Cerrig Milltir

thomas telford 2
Thomas Telford yn ŵr ifanc

Pan gynlluniodd Thomas Telford un o draffyrdd cyntaf Prydain rhwng Llundain a Chaergybi yr oedd yn ymwybodol iawn o roi delwedd neu stamp gweledol ac amlwg ar ei gampwaith, sef y brand cywir o ddefnyddio’r gair modern Saesneg. Golygai hyn fod gan y pontydd, y tolltai, y gatiau a hyd yn oed y cerrig milltir eu dyluniad arbennig. Wedi’r cyfan, y cerrig milltir oedd y nodweddion mwyaf aml eu dosbarthiad ar fin y ffordd a’r mwyaf gweledol i’r teithwyr wrth i’r cerbyd ruthro heibio iddynt. Rhoddodd Telford sylw manwl i’w dyluniad ac meddai: ‘I never saw a proper milestone that I could copy. I looked for three years all over England trying to find one as a pattern and after all I could not find one that looked like a decent milestone’.

milltir Telford
Carreg filltir Telford ar y ffordd bost ger Dôl Goch, Bethesda

Y garreg filltir ddelfrydol a gynlluniodd oedd maen yn mesur 2.1 medr (6 troedfedd 11 modfedd) o faint, o garreg calch caled o Benmon gyda dwy droedfedd o’r maen i’w plannu yn y ddaear fel y bo’r rhan uchaf yn sefyll yn gyfochrog â ffenestr y cerbyd. Yr oedd pen y maen i fod ar ffurf triongl, yr ochrau wedi eu befelu, a gwagle yn y canol i gynnwys plât o haearn bwrw i’w leoli yn union islaw’r triongl. Yr oedd y plât i gynnwys arysgrifen mewn llythrennau bras yn nodi’r pellter mewn milltiroedd ac wythfed ran o filltir o Gaergybi i’r dafarn gyfnewid agosaf yn y ddau gyfeiriad. Yn wreiddiol yr oedd y cerrig milltir i sefyll ar un ochr y ffordd ac roeddynt wedi’u gosod fesul pum milltir. Mae’n amlwg na chadwyd at y cynllun gwreiddiol gan fod dwy garreg o fewn milltir i’w gilydd ar gyrion deupen pentref Bethesda.

Y tafarnau cyfnewid pwysicaf o Gaergybi i’r Waun oedd Mona, Bangor, Capel Curig, Cernioge (Glasfryn), Corwen a Llangollen. Yn wreiddiol rhwng Caergybi a’r Waun yr oedd 83 carreg filltir ond bellach mae nifer fawr o’r rhain wedi diflannu neu gael eu hamharchu. Yn ffodus mae’r ddwy garreg sydd ym Methesda yn sefyll yn gyflawn ac yn eu lleoliadau gwreiddiol fwy neu lai. Dywed y garreg ger Rhos y Nant fod pellter Caergybi yn 31 milltir, Bangor yn 6 milltir a Chapel Curig yn 8.3 milltir; mae carreg Dôl Goch yn nodi Caergybi 30 milltir, Bangor 5 milltir a Chapel Curig 9.3 milltir. Cyfyd y wybodaeth gwestiwn felly ynghylch statws Tŷ’n y Maes fel canolfan gyfnewid i’r Goets Fawr. Ychydig o wybodaeth a gofnodir am ei phwysigrwydd ac ymddengys ei bod yn is-ganolfan. Tybed a fyddai pob cerbyd yn aros yno ynteu fan cyfnewid cyn dringo Nant Ffrancon yn unig ydoedd? Cwestiynau i’w hymchwilio gan haneswyr Dyffryn Ogwen y dyfodol gobeithio.

IMG_1916
Carreg filltir ar ganllaw Pont Coetmor, Bryn Bella, Bethesda

Mae un garreg filltir arall i’w gweld yn Nyffryn Ogwen ac mae’n un dra gwahanol ei gwedd i gerrig milltir addurnedig Telford. Yng nghil pont Coetmor ym Mryn Bella gosodwyd carreg filltir syml sy’n mesur ychydig yn llai na metr o uchder (tua thair troedfedd). Cofnodir y manylion ar lechen las gyda’r llythrennau wedi’u torri’n ddestlus i’r wyneb: Caernarvon 10 ml, Llanddeiniolen 5¼, Felin Hen 1¾, Bethesda 1ml. Mae’n annhebygol mai hwn oedd lleoliad gwreiddiol y garreg ac mae’n fwy tebygol o fod wedi’i lleoli ar fin y ffordd yn Hendyrpeg cyn i’r tollty yno gael ei chwalu. Mae’r manylion arni yn awgrymu cysylltiad â ffordd dyrpeg 1802/05 ond efallai ei bod o gyfnod diweddarach gan nad oedd Bethesda mewn bodolaeth cyn i ffordd bost Telford gael ei hagor yn 1820. Dyma benbleth ychwanegol ar gyfer haneswyr y dyfodol!

Ffynhonnell

Quartermaine, J., Trinder, B., Turner, R. 2003.  Thomas Telford’s Holyhead Road. CBA  Research Report 135. Council British Archaeology/CADW. York.

Advertisements

Carreg hogi y Beudy Newydd

OC2009-002_006b-arrowstone
Manylyn o’r maen hogi ger y Beudy Newydd yng Ngwauncwysmai. Llun drwy garedigrwydd a chaniatâd Roland Flook, Abergwyngregyn

Rai metrau i’r gogledd o’r llwybr sy’n arwain o Dyddyn Sabel i Wauncwysmai, a gerllaw’r Beudy Newydd, saif maen enfawr ac ar ei gopa mae nodwedd unigryw sy’n anodd iawn i’w esbonio. Ar wyneb y maen mae twll bychan crwn sy’n llai na deg centimetr mewn dyfnder ac oddeutu deg centimetr ar draws.  Nodwedd amlycaf y twll yw’r rhigolau main sydd wedi eu torri yn gyson ar draws y cylch o’r ymyl uchaf i’r gwaelod. Mae pob rhigol yn gafn unionsyth wedi’i lunio ag erfyn cul drwy broses o rwbio cyson. Mae dyfnder y twll yn cyfateb i faint yr erfyn sydd, o reidrwydd, yn fychan, megis cyllell fain a chul ei llafn neu, efallai ei bod yn ganlyniad hogi pennau saethau. Hwn yw’r esboniad clasurol er nad efallai yr esboniad cywir.

Mae’r maen hwn yn unigryw yn Nyffryn Ogwen. Cofnodir dau faen tebyg yn ardal y Ffridd Newydd yn Llanfairfechan ond nid ydynt mor gelfydd eu gwneuthuriad â’r enghraifft sydd dan sylw uchod. Ystyrir fod y cerrig hogi yn perthyn i gyfnod cynhanes ond nid oes unrhyw dystiolaeth i gadarnhau hynny. Pe byddid yn priodoli’r meini i gyfnod amhenodol mewn cynhanes yna mae digon o dystiolaeth i gadarnhau pwysigrwydd pennau saeth a’r bwâu pren i’w saethu. Mae pennau saethau o gallestr yn gelfi cyson mewn cofnodion archeolegol ers cyfnod y Mesolithig wyth mil o flynyddoedd yn ôl. Bellach, o dystiolaeth peintiadau mewn ogofâu o’r cyfnod Palaeolithig diweddar yn Ewrop mae lle i gredu fod digon o dystiolaeth i’w priodoli i gyfnod llawer cynharach mewn cynhanes. Daw’r dystiolaeth am y bwâu pren o gyfnod y Neolithig (4000/2500CC) mewn archwiliadau a gynhaliwyd ym mawnogydd ardal yr Ynys Wydrin (Glastonbury) yng Ngwlad yr Haf, lle darganfuwyd enghreifftiau o bren ywen sy’n amlwg yn arfau eithriadol o bwerus o ystyried eu maint o ddau fetr. Ceir tystiolaeth yn ogystal am frwydr o’r un cyfnod a ddigwyddodd mewn caer ar gyrion Caerloyw. Yno yn Crickley Hill dengys dosbarthiad y saethau callestr eu bod wedi’u hanelu yn bennaf i gyfeiriad y ddwy fynedfa i’r gaer.

Hela yn Sbaen 2
Delweddau o saethwyr â bwa a saeth ar waliau ogofâu

Tystiolaeth nid annhebyg o rym a geir mewn peintiad ar fur ogof yn ne Sbaen lle portreadir nifer o saethwyr yn sefyll mewn rhes ac yn dienyddio un truan sy’n penlinio yn ei gwman dan rym marwol y saethau. Mae’n go annhebygol fod y dystiolaeth uchod yn ddigon i egluro’r hyn a ddigwyddai ar y maen yng Ngwaun Cwys Mai ac mae’n anodd dirnad o safbwynt technolegol sut y gellid cysylltu miniogi saethau callestr â’r rhigolau sydd yn y twll.

Yn y canol oesoedd yr oedd saethyddion Cymru yn enwog am eu gallu i saethu mewn brwydrau, er bod y clod yn perthyn yn bennaf i saethyddion o Went a De Cymru yn ôl tystiolaeth Gerallt Gymro ddiwedd y ddeuddegfed ganrif. Cofnodir fod catrawd o saethyddion yn rhan o fyddin Edward I yn brwydro ar ran Lloegr yn erbyn yr Albanwyr yn y drydedd ganrif ar ddeg. Yn yr un modd yr oedd saethyddion yn rhan annatod o fyddinoedd Owain Glyndŵr mewn sgarmesoedd yn erbyn y Saeson, a chofnodir eu llwyddiant mewn brwydr i orchfygu castell yr Amwythig yn 1387. Canodd Iolo Goch (1320-1398) hefyd gywydd yn clodfori grym y bwa saeth. Pen haearn oedd i’r saethau hyn o’r canol oesoedd ac o safbwynt technolegol byddai’n haws egluro’r rhigolau fel canlyniad miniogi pen saethau o haearn yn hytrach nag o gallestr. Ond nid yw’r dystiolaeth hon er hynny, yn cadarnhau dyddio’r nodwedd unigryw sydd ar y maen yng Ngwaun Cwys Mai i’r canol oesoedd ychwaith. Y ffaith yw nad oes ateb i’r cwestiwn sut y datblygwyd y rhigolau nac ychwaith i ba berwyl y canolwyd yr holl broses o ddyfnhau’r rhigolau yn y safle hon yn Nyffryn Ogwen.

Bryn y Byrddau

Dyma erthygl arall gan un o’n cyfranwyr gwadd, sef Dafydd Fôn Williams. 

Llyn Meurig 1768 a
Rhan o Fap – Plans of the Penrhyn Estate in the Counties of Caernarvon and Denbigh belonging to Richard Pennant, Esq., surveyed by G. Leigh, 1768. Penrhyn Ychwanegol 2944 – drwy garedigrwydd a chaniatâd Archifau a Chasgliadau Arbennig, Prifysgol Bangor. Noder y canlynol – Tŷ Hen = 95, Bryn y Byrddau = 95D; Ddôl = 100, Tan y Castell = 100C; Bryn Llys = 94, Bryn Rhys Du = 94H.

Yn yr erthygl am Lyn Meurig ar y safwe hon yn Rhagfyr 2016, cyfeiria’r awduron at yr eglwys St Anne wreiddiol a leolwyd yn ymyl y llyn, ac a orchuddiwyd gan domen y chwarel ganol y bedwaredd ar bymtheg. Adeiladwyd yr eglwys St Anne bresennol yng Nghilgeraint, yn ddigon pell oddi wrth y domen, i gymryd ei lle.

Fodd bynnag, nid gyda’r eglwys, na’r llyn, na’r tai y mae a wnelo hyn o lith, ond yn yr hyn sydd gan Hugh Derfel i’w ddweud amdani, yn yr adran o’i lyfr Hynafiaethau Llanllechid a Llandygai ble mae’n nodi eglwysi’r ardal. Am yr eglwys noda:

‘Eglwys Bryn y Byrddau’  Safai mewn lle o’r enw, [ sef Bryn y Byrddau ] ar lan Llyn Meurig, lle yr adeiladwyd Sant Ann y tro cyntaf’

Yn ôl map Arolwg o diroedd y Penrhyn 1768, roedd cae o’r enw Bryn y Byrddau ger Llyn Meurig, ac, mewn rhai o brydlesau’r stad, nodir cae Bryn y Byrddau yn un o gaeau fferm Tŷ Hen. Mae’n amlwg fod eglwys wreiddiol St Anne yn sefyll ar y cae hwn. Dylid, hefyd, nodi yn y fan hyn fod fferm Bryn Llys yn yr un ardal. Mae’r ddwy fferm, cae Bryn y Byrddau, yr eglwys, a’r llyn o dan domen y chwarel ers dros 150 mlynedd.

Dydy Bryn y Byrddau ddim yn enw cyffredin. Yn wir, does na’r un enghraifft o’r enw mewn unrhyw le arall yng Nghymru. Ond mae’r enw yn ymddangos, ond heb nodi lleoliad manwl, mewn barddoniaeth o’r 14eg ganrif, ac, yn benodol, mewn barddoniaeth a ganwyd i deulu pwysig Tuduriaid Môn.

Yn ei farwnad i Tudur Fychan o Benmynydd, penteulu’r Tuduriaid, a fu farw yn 1367, mae Iolo Goch yn dweud

‘ Dwyn llew Bryn Byrddau dan llaw”

Dwyn arglwydd Bryn Byrddau o dan awdurdod ( angau )

 

Yn ei farwnad mae’n nodi nifer o lysoedd eraill oedd yn gysylltiedig â Thudur, ac â’r Tuduriaid, ynghyd â’u prif diroedd.

Bardd pwysig iawn, ychydig yn hŷn na Iolo Goch, oedd Gruffudd ab Maredudd ab Dafydd (bu farw c1382 ). Ef oedd yr olaf o’r Gogynfeirdd mawr, ( fe’i cymherir, o ran safon a phwysigrwydd gyda Chynddelw Brydydd Mawr ganrif a hanner o’i flaen) Canai’n bennaf, bron yn unig, i Duduriaid Penmynydd, ac mae yntau yn canu marwnad i Dudur Fychan, ble mae’n cyfeirio ato fel

‘ Treistwyn ior Bryn Byrddau’

Dwyn trwy drais arglwydd Bryn Byrddau

Bu i fab Tudur, Goronwy ap Tudur foddi yn 1382, a chanodd GMD awdl farwnad iddo. Mae’n tristau ar ôl

‘Rhi cywir llawhir llyw Bryn Byrddau’

Brenin ffyddlon, un hael [oedd] arglwydd Bryn Byrddau

Er mai ym Môn yr oedd  prif eiddo’r teulu sef ym Mhenmynydd, Trecastell, ac Erddreiniog, ac mai gyda Môn y’u cysylltir, yr oedd gan y teulu, oherwydd eu bod yn ddisgynyddion uniongyrchol  i Ednyfed Fychan, distain ( Prif weinidog ) Llywelyn Fawr, diroedd helaeth mewn mannau eraill o Gymru, gan gynnwys Ceredigion, ardal Abergele, ac Arfon. Yn ei farwnad i Dudur Fychan mae GMD yn cyfeirio at ‘ naf (arglwydd) Bryn Ffanygl ( ger Abergele ), ac yn nodi, oherwydd ei farwolaeth

‘gwae’r deheu’ a ‘ gwae dwy Wynedd ‘ ( sef Gwynedd Uwch Conwy, a Gwynedd Is Conwy = y Gogledd i gyd, fwy neu lai).

Mae a wnelom ni yma a thiroedd y teulu yn Arfon. Hwy oedd perchnogion y ddau Afael a roed i Ednyfed gan Lywelyn Fawr – Gafael Gronw ab Eden a Gafael Cennin. ‘Gafael’ oedd daliad o dir etifeddol dan y gyfundrefn lwythol Gymreig, yn amrywio o le i le o ran ei fesur ac ar wasgar yn aml mewn parseli o dir. Roedd yn rhan o’r gwely, sef holl diroedd y teulu estynedig. Roedd Gafael Cennin, rywle yng Nghororion, sy’n cyfateb i blwyf Llandygái heddiw, ond allwn ni mo’i leoli’n union, fel y gallwn leoli Gafael Gronw ab Eden; hwnnw oedd sail demesne y Penrhyn. Diddorol, o gofio’r enw mai fel Wyrion Eden yr adwaenir y Tuduriaid ( gyda ‘wyrion’ yn golygu ‘disgynyddion’, nid y ‘wyrion’ cyfoes.)

Mae’n amlwg, o’r marwnadau a nodwyd, fod Bryn Byrddau yn un o blastai’r teulu, ac yn blasty digon amlwg i gyfeirio ato fel un o’u prif lysoedd, ac yn blasty y byddai pawb a wrandawai ar y farwnad yn ei adnabod yn syth. Fodd bynnag, does neb heddiw yn gwybod ble’r oedd. Does dim cyfeiriad ym mhapurau’r teulu at enw sydd, a bod yn onest, yn un anghyffredin iawn. Does dim sôn amdano ym mhapurau tiroedd Môn na Cheredigion. Dim ond tiroedd Cororion sydd ar ôl felly. Fel y nodwyd, yr unig enghreifftiau o’r enw yng Nghymru yw’r lleoliad y sonia HD amdano. Ai yma, yng nghyffiniau Llyn Meurig, yr oedd tiroedd Gafael Cennin, ac ai dyma ble’r oedd plasty, neu lys, Bryn Byrddau y Tuduriaid?

Un arall o gaeau Tŷ Hen, gyda llaw, oedd Tan y Castell. Y fferm nesaf i Dŷ Hen, a’r fferm yr oedd Llyn Meurig ar ei thir, oedd fferm Brynllys – sy’n enw diddorol yn y cyswllt hwn. Mae enwau llefydd, megis ffermydd a chaeau, yn enwedig hen enwau sydd, yn aml, wedi aros yn ddigyfnewid ers canrifoedd, yn dystion cadarn iawn i hanes eu lleoliad. Dim ond i nodi un enghraifft. Yn nechrau’r 1990au fe gloddiodd Gwasanaeth Archeolegol Gwynedd yn Niwbwrch, Ynys Môn, i geisio cael hyd i un o lysoedd Llywelyn Fawr. Roeddynt yn gwybod fod ganddo lys wedi bod rywle yn yr ardal, ond doedd ganddynt ddim syniad ble. Ond roedd na gae y tu allan i’r pentref o’r enw Cae Llys, a dyma gloddio yno. Ac, wir i chi, dyna ble cafwyd hyd i ran o’r llys. Roedd enw’r cae yn cadw cof ardal am lys tywysog Cymreig a ddiflannodd o dan y tywod yn dilyn stormydd enfawr yng nghanol y 14G, yr un enw wedi cadw cof am fwy na chwe chanrif. Mae Bryn Llys, o dan y domen, yn cadw cof am rhyw lys, ac mae cae Bryn y Byrddau, sef yr unig enghraifft o enw un o lysoedd y Tuduriaid, yn agos iawn. Diddorol, hefyd, yw cofio fod Ciltreflys ar y llethrau gyferbyn ar draws yr Ogwan, ac mae ‘treflys’ yn enw ar fferm ganoloesol sydd â’i chynnyrch, a’i thrigolion, yn cynnal y llys. Fel arfer, mae’n weddol agos i’r llys. Efallai mai’r tŵr, yr enwyd fferm Tyn Tŵr ar ei ôl, oedd yn cael ei gynnal, ond byddwn yn amau hynny. Tŵr oedd hwnnw, sef lle roedd ychydig o filwyr yn cadw golwg, yn yr achos hwn, ar y bwlch i, ac o, Nant Ffrancon. Doedd o ddim yn gastell, nac yn llys, dim ond lle i gadw golwg. Yn 1469, fel ‘le tour de Abercaseg’ y cyfeirir ato, tŵr, nid castell, na llys, Fyddai dim angen treflys i gynnal y tŵr a’i lond llaw o wylwyr, a fyddai Bryn Llys ddim yn cael ei enwi ar ei ôl, ond fe fyddai’r ddau yn addas i’w henwi oherwydd un o lysoedd y Tuduriaid, neu eu cyndeidiau.

Fedrwn ni brofi dim, bellach, a dydy hyn o eiriau yn ddim ond damcaniaeth, ond mae’n hynod o ddiddorol, ac mae’r ddamcaniaeth wedi ei seilio ar gyfeiriadau hanesyddol pendant.

Ffynonellau

Melville Richards.   Brynbyrddau.     Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon 1962.

Hynafiaethau Llanllechid a Llandygai.   Hugh Derfel Hughes.  tud 72.

Arolwg o diroedd y Penrhyn 1768

Gweithredoedd Tir y Penrhyn

Iolo Goch ac Eraill.   Ifor Williams.

 

Wyrion Eden.   Glyn Roberts  yn Bulletin of the Board of Celtic Studies Cyf 15

Ciltwllan

Cyflwynwyd Cristionogaeth i Ddyffryn Ogwen yn gyntaf rhwng y 5ed a’r 7fed ganrif Oed Crist pan ddaeth nifer o genhadon o Ffrainc a Llydaw i sefydlu celloedd mynachaidd yng Ngwynedd, fel ag y gwnaethant mewn rhannau eraill o Gymru. Cofnododd William Williams yn ei lawysgrif am gyflwr Sir Gaernarfon yn 1808 mai brawd a chwaer, Sant Dygai a Santes Llechid, plant Ithel Hael o Lydaw, a sefydlodd y celloedd a ddatblygodd i fod yn briod eglwysi’r ddau blwyf yn Nyffryn Ogwen.

Mewn llawysgrif sy’n dyddio o 1575-6 cofnodir y sefydlwyd yr eglwys gynharaf Llandygái yn ‘Cae Meusyn Glasog’ a oedd hyd at ddau saethiad bwa o’r eglwys bresennol, ond heb nodi i ba gyfeiriad. Yn yr archwiliadau archeolegol a wnaed i’r gorllewin o bentref Llandygái yn 1966-7 darganfuwyd mynwent o fwy na 57 bedd wedi’u trefnu ar echel i’r gogledd o’r dwyrain i gyfateb â chodiad yr haul ar ŵyl y Pasg. Ychydig lathenni i’r de o’r fynwent yr oedd un bedd wedi’i amgáu mewn lloc arbennig. Yn arwyddocaol, mae’r holl safle yn cyfateb i nifer a archwiliwyd yng ngogledd Cymru sy’n dyddio i gyfnod y 5ed i’r 7fed ganrif. Yn yr enghraifft hon er hynny, ni cheir y dystiolaeth angenrheidiol i gysylltu adeilad y lloc neilltuedig â chell wreiddiol y mynach a roddodd ei enw i’r eglwys ym mhentref Llandygái. Mae’n anodd cadarnhau a oedd adeiladau arbennig yn ganolbwynt i addoli a chladdu Cristionogol yng Nghymru yn y Canol Oesoedd Cynnar, er bod tystiolaeth Llandygái yn awgrymu hynny.

Llandygai Eglwyd gynnar
Rhan o gynllun y fynwent a’r lloc gyda’r bedd canolog o’r Canol Oesoedd cynnar yn yr archwiliad archaeolegol yn Llandygái

Yn yr un modd mae tystiolaeth nid annhebyg yn awgrymu fod gan Eglwys Llanllechid hefyd ei safle cynharach. Mae ‘Capel Llechid’ ar dir Plas Uchaf mewn cae a enwir ‘Cae’r Betws’, er bod maint y cae hwn yn Arolwg Penrhyn 1768 yn 35 acer ac, i ychwanegu at y cymhlethdod, fod yno hefyd ddau gae arall sy’n dair acer yr un, a’r ddau yn dwyn yr enw Cae’r Betws Bach. Nodir fod y ‘capel’ wedi ei godi o gerrig o’r Gyrn a’u bod wedi’u hailddefnyddio i adeiladu nid yn unig yr eglwys gyntaf ond hefyd yr ail eglwys yn Llanllechid. Nodir ymhellach i’r cyplau o’r ‘capel’ gael eu defnyddio i adeiladu tŷ gwreiddiol Plas Uchaf a oedd erbyn 1866 meddir yn ysgubor i’r fferm.

Map Anne R Jones
Rhan o Fap Anne R. Jones o ardal Plas Uchaf

Cofnodir hefyd, mewn brawddeg hynod awgrymog gan Hugh Derfel, fod tywodfaen nadd ac esgyrn dynol hefyd wedi’u darganfod ar y safle. Cysylltiad pellach o ddiddordeb yw agosrwydd y safle at ‘Ffynnon Llechid’, lle’r oedd dŵr â rhinweddau iachusol ac, meddai Hugh Derfel mewn cyfeiriad coeglyd, y ‘byddai hen bobl Llanllechid yn arfer a galw am lymaid … pan dybient eu bod ar fin marw’, heb dderbyn efallai fod cysylltiad rhwng dŵr bywiol a’r Eglwys Fore a thraddodiadau paganaidd o gyfnodau llawer cynharach mewn cynhanes.

Nid y ddwy fam eglwys yw’r unig eglwysi cynnar yn Nyffryn Ogwen, oherwydd mae yma nifer o safleoedd eraill a gysylltir â sefydlu crefydd yn yr ardal. Mae o leiaf naw safle o’r math yn y ddau blwyf er mai mewn enw yn unig y mae hynny yn achos nifer ohonynt gan fod eu hadeiladau wedi eu chwalu. Nodweddir y safleoedd gan adeiladau hirsgwar oddeutu 14-16 medr (15-17 llath) eu hyd wrth 7-9 medr (8-10 llath) mewn lled, gyda muriau trwchus o gerrig bras sydd oddeutu hanner medr (2 droedfedd) mewn trwch. Mae safle Ciltwllan yn nodweddiadol ohonynt. Yno mae tri adeilad hirsgwar. Yn ôl traddodiad dynodir un yn safle’r eglwys, a’r trydydd, sydd oddeutu 30 llath i’r gogledd-orllewin o’r cyntaf yn dŷ’r offeiriad. Mae ffurf wreiddiol adeilad yr eglwys bellach yn annelwig, ond nodir ei safle gan lwyfan eang lle safai adeilad ar ffurf llythyren T gyda chôr yn ei ben deheuol.

Eglwys Llanerchyn)
Eglwys Llanerchyn

Mae tri adeilad hefyd ar safle eglwys Llanerchyn a leolir ar lan un o flaen-ffrydiau Afon y Llan i’r dwyrain o Chwarel Bryn Hafod y Wern (cyfeirnod grid Arolwg Ordnans SH 637690). Mae dau o’r adeiladau hyn yn gyflawn, adeiladau hirsgwar oddeutu 8 medr wrth 5.5 medr (9 wrth 6 llath) mewn maint. Mae’r trydydd, sef tŷ’r offeiriad, i’r de o’r afon yn fwy drylliedig ac wedi’i drosi yn gorlan. Mae safleoedd yr holl eglwysi cynnar ym mhlwyf Llandygái wedi’u dinistrio sef yr Hen Eglwys ger Ffynnon Bach ym Modfeurig; Eglwys Bryn y Byrddau, a safai ger Llyn Meurig ond a gladdwyd dan domennydd y chwarel; Eglwys Cororion, un o nifer o safleoedd ar lan y llyn; a Bryn Darlwyn a safai ychydig i’r gorllewin o safle Castell y Penrhyn. Mae dechreuad yr holl eglwysi hyn yn fater o gryn benbleth gan nad oes ffynonellau dogfennol na thystiolaeth archeolegol i gadarnhau eu cysylltiadau hanesyddol. Credir fod ganddynt gysylltiad ag offeiriadaeth cyfnod y Tywysogion yn y ddeuddegfed a’r drydedd ganrif ar ddeg. Ar ddiwedd y ddeuddegfed ganrif sefydlwyd Abaty Aberconwy gan fynaich Urdd y Sistersaidd o Ystrad Fflur a dderbyniodd siarter gan Lywelyn Fawr. Cyn i Edward I symud y fynachlog i Faenan yn 1283 ystyrir fod cylchdaith wedi’i sefydlu drwy ucheldir Eryri a bod llwybr yr offeiriaid yn tarddu o Aberconwy drwy Garth Celyn yn Abergwyngregyn, i Lanerchyn ac ymlaen i Giltwllan, hyd nes cyrraedd Eglwys Nant Ffrancon a arferai fod ar dir Tŷ Gwyn. Wedi croesi Afon Ogwen ger Bryn yr Hwyaid a chyrchu ymlaen ar y gwastad hyd at Bont y Beudy Llwyd mae’r llwybr yn rhannu, un yn arwain i’r Benglog ac ymlaen i Gapel Curig a’r llall yn dringo’n serth hyd at safle’r Hafod. Yno mae’r llwybr eto yn rhannu yn ddau, un yn dringo i gyfeiriad Bwlch y Cywion a’r llall i gyfeiriad Y Garn.  Mae’n deg nodi nad oes sicrwydd y defnyddid y llwybrau hyn yn y Canol Oesoedd cynnar, ond mewn mannau mae rhannau o’r llwybrau hyn wedi’u dynodi â cherrig mawr, ac mae hyn yn arbennig o wir yn yr ardal rhwng Pont y Beudy Llwyd a‘r Hafod.

Mae’n anodd gwybod pryd yn union y peidiodd y gymuned ag addoli yn yr eglwysi cynnar a thrwy hynny dorri’r cysylltiad â Thywysogion Gwynedd, Abaty Aberconwy a’r ffydd Gatholig, ond mae’n debyg mai’r goresgyniad a achosodd y rhwyg.  Erbyn yr unfed ganrif ar bymtheg yr oedd y ddwy fam eglwys, Llanllechid a Llandygái, yn rhan o drefn ffurfiol Eglwys Loegr a’u hymlyniad i frenhiniaeth y deyrnas ac nid oedd gofyn mwyach am wasanaeth Catholig yn eglwysi cynnar yr ucheldir.

Ffynonellau

Hugh Derfel Hughes. 1866. Hynafiaethau Llandegai a Llanllechid. Bethesda.

  1. Hughes, H. L. North. 1924. The Old Curches of Snowdonia. Bangor

Anne R Jones. Gorffennaf 2008. Llwybr yr Offeiriaid. Llais Ogwan. t. 27.

Frances Lynch, Chris Musson. 2004.  A Prehistoric and Early Medieval complex at Llandygai, near Bangor, North Wales. Archaeologia Cambrensis. 150 (2001). tt. 17-142.