wnaethpwyd yn gelfydd o glytiau llechi mawr wedi eu hatgyfnerthu â bariau haearn, ac efallai mai’r tanc hwn oedd y cyntaf o’i fath i’w adeiladu yn y chwarel. Perthynai dau gaets heb dalcenni yn y ddau ben i bob tanc, y ddau yn codi a gostwng drwy siafftiau cyfochrog wrth i bwysau dŵr uwchben y caets ar i lawr godi’r llwyth yn y caets llawn ar i fyny.
Cysylltid y ddau gaets â gwifren ddur a redai dan reolaeth olwyn ar ben y siafft a chyda pwysau dŵr yn y tanc llawn ar i lawr yr oedd modd codi o ddyfnder hyd at bum tunnell o bwysau ar i fyny. Ar waelod y siafft rhyddhawyd y dŵr o’r tanc i ymuno â’r prif draen a oedd yn cadw’r twll yn sych. Yr oedd yn brofiad rhyfeddol teithio yn y caets, er mai ychydig eiliadau a gymerai i ostwng neu godi o ddyfnderoedd y twll. Sŵn dwr byddarol y tanc yn llenwi uwchben y caets oedd y profiad cyntaf, cyn gostwng mewn tywyllwch dudew gyda’r caets yn cloncian yn uchel wrth daro ymylon y siafft. Yna sŵn byddarol y dŵr unwaith eto wrth iddo arllwys allan ar waelod y siafft. Ni chaniateid i bersonau deithio mewn caets gyda wagenni’n bresennol wedi i ddamwain angheuol ddigwydd yn 1900 pan laddwyd bachgen 16 oed wedi i wagen ddatgysylltu yn y caets a chreu’r ddamwain yn nhanc Lady. Yr oedd yn rhyfeddol pa mor effeithiol fu gwasanaeth y tanciau dŵr er, wrth gwrs, gallasai problemau ddigwydd os oedd pwysau’r dŵr yn annigonol i yrru’r llwyth ac i’r caetsys aros ar hanner ffordd. Cofnodwyd un ddamwain angheuol, serch hynny, yn 1923 pan dorrodd y wifren ddur yn nhanc Princess May a dymchwel y ddau gaets a’u cynnwys i waelod y siafftiau gan greu llanastr erchyll a lladd y gŵr a oedd yno i wasanaethu’r tanc.
Dyfais yn wreiddiol o’r meysydd glo oedd y tanc dŵr a’i fantais fawr oedd cyrraedd at ddyfnder isel mewn gofod fertigol cul yn hytrach nag mewn gallt ar lethr hir. Daeth cyfnod gweithio’r tanciau i ben yn 1965 pan aildrefnwyd y chwarel gan gwmni McAlpine, a bellach dim ond dau sy’n aros – tanc Princess May a thanc Sebastopol – fel enghreifftiau o beirianwaith unigryw a wasanaethodd Chwarel y Penrhyn yn ddi-feth am ganrif o amser, ond ysywaeth mae’r ddau erbyn heddiw yn segur.
Ffynonellau
David Gwyn. 2006. Gwynedd Inventing a Revolution. Chichester.
T Theo Roberts. 1999. Y Felin Fawr (Chwarel y Penrhyn) – ei hanes a’i rhamant. Dinbych.